Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Ioan Thomas yn Gadeirydd am 2025/26.

Darllenodd a llofnododd y Cynghorydd Ioan Thomas ddatganiad yn derbyn y swydd o Gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2025/26 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd am 2025/26.

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Beth Lawton a’r Cynghorydd Elin Walker Jones.

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd am 2025/26.

Darllenodd y Cynghorydd Elin Walker Jones ddatganiad yn derbyn y swydd o Is-gadeirydd Cyngor Gwynedd am 2025/26 ym mhresenoldeb y Prif Weithredwr.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Beth Lawton, Edgar Owen, Nigel Pickavance, John Pughe a Gareth Roberts.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 346 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd yn ddwys â’r Cynghorydd Angela Russell a’r teulu yn dilyn colli ei gŵr fis Mawrth, a’i brawd yng nghyfraith fis diwethaf. 

Cydymdeimlwyd hefyd â theuluoedd dau gymwynaswr bro a fu farw’n ddiweddar, sef:-

·         Teulu Selwyn Williams, Blaenau Ffestiniog, ymgyrchydd ac academydd fu'n flaengar ym maes sefydlu mentrau cymunedol.

·         Teulu Gareth Roberts, Deiniolen, hanesydd lleol a ddaeth â’r gorffennol yn fyw yn ardaloedd y chwareli.

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd i bawb ohonynt adferiad llwyr a buan.

Croesawyd y Cynghorydd Geraint Wyn Parry i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor hwn fel yr Aelod dros Teigl, a diolchwyd unwaith eto i’r Cyn-gynghorydd Linda Ann Jones am ei holl waith dros y blynyddoedd.

Llongyfarchwyd y Cynghorydd Gwilym Jones ar ddod yn daid eto, i ferch fach o’r enw Nansi.

Llongyfarchwyd Clwb Rygbi (Dynion) Caernarfon ar ennill Cwpan Adran 1 Undeb Rygbi Cymru – y clwb cyntaf o Ogledd Cymru i’w hennill.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y cynhelir Etholiad y Senedd ar 7 Mai, 2026, nodwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol 2026 y Cyngor yn cael ei symud o’r dyddiad hwnnw i’r 14eg o Fai.

Nodwyd mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Cyngor llawn y byddai Eirian Roberts (Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth) yn ei gofnodi gan y byddai’n ymddeol ddiwedd Gorffennaf.  Diolchwyd iddi am ei gwasanaeth yn cofnodi cyfarfodydd y Cyngor dros nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio yn ei swydd ers dros ddeugain mlynedd.

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(1)       Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

Mewn cyd-destun y penderfyniad diweddaraf gan Y Sefydliad Goruchaf, pa drefniadau sydd mewn lle er mwyn cadarnhau fod merched yng Ngwynedd yn cael mynediad i lefydd a chyfleoedd o bob math ar gyfer merched yn unig?

Ateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y Cynghorydd Llio Elenid Owen

Mi wnâi ddarllen yr ateb swyddogol i ddechrau.

“Mae’r Cyngor yn y broses o ystyried goblygiadau’r dyfarniad gan ystyried gwybodaeth bellach e.e. Canllawiau Interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd ar 25 Ebrill.  Dylid nodi bod y Comisiwn yn edrych i ddiweddaru eu canllawiau ar ôl ymgynghori, a'u rhoi gerbron Llywodraeth San Steffan cyn toriad yr haf.  Yn ôl y Comisiwn “Gwyddom fod gan lawer o bobl gwestiynau am y dyfarniad a'r hyn y mae'n ei olygu iddynt.  Bydd ein canllawiau wedi'u diweddaru yn rhoi mwy o eglurder.”

Byddwn yn edrych ar ein polisïau, canllawiau, gweithdrefnau, ac yn y blaen, i weld os ydynt yn cyd-fynd gyda’r dyfarniad.”

Fel sydd wedi cael ei nodi yn yr ateb, mae Canllawiau Interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gafodd eu cyhoeddi wythnos diwethaf, yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad cyfreithiol o ddynes, a bydd angen disgwyl y canllawiau terfynol fydd yn mynd gerbron y Llywodraeth cyn yr haf i gael eglurder ac arweiniad pellach ar y sefyllfa.

Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn mae’r Goruchaf Lys wedi’i nodi, sef nad yw hyn yn fuddugoliaeth i’r naill ochr na’r llall.  Diffiniad o fewn Deddf Cydraddoldeb yn unig ydi hyn.  Mae’n hynod bwysig pwysleisio nad ydi’r farn gyfreithiol yma yn lleihau hawliau cyfreithiol pobl draws yn erbyn gwahaniaethu, ac mae ail-bennu rhywedd yn un o’r 9 nodwedd sy’n cael eu diogelu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb, mae rhyw yn golygu rhyw biolegol, ac mae gan ferched hawl cyfreithlon i ystafelloedd newid cyhoeddus, ystafelloedd ymolchi a chanolfannau argyfwng un rhyw, ac nid yw tystysgrif cydnabod rhywedd yn gwneud dyn yn ddynes o dan y gyfraith.  Ni all y dyfarniad fod yn fwy eglur na hynny, ac yn sgil hynny hoffwn ofyn pa drefniadau, cyfleusterau sydd angen cael eu gwneud, ac yn lle a phryd y gwelwn y newid er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad?

Ateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg, Y Cynghorydd Llio Elenid Owen

I bwysleisio’r hyn a gafodd ei ddweud yn yr ateb i’r cwestiwn cyntaf, rydym ni, fel pob sefydliad arall, angen arweiniad pellach i allu ymateb yn llawn ac yn gyfreithiol i’r dyfarniad yma.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddatgan ein cefnogaeth ni a’n cydsafiad ni yma hefo’r gymuned draws.  Dylai pawb fod yn rhydd i ddewis eu hunaniaeth rhywedd eu hunain a dylem barchu hynny, ac yn sicr ni ddylem eithrio pobl draws o gymdeithas.  I ddyfynnu ac ategu’r hyn a ddywedodd y Cynghorydd Beca Roberts ar ddechrau’r cyfarfod yma, mae gan bawb yr hawl i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn Atodiad A (isod), ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodir yn yr Atodiad.
  • Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
  • Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol

·        Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd am dymor y Cyngor hwn oni bai fod newid sylweddol yn y cydbwysedd gwleidyddol – mae 1 sedd i Grŵp Plaid Cymru ac 1 sedd i’r Grŵp Annibynnol

ATODIAD A - DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12

5

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12

5

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10

4

1

15

Cynllunio

10

4

1

15

Trwyddedu Canolog / Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur Rhydd

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5

2

0

7

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

Uwch Gyflogau

Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Cyngor telir yr uwch gyflogau a ganlyn:

· Arweinydd

· Dirprwy Arweinydd

· 8 aelod arall o’r Cabinet

· Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf

· Cadeiryddion Pwyllgorau

- Pwyllgor Craffu (x3)

- Pwyllgor Cynllunio

- Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor)

- Pwyllgor Pensiynau

·         Pennaeth dinesig (Cadeirydd y Cyngor)

§    Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor)

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith adroddiad yn cyflwyno’r adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

Nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, er sicrhau dilyniant, ei bod yn hollbwysig bod is-gadeiryddiaeth pob pwyllgor craffu yn mynd i’r un grŵp ag sy’n cael y gadeiryddiaeth.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

·         Bod y pwyllgorau craffu yn unigryw oherwydd bod y cadeiryddiaethau yn cael eu dyrannu ar sail balans gwleidyddol statudol.

·         Bod y cadeiryddiaethau ac is-gadeiryddiaethau eraill, ac is-gadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu yn benderfyniad i’r pwyllgorau unigol mewn statud.

