Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth A Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod â buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Cai
Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0772/20/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn
Aelod o Fwrdd ADRA Roedd yr Aelod o’r farn
ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y
drafodaeth na phleidleisio ar y cais. b)
Datganodd yr aelod canlynol ei bod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitem
a nodir: ·
Y
Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C23/0793/40/DT) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26ain Chwefror 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Codi adeilad i ddarparu gofod swyddfa a ffreutur
(Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel, mynediad, gwasanaethu, tirlunio a
gwaith cysylltiedig arall. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg
ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda: 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3.
Rhaid gweithredu yn unol ag
argymhellion yr adroddiadau ecolegol / coed 4.
Rhaid dilyn y dulliau gweithredu a’u
hamlygir yn y CEMP / cynllun atal
llygredd 5.
Rhaid gweithredu yn unol ag
argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd 6.
Caniateir defnyddio’r adeilad at
ddibenion o fewn Dosbarth Defnydd B1 yn unig 7.
Amodau Dŵr Cymru 8.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog 9.
Amodau CNC 10.
Os, yn ystod y datblygiad, y canfyddir
bod halogiad nas adnabuwyd yn flaenorol yn bresennol ar y safle yna ni fydd
unrhyw ddatblygiad pellach (oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r
Awdurdod Cynllunio Lleol) hyd nes y ceir strategaeth adfer yn manylu ar sut y
bydd yr halogiad diamheuol yn cael ei weithredu wedi ei gyflwyno a’i
gymeradwyo’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Nodiadau: 1. Dŵr Cymru 2. Uned Draenio Tir 3. CNC Cofnod: Codi adeilad i
ddarparu gofod swyddfa a ffreutur (Dosbarth B1) gan gynnwys storio sbwriel,
mynediad, gwasanaethu, tirlunio a gwaith cysylltiedig arall. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymateb i’r Cynllun Rheolaeth Adeiladu
Amgylcheddol a Chynllun Atal Llygredd a gyflwynwyd ·
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd
ar gyfer codi adeilad newydd
er mwyn darparu gofod swyddfa a chantîn (Dosbarth Defnydd B1) i wasanaethu
safle busnes Siemens yn Llanberis ynghyd â datblygiadau cysylltiedig; byddai'r datblygiad yn cynnwys codi
adeilad tri llawr ar dir glas
llethrog i’r gogledd o adeiladau presennol y cwmni. Ategwyd bod yr angen am y cyfleuster newydd wedi codi yn
sgil gwaith adnewyddu yn un o’r adeiladau eraill
sydd ar y safle yn ymwneud
ar angen am ragor o ofod ar
gyfer gweithgynhyrchu. Byddai’r adnewyddu yn golygu colled
o ofod gwasanaethol megis swyddfeydd a chantîn sydd bellach
wedi eu gosod
mewn adeiladau dros dro. Nodwyd
na fyddai’r bwriad yn golygu
cynyddu dwysedd defnydd y safle ond yn hytrach
ymgais ydyw i ddarparu cyfleusterau
cefnogol priodol i wasanaethu’r busnes presennol. Adroddwyd, yn unol
ag anghenion y Gorchymyn
Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (fel y'i diwygiwyd) bod y datblygiad yn cael
ei ddiffinio fel “datblygiad mawr” oherwydd maint yr arwynebedd llawr a fwriedir ei ddarparu. Yn unol â’r drefn
briodol fe dderbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan
o’r cais. Mae’r adroddiad yn dangos fod
y datblygwyr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwr statudol cyn cyflwyno cais
cynllunio ffurfiol. Yng nghyd-destun egwyddor
y datblygiad, nodwyd bod safle’r cais wedi
ei leoli y tu allan i
ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol
Llanberis fel y'i diffinnir gan y CDLl, ond yn
rhan o safle mawr sydd eisoes
mewn defnydd ar gyfer diwydiant.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 1 y CDLl
sy’n annog gwrthod datblygiadau tu allan i’r
ffiniau datblygu oni bai eu bod yn unol â pholisïau
cynllunio lleol neu genedlaethol eraill neu fod y cynnig yn
dangos bod lleoliad yng nghefn gwlad
yn hanfodol. Yn yr achos yma, o ystyried
mai ymestyn y busnes presennol sydd eisoes ar
y safle yw’r bwriad, ystyriwyd ei fod yn
gwbl ddisgwyliedig i’r cyfleuster gael ei ddarparu
ar y safle ac felly bod cyfiawnhad priodol dros ganiatáu datblygiad
o'r fath yn y lleoliad hwn. Yng nghyd-destun materion Isadeiledd a Chynaliadwyedd amlygwyd bod Dwr Cymru wedi cadarnhau bydd capasiti digonol yr y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad erbyn diwedd Mawrth 2025 ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Nodwyd hefyd bod angen systemau draenio cynaliadwy (SDC) i reoli dŵr wyneb ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy na 100m2 o arwynebedd llawr a darparu cais i’r Corff Cymeradwy SDS i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Coed ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth ynghyd ag Asesiad Effaith Ecolegol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C23/0772/20/LL Tir ger Y Wern, Y Felinheli, LL56 4TZ PDF 244 KB Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd
cysylltiedig AELODAU LLEOL: Cynghorydd Iwan Huws a’r
Cynghorydd Sasha Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Cynllunio ganiatáu’r cais yn sgil asesiad pellach o’r angen am
gyfraniad addysgol ac i Gytundeb 106 priodol os oes angen. Bydd caniatâd yn
ddarostyngedig i’r amodau isod :
-
amod rhag-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo manylion mewn perthynas â blychau adar ac ystlumod. - amod
cyn-feddiannaeth ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo Cynllun Sefydlu a Chynnal a
Chadw 5 Mlynedd fel y'i dogfennir yn y Datganiad Seilwaith Gwyrdd
Nodyn
– Dŵr
Cymru, Uned Draenio Tir, Uned Trafnidiaeth, Gwasanaeth Tân a Cyfoeth
Naturiol Cymru Cofnod: Residential
development and associated infrastructure works Attention was drawn to the late observations form
regarding educational Datblygiad anheddol a gwaith isadeiledd cysylltiedig Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr ynglŷn â chyfraniad addysgol, sylwadau pellach oddi wrth y
Cyngor Cymuned yn datgan pryder ynghylch llifogydd, draenio a pharcio, materion bioamrywiaeth ynghyd ag ymateb
asiant yr ymgeisydd i’r sylwadau / pryderon hynny. a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn
ydoedd am ddatblygiad anheddol gyda gwaith
isadeiledd cysylltiedig ar ddarn o dir
sydd tu allan,
ond yn union gerllaw, ffin ddatblygu
Pentref Arfordirol / Gwledig y Felinheli fel y’i diffinnir
yn y CDLl. Y cynnig yn cynnwys : ·
23 annedd fforddiadwy ·
Gwaith tirweddu gan gynnwys plannu coed a gwrychoedd newydd ·
0.14 ha o dir agored cyhoeddus ynghyd a man chwarae penodol ·
Mynedfa gerbydol newydd i’r de o stad y Wern trwy
fan parcio anffurfiol presennol (fydd y mannau parcio presennol
yn cael eu
hadleoli) ·
Creu ffordd stad newydd i gwrdd
â gofynion mynediad cerbydau gwasanaethol ·
Mesurau draenio fydd
yn golygu creu dau bwll
cadw dŵr wyneb ac arallgyfeirio’r garthffos gyhoeddus bresennol. Eglurwyd bod safle’r cais yn rhannol
ar dir llwyd
ger y stad dai presennol, yn rhannol
ar safle coediog sydd wedi
gordyfu gyda’r gweddill ar dir
amaethyddol. Saif yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb Gofrestredig Gwersyll Dinas (CN 047) a rhan fechan o’r safle
o fewn Parth Llifogydd B fel y’i diffinnir
gan y mapiau sy’n cyd-fynd â Nodyn Cyngor Technegol 15 “Datblygu a’r Perygl
o Lifogydd”. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, cyfeiriwyd at Polisi TAI16 sy’n galluogi datblygu tai ar safleoedd sydd
y tu allan, ond yn ffinio
â ffiniau datblygu ond bod rhaid sicrhau
fod y bwriad yn cydymffurfio yn effeithiol â gofyniad y Polisi. Fel eithriad i’r polisïau
tai arferol, gallai cynigion ar gyfer
datblygiadau o 100% tai fforddiadwy
fod yn addas ar safle o’r
math hwn sy’n ffinio’n uniongyrchol gyda ffin ddatblygu.
Nodai’r polisi bod rhaid i’r safle
ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle; yma fe
nodwyd bod safle’r cais yn llenwi
bwlch o fewn patrwm datblygu’r pentref gyda datblygiad
presennol yn amgylchynu tair ochr.
Ategwyd
bod Polisi TAI16 hefyd yn gofyn
dangos na ellir cyfarch yr angen cydnabyddedig o fewn amserlen resymol
ar safle marchnad y tu mewn
i’r ffin datblygu sy’n cynnwys
gofyniad am dai fforddiadwy. Adroddwyd nad oedd unrhyw
safleoedd tai wedi eu clustnodi o fewn ffin datblygu’r
Felinheli ac wrth ystyried cyfyngiadau ffisegol y tir o fewn ffiniau’r pentref o safbwynt materion megis serthedd a pherygl llifogydd, ni ystyriwyd
bod tebygrwydd i safle addas ar gyfer datblygiad o’r maint hwn
fod ar gael
o fewn y pentref mewn amser rhesymol. Nodwyd hefyd bod yn rhaid i gynigion ar safle o’r fath fod ar gyfer datblygiad ar raddfa fach sy’n gymesur â maint yr anheddle oni bai y gellid dangos yn glir bod angen amlwg am safle mwy. Noder fod 1,177 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C23/0793/40/DT Ty'n Llwyn, Llannor, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5UG PDF 177 KB Newidiadau allannol i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif
C08D/0205/40/LL yn cynnwys estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau
allannol.. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod. 1.
Ni fyddai maint, swmp, dyluniad na gorffeniad y
datblygiad arfaethedig yn cyfleu na pharchu'r safle gan y byddai'n creu nodwedd
anghydweddol annerbyniol ar ffurf a chymeriad y tirlun a'r ardal leol ac,
felly, ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Mae'r bwriad, felly, yn groes i
ofynion meini prawf 1, 2 a 3 o Bolisi PCYFF 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd â'r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor
Technegol 12: Dylunio. Cofnod: Newidiadau allanol i
gynllun a ganiatawyd yn flaenorol dan gynllun rhif C08D/0205/40/LL yn cynnwys
estyniad llawr cyntaf, edrychiad a deunyddiau allanol a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd ar gyfer codi estyniadau
i dŷ deulawr. Eglurwyd bod y Cyngor wedi rhoi hawl
am estyniadau unllawr a rhannol ddeulawr o dan gyfeirnod C08D/0205/40/LL yn 2008
gyda rhan o'r estyniadau ar lefel unllawr
wedi eu codi
yn rhannol, a bod y cais yma yn
golygu newid y cynllun a ganiatawyd yn 2008. Ategwyd
bod yr estyniadau wedi eu lleoli ar edrychiad
blaen, ochr a chefn y tŷ ac o ddyluniad modern ac yn sylweddol fwy na'r
adeilad presennol. Nodwyd bod y safle wedi
ei leoli yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu fel y
diffinnir yn y CDLl. Yr eiddo presennol yn dŷ
