Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Menna Trenholme a
Dilwyn Morgan. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
||
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 TACHWEDD 2023 PDF 176 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 fel rhai cywir. |
||
GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS (GDMC) CAERNARFON, PWLLHELI A CRICIETH PDF 229 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a) Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau
Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth
a Phwllheli, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft
a atodwyd yn Atodiad 1. b) Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses
ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad
ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch
Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol PENDERFYNIAD a.
Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o
ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer
ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth a Phwllheli,
yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn Atodiad 1. b.
Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan
ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng
Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth. TRAFODAETH Eglurwyd bod
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn rhoi’r grym i
Awdurdodau Lleol gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) i ymdrin â
niwsans neu broblemau penodol mewn mannau penodol. Cadarnhawyd bod yr heddlu
wedi bod mewn cyswllt gyda’r Cyngor er mwyn ceisio cyflwyno GDMC mewn ardaloedd
yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chriccieth.
Bwriedir i’r gorchmynion ymdrin â phroblemau penodol mewn ardaloedd penodol
sy’n niweidiol i ansawdd bywyd. Esboniwyd bod ardaloedd arfaethedig GDMC wedi’u
nodi oherwydd effaith yr ymddygiad ar y gymuned, busnesau ac ymwelwyr. Manylwyd bod
rhaid i’r Awdurdodau Lleol fod yn fodlon bod sail rhesymol dros gredu fod y
gweithgareddau hyn mewn man cyhoeddus wedi cael, neu yn debygol o gael effaith andwyol
ar ansawdd bywyd pobl yn y cyffiniau. Eglurwyd
hefyd fod y gweithgareddau angen bod yn barhaus
eu natur ac yn afresymol. Esboniwyd bod yr heddlu wedi darparu
datganiadau effaith gan swyddogion a busnesau yn yr ardaloedd yma gan nodi
tystiolaeth bod ymddygiad gwrthgymdeithasol gan
unigolion ifanc ac oedolion ac yn cynnwys camweddau sylweddau, ymddygiad
bygythiol a thrais. Manylwyd bod hyn yn gwneud i rai unigolion y gymuned osgoi mynd
i
fewn i fusnesau, ac eu bod yn
osgoi
defnyddio llochesi bysiau ac ati. Cadarnhawyd
bod y Cyngor wedi ymgynghori gydag Aelodau Lleol a’r cynghorau tref perthnasol.
Sicrhawyd bod cefnogaeth lwyr i’r gorchmynion ynghyd â chefnogaeth gan Aelodau
Seneddol Arfon a Dwyfor Meirionnydd. Esboniwyd bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus o’r GDMC os byddent yn cael eu cymeradwyo, cyn cyflwyno adroddiad
pellach i’r Cabinet pan yn amserol. Cydnabuwyd bod angen ystyried opsiynau
eraill cyn cyflwyno GDMC ac mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth gynhwysfawr gan
yr heddlu o’u hymrwymiadau amrywiol ac mae’r Cyngor yn fodlon eu bod eisoes
wedi defnyddio pob dull i fynd i’r afael ag atal yr ymddygiadau hyn. Adroddwyd bod
y cyfyngiadau dan ystyriaeth GDMC wedi eu
datblygu’n benodol i ymdrin â’r mathau o
ymddygiad sy’n achosi’r problemau mwyaf, ac ystyriwyd y cyfyngiadau canlynol yn
addas: ·
Ni chaiff person ddilyn cwrs o ymddygiad
sydd yn achosi, neu sydd yn rhesymol canfod ei fod yn achosi aflonyddwch, braw,
niwsans neu drallod. ·
Ni chaiff person yfed alcohol, nac
unrhyw beth y mae Person Awdurdodedig yn rhesymol gredu i fod yn alcohol neu
gynhwysydd i ddal alcohol, os yw Person Awdurdodedig
yn gofyn i’r person stopio ag yfed neu ildio’r alcohol neu gynhwysydd. · Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau. Os yw Person Awdurdodedig yn gofyn i’r person ymadael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Daron Marged Owens: Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol |
||
CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 CYNGOR GWYNEDD PDF 154 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng
Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Ystyriwyd
a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23
Cyngor Gwynedd. TRAFODAETH Atgoffwyd
yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi cael ei fabwysiadu gan y
Cyngor ar 8 Mawrth 2023 yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet. Tynnwyd
sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd
gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau
allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith
ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir
ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd. Pwysleisiwyd
bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ar fesurau i leihau allyriadau carbon ers
dros 10 mlynedd a wedi llwyddo i leihau cyfanswm allyriadau carbon 43%.
Manylwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wneud hyn drwy weithredu ym mhob maes gan
gynnwys newidiadau i oleuadau stryd sydd wedi lleihau 76% o’r allyriadau carbon
cysylltiedig, a newidiadau i’r fflyd gan leihau allyriadau carbon cysylltiedig
23%. Esboniwyd
bod y newidiadau mae’r Cyngor yn ei wneud yn weithredol tuag at adfer yr
argyfwng newid hinsawdd ac yn cyfrannu at nod y Cyngor o fod yn garbon sero net
ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Nodwyd hefyd bod y newidiadau hyn yn arwain
at arbedion ariannol i’r Cyngor. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn gweld buddion
ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed oddeutu £15miliwn ers
2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil
sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid
hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni, gan y buasai yna £4.3miliwn o gostau
ychwanegol i’w cyfarch. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn
hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor
yn gweithio o adref. Cyfeiriwyd
at amryw o brosiectau o fewn saith prif ffrwd gwaith y cynllun sef: Adeiladau
ac ynni, symud a thrafnidiaeth, gwastraff, llywodraethu, caffael, defnydd tir
ac ecoleg. Tynnwyd sylw at brosiect paneli solar sydd eisoes ar y gweill gydag
£2.8miliwn wedi ei fuddsoddi mewn paneli solar i’w rhoi ar adeiladau’r Cyngor
er mwyn arbed arian yn y dyfodol. Esboniwyd hefyd bod fflyd y Cyngor yn cael ei
uwchraddio yn y dyfodol i fod yn gerbydau trydan er mwyn lleihau’r allyriadau
carbon mae’r cerbydau presennol yn ei ryddhau. Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o ledled y wlad, oherwydd bod y system yn ffocysu ar wariant, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio. Cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud yn genedlaethol er mwyn cywiro’r gwall hwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr |
||
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD PDF 132 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Atgoffwyd
yr aelodau bod yr Adran yn arwain ar bump o brosiectau Cynllun y Cyngor sef
‘Rheolaeth ail gartrefu a llety gwyliau tymor byr’, ‘Cynllun Datblygu Lleol
Newydd’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’, ‘Teithiau Llesol’ a ‘Trafnidiaeth
Gyhoeddus’. Tynnwyd sylw bod dau o’r prosiectau hyn yn ymwneud â’r maes
trafnidiaeth a bydd Pennaeth Cynorthwyol newydd yn cychwyn gyda’r Adran ym mis
Ionawr a fydd yn allweddol i gynorthwyo gyda’r gwaith i symud y blaenoriaethau
hyn yn eu blaenau. Eglurwyd
bod yr adran yn arwain ar y gwaith o baratoi cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer
Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, mewn ymdrech i gael gwell rheolaeth ail
gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Nodwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i
fynnu bod perchnogion eiddo yn yr Ardal Cynllunio yn derbyn hawl cynllunio cyn
newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr. Cadarnhawyd
bod cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos a bod
ymateb sylweddol i'r ymgynghoriad wedi dod i law. Nodwyd bod swyddogion yn
parhau i ddadansoddi’r holl sylwadau a rhoi ystyriaeth deilwng i’r ymatebion a
dderbyniwyd. Sicrhawyd bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am
benderfyniad yn ystod misoedd cynnar 2024, yn dilyn y broses o ddadansoddi
sylwadau. Cadarnhawyd
bod yr Adran yn cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ardal Awdurdod
Cynllunio Gwynedd er mwyn cyfarch anghenion tai cyflogaeth, cymdeithasol ac
amgylcheddol trigolion y sir dros yr 15 mlynedd nesaf. Pwysleisiwyd bod
Gweithgor Polisi Cynllunio wedi ei sefydlu er mwyn cefnogi’r broses o greu a
chynnal y Cynllun hwn a'u bod hefyd wedi ystyried Cytundeb Cyflawni drafft y
Cynllun. Cadarnhawyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal am gyfnod o
6 wythnos ar y Cytundeb Cyflawni ac mae swyddogion yn ystyried yr ymatebion ar
hyn o bryd. Rhagwelwyd bydd adroddiad ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r
Cabinet yn fuan cyn mynd i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2024. Adroddwyd
bod gwaith trawsnewid sylweddol yn parhau i ddigwydd ym maes gwastraff ac
