Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelodau canlynol eu bod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.2 (C21/1030/42/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.5 (C22/0662/11/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C22/0667/38/AM Tir ger Dolwar, Ffordd Pedrog, Llanbedrog, Pwllheli, LL53 7PA Cais amlinellol ar gyfer codi 5 tŷ sy'n cynnwys
dau dŷ deulawr pedair llofft, un tŷ deulawr tair llofft, a dau
dy unllawr AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau
1. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth ynglŷn ac effaith y datblygiad
ar yr Iaith, ac felly ni ellir sicrhau nad yw’r bwriad yn groes i ofynion
polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a Chanllaw
Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy. 2. Mae’r bwriad yn annerbyniol ac y byddai yn debygol o gael effaith
sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos a’r ardal o ran aflonyddwch a
sŵn, ynghyd ac effaith sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd o ran darparu
mynediad i gerbydau, diffyg darpariaeth i gerddwyr a defnyddwyr beics a’r
ddarpariaeth parcio. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion maen prawf 7 o
bolisi PCYFF 2 a polisïau TRA 2 a 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2017. 3. Nid yw’r cais yn cyfeirio at ddarparu tai marchnad lleol na tai
fforddiadwy o gwbl ac nid oes gwybodaeth wedi ei ddarparu o ran cyfiawnhau’r
tai eu pris fforddiadwy a sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y
gymuned leol, felly i’r perwyl hynny nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisïau
TAI 5, PS17, TAI 15 na PS1 o’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017. Cofnod: Tir Ger Dolwar, Ffordd Pedrog, Llanbedrog, Pwllheli,
LL53 7PA Cais
amlinellol ar gyfer codi 5 tŷ sy'n cynnwys dau dy deulawr pedair llofft,
un tŷ tair llofft, a dau dy unllawr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer
codi 5 tŷ oedd yn cynnwys dau dŷ deulawr pedair llofft, un tŷ
deulawr tair llofft, a dau dŷ unllawr ar safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu
pentref Llanbedrog. Nodwyd bod y ffurflen gais yn nodi fod materion mynediad,
edrychiad a gosodiad yn ffurfio rhan o’r cais a bod tirweddu a graddfa wedi ei
gadw’n ôl. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
ddatblygu Llanbedrog fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) ac nad ydoedd wedi ei ddynodi neu ei warchod ar gyfer
unrhyw ddefnydd penodol yn y Cynllun. Nodwyd mai’r ddarpariaeth tai dangosol i Lanbedrog dros gyfnod y Cynllun yw 16 uned ac yn ystod y
cyfnod rhwng 2011 a 2022, cwblhawyd 19 uned yn Llanbedrog (pob un o'r rhain ar
safleoedd ar hap). Ymddengys bod y ffigwr yn uwch na’r ffigwr cyflenwad
dangosol a gan fod yr anheddle wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig trwy unedau
wedi eu cwblhau roedd angen cyfiawnhad gyda’r cais yn amlinellu sut fydd y
bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Yn y CDLl adnabyddi’r
Llanbedrog fel Pentref Arfordirol ym Mholisi TAI 5 ‘Tai Marchnad Lleol’; sy’n
nodi, yn amodol ar ofynion Polisi TAI 15 ynglŷn â darparu tai fforddiadwy,
mai tai marchnad lleol sy’n cael eu caniatáu o fewn ffiniau datblygu’r
aneddleoedd sydd yn berthnasol i’r polisi. Ni fyddai darparu unedau marchnad
agored yn Llanbedrog yn dderbyniol. Gwybuwyd yr asiant ar adeg cofrestru’r cais
fod angen tystiolaeth o angen lleol ar gyfer cydymffurfio gyda gofynion polisi
TAI 5, ond ni dderbyniwyd gwybodaeth o’r fath. Ategwyd nad oedd y cais
yn cyfeirio o gwbl at ddarparu tai marchnad lleol na tai fforddiadwy ac nad
oedd gwybodaeth wedi ei ddarparu o ran cyfiawnhau’r tai eu pris fforddiadwy a
sut fyddai’r bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. I’r perwyl
hynny, nid oedd yn cydymffurfio a gofynion polisïau TAI 5, PS17 na TAI 15 o’r
Cynllun Lleol. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a
mynediad nodwyd bod bwriad defnyddio dwy ffordd i gael mynediad i’r safle.
Eglurwyd bod y ddwy ffordd yn gul, un
oddi ar Ffordd Pedrog ac un oddi ar stad Cae Hendy. Nid yw’r ffyrdd ddigon
llydan i gerbydau basio ei gilydd nac ar gyfer darparu llwybr cerdded. Er bod
bwriad darparu system un ffordd ble fyddai cerbydau yn defnyddio un ffordd i
gael mynediad a’r ffordd arall i adael, nid oedd manylion sut y byddai cerddwyr
yn gallu cyrraedd a gadael y safle yn ddiogel, na manylion ynglŷn â sut
byddai’r system un ffordd yn cael ei weithredu a’i orfodi, h.y. arwyddion, bariau mynediad ayyb wedi eu cyflwyno. Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau nad oedd yr un o’r ffyrdd yn addas i’w defnyddio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Codi 7 tŷ annedd
ynghyd a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod – Rhesymau
Cofnod: Cyn Eglwys Santes Mair Lôn Yr Eglwys, Morfa
Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6AR Codi
7 tŷ annedd ynghyd a gwaith cysylltiol. a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer datblygiad anheddol fyddai’n cynnwys 7 tŷ annedd, ffordd fynediad a
gwaith cysylltiol ar safle’r cyn Eglwys Gatholig “Atgyfodiad Ein Ceidwad”,
Morfa Nefyn (sydd erbyn hyn wedi ei dymchwel). Ategwyd bod y safle yn un tir
llwyd, oddeutu 0.4 ha, wedi ei leoli mewn ardal anheddol o Bentref
Arfordirol-Gwledig Morfa Nefyn a byddai’r datblygiad ar ffurf “cul-de-sac” gyda
mynediad cerbydol, gofod parcio a gardd ar wahân ar gyfer pob uned. Nodwyd bod y cynllun
yn ddiweddariad o gynllun ar gyfer chwe thŷ ar yr un safle a wrthodwyd yn flaenorol
dan y cyfeirnod C19/1174/42/LL am y rhesymau isod: ·
Ni chredwyd y byddai'r cynnig yn cwrdd
gyda'r anghenion lleol cydnabyddedig am dai ac o ganlyniad fe fuasai'r
datblygiad yn arwain at orddarpariaeth tai marchnad agored yn y gymuned ·
Diffyg darpariaeth fforddiadwy fel rhan
o'r cynllun ·
Niwed i fwynderau trigolion lleol a
defnyddwyr Lôn yr Eglwys oherwydd culni'r ffordd fynediad ·
Nid oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol
wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn achosi niwed o sylwedd i gymeriad
a chydbwysedd yr iaith Gymraeg yn y gymuned O ganlyniad i
benderfyniad y Pwyllgor i wrthod cais C19/1174/42/LL aethpwyd ar penderfyniad i
Apêl (APP/Q6810/A/21/3266774) ac fe wrthodwyd yr apêl am y rhesymau isod : ·
"nid wyf wedi fy narbwyllo ar y
dystiolaeth sydd ger fy mron, y byddai’r cynnig yn gwneud cyfraniad priodol at
y cyflenwad tai lleol, gan gynnwys tai fforddiadwy. Deuaf i’r casgliad, felly,
na fyddai’r cynnig yn gyson â pholisïau PS 17, TAI 4 a TAI 15 y CDLl." ·
"Yn absenoldeb y cyfryw wybodaeth, deuaf i’r casgliad y
byddai’r cynnig yn groes i bolisi PS 1 y CDLl a
Pholisi Cynllunio Cymru sy’n ceisio hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r
Gymraeg." Wrth dderbyn bod
rhaid ystyried pob cynllun ar ei haeddiant ei hun, ac wrth ystyried hanes y
safle a sylwadau'r Arolygydd Cynllunio ar y penderfyniad blaenorol, awgrymwyd
mai'r ddau brif gwestiwn i'w hystyried wrth benderfynu ar y cais dan sylw oedd, ·
a fyddai'r cynllun newydd yn cyfrannu
tuag at gwrdd ag anghenion y gymuned leol am dai? ·
a fyddai'r cynnig yn hyrwyddo a
chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned? Adroddwyd bod Morfa
Nefyn, yn y CDLl, wedi ei glustnodi yn Bentref
Arfordirol/Gwledig a bod polisi TAI 4 yn cefnogi datblygiadau tai er mwyn cwrdd
â strategaeth y Cynllun drwy annog defnyddio safleoedd ar hap addas o fewn ffin
datblygu aneddleoedd yn yr haen yma, pan fo maint, graddfa, math a dyluniad y
