Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Beca Roberts yn Gadeirydd am 2024/25. Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd dau enw am y gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beca Roberts a’r
Cynghorydd Beth Lawton. PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Beca Roberts yn Gadeirydd am
2024/25. Darllenodd a
llofnododd y Cynghorydd Beca Roberts ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd
Cyngor Gwynedd am 2024/25 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd am 2024/25. Cofnod: Cynigiwyd ac
eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Ioan Thomas a’r
Cynghorydd Elfed P.Roberts. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd am 2024/25. Darllenodd y
Cynghorydd Ioan Thomas ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor
Gwynedd am 2024/25 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Kim Jones, John Pughe a Rob
Triggs. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu’r Cyn-gynghorydd a Chadeirydd y Cyngor hwn yn 1998-99, John E.James, a fu
farw yn ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Elwyn Edwards. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel
arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn
anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd i bawb ohonynt adferiad llwyr a buan. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Kim Jones ar enedigaeth mab, Caio Gwyn. Dymunwyd yn dda i holl blant ac ieuenctid
Gwynedd sydd ar eu ffordd i Eisteddfod yr Urdd ddiwedd y mis. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1)
Cwestiwn Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams A fydd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno sylwadau cryf i gael Trafnidiaeth
Cymru i newid eu meddyliau ynghylch tynnu pedwar trên yn ôl, dau bob ffordd
rhwng Machynlleth a Phwllheli, pan fydd eu Hamserlenni newydd ar gyfer
Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn cael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2024? Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl leol sy'n teithio i'r gwaith
ac adref, ac ar bobl leol ac ymwelwyr sy'n teithio pellter hir ar y
rheilffordd. A wnaeth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ystyried bod rheilffordd
Arfordir y Cambrian wedi cau am dri mis yn ystod y tair blynedd ddiwethaf i
waith gael ei wneud ar Draphont Abermaw heb unrhyw drenau yn rhedeg a bod y
gwasanaeth bws dros dro yn annibynadwy? Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig Diolch am y cwestiwn. Yn amlwg rwy’n deall y pryder lleol
ynglŷn â hyn, ac fel y gwelwch o’r ateb sydd wedi cael ei ddarparu, mi dderbyniodd
Arweinydd y Cyngor ohebiaeth gan James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth
Cymru ar y 10fed o Ebrill 2024 ynghylch y newidiadau yma ac mi wnes i ymateb ar
y 25ain o Ebrill yn gofyn am gadarnhad o’r statws ac yn nodi’r pryderon lleol. Hyd yn hyn, nid oes ymateb wedi dod i hynny,
ond rwy’n mawr obeithio y bydd yna newid, ac y bydd y teithiau trên yma’n cael
eu hail-strwythuro. Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams A fydd yr Aelod Cabinet yn cysylltu ag
Ysgrifennydd y Cabinet Dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, AS, i
bwyntio allan nad yw’r 32 o ddiwrnodau sydd ar gael i ymateb i’r ymgynghoriad
cyhoeddus ar yr amserlen newydd yn ddigonol? Ateb – Aelod Cabinet
Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig Rwy’n hapus iawn i fynd ar ôl hynny ac i wneud
y pwynt yn sicr. (2) Cwestiwn Y Cynghorydd Llio Elenid Owen Beth yw’r diweddaraf ar
brosiect Canolfan Lleu, yr hwb iechyd a lles ym Mhenygroes? Pryd fydd yna
unrhyw ddatblygiad a gwybodaeth i’r cyhoedd? Ateb – Aelod Cabinet
Oedolion, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd am y cwestiwn. Mae’n hynod bwysig cael aelod lleol yn codi mater sy’n berthnasol i’n cymunedau ni - yn yr achos yma Dyffryn Nantlle a thrigolion Gwynedd yn ehangach. Fel mae’n nodi yn yr ateb ysgrifenedig, Grŵp Cynefin sydd yn arwain ar y cynllun arloesol yma, ac felly roeddwn i’n teimlo ei bod yn briodol i ni gysylltu â Grŵp Cynefin. Mae’r ymateb ysgrifenedig yn cynnwys y wybodaeth a dderbyniwyd yn ôl gan y Grŵp, yn uniongyrchol gan y Prif Weithredwr, Melville Evans - a hoffwn achub ar y cyfle hwn i’w longyfarch ar y swydd a nodi ein bod yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef. Felly mae ei sylwadau ef ynghlwm yn yr ateb ysgrifenedig ac mae yna nifer o ffeithiau yna ac rwy’n meddwl mai teg fyddai i mi ddarllen yr ateb ysgrifenedig yn llawn. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 240 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
