Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Penodi
Cadeirydd ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Richard
Medwyn Hughes yn Gadeirydd am 2023/24. Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd dau enw am y gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beth Lawton a’r
Cynghorydd R.Medwyn Hughes. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd R.Medwyn
Hughes yn Gadeirydd am 2023/24. Darllenodd a
llofnododd y Cynghorydd R.Medwyn Hughes ddatganiad yn
derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2023/24 ym mhresenoldeb y Prif
Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Beca
Roberts yn Is-gadeirydd am 2023/24. Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beth Lawton a’r
Cynghorydd Beca Roberts. PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Beca Roberts yn Is-gadeirydd am 2023/24. Darllenodd y
Cynghorydd Beca Roberts ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2023/24 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J.Davies,
Dafydd Owen Davies, Annwen Hughes, Louise Hughes, Kim Jones ac Eirwyn Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn,
fuddiant personol yn eitem 11 – Uwch-gyflogau, ar ran yr aelodau hynny sy’n
derbyn uwch-gyflogau ar hyn o bryd. Nid
oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd yr aelodau
hynny'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r canlynol:- ·
Y
Cynghorydd Glyn Daniels a’r teulu ar golli wyres
fechan yn ddiweddar; ·
Y
Cynghorydd Alan Jones-Evans a’r teulu
ar farwolaeth ei dad; ·
Teulu Alison Evans, aelod o Dîm
Caffael y Cyngor. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel
arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd bod nifer o staff y
Cyngor wedi ymddeol yn ystod y misoedd diwethaf, a dymunwyd ymddeoliad hir a hapus i bawb ohonynt. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Menna Trenholme ar ei phriodas yn ddiweddar. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn
Y Cynghorydd Beca Roberts “Yn 2019 mi wnaethom ni
fel Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd a Natur gan dderbyn
bod newid eithafol yn yr hinsawdd yn effeithio yn negyddol ar ein cymunedau ni,
a ledled y byd. Mae’r risgiau newid yn yr hinsawdd yn rai go-iawn i nifer
o drigolion Gwynedd - o lifogydd
i dirlithriadau, ac eithafion tywydd cynnes ac oer – mae’r gost o anwybyddu'r
argyfwng hinsawdd yn cynyddu. Ers i ni
gychwyn ein gwaith i leihau
allyriadau carbon gyda Chynllun Rheoli Carbon Cyngor Gwynedd faint o garbon mae’r Cyngor wedi arbed, a
allwch chi ymhelaethu ar
faint o arian mae’r newidiadau yma wedi arbed i’r
Cyngor?” Ateb Arweinydd y Cyngor,
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn “Dyma un o’r pynciau
pwysicaf y gallwn ni fel Cyngor ei wynebu ac mi wnâi ddarllen yr ateb
ysgrifenedig yn gyflawn gan ein bod yn credu bod hwn yn fater mor bwysig. Mae’n wir ein bod fel
Cyngor wedi ymrwymo i leihau effaith ein gweithgareddau ar ein hamgylchfyd
ymhell cyn i ni ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Natur yn 2019. Yn ôl yn 2010, bu i ni fabwysiadu Cynllun
Rheoli Carbon er mwyn rheoli a lleihau ein hôl troed carbon. Ers ei gyflwyno, rydym wedi arbed 103,757
tunnell o garbon o’r allyriadau sy’n cael eu creu drwy ddefnydd ynni ein
hadeiladau (ysgolion, canolfannau hamdden, cartrefi preswyl, llyfrgelloedd,
swyddfeydd a mwy), ein goleuadau stryd, ein fflyd a defnydd o geir, a’n
gwastraff. Ar ôl degawd o weithredu
a llwyddo yn y maes cadwraeth ynni, roedd ôl troed carbon blynyddol ein
gweithgareddau uniongyrchol 43% yn llai na’r oedd cyn i ni gychwyn ar y siwrne
yma. Ers 2010, rydym wedi gweithio’n ddiflino i geisio
manteisio ar unrhyw gyfle posib i fod yn lleihau ein hôl troed carbon, gan
gynnwys buddsoddi £7.4M mewn cynlluniau megis 613kWp o baneli solar ar 55 o’n
safleoedd er mwyn creu trydan ein hunain, uwchraddio goleuadau a lampau i’r
dechnoleg fwyaf cyfredol, ynysu ein hadeiladau er mwyn cadw’r gwres, gorchuddio
pyllau nofio dros nos, a llawer iawn mwy. Mae’r tîm ynni ymroddgar yma hefyd yn
edrych ar batrymau defnydd ynni ein hadeiladau yn gyson er mwyn adnabod
gwastraff ac i sicrhau effeithlonrwydd ac yn defnyddio meddalwedd sy’n eu
galluogi i reoli defnydd ynni ein hamrywiol adeiladau ar hyd a lled y sir o
swyddfa’r tîm yng Nghaernarfon. Yn wir, mae Tîm Ynni
Cyngor Gwynedd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol o’u gwaith gan iddynt
ennill gwobr ‘Tîm Rheolaeth Ynni y Sector Gyhoeddus’ yng ngwobrau Energy Managers Association Prydain yn 2020. Mae’r holl waith yn y
maes yma wedi arwain at gyfanswm arbediad ariannol o £14.75M i’r Cyngor ers
2010. Hoffwn hefyd dynnu sylw at y budd ariannol syfrdanol yr ydym yn elwa ohono erbyn heddiw, oherwydd ein llwyddiant dros y degawd diwethaf. Pe byddem wedi parhau i ddefnyddio'r un faint o ynni ag yr oeddem yn ei ddefnyddio yn 2010, byddai ein biliau ynni wedi bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN LLESIANT BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MON 2023-28 Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a
Môn 2023-28. Cofnod: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd a Môn 2023-28, ac ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
a Môn ymhellach ar y cynnwys. Diolchodd yr
Arweinydd i’r Rheolwr Rhaglen am ei holl waith yn paratoi’r cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- Nodwyd bod pryder wedi’i leisio eisoes yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ynglŷn
â’r syniad bod y Gymraeg yn llinyn euraidd sy’n rhedeg drwy’r holl gynllun, yn
hytrach nag yn amcan clir mewn bocs, a gofynnwyd am sicrwydd bod y swyddogion
wedi gweithredu ar yr adborth hwnnw cyn cyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd:- ·
Ei bod yn fater o farn a ydi rhoi’r Gymraeg mewn
bocs yn cryfhau neu wanhau’r Gymraeg. ·
Bod
y Gymraeg yn rhan annatod o bob maes y mae’r Bwrdd yn ymwneud ag o, ac nad oes
angen rhoi’r Gymraeg mewn bocs. Credai
ei fod yn gryfach felly, a gallai roi sicrwydd na fyddai yna newid safbwynt o
gwbl o ran y Gymraeg. ·
Bod yr holl bartneriaid wedi cyfrannu’n ariannol at
brosiectau, dan arweiniad Cadeirydd y Bwrdd, Aled Jones-Griffith, yn ymwneud
â’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sefydliadau i gyd yn eu derbynfeydd, a
chredai fod yna ragor o arian i ddod i brosiectau yn y dyfodol ynglŷn â’r
Gymraeg. Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen fod yr un sylw wedi codi wrth drafod gyda’r
grwpiau eraill, a’i bod yn gobeithio fod y cynllun presennol yn dipyn gwahanol
i’r drafft gwreiddiol, yn sgil cryfhau’r agwedd yn ymwneud â’r iaith. Holwyd beth fyddai’r sefyllfa yn sgil newid mewn arweinyddiaeth yn y
dyfodol, heb bolisïau a gwarchodaeth i’r iaith. Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd nad mater iddo ef yn bersonol oedd y
Gymraeg a bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd fel sefydliad. Gan hynny, byddai pwy bynnag fyddai’n
cynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd yn y dyfodol yn gosod safbwynt y Cyngor o ran y
Gymraeg yn hollol glir. Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen:- ·
Bod cylch gorchwyl y Bwrdd yn datgan yn glir bod
gwaith y Bwrdd yn Gymraeg. ·
Y credai fod y prosiectau mwyaf effeithiol y mae’r
