Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Beca Roberts yn Gadeirydd am 2024/25.

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am y gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beca Roberts a’r Cynghorydd Beth Lawton.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Beca Roberts yn Gadeirydd am 2024/25.

 

Darllenodd a llofnododd y Cynghorydd Beca Roberts ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2024/25 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd am 2024/25.

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Ioan Thomas a’r Cynghorydd Elfed P.Roberts.

 

          PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd am 2024/25.

 

Darllenodd y Cynghorydd Ioan Thomas ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2024/25 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Kim Jones, John Pughe a Rob Triggs.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 680 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu’r Cyn-gynghorydd a Chadeirydd y Cyngor hwn yn 1998-99, John E.James, a fu farw yn ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Elwyn Edwards.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd i bawb ohonynt adferiad llwyr a buan.

 

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Kim Jones ar enedigaeth mab, Caio Gwyn.

 

Dymunwyd yn dda i holl blant ac ieuenctid Gwynedd sydd ar eu ffordd i Eisteddfod yr Urdd ddiwedd y mis.

 

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 119 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)       Cwestiwn Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

A fydd Cyngor Gwynedd yn cyflwyno sylwadau cryf i gael Trafnidiaeth Cymru i newid eu meddyliau ynghylch tynnu pedwar trên yn ôl, dau bob ffordd rhwng Machynlleth a Phwllheli, pan fydd eu Hamserlenni newydd ar gyfer Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn cael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2024?

 

Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar bobl leol sy'n teithio i'r gwaith ac adref, ac ar bobl leol ac ymwelwyr sy'n teithio pellter hir ar y rheilffordd.

 

A wnaeth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ystyried bod rheilffordd Arfordir y Cambrian wedi cau am dri mis yn ystod y tair blynedd ddiwethaf i waith gael ei wneud ar Draphont Abermaw heb unrhyw drenau yn rhedeg a bod y gwasanaeth bws dros dro yn annibynadwy?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Diolch am y cwestiwn.  Yn amlwg rwy’n deall y pryder lleol ynglŷn â hyn, ac fel y gwelwch o’r ateb sydd wedi cael ei ddarparu, mi dderbyniodd Arweinydd y Cyngor ohebiaeth gan James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru ar y 10fed o Ebrill 2024 ynghylch y newidiadau yma ac mi wnes i ymateb ar y 25ain o Ebrill yn gofyn am gadarnhad o’r statws ac yn nodi’r pryderon lleol.  Hyd yn hyn, nid oes ymateb wedi dod i hynny, ond rwy’n mawr obeithio y bydd yna newid, ac y bydd y teithiau trên yma’n cael eu hail-strwythuro.

 

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams

 

A fydd yr Aelod Cabinet yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet Dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, AS, i bwyntio allan nad yw’r 32 o ddiwrnodau sydd ar gael i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr amserlen newydd yn ddigonol?

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Rwy’n hapus iawn i fynd ar ôl hynny ac i wneud y pwynt yn sicr.

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Beth yw’r diweddaraf ar brosiect Canolfan Lleu, yr hwb iechyd a lles ym Mhenygroes? Pryd fydd yna unrhyw ddatblygiad a gwybodaeth i’r cyhoedd?

 

Ateb – Aelod Cabinet Oedolion, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd am y cwestiwn.  Mae’n hynod bwysig cael aelod lleol yn codi mater sy’n berthnasol i’n cymunedau ni - yn yr achos yma Dyffryn Nantlle a thrigolion Gwynedd yn ehangach.  Fel mae’n nodi yn yr ateb ysgrifenedig, Grŵp Cynefin sydd yn arwain ar y cynllun arloesol yma, ac felly roeddwn i’n teimlo ei bod yn briodol i ni gysylltu â Grŵp Cynefin.  Mae’r ymateb ysgrifenedig yn cynnwys y wybodaeth a dderbyniwyd yn ôl gan y Grŵp, yn uniongyrchol gan y Prif Weithredwr, Melville Evans - a hoffwn achub ar y cyfle hwn i’w longyfarch ar y swydd a nodi ein bod yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef.  Felly mae ei sylwadau ef ynghlwm yn yr ateb ysgrifenedig ac mae yna nifer o ffeithiau yna ac rwy’n meddwl mai teg fyddai i mi ddarllen yr ateb ysgrifenedig yn llawn.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 240 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2024/25 fel a nodir isod, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodir.

 

ATODIAD A – DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU

 

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12

5

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12

5

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

 

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10

4

1

15

Cynllunio

10

4

1

15

Trwyddedu Canolog

/Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

 

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5

2

0

7

 

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

 

Uwch Gyflogau

Telir yr uwch gyflogau a ganlyn:

• Arweinydd

• Dirprwy Arweinydd

• 8 aelod arall o’r Cabinet

• Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf

• Cadeiryddion Pwyllgorau

- Pwyllgor Craffu (x3)

- Pwyllgor Cynllunio

- Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor)

- Pwyllgor Pensiynau

 

• Pennaeth dinesig (Cadeirydd y Cyngor)

▪ Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor

 

  1. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
  2. Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Cymunedau - Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad yn cyflwyno’r adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

 

Mynegodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol ei phryder bod colli un o’r cadeiryddiaethau craffu yn gwanhau’r Fforwm Craffu oherwydd y byddai holl aelodau’r fforwm, namyn un, yn aelodau o un parti.  Holodd hefyd pam na allai cadeirydd lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn aelod o’r Fforwm Craffu.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2024/25 fel a nodir isod, ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodir.

 

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12

5

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12

5

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

 

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10

4

1

15

Cynllunio

10

4

1

15

Trwyddedu Canolog

/Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

 

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5

2

0

7

 

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

 

Uwch Gyflogau

telir yr uwch gyflogau a ganlyn:

• Arweinydd

• Dirprwy Arweinydd

• 8 aelod arall o’r Cabinet

• Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf

• Cadeiryddion Pwyllgorau

- Pwyllgor Craffu (x3)

- Pwyllgor Cynllunio

- Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor)

- Pwyllgor Pensiynau

 

• Pennaeth dinesig (Cadeirydd y Cyngor)

▪ Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor

 

  1. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
  2. Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi - Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Cymunedau - Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol

 

10.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2024/25.

 

[Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2024/25.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2024/25.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2024/25.

 

11.

ADOLYGIAD O DDATGANIAD O BOLISI DRAFFT - DEDDF TRWYDDEDU 2003 pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft, a dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Amgylchedd yn nodi ei bod yn ofynnol, yn unol ag Adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003, i bob awdurdod trwyddedu gyhoeddi datganiad o bolisi Trwyddedu pob 5 mlynedd, ac yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac i ddirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

Diolchwyd i staff yr Adran am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu drafft, a dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen.

 

12.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden.

 

Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.

 

Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu torri.

 

Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden.

 

Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.

 

Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu torri.

 

Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden.

 

Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein.

 

Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu torri.

 

Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau trwy’r flwyddyn.

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod y Cyngor unwaith eto’n trafod sut mae Gwynedd wledig yn cael ei thrin gan y sefydliadau sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan, ac yn ein gwaedu’n araf o’n bodolaeth a’n troi i fod yn ddim byd mwy na Pharc Hamdden i Ymwelwyr.

·         Fel un sy’n cynrychioli pentref Llanbedr ar y Cyngor, ei fod wedi blino clywed y neges bod rhaid i’w etholwyr roi’r gorau i ddefnyddio eu ceir, ac yn hytrach ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Hawdd dweud hynny os yn byw ar goridor yr M4 neu’r A55 efallai, ond rhywbeth sy’n amhosib’ i’r sawl sy’n byw ar arfordir Orllewinol Gwynedd.