datblygiad yn gytbwys â chymeriad yr anheddle. Nodwyd mai’r ddarpariaeth tai
dangosol i Forfa Nefyn dros gyfnod y Cynllun oedd 15 uned ac yn ystod y cyfnod
rhwng 2011 a 2022, cwblhawyd 33 uned ym Morfa Nefyn (pob un o'r rhain ar
safleoedd ar hap; 21 uned yn fwy nai gyflenwad dangosol ar gyfer oes y Cynllun. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C22/0336/16/MW Chwarel Penrhyn, Bethesda, LL57 4YG Cais ar gyfer estyniad i weithfeydd cloddio llechi AELOD LLEOL:
Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
Cofnod: Cais ar gyfer estyniad i weithfeydd cloddio llechi Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais ydoedd am
estyniad ochrol i ardal weithio Chwarel y Penrhyn. Eglurwyd bod y chwarel
wedi'i lleoli i'r de o dref Bethesda gyda mynediad i geir ar hyd lôn breifat
sy'n arwain o'r B4409, ffordd gyhoeddus Dosbarth 2, ym Mhont y Tŵr; bod
safle'r cais wedi'i leoli yn union gerllaw cornel dde-orllewinol wyneb y graig
bresennol ac oddi mewn i ffin caniatâd cynllunio presennol am estyniad ochrol
(cyfeirnod C12/0874/16/MW) ac Adolygiad o Hen Ganiatadau
Mwynau dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (ROMP) (caniatâd rhif C16/1164/16/MW) ar
gyfer y chwarel gyfan a gymeradwywyd yn 2017. Nodwyd y
byddai'r estyniad arfaethedig yn cynnwys tua 1.6ha o dir, gyda safle'r cais yn
cynnwys cyfanswm o 2.26ha (fyddai hefyd yn cynnwys cadw'r ffiniau a'r ffrwd yn
y de-ddwyrain). Bwriedir gweithio'r ardal gloddio estynedig yn yr un dull â'r
gweithfeydd presennol a gytunwyd o dan ROMP 2017 a chais C12/0874/16/MW gan
gynnwys tipio gwastraff, pentyrru, cynhyrchu llechi to ac ati. Daw'r angen
am yr estyniad o ganlyniad i ddeic ddolerit fertigol sy'n croesi wyneb
de-orllewin y graig bresennol. Mae llechi sydd o fewn 25m i'r deic hwn wedi
torri'n ddifrifol fel nad oes modd cael unrhyw ddeunydd i'w weithio ohonynt,
sy'n golygu colli tua 1.11 miliwn tunnell o'r llechen orau. Byddai'r
estyniad arfaethedig yn rhyddhau tua 250,000 o dunelli o lechi toi piws ac 1.9
miliwn tunnell o lechi coch/glas addurniadol, gan felly sicrhau nad oes unrhyw
ddiffyg yn y mwyn wrth gefn presennol, a chan hefyd gynnal y banc tir yn unol â
gofynion Polisi Strategol 22: Mwynau a MWYN 3 o'r CDLl
ar y Cyd. Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol a’r dirwedd, nodwyd bod yr ardal sy'n union o
amgylch y safle yn cynnwys nifer o ddynodiadau tir sensitif, megis: Parc
Cenedlaethol Eryri, Safle Treftadaeth y Byd Ardal y Llechi, Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen (LOHI), Ardal Tirwedd Arbennig
(ATA) Ymylon Gogledd-orllewin Eryri. Ymhellach draw mae Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn, Parciau a Gerddi Hanesyddol Y Faenol a
Chastell Penrhyn, ATA Menai a Mynydd Bangor a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Dinorwig - mae'r rhain oll wedi'u hadnabod o fewn yr Asesiad o'r
Effaith ar y Dirwedd a'r Effaith Weledol. O ystyried
graddfa'r datblygiad, mae'n debygol y byddai'n anodd gwahaniaethu safle'r
estyniad oddi wrth yr ardal gloddio a gweithio presennol yn y chwarel o fannau
ymhellach draw. Mae'r LVIA yn casglu y bydd unrhyw effeithiau amlwg ar y
dirwedd wedi'u cyfyngu i ardaloedd sy'n union gerllaw'r safle, yn benodol Gwaun
Gynfi ac Elidir Fach. Mae strategaeth adfer bresennol ar gyfer y safle cyfan yn amod yn y ROMP (C16/1164/16/MW) a bwriedir ymgorffori'r gwaith adfer ar gyfer yr estyniad arfaethedig yn y cynllun ehangach. Er bod cynllun adfer yn bodoli ar gyfer y safle, roedd CNC wedi nodi y byddent yn argymell cyflwyno cynllun adfer manwl cyn diwedd y gwaith chwarela. Mae'r ACM yn ystyried bod hwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C22/0327/16/AC Breedon, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4YG Cais o dan Adran
73 i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf
yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn
ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser
ar gyfer adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys
estyniad i'r ardal cloddio AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
Cofnod: Breedon, Chwarel Penrhyn,
Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4YG Cais o dan Adran 73
i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf yr
Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn ymestyn
yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser ar gyfer
adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys estyniad i'r
ardal cloddio Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais
ydoedd dan Adran 73 Deddf Cynllunio 1990 i amrywio amodau 1 a 3 ar gais
cynllunio C16/1164/16/MW (Adolygu Hen Hawliau Cynllunio Mwynau dan Ddeddf yr
Amgylchedd 1995 (ROMP)) i ymestyn cyfnod y gwaith cloddio llechi a
gweithrediadau cysylltiol am dair blynedd, caniatáu mwy o amser i adfer y safle
a diwygio cynlluniau i wneud lle i estyniad arfaethedig i'r ardal sy'n cael ei
gweithio ar hyn o bryd. Eglurwyd bod safle'r cais yn cynnwys y chwarel yn ei chyfanrwydd a'i
gweithrediadau; cloddio am fwynau (yn cynnwys ardal yr estyniad arfaethedig), tomenni gwastraff mwynau, prosesu, pentyrru, tynnu tomenni gwastraff mwynau hanesyddol, swyddfa'r
safle/cyfleusterau lles, pont bwyso ac ardaloedd sydd wedi'u hadfer. Dan y
caniatâd cynllunio cyfredol hwn (ROMP), dywed amod 1 y caiff yr holl
weithrediadau hyn barhau hyd at 31/12/2032 gyda'r adferiad terfynol i gael ei
gwblhau erbyn 31/12/2034. Byddai'r newid arfaethedig i'r amod yn newid dyddiad
rhoi'r gorau i'r gwaith i 31/12/2035 a'r gwaith adfer i'w gwblhau erbyn
31/12/2037. Nodwyd bod egwyddor ymestyn cyfnod gwaith y chwarel ar y safle yn seiliedig ar Bolisi Mwynau Strategol PS 22
a Pholisi MWYN 3 CDLl lle nodi’r y bydd y Cyngor yn cyfrannu at y galw parhaol
yn lleol a rhanbarthol am gyflenwad o fwynau trwy gynnal gwerth o leiaf saith
mlynedd o fanc tir o Dywod a Graean a banc tir deg mlynedd wrth gefn o agregau
cerrig mâl yn unol ag arweiniad cenedlaethol. Yng nghyd destun materion traffig, hawliau tramwy cyhoeddus a thir
comin, adroddwyd nad oedd y cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV
o’r safle. Derbyniwyd sylwadau gan Uned Drafnidiaeth y Cyngor yn nodi dim gwrthwynebiad
i’r cynnig gan ei fod yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar y rhwydwaith
priffyrdd. Yn ogystal, nodwyd bod yr Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi cadarnhau fod llwybr caniataol wedi'i sefydlu a'i fod yn dilyn y llwybr a ddefnyddiwyd i gludo cwsmeriaid i'r wifren uchaf yn Zip World. Cytunwyd ar y llwybr hwn gyda'r Cyngor ac mae ar hyn o bryd yn destun peth gwaith er mwyn medru agor y llwybr i'r cyhoedd. Felly, ystyriwyd er bod yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus gwreiddiol oedd yn croesi'r chwarel wedi cael eu heffeithio am gyfnod sylweddol, mae'r llwybr caniataol a gytunwyd iddo yn darparu mynediad diogel rhwng Llandygai a'r llethrau sy'n esgyn uwchben y chwarel. Ategwyd y bydd camau i sicrhau'r cyfnod cau a'r cytundeb ar gyfer llwybr caniataol i gyd-fynd â dyddiad gorffen gwaith y chwarel yn cael eu cynnwys fel amodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C22/0662/11/LL Ysgol Hillgrove Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2TW Newid defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd
Dosbarth C2) sy'n cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a
gwaith adeiladu cysylltiedig. AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Richard Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
Nodyn - Dŵr
Cymru Cofnod: Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Gwynedd, LL57 2TW Newid
defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) cynnig
cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a gwaith adeiladu Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd
safle o ddefnydd fel cyn-ysgol yn hostel/uned byw â chymorth i'w defnyddio gan
sefydliad elusennol. Bwriedir ymgymryd ag ad-drefnu mewnol i'r adeiladau sydd
ar y safle er mwyn darparu cyfleuster sy'n addas i'r pwrpas a bwriedir codi
estyniad unllawr, to fflat, er mwyn cysylltu tair
prif adeilad yr eiddo presennol at ei gilydd. Byddai'r sefydliad yn darparu 18
ystafell wely gyda chyfleusterau en-suite wedi eu
gwasgaru ar draws dau lawr o'r adeilad ynghyd a chyfleusterau cymunedol. Cyfeiriodd y Swyddog
at yr adroddiadau gan amlygu nad oedd y fersiwn Saesneg yn cynnwys addasiadau a
sylwadau ychwanegol gan y gwrthwynebwyr. Aethpwyd drwy’r adroddiad gan fanylu
ar y gwahaniaethau yn adran 5.3, 5.4, 5.15 a 6.1 Wrth gyfeirio at gefndir y cais, nodwyd bod
gweithgareddau presennol yr elusen yn digwydd yn safle Tŷ Penrhyn ym Mangor - eiddo mewn cyflwr gwael ac angen
buddsoddiad sylweddol. Ategwyd bod prydles yr ymgeisydd ar Dŷ Penrhyn yn
dod i ben ymhen tua 18 mis ac er bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
pherchennog Tŷ Penrhyn i brynu'r safle, ymddengys nad yw’n ariannol hyfyw
i'w brynu. Caeodd Ysgol Hillgrove yn 2017 ac mae’r
safle wedi ei adnabod gan yr ymgeisydd
fel un addas ar gyfer adleoli'r gwasanaeth, gan alluogi’r elusen aros ym
Mangor. Nodwyd nad oedd unrhyw reswm i’r Awdurdod Cynllunio Lleol amau’r
esboniadau hyn. Tynnwyd sylw at ddefnydd cyfreithlon y safle,
megis ysgol (canolfan addysg ddibreswyl), sy’n disgyn dan Ddosbarth Defnydd D1
yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i
diwygiwyd) gan olygu na fyddai angen caniatâd cynllunio i newid yr adeilad i
fod yn glinig neu ganolfan iechyd. O ganlyniad, ni fyddai angen caniatâd
cynllunio i weithredu'r cyfleuster hwn fel canolfan driniaeth dydd ar gyfer
pobl gyda phroblemau alcohol a chyffuriau. Yr elfen breswyl ynghyd a’r estyniad
arfaethedig yn unig sydd ag angen caniatâd cynllunio. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a
phreswyl amlygwyd bod llawer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn i'r cais ond bod
sail y pryderon hyn, i raddau helaeth, yn ymwneud a materion sydd y tu allan
i'r ystyriaethau cynllunio materol arferol ar geisiadau cynllunio. Er yn cydnabod
y pryderon, nodwyd eu bod yn seiliedig ar faterion rheolaethol y cyfleuster a
pholisïau cyfraith a threfn ac nad oeddynt dan reolaeth uniongyrchol y system
gynllunio. O safbwynt
effeithiau sŵn ac ymyrraeth gyffredinol,
ystyriwyd natur defnydd cyfreithlon presennol y safle, megis ysgol, ac
felly ni fyddai tebygolrwydd i'r defnydd bwriedig
achosi niwed arwyddocaol gwaeth i fwynderau cymdogion. Derbyniwyd bod defnydd
ysgol yn cael ei grynhoi i oriau byrrach yn ystod y dydd, fodd bynnag, nifer cyfyngedig o oedolion yn gweithredu o
fewn system reolaethol gadarn fydd yn defnyddio'r cyfleuster ac felly ni fydd
niwed arwyddocaol oherwydd hyn. |