Bwrdd wedi ymgymryd â hwy yn ymwneud â’r Gymraeg, lle mae’r partneriaid i gyd
wedi ymrwymo iddynt. ·
Bod
yna brosiect newydd ar y gweill i edrych ar anawsterau penodi i swyddi lle
mae’r Gymraeg yn angenrheidiol o fewn y gwahanol sefydliadau. Gan gyfeirio at baragraff 2.9 o’r blaen-adroddiad, nodwyd bod y
gweithrediadau penodol i’r Gymraeg yn amlwg yn Amcan Llesiant 2, lle mae sôn am
drosglwyddo’r iaith, ond y dymunid cael enghreifftiau yn Amcan Llesiant 1 ac
Amcan Llesiant 3, lle nad oes amlygiad i’r iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen:- ·
Y cytunai ei fod yn fwy clir yn Amcan Llesiant 2,
ond ei fod yn treiddio drwy’r cynllun. · O ran Amcan Llesiant 3, bod mwy o waith i’w wneud dros yr Haf, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
* Grŵp Llafur/Democratiaid
Rhyddfrydol
Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Annibynnol Pwyllgor
Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn cyflwyno’r
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y
Cyngor. Nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol y dymunai sicrhau fod y dyraniad
yn cael ei gyfrifo’n gywir a bod cadeiryddiaethau dau bwyllgor craffu yn mynd
i’r Grŵp Annibynnol fel y dylent. PENDERFYNWYD 1.
Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac
is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2023/24 fel a nodir
isod, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a nodir. DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
* Grŵp Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol 2.
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth
wneud penodiadau i’r grwpiau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. 3.
Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu
ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn: Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Annibynnol Pwyllgor
Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r uwch-gyflogau isod ar gyfer 2023/24: ·
Arweinydd ·
Dirprwy Arweinydd
·
Hyd at 8 aelod
arall o’r Cabinet ·
Arweinydd yr
Wrthblaid fwyaf * ·
Cadeiryddion Pwyllgorau: o Pwyllgorau Craffu (x3) o Pwyllgor Cynllunio o Pwyllgor Trwyddedu (mae’r pwyllgor Trwyddedu Canolog a Chyffredinol yn cael ei drin
fel un pwyllgor) o Pwyllgor Pensiynau §
Pennaeth dinesig
(Cadeirydd y Cyngor) §
Dirprwy Bennaeth
dinesig (Is-gadeirydd y
Cyngor) Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn gwahodd y
Cyngor i fabwysiadu uwch gyflogau ar gyfer 2023/24. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r uwch-gyflogau isod ar gyfer 2023/24: ·
Arweinydd ·
Dirprwy Arweinydd
·
Hyd at 8 aelod
arall o’r Cabinet ·
Arweinydd yr
Wrthblaid fwyaf * ·
Cadeiryddion Pwyllgorau: o Pwyllgorau Craffu (x3) o Pwyllgor Cynllunio o Pwyllgor Trwyddedu (mae’r pwyllgor Trwyddedu Canolog a Chyffredinol yn cael ei drin
fel un pwyllgor) o Pwyllgor Pensiynau §
Pennaeth dinesig
(Cadeirydd y Cyngor) §
Dirprwy Bennaeth
dinesig (Is-gadeirydd y
Cyngor) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer
2023/24. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y
Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd
y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth ac ni all benodi
aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth am 2023/24. Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth ar gyfer 2023/24. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth am 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2022/23 Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r adroddiad er gwybodaeth. Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng
nghyswllt cefnogaeth i aelodau.
Diolchodd y Pennaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth,
y Cynghorydd Dewi Owen ac aelodau’r pwyllgor, a hefyd i’w ragflaenydd, Geraint
Owen, a’r swyddogion o fewn y gwasanaeth sy’n rhoi’r gefnogaeth o ddydd i
ddydd. Diolchodd
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth i’r swyddogion, gan nodi ei fod
yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Pennaeth a’r Rheolwr Gwasanaethau
Democratiaeth ac Iaith dros y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd mai un o’r prif faterion sy’n wynebu’r pwyllgor yw diogelwch
aelodau, ac y byddai o fudd petai yna rif ffôn ar gael i aelodau adrodd unrhyw
bryderon ynglŷn â hynny. Diolchwyd i’r
Adran am y wybodaeth glir ac amserol i aelodau newydd yn dilyn Etholiadau 2022. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r adroddiad er gwybodaeth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH OEDOLION GWYNEDD Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i gymeradwyo Asesiad Anghenion Poblogaeth Oedolion Gwynedd a
mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w hymgorffori yng Nghynllun y
Cyngor. Diolchodd yr Aelod
Cabinet i’r Rheolwr Comisiynu, Contractau a Phrosiectau a’r Tîm am eu gwaith
sylweddol yn paratoi’r ddogfen. Nododd Cadeirydd
2022/23 y Pwyllgor Craffu Gofal, y Cynghorydd Eryl Jones Williams, y dymunai
ddiolch yn bersonol i’r Aelod Cabinet am ei waith yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Nododd, yn sgil cau ward
cleifion mewnol Ysbyty Tywyn, bod Adran Henoed Gwynedd wedi dod o hyd i le i
bron bawb o’r cleifion yn lleol mewn cartrefi gofal yn Nhywyn, yn hytrach na’u
bod wedi gorfod mynd i Ysbyty Dolgellau, a diolchodd i’r Aelod Cabinet a’r
staff am eu gwaith caled. Diolchodd yr Aelod
Cabinet am y gefnogaeth, ond gan nodi mai i staff yr Adran yr oedd y diolch am
y gwaith. PENDERFYNWYD 1.
Cymeradwyo Asesiad Anghenion Poblogaeth Oedolion
Gwynedd. 2.
Mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w
hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig
fel a ganlyn:- Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro gweithrediad y
ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn effeithiol o fewn ein
hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi roi ystyriaeth i’r
modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg ymhob ysgol
uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r ysgolion ynddynt. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er
mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro gweithrediad y
ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn effeithiol o fewn ein
hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi roi ystyriaeth i’r
modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg ymhob ysgol
uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r ysgolion ynddynt. Cofnod: (A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Rhys Tudur o dan Adran
4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Er mwyn i'r Cyngor arloesi yn y ffordd y bydd yn monitro
gweithrediad y ddarpariaeth addysg Gymraeg a'r cynnydd yn fanwl ac yn
effeithiol o fewn ein hysgolion, gofynnir i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
roi ystyriaeth i’r modd priodol o gasglu data a monitro'r ddarpariaeth cyfrwng
Gymraeg ymhob ysgol uwchradd yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau y mae’r
ysgolion ynddynt.
·
Nad
hwn oedd y cynnig gwreiddiol roedd wedi dymuno ei roi gerbron y Cyngor, a bod
ei gynnig wedi’i newid drwy awgrym y Swyddog Monitro. ·
Bod
ei gynnig gwreiddiol yn gofyn i’r Cyngor llawn gasglu data a monitro’r
ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn erbyn gwaelodlinau’r categorïau
cenedlaethol, ac er ei fod yn derbyn yr arweiniad, ei bod yn siom a syndod iddo
nad oes modd i aelod gyflwyno cynnig yn galw ar y Cyngor i gasglu data. ·
Nad
oedd y cynnig yn mynd yn syth at y nod fel roedd wedi gobeithio, ond yn hytrach
yn cropian yn araf bach at y nod drwy alw ar y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi bellach i edrych ar ddull o gasglu data. Ni ddylem fod yn cropian at y nod hefo’r Gymraeg, ond yn hytrach yn llamu ac yn arloesi. ·
Mai
arwyddocâd y cynnig yn ei hanfod oedd y dylid mesur y ddarpariaeth addysg
cyfrwng Cymraeg yn unol â’r categoreiddio cenedlaethol. ·
Gan
fod gan ysgolion cyfrwng Cymraeg waelodlin yn nodi bod 60% o’r plant yn gwneud
70% o’u haddysg drwy’r Gymraeg, tybid mai cam pwysig fyddai mesur faint o blant
sy’n gwneud 70% o’u haddysg drwy’r Gymraeg, ac ym mha fodd mae’r ysgolion yn
ffitio i waelodlinau’r categori. Heb y
wybodaeth honno, nid oedd yn hysbys sut roedd yr ysgolion yn ffitio i’w
categori a sut roeddent yn gwella. ·
Mai
llinyn mesur y Cyngor ar hyn o bryd o ran darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg
oedd y mesurydd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) o ran faint o
blant sy’n gwneud 5 pwnc TGAU neu ragor drwy’r Gymraeg. ·
Bod
y Cyngor, nid yn unig wedi methu yn yr amcan o gynyddu’r nifer sy’n gwneud 5
pwnc neu ragor drwy’r Gymraeg, ond hefyd wedi llithro dros y blynyddoedd, felly
roedd y CSGA wedi methu o ran yr agwedd honno. ·
Y
gobeithid y byddwn yn casglu data yn drylwyr o hyn allan er mwyn cyrraedd ein
hamcanion ac arloesi o blaid y Gymraeg. ·
Bod
y canllawiau cenedlaethol mewn grym ers Medi 2022 a byddai’n drueni o beth
petai Cyngor Gwynedd o bawb yn ymwrthod â mesur yn unol â’r categoreiddio yma. ·
Ei
fod yn galw ar ei gyd-aelodau i gefnogi’r cynnig gan y byddai’n ein grymuso â
gwybodaeth, a dyna’r cam pwysicaf ar gyfer symud y Cyngor ymlaen ar y continiwm iaith. Mewn ymateb i
sylwadau’r cynigydd, nododd yr Aelod Cabinet Addysg:- · Ei bod yn derbyn y pwynt yn llwyr ynglŷn â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Walker Jones Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig
fel a ganlyn:- Mae gan Gymru uchelgais glodwiw
i fod yn Genedl Noddfa Cymru gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi gweithredu’n unol âr uchelgais hon drwy gynnig
lloches i ffoaduriaid ar draws y byd. Serch uchelgais Cymru, mae Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno
Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu hawliau ffoaduriaid a cheiswyr
lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd ynysoedd Prydain i geisio lloches yn
drosedd. Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn
egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951, a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, rydw i'n galw ar y Cyngor yma i gadarnhau ei uchelgais o fod yn
cynorthwyo ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae gan Gymru uchelgais glodwiw i fod yn Genedl Noddfa Cymru
gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi
gweithredu’n unol â’r uchelgais hon drwy gynnig lloches i ffoaduriaid ar draws
y byd. Serch uchelgais Cymru, mae
Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu
hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd
ynysoedd Prydain i geisio lloches yn drosedd.
Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951,
a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, mae’r Cyngor yma yn cadarnhau ei uchelgais o fod yn cynorthwyo
ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma. Cofnod: (A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones
o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae gan Gymru uchelgais glodwiw i fod yn Genedl Noddfa Cymru
gyntaf y Byd. Mae Gwynedd wedi
gweithredu’n unol â’r uchelgais hon drwy gynnig lloches i ffoaduriaid ar draws
y byd. Serch uchelgais Cymru, mae
Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno Deddf Mudo Anghyfreithlon sydd yn peryglu
hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn troi’r weithred o gyrraedd
ynysoedd Prydain i geisio lloches yn drosedd.
Mae hyn yn gwrthdaro yn erbyn egwyddorion Confensiwn Ffoaduriaid 1951,
a’n huchelgais ni yng Nghymru. Wrth
ystyried yr ofn y gall negeseuon anghroesawgar Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
achosi, mae’r Cyngor yma yn cadarnhau ei uchelgais o fod yn cynorthwyo
ffoaduriaid, er mwyn lliniaru ychydig o'r ofn yma. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:- ·
Ein
bod, yn 2023, yn dal i fyw mewn byd creulon, yn llawn anghyfiawnder a thrais, a
hynny er bod Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn galw am ryddid,
cyfiawnder a heddwch yn y byd. ·
Bod
Erthygl 14 yn datgan fod gan bawb yr hawl i geisio ac i gael noddfa rhag
erledigaeth mewn gwledydd eraill. ·
Er hynny, bod y Deyrnas Gyfunol wedi cyflwyno polisïau dros
y blynyddoedd i’w gwneud yn llai deniadol i geiswyr lloches ddod i Brydain, gan
gynnwys rhwystrau ar allu gweithio a cheisio budd-daliadau, a dal ceiswyr
lloches mewn canolfannau cadw lle nad oes ganddynt statws nag unrhyw syniad
pryd y bydd eu cais yn cael ei brosesu. ·
Bod
storïau unigolion yn dangos fod hyn yn achosi straen,
iselder a gorbryder a hyd yn oed broblemau iechyd
corfforol a meddyliol, gan gofio fod y ceiswyr lloches yn bobl fregus yn barod. ·
Y bydd y Bil Mudo
Anghyfreithlon yn gwneud pethau’n waeth i’r bobl fregus yma, ond ni fydd y
ddeddfwriaeth newydd yn rhwystro ffoaduriaid rhag ffoi, na cheisio lloches, na
dod i Brydain, a bydd y niferoedd yn dal i gynyddu. ·
Bod
pobl yn ceisio lloches yn y DG oherwydd bod pobl yn siarad Saesneg, neu efallai
fod ganddynt deulu neu ffrindiau yma eisoes. ·
Bod
y ddeddfwriaeth newydd yn sôn am anfon pobl yn ôl i’w mamwlad, ond roedd hyd yn
oed Llywodraeth San Steffan yn cydnabod na ellir anfon ceiswyr lloches yn ôl
i’w gwlad yn aml, gan nad ydi hi’n ddiogel iddynt ddychwelyd. ·
Bod
y ddeddfwriaeth yn sôn am anfon pobl na all fynd yn ôl i’w mamwlad i Rwanda,
ond nid yw’r drefn wedi cychwyn eto, a beth am gapasiti
Rwanda i dderbyn y ceiswyr lloches? ·
Os
na all ceiswyr lloches ddychwelyd adref, na mynd i Rwanda, byddent yn cael eu
cadw mewn canolfannau cadw yn y Deyrnas Gyfunol (sydd eisoes yn orlawn), heb
statws, heb obaith o gael prosesu eu cais am loches, heb le saff i’w alw’n
gartref, heb le digonol i fyw na chysgu, heb ofal iechyd digonol, a hynny am
gyfnod amhenodol. · Bod gennym ni yng Nghymru uchelgais o fod yn genedl noddfa, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Cyflwyno,
er gwybodaeth - Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y
Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr, 2022
ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd. Mynegodd y
Cadeirydd ei siomedigaeth a’i anfodlonrwydd ynglŷn â diffyg ymateb gan
Drafnidiaeth Cymru i’r rhybudd o gynnig, a gofynnodd i’r swyddogion ddilyn y
mater i fyny. |