Rhaglen

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

COFNODION pdf eicon PDF 300 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2025 a Chwefror 5ed, 2026 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 155 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

7.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

8.

STRATEGAETH CYFALAF 2026/27 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL BLYNYDDOL 2026/27 pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

10.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU (PPC) - DIWEDDARU'R CYTUNDEB RHYNG-AWDURDOD (IAA) pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

11.

DIWYGIADAU I GÔD YMDDYGIAD YR AELODAU A PHOLISI CHWYTHU'R CHWIBAN Y CYNGOR pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad yr Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

12.

CALENDR PWYLLGORAU 2026/27 pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

13.

RHYBUDDION O GYNNIG

(A)  RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Ym mis Ionawr 2026, cafwyd tro u bedol gan Lywodraeth San Steffan parthed eu  cynlluniau i wneud cardiau adnabod digidol yn orfodol ar gyfer profi'r hawl i weithio,a hynny yn dilyn ymateb sylweddol gan Aelodau o’r cyhoedd gyda deiseb hefo dros 3 mil yn cael ei gyflwyno gerbron y Llywodraeth yn datgan eu gwrthwynebiad i DI . Er fod y gofyniad gorfodol am gyflogaeth wedi'i ollwng, mae'r llywodraeth yn bwriadu symud prosesau dilysu ar-lein erbyn 2029, gan arwain at bryderon y bydd system adnabod ddigidol yn dal i gael ei chyflwyno'n raddol drwy ‘r drws cefn fel petai 

 

Bod y Cyngor yma yn llwyr gwrthwynebu cyfundrefn  Digital Identification  a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Llywodraeth Cymru i wrthwynebu DI yn unol a ‘r Llywodraeth yn yr Alban a hefyd yn unol a sawl awdurdod lleol ledled Gwledydd Prydain . Ni ddylai cyfleustra byth ddod ar draul rhyddid personol.

 

 

 

(B)  RHYBUDD O GYNNIG GAN Y CYNGHORYDD ELIN HYWEL

 

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod mai ymddiriedaeth yw sylfaen democratiaeth. Gwyddom fod digwyddiadau diweddar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol wedi tanseilio’r berthynas honno â phobl Gwynedd. Ni all democratiaeth weithredu’n iach heb ymddiriedaeth y cyhoedd yn y rhai sy’n eu cynrychioli; yr ymddiriedaeth honno sy’n galluogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol ac, yn ei thro, yn sicrhau eu llais wrth lunio eu dyfodol. 

 

Noda dystiolaeth gan yr Office for National Statistics fod ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion ar lefel isel iawn, gyda dim ond un o bob pump yn ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol, a bod cysylltiad uniongyrchol rhwng diffyg ymddiriedaeth a diffyg cyfranogiad. 

 

Yn wyneb hynny, mae’r Cyngor hwn yn nodi’r cyfranogiad isel yn etholiad Cyngor Gwynedd 2022, yn unol â thueddiadau ehangach ledled Cymru, gyda thua 38–39% yn pleidleisio, a bod 28 o’r 69 sedd wedi eu hethol yn ddi-wrthwynebiad, gan olygu nad oedd gan nifer fawr o etholwyr Gwynedd ddewis democrataidd. 

 

Cydnabu’r y Cyngor bod y ffigyrau hyn yn amlygu her ddifrifol i iechyd democratiaeth leol ac i’r berthynas rhwng etholwyr a’u cynrychiolwyr.  

 

Cydnabu’r mai ein hymddygiad ni fel arweinwyr cyhoeddus sy’n gosod safon y drafodaeth ddemocrataidd. Na ellir adeiladu ymddiriedaeth, na chynyddu cyfranogiad, oni bai ein bod ni’n modelu’r gwerthoedd hynny ein hunain. 

 

Mae’r Cyngor hwn yn croesawu camau Y Senedd drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) i gryfhau uniondeb bywyd cyhoeddus a gosod gonestrwydd a gwirionedd wrth wraidd ein diwylliant democrataidd.   

 

Yn unol â hyn, mae’r Cyngor hwn yn datgan yn glir mai arnom ni, yn bersonol ac ar y cyd, y mae’r ddyletswydd i gynnal ac adfer ymddiriedaeth y cyhoedd. 

 

Ymrwymwn i’r gwir, i dryloywder, i degwch ac  ...  view the full Rhaglen text for item 13.

14.

YMATEBION A DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG pdf eicon PDF 183 KB

Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Jina Gwyrfai i gyfarfod 3 Gorffennaf 2025 o’r Cyngor ynglŷn a Treth Etifeddiant.