Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Craig
ab Iago, Anwen Davies, Gareth Griffith, Louise Hughes, R.Medwyn Hughes, Aeron
M.Jones, Charles Wyn Jones, Huw Wyn Jones, Linda A.W.Jones, Linda Morgan, Nigel
Pickavance, W.Gareth Roberts, Mike Stevens, Gareth Thomas, Elfed Williams a Gethin
Glyn Williams. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a
gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2019 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Hydref,
2019 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio
ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2020/21 ac eitem 9 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2020/21. (1) Datganodd y Cynghorydd
Stephen Churchman fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2020/21 – oherwydd bod ei gartref yn elwa o’r cynllun oherwydd yr
incwm teuluaidd. Nid oedd yr aelod
o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. (2) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2020/21:- ·
Y Cynghorydd Menna Baines - oherwydd ei bod yn
gydberchennog tŷ gwag. ·
Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd – oherwydd ei fod
yn berchennog tŷ gwag. ·
Y Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod
yn rhentu dau eiddo. ·
Y Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd bod gan
berthynas agos iddo ail-gartref yng Nghaernarfon. ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts – oherwydd bod
ganddo gysylltiad clos â pherchennog ail dŷ yng Ngwynedd. ·
Y Cynghorydd Angela Russell – oherwydd ei bod
yn gweithio i bobl tai haf. Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. (3) Datganodd Rhun ap Gareth
(Uwch Gyfreithiwr / Dirprwy Swyddog Monitro) fuddiant personol yn eitem 9 ar y
rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi
Premiwm 2020/21, oherwydd bod ei chwaer yn berchen ar ail dŷ yng Ngwynedd
ac yn talu premiwm. ‘Roedd yr aelod
staff o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llongyfarchwyd Emma Quaeck a thîm DementiaGO ar gael eu cydnabod
yn y ‘Dementia Friendly Awards’ yn Llundain ym mis Tachwedd. Er na chipiwyd y brif wobr, roedd hi’n gamp
anhygoel iddynt gyrraedd y rownd derfynol allan o dros 400 o enwebiadau. Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’n haelodau
seneddol ar gael eu hail-ethol yn yr etholiad cyffredinol yn ddiweddar. Dymunwyd yn dda i Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid,
yn dilyn ei anhwylder diweddar. |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn unrhyw
ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan
gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Absenoldeb
Aelod o’r Cyngor Nid oedd yr eitem
hon wedi’i chynnwys ar y rhaglen, ond cytunodd y Cadeirydd i’w thrafod fel
mater brys o dan Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972 oherwydd y
byddai’r cyfnod o chwe mis yn olynol o ddyddiad presenoldeb diwethaf aelod mewn
cyfarfod o’r awdurdod yn dod i ben ar 15 Ionawr 2020, a dim sicrwydd y byddai
modd iddo fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r awdurdod cyn hynny. Eglurodd
y Swyddog Monitro:- ·
Bod Adran 85 o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 yn nodi, os yw aelod o awdurdod lleol yn methu mynychu unrhyw
gyfarfod o’r awdurdod am gyfnod o chwe mis yn olynol o ddyddiad eu presenoldeb
diwethaf, yna ni fydd yn aelod o’r awdurdod mwyach. ·
Mai’r unig eithriad i hyn oedd bod
yr awdurdod yn cymeradwyo’r absenoldeb hwnnw. ·
Bod y Cynghorydd Nigel Pickavance
wedi bwriadu dod i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor, ond gan iddo gael ei gymryd yn
wael ac wedi cael cyngor meddygol i beidio dod i gyswllt â phobl, na allai fod
yn bresennol. ·
Gan y byddai’r cyfnod o chwe mis yn
olynol o ddyddiad presenoldeb diwethaf yr aelod yn dod i ben ar 15 Ionawr 2020,
a dim sicrwydd y byddai modd iddo fynychu unrhyw gyfarfod o’r awdurdod cyn
hynny, byddai’n rhaid i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor ymdrin â’r sefyllfa. ·
Ei fod yn argymell bod y Cyngor yn
caniatáu estyniad, oherwydd amgylchiadau gwaeledd yr aelod, tan 31 Mawrth 2020
yn unig. PENDERFYNWYD
cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Nigel Pickavance o gyfarfodydd y Cyngor
oherwydd yr amgylchiadau gwaeledd, tan 31 Mawrth 2020, yn unol ag Adran 85
Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor
Gwynedd. |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.) (1)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones “Mae Ymgynghoriaeth Gwynedd yn aml yn delio
efo materion proffil uchel, ac nid yw’r gwaith yn Fairbourne yn unrhyw
eithriad. Mae Fairbourne wedi cael llawer
o sylw yn y wasg dros y misoedd diwethaf.
Fel rydych yn ymwybodol, mae’r pentref yn wynebu bygythiad oherwydd
materion yn ymwneud a llifogydd a newid hinsawdd sydd wedi arwain at godiad yn
lefelau’r môr. Ond un agwedd o waith yr
Ymgynghoriaeth yw’r gwaith amddiffyn arfordirol. Tybed all yr Aelod Cabinet, y
Cynghorydd Catrin Wager, roi blas i ni ar waith yr Ymgynghoriaeth?” Ateb gan yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol, y Cynghorydd Catrin Wager “Diolch i’r
Cynghorydd Elin Walker Jones am dynnu sylw at waith yr Ymgynghoriaeth, sy’n
waith hynod o bwysig. Yn syml iawn, mi
fuaswn i’n dweud bod yna ddwy fraich i waith yr Ymgynghoriaeth. Un fraich ydi’r gwaith masnachol mae’r
Ymgynghoriaeth yn wneud, y gwaith peirianneg, lle maent yn gweithio ar
gontractau i gleientiaid allanol, gan gynnwys cynghorau eraill, yn ogystal â
gwneud gwaith i Gyngor Gwynedd. Ond yr
ochr arall o’r gwaith ydi ymgymryd â’n dyletswyddau statudol llifogydd ni o
fewn y Cyngor, a chredaf mai at hyn rydych yn cyfeirio’n benodol yn eich
cwestiwn. Mae hwn yn amlwg yn faes
pwysig ofnadwy ac rwy’n falch o ddweud bod yr Ymgynghoriaeth yn gwneud gwaith
eithaf arloesol yn y maes. E.e. maent
wedi bod yn gweithio ar brosiectau lle rydym ni’n edrych ar lifogydd, nid fel
digwyddiad yn y lleoliad mae’n digwydd, ond yn edrych ar y dalgylch cyfan ac yn
edrych ar sut mae dŵr yn llifo a sut rydym yn atal y llif i sicrhau bod
ein cymunedau yn aros yn saff, ac mae yna ddau brosiect ar y gweill ar y funud
yng Ngwyrfai ac Ogwen o ran y math yma o waith.
Rydym ni hefyd yn amlwg yn edrych ar lifogydd o’r môr, ac mae gan Wynedd
arfordir hir iawn ac mae’r gwaith yma’n bwysig gan fod nifer fawr o drigolion
ein cymunedau yn byw ar hyd yr arfordir yma.
Mae’r heriau rydym yn eu hwynebu o ran newid hinsawdd yn golygu, hyd yn
oed pe byddem yn mynd i lawr i garbon sero fory, bod lefelau môr yn mynd i
barhau i godi. Gan hynny, mae’n bwysig
iawn ein bod yn cychwyn cynllunio yn awr am y codiad hwn yn lefel y môr. A dyma’r gwaith mae’r Ymgynghoriaeth yn ei wneud. Maent wedi bod yn adnabod cymunedau sy’n mynd
i wynebu heriau, yn ceisio cysylltu â hwy a chynllunio ar gyfer dyfodol y
cymunedau yma. Felly, yn gryno iawn, mae
gwaith yr Ymgynghoriaeth yn arbennig o bwysig ac rydym ni’n ceisio edrych i’r
dyfodol a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn wynebu cyn lleied o risg i’r dyfodol
â phosib.” Cwestiwn atodol gan y
Cynghorydd Elin Walker Jones “Oes modd i chi roi diweddariad i ni ar beth yn union sy’n mynd ymlaen
ym Mangor?” |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2020/21 PDF 85 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol
cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn
cychwyn 1 Ebrill, 2020. PENDERFYNWYD (a) Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor
am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2020 fel ag yr oedd yn ystod 2019/20. Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod)
ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: (i) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau
anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr
oed gweithio fel ei gilydd. (ii) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o
ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd
yn y Cynllun Rhagnodedig. (iii) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i
bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o
bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. (b) Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth
Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân
addasiadau i’r cynllun am 2020/21, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun. |
|
TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A / NEU GODI PREMIWM 2020/21 PDF 136 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2020/21 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Bod bwlch yn y ddeddf
yn golygu y gallai perchennog tŷ gwag ddweud bod yr eiddo ar werth er mwyn
osgoi talu’r premiwm. ·
Bod pobl yn dioddef, oherwydd y gallai gymryd blwyddyn
neu ragor i atgyweirio hen dŷ, a holwyd a oedd y Cyngor yn edrych i mewn i
bob achos ac yn caniatáu eithriad mewn achosion arbennig. I’r diben hwn, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant
i ychwanegu cymal i’r argymhelliad yn yr adroddiad, sef gofyn i’r Cabinet
edrych ar hyblygrwydd i ystyried polisi am ostyngiad neu gymorth ariannol i
berchnogion tai gwag pan fo’r gwaith o’u hatgyweirio yn cymryd mwy na chwe
mis. Gan i’r Aelod Cabinet gytuno i
dderbyn y gwelliant, bu iddo newid ei gynnig i’r perwyl hwnnw, a dangosodd y
Cyngor, heb drafodaeth, eu bod yn fodlon gyda’r gynffon i’r cynnig. ·
Bod angen system sy’n
gwobrwyo, yn hytrach na chosbi landlordiaid sy’n buddsoddi yn eu heiddo. ·
Bod tri chwmni yn Abersoch yn cynghori pobl i droi tai
yn Air B&B’s, heb unrhyw fath o reolaeth cynllunio, a bod trosglwyddiad y
tai hynny o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig yn golygu bod
y Cyngor yn colli mwy o arian. ·
Y dylai’r aelodau
gael diweddariadau ar y niferoedd tai sy’n trosglwyddo i’r rhestr Ardrethi
Annomestig. Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod ac i gwestiynau a ofynnwyd, nodwyd:-
·
Bod y rheoliadau’n
datgan bod tŷ gwag oedd ar werth am bris rhesymol wedi’i eithrio o dalu’r
premiwm am flwyddyn o’r dyddiad y cafodd ei roi ar y farchnad. ·
Bod modd delio ag
amgylchiadau unigol lle mae angen gwaith sylweddol ar dŷ drwy ran arall
o’r ddeddfwriaeth, a gallai’r Cabinet edrych ar bolisïau addas, yn unol â’r hyn
a gynigiwyd fel gwelliant. ·
Bod aelodau a
swyddogion yn parhau i ohebu’n gyson gyda gweinidogion a swyddogion Llywodraeth
Cymru i bwyso am newid y drefn sy’n caniatáu i eiddo sy’n cael eu defnyddio fel
unedau gwyliau hunan-ddarpar gael eu trethu drwy’r drefn Dreth Ddi-annedd, yn
hytrach na’r Dreth Gyngor. Roedd yna
lawer o gymhlethdodau o ran y gyfundrefn gynllunio a’r gyfundrefn Dreth Cyngor,
ond gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, roedd y cynghorau’n
ceisio negodi ffordd ymlaen. Gan hynny,
awgrymwyd bod yr aelodau yn gadael i’r swyddogion barhau i ddilyn y trywydd am
y tro, ac adrodd yn ôl maes o law ar y cynnydd gyda’r gwaith. · Er bod y Cyngor yn colli arian am bob tŷ oedd yn trosglwyddo i’r rhestr Ardrethi Annomestig, roedd y premiwm ar y tai oedd yn parhau o dan y Dreth Gyngor yn cynhyrchu tua £2.5m y flwyddyn o incwm i’r Cyngor, a’r bwriad oedd buddsoddi’r arian yma mewn tai i bobl leol yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
YMATEB CYNGOR GWYNEDD I BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) - TACHWEDD 2019 PDF 62 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad a
ystyriwyd gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2019, yn ceisio
cymeradwyaeth i’r ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r Ymgynghoriad ar
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – Tachwedd 2019. Nodwyd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r ymateb drafft er ei gyflwyno i’r
Cyngor Llawn am gymeradwyaeth. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Cytunwyd â’r sylw nad
oes angen haen arall o lywodraeth ac mai cydweithio gwirfoddol yw'r ffordd
ymlaen. ·
Nodwyd bod yr ail bwynt bwled yn y bocs “RHAN 1 -
ETHOLIADAU” ym mharagraff 11 o’r ymateb yn amwys gan ei fod yn cyfeirio’n gyntaf
at gefnogi’r cysyniad o ddefnyddio system pleidlais sengl drosglwyddadwy, ond
yn datgan wedyn bod y Cyngor hwn yn ffafrio wardiau un aelod. I’r diben hwnnw, awgrymwyd diwygio’r
paragraff i nodi bod y Cyngor yn cefnogi’r cysyniad o ddefnyddio system
pleidlais sengl drosglwyddadwy, ond os cedwir system cyntaf i’r felin, bod y
Cyngor yn cefnogi wardiau un aelod gan mai hyn sy’n darparu’r cyswllt cryfaf
â’r gymuned. Mewn ymateb, nodwyd mai’r
neges a drosglwyddwyd i’r Comisiwn Ffiniau oedd bod y Cyngor hwn yn ffafrio
wardiau un aelod. Petai’r dull
pleidleisio yn parhau fel y mae, dyna fyddai’r Cyngor yn gefnogi, a gellid
addasu’r ymateb i adlewyrchu hynny. ·
Nodwyd bod y Cyngor yn parhau i ddisgwyl clywed yn ôl
gan y Comisiwn Ffiniau yn sgil cyflwyno’r ymateb i’w cynigion a bod aneglurder
yn parhau, yn arbennig mewn perthynas â wardiau Bangor a rhai ardaloedd o Ben
Llŷn. Mewn ymateb, nodwyd bod y
mater yn dal yn nwylo’r Gweinidog.
Eglurwyd hefyd, petai’r Bil yn dod yn ddeddfwriaeth cyn etholiadau nesaf
y cynghorau sir, a nifer yr etholwyr yn cynyddu o ganlyniad i gynnwys pobl
ifanc 16 ac 17 oed, y gallai hynny newid beth bynnag fo ystyriaethau’r Comisiwn
Ffiniau. Nodwyd ymhellach bod y Bil yn
darparu ar gyfer wardiau un aelod, a phetai hynny’n dod yn ddeddf, mae’n debyg
y byddai’n rhaid ail-edrych ar gynigion y Comisiwn, gan eu bod yn cynnwys
wardiau dau aelod ac felly’n anghydnaws â’r ddeddf. Ar sail hynny, ni chredid bod budd mewn gofyn
i’r Gweinidog am benderfyniad buan ar yr ymateb i gynigion y Comisiwn oherwydd
y gallai’r ddeddfwriaeth newydd, maes o law, wyrdroi rhai o’r materion nad oedd
y Cyngor yn cyd-fynd â hwy yng nghynigion y Comisiwn Ffiniau. Nodwyd ymhellach ei bod yn dechnegol bosib’
cael system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn wardiau un aelod hefyd, er na
fyddai hynny’n cyflawni bwriad y system, sef adlewyrchu’r ganran o bobl sy’n
pleidleisio dros bob plaid. · Nodwyd na fyddai system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn wardiau un aelod yn arbennig o gyfrannol, ac y byddai’n rhaid cael wardiau 3-4 aelod iddo fod yn wir gyfrannol. Mewn ymateb, eglurwyd bod y system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn ward un aelod yn sicrhau yn y pen draw bod mwyafrif etholwyr y ward honno yn gefnogol i’r sawl sy’n cael ei ethol. Cydnabyddid, fodd bynnag, os ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CYNLLUN ARGYFWNG NEWID HINSAWDD PDF 186 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn
adrodd yn ôl ar y camau a gymerwyd gan y Cyngor hyd yma mewn ymateb i’r cynnig
a ystyriwyd yng nghyfarfod 7 Mawrth 2018 o’r Cyngor ynglŷn â newid
hinsawdd. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Y gallai’r Cyngor wneud pethau bach i helpu’r
sefyllfa, megis sicrhau bod adnoddau ar gael i drydanu ceir trydan ym meysydd
parcio’r Cyngor a symud ymlaen gyda Theithio Llesol er mwyn galluogi i bobl
feicio i’r gwaith yn ddiogel. ·
Y dylai aelodau o’r
holl grwpiau gwleidyddol fod yn rhan o’r tasglu a sefydlwyd gan y Cabinet i
ystyried beth ymhellach sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y nod o gael sir
ddi-garbon. ·
Dylid creu llwybr
beicio wrth ochr bob ffordd newydd sy’n cael ei hadeiladu. Dylid gosod paneli solar ar bob tŷ
newydd sy’n cael ei adeiladu a system ail-ddefnyddio dŵr glaw. ·
Bod Greta Thunberg, y ferch ifanc o Sweden, wedi dod â
hyn i gyd ar lwyfan y byd, ac er bod poblogaeth Cymru ond 3 miliwn a phoblogaeth
y byd tua 7 biliwn, roedd yna bethau bach y gellid eu gwneud yma yng Nghymru ac
yng Ngwynedd, e.e. plannu mwy o goed a gosod paneli solar, lle na fyddai
hynny’n effeithio ar y tirlun. ·
Bod hwn yn gynllun da iawn a bod angen i’r Cyngor fod
yn uchelgeisiol iawn yn y maes hwn gan y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar
ddyfodol ein pobl ifanc. Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod ac i gwestiynau a ofynnwyd, nodwyd:-
·
Bod y Cyngor yn
bwriadu buddsoddi £465,000 yn gosod 84 o bwyntiau gwefru cerbydau ar draws y
sir, ond bod rhai anawsterau gyda’r grid.
Roedd trafodaethau’n digwydd eisoes ynglŷn â hynny ac roedd yn
bwysig bod y trafodaethau’n parhau.
Roedd yn dda clywed hefyd bod y Llywodraeth wedi neilltuo arian yn eu
cyllideb ddrafft ar gyfer materion newid hinsawdd, ac er nad oedd y buddsoddiad
yn ddigon o bosib’, roedd yn gam ymlaen o leiaf. ·
Y byddai’r tasglu a
sefydlwyd gan y Cabinet yn ymgynghori’n llawn gyda phob aelod o’r Cyngor ar eu
cynllun gweithredu fel bod modd i bawb gymryd rhan yn y drafodaeth a rhoi
cynigion gerbron. Diolchwyd i bawb oedd
wedi cynnig syniadau eisoes. ·
Bod cyfeiriad at
faterion statudol megis yr angen i dai newydd gwrdd â’r safonau effeithlonrwydd
ynni ymarferol uchaf posib’ yn y templed yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd gofynion y rheoliadau adeiladu
presennol yn reit uchel, ond dylid edrych arnynt eto i weld a ydynt yn mynd yn
ddigon pell. Rhaid cofio, fodd bynnag,
bod cost ychwanegol ynghlwm â’r materion hynny. ·
Y gobeithid y gellid
cydweithio gyda’r sector breifat ar draws pob agwedd o’r gwaith, gan gofio bod
y sector breifat ar y blaen i’r sector gyhoeddus yn hyn o beth. ·
Bod sicrhau arweiniad
cenedlaethol yn allweddol bwysig i wireddu’r nod. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r camau a gymerwyd hyd yma a’r bwriadau ar gyfer y dyfodol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
ADOLYGIAD O DREFNIADAU CRAFFU PDF 81 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, y Cynghorydd
John Brynmor Hughes, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor:- ·
Dalu sylw i gynnwys
adroddiad ar adolygiad o drefniadau craffu a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu ar 28 Tachwedd er mwyn deall y rhesymau dros adolygu’r
trefniadau craffu cyfredol, yr ystyriaethau werth adolygu, yr opsiynau
gwreiddiol gan y gweithgor fu’n ymgymryd â’r gwaith adolygu, yr ymgynghori
trylwyr oedd wedi digwydd a’r opsiynau terfynol a ystyriwyd. ·
Dderbyn argymhelliad
y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i barhau gyda’r trefniadau cyfredol, sef
Opsiwn 1, 3 phwyllgor craffu, gyda materion yr Adran Tai ac Eiddo yn cael eu
craffu gan y Pwyllgor Craffu Gofal. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, cadarnhawyd, o ddewis Opsiwn 1, y
byddai nifer yr aelodau ar y pwyllgorau craffu unigol yn parhau yn 18. Nodwyd bod y 3 phwyllgor craffu presennol yn gwneud penderfyniadau pwysig
iawn sy’n effeithio ar fywydau pobl Gwynedd, ond nid oedd ganddynt amser
digonol yn aml i graffu’r materion hyn yn drylwyr. Roedd y grwpiau tasg ar y llaw arall yn
rhoi’r cyfle i fynd yn llwyr dan groen mater, i ddeall yr holl agweddau
perthnasol yn gywir a’u craffu’n drwyadl, ac i ddod i gasgliad ystyrlon. Ar sail hynny, cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant
i ddewis Opsiwn 2, sef un Prif Bwyllgor Craffu fyddai’n rheoli holl waith
craffu’r Cyngor, gyda chyfran helaeth o’r gwaith craffu yn cael ei gwblhau drwy
ymchwiliadau neu grwpiau tasg a gorffen, gan adolygu’r drefn ar ôl cyfnod o
amser. Pleidleisiwyd ar y gwelliant (Opsiwn 2) ac fe ddisgynnodd. Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol (Opsiwn 1) ac fe gariodd. PENDERFYNWYD (a) Parhau gyda’r trefniadau cyfredol, sef Opsiwn
1, y 3 pwyllgor craffu, gyda materion yr Adran Tai ac Eiddo yn cael eu craffu
gan y Pwyllgor Craffu Gofal yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu. (b) Mabwysiadu mân addasiadau i’r Cyfansoddiad fel
y nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad ar argymhelliad y Swyddog Monitro. |
|
AIL-BENODI AELODAU ANNIBYNNOL I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 48 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn nodi bod tymor aelodaeth dwy
o’r aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, sef Einir Young a Margaret
E.Jones, wedi dod i ben, ac yn argymell i’r Cyngor eu hail-benodi am un cyfnod
olynol, pellach o ddim mwy na 4 blynedd, fel a ganiateir gan Reoliadau
Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001. Diolchwyd i’r ddwy aelod am eu gwaith ar y pwyllgor. PENDERFYNWYD
ail-benodi Einir Young a Margaret E.Jones fel aelodau annibynnol o’r Pwyllgor
Safonau i wasanaethu am dymor pellach o 4 blynedd. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams Yn unol â’r rhybudd o gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn
cynnig fel a ganlyn:- “Mae'r cyngor yn nodi: - Bod cyfeddiannu
tiriogaethau gan rym goresgynnol yn waharddedig o dan gyfraith ryngwladol, ac
felly'n drosedd ryfel. - Bod cyfeddiannu'r
Tiriogaethau Palesteinaidd yn tanseilio unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol i gael
'Datrysiad Dwy Wladwriaeth' heddychlon trwy amgylchynu'n barhaol y tiriogaethau
sy'n dal o fewn y Lan Orllewinol. - Bod hawl y Palesteiniaid i
ymreolaeth yn eu gwlad eu hunain wedi ei chydnabod mewn penderfyniadau niferus
gan y Cenhedleoedd Unedig sydd wedi eu hanwybyddu gan Wladwriaeth Israel. - Y dylai Gwladwriaeth Israel
ddwyn i ben feddiannu'r Tiriogaethau Palesteinaidd, yn unol â phenderfyniadau'r
Cenhedloedd Unedig, a chaniatau i wladwriaeth Balesteinaidd gael ei chreu er
mwyn osgoi trefn apartheid yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r cyngor: - Yn cydnabod bod parhau i
feddiannu Tiriogaethau Palesteinaidd yn anghyfreithlon. Mae’r Cyngor yn galw ar: - Lywodraeth San Steffan a
Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod yn llawn Wladwriaeth
Palesteina. - Y gymuned ryngwladol i
ddwyn pwysau diplomyddol ar Wladwriaeth Israel i ddwyn i ben y meddiannu
anghyfreithlon ac i beidio â chyfeddiannu mwy o diriogaeth.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: “Mae'r cyngor yn nodi: -
Bod cyfeddiannu tiriogaethau gan rym goresgynnol yn waharddedig o dan gyfraith
ryngwladol, ac felly'n drosedd ryfel. -
Bod cyfeddiannu'r Tiriogaethau Palesteinaidd yn tanseilio unrhyw gyfleoedd yn y
dyfodol i gael 'Datrysiad Dwy Wladwriaeth' heddychlon trwy amgylchynu'n barhaol
y tiriogaethau sy'n dal o fewn y Lan Orllewinol. -
Bod hawl y Palesteiniaid i ymreolaeth yn eu gwlad eu hunain wedi ei chydnabod
mewn penderfyniadau niferus gan y Cenhedleoedd Unedig sydd wedi eu hanwybyddu
gan Wladwriaeth Israel. - Y dylai
Gwladwriaeth Israel ddwyn i ben feddiannu'r Tiriogaethau Palesteinaidd, yn unol
â phenderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig, a chaniatáu i wladwriaeth Balesteinaidd
gael ei chreu er mwyn osgoi trefn apartheid yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'r
cyngor: -
Yn cydnabod bod parhau i feddiannu Tiriogaethau Palesteinaidd yn
anghyfreithlon. Mae’r
Cyngor yn galw ar: -
Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod yn
llawn Wladwriaeth Palesteina. - Y
gymuned ryngwladol i ddwyn pwysau diplomyddol ar Wladwriaeth Israel i ddwyn i
ben y meddiannu anghyfreithlon ac i beidio â chyfeddiannu mwy o diriogaeth.” PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Owain Williams Yn unol â’r rhybudd
o gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan
Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Owain Williams yn cynnig
fel a ganlyn:- “Bod y Cyngor yn annog ein hysgolion
i ddysgu yr anthem genedlaethol yn ei chyfanrwydd
i’r disgyblion. Ymhellach i hyn,
ein bod yn annog ein Senedd
i gysylltu â’r holl gynghorau
sir eraill fel eu bod yn cydymffurfio
â’r cynnig hwn.” Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (B) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Owain Williams o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Bod y Cyngor yn
annog ein hysgolion i ddysgu yr anthem genedlaethol yn ei chyfanrwydd i’r disgyblion.
Ymhellach i hyn, ein bod yn annog ein Senedd i gysylltu â’r holl gynghorau sir
eraill fel eu bod yn cydymffurfio â’r cynnig hwn.” PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig. |