Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1
(C21/1220/42/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth A Roberts
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 (C22/1169/15/LL) ar y
rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth
Morris Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4
(C23/0201/08/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Gorffennaf 2023 yn ddarostyngedig i sicrhau bod pwynt bwled 2 yn eitem
5.3ch (cais rhif C22/1169/15/LL Llyfrgell Llanberis, Ffordd Capel
Coch, Llanberis) yn
y fersiwn Saesneg yn cyfateb i’r
Gymraeg: Awgrym i ystyried codi dau dŷ
yn hytrach na thri, fyddai’n rhyddhau lle parcio It was suggested that two |
|
CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 PDF 1 MB Cymuned: Llanberis a Nant Peris Ward: Llanberis Bwriad: Gorchymyn Cyngor Gwynedd (amryw ffyrdd Sirol, Ardal Arfon)
(Cyfyngiad cyflymder 30 M.Y.A.) 2023 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo cadw cyfyngiad cyflymder yn 30mya
ar ddarn o’r ger Pendre Castell ar y A4086 a chadw cyfyngiadau cyflymder yn
30mya ar y A4086 rhwng maes parcio a theithio Nant Peris a Pont Gwastadnant Cofnod: Cymuned: Llanberis a Nant Peris Ward:
Llanberis Bwriad: Gorchymyn Cyngor Gwynedd (amryw ffyrdd
Sirol, Ardal Arfon) (Cyfyngiad
cyflymder 30 M.Y.A.) 2023 a)
Adroddwyd bod Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn
Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ar 13
Gorffennaf 2022 yn dilyn penderfyniad Senedd Cymru. Cyn 17 Medi 2023, dylai awdurdodau lleol
ystyried pa ffyrdd cyfyngedig a ddylai aros yn 30mya. I’r perwyl hynny, roedd y
Cyngor wedi cyflwyno gorchymyn 30mya ar gyfer ardaloedd Arfon, Dwyfor a
Meirionnydd gyda gorchymyn ardal
Arfon yn cynnwys bwriad i gadw’r cyfyngiad cyflymder yn 30mya ar 37 rhan o
ffyrdd yr ardal. Ymgynghorwyd ar y
Cynllun 20mya arfaethedig gyda rhanddeiliaid ym
mis Rhagfyr 2022 fel rhan o’r broses cyn ymgynghori lle derbyniwyd sylwadau a
chyflwynwyd newidiadau i’r cynlluniau. Ymgynghorwyd ymhellach gyda
rhanddeiliaid a’r cyhoedd gyda’r cynlluniau diwygiedig yn Ebrill 2023. Yn mis
Gorffennaf 2023, fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, derbyniwyd e-bost yn
nodi gwrthwynebiad i’r gorchymyn i ddwy ran o Ffordd Dosbarth 1 A4086 gan
Cyngor Cymuned Llanberis (er nad oedd rhesymau dros y gwrthwynebiadau wedi eu
cyflwyno). Mewn ymateb i’r
gwrthwynebiadau, nodwyd bod y Swyddogion o’r farn y dylai rhannau hyn o’r
ffordd aros yn 30mya oherwydd bod y ffordd yn ffordd Dosbarth cyntaf, bod y
nifer o dai ar ymyl y ffordd yn llai na 20 adeilad/km a bod tai sydd heb ffordd
mynediad preifat o’r ffordd fawr ar un ochr i’r ffordd yn unig ac effaith ar
wasanaethau brys. Ategwyd bod y ffyrdd dan sylw yn 30mya ar hyn o bryd ac felly
nid yw'r gorchymyn yn cynnig unrhyw newid i'r sefyllfa bresennol ar y ffordd.
Er bod swyddogion yn llwyr ddeall dymuniadau Cyngor Cymuned Llanberis, nid yw’r
dymuniadau hynny’n cyd-fynd â chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod.
Er hynny, bydd yr Uned Draffig yn parhau i fonitro traffig ar y rhannau yma o’r
ffordd gyda’r bwriad o adolygu’r penderfyniad ymhen 6 mis. Ategwyd bod
gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 wedi eu hystyried wrth asesu’r bwriad. a) Cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r eithriadau b) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw
canlynol gan Aelod: ·
Byr
iawn yw rhannau yma o’r ffyrdd felly cadw i 20mya er diogelwch Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â gosod darn byr o 30mya ar Ffordd Pentre’ Castell cyn gostwng
ymhellach i 20mya, nodwyd bod yr Uned Draffig wedi ystyried bod mynd i lawr o
60mya i 20mya yn ormod o gam ac felly bod ‘byffer’ byr o 30mya wedi ei osod er
mwyn gostwng cyflymdra yn raddol. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cadw
cyfyngiad cyflymder yn 30mya ar ddarn o’r ger Pendre Castell ar y A4086 a chadw
cyfyngiadau cyflymder yn 30mya ar y A4086 rhwng maes parcio a theithio Nant
Peris a Pont Gwastadnant |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C21/1220/42/LL Morlais Lôn Penrallt, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6EP PDF 478 KB Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu – amodau 1. Amser 2. Yn unol â
chynlluniau 3. Deunyddiau 4. Cynllun Rheoli Adeiladu 5. Materion Bioamrywiaeth 6. Materion yn ymwneud a’r clogwyn 7. Gwarchod y llwybr cyhoeddus 8. Tynnu hawliau PD 8. Withdrawal of PD rights Cofnod: Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd
yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni Roedd
rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23 a)
Amlygodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r
penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau
gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad. Nodwyd mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le
ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ
newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a
gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a
charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi
ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal
Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen
i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn
gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn
arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac
ymlaen at y traeth islaw. Eglurwyd
bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr
1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu
edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r
safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Llŷn ac Enlli a thu
allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r
cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a
dderbyniwyd oedd yn cynnwys gorffeniadau
allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr
AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol). Ategwyd,
yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol
sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod
ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y
cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r
cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly'r llwybr yn aros
fel y mae. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd
i’r clogwyni ac effaith andwyol ar yr ardal. Yng nghyd-destun polisïau perthnasol, cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C23/0432/11/LL Helipad, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW PDF 433 KB Cael
gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dau lanfa newydd i
gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd
feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl
ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau glanio wedi'u goleuo, ffensys
diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion. AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Gareth Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n
ymwneud â'r materion canlynol:
Nodiadau 1. Dŵr Cymru 2. Cyfoeth Naturiol Cymru 3. Uned Draenio Tir Cofnod: Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd
presennol ac adeiladu dwy lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y
gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd,
padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a
llociau i gynnal yr hofrenyddion. a) Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cyfleuster
glanio newydd ar gyfer hofrenyddion ger Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Byddai’r gwaith yn cynnwys; ·
cael gwared ar y pad
glanio hofrennydd presennol ·
creu dwy lanfa newydd trwy: o ailraddio'r
dirwedd gan greu dau arglawdd gyda llain wastad siâp cylch y tu cefn iddynt o gosod lleiniau caled ar gyfer padiau glanio o gwaith draenio dŵr wyneb o gosod rhwystrau glanio newydd wedi’u goleuo o codi ffensys diogelwch o creu llociau i gynnal yr hofrenyddion o gwaith peirianyddol cysylltiedig. Eglurwyd bod y
llain glanio wedi ei leoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r ysbyty, ar lain o dir
llethrog mewn safle dyrchafedig uwchben y ddinas, sydd, yn ôl yr Awdurdod
Hedfan Sifil, yn cynnig llwybrau hedfan da i mewn ac allan o dir yr ysbyty.