ailgylchu. Cadarnhawyd bod yr adran yn gweithio i anelu at darged Llywodraeth
Cymru o ailgylchu 70% o holl wastraff erbyn 2025. Eglurwyd bod y Cyngor yn
derbyn incwm am ddeunydd ailgylchu ond cadarnhawyd bod y ffigyrau hyn wedi
lleihau. Adroddwyd bod y Cyngor wedi bod yn derbyn £400 y tunnell yn y
gorffennol ond roedd y ffigyrau hyn wedi lleihau i £200 y tunnell erbyn mis Mai
eleni. Nodwyd bod y ffigyrau diweddaraf yn nodi bydd y Cyngor yn derbyn £20 y
tunnell am nwyddau ailgylchu a gesglir. Cydnabuwyd bod yr Adran wedi derbyn
nifer fawr o gwynion o fewn y maes gwastraff yn ddiweddar wrth iddo symud o dan
reolaeth yr Adran hon. Pwysleisiwyd bod nifer o’r heriau wedi eu datrys erbyn
hyn ac bod niferoedd y cwynion wedi gostwng. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor wedi sicrhau £1.2miliwn o gyllid Teithiau Llesol gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd |
||
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC PDF 186 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones. PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Atgoffwyd
yr Aelodau bod yr Adran yn arwain ar dri phrosiect sy’n rhan o Gynllun y Cyngor
sef ‘Cymunedau Glân a Thaclus’, ‘Gweithredu ar Risgiau Llifogydd’ ac ‘ Ymestyn
cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’. Manylwyd
bod yr adran wedi uno tri gwasanaeth o dan un rheolwr ymysg y maes cymunedau
glan a thaclus er mwyn creu gwasanaeth newydd o dan yr enw ‘Edrychiad Stryd’.
Cadarnhawyd bod strategaeth ddrafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn ddiweddar a bydd y strategaeth yn mynd allan am ymgynghoriad
cyhoeddus yn y gwanwyn, yn dilyn eu sylwadau. Cydnabuwyd
bod llithriad wedi bod wrth ymgeisio i gwblhau gwaith o fewn y maes ymestyn
cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y sir ond gobeithir
bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn llawn yn y dyfodol. Pwysleisiwyd bod
diweddariad manwl ar brosiectau Cynllun y Cyngor o fewn Atodiad 1. Eglurwyd
bod Llawlyfr Cynnal Priffyrdd wedi cael ei fabwysiadu yn ddiweddar ac mae’r
Adran yn rhoi blaenoriaeth i greu rhaglen 3 blynedd o waith ail wynebu ffyrdd
drwy’r sir ar sail cyflwr. Cadarnhawyd bydd y rhaglen hon yn cael ei rannu
gydag Aelodau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol pryd fydd gwaith yn cymryd lle o
fewn eu wardiau. Nodwyd
bod yr adran wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda’r Adran Amgylchedd ar brosiect
ymylon ffordd. Esboniwyd bod y prosiect yn helpu ein byd natur, yn enwedig peillwyr, gan gynyddu bioamrywiaeth. Cadarnhawyd
bod yr Adran wedi archebu 43 o gerbydau trydan er mwyn symud i ffwrdd o
ddefnyddio tanwydd ffosil, ac i gyd-fynd â Chynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y
Cyngor. Nodwyd y disgwylir i’r cerbydau hyn gyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol a gobeithir bydd 16 pwynt gwefru ar gael i fflyd y Cyngor ar draws y
Sir. Esboniwyd bod yr Adran wedi profi heriau wrth gysylltu pwyntiau gwefru i’r
grid cenedlaethol ond mae’r Adran yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau na fydd
hyn yn broblem yn y dyfodol. Esboniwyd
bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus mewn cais ariannol drwy Gronfa Ffyniant
Gyffredin (SPF) er mwyn ymestyn y ddarpariaeth bresennol o systemau teledu
cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus ym Mangor, Caernarfon a Phwllheli.
Manylwyd bydd dogfennau tendro yn cael eu darparu yn y dyfodol agos. Adroddwyd ar fwriad yr adran i dreialu drysau talu gyda thechnoleg di-gyffwrdd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 05 Hydref 2023. Manylwyd bod bid ariannol i gyflwyno drysau mewn 5 safle i’r perwyl hyn wedi ei gyflwyno. Yn yr un maes, cadarnhawyd bod yr Adran yn rheoli Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio toiledau mewn amryw o sefydliadau lleol. Nodwyd bod modd defnyddio’r toiledau am ddim ac nid oes angen prynu dim yn y lleoliad. Eglurwyd bod y lleoliadau yn gallu derbyn grant o hyd at £500 i fod yn rhan o’r cynllun a bod rhaid iddynt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Steffan Jones: Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC |