Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS |
|
CYLLIDEB GwE 2024-2025 - Adolygiad hyd at ddiwedd Ionawr 2025 I ystyried
a derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
·
Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at
ddiwedd Ionawr 2025. ·
Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod o’r Bwrdd Trosiannol, bod adroddiad sefyllfa diwedd blwyddyn ynghyd â dadansoddiad llawn am wariant terfynol 2024/25 yn cael ei gyflwyno
i’r Cydbwyllgor yng nghyfarfod mis Mai. |
|
CYLLIDEB SYLFAENOL GwE 2025/2026 I ystyried
yr adroddiad a mabwysiadau’r gyllideb sylfaenol ar gyfer Ebrill – Mai 2025/26 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
a chymeradwyo’r adroddiad. ·
Adborth o gyfarfod yr Awdurdod Lletyol gyda Dirprwy
Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru i'w rannu gyda’r Cydbwyllgor. ·
Bod llythyr o gefnogaeth / datganiad
gwleidyddol gan y Cydbwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lletyol yn cefnogi eu pryderon o’r costau ychwanegol sydd i
ddirwyn GwE i ben oherwydd oediad gan y Llywodraeth o ran defnydd Grant Addysg
Awdurdod Lleol (GAALl) i gefnogi Dysgu Proffesiynol. |
|
PARHAD GWASANAETH 01/04/2025 i 31/05/2025 I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod 01/04/25 i 31/05/25. ·
Bod angen
eglurder ynglŷn â thaliadau costau ychwanegol tu hwnt
i Fai 2025. Ai'r Awdurdodau Lleol unigol neu Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd
y baich? |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys
gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid
oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw
fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn
disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. |
|
DISWYDDIADAU GWIRFODDOL I ystyried yr adroddiad (copi i Aelodau yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad. ·
Cymeradwyo’r argymhellion
ar gyfer gwrthod / caniatáu ceisiadau unigol. ·
Cymeradwyo
cyfarch cost y diswyddiadau
gwirfoddol o’r arian sydd wedi ei gronni. |