·         Bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cael gwared â 4 trên y dydd, gyda thrên olaf y dydd yn gadael Pwllheli am 17:42 rhwng Rhagfyr a Mawrth a 19:30 yn yr haf, a thrên olaf y dydd yn gadael Machynlleth am 19:04 yn y gaeaf a 20:55 yn yr haf.

·         Bod ganddo gyfarfod yn fuan gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidaeth, Ken Skates, AS, i drafod Ffordd Osgoi Llanbedr, ac y byddai’n codi’r pwynt ynglŷn â threnau hefyd, gan ei fod ar ddeall bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cymeradwyo’r newidiadau eisoes.

·         Y dymunai ddiolch i’r ddau Aelod Seneddol, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts, a hefyd yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Y Cynghorydd Dafydd Meurig, am ddatgan yn glir eu gwrthwynebiad llwyr i’r cynlluniau hyn.

·         Pan gyfarfu Pwyllgor Rheilffordd Arfordirol y Cambrian ddiwethaf ar 22 Mawrth, ni soniwyd gair gan Drafnidiaeth Cymru am y posibilrwydd o dorri nifer y trenau, ac roedd Cadeirydd y Pwyllgor wedi cytuno i’w gais am gyfarfod brys o’r Pwyllgor i drafod y sefyllfa.

·         Bod Trafnidiaeth Cymru yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg.  A wnaethpwyd asesiad o’r Gymraeg wrth wneud y newidiadau hyn?  Roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru, trwy Drafnidiaeth Cymru, yn troi ei chefn unwaith eto ar ein cadarnleoedd Cymraeg.

·         Petai Cymru yn wlad annibynnol, gellid edrych ar beth sydd orau i ni yng Nghymru, a byddai arian Trafnidiaeth Cymru yn aros  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

13a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i  gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref clyd, addas a phwrpasol.  Dyma yw amcan y Cyngor yma.  Rydym ni yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Deddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Bod meddwl am y di-boblogi mawr fu yng nghefn gwlad dros y ganrif ddiwethaf yn codi pryder a hiraeth arno, a bod y di-boblogi hwnnw yn parhau.

·         Bod Cyngor Gwynedd wedi bod ar flaen y gad o ran yr argyfwng tai, ac wedi cymryd camau cadarnhaol mewn ymgais i ddatrys y broblem enfawr sy’n wynebu ein cymunedau.

·         Mai Deddf Eiddo yw’r cam naturiol nesaf er mwyn datrys yr argyfwng tai, gan y byddai deddf o’r fath yn cynnwys polisïau fydd yn rhoi cymunedau yn gyntaf, gan reoleiddio’r farchnad dai a sicrhau bod pobl leol yn cael cyfle teg i fyw yn eu cymunedau.

·         Y byddai Deddf Eiddo hefyd yn pwysleisio ar fuddsoddi yn lleol a chreu cyfle i gymunedau gael cymorth i brynu asedau yn y gymuned, fel sy’n digwydd yn yr Alban.

·         Y byddai’r Senedd yn trafod materion yn ymwneud â thai dros y misoedd nesaf ac roedd yn allweddol bod Deddf Eiddo yn cael ei derbyn fel rhan o amcanion y Llywodraeth.

 

Mynegodd aelodau gefnogaeth frwd i’r cynnig.  Nodwyd:-

 

·         Bod hyn yn rhan o’r un stori â’r cynnig blaenorol, sef sut mae sicrhau cymunedau iach a llewyrchus yng nghefn gwlad Cymru.

·         Bod Deddf Eiddo yn rhywbeth cwbl sylfaenol.  Heb bobl, ni ellir cael cymunedau; heb dai, ni ellir cael pobl i fyw yn y cymunedau hynny, a heb gymunedau ni fydd gennym economi yng nghefn gwlad.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ddiwygio brawddeg gyntaf y cynnig fel a ganlyn er mwyn gwneud y cynnig yn fwy penodol yn ddaearyddol:-

 

Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â chartref clyd, addas a phwrpasol. 

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant ar y sail bod angen i ni edrych ar ôl ein pobl ein hunain.

 

Mynegodd aelod ei wrthwynebiad i’r gwelliant gan nad oedd yn diffinio ‘pobl leol’ tra bod y cynnig gwreiddiol yn cynnwys pawb.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro na chredai fod geiriad y gwelliant yn amhriodol gan fod ‘angen lleol’ yn derm cydnabyddedig ac mai cais am ddeddfwriaeth ydoedd yn ei hanfod.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd. 

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd y cynigydd mai ei bryder am y sefyllfa tai oedd un o’i brif resymau dros ddod yn gynghorydd, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13a

13b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu'r penderfyniad, a gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig.  Mae’r Cyngor hwn yn gwrthwynebu'r penderfyniad, ac yn gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

 

(A)      Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae’r penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig.  Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu’r penderfyniad, a gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

 

·         Flwyddyn a hanner yn ôl, y bu i’r Cyngor bleidleisio yn unfrydol o blaid ei chynnig yn galw ar y cyrff perthnasol i gadw canolfannau Ambiwlans Awyr yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol, ond roedd y penderfyniad diweddar i gau’r canolfannau hynny yn siomedig a thorcalonnus, ac yn ergyd drom i Wynedd gyfan.

·         Y daeth Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru, sy’n cynnwys pedwar Aelod Lleyg a saith Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cymru, i benderfyniad mwyafrifol ddiwedd Ebrill i dderbyn argymhellion Adolygiad Gwasanaeth y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), i uno canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng ar safle newydd yng nghanol Gogledd Cymru, gyda’r union leoliad i'w benderfynu.

·         Bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys – y ddau ranbarth iechyd sydd yn benodol am gael eu heffeithio yn sgil y penderfyniadau - yn erbyn y penderfyniad, ond ni wrandawyd o gwbl ar angen na barn cyhoedd yr ardaloedd hyn ar y mater.  Gan hynny, roedd yn ofynnol ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd a chynnal ymchwiliad llawn i'r penderfyniad.

·         Bod yr argymhellion yn nodi y bydd y penderfyniad hwn yn galluogi mwy o bobl i elwa ar yr arbenigedd clinigol a gaiff ei ddarparu gan dimau'r gwasanaeth gofal critigol hwn a hefyd yn cynnwys darparu gwasanaeth pwrpasol ychwanegol ar y ffyrdd ar gyfer cymunedau gwledig.  Fodd bynnag, fel roedd Aelodau Seneddol Gwynedd wedi nodi, roedd yna gwestiynau cwbl ganolog sydd heb eu hateb eto, yn enwedig o gwmpas y ddarpariaeth bwrpasol ychwanegol ar y ffyrdd, ac roedd y cyfan yn parhau yn gwbl amwys.

·         Na chredid bod synnwyr o gwbl symud y canolfannau o Ddinas Dinlle a’r Trallwng, ar gyrion rhai o ardaloedd mwyaf pellgyrhaeddol a gwledig Cymru, a’u hail-leoli mewn ardal boblog ar gyrion yr A55 yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

·         Bod rhaid amlygu ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, ac fel aelodau etholedig i elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a thimau clinigol Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) GIG Cymru.  Mae’r gwaith a’r gwasanaeth gwych maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu gofal brys yn ein cymunedau yn hollol amhrisiadwy, ac mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl.

·         Y dymunai hefyd ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y broses ymgysylltu dros y misoedd diwethaf, a bod y gefnogaeth gref iawn yn lleol i gadw’r safleoedd hyn yn eu lleoliadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13b

14.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 147 KB

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybuddion o gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogaeth i ffermwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybuddion o gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â chefnogaeth i ffermwyr.