Saif yr ysbyty ar gyrion deheuol Canolfan Isranbarthol Bangor ym maes dref
Penrhosgarnedd. Mae’r safle hefyd yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb
Gofrestredig Crug Goetre Uchaf. Yng nghyd-destun
egwyddor y datblygiad, ystyriwyd fod y cynllun ar gyfer gwella gwasanaeth
hanfodol a gynigir ar gyfer cymunedau Gwynedd yn cwrdd gyda meini prawf maen Prawf 1 Polisi ISA 2 y CDLl ac felly bod egwyddor y cais yn dderbyniol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol, nodwyd
y byddai’r
datblygiad hwn mewn lleoliad cuddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyfagos. Mae
llwybr cyhoeddus Rhif 39 Cymuned Bangor yn rhedeg heibio ffin ogleddol y safle
ond mae gwrych aeddfed rhwng y llwybr hwn a’r safle. Mae'r rhan fwyaf o'r
golygfeydd o’r safle o bell ac yng nghyd-destun y safle datblygedig presennol
a’r ysbyty gerllaw. Wrth ystyried y tirlun lleol a’r coed a gwrychoedd
presennol sy’n amgylchynu’r safle, ni fydd newid arwyddocaol i olwg y safle fel
y’i gwelir o’r tu allan. Nodwyd bod potensial y bydd sŵn ac ymyrraeth ddeillio o gyfleuster
o’r math yma ond nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol waeth na’r hyn sydd
eisoes yn digwydd. Ni fydd cynnydd arwyddocaol yn nefnydd y safle, ond yn
hytrach defnydd mwy effeithlon gyda’r drafnidiaeth sydd angen defnyddio’r
lleiniau glanio, yn enwedig mewn achos argyfwng pan fydd mwy nag un hofrennydd
angen glanio mewn cyfnod byr o amser. Amlygwyd bod y
safle oddeutu 200m o’r tai preswyl agosaf ac ni ystyriwyd y bydd niwed
ychwanegol arwyddocaol i fwynderau preswylwyr lleol yn deillio o'r datblygiad
ac felly'r cynnig yn dderbyniol dan ofynion polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod asesiad ecolegol o’r safle wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r casgliad nad oes diddordeb bioamrywiaeth arbennig i’r safle ei hun er bod y ffiniau o arwyddocâd ar gyfer bywyd gwyllt yn bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu – amodau :
Nodyn:
Dŵr Cymru
Draeniad cynaliadwy Cofnod: Dymchwel yr hen
lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23 a) Amlygodd yr Uwch
Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r pwyllgor
cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg
2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad
safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei
leoliad. Adroddwyd
mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy
“canolradd” ( dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair
llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal
breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi
bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd
yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon
Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y
blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r
afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012. Cyflwynwyd
y datblygiad gan Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd”. Byddai’r tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu
rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol. Tynnwyd sylw at y nifer
o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar
Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y
byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae
pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n
mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth. Er
gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad
mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y
stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y
cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y
datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd
bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu
trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar
y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon
presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a
achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a
ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell. Yng
nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl)
gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a
ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y
NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn
ogystal roedd yr ACLl yn cynnig cyfres o
fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU PDF 432 KB Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a
chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn cynnal ymweliad
safle Cofnod: Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol
a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
yr Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i
ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd
ar wahân gyda gwaith cysylltiol. Bydd balconi allanol i’w gynnwys ar ran o
lawr cyntaf edrychiad de ddwyrain y tŷ sef yr edrychiad fyddai’n edrych i
ffwrdd o unrhyw eiddo cyfagos. Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac
oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r cais wedi ei ddiwygio ddwywaith
o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn
trafodaethau gyda swyddogion. Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor
Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y
tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill. Eglurwyd bod y
safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd
ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Mae’r bwriad felly yn
bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI). Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau
lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Yn ddibynnol ar raddfa
datblygiadau, disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol
â throthwy a adnabyddir ar gyfer aneddleoedd y Sir. Yn
achos pentref Edern, sydd wedi ei adnabod fel pentref gwledig/arfordirol/lleol,
y trothwy yw 2 neu fwy o unedau. Gan fod
y bwriad hwn yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn unig nid yw’n cwrdd â’r
trothwy yma ar gyfer ystyried darpariaeth fforddiadwy. Yng nghyd-destun
mwynderau gweledol nodwyd, yn bresennol bod y safle yn cynnwys siediau
diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o
fewn y llain. Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r
adeiladau presennol ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd, bod yr adeilad wedi
ei ddiwygio o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae’r tŷ newydd wedi ei
leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu, ac er bod hyn yn golygu
ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio
ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyrir fod ei leoliad o fewn y safle yn
afresymol. Mae uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn
3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei amgylchynu, i gyfeiriad y de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin gan dai annedd gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin deheuol/de-ddwyreiniol y safle. Mae elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau presennol. Mae tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos sydd yn lleihau rhywfaint ar yr effaith. Credir fod ymgais gwirioneddol wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |