Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorydd Gareth A Roberts. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf, 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2025
fel rhai cywir. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar William Tudor
Owen – cyn Aelod a Chadeirydd y Cyngor hwn, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y
Cyng. Dewi Jones. Cydymdeimlwyd a theulu’r diweddar Ieuan Roberts,
Porthmadog a fu yn Aelod o’r Cyngor hwn. Rhoddwyd teyrnged
iddo gan Cyng. June Jones. Nodwyd y bu farw’r gweinidog adnabyddus, y
Parchedig Marcus Robinson yn
ddiweddar, a chydymdeimlwyd â’i deulu yntau yno gystal. Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn
cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel
arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd fod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus
yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan. Croesawyd y Cynghorydd Wendy Cleaver i’w chyfarfod cyntaf yn
dilyn cael ei hethol yn Gynghorydd dros y Bermo yn
ystod yr haf, a dymunwyd yn dda iddi yn ei rôl. Croesawyd Catrin Thomas yn ôl i’r Cyngor wedi iddi gychwyn
ar ei swydd fel Cyfarwyddwr Corfforaethol. Llongyfarchwyd y canlynol:
Tynnwyd sylw ei bod yn 60 mlynedd ers i ar gael Llyn Celyn
ei agor yn swyddogol a oedd yn groes i ddymuniad gwleidyddion a’r gymuned yn
lleol. Mynegwyd ei bod yn holl bwysig cofio, ac atgoffa’r genedl o’r cam o
foddi Cwm Celyn a llawer i gwm arall i ddyfrhau dinasoedd Lloegr. Nodwyd y
byddwn yn cofio Tryweryn. Bu i’r Cadeirydd wahodd y Prif Weithredwr i roi diweddariad
i’r Cyngor Llawn ar yr Adolygiad Amddiffyn Plant. Mynegodd y Prif Weithredwr
nad yw yn arferol i wneud datganiad o’r math hwn ond ei bod yn holl bwysig iddo
gyfarch y mater. Wythnos yn ôl, eglurodd, fod trefniadau yn ei lle ar gyfer
cyhoeddi’r adroddiad holl bwysig hwn, gyda sesiwn briffio ar gyfer y Cynghorwyr
wedi ei drefnu. Ond am 16:30 y noson cynt derbyniwyd neges i ohirio'r cyhoeddi.
Pwysleisiwyd nad oedd y Cyngor yn rhan o’r penderfyniad na’ unrhyw
ymgynghoriad ar y mater. Mynegwyd ei fod yn teimlo'r un siom a rhwystredigaeth gan fod 2 flynedd bellach wedi mynd heibio, a bod staff yn gweld penllanw a rhyddhad o gael y cyfle i drafod yn agored. Pwysleisiwyd ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet
i’r cwestiynau ymlaen llaw.) Mynegwyd fod y cwestiynau wedi bod yn hwyr yn cyrraedd yr
aelodau heddiw a gofynnwyd am esboniad dros eu derbyn mor hwyr. Ymddiheurwyd am
hyn gan nodi fod nifer uchel o gwestiynau wedi eu cyflwyno a'u bod yn cymryd
amser i ymateb iddynt. Nodwyd y byddant yn eu cyrraedd yn gynt i’r cyfarfod
nesaf.
Rwy’n ymwybodol fod adolygiad llawn wedi ei gychwyn ar
wasanaethau Derwen nôl yn 2024 oherwydd pryderon am y nifer cynyddol o blant yn
aros am fynediad neu am wasanaeth Derwen. Tybed a all yr aelod cabinet roi
diweddariad ar ganlyniadau’r adolygiad erbyn hyn, ac yn wir, ar sefyllfa
Derwen. Ateb - Aelod Cabinet yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd,
Y Cynghorydd Menna Trenholme Fe wnaethpwyd penderfyniad i gynnal adolygiad o Wasanaeth
Derwen yn y Bwrdd Rheoli ar 7fed o Dachwedd 2024. Gan ei fod yn Fwrdd Rheoli ar
y cyd gydag Ynys Môn, a bod y Bwrdd Iechyd yn rhan integredig o’r gwasanaethau
yn y naill awdurdod lleol a’r llall, mae’r adolygiad yn cyd-redeg ar draws y
ddwy sir. Yn dilyn y penderfyniad i gynnal yr adolygiad, fe wnaethpwyd
cais am arian rhanbarthol er mwyn comisiynu cymorth allanol i arwain arno.
Llwyddwyd i ddenu arian ar gyfer y pwrpas a dilynwyd proses o dendro ar gyfer
comisiynu’r gwaith. Penodwyd ymgynghorydd allanol ddiwedd Chwefror 2025 gyda
rhaglen waith i redeg o fis Mai tan Mis Medi 2025. Am resymau tu hwnt i
reolaeth y ddau wasanaeth, mae’r rhaglen waith wedi llithro a bellach disgwylir
i’r adolygiad fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr 2025. Mae sgôp yr adolygiad yn cynnwys ystyried y meini prawf
mynediad presennol, dadansoddi trefniadau presennol y gwasanaeth, deall
anghenion plant a’u rhieni, deall disgwyliadau rhanddeiliaid ac ystyriaeth i
ddyluniad y gwasanaeth i’r dyfodol. Fe gyflwynir yr adroddiad terfynol i’r Bwrdd rheoli yn y lle
cyntaf a bydd y gwaith yn cael ei gynnwys ar raglen y Pwyllgor Craffu
Gofal. Dylid nod yn ogystal bod gwaith ymchwil mewnol yn mynd
rhagddo i edrych ar dueddiadau poblogaeth Gwynedd, yn cynnwys nifer y
genedigaethau, poblogaeth bresennol plant, yn ogystal â nifer y plant anabl
a niwroamrywiol. Pwrpas y gwaith hwn fydd canfod
a yw nifer y plant a phobl ifanc anabl yn cynyddu, hyd yn oed wrth i nifer y
genedigaethau yng Ngwynedd leihau ers 2012, a deall y rhesymau am
hyn. Bydd y gwaith hefyd yn ystyried gallu’r gwasanaethau
cymdeithasol a’r Adran Addysg (Anghenion Dysgu Ychwanegol) i ddiwallu’r
anghenion dros yr ugain mlynedd nesaf. Bydd y gwaith yn dilyn patrwm
adroddiad Llechen Lân ar wasanaethau cymdeithasol pobl hŷn
i’r dyfodol a gyhoeddwyd yn hydref 2024. Cwestiwn Atodol Y Cynghorydd Dawn
Lynne Jones Diolchwyd am yr ymateb ac am y cyfeiriad at wasanaeth Derwen yn adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol, a'i bod yn ymwybodol fod amserlen wedi llithro. Oes posib cael eglurdeb ar feini prawf y gwasanaeth a sut mae modd cloriannu anghenion amrywiol plant y sir yn erbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2024-25 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
gan nodi ei fod yn grynodeb o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn ystod 2024/25.
Eglurwyd fod yr adroddiad nid yn unig yn bodloni’r gofynion statudol ond
ychwanegu gwerth i drefniadau llywodraethu'r Cyngor, gan sicrhau gwydnwch mewn
cyfnodau anodd. Ategwyd fod yr heriau ariannol yn parhau, a'u bod yn craffu
cyllidebau i wneud yn siŵr fod eu bod yn gwneud y defnydd gorau o arian.
Diolchwyd i’r staff ac aelodau’r pwyllgor am y cyd-weithio amhrisiadwy. Talwyd
teyrnged i’r diweddar Sharron Warnes a’r Cyng Rob Triggs a fu farw dros y
misoedd diwethaf. Diolchwyd i’r Cadeirydd a’r aelodau am eu gwaith, a
diolchwyd am y teyrngedau arbennig i’r ddau gyn-aelod. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2024-25 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd cynnwys yr adroddiad sydd wedi ei gyflwyno gan y
Cyfarwyddwyr Statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn flwyddyn
a hanner i Wasanaethau Cymdeithasol yng Ngwynedd gyda’r gweithlu wedi wynebu
heriau. Amlygwyd fod dros ddwy flynedd wedi mynd heibio ers arestio Foden,
a fod y gwaith wedi bod yn drwm ar bawb gan gynnwys Cynghorwyr. Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un statudol er
mwyn adrodd ar y gwaith sydd yn cael ei wneud a diolchwyd i’r holl staff am eu
gwaith. Pwysleisiwyd fod gwaith yr Adroddiad Adolygiad Plant wedi bod yn heriol
dros ben dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’r ddwy adran wedi cael ei ysgwyd yn
llwyr. Er gwaethaf y pethau ofnadwy rhaid pwysleisio fod gwaith da yn cael ei
wneud ac ymfalchïo yn y gweithlu sy’n gweithio mor galed. Mynegwyd fod y
dathliad yn cael ei liniaru gan effaith beth sydd wedi digwydd ac mae angen cydnabod
hyn. Amlygwyd 6 egwyddor wreiddiol sy’n sail ddiogelu'r Cyngor
sef grymuso, atal, diogelu, cymesuredd, diogelu, gweithio mewn partneriaeth ac
atebolrwydd. Pwysleisiwyd nad oes “ni” a “nhw” pan yn son am ofal cymdeithasol oherwydd
gall unrhyw un fod angen y gwasanaeth. Eglurwyd fod cynnydd aruthrol
wedi bod yn y galw ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y data ac yr amlycaf yw
nifer y cyfeiriadau i’r adran blant. Wrth edrych ar ddiogelu nodwyd fod maint y
gwaith bron yn 8,000 o gyfeiriadau sydd yn amlygu’r pwysau ychwanegol sydd ar y
staff i ymateb i’w galw sydd ei angen. Pwysleisiwyd mai dim ond un dihiryn sydd
ei angen i wneud llanast o’r holl system. Tynnwyd sylw at y cynnydd sydd wedi ei wneud mewn taliadau
uniongyrchol, gan nodi y gobeithir y bydd cynnydd eto dros y blynyddoedd i
ddod. Drwy’r cynnydd hyn nodwyd y bydd mwy o bobl yn byw yn eu cymuned, ond yr
ochor arall y geiniog yw bod pobl yn gyson yn aros am ofal cartref. Amlygwyd y cynlluniau anhygoel sydd wedi ei chyflawni dros y
flwyddyn gyda phrosiectau newydd yn ddiddiwedd. Nodwyd fod y Cyngor wedi derbyn
Achrediad Gwynedd Oed Gyfeillgar a'u bod wedi derbyn arian ar gyfer parhau
gyda’r gwaith. Mynegwyd fod Academi Gofal Newydd wedi ei lansio, gyda
llwyddiant gyda recriwtio a rhai degau wedi manteisio ar yr hyfforddiant.
Eglurwyd fod gwaith ymchwil Llechen Lan sydd yn edrych ar ddemograffig Gwynedd
gan edrych sut y gall hyn ymateb i heriau i’r dyfodol. Pwysleisiwyd
y bydd rhaglen waith yn cael ei drafod yn fuan. Nodwyd fod nifer o bobl gydag
anableddau sydd mewn gwaith wedi dyblu sydd yn galluogi pobl i gael
cyflog ac urddas a gobeithio y bydd modd parhau i ddyblu. Eglurwyd fod cynnydd
wedi ei wneud mewn defnydd o dechnoleg (Technology Enabled Care/TEC). O ganlyniad, nodwyd fod nifer o
bethau i ymfalchïo ynddynt. . Mynegwyd fod problemau yn parhau gyda Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) gyda rhestrau aros yn hirfaith. Er hyn, yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Craffu Gofal, nodwyd fod yr adran wedi cyflogi staff newydd a gobeithir y bydd hyn yn arwain at wella’r sefyllfa. Eglurwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2024-25 Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr Adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Menna
Trenholme, Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu yn ystod 2024/25. Diolchwyd am y cyfle i rannu’r adroddiad sydd yn amlygu sut
mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol sy’n cynnwys plant,
oedolion bregus, trais difrifol a gwrthderfysgaeth. Eglurwyd fod y Grŵp
Gweithredol ynghyd ag archwiliad allanol, yn sicrhau fod trefniadau diogelu yn
gadarn ar draws y Cyngor. Nodwyd yn ystod 2024/25 fod cynnydd sylweddol mewn
cyfeiriadau plant gydag achosion cymhleth sydd wedi rhoi pwysau sylweddol ar y
gweithlu. Mynegwyd fod digwyddiad difrifol yn Ysgol Friars ym mis Medi 2023 wedi arwain ar weithredu brys gydag
adolygiad pen-desg a chomisiynau Adroddiad Adolygiad Plant gan Fwrdd
Diogelu Gogledd Cymru. Comisiynwyd bargyfreithiwr arbenigol yn y maes
diogelu plant i edrych ân benodol ar yr hyn a godwyd yn yr achos llys. Yn y maes Oedolion eglurwyd fod nifer y cyfeiriadau’n
cynyddu’n raddol gyda chymhlethdod achosion wedi dwysau. Amlygwyd fod
gwasanaeth DOLS yn parhau yn heriol ond fod buddsoddiad ac anodau ychwanegol
bellach ar waith. Esboniwyd fod camau sylweddol wedi’u cymryd i gryfhau
diogelu mewn Ysgolion, gyda phob ysgol bellach yn wedi derbyn ymweliad o fewn
18mis. Ychwanegwyd fod canrannau uchel ymhlith staff a llywodraethwyr bellach
wedi cwblhau hyfforddiant penodol a sylfaenol. Tynnwyd sylw at nifer gynyddol o
blant yn derbyn addysg adref. O ran trais yn y cartref amlygwyd fod y Cyngor yn pahrau i godi ymwybyddiaeth a gweithredu’n rhagweithiol
drwy hyfforddiant, partneriaethau amlasiantaethol ac
adolygiadau achos. Nodwyd fod cynnydd mewn achosion o ystelcian ac aflonyddu
wedi arwain ar waith partneriaeth gyda’r Heddlu. Amlygwyd fod lleihad wedi bod
mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ond fod caethwasiaeth fodern yn parhau i fod
yn fater o bryder. Wrth edrych ymlaen, nodwyd mai blaenoriaeth y Panel yw bod
y gweithlu yn deall systemau diogelu ac wedi cwblhau’r hyfforddiant
angenrheidiol, dan ddysgu yn barhaus. Ategwyd fod trefniadau diogelu yn parhau
i ddatblygu mewn ymateb i ddeddfwriaeth, partneriaethau rhanbarthol a
phrofiadau, a drwy hyn sicrhau diogelwch trigolion Gwynedd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Diolchwyd am yr adroddiad a gofynnwyd am gadarnhad os yw’r
adolygiadau o fewn yr ysgolion yn cael ei wneud gan staff tu hwnt i’r ysgol.
Cadarnhawyd fod tîm o fewn yr Adran Addysg yn mynd i’r ysgolion i wneud yr
adolygiadau diogelwch. Amlygwyd yn y Cylch Gorchwyl nad oedd staff Iechyd a
Diogelwch yn rhan o’r grŵp monitro. Tynnwyd sylw at y cynnydd mewn nifer y plant sydd yn cael ei
haddysgu adref, gan holi sut mae’r adran yn mynd i ddiogelu’r plant
yma. Nodwyd fod yr adran yn ceisio dod i wraidd y rhesymau, gan eu bod yn
awyddus cael y plant yn yr ysgol er mwyn monitro eu diogelwch. Er hyn nodwyd
fod camau penodol i gadw golwg ar ddiogelwch y plant. Mynegwyd gyda 2 flynedd ers i Bennaeth Ysgol Friars gael ei arestio, a bod cyhoeddi’r Adolygiad Amddiffyn Plant wedi ei ohirio holwyd os oes modd i’r Cyngor wneud camau datblygu a gwella heb i’r adroddiad ei gyhoeddi. Mynegwyd fod gwaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2024-25 Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr Adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Beth Lawton,
Cadeirydd y Fforwm Craffu yn ystod 2024/25. Nodwyd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith craffu a
wnaethpwyd yn ystod 2024-25 gan amlygu’r rheswm dros graffu ac effaith y gwaith
craffu. Amlygwyd fod 41 o eitemau wedi’u craffu. Tynnwyd sylw at nifer o’r
gwaith sydd wedi ei wneud a oedd yn cynnwys sefydlu Ymchwiliad Craffu
Trefniadau Diogelu mewn Ysgolion a fydd yn adrodd ar y gwaith yn 2025/26.
Enghraifft arall fod y Pwyllgor Craffu Gofal wedi gwahodd partneriaid allanol
ar dri achlysur a'r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi blaen graffu'r bwriad i
gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli defnydd ail-gartrefu a llety gwyliau. Mynegwyd fod addasiadau ymarferol wedi’i wneud i drefniadau
craffu er mwyn gwneud defnydd effeithiol o amser drwy gynnal cyfarfodydd
anffurfiol. Nodwyd fod cyfarfodydd briffio yn cael ei gynnal i roi ffocws ar y
strategaeth gwestiynu yn y cyfarfod. Nodwyd fod gwneud argymhellion clir a
phwrpasol yn greiddiol i graffu da, ac eglurwyd eu bod yn parhau i ddatblygu’r
elfen yma a fydd yn ei dro yn galluogi adnabod effaith craffu. Diolchwyd i’r swyddogion ac aelodau am ei gwaith, ac i
aelodau’r Fforwm am y cydweithio a’r trafodaethau sydd wedi cyfrannu at wella
trefniadau craffu. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Mynegwyd o ran adroddiad ei bod yn anodd
gweld beth yw’r diwedd y daith ac nad oedd gwir effaith craffu ddim yn amlwg.
Atebwyd drwy nodi fod hyn wedi ei adnabod ond rhai mynegi eu bod yn symud i’r
cyfeiriad cywir er mwyn cael system sydd yn gweithio yn well. Diolchwyd am waith y Pwyllgor Craffu gan yr aelodau Cabinet,
a'i fod yn gysur yn cynnig argymhellion ac yn amlygu os yw’r gwaith yn mynd i’r
cyfeiriad cywir. PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad. |
|
|
ADOLYGIAD O'R CYNLLUN DIRPRWYO Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu'r diwygiadau o’r Cynllun Dirprwyo
i Swyddogion ynglŷn â chaffael a gwaredu eiddo. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y nodi o bryd i’w gilydd mae
adroddiadau yn dod gyda newid i’r cyfansoddiad. Mae hwn yn un ohonynt. Mynegwyd
fod y gwaith hwn yn ffrwyth llafur ar y cydrhwng yr adran Gyfreithiol a’r Adran
Dai ac Eiddo i addasu rhiniogau ar gyfer prynu, gwerthu a llesu tir. Eglurwyd
fod hyn oherwydd newid mewn costau tir dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad
i hyn roedd angen ail edrych ar y cynllun dirprwy. Manylwyd fod y drefn gyfredol ar hyn o bryd yn anodd ei
ddeall gyda geiriad annelwig, a bod wedi bod yn destun penbleth o ran hawliau
swyddogion. Esboniwyd fod y cynllun dirwyo newydd gyda gwerthoedd uwch, gan fod
trwch helaeth o’r penderfyniadau ar hyn o bryd yn mynd yn ddieithriad bron drwy
daflen penderfyniad Aelod Cabinet. Mynegwyd fod y trefniadau newydd yn hwyluso
effeithlonrwydd yr adran. Pwysleisiwyd yn amlwg fel Cynlluniau Dirprwyo eraill
y bydd amodau yn ddarostyngedig i elfennau megis polisïau’r Cyngor, rheolau
sefydlog ac ymgynghori gydag aelodau lleol wrth waredu tir. Nodwyd fod y
Cynllun diweddaraf yn rhoi mwy o hyblygrwydd ond yn sicrhau cyfathrebu cyson
gyda’r Aelod Cabinet. Nodwyd fod y Cynllun wedi bod o flaen y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio sydd wedi ei gefnogi. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn
yn symud o sefyllfa aneglur i drefn fodern. Esboniwyd fod yr Adran Gyfreithiol
wedi edrych ar gynlluniau cyffelyb ar draws y Gogledd, a bod y Cyngor yn mynd
am gynllun tir canol o’i gymharu. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Bu i un aelod ddatgan ei wrthwynebiad i’r Cynllun gan fod
achosion ble mae’r Cyngor yn prynu tai gydag amod 106 arno, a drwy wneud hyn yn
lleihau’r stoc o dai fforddiadwy prin sydd ar gael yn y sir. Tynnwyd sylw at
achos ble y bu i’r Cyngor gynnig pris llawer yn uwch na'r pris gofynnol gan
atal unigolyn lleol rhag prynu'r tŷ. Mynegwyd mai dyma’r risg o roi’r
penderfyniad i swyddogion a mynegwyd yr angen i Aelodau Cabinet barhau i wneud
y penderfyniad, gan y credai’r Aelod mai corff democrataidd a ddylai wneud y
penderfyniad. Ymatebodd swyddogion gan nodi nad yw’r Cynllun yn newid yw
hawliau yn hytrach yn newid y rhicyn ariannol. Eglurwyd fod bron i ugain
mlynedd wedi mynd heibio ers iddynt gael ei gosod, ac nad ydynt yn adlewyrchu
hawliau heddiw. Mynegwyd yn yr achos a nodwyd fod hyn wedi digwydd ar
ddechrau’r cynllun prynnu tai a bod datrysiad wedi ei
wneud yn syth. Nodwyd nad yw’r Cyngor ddim eisiau cystadlu ac unigolion i brynu
tai ond yn hytrach i brynu tai nad ydynt yn gwerthu neu a risg o gael eu prynnu tu hwnt i’r sir. Pwysleisiwyd mai dim ond mewn
achosion penodol iawn mae penderfyniad o’r math hwn yn mynd i’r Cabinet, a gan
amlaf ei fod yn benderfyniad Aelod Cabinet. PENDERFYNIAD Mabwysiadu'r diwygiadau o’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion
ynglŷn â chaffael a gwaredu eiddo |
|
|
AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH)(CYMRU) 2013 Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Llio Elenid
Owen, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd cyflwyno cynigion
terfynol yr Arolygon Cymunedol am gymeradwyaeth. Eglurwyd fod dau fath o arolwg
wedi ei gynnal. Y Cyntaf yn arolwg o ffiniau cymunedau ble roedd materion wedi
dod i sylw, ac yr ail arolwg o’r trefniadau etholiadol ym mhob cymuned, gan
edrych os dylid rhannu cymunedau i wardiau at bwrpas etholiadau i’r cyngor
cymuned. Yn ôl ym mis Mawrth 2024, cytunodd y Cyngor i gynnal yr
arolygon a cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar y bwriad a'r cylchoedd gorchwyl.
Yn dilyn hyn ddyblygwyd cynlluniau drafft a gyflwynwyd i’r Cyngor ym mis
Mawrth, ac yn dilyn hynny cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar y cynigion
drafft. Ystyriwyd yr ymatebion a dderbyniwyd ac fe addaswyd lle yn
briodol i greu’r cynigion terfynol. Esboniwyd os yn cymeradwyo bydd y rhai sy’n
ymwneud a newid ffiniau yn cael eu cyflwyno i’r Comisiwn Ffiniau i benderfynu
os am wneud gorchymyn i’w gweithredu. Pwysleisiwyd mai’r Cyngor sydd a’r hawl i
wneud gorchymyn i ddod â’r newidiadau i wardiau cymunedol i rym ond bydd angen
yn gyntaf cyhoeddi adroddiad yn cynnwys y Cynigion Terfynol a’i anfon at y
cyrff a’r bobl a ragnodir yn y Ddeddf. Wrth wneud y gorchymyn bydd rhaid
rhoi ystyriaeth i unrhyw gynrychioliadau sy’n cael eu derbyn gan y Cyngor yn
ystod y cyfnod o 6 wythnos ar ôl ei gyhoeddi. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Gofynwyd am gadarnhad o bryd y bu
i’r ail ymgynghoriad statudol ei gynnal. Cadarnhawyd iddo gael ei gynnal ym mis
Mawrth tan fis Mai. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd:
|
|
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
|
RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD BECA ROBERTS Yn unol â’r Rhybudd o
Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Roberts
yn cynnig fel a ganlyn:- 1. Gan gydnabod
fod y Pwyllgor Pensiynau wedi ac am roi sylw i’r materion yma fel rhan o
adolygiad o’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol fod y Cyngor
yn gofyn i’r Pwyllgor a Partneriaeth Pensiwn Cymru i ystyried i pa
raddau y gellir symud i gefnogi danfuddsoddi 2. Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu
cynhadledd flynyddol ar fuddsoddi moesegol a chynaliadwy gyda golwg ar
hyrwyddo’r defnydd gorau o’r cronfeydd sydd ar gael. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19
o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Beca Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-
Cofnod:
Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-
Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-
|
|
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y
Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Dydd Gŵyl Dewi. Dogfennau ychwanegol: |