ATODIAD A – DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
Uwch Gyflogau Telir yr uwch gyflogau a
ganlyn: • Arweinydd • Dirprwy Arweinydd • 8 aelod arall o’r Cabinet • Arweinydd yr Wrthblaid
fwyaf • Cadeiryddion Pwyllgorau -
Pwyllgor Craffu (x3) -
Pwyllgor Cynllunio - Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael
ei gyfrif fel un Pwyllgor) -
Pwyllgor Pensiynau • Pennaeth dinesig (Cadeirydd
y Cyngor) ▪ Dirprwy Bennaeth
dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp
Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau - Grŵp Plaid
Cymru Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol Cofnod: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn cyflwyno’r
adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y
Cyngor. Mynegodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol ei phryder bod colli un o’r
cadeiryddiaethau craffu yn gwanhau’r Fforwm Craffu oherwydd y byddai holl
aelodau’r fforwm, namyn un, yn aelodau o un parti. Holodd hefyd pam na allai cadeirydd lleyg y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn aelod o’r Fforwm Craffu. PENDERFYNWYD
Uwch Gyflogau telir yr uwch gyflogau a
ganlyn: • Arweinydd • Dirprwy Arweinydd • 8 aelod arall o’r Cabinet • Arweinydd yr Wrthblaid
fwyaf • Cadeiryddion Pwyllgorau -
Pwyllgor Craffu (x3) -
Pwyllgor Cynllunio -
Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor) -
Pwyllgor Pensiynau • Pennaeth dinesig
(Cadeirydd y Cyngor) ▪ Dirprwy Bennaeth
dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi -
Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau - Grŵp Plaid
Cymru Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth
ar gyfer 2024/25. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth am 2024/25. Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth ar gyfer 2024/25. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth am 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O DDATGANIAD O BOLISI DRAFFT - DEDDF TRWYDDEDU 2003 PDF 187 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu
drafft, a dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau
golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen. Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd yn nodi ei bod yn ofynnol, yn unol ag
Adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003, i bob awdurdod trwyddedu gyhoeddi datganiad o
bolisi Trwyddedu pob 5 mlynedd, ac yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r Datganiad
o Bolisi Trwyddedu drafft a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac i
ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau
cywirdeb yn ôl yr angen. Diolchwyd i staff yr Adran am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft, a dirprwyo hawl i’r
Pennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl
yr angen. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:- Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys
aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach
na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol
er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi
datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i
wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu
torri. Mae’r Cyngor yma
yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion
Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y
Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o
drenau trwy’r flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o
bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond
yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma
yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio
neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau
torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o
drenau ac yn bendant dim eu torri. Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i
Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y
nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn
dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau
trwy’r flwyddyn. Cofnod: (A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys aruthrol i economi
Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach na hynny mae
pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol er mwyn mynd
i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau
torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o
drenau ac yn bendant dim eu torri. Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i
Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y
nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid
edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Bod
y Cyngor unwaith eto’n trafod sut mae Gwynedd wledig yn cael ei thrin gan y
sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan, ac yn ein gwaedu’n araf o’n
bodolaeth a’n troi i fod yn ddim byd mwy na Pharc Hamdden i Ymwelwyr. ·
Fel
un sy’n cynrychioli pentref Llanbedr ar y Cyngor, ei fod wedi blino clywed y
neges bod rhaid i’w etholwyr roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir, ac yn hytrach
ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Hawdd
dweud hynny os yn byw ar goridor yr M4 neu’r A55 efallai, ond rhywbeth sy’n
amhosib’ i’r sawl sy’n byw ar arfordir Orllewinol Gwynedd. ·
Bod
Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cael gwared â 4 trên y dydd, gyda thrên olaf y
dydd yn gadael Pwllheli am 17:42 rhwng Rhagfyr a Mawrth a 19:30 yn yr haf, a
thrên olaf y dydd yn gadael Machynlleth am 19:04 yn y gaeaf a 20:55 yn yr haf. ·
Bod
ganddo gyfarfod yn fuan gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a
Thrafnidaeth, Ken Skates, AS, i drafod Ffordd Osgoi Llanbedr, ac y byddai’n
codi’r pwynt ynglŷn â threnau hefyd, gan ei fod ar ddeall bod yr
Ysgrifennydd Cabinet wedi cymeradwyo’r newidiadau eisoes. ·
Y
dymunai ddiolch i’r ddau Aelod Seneddol, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville
Roberts, a hefyd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig, am
ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad llwyr i’r cynlluniau hyn. ·
Pan
gyfarfu Pwyllgor Rheilffordd Arfordirol y Cambrian ddiwethaf ar 22 Mawrth, ni
soniwyd gair gan Drafnidiaeth Cymru am y posibilrwydd o dorri nifer y trenau,
ac roedd Cadeirydd y Pwyllgor wedi cytuno i’w gais am gyfarfod brys o’r
Pwyllgor i drafod y sefyllfa. ·
Bod
Trafnidiaeth Cymru yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg. A wnaethpwyd asesiad o’r Gymraeg wrth wneud y
newidiadau hyn? Roedd yn ymddangos bod
Llywodraeth Cymru, trwy Drafnidiaeth Cymru, yn troi ei chefn unwaith eto ar ein
cadarnleoedd Cymraeg. · Petai Cymru yn wlad annibynnol, gellid edrych ar beth sydd orau i ni yng Nghymru, a byddai arian Trafnidiaeth Cymru yn aros ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na
ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref
clyd, addas a phwrpasol. Dyma yw amcan y
Cyngor yma. Rydym ni yn galw ar
Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd
gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a
lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai
ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn
ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â
chartref clyd, addas a phwrpasol. Dyma
yw amcan y Cyngor yma. Rydym ni yn galw
ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl
Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith
statudol a lleol i gefnogi cymunedau,
darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol. Cofnod: (A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap
Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na
ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref
clyd, addas a phwrpasol. Dyma yw amcan y
Cyngor yma. Rydym ni yn galw ar
Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd
gyntaf drwy fynd ati i greu Deddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a
lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac
awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Bod
meddwl am y di-boblogi mawr fu yng nghefn gwlad dros y ganrif ddiwethaf yn codi
pryder a hiraeth arno, a bod y di-boblogi hwnnw yn parhau. ·
Bod
Cyngor Gwynedd wedi bod ar flaen y gad o ran yr argyfwng tai, ac wedi cymryd
camau cadarnhaol mewn ymgais i ddatrys y broblem enfawr sy’n wynebu ein
cymunedau. ·
Mai
Deddf Eiddo yw’r cam naturiol nesaf er mwyn datrys yr argyfwng tai, gan y
byddai deddf o’r fath yn cynnwys polisïau fydd yn rhoi cymunedau yn gyntaf, gan
reoleiddio’r farchnad dai a sicrhau bod pobl leol yn cael cyfle teg i fyw yn eu
cymunedau. ·
Y
byddai Deddf Eiddo hefyd yn pwysleisio ar fuddsoddi yn lleol a chreu cyfle i
gymunedau gael cymorth i brynu asedau yn y gymuned, fel sy’n digwydd yn yr
Alban. ·
Y
byddai’r Senedd yn trafod materion yn ymwneud â thai dros y misoedd nesaf ac
roedd yn allweddol bod Deddf Eiddo yn cael ei derbyn fel rhan o amcanion y
Llywodraeth. Mynegodd aelodau
gefnogaeth frwd i’r cynnig. Nodwyd:- ·
Bod
hyn yn rhan o’r un stori â’r cynnig blaenorol, sef sut mae sicrhau cymunedau
iach a llewyrchus yng nghefn gwlad Cymru. ·
Bod
Deddf Eiddo yn rhywbeth cwbl sylfaenol.
Heb bobl, ni ellir cael cymunedau; heb dai, ni ellir cael pobl i fyw yn
y cymunedau hynny, a heb gymunedau ni fydd gennym economi yng nghefn gwlad. Cynigiwyd ac
eiliwyd gwelliant i ddiwygio brawddeg gyntaf y cynnig fel a ganlyn er mwyn
gwneud y cynnig yn fwy penodol yn ddaearyddol:- Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na
ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd
ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol. Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant ar
y sail bod angen i ni edrych ar ôl ein pobl ein hunain. Mynegodd aelod ei wrthwynebiad i’r
gwelliant gan nad oedd yn diffinio ‘pobl leol’ tra bod y cynnig
gwreiddiol yn cynnwys pawb. Mewn ymateb,
eglurodd y Swyddog Monitro na chredai fod geiriad y gwelliant yn amhriodol gan
fod ‘angen lleol’ yn derm cydnabyddedig ac mai cais am ddeddfwriaeth
ydoedd yn ei hanfod. Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe
gariodd. Yn ei sylwadau cloi, nododd y cynigydd mai ei bryder am y sefyllfa tai oedd un o’i brif resymau dros ddod yn gynghorydd, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13a |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru
wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu'r penderfyniad, a gofyn am
ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae’r penderfyniad gan
Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau
canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u
canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau
canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Mae’r Cyngor hwn yn gwrthwynebu'r
penderfyniad, ac yn gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan
Lywodraeth Cymru. Cofnod: (A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen o
dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu’r
penderfyniad, a gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan
Lywodraeth Cymru. Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:- ·
Flwyddyn
a hanner yn ôl, y bu i’r Cyngor bleidleisio yn unfrydol o blaid ei chynnig yn
galw ar y cyrff perthnasol i gadw canolfannau Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle
a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol, ond
roedd y penderfyniad diweddar i gau’r canolfannau hynny yn siomedig a thorcalonnus,
ac yn ergyd drom i Wynedd gyfan. ·
Y
daeth Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru, sy’n cynnwys pedwar Aelod Lleyg a saith
Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cymru, i benderfyniad mwyafrifol ddiwedd Ebrill i
dderbyn argymhellion Adolygiad Gwasanaeth y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo
Meddygol Brys (EMRTS), i uno canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng
ar safle newydd yng nghanol Gogledd Cymru, gyda’r union leoliad i'w benderfynu. ·
Bod
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys – y ddau ranbarth iechyd sydd
yn benodol am gael eu heffeithio yn sgil y penderfyniadau - yn erbyn y
penderfyniad, ond ni wrandawyd o gwbl ar angen na barn cyhoedd yr ardaloedd hyn
ar y mater. Gan hynny, roedd yn ofynnol
ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd a chynnal ymchwiliad llawn i'r penderfyniad. ·
Bod
yr argymhellion yn nodi y bydd y penderfyniad hwn yn galluogi mwy o bobl i elwa
ar yr arbenigedd clinigol a gaiff ei ddarparu gan dimau'r gwasanaeth gofal
critigol hwn a hefyd yn cynnwys darparu gwasanaeth pwrpasol ychwanegol ar y ffyrdd
ar gyfer cymunedau gwledig. Fodd bynnag,
fel roedd Aelodau Seneddol Gwynedd wedi nodi, roedd yna gwestiynau cwbl ganolog
sydd heb eu hateb eto, yn enwedig o gwmpas y ddarpariaeth bwrpasol ychwanegol
ar y ffyrdd, ac roedd y cyfan yn parhau yn gwbl amwys. ·
Na
chredid bod synnwyr o gwbl symud y canolfannau o Ddinas Dinlle a’r Trallwng, ar
gyrion rhai o ardaloedd mwyaf pellgyrhaeddol a gwledig Cymru, a’u hail-leoli
mewn ardal boblog ar gyrion yr A55 yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. ·
Bod
rhaid amlygu ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, ac fel aelodau
etholedig i elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a thimau clinigol Gwasanaeth Casglu a
Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) GIG Cymru.
Mae’r gwaith a’r gwasanaeth gwych maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu
gofal brys yn ein cymunedau yn hollol amhrisiadwy, ac mae elusen Ambiwlans Awyr
Cymru yn un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl. · Y dymunai hefyd ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgysylltu dros y misoedd diwethaf, a bod y gefnogaeth gref iawn yn lleol i gadw’r safleoedd hyn yn eu lleoliadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13b |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 147 KB Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybuddion o
gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2024 o’r
Cyngor ynglŷn â
chefnogaeth i ffermwyr. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybuddion o gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7
Mawrth, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogaeth i ffermwyr. |