Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)         Datganodd yr aelod canlynol ei fod â buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Cai Larsen  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0772/20/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd ADRA

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

b)         Datganodd yr aelod canlynol ei bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Anwen Davies  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C23/0793/40/DT) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried..

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26ain Chwefror 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

 

6.

Cais Rhif C23/0995/15/LL Glyn Rhonwy Store, Siemens Healthcare Diagnostics Product Ltd, Glyn Rhonwy Estate, Llanberis, LL55 4EL pdf eicon PDF 199 KB

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

1.               Amser

2.               Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed

4.               Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u hamlygir yn y CEMP / cynllun atal  llygredd

5.               Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

6.               Caniateir defnyddio’r adeilad at ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig

7.               Amodau Dŵr Cymru

8.               Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

9.               Amodau CNC

10.    Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau:

1.  Dŵr Cymru

2.  Uned Draenio Tir

3.  CNC

 

Cofnod:

Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i’r Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol a Chynllun Atal Llygredd a gyflwynwyd

 

·         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi adeilad newydd er mwyn darparu gofod swyddfa a chantîn (Dosbarth Defnydd B1) i wasanaethu safle busnes Siemens yn Llanberis ynghyd â datblygiadau cysylltiedig; byddai'r datblygiad yn cynnwys codi adeilad tri llawr ar dir glas llethrog i’r gogledd o adeiladau presennol y cwmni. Ategwyd bod yr angen am y cyfleuster newydd wedi codi yn sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill sydd ar y safle yn ymwneud ar angen am ragor o ofod ar gyfer gweithgynhyrchu. Byddai’r adnewyddu yn golygu colled o ofod gwasanaethol megis swyddfeydd a chantîn sydd bellach wedi eu gosod mewn  adeiladau dros dro. Nodwyd na fyddai’r bwriad yn golygu cynyddu dwysedd defnydd y safle ond yn hytrach ymgais ydyw i ddarparu cyfleusterau cefnogol priodol i wasanaethu’r busnes presennol.

 

Adroddwyd, yn unol ag anghenion y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) bod y datblygiad yn cael ei ddiffinio feldatblygiad mawroherwydd maint yr arwynebedd llawr a fwriedir ei ddarparu. Yn unol â’r drefn briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais. Mae’r adroddiad yn dangos fod y datblygwyr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan y CDLl, ond yn rhan o safle mawr sydd eisoes mewn defnydd ar gyfer diwydiant. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 1 y CDLl sy’n annog gwrthod datblygiadau tu allan i’r ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau cynllunio lleol neu genedlaethol eraill neu fod y cynnig yn dangos bod lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Yn yr achos yma, o ystyried mai ymestyn y busnes presennol sydd eisoes ar y safle yw’r bwriad, ystyriwyd ei fod yn gwbl ddisgwyliedig i’r cyfleuster gael ei ddarparu ar y safle ac felly bod cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad o'r fath yn y lleoliad hwn.

 

Yng nghyd-destun materion Isadeiledd a Chynaliadwyedd amlygwyd bod Dwr Cymru wedi cadarnhau bydd capasiti digonol yr y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad erbyn diwedd Mawrth 2025 ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Nodwyd hefyd bod angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli dŵr wyneb ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 100m2 o arwynebedd llawr a darparu cais i’r Corff Cymeradwy SDS i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Coed ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth ynghyd ag Asesiad Effaith Ecolegol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C23/0772/20/LL Tir ger Y Wern, Y Felinheli, LL56 4TZ pdf eicon PDF 244 KB

Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd cysylltiedig 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Iwan Huws a’r Cynghorydd Sasha Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais yn sgil asesiad pellach o’r angen am gyfraniad addysgol ac i Gytundeb 106 priodol os oes angen. Bydd caniatâd yn ddarostyngedig i’r amodau isod :

 

  1. Dechrau o fewn 5 mlynedd
  2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
  3. Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy
  4. Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to
  5. Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir
  6. Amod Dŵr Cymru
  7. Amodau Priffyrdd
  8. Amodau Bioamrywiaeth

- amod rhag-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo manylion mewn   perthynas â blychau adar ac ystlumod.