deulawr traddodiadol wedi ei orffen gyda chwipiad cerrig gyda’r eiddo preswyl
agosaf oddeutu 120m i ffwrdd. Cyflwynwyd y cais i'r
pwyllgor ar gais yr aelod lleol. Cyfeiriwyd at Bolisi
PCYFF3 sy’n datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i
adeiladau a strwythurau presennol os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini
prawf. Roed yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod y bwriad, oherwydd ei
faint, swmp, dyluniad a gorffeniad yn creu nodwedd estronol yng nghefn gwlad
agored a chael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal
oherwydd na fyddai yn gweddu gyda chymeriad ac edrychiad y tŷ presennol a
thai ardal cefn gwlad. O ganlyniad, ni
fyddai’r bwriad yn cyfarfod meini prawf 1, 2 a 3 o bolisi PCYFF3 o fewn y CDLl sy'n sicrhau fod cynigion yn ychwanegu at ac yn gwella
cymeriad ac ymddangosiad y safle a'r adeilad o ran gosodiad, ymddangosiad,
graddfa, uchder, mas a thriniaeth edrychiadau; yn parchu cyd-destun y safle a'i
le yn y dirwedd leol; ac yn defnyddio deunyddiau sy'n briodol i'r hyn sydd o'u
hamgylch, na gofynion Nodyn Cyngor Technegol 12: Dylunio sy'n cefnogi cynigion
o ddyluniad o safon uchel. Nid oedd unrhyw
wrthwynebiadau yng nghyd-destun priffyrdd, mynediad ac iaith ac roedd yr Uned
Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr arolwg ystlumod a dderbyniwyd ynghyd a
chynlluniau yn cynnig gwelliannau bioamrywiaeth yn dderbyniol. Wedi ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail ei
faint, swmp, dyluniad a gorffeniad a fyddai’n creu nodwedd estronol yng nghefn
gwlad ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal.
Ystyriwyd y bwriad yn annerbyniol ac argymhellwyd ei wrthod. b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr asiant y sylwadau canlynol; ·
Bod
y cais yn un ar gyfer estyniadau a newid deunyddiau i gais a gafodd ei
gymeradwyo yn 2008 o dan cyf:C08D/0205/40/LL ·
Bod
y cais gwreiddiol yn un i greu estyniad llawr gydag arwynebedd o 242m2, ag
estyniad llawr cyntaf o 60m2 i’r tŷ presennol yn Tŷ’n Llwyn. · Bod gwaith adeiladu wedi dechrau rhai blynyddoedd yn ôl ac wedi peidio stop ers rhai blynyddoedd bellach, ond cyn ailddechrau mae’r ymgeisydd eisiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C23/0806/0O/LL Gerddi'r Draphont, Stryd Yr Eglwys, Abermaw, LL42 1EL PDF 375 KB Gwaith
arfaethedig yn ardal Gerddi'r Draphont yn Abermaw i: 1.
Atgyweirio, cryfhau a
chodi uchder oddeutu 60m o hyd o wal fôr, 2.
Adeiladu wal eilaidd
gyda giât lifogydd newydd yn
yr ardal tu ôl i'r wal fôr
gynradd (rhwng yr A496 a'r wal fôr
gynradd), 3.
Gosod system ddraenio newydd er mwyn
rheoli dwr wyneb a gorlifo yn yr ardal tu ôl i'r wal eilaidd a'r giatiau llifogydd, 4.
