Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwyn Herald Roberts, Berwyn Parry Jones, Elfed Powell Roberts ac Elin Hywel.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Stephen Churchman, gan ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd Bentref Garndolbenmaen sy’n derbyn grant o dan y Cynllun Grant Cymunedol. Nodwyd nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 182 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025, fel rhai cywir.

 

5.

CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN pdf eicon PDF 816 KB

I graffu trefniadau cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau tryfan fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Argymell i’r Adran Amgylchedd y dylid bod isafswm o ddau bwynt gwefru ym mhob safle.
  3. Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad gan gynnwys y Cynllun Busnes a gwybodaeth am y ddarpariaeth yn ardaloedd gwledig Gwynedd ymhen blwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd (Trafnidiaeth) a Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau.

Adroddwyd bod y maes hwn yn dod yn fwy amlwg ac yn ennill proffil uwch, gyda mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd, gan adlewyrchu’r targed ar gyfer 2030 i leihau ac yna atal cynhyrchu cerbydau petrol a disel. Nodwyd bod yr adran yn arwain ar ddarparu mannau gwefru cyhoeddus a oedd yn brosiect blaenoriaeth o dan yr  amcan Gwynedd Werdd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 , gan fod teimlad mewn rhai ardaloedd o Wynedd nad yw’r sector preifat yn diwallu’r angen fel mewn mannau eraill. Esboniwyd mai’r bwriad ydy llenwi’r bylchau lle nad oes darpariaeth gan sectorau eraill.

Tynnwyd sylw at natur ddeinamig y maes, gyda datblygiadau’n digwydd yn aml ac yn sydyn. Eglurwyd nad oedd yn glir ble y byddai’r dechnoleg yn mynd nesaf, ond yr uchelgais fyddai cael argaeledd darpariaeth a fyddai’n golygu bod yr amser gwefru cerbyd trydan yr un fath â’r amser i lenwi car petrol neu ddisel.

Nodwyd bod gwaith eisoes wedi’i wneud i osod y pwyntiau gwefru, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at wefan ‘Zapmap’, sy’n dangos nifer fawr o bwyntiau gwefru newydd yn ymddangos ledled y wlad. Nodwyd y byddai hyn yn dylanwadu ar rôl y Cyngor wrth symud ymlaen, gan y byddai’n gynyddol anodd cydlynu a chael trosolwg o’r lleoliadau.

Eglurwyd bod y peiriannau’n cael eu gosod bellach mewn mannau gwaith, siopau, datblygiadau eraill ac mewn meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ger canolfannau Byw’n Iach. Cadarnhawyd bod gwaith ar y gweill i gyflwyno mwy o bwyntiau gwefru chwim. Esboniwyd y byddai’r ffocws dros amser yn symud o argaeledd daearyddol tuag at faint o bwyntiau fydd ar gael, gan dybio y bydd y galw’n cynyddu’n gyson.

Nodwyd bod Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Trydan Gwynedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, gan gofio nad y mannau gwefru cyhoeddus yn unig sydd angen sylw, ond hefyd y cyfle i bobl allu gwefru gartref. Eglurwyd bod gwaith ar y gweill i archwilio sut i alluogi pobl i wefru ar y stryd, er bod hyn yn gymhleth oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch ac egwyddorion Deddf Priffyrdd.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi bod cynnydd da yn cael ei wneud tuag at greu rhwydwaith gwefru trydan a bod y safleoedd newydd a’r rhai arfaethedig yn cael eu croesawu, yn enwedig y pwyntiau gwefru chwim. Mynegwyd pryder bod gormod o ddibyniaeth ar beiriannau gwefru araf 7kW. Ymhelaethwyd eu bod yn addas ar gyfer gwefru dros nos ond nid ar gyfer gwefru cyflym mewn lleoliadau fel meysydd parcio.

Croesawyd yr opsiwn o ddefnyddio cerdyn banc er mwyn talu yn hytrach na cherdyn neu apiau ar gyfer cwmnïau penodol megis GRIDSERVE neu Tesla. Credwyd bod defnyddio cerdyn banc yn ffordd symlach a bod hyn bellach yn ofyniad deddfwriaethol. Tynnwyd sylw at fylchau yn y rhwydwaith, megis Aberdaron lle’r mae’r pwynt gwefru chwim agosaf dros 50 milltir i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TOILEDAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 139 KB

I ystyried adroddiad cynnydd ar Strategaeth Toiledau Lleol Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a Rheolwr Asedau Bwrdeistrefol.

Nodwyd bod gan Wynedd ar hyn o bryd 61 o doiledau cyhoeddus a 39 o doiledau mewn busnesau sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod rhan fawr o Wynedd yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac felly fod gan y Parc Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol doiledau cyhoeddus hefyd. Nodwyd felly bod nifer dda o gyfleusterau ar gael ar hyd a lled y sir.

Eglurwyd bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithrediad y Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ers 2019, ac yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau nesaf a’r camau sydd eisoes wedi’u cyflawni i wella delwedd y toiledau cyhoeddus a chyfarch disgwyliadau defnyddwyr, yn ogystal ag egluro pa ffynonellau ariannu sydd ar gael i wella’r ddarpariaeth, beth yw’r amserlen ddiweddaraf o ran cyflwyno technoleg talu di-gyffwrdd, a beth yw’r sefyllfa o ran incwm.

Nodwyd bod grantiau amrywiol wedi’u denu drwy amryw o ffyrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Pwysleisiwyd bod ymdrechion wedi parhau i gael mynediad at grantiau, gyda chais wedi’i gyflwyno ar gyfer y rownd nesaf o arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nodwyd bod cyllideb refeniw’r gwasanaeth yn gyfyngedig a’i bod wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd cyflwr yr adeiladau a fandaliaeth. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gyllideb wedi’i defnyddio i gynnal a chadw’r cyfleusterau presennol, gan adael ychydig iawn ar gyfer adnewyddu neu wella.

Cyfeiriwyd at gynllun grant gan Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid i fusnesau sy’n fodlon agor eu cyfleusterau i’r cyhoedd. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r busnesau sicrhau arwyddion priodol, a bod swyddogion yn monitro bod hynny’n digwydd. Cadarnhawyd nad oes unrhyw fusnesau ar y rhestr aros ar hyn o bryd, felly mae modd cynnwys busnesau newydd pe byddent yn ymddangos. Eglurwyd bod gwefan y Cyngor yn nodi’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a bod y rhestr honno ar gael i’r cyhoedd. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i adolygu’r trefniadau glanhau, ac er bod y safonau’n gyffredinol yn foddhaol, credwyd fod lle i wella.

Atgoffwyd bod pwysau ar y Cyngor rai blynyddoedd yn ôl i arbed arian drwy gau toiledau cyhoeddus, ond yn hytrach na gwneud hynny, sefydlwyd cynllun partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned. Nodwyd y bydd angen adolygu’r cyfraniad hwn eleni, gan nad oes chwyddiant wedi’i godi ar y cyfraniad ers cyflwyno’r cynllun.

Nodwyd bod pum toiled gyda threfn codi tâl am eu defnydd. Nodwyd bod bid i adnewyddu a gosod drysau talu modern wedi bod yn llwyddiannus, ond y bu llithriad yn y rhaglen waith. Disgwyliwyd y byddai’r ddarpariaeth newydd ar gael cyn bo hir, ond nid oedd modd adrodd ar ei heffeithiolrwydd eto.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Diolchwyd am y cyflwyniad. Cyfeiriwyd at brif amcanion y strategaeth wrth fynegi pryder ynghylch y diffyg dull clir o’u mesur, sydd yn hollbwysig. Er enghraifft, er bod yr amcanion yn sôn am annog  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TORRI GWAIR A CHYNNAL YMYLON FFYRDD SIROL pdf eicon PDF 224 KB

Dilyniant yn dilyn Craffu yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Bod y Pwyllgor yn cefnogi bwriad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC i ymestyn y treialon torri a chasglu i ardal Arfon.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol.

Eglurwyd bod dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ond bod dyletswydd foesol hefyd ar y Cyngor i weithredu yn gadarnhaol. Nodwyd bod gan y Cyngor gyfrifoldeb fel tirfeddiannwr sylweddol i osod esiampl a chryfhau gwytnwch ecosystemau’r ardal. Mynegwyd bod y gwaith a wnaed hyd yma yn gam cyntaf cadarnhaol ac yn gam ar y ffordd tuag at wireddu’r uchelgeisiau hyn.

Cadarnhawyd bod y ffigurau presennol yn yr adroddiad yn dangos sut y mae’r gwasanaeth wedi addasu’r trefniadau torri glaswellt, gan greu mwy o arwynebedd ar gyfer blodau gwyllt i dyfu ac annog pryfed peillio. Eglurwyd y gobaith yw, wedi cwblhau’r treialon, y gellir eithrio ardaloedd sylweddol o ymylon ffyrdd o’r contract presennol a’u cynnwys mewn trefniant newydd o dorri a chasglu glaswellt.

Fodd bynnag, nodwyd y bydd angen ystyried sawl ffactor cyn gweithredu hyn, gan gynnwys hyfywedd ariannol, gan fod y Cyngor dan bwysau ariannol sylweddol a methu fforddio cynyddu costau wrth weithredu trefniadau newydd. Nodwyd bod angen penderfynu pwy fydd yn cyflawni’r gwaith, ai gweithlu mewnol y Cyngor sydd â’r arbenigedd angenrheidiol, neu gontractwyr allanol.

Tynnwyd sylw at ymateb y cyhoedd i’r trefniadau newydd, gan gyfeirio at yr ymgyrch ‘Nature is not neat’ ac at y ffaith bod gan unigolion farn wahanol am daclusrwydd. Nodwyd yr angen i sicrhau nad yw’r newidiadau’n arwain at gwynion gan y cyhoedd.

Eglurwyd bod torri ymylon ffyrdd trefol hefyd yn rhan o’r gwaith, nid yn unig am resymau diogelwch ond hefyd i wella delwedd cymunedau. Yn y mannau hyn, caiff glaswellt ei dorri rhwng tair a phum gwaith y flwyddyn, a hynny’n is i’r ddaear. Nodwyd bod rhai cynghorau tref a chymuned yn talu’r Cyngor i dorri glaswellt yn amlach, ond bod eraill yn awyddus i neilltuo tir ar gyfer blodau gwyllt, gan gydweithio â’r Cyngor neu’n gofyn iddynt wneud y gwaith ar eu rhan.

Cyfeiriwyd at y treialon yn Nwyfor a’r gwaith yn Meirionnydd, lle derbyniwyd adroddiad gan ecolegydd lleol cyn dechrau’r gwaith gyda’r tîm yn gweithredu yn unol â’r adroddiad. Eglurwyd bod y profiad yn gyffredinol yn gadarnhaol, ond bod problemau wedi codi, megis pan dorrodd contractwr safle ar gam gan adael glaswellt ar wyneb y tir, neu pan fu i Dŵr Cymru dyrchu dros waith oedd eisoes wedi’i gwblhau cyn i arwyddion allu cael eu gosod. Nodwyd bod camau wedi'u cymryd i unioni’r sefyllfa ac y caiff gwersi eu dysgu.

Edrychwyd ymlaen at gamau nesaf y cynllun, gan gynnwys archwiliadau i safleoedd yn Arfon ac ehangu’r treialon y flwyddyn ganlynol, os bydd cyllid ar gael. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Tîm Bioamrywiaeth, gan obeithio derbyn cyllid i ychwanegu mwy o safleoedd.

Eglurwyd bod Gwasanaeth Cynnal Tiroedd wedi cychwyn cynnal treialon torri a chasglu eu hunain ar rai o’r tiroedd maent yn gyfrifol am eu cynnal, fel Cerrig yr Orsedd yng Nghaernarfon. Nodwyd bod grant gan Bartneriaeth Natur Gwynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.