- amod cyn-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Cynllun Sefydlu a Chynnal a Chadw 5 Mlynedd fel y'i dogfennir yn y Datganiad Seilwaith Gwyrdd

  1. Amodau coed
  2. Rhaid paratoi Datganiad Dull Coedyddiaeth
  3. Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u hamlygir yn y CEMP
  4. Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.
  5. Amod i sicrhau y codir ffensys i amddiffyn y cynefin ger y nant
  6. Amod i sicrhau y darperir lle chwarae gyda chyfarpar
  7. Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig
  8. Amod draenio tir - yn unol gyda’r manylion a dderbyniwyd neu yn unol gyda chynllun sydd i’w gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gyda’r ACLl.

 

Nodyn – Dŵr Cymru, Uned Draenio Tir, Uned Trafnidiaeth, Gwasanaeth Tân a Cyfoeth Naturiol  Cymru

 

Cofnod:

 

Residential development and associated infrastructure works

 

Attention was drawn to the late observations form regarding educational Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr ynglŷn â chyfraniad addysgol, sylwadau pellach oddi wrth y Cyngor Cymuned yn datgan pryder ynghylch llifogydd, draenio a pharcio,  materion bioamrywiaeth ynghyd ag ymateb asiant yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd am ddatblygiad anheddol gyda gwaith isadeiledd cysylltiedig ar ddarn o dir sydd tu allan, ond yn union gerllaw, ffin ddatblygu Pentref Arfordirol / Gwledig y Felinheli fel y’i diffinnir yn y CDLl. Y cynnig yn cynnwys :

·         23 annedd fforddiadwy

·         Gwaith tirweddu gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd newydd

·         0.14 ha o dir agored cyhoeddus ynghyd a man chwarae penodol

·         Mynedfa gerbydol newydd i’r de o stad y Wern trwy fan parcio anffurfiol presennol (fydd y mannau parcio presennol yn cael eu hadleoli)

·         Creu ffordd stad newydd i gwrdd â gofynion mynediad cerbydau gwasanaethol

·         Mesurau draenio fydd yn golygu creu dau bwll cadw dŵr wyneb ac arallgyfeirio’r garthffos gyhoeddus bresennol.

 

Eglurwyd bod safle’r cais yn rhannol ar dir llwyd ger y stad dai presennol, yn rhannol ar safle coediog sydd wedi gordyfu gyda’r gweddill ar dir amaethyddol. Saif yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb Gofrestredig Gwersyll Dinas (CN 047) a  rhan fechan o’r safle o fewn Parth Llifogydd B fel y’i diffinnir gan y mapiau sy’n cyd-fynd â Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl o Lifogydd”.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, cyfeiriwyd at Polisi TAI16 sy’n galluogi datblygu tai ar safleoedd sydd y tu allan, ond yn ffinio â ffiniau datblygu ond bod rhaid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio yn effeithiol â gofyniad y Polisi. Fel eithriad i’r polisïau tai arferol, gallai cynigion ar gyfer datblygiadau o 100% tai fforddiadwy fod yn addas ar safle o’r math hwn sy’n ffinio’n uniongyrchol gyda ffin ddatblygu. Nodai’r polisi bod rhaid i’r safle ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle; yma fe nodwyd bod safle’r cais yn llenwi bwlch o fewn patrwm datblygu’r pentref gyda datblygiad presennol yn amgylchynu tair ochr. Ategwyd bod Polisi TAI16 hefyd yn gofyn dangos na ellir cyfarch yr angen cydnabyddedig o fewn amserlen resymol ar safle marchnad y tu mewn i’r ffin datblygu sy’n cynnwys gofyniad am dai fforddiadwy. Adroddwyd nad oedd unrhyw safleoedd tai wedi eu clustnodi o fewn ffin datblygu’r Felinheli ac wrth ystyried cyfyngiadau ffisegol y tir o fewn ffiniau’r pentref o safbwynt materion megis serthedd a pherygl llifogydd, ni ystyriwyd bod tebygrwydd i safle addas ar gyfer datblygiad o’r maint hwn fod ar gael o fewn y pentref mewn amser rhesymol.

 

Nodwyd hefyd bod yn rhaid i gynigion ar safle o’r fath fod ar gyfer datblygiad ar raddfa fach sy’n gymesur â maint yr anheddle oni bai y gellid dangos yn glir bod angen amlwg am safle mwy.  Noder fod 1,177  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0793/40/DT Ty'n Llwyn, Llannor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5UG pdf eicon PDF 177 KB

Newidiadau allannol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf,  edrychiad a deunyddiau allannol.. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod.

 

1.     Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac, felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio.

 

Cofnod:

Newidiadau allanol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau allanol

 

a)      Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniadau i deulawr. Eglurwyd bod y Cyngor wedi rhoi hawl am estyniadau unllawr a rhannol ddeulawr o dan gyfeirnod C08D/0205/40/LL yn 2008 gyda rhan o'r estyniadau ar lefel unllawr wedi eu codi yn rhannol, a bod y cais yma yn golygu newid y cynllun a ganiatawyd yn 2008. Ategwyd bod yr estyniadau wedi eu lleoli ar edrychiad blaen, ochr a chefn y ac o ddyluniad modern ac yn sylweddol fwy na'r adeilad presennol.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir yn y CDLl. Yr eiddo presennol yn dŷ deulawr traddodiadol wedi ei orffen gyda chwipiad cerrig gyda’r eiddo preswyl agosaf oddeutu 120m i ffwrdd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Cyfeiriwyd at Bolisi PCYFF3 sy’n datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf. Roed yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod y bwriad, oherwydd ei faint, swmp, dyluniad a gorffeniad yn creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad agored a chael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal oherwydd na fyddai yn gweddu gyda chymeriad ac edrychiad y tŷ presennol a thai ardal cefn gwlad.  O ganlyniad, ni fyddai’r bwriad yn cyfarfod meini prawf 1, 2 a 3 o bolisi PCYFF3 o fewn y CDLl sy'n sicrhau fod cynigion yn ychwanegu at ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a'r adeilad o ran gosodiad, ymddangosiad, graddfa, uchder, mas a thriniaeth edrychiadau; yn parchu cyd-destun y safle a'i le yn y dirwedd leol; ac yn defnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r hyn sydd o'u hamgylch, na gofynion Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sy'n cefnogi cynigion o ddyluniad o safon uchel.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau yng nghyd-destun priffyrdd, mynediad ac iaith ac roedd yr Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr arolwg ystlumod a dderbyniwyd ynghyd a chynlluniau yn cynnig gwelliannau bioamrywiaeth yn dderbyniol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail ei faint, swmp, dyluniad a gorffeniad a fyddai’n creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal. Ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol ac argymhellwyd ei wrthod.

 

b)      Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol;

·         Bod y cais yn un ar gyfer estyniadau a newid deunyddiau i gais a gafodd ei gymeradwyo yn 2008 o dan cyf:C08D/0205/40/LL

·         Bod y cais gwreiddiol yn un i greu estyniad llawr gydag arwynebedd o 242m2, ag estyniad llawr cyntaf o 60m2 i’r tŷ presennol yn Tŷ’n Llwyn.

·         Bod gwaith adeiladu wedi dechrau rhai blynyddoedd yn ôl ac wedi peidio stop ers rhai blynyddoedd bellach, ond cyn ailddechrau mae’r ymgeisydd eisiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C23/0806/0O/LL Gerddi'r Draphont, Stryd Yr Eglwys, Abermaw, LL42 1EL pdf eicon PDF 375 KB

Gwaith arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw i: 

1.    Atgyweirio, cryfhau a chodi uchder oddeutu 60m o hyd o wal fôr, 

2.    Adeiladu wal eilaidd gyda giât lifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i'r wal fôr gynradd (rhwng yr A496 a'r wal fôr gynradd),

3.    Gosod system ddraenio newydd er mwyn rheoli dwr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i'r wal eilaidd a'r giatiau llifogydd, 

4.    Mewnosod offer gwydnwch rhag llifogydd, 'Property Flood Resilience', ar eiddo yn ardal y cei. 

5.    Mewnosod pibell arllwys dwr wyneb newydd yn y wal fôr. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol          

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Yn unol â'r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd.
  3. Amodau Gwarchod y Cyhoedd – amseroedd
  4. Cyflwyno a chytuno CEMP
  5. Cyflwyno a chytuno manylion tirweddu meddal a caled.
  6. Gweithredu’r manylion tirweddu.
  7. Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus sy'n croesi'r safle.
  8. Cynllun i amddiffyn cyflwr strwythurol a mynediad parhaus yr asedau dŵr gwastraff cyhoeddus sy'n croesi'r safle.
  9. Oriau gwaith cyfnod adeiladu.
  10. Oriau stancio dalennau.
  11. Gweithredu mesurau lliniaru lefelau sŵn.
  12. Gosod rhwystrau sŵn.
  13. Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheoli Sŵn ar gyfer y cyfnod adeiladu.
  14. Amodau archeolegol.

 

Nodyn:- 

SuDS, Cyngor CNC, Network Rail, Gwarchod y Cyhoedd a Dŵr Cymru i’r datblygwr

 

Cofnod:

Gwaith arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar gyfer gwella’r mecanweithiau amddiffyn rhag llifogydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys:-

·         Atgyweirio, cryfhau a chodi uchder tua 60m o wal môr;

·         Codi wal eilaidd gyda giatiau llifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i’r brif wal fôr;

·         Gosod rhwydwaith draenio newydd er mwyn rheoli dŵr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i’r wal eilaidd a’r giatiau llifogydd;

·         Gosod pibell allfa ddŵr wyneb newydd sy'n ymwthio o’r wal môr i’r harbwr;

·         Gosod offer gwydnwch rhag llifogydd mewn eiddo yn ardal y cei.

 

Adroddwyd y byddai wal fôr yn cael ei ail adeiladu a’i wynebu gyda charreg o’r wal bresennol

gyda rhan wal parapet oddeutu 1.2 medr uwchlaw lefel y llawr cyfagos.  Byddai’r ‘rock armour’ presennol yn cael ei ail ddosbarthu ar ran uchaf y traeth, ar draws ffrynt y wal fôr a’i atgyfnerthu gyda cherrig ychwanegol fel y galw.  Byddai wal wrth gefn newydd yn cael ei chodi ar ffin ogleddol Gerddi’r Draphont a fyddai’n cynnwys gwydr ar y rhan uchaf.  Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys cynllun i reoli dŵr wyneb gyda gatiau llifogydd, gwterydd, draeniau ac amrywiaeth o addasiadau i’r system bresennol ynghyd ag allfa dŵr wyneb newydd ar y traeth. Ar ddiwedd y gwaith byddai’r man cyhoeddus yn Gerddi’r Draphont yn cael ei adfer drwy waith tirweddu a gosod dodrefn stryd newydd.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli  yn rhannol oddi fewn i ffin ddatblygu Abermaw.  O ganlyniad a heb opsiwn arall o ran lleoliad neillog ar gyfer darparu’r gwaith, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o ran Polisi PCYFF 1 CDLl.  Cyfeiriwyd at polisi AMG 4, sy’n cyfeirio at Warchod yr Arfordir ac yn gofyn i gynigion ddangos bod budd economaidd a chymdeithasol gorbwysol yn dod o’r datblygiad. Nodwyd hefyd y dylai cynigion sicrhau nad oes niwed annerbyniol i ansawdd dŵr, mynediad cyhoeddus, yr amgylchedd adeiledig, cymeriad y tirlun neu'r morlun ac effeithiau bioamrywiaeth.

 

Cyflwynwyd nifer o adroddiadau technegol gyda’r cais oedd yn cynnwys tystiolaeth arwyddocaol oedd yn cyfiawnhau'r gwaith dan sylw.

 

Yn y Cynllun Rheoli Traethlin mae’r polisi ar gyfer y rhan yma o Abermaw, sy’n cynnwys rhan o’r harbwr a’r ffordd fynediad, ynghyd ag amddiffynfeydd glan y môr yn nodi ‘Cadw’r Llinell’. Datgan y Cynllun Rheoli Traethlin “y byddai angen cynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr a chynnal amddiffynfeydd y ffordd a’r rheilffordd ac, yn ôl pob tebyg, atgyfnerthu mwy ar amddiffynfa Ynys y Brawd. Caiff hyn ei ystyried yn gynaliadwy ac mae’n cynnal defnydd pwysig yr harbwr a mynediad i’r dref.”  O ganlyniad, ystyriwyd bod yr egwyddor o gynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr, y ffordd a’r rheilffordd yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail polisi ARNA 1 (fodd bynnag, bydd rhaid i'r cynllun gydymffurfio â nifer o bolisïau eraill sy'n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd).

 

Yng nghyd-destun dyluniad a mwynderau, ystyriwyd, fel y gwelir gyda nifer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.