Mewnosod offer gwydnwch
rhag llifogydd, 'Property Flood Resilience', ar eiddo yn ardal y cei. 5. Mewnosod
pibell arllwys dwr wyneb newydd yn y wal fôr. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Rob Triggs Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau
Nodyn:- SuDS,
Cyngor CNC, Network Rail,
Gwarchod y Cyhoedd a Dŵr Cymru i’r datblygwr Cofnod: Gwaith arfaethedig yn ardal
Gerddi'r Draphont yn Abermaw a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar
gyfer gwella’r mecanweithiau amddiffyn rhag llifogydd. Byddai’r gwaith yn
cynnwys:- ·
Atgyweirio,
cryfhau a chodi uchder tua 60m o wal môr; ·
Codi
wal eilaidd gyda giatiau llifogydd newydd yn yr ardal tu ôl i’r brif wal fôr; ·
Gosod
rhwydwaith draenio newydd er mwyn rheoli dŵr wyneb a gorlifo yn yr ardal
tu ôl i’r wal eilaidd a’r giatiau llifogydd; ·
Gosod
pibell allfa ddŵr wyneb newydd sy'n ymwthio o’r wal môr i’r harbwr; ·
Gosod
offer gwydnwch rhag llifogydd mewn eiddo yn ardal y cei. Adroddwyd y byddai
wal fôr yn cael ei ail adeiladu a’i wynebu gyda charreg o’r wal bresennol gyda rhan wal
parapet oddeutu 1.2 medr uwchlaw lefel y llawr cyfagos. Byddai’r ‘rock armour’ presennol yn cael ei ail ddosbarthu ar ran uchaf y
traeth, ar draws ffrynt y wal fôr a’i atgyfnerthu gyda cherrig ychwanegol fel y
galw. Byddai wal wrth gefn newydd yn
cael ei chodi ar ffin ogleddol Gerddi’r Draphont a fyddai’n cynnwys gwydr ar y
rhan uchaf. Byddai’r gwaith hefyd yn
cynnwys cynllun i reoli dŵr wyneb gyda gatiau llifogydd, gwterydd,
draeniau ac amrywiaeth o addasiadau i’r system bresennol ynghyd ag allfa
dŵr wyneb newydd ar y traeth. Ar ddiwedd y gwaith byddai’r man cyhoeddus
yn Gerddi’r Draphont yn cael ei adfer drwy waith tirweddu a gosod dodrefn stryd
newydd. Yng nghyd-destun
egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol oddi fewn i ffin ddatblygu
Abermaw. O ganlyniad a heb opsiwn arall
o ran lleoliad neillog ar gyfer darparu’r gwaith, ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran Polisi PCYFF 1 CDLl. Cyfeiriwyd at polisi AMG 4, sy’n cyfeirio at
Warchod yr Arfordir ac yn gofyn i gynigion ddangos bod budd economaidd a
chymdeithasol gorbwysol yn dod o’r datblygiad. Nodwyd hefyd y dylai cynigion
sicrhau nad oes niwed annerbyniol i ansawdd dŵr, mynediad cyhoeddus, yr
amgylchedd adeiledig, cymeriad y tirlun neu'r morlun ac effeithiau
bioamrywiaeth. Cyflwynwyd nifer o
adroddiadau technegol gyda’r cais oedd yn cynnwys tystiolaeth arwyddocaol oedd yn
cyfiawnhau'r gwaith dan sylw. Yn y Cynllun
Rheoli Traethlin mae’r polisi ar gyfer y rhan yma o Abermaw, sy’n cynnwys rhan
o’r harbwr a’r ffordd fynediad, ynghyd ag amddiffynfeydd glan y môr yn nodi
‘Cadw’r Llinell’. Datgan y Cynllun Rheoli Traethlin “y byddai angen cynnal a
chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr harbwr a chynnal amddiffynfeydd y
ffordd a’r rheilffordd ac, yn ôl pob tebyg, atgyfnerthu mwy ar amddiffynfa Ynys
y Brawd. Caiff hyn ei ystyried yn gynaliadwy ac mae’n cynnal defnydd pwysig yr
harbwr a mynediad i’r dref.” O ganlyniad,
ystyriwyd bod yr egwyddor o gynnal a chynyddu uchder amddiffynfeydd o gwmpas yr
harbwr, y ffordd a’r rheilffordd yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail polisi
ARNA 1 (fodd bynnag, bydd rhaid i'r cynllun gydymffurfio â nifer o bolisïau
eraill sy'n ystyried yr effaith ar yr amgylchedd). Yng nghyd-destun dyluniad a mwynderau, ystyriwyd, fel y gwelir gyda nifer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |