Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Ioan Thomas yn Gadeirydd am
2025/26. Darllenodd a
llofnododd y Cynghorydd Ioan Thomas ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd
Cyngor Gwynedd am 2025/26 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd am 2025/26. Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr
is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beth Lawton a’r Cynghorydd Elin Walker
Jones. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd am 2025/26. Darllenodd y Cynghorydd Elin Walker Jones
ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2025/26 ym
mhresenoldeb y Prif Weithredwr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Beth Lawton, Edgar Owen, Nigel Pickavance, John
Pughe a Gareth Roberts. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd yn ddwys â’r Cynghorydd Angela Russell a’r teulu yn dilyn
colli ei gŵr fis Mawrth, a’i brawd yng nghyfraith
fis diwethaf. Cydymdeimlwyd hefyd
â theuluoedd dau gymwynaswr bro a fu farw’n ddiweddar, sef:- ·
Teulu Selwyn Williams, Blaenau Ffestiniog, ymgyrchydd ac academydd fu'n
flaengar ym maes sefydlu mentrau cymunedol. ·
Teulu Gareth Roberts, Deiniolen, hanesydd lleol a ddaeth â’r gorffennol
yn fyw yn ardaloedd y chwareli. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd
bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd i bawb
ohonynt adferiad llwyr a buan. Croesawyd y Cynghorydd Geraint Wyn Parry i’w
gyfarfod cyntaf o’r Cyngor hwn fel yr Aelod dros
Teigl, a diolchwyd unwaith eto i’r
Cyn-gynghorydd Linda Ann Jones am ei
holl waith dros y blynyddoedd. Llongyfarchwyd y Cynghorydd Gwilym Jones ar ddod yn daid eto,
i ferch fach
o’r enw Nansi. Llongyfarchwyd Clwb Rygbi (Dynion) Caernarfon ar ennill Cwpan Adran
1 Undeb Rygbi Cymru – y clwb cyntaf o Ogledd
Cymru i’w hennill. Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y cynhelir Etholiad y Senedd ar 7 Mai,
2026, nodwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol 2026 y Cyngor yn cael ei symud o’r
dyddiad hwnnw i’r 14eg o Fai. Nodwyd mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Cyngor
llawn y byddai Eirian Roberts (Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth) yn ei
gofnodi gan y byddai’n ymddeol ddiwedd Gorffennaf. Diolchwyd iddi am ei gwasanaeth yn cofnodi cyfarfodydd
y Cyngor dros nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio yn ei swydd ers dros ddeugain
mlynedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (1) Cwestiwn Y Cynghorydd
Gruffydd Williams Mewn cyd-destun y penderfyniad diweddaraf gan Y
Sefydliad Goruchaf, pa drefniadau sydd mewn lle er mwyn cadarnhau fod merched
yng Ngwynedd yn cael mynediad i lefydd a chyfleoedd o bob math ar gyfer merched
yn unig? Ateb yr Aelod Cabinet
Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y Cynghorydd Llio
Elenid Owen Mi wnâi ddarllen
yr ateb swyddogol i ddechrau. “Mae’r Cyngor yn y
broses o ystyried goblygiadau’r dyfarniad gan ystyried gwybodaeth bellach e.e.
Canllawiau Interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd ar 25
Ebrill. Dylid nodi bod y Comisiwn yn edrych
i ddiweddaru eu canllawiau ar ôl ymgynghori, a'u rhoi gerbron Llywodraeth San
Steffan cyn toriad yr haf. Yn ôl y
Comisiwn “Gwyddom fod gan lawer o bobl gwestiynau am y dyfarniad a'r hyn y
mae'n ei olygu iddynt. Bydd ein
canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi mwy o eglurder.” Byddwn yn edrych ar ein polisïau, canllawiau, gweithdrefnau, ac yn y
blaen, i weld os ydynt yn cyd-fynd gyda’r dyfarniad.” Fel sydd wedi cael ei nodi yn yr ateb, mae Canllawiau Interim y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gafodd eu cyhoeddi wythnos diwethaf, yn dilyn
dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad cyfreithiol o ddynes, a bydd angen
disgwyl y canllawiau terfynol fydd yn mynd gerbron y Llywodraeth cyn yr haf i
gael eglurder ac arweiniad pellach ar y sefyllfa. Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn mae’r Goruchaf Lys wedi’i nodi, sef nad
yw hyn yn fuddugoliaeth i’r naill ochr na’r llall. Diffiniad o fewn Deddf Cydraddoldeb yn unig
ydi hyn. Mae’n hynod bwysig pwysleisio
nad ydi’r farn gyfreithiol yma yn lleihau hawliau cyfreithiol pobl draws yn
erbyn gwahaniaethu, ac mae ail-bennu rhywedd yn un o’r 9 nodwedd sy’n cael eu
diogelu yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gruffydd Williams Yn unol â’r Ddeddf
Cydraddoldeb, mae rhyw yn golygu rhyw biolegol, ac mae gan ferched hawl
cyfreithlon i ystafelloedd newid cyhoeddus, ystafelloedd ymolchi a chanolfannau
argyfwng un rhyw, ac nid yw tystysgrif cydnabod rhywedd yn gwneud dyn yn ddynes
o dan y gyfraith. Ni all y dyfarniad fod
yn fwy eglur na hynny, ac yn sgil hynny hoffwn ofyn pa drefniadau, cyfleusterau
sydd angen cael eu gwneud, ac yn lle a phryd y gwelwn y newid er mwyn
adlewyrchu'r penderfyniad? Ateb yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y
Cynghorydd Llio Elenid Owen I bwysleisio’r hyn a gafodd ei ddweud yn yr ateb i’r cwestiwn cyntaf,
rydym ni, fel pob sefydliad arall, angen arweiniad pellach i allu ymateb yn
llawn ac yn gyfreithiol i’r dyfarniad yma. Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddatgan ein cefnogaeth ni a’n cydsafiad ni yma hefo’r gymuned draws. Dylai pawb fod yn rhydd i ddewis eu hunaniaeth rhywedd eu hunain a dylem barchu hynny, ac yn sicr ni ddylem eithrio pobl draws o gymdeithas. I ddyfynnu ac ategu’r hyn a ddywedodd y Cynghorydd Beca Roberts ar ddechrau’r cyfarfod yma, mae gan bawb yr hawl i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol ·
Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd am dymor y Cyngor hwn oni bai fod newid sylweddol yn y cydbwysedd
gwleidyddol – mae 1 sedd i Grŵp Plaid Cymru ac 1 sedd i’r Grŵp
Annibynnol ATODIAD A - DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
Uwch Gyflogau Yn unol â phenderfyniad
blaenorol y Cyngor telir yr uwch gyflogau a ganlyn: · Arweinydd · Dirprwy Arweinydd · 8 aelod arall o’r Cabinet · Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf · Cadeiryddion Pwyllgorau -
Pwyllgor Craffu (x3) -
Pwyllgor Cynllunio -
Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor) -
Pwyllgor Pensiynau ·
Pennaeth dinesig (Cadeirydd y
Cyngor) § Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y
Cyngor) Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith adroddiad yn
cyflwyno’r adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y
Cyngor. Nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, er sicrhau dilyniant, ei bod yn
hollbwysig bod is-gadeiryddiaeth pob pwyllgor craffu yn mynd i’r un grŵp
ag sy’n cael y gadeiryddiaeth. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod y pwyllgorau craffu yn unigryw oherwydd bod y cadeiryddiaethau yn
cael eu dyrannu ar sail balans gwleidyddol statudol. ·
Bod y cadeiryddiaethau ac is-gadeiryddiaethau eraill, ac
is-gadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu yn benderfyniad i’r pwyllgorau unigol
mewn statud. Nodwyd bod yna nifer o seddau gweigion ar bwyllgorau ers blynyddoedd a
gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth edrych ar hynny. PENDERFYNWYD ·
Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau
i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn Atodiad A (isod),
ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodir yn yr Atodiad. ·
Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Democratiaeth wneud
penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â
dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. ·
Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar
sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:- Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor
Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol ·
Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig y
Gogledd am dymor y Cyngor hwn oni bai fod newid sylweddol yn y cydbwysedd
gwleidyddol – mae 1 sedd i Grŵp Plaid Cymru ac 1 sedd i’r Grŵp
Annibynnol ATODIAD A - DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
Uwch Gyflogau Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Cyngor telir yr uwch
gyflogau a ganlyn: · Arweinydd · Dirprwy Arweinydd · 8 aelod arall o’r Cabinet · Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf · Cadeiryddion Pwyllgorau - Pwyllgor Craffu (x3) - Pwyllgor Cynllunio - Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a
Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor) - Pwyllgor Pensiynau ·
Pennaeth dinesig (Cadeirydd y
Cyngor) ·
Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y
Cyngor) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2025/26 Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth
ar gyfer 2025/26. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth am 2025/26. Cofnod: Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth ar gyfer 2025/26. PENDERFYNWYD
penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth am 2025/26. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU - ARGYMHELLION PANEL CYFWELD Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn penodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau Annibynnol
o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn argymell i’r
Cyngor benodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor
Safonau am gyfnod o 6 blynedd. PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau
Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWYGIO Y CYFANSODDIAD Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar y newidiadau dirprwyedig yn Atodiad 1
i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn adrodd ar
addasiadau dirprwyedig i’r Cynllun Dirprwyo yn Adran 13 o’r Cyfansoddiad (a
gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad). PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar y newidiadau
dirprwyedig yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENDERFYNIAD BRYS CABINET Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro, er gwybodaeth
yn unig, yn nodi:- ·
Y cyflwynwyd adroddiad eithriedig i’r Cabinet ar 8 Ebrill,
2025 yn adrodd ar yr adolygiad barnwriaethol o benderfyniad y Cabinet i
gadarnhau'r Gorchymyn Erthygl 4 yn 2024, ac yn ceisio cyfarwyddyd y Cabinet ar
y cyfeiriad. ·
Oherwydd amserlen cyflwyno
dogfennau a thystiolaeth i’r Llys, y bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn
unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i eithrio’r penderfyniad o’r drefn galw i
mewn er mwyn caniatáu i benderfyniad y Cabinet fod yn weithredol yn syth. Nododd aelod na ddeallai pam bod yr adroddiad wedi mynd
allan am sylwadau gan y cyhoedd, ond na ddaeth y sylwadau yn ôl i’r Cyngor
llawn, a holodd sut bod y Cyngor wedi dod i’r sefyllfa yma, a pham. Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro:- ·
Nad oedd yr adroddiad yn ymwneud
â’r adolygiad barnwrol ac nad oedd yr eitem honno ar y rhaglen. ·
Bod achos yn mynd ymlaen yn
gyhoeddus ac y gallai anfon manylion i’r aelod ynglŷn â’r sail sy’n cael
ei ddadlau gerbron y Llys. ·
Mai penderfyniad Cabinet oedd hwn, ac nad oedd hynny’n destun
her gyfreithiol o gwbl, nac yn rhan o’r achos sydd gerbron. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor yn
galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r
rhwydwaith dŵr yng Nghymru, fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Mae’r Cyngor yn galw
ar Lywodraeth San Steffan i
ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru,
fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau
pwysicaf. Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:- ·
Bod
yr argyfwng costau byw wedi taro’r mwyafrif o bobl yn ofnadwy o galed, a bod
gweld y bil dŵr wedi bron iawn dyblu wedi taflu llawer o deuluoedd i banig
a phryder. ·
Ei
bod yn ddigalon felly gweld bod dŵr yn cael ei werthu o Gymru heb i’r wlad
hon dderbyn arian teg amdano. ·
Ei
bod yn warthus bod y fath swm o arian yn cael ei bwmpio allan o Gymru yn
llythrennol, gan ychwanegu agos i ddim i’r economi Gymreig. ·
Fel
y nodwyd gan bwyllgor Seneddol, gallai codi ffi o lai na cheiniog y litr ar
ddŵr ddod â £400m i Gymru i’w ddefnyddio i fuddsoddi yn y rhwydwaith
dŵr a gostwng prisiau i gwsmeriaid. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:- Mae’r Cyngor yn galw
ar Lywodraeth San Steffan i
ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru,
fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Beca Brown Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:- Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi
dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn
uwch fyth. Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll
iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy
yma gydol eu hoes. Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud
yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth
ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth. Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am
y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n
hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw
gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol,
cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw
le, i unrhyw un. Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn
trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y
dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r
byd. Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad
yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am
ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar
Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw
camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd i dynnu
sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i
ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi
dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn
uwch fyth. Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll
iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy
yma gydol eu hoes. Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud
yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth
ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth. Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am
y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n
hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw
gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn
adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol,
rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un. Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn
trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y
dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r
byd. Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad
yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am
ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan
baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn
glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y
troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd
i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i
ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Beca Brown o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae 1 ymhob 4 dynes
ac 1 ymhob 6 dyn wedi dioddef camdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod, a
gall y ffigwr yna fod yn uwch fyth. Nid yn unig bod y
profiadau yma yn erchyll iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag
effeithiau’r troseddau ofnadwy yma gydol eu hoes. Mae dioddefwyr
camdriniaeth rywiol yn dweud yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael
iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob
dydd, am byth. Mae Mai 1af yn
ddiwrnod blynyddol i gofio am y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd
ddychrynllyd yma, ac i’n hatgoffa y gall camdriniaeth rywiol ddigwydd i unrhyw
blentyn, mewn unrhyw gymuned. Nid yw
camdriniaeth rywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol,
ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil.
Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un. Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu
sydd yn trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar
y dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rywiol drwy’r
byd. Galwn ar Gyngor
Gwynedd i adnabod y dyddiad yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n
ddiwrnod i gofio am ddioddefwyr. Galwn
ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn
er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rywiol, ond
cywilydd y troseddwr. Galwn ar Gyngor
Gwynedd i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar
gael i ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rywiol neu am bryderon diogelwch plant.
·
Bod
dioddefwyr trais rhywiol, yn aml iawn, yn cario cywilydd y drosedd, yn ogystal
â phoen dwfn am weddill eu hoes, ac mai nod yr ymgyrch Not my
Shame / Nid fy Nghywilydd oedd rhoi’r cywilydd yn ôl
lle dylai fod, sef ar ysgwyddau’r troseddwr. ·
Bod
camdriniaeth rywiol yn chwalu bywydau, yn rhwygo teuluoedd ac yn creithio
cymunedau ac yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl, iechyd corfforol, ar y
gallu i ffurfio perthynas, ar y gallu i riantu yn
effeithiol ac ar gyrhaeddiad addysgol ac economaidd. ·
Bod
derbyn ymateb cefnogol yn gwella llawer iawn ar fyd dioddefwyr sy’n datguddio
eu camdriniaeth, ac roedd modd i bobl broffesiynol (yn cynnwys gwleidyddion)
chwarae rhan, nid ansylweddol, yn lliniaru effeithiau camdriniaeth os ydyn
nhw’n ymateb yn briodol, yn amserol, yn gefnogol ac yn dosturiol. ·
Bod
camdriniaeth rywiol wedi bwrw ei chysgod dros y sir yma, fel mae’n bwrw ei
chysgod ymhob man, ac oherwydd bod sefydliadau lle mae nifer uchel o blant yn
cronni yn gallu denu troseddwyr, roedd yn bwysig bod yn effro i’r risgiau hynny
bob amser. · Ei bod yn bwysig cofio hefyd bod camdriniaeth rywiol o blant yn gallu digwydd mewn unrhyw gyd-destun, ac yn amlach na pheidio, yn eu cartrefi eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14b |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig
fel a ganlyn:- Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan. Unwaith eto, bydd Cynghorau
Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r
llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla Barnett yn seiliedig ar
faint y boblogaeth yn hytrach
nag angen. Mae’n annheg na fydd
gwasanaethau cyhoeddus
Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae
Cymru dan anfantais llwyr o
ganlyniad i lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan. Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl
am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o
bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu
£1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr. Mae Cyngor Gwynedd yn galw
felly ar Lywodraeth Cymru i
fynnu ffordd decach o ariannu ein gwlad gan
eu penaethiaid yn Llundain. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae gwasanaethau cyhoeddus
Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a
gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan. Unwaith eto, bydd Cynghorau
Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett
i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig. Mae’r
fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen. Mae’n annheg na fydd
gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn
enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o ganlyniad I lywodraeth
Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan. Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl
am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o
bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu
£1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr. Mae
Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffodd decach o ariannu
ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr
wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd
datganoledig. Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth
yn hytrach nag angen. Mae’n annheg na
fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae
Cymru dan anfantais lwyr o ganlyniad i Lywodraeth
Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan. Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y
ddwy Lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor
Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi
gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr. Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffordd
decach o ariannu ein gwlad gan
eu penaethiaid yn Llundain.
·
Bod
y Llywodraeth ganolog yn cyfrannu 81.8% o gyllideb y Cyngor yn 1997, ond erbyn
eleni, roedd y ffigwr hwnnw wedi disgyn i 69.5%. ·
Bod
hynny’n dangos y glir sut roedd Llywodraeth San Steffan wedi newid yn raddol y
ffordd o ariannu llywodraeth leol, gan symud yn araf o system dreth incwm, sef
treth flaengar, i system treth cyngor, sy’n dreth anflaengar. Golygai hynny bod y baich treth yn cael ei
symud o’r cyfoethog i’r tlawd. ·
Pan
gyhoeddodd Llywodraeth y DU y codiad yswiriant cenedlaethol i gyflogwyr,
rhoddwyd addewid y byddent yn digolledu gwasanaethau cyhoeddus am y gost
ychwanegol roeddent yn wynebu. Roedd
hynny wedi digwydd yn Lloegr, ond nid yng Nghymru. ·
Bod
hyn yn un esiampl yn unig o sut mae Cymru yn cael ei thanariannu gan Lywodraeth
y DU, ac y dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod Llywodraeth y DU yn newid y
fformiwla ariannu, nid yn unig ar gyfer digolledu yswiriant cenedlaethol, ond
ar gyfer ariannu ein gwlad yn gyffredinol. Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau ar y sail bod angen system ariannu briodol
sy’n adnabod angen a bod Fformiwla Barnett yn
gweithio yn erbyn cymunedau gwledig. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:- Mae gwasanaethau
cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol
a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan. Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr
wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei
roi i wledydd
datganoledig. Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth
yn hytrach nag angen. Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14c |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig
fel a ganlyn:- 1.
Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau
llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU
- boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur. 2.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau
pellach i fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabyddir y Cyngor hwn
mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn. Gyda chyfran o
18.1% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn
cael eu taro’n arbennig o galed gan y toriadau. Ym mhellach, mae pobl a ystyrir
yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5%
mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau
fel eu hunig ffynhonnell incwm. 3.
Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau
creulon polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor. Gwelwn gynnydd yn y galw am
wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r
gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y gwasanaethu hyn. Cydnabyddwn y pwysau a
roddir hyn ar gyllidebau'r Cyngor. 4.
Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw’r Cyngor Gwynedd ar
Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur
yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.
5.
Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw’r Cyngor
Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a
gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol. 6.
Er mwyn roi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynnir y Cyngor
hwn bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a
budd-daliadau, ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru
i warchod, gofalu a chynnal ein cymdeithas. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mae’r
Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau llymder ar
drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU - boed yn
llywodraethau Ceidwadol neu Lafur. 2.
Yn dilyn
cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i fudd-daliadau fydd yn
cyfansymu i £5 biliwn, cydnabyddir y Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i
bolisïau llymder yw’r toriadau hyn. Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd
yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o
galed gan y toriadau. Ym mhellach, mae pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn
llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac
felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell
incwm. 3.
Noda’r
Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon polisïau llymder
drwy wasanaethau’r Cyngor. Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai
cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol
ganlyniadol o gynnal y gwasanaethu hyn. Cydnabyddwn y pwysau a roddir hyn ar
gyllidebau'r Cyngor. 4.
Er mwyn
trigolion Gwynedd, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny
dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro
bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau. 5.
Er mwyn
sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol yn
ddigonol. 6.
Er mwyn
roi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynnir y Cyngor hwn bod Llywodraeth Cymru yn
galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau, ynghyd â’r holl
liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod, gofalu a chynnal
ein cymdeithas. Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o
gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Hywel o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac
fe’i eiliwyd:- Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau
llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU
- boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i
fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabydda’r
Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn. Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd yn
cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o
galed gan y toriadau. Ymhellach, mae
pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth,
gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu
ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell incwm. Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon
polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor.
Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety
argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y
gwasanaethau hyn. Cydnabyddwn y pwysau
mae hyn yn ei roi ar gyllidebau'r Cyngor. Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i
sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU
yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau. Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw Cyngor Gwynedd ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau
cymdeithasol yn ddigonol. Er mwyn rhoi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynna’r Cyngor hwn bod
Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau,
ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod,
gofalu a chynnal ein cymdeithas. Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:- ·
Ei bod yn
cyflwyno’r cynnig hwn gan ei bod wedi dychryn ynghylch amgylchiadau bywyd ein
trigolion mwyaf bregus, a hynny oherwydd penderfyniadau creulon ac ideolegol
gan Lywodraeth San Steffan, sydd wedi troi cefn ar bobl Gwynedd. ·
Y gwelwyd
toriadau pellach i’r system fudd-daliadau yn ystod y misoedd diwethaf, gan
gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol a’r cymorth gyda
chostau tai, a bod y toriadau hyn wedi dod heb unrhyw ymgynghoriad ystyrlon,
heb asesiad effaith cymdeithasol trylwyr, ac yn llwyr ddi-hid o ran eu heffaith
ar fywydau pobl go iawn. ·
Bod nifer y bobl
yng Ngwynedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wedi aros yn uchel dros y
blynyddoedd, gyda llawer ohonynt mewn gwaith, ond eto ddim yn gallu fforddio
byw. ·
Bod y toriadau i
gymorth costau tai yn creu pwysau digynsail, gyda rhent preifat yn codi a
dewisiadau’n lleihau. ·
Bod y toriadau yn
cynyddu’r galw ar ein gwasanaethau llesiant, tai, cyngor dyledion, a hyd yn oed
ein llyfrgelloedd, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn lle
o loches a chefnogaeth. · Bod y Cyngor hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gorfod camu i’r bwlch sydd wedi’i greu gan Lywodraeth San ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14d |