Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr:- Menna Baines, Beca Brown, Dylan Bullard,
Annwen Daniels, Simon Glyn, R.Medwyn Hughes, Keith Jones, Cai Larsen, Jason
Parry ac Elfed Roberts. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a
gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2021 fel
rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio
ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 7 – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2022/23 ac eitem 8 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2022/23. (1)
Datganodd
yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen - Cynllun
Gostyngiadau Treth Cyngor 2022/23 am y rhesymau a nodir:- ·
Y Cynghorydd Stephen Churchman oherwydd ei fod yn derbyn budd-dal Treth Cyngor. ·
Y Cynghorydd Gareth A.Roberts
oherwydd bod aelod agos o’r teulu wedi derbyn disgownt Treth Cyngor. Nid oedd yr
aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. (2) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2022/23 am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd Gareth A.Roberts oherwydd bod ganddo eiddo sy’n wag ac yn cael ei
ailadeiladu. ·
Y
Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod gan aelod o’i deulu ail gartref. ·
Y
Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn berchen ar ail gartref. ·
Y
Cynghorydd Aled Jones oherwydd bod teulu agos iddo yn berchnogion ail gartref a
chartrefi gwyliau. ·
Y
Cynghorydd Gethin Glyn Williams oherwydd bod gan gysylltiadau agos iddo dai
gwag ac ail gartrefi. ·
Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod gan berthynas agos iddo ail gartref. ·
Y
Cynghorydd Elwyn Edwards oherwydd ei fod yn rhan berchennog mewn dwy fflat
uwchben Awen Meirion, Stryd Fawr, Y Bala. ·
Y
Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod yn berchen ar ail gartref. ·
Y
Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod gan aelod o’r teulu ail gartref. Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. (3)
Datganodd
Dewi Morgan (Pennaeth Cynorthwyol Refeniw a Risg) fuddiant personol yn eitem 12
ar y rhaglen – Penodi Swyddog Adran 151 Newydd, gan fod y penderfyniad yn
cadarnhau ei benodiad, fel darpar ddeilydd swydd Pennaeth Cyllid y Cyngor, yn
Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y 1af Ionawr 2022, a
hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Roedd y swyddog
o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y
Cadeirydd, mai gyda thristwch, y clywyd am farwolaeth Mrs Patricia G.Larsen,
Penisarwaun, cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, ac un a roddodd oes o wasanaeth i’w
chymuned yn lleol. Rhoddodd deyrnged
iddi, gan fynegi cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’r Cynghorydd Cai Larsen, a
gweddill y teulu yn eu profedigaeth. Nodwyd hefyd y bu farw’r cyn-Gynghorydd Wyn
Myles Meredith, Dolgellau, yn ddiweddar.
Rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Peredur Jenkins a mynegwyd
cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu. Nodwyd hefyd y bu farw Cefin Edwards, aelod o staff Ymgynghoriaeth
Gwynedd, yn ddiweddar iawn. Rhoddwyd
teyrnged iddo gan y Prif Weithredwr a mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i
deulu. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Wrth longyfarch Dewi Morgan, oedd wedi’i benodi’n Bennaeth Cyllid,
dymunwyd yn dda, gyda diolch, i Dafydd Edwards, oedd yn mynychu ei gyfarfod
diwethaf o’r Cyngor hwn yn y rôl honno.
Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd i Dafydd Edwards am ei wasanaeth ar
hyd y blynyddoedd, ac am ei gefnogaeth iddo ef yn bersonol. Nodwyd y bu sawl aelod a
staff yn wael yn ddiweddar, a dymunwyd gwellhad buan i bob un ohonynt. Nododd y Prif Weithredwr
fod y niferoedd achosion Covid yng Ngwynedd yn uwch nag erioed, er bod
arwyddion ein bod ar frig y don erbyn hyn, ac y byddem yn gweld gostyngiad yn
fuan. Hyd oni fyddai’r sefyllfa wedi
sefydlogi, roedd pwysau ar unedau penodol o fewn y Cyngor, gyda nifer o staff
yn absennol o’u gwaith, ac roedd trefniadau parhad gwasanaeth mewn lle bellach
mewn sawl uned ar draws y Cyngor. Er bod
trefniadau rheoli argyfwng y Cyngor yn gwbl gadarn ar hyn o bryd, roedd yn
anochel y byddai yna effaith ar wasanaethau yn y tymor byr, a gofynnwyd i’r
aelodau gynorthwyo drwy raeadru’r neges yma yn eu cymunedau. Mawr obeithid, fodd bynnag, na welid unrhyw
effaith ar wasanaethau rheng flaen, a nodwyd y byddai’r aelodau yn cael eu
diweddaru yn rheolaidd ar y sefyllfa. Nodwyd bod Tim ac Inger Hancock, a ddaeth ymlaen i
ddarparu gofal maeth i saith o frodyr a chwiorydd, wedi cael eu hanrhydeddu â
gwobr ‘Cyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth’ gan Wobrau Rhagoriaeth mewn Maethu’r
DU. Nodwyd bod y Cyngor yn eu
llongyfarch yn wresog ar eu cydnabyddiaeth yn y gwobrau a'u cyfraniad
eithriadol i faethu yng Ngwynedd. Nodwyd
hefyd y dymunid cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob un o’n gofalwyr maeth sy’n
gofalu am ein plant, gan nodi bod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu gwaith caled a’u
hymrwymiad yn fawr iawn. Nodwyd y cyflwynwyd Gwobr Wirfoddol y Frenhines, i Ymatebwyr Cyntaf Cymuned Y Bermo gan yr Arglwydd Raglaw, Edmund Bailey yn ddiweddar. Dyma’r wobr uchaf i grŵp gwirfoddol yn y Deyrnas Unedig ac fe'i rhoddir i grwpiau gwirfoddol eithriadol sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau eraill. Danfonodd y criw ymroddedig hwn o wirfoddolwyr nwyddau i aelodau hunan-ynysig bregus o gymunedau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Gareth A.Roberts “Mae
llawer o bobl oedrannus a gwael yn ei chael yn anodd edrych ar ôl eu hunain ac
mae gennym brinder cartrefi gofal a gweithwyr gofal. Os
yw aelod o’r teulu yn dymuno symud i mewn i ofalu am berthynas sy’n oedrannus
neu’n wael, nid oes raid iddynt dalu Treth Cyngor ar eu cartref eu hunain, ond
bydd y person y maent yn gofalu amdano/amdani yn derbyn 50% o ddisgownt Treth
Cyngor yn unig. A
wnaiff y Cyngor ganiatáu i’r person sy’n darparu’r gofal a’r person sy’n derbyn
y gofal ill dau dderbyn disgownt Treth Cyngor llawn o 100%?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas “Mae yna eithriad statudol yn bodoli sy’n golygu nad yw Treth Cyngor yn
daladwy ar eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan rywun a symudodd oddi yno i roi
gofal personol i rywun arall. Mae yna 10
eiddo yn derbyn yr eithriad yma yng Ngwynedd, gyda threthdalwyr 5 ohonynt yn
rhoi gofal i rywun sy’n byw mewn eiddo arall o fewn Gwynedd, a’r 5 arall yn
rhoi gofal i rywun sy’n byw y tu allan i’r sir. Byddai costau
unrhyw ostyngiadau dewisol ychwanegol yn cael eu hariannu’n llwyr allan o
goffrau’r Cyngor. Petaem ond yn sôn am 5
eiddo, oddeutu £10,000 fyddai cost cynnig eithriad dewisol ychwanegol. Fodd bynnag, mae
400 eiddo pellach yn derbyn disgownt o 25% neu 50% oherwydd bod o leiaf un o’r
trigolion yn derbyn gofal, ond lle nad oes eiddo wedi cael ei adael yn wag gan
y gofalwr. Noder mai rhoi gostyngiad
pellach ar Dreth Cyngor i’r rhai sy’n derbyn gofal sydd dan sylw yn y cwestiwn. Ni allwn weld sut gall y Cyngor wneud penderfyniad teg, sy’n
amddiffynadwy yn gyfreithiol, i roi gostyngiad Treth Cyngor ychwanegol i 5
eiddo heb ei roi i hyd at 400 eiddo arall hefyd. Byddai hynny yn costio oddeutu £500,000 y
flwyddyn i’r Cyngor, ac yn golygu blaenoriaethu adnoddau’r Cyngor, a chanlyniad
anorfod hynny fyddai cyflwyno arbedion a thoriadau mewn llefydd eraill. Os yw person sy’n
derbyn gofal yn talu Treth Cyngor (neu ran o Dreth Cyngor os ydynt yn derbyn
gostyngiad), mae gwerth y swm sydd yn cael ei dalu yn cael ei gynnwys yn eu
hasesiad ariannol i gynyddu faint o incwm maent yn cael ei gadw pob wythnos cyn
gorfod dechrau talu am eu gofal. Mae
pawb yn cael cadw digon o arian i dalu am eu Treth Cyngor cyn dechrau talu am
eu gofal. Wrth ystyried yr holl ffactorau sy’n ymwneud
â materion trethiannol a chyfrifo cost gofal, ni allaf weld sut y byddai’r
cynnig yn y cwestiwn yn fforddiadwy nac yn cynyddu tegwch y drefn ar draws y
sir. Er hynny, bydd yr Adran Gyllid yn
parhau i ystyried pa ostyngiadau dewisol fyddai’n briodol, os o gwbl, ac yn
cadw’r achosion sydd yn y cwestiwn dan ystyriaeth fel rhan o hynny.” (2) Cwestiwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2022/23 Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Parhau i weithredu
Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2022 fel ag yr oedd yn
ystod 2021/22. Felly, bydd yr amodau
canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: a)
Gweithredu
diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar
gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd. b)
Peidio cynyddu’r
cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair
wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig. c)
Peidio cynyddu’r
cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd
wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. · Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2022/23, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y
Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer
darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill,
2022. Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod gwahanol
fathau o gymorth ar gael ar gyfer pobl ar gyflogau bychain, ond gan fod hynny’n
amrywio yn ôl amgylchiadau’r unigolyn, ei bod yn amhosib’ rhoi ateb
cyffredinol. Fodd bynnag, anogwyd unrhyw
un sy’n cael trafferth i gysylltu â’r Adran i weld beth sy’n bosib’. Nodwyd hefyd bod trafodaethau ar y gweill er
mwyn gweld oes modd gweithredu yn fwy trawsadrannol i gynnig cymorth. PENDERFYNWYD ·
Parhau i weithredu
Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2022 fel ag yr oedd yn
ystod 2021/22. Felly, bydd yr amodau
canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: a)
Gweithredu
diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar
gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd. b)
Peidio cynyddu’r
cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair
wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig. c)
Peidio cynyddu’r
cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd
wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. ·
Lle’n briodol,
dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet
dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2022/23, ar yr amod na fydd
yn newid sylwedd y cynllun. |
|
TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2022/23 Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r cynllun ar gyfer
2022/23. Hynny yw, ar gyfer 2022/23, bod
Cyngor Gwynedd yn: ·
Caniatáu DIM
disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992. ·
Caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. ·
Caniatáu DIM
disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O
100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2022/23 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd
bod amgylchiadau unigolion a theuluoedd sy’n berchen ar eiddo gwag hirdymor yn
amrywio yn fawr, a holwyd pa gefnogaeth y gellid ei rhoi i’r unigolion
hynny. Mewn ymateb, nodwyd yr
argymhellid parhau i godi Premiwm ar eiddo gwag hirdymor oherwydd y gallai
eiddo o’r fath achosi problemau cymdeithasol mewn rhai llefydd, ond y gellid
cyflwyno polisi dan adran arall o’r ddeddf sy’n rhoi disgresiwn i’r Cyngor
leihau’r Premiwm taladwy mewn rhai achosion, megis lle mae eiddo wedi ei
etifeddu gan deulu, a bod yna waith o ran dod â’r tŷ yn ôl i drefn fel
rhan o’r stad. ·
Holwyd
pa mor agos oeddem at yr amcangyfrif y byddai £3.9m ychwanegol o gynnyrch
Premiwm 2021/22 ar gael i’r gronfa, o ystyried bod 2,045 eiddo wedi trosglwyddo
o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig. Mewn ymateb, eglurwyd, wrth baratoi’r
amcangyfrifon yn flynyddol, bod rhaid edrych yn ddarbodus ar faint fydd yn
trosglwyddo, gan ragdybio bod y patrwm trosglwyddiadau am barhau heb ymyrraeth
ddeddfwriaethol. Gallai trosglwyddiadau
hwyr yn y flwyddyn ariannol yma olygu colled, efallai, fyddai’n cael ei
ôl-ddyddio am gyfnod. Gan hynny, roedd
yn amhosib’ dweud pa mor agos oeddem at y £3.9m, ond ar hyn o bryd, gellid bod
yn eithaf hyderus y byddem o gwmpas ein lle o ran yr arian sy’n dod i mewn. ·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y diffiniad o
eiddo anaddas i fyw ynddo yn nwylo’r Prisiwr Dosbarth. Gofynnid i unrhyw un sy’n berchen ar y math
yma o eiddo gysylltu â’r Prisiwr, a phetai’r Prisiwr yn dod i’r casgliad ei fod
yn anaddas, byddai’n cael ei dynnu allan o’r bandio. Roedd y Prisiwr wedi tynhau’r diffiniad yn
ddiweddar, fel bod rhaid i eiddo fod yn adfail bron cyn cael ei dynnu allan o’r
rhestr. Nodwyd, petai gan aelodau
bryderon am eiddo penodol yn eu ward, y gallent drafod gyda’r Adran Gyllid yn y
lle cyntaf. ·
Mynegwyd pryder nad oedd perchnogion carafanau yn
talu unrhyw Dreth Cyngor, ac eto’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, ac
awgrymwyd y dylid ail-edrych ar hyn. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymlynu at y polisi o godi
Premiwm ar ail-gartrefi a chadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatrys y
broblem tai haf. · Awgrymwyd nad oedd y cyfnod eithrio estynedig o 12 mis i adnewyddu eiddo gwag hirdymor yn ddigonol gan ei bod yn anodd iawn y dyddiau hyn cael adeiladwr / saer / plymwr / trydanwr i gydweithio a chwblhau’r holl waith mewn cyfnod mor dynn. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai yn gwneud darpariaeth ar gyfer achosion sydd angen mwy o gyfnod na 12 mis. Roedd cymorth ar gael i bobl leol gael cyfnod pellach o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DATGANIAD CYNGOR GWYNEDD YNGHYLCH AMRYWIAETH Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r
rhaglen waith ar gyfer cefnogi Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones,
adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu rhaglen waith ar gyfer cefnogi
Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd. Diolchodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol i Gadeirydd ac
aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am eu gwaith ar y pwnc pwysig
yma. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Diolchwyd i’r Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol
am sicrhau bod y datganiad yn cael ei addasu i gynnwys pobl sy’n adnabod fel
LGTBQ+, ac anogwyd unrhyw un o grwpiau â nodweddion gwarchodedig i sefyll
etholiad ym mis Mai. ·
Nodwyd ei bod yn hynod bwysig cael amrywiaeth ar y
Cyngor, a bod y Cyngor yn adlewyrchu pobl Gwynedd heddiw. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cadw’r mater hwn mewn cof
wrth drafod amodau a chydnabyddiaeth i aelodau etholedig, gan fod y materion
hyn yn hollbwysig o ran denu pobl i fod yn rhan o’r Cyngor. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer cefnogi Datganiad
Amrywiaeth Cyngor Gwynedd. |
|
Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i
gymeradwyo trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor er cyfarch gofynion
newydd yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Mynegodd nifer o aelodau eu pryderon ynglŷn â threfniadau rhithiol /
hybrid ar y sail:- ·
Bod yna broblemau band eang ledled y sir, a holwyd a
allai’r Cyngor wneud mwy i helpu gyda hyn, er budd busnesau’r sir a
chynghorwyr. Mewn ymateb, nodwyd bod y
Cynllun Twf yn buddsoddi yn isadeiladedd digidol y rhanbarth. ·
Bod yr hen drefniadau (h.y. cyfarfod wyneb yn wyneb
yn y Siambr) yn well. ·
Nad oedd yr adroddiad yn cyfeirio at lesiant meddwl
ac unigrwydd, ac y byddai’r materion hynny yn gwaethygu wrth i bawb barhau i
weithio yn unig o flaen sgrin, heb gael y cyfle i gymdeithasu a sgwrsio gyda
chyd-weithwyr a chyd-gynghorwyr. ·
Bod pryder ynglŷn â sut mae aelodau newydd o
fis Mai ymlaen am gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. ·
Ei bod yn bwysig cael cyfarfodydd wyneb yn wyneb fel
bod staff yn dod i adnabod staff newydd a chynghorwyr yn dod i adnabod eu
cyd-gynghorwyr newydd ar ôl Mai. Mynegwyd gobaith y byddai yna adolygiad parhaus o’r trefniadau. Cefnogwyd y symudiad i gyfarfodydd hybrid gan aelodau eraill ar y sail
bod hynny’n rhoi’r dewis i aelodau ddod i’r siambr, neu gymryd rhan yn y
trafodaethau o gartref. Gan gyfeirio at yr is-bennawd ‘Rhithiol
llwyr’ yn y golofn ‘Math o gyfarfod’
yn Atodiad A i’r adroddiad, mynegwyd pryder bod hynny’n cau’r drws ar
gyfarfodydd wyneb yn wyneb am byth, a chynigiwyd gwelliant i dynnu’r
is-bennawd, fel bod yr holl gyfarfodydd yn mynd yn hybrid, ac felly’n cadw’r
dewis i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd mewn lleoliad. Mewn ymateb i’r gwelliant ac i sylwadau’r aelodau, nodwyd:- ·
Na fyddai mabwysiadu trefn o gynnal rhai cyfarfodydd
yn rhithiol llwyr yn cau’r drws, a’i bod yn hynod bwysig monitro ac adolygu’r
trefniadau yn barhaus (o leiaf yn flynyddol, mae’n debyg). ·
Bod
cyfeiriad yn yr adroddiad at eithriadau fyddai’n digwydd o dro i dro, megis
cyfarfodydd cyntaf yn dilyn etholiadau, fel bod modd i aelodau newydd
ymgyfarwyddo â gwaith y Cyngor, ac i aelodau sy’n dychwelyd gael cyfarfod eu
cyd-aelodau newydd. ·
Bod
y gwelliant i wneud pob cyfarfod yn hybrid yn gweddnewid yr hyn roedd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi ei roi gerbron, ac yn golygu y
byddai’n rhaid i bob cyfarfod gael ei gynnal mewn siambr fel man cychwyn. Pe derbynnid y gwelliant, byddai’n rhaid
cyfeirio’r mater yn ôl i’r pwyllgor i ystyried goblygiadau hynny, a chael
adroddiad pellach ar y mater. Nid oedd y
Cyngor mewn sefyllfa i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle i roi pob cyfarfod o
fewn siambr yr eiliad y byddai’r cyfyngiadau yn cael eu codi. · Y deellid yr awydd i ddychwelyd i’r siambr, ond bod yna waith sylweddol i’w wneud i gael y systemau i weithio i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad yn manylu ar newidiadau Cyfansoddiadol ynglŷn
â’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn ceisio arweiniad y Cyngor ar faint
y pwyllgor i’r dyfodol. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r golled i’r Grŵp
Annibynnol, oedd â chadeiryddiaeth ac is-gadeiryddiaeth y Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu ar hyn o bryd. Deellid,
fodd bynnag, mai Llywodraeth Cymru oedd yn cyflwyno’r newidiadau hyn. ·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd y byddai’r 12 aelod
etholedig ar y pwyllgor yn cael eu penodi gan y grwpiau, yn unol â’r cydbwysedd
gwleidyddol. ·
Awgrymwyd bod y panel penodi aelodau lleyg yn
ymddangos yn fychan iawn. ·
Mewn ymateb i sylw, eglurwyd y byddai’r aelodau
lleyg yn cael eu penodi cyn i’r darpariaethau newydd ddod i rym ym mis Mai, ac
felly y byddai cadeirydd presennol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn gallu
eistedd ar y panel. PENDERFYNWYD ·
Nodi’r newidiadau
gan y Swyddog Monitro i’r Cyfansoddiad yn Atodiad 1 i’r adroddiad. ·
Cadarnhau
argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i osod cyfanswm maint o 12
aelod etholedig a 6 aelod lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu Archwilio ar gyfer
Mai 2022. |
|
PENODI SWYDDOG ADRAN 151 NEWYDD Adroddiad i
ddilyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn cadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd
Pennaeth Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod
oddi ar y 1af o Ionawr 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnod: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys, adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i gadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd Pennaeth
Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod oddi ar y
1af o Ionawr, 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151, Deddf Llywodraeth
Leol 1972. PENDERFYNWYD Bod y Cyngor yn
cadarnhau Dewi Aeron Morgan, darpar ddeilydd swydd
Pennaeth Cyllid y Cyngor fel y Swyddog Adran 151 newydd ar gyfer yr Awdurdod
oddi ar y 1af o Ionawr 2022, a hynny yn unol â gofynion Adran 151,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gethin Glyn Williams Yn unol â’r Rhybudd
o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn cynnig
fel a ganlyn:- Dros y canrifoedd,
defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd
eraill. Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd
o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod
cwmniau buddsoddi o’r tu allan
i Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir – Creu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu coedwigoedd
i unioni eu hallyriadau carbon. Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: ·
Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn
eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond
ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n
gallu gwneud cais. ·
Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau
cynllunio lleol fel Gwynedd i reoli
prosiectau coedwigo. Mae’n hanfodol
bod Llywodraeth Cymru yn symud
i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau er
budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau
diwydiannau, cymunedau a gwasanaethau Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r cynnig, sef:- Dros y canrifoedd,
defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o nwyddau er budd
eraill. Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd o’n tirwedd yw’r potensial o
garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i Gymru yn prynu ffermydd, yn
derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a defnyddio’r tir i greu
coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon. Mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: · Newid ar fyrder y
cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond ffermwyr gweithredol
yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais. · Cyflwyno
deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel
Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo. Mae’n hanfodol bod
Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru, a’i hadnoddau
er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau, cymunedau a
gwasanaethau Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Dros
y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o
nwyddau er budd eraill. Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd
o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i
Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a
defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon. Mae’r
Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: ·
Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond
ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais. ·
Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol
fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo. Mae’n
hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru,
a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau,
cymunedau a gwasanaethau Cymru.” Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, a mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau a
nododd:- ·
Nad yw’n glir pwy yw’r cwmnïau buddsoddi sy’n prynu’r
ffermydd. ·
Bod rhaid atal yr arfer yma, a sicrhau bod yr
adnoddau yn aros yn nwylo pobl Cymru. ·
Nad
oedd pobl yn deall pa mor ddibynnol yw ffermwyr ar grantiau fel Glastir, ac y
dylid deddfu bod ffermydd i’w rhedeg fel fferm gan bobl leol, yn hytrach na’u
defnyddio i blannu coed. ·
Yr honnid bod defnyddio tiroedd fferm yn y modd yma
yn unioni allyriadau carbon. Fodd
bynnag, roedd tynnu tir ffermio allan o Gymru yn golygu ein bod yn cynhyrchu
llai o fwyd, a chanlyniad anochel hynny oedd gorfod mewnforio bwyd, sy’n
ychwanegu at allyriadau carbon. ·
Bod ambell ffermwr ym Mhen Llŷn wedi ymgeisio
am grant coedwigaeth y Llywodraeth, ond wedi cael eu gwrthod. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Dros
y canrifoedd, defnyddiwyd tiroedd ac adnoddau Cymru i echdynnu pob math o
nwyddau er budd eraill. Y ‘nwyddau’ diweddaraf sy’n cael eu cymryd
o’n tirwedd yw’r potensial o garbon, gan fod cwmnïau buddsoddi o’r tu allan i
Gymru yn prynu ffermydd, yn derbyn grantiau mawr Glastir - Creu Coetir (GWC) a
defnyddio’r tir i greu coedwigoedd i unioni eu hallyriadau carbon. Mae’r
Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: ·
Newid ar fyrder y cymhwyster i dderbyn eu grant Glastir (GWC) fel mai dim ond
ffermwyr gweithredol yng Nghymru sy’n gallu gwneud cais. ·
Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol
fel Gwynedd i reoli prosiectau coedwigo. Mae’n
hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn symud i amddiffyn amgylchedd gwledig Cymru,
a’i hadnoddau er budd economi Gwyrdd cylchol newydd gan gryfhau diwydiannau,
cymunedau a gwasanaethau Cymru. |