Nodwyd bod yna nifer o seddau gweigion ar bwyllgorau ers blynyddoedd a gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth edrych ar hynny.

PENDERFYNWYD

·         Mabwysiadu’r rhestr o bwyllgorau ac is-bwyllgorau i’w sefydlu ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol fel a nodir yn Atodiad A (isod), ynghyd â mabwysiadu’r dyraniad seddau a’r uwch gyflogau a nodir yn yr Atodiad.

·         Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.

·         Mabwysiadu cadeiryddiaethau’r pwyllgorau craffu ar sail cydbwysedd gwleidyddol, fel a ganlyn:-

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi – Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Cymunedau – Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol

·           Mabwysiadu’r dyraniad seddau ar gyfer Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd am dymor y Cyngor hwn oni bai fod newid sylweddol yn y cydbwysedd gwleidyddol – mae 1 sedd i Grŵp Plaid Cymru ac 1 sedd i’r Grŵp Annibynnol

ATODIAD A - DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU

A

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur / Rhyddfrydol

Cyfanswm

Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

12

6

0

18

Pwyllgor Craffu Cymunedau

12

5

1

18

Pwyllgor Craffu Gofal

12

5

1

18

Llywodraethu ac Archwilio

8

4

0

12

B

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur / Rhyddfrydol

Cyfanswm

Gwasanaethau Democrataidd

10

4

1

15

Cynllunio

10

4

1

15

Trwyddedu Canolog / Cyffredinol

10

5

0

15

Iaith

10

5

0

15

Penodi Prif Swyddogion

10

5

0

15

Apelau Cyflogaeth

5

2

0

7

Nifer y seddau

99

45

4

148

C

Plaid Cymru

Annibynnol

Llafur / Rhyddfrydol

Cyfanswm

Pensiynau

4

2

1

7

Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol

7

4

0

11

CYSAG

5

2

0

7

Cyfanswm y seddau

115

53

5

173

Uwch Gyflogau

Yn unol â phenderfyniad blaenorol y Cyngor telir yr uwch gyflogau a ganlyn:

· Arweinydd

· Dirprwy Arweinydd

· 8 aelod arall o’r Cabinet

· Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf

· Cadeiryddion Pwyllgorau

- Pwyllgor Craffu (x3)   

- Pwyllgor Cynllunio

- Pwyllgor Trwyddedu (Canolog a Chyffredinol yn cael ei gyfrif fel un Pwyllgor)

- Pwyllgor Pensiynau

·         Pennaeth dinesig (Cadeirydd y Cyngor)

·         Dirprwy Bennaeth dinesig (Is-gadeirydd y Cyngor)

10.

PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2025/26

Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2025/26.

[Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli ar y weithrediaeth.]

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2025/26.

Cofnod:

Gwahoddwyd y Cyngor i benodi cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar gyfer 2025/26.

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2025/26.

11.

PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU - ARGYMHELLION PANEL CYFWELD pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn penodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn argymell i’r Cyngor benodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn penodi Non Gibson a Sonal Khade yn Aelodau Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

12.

DIWYGIO Y CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 125 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar y newidiadau dirprwyedig yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn adrodd ar addasiadau dirprwyedig i’r Cynllun Dirprwyo yn Adran 13 o’r Cyfansoddiad (a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad).

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar y newidiadau dirprwyedig yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

13.

PENDERFYNIAD BRYS CABINET pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro, er gwybodaeth yn unig, yn nodi:-

·         Y cyflwynwyd adroddiad eithriedig i’r Cabinet ar 8 Ebrill, 2025 yn adrodd ar yr adolygiad barnwriaethol o benderfyniad y Cabinet i gadarnhau'r Gorchymyn Erthygl 4 yn 2024, ac yn ceisio cyfarwyddyd y Cabinet ar y cyfeiriad. 

·         Oherwydd amserlen cyflwyno dogfennau a thystiolaeth i’r Llys, y bu’n ofynnol gwneud penderfyniad brys yn unol â Rhan 7.25.2 o’r Cyfansoddiad i eithrio’r penderfyniad o’r drefn galw i mewn er mwyn caniatáu i benderfyniad y Cabinet fod yn weithredol yn syth.

Nododd aelod na ddeallai pam bod yr adroddiad wedi mynd allan am sylwadau gan y cyhoedd, ond na ddaeth y sylwadau yn ôl i’r Cyngor llawn, a holodd sut bod y Cyngor wedi dod i’r sefyllfa yma, a pham.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro:-

·         Nad oedd yr adroddiad yn ymwneud â’r adolygiad barnwrol ac nad oedd yr eitem honno ar y rhaglen.

·         Bod achos yn mynd ymlaen yn gyhoeddus ac y gallai anfon manylion i’r aelod ynglŷn â’r sail sy’n cael ei ddadlau gerbron y Llys.

·         Mai penderfyniad Cabinet oedd hwn, ac nad oedd hynny’n destun her gyfreithiol o gwbl, nac yn rhan o’r achos sydd gerbron.

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

14.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

14a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru, fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru, fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru, fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf.

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Bod yr argyfwng costau byw wedi taro’r mwyafrif o bobl yn ofnadwy o galed, a bod gweld y bil dŵr wedi bron iawn dyblu wedi taflu llawer o deuluoedd i banig a phryder.

·         Ei bod yn ddigalon felly gweld bod dŵr yn cael ei werthu o Gymru heb i’r wlad hon dderbyn arian teg amdano.

·         Ei bod yn warthus bod y fath swm o arian yn cael ei bwmpio allan o Gymru yn llythrennol, gan ychwanegu agos i ddim i’r economi Gymreig.

·         Fel y nodwyd gan bwyllgor Seneddol, gallai codi ffi o lai na cheiniog y litr ar ddŵr ddod â £400m i Gymru i’w ddefnyddio i fuddsoddi yn y rhwydwaith dŵr a gostwng prisiau i gwsmeriaid.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros gronfeydd a’r rhwydwaith dŵr yng Nghymru, fydd yn caniatáu i Gymru elwa o un o’i hadnoddau pwysicaf.

14b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Beca Brown

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Brown yn cynnig fel a ganlyn:-

Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn uwch fyth.

Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy yma gydol eu hoes. 

Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth.

Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un.

Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r byd.

Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant. 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Beca Brown o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi dioddef camdriniaeth rywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn uwch fyth.

Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy yma gydol eu hoes. 

Mae dioddefwyr camdriniaeth rywiol yn dweud yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth.

Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n hatgoffa y gall camdriniaeth rywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw gymuned.  Nid yw camdriniaeth rywiol yn adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol, rhywedd na hil.  Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un.

Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rywiol drwy’r byd.

Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am ddioddefwyr.  Galwn ar y Cyngor i hedfan baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rywiol, ond cywilydd y troseddwr.  Galwn ar Gyngor Gwynedd i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am gamdriniaeth rywiol neu am bryderon diogelwch plant.

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

·         Bod dioddefwyr trais rhywiol, yn aml iawn, yn cario cywilydd y drosedd, yn ogystal â phoen dwfn am weddill eu hoes, ac mai nod yr ymgyrch Not my Shame / Nid fy Nghywilydd oedd rhoi’r cywilydd yn ôl lle dylai fod, sef ar ysgwyddau’r troseddwr.

·         Bod camdriniaeth rywiol yn chwalu bywydau, yn rhwygo teuluoedd ac yn creithio cymunedau ac yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl, iechyd corfforol, ar y gallu i ffurfio perthynas, ar y gallu i riantu yn effeithiol ac ar gyrhaeddiad addysgol ac economaidd.

·         Bod derbyn ymateb cefnogol yn gwella llawer iawn ar fyd dioddefwyr sy’n datguddio eu camdriniaeth, ac roedd modd i bobl broffesiynol (yn cynnwys gwleidyddion) chwarae rhan, nid ansylweddol, yn lliniaru effeithiau camdriniaeth os ydyn nhw’n ymateb yn briodol, yn amserol, yn gefnogol ac yn dosturiol.

·         Bod camdriniaeth rywiol wedi bwrw ei chysgod dros y sir yma, fel mae’n bwrw ei chysgod ymhob man, ac oherwydd bod sefydliadau lle mae nifer uchel o blant yn cronni yn gallu denu troseddwyr, roedd yn bwysig bod yn effro i’r risgiau hynny bob amser.

·         Ei bod yn bwysig cofio hefyd bod camdriniaeth rywiol o blant yn gallu digwydd mewn unrhyw gyd-destun, ac yn amlach na pheidio, yn eu cartrefi eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14b

14c

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:-

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.

Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o ganlyniad i lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.

Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.

Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffordd decach o ariannu ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled llwyr wrth i’r llywodraeth ddefnyddio’r fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig. Mae’r fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.

Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd. Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais llwyr o ganlyniad I lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.

Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y ddwy lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.

Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffodd decach o ariannu ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig.  Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.

Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd.  Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan anfantais lwyr o ganlyniad i Lywodraeth Lafur yn y Senedd yng Nghymru ac yn San Steffan.

Gan ein bod yn parhau i ddisgwyl am fanylion gan y ddwy Lywodraeth nid oes modd cyfrifo union ffigwr ar hyn o bryd, ond mae Cyngor Gwynedd yn debygol o fod ar eu colled mewn swm oddeutu £1m, sy’n swm rydym wedi gorfod ei throsglwyddo i’n trethdalwyr.

Mae Cyngor Gwynedd yn galw felly ar Lywodraeth Cymru i fynnu ffordd decach o ariannu ein gwlad gan eu penaethiaid yn Llundain.

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Bod y Llywodraeth ganolog yn cyfrannu 81.8% o gyllideb y Cyngor yn 1997, ond erbyn eleni, roedd y ffigwr hwnnw wedi disgyn i 69.5%.

·         Bod hynny’n dangos y glir sut roedd Llywodraeth San Steffan wedi newid yn raddol y ffordd o ariannu llywodraeth leol, gan symud yn araf o system dreth incwm, sef treth flaengar, i system treth cyngor, sy’n dreth anflaengar.  Golygai hynny bod y baich treth yn cael ei symud o’r cyfoethog i’r tlawd.

·         Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y codiad yswiriant cenedlaethol i gyflogwyr, rhoddwyd addewid y byddent yn digolledu gwasanaethau cyhoeddus am y gost ychwanegol roeddent yn wynebu.  Roedd hynny wedi digwydd yn Lloegr, ond nid yng Nghymru.

·         Bod hyn yn un esiampl yn unig o sut mae Cymru yn cael ei thanariannu gan Lywodraeth y DU, ac y dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod Llywodraeth y DU yn newid y fformiwla ariannu, nid yn unig ar gyfer digolledu yswiriant cenedlaethol, ond ar gyfer ariannu ein gwlad yn gyffredinol.

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau ar y sail bod angen system ariannu briodol sy’n adnabod angen a bod Fformiwla Barnett yn gweithio yn erbyn cymunedau gwledig.

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur yn San Steffan.

Unwaith eto, bydd Cynghorau Cymru yn gweld colled lwyr wrth i’r Llywodraeth ddefnyddio’r Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian sy’n cael ei roi i wledydd datganoledig.  Mae’r Fformiwla Barnett yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.

Mae’n annheg na fydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn yr arian llawn am y cynnydd.  Mae hyn yn enghraifft arall o sut mae Cymru dan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14c

14d

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Hywel

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-

1.    Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU - boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur.

2.    Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabyddir y Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn. Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y toriadau. Ym mhellach, mae pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell incwm.

3.    Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor. Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y gwasanaethu hyn. Cydnabyddwn y pwysau a roddir hyn ar gyllidebau'r Cyngor.

4.    Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.

5.    Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw’r Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol.

6.    Er mwyn roi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynnir y Cyngor hwn bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau, ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod, gofalu a chynnal ein cymdeithas.

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Hywel o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

Mae’r Cyngor hwn yn nodi effeithiau anghymesur a chronnus polisïau llymder ar drigolion fwyaf bregus ein cymdeithas gan lywodraethau dilynol y DU - boed yn llywodraethau Ceidwadol neu Lafur.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Lywodraeth y DU o doriadau pellach i fudd-daliadau fydd yn cyfansymu i £5 biliwn, cydnabydda’r Cyngor hwn mai parhad a chynnydd i bolisïau llymder yw’r toriadau hyn.  Gyda chyfran o 18.1% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu hystyried yn anabl, bydd pobl Gwynedd yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y toriadau.  Ymhellach, mae pobl a ystyrir yn anabl yng Ngwynedd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth, gyda dim ond 50.5% mewn swydd â thâl, ac felly maent yn fwy tebygol o ddibynnu ar fudd-daliadau fel eu hunig ffynhonnell incwm.

Noda’r Cyngor ein cyfrifoldeb cynyddol i liniaru effeithiau creulon polisïau llymder drwy wasanaethau’r Cyngor.  Gwelwn gynnydd yn y galw am wasanaethau megis tai cymdeithasol, llety argyfwng a gofal cymdeithasol, a’r gost gynyddol ganlyniadol o gynnal y gwasanaethau hyn.  Cydnabyddwn y pwysau mae hyn yn ei roi ar gyllidebau'r Cyngor.

Er mwyn trigolion Gwynedd, geilw Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros Gymru a mynnu bod eu cyd-aelodau Llafur yn Llywodraeth y DU yn gwneud tro bedol ar eu cynlluniau i dorri budd-daliadau.

Er mwyn sicrhau parch ac urddas i bob un, geilw Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyllido budd-daliadau a gwasanaethau cymdeithasol yn ddigonol.

Er mwyn rhoi diwedd ar lymder yng Nghymru, mynna’r Cyngor hwn bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli lles a budd-daliadau, ynghyd â’r holl liferi angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i warchod, gofalu a chynnal ein cymdeithas.

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

·         Ei bod yn cyflwyno’r cynnig hwn gan ei bod wedi dychryn ynghylch amgylchiadau bywyd ein trigolion mwyaf bregus, a hynny oherwydd penderfyniadau creulon ac ideolegol gan Lywodraeth San Steffan, sydd wedi troi cefn ar bobl Gwynedd.

·         Y gwelwyd toriadau pellach i’r system fudd-daliadau yn ystod y misoedd diwethaf, gan gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Credyd Cynhwysol a’r cymorth gyda chostau tai, a bod y toriadau hyn wedi dod heb unrhyw ymgynghoriad ystyrlon, heb asesiad effaith cymdeithasol trylwyr, ac yn llwyr ddi-hid o ran eu heffaith ar fywydau pobl go iawn.

·         Bod nifer y bobl yng Ngwynedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol wedi aros yn uchel dros y blynyddoedd, gyda llawer ohonynt mewn gwaith, ond eto ddim yn gallu fforddio byw.

·         Bod y toriadau i gymorth costau tai yn creu pwysau digynsail, gyda rhent preifat yn codi a dewisiadau’n lleihau.

·         Bod y toriadau yn cynyddu’r galw ar ein gwasanaethau llesiant, tai, cyngor dyledion, a hyd yn oed ein llyfrgelloedd, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn lle o loches a chefnogaeth.

·         Bod y Cyngor hwn, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn gorfod camu i’r bwlch sydd wedi’i greu gan Lywodraeth San  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14d