Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2025 a Chwefror 5ed, 2026 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. |
|
|
Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
STRATEGAETH CYFALAF 2026/27 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL BLYNYDDOL 2026/27 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) - DIWEDDARU'R CYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD (IAA) Cyflwyno adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DIWYGIADAU I GÔD YMDDYGIAD YR AELODAU A PHOLISI CHWYTHU'R CHWIBAN Y CYNGOR Cyflwyno adroddiad yr Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
CALENDR PWYLLGORAU 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG (A)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:- Ym
mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San Steffan parthed eu
cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol ar gyfer profi'r
hawl i weithio,a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau o’r
cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y Llywodraeth
yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am gyflogaeth
wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu ar-lein erbyn
2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal i gael ei
chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai Bod
y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu
cyfundrefn Digital Identification a bod Cyngor Gwynedd yn
galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r Llywodraeth yn yr Alban
a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol. (B)
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y
CYNGHORYDD ELIN HYWEL Yn
unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y
Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:- Mae’r Cyngor hwn yn
cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau
diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas
honno â phobl Gwynedd. Ni all democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth
y cyhoedd yn y rhai sy’n eu cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi
pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais
wrth lunio eu dyfodol. Noda dystiolaeth gan yr
Office for National Statistics fod ymddiriedaeth mewn
gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn
ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg
ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad. Yn wyneb hynny, mae’r
Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol
â thueddiadau ehangach ledled Cymru, gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28
o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan
nifer fawr o etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd. Cydnabu’r y Cyngor
bod y ffigyrau hyn yn amlygu her ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r
berthynas rhwng etholwyr a’u cynrychiolwyr. Cydnabu’r mai ein
hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n gosod safon y drafodaeth
ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na chynyddu
cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein
hunain. Mae’r Cyngor hwn yn
croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig
(Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod gonestrwydd a gwirionedd
wrth wraidd ein diwylliant democrataidd. Yn unol â hyn, mae’r
Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r
ddyletswydd i gynnal ac adfer ymddiriedaeth y cyhoedd. Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ac ... view the full Rhaglen text for item 13. |
|
|
YMATEBION A DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y
Cynghorydd Jina Gwyrfai i gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a Treth
Etifeddiant. |