Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, John Brynmor Hughes, Linda Morgan, John Pughe, John Pughe Roberts, Angela Russell, Einir Wyn Williams ac Eirwyn Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 422 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mai, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·           Y Cynghorydd Angela Russell a’r teulu ar farwolaeth ei chwaer;

·           Y Cynghorydd Gwynfor Owen a’r teulu ar golli ei dad-yng-nghyfraith;

·           Dafydd Gibbard, y Prif Weithredwr, a’r teulu ar golli ei fam;

·           Teulu Joshua Lloyd Roberts, 19 oed, a fu farw mewn amgylchiadau trychinebus yng Nghaernarfon yn ddiweddar;

·           Teulu Gareth Fon Jones, Prifathro Ysgol Dolbadarn, Llanberis (mab cyn-Gadeirydd y Cyngor hwn, sef y cyn-Gynghorydd Eric M Jones) a fu farw’r wythnos ddiwethaf.  Rhoddwyd gair o deyrnged iddo gan y Prif Weithredwr.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·           Rachel Atherton o Ddinas Mawddwy ar ei llwyddiant byd-eang ym maes beicio mynydd drwy ennill rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd yn y Swistir ar ôl pedair blynedd o beidio rasio oherwydd anaf.

·         Pawb o Wynedd a fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri yn ddiweddar, yn enwedig Gwydion Rhys o Rachub, Y Prif Gyfansoddwr a Tegwen Bruce-Deans o Fangor, a gipiodd y Gadair.

 

Dymunwyd yn dda i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a gynhelir ym Moduan y mis nesaf.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 395 KB

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.17 o’r Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn ar ran Cylch yr Iaith (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad).

 

“O ystyried bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi caniatáu sefyllfa lle bo

 

-       plant yn cael eu trochi yn unedau’r gyfundrefn drochi am 20% yn llai o amser nag o’r blaen, a hynny drwy gwtogi’r amser y mae’r plant yn yr unedau o 5 diwrnod yr wythnos i 4;

-       cwtogi staffio unedau trochi o ddau athro i un;

-       unedau trochi yn gorfod cau am gyfnodau o ganlyniad i absenoldeb staff a phrinder athrawon llanw cymwys;

-       a hefyd, oherwydd y lleihad, cyfyngu ar allu staff unedau trochi i fynd i’r ysgolion i roi arweiniad a chymorth;

 

onid ydi hin wir bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi bod yn gyfrifol am wanychu effeithiolrwydd y ddarpariaeth drochi, a bod angen cywiro’r sefyllfa?

 

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

          Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (ar ran Cylch yr Iaith) (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

“O ystyried bod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi caniatáu sefyllfa lle bo –

·         plant yn cael eu trochi yn unedau’r gyfundrefn drochi am 20% yn llai o amser nag o’r blaen, a hynny drwy gwtogi’r amser y mae’r plant yn yr unedau o 5 diwrnod yr wythnos i 4;

·         cwtogi staffio unedau trochi o ddau athro i un;

·         unedau trochi yn gorfod cau am gyfnodau o ganlyniad i absenoldeb staff a phrinder athrawon llanw cymwys;

·         a hefyd, oherwydd y lleihad, cyfyngu ar allu staff unedau trochi i fynd i’r ysgolion i roi arweiniad a chymorth,

 

onid ydi hi’n wir fod Adran Addysg a Chabinet y Cyngor wedi bod yn gyfrifol am wanychu effeithiolrwydd y ddarpariaeth drochi, a bod angen cywiro’r sefyllfa?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“I ateb y pwyntiau unigol i ddechrau, ers i’r weledigaeth newydd yma ar gyfer y gyfundrefn drochi fod yn weithredol, mae asesiadau athrawon yn nodi bod cyflawniad y plant yn gyson hefo’r drefn a fu, a’u bod yn cael gwasanaeth cystal, os nad gwell, na’r drefn a fu.  Hefyd, mae sylwadau’r penaethiaid yn nodi bod y plant yn gwerthfawrogi gallu cadw cysylltiad hefo’u mam ysgol, a buaswn i’n tybio y bydd y drefn honno yn ei gwneud yn haws dwyn perswâd ar rieni i yrru eu plant i’r canolfannau trochi.  Nid oes gennym yr hawl, wrth gwrs, i orfodi unrhyw deulu i yrru eu plant yno, ac rwy’n meddwl ei bod yn naturiol i riant boeni am blentyn yn colli cysylltiad hefo’u cyfoedion, a hynny, ar adeg, efallai, pan fo plentyn newydd symud i ardal newydd ac yn trio gwneud ffrindiau. 

 

O ran y strwythur staffio, mae’r drefn newydd yn creu cyfle i greu un tîm sy’n cydweithio ac yn gallu datblygu’n barhaus, ac mae cytundebau parhaol, wrth gwrs, yn rhoi sicrwydd a chysondeb.  Nid oes yr un uned drochi wedi gorfod cau oherwydd absenoldeb na phrinder athrawon cymwys.  Mae’r staff yn mynd i ysgolion prif lif bob wythnos ac maen nhw hefyd yn treulio cyfnodau ar ddiwedd pob cwrs yn rhoi cefnogaeth ac ôl-ofal i’r plant.

 

Ar bwynt cyffredinol, ein blaenoriaeth ni bob tro ydi rhoi’r plentyn yn ganolog ac wrth galon unrhyw gynlluniau er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn y lle gorau un i ddysgu a chaffael y Gymraeg, fel mae pob un ohonom ni yn yr ystafell yma eisiau rwy’n siŵr.  A hefyd mae’n werth nodi bod tîm llawn o arolygwyr Estyn wedi bod yn arolygu’r Awdurdod yr wythnos ddiwethaf, ac un o’r pethau roedden nhw’n craffu’n benodol arno oedd maes y Gymraeg, gan gynnwys y maes trochi, a bydd canfyddiadau’r arolygiad hwnnw yn gyhoeddus ym mis Medi.  Rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn i’w ddarllen yn fanwl, a byddaf yn annog i bawb arall ei ddarllen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2022/23 pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Croesawyd Mr Eifion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am 2022/23.

 

Nododd y Cadeirydd y bu’n fraint iddo gael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ym mis Chwefror eleni, ac y dymunai ddiolch yn ddiffuant i’w ragflaenydd yn y Gadair, sef Dr Einir Young, a roddodd wasanaeth ac arweiniad i’r Pwyllgor dros gyfnod o 10 mlynedd fel aelod.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd y Cadeirydd sylw at y ddyletswydd statudol newydd ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol, gan ddiolch i’r 3 Arweinydd am eu cydweithio ar y camau cychwynnol sydd wedi’u cymryd i ymdrin â’r ddyletswydd.  Pwysleisiodd bwysigrwydd cadw perthynas glos rhwng yr Arweinyddion a’r Swyddog Monitro, gan nodi y byddai’r Pwyllgor Safonau llawn yn trefnu cyfarfod gyda’r Arweinyddion yn y dyfodol agos.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau am ei waith yn ystod y flwyddyn.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Holwyd sut roedd uwch swyddogion y Cyngor, megis y Swyddog Monitro, yn cael eu safoni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Mai rôl y Pwyllgor Safonau oedd edrych ar ymddygiad cyhoeddus a’r ffordd mae aelodau etholedig yn ymddwyn fel rhan o’u gwaith.

·         Bod yna God Ymddygiad ar gyfer aelodau, a Chod Ymddygiad ar gyfer swyddogion, a bod pawb yn glynu ato bob amser hyd eithaf eu gallu.

·         Bod yna drefn reoli perfformiad cwbl ar wahân ar gyfer materion perfformiad swyddogion o ran eu gwaith, a bod hynny’n gwbl ar wahân i’r hyn mae’r Pwyllgor Safonau yn ei wneud.

·         Bod rôl y Swyddog Monitro yn rôl statudol a bod deilydd y swydd yn atebol ac yn gyfrifol am y swyddogaeth yna i’r Cyngor llawn.  Pe dymunai unrhyw un wneud cŵyn yn erbyn y Swyddog Monitro, byddai gofyn iddynt godi’r mater gyda’r Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei adroddiad blynyddol mewn perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod 2022/23.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i’w ragflaenydd yn y swydd, Morwena Edwards, am ei gwaith trylwyr cyn ymadael yn ystod haf 2022, a hefyd i Lois Owens (Uwch Swyddog Gweithredol) am ei gynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad ysbrydoledig sy’n amlygu’r arweiniad mae’n ei roi, a hefyd am yr adroddiad sy’n rhwydd i’w ddarllen ac yn cynnwys enghreifftiau go iawn a hyfryd o’r gwaith sy’n digwydd.  Nododd ymhellach bod yr ystadegau ar dudalen flaen yr adroddiad yn frawychus, ond eto’n amlygu pwysigrwydd y gwaith, a phwysleisiodd fod yr aelodau’n hynod o ddiolchgar i’r staff ymroddgar sy’n cyflawni gwyrthiau oddi fewn i’r cyllidebau tynn.

 

Ategwyd diolchiadau’r Arweinydd gan sawl aelod arall yn ogystal, a chodwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Mynegwyd gobaith y byddai’r Adroddiad Blynyddol nesaf yn cynnwys y protocol sy’n cael ei ddatblygu gan yr Adran ar hyn o bryd ar sut i helpu pobl sy’n cwympo ac yn methu cael ambiwlans am oriau. 

 

Croesawyd y gwaith sy’n digwydd i sicrhau urddas a pharc i ofalwyr ifanc a holwyd faint ohonynt sydd wedi derbyn y cerdyn adnabod, ac a oes potensial i’w ehangu?  Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn debygol bod y mwyafrif llethol o’r 121 o ofalwyr ifanc sy’n derbyn cefnogaeth yn defnyddio’r cerdyn, ond y gellid dod yn ôl at yr aelod gyda’r union ffigwr.

 

Holwyd faint o gydweithio sy’n digwydd rhwng y Cyngor a mudiadau sy’n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad, megis y DPJ Foundation a Tir Dewi.  Mewn ymateb, nodwyd na ellid rhoi ateb pendant, ond y gellid dod yn ôl at yr aelod gyda’r wybodaeth.  Er hynny, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn ceisio gweithio mewn partneriaeth gydag unrhyw fudiad sy’n hyrwyddo iechyd meddwl, yn enwedig yng nghefn gwlad.

 

Gan gyfeirio at dudalen 24 o’r adroddiad, holwyd beth oedd effaith y 9 swydd gwaith cymdeithasol oedd yn wag ar ddiwedd Ionawr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·           Bod y Cyngor yn cyflogi tua 150 o weithwyr cymdeithasol a 30-40 o therapyddion galwedigaethol, a gellid darparu’r union ffigurau ar gyfer yr aelod.

·           Bod y swyddi gweigion yn creu her i’r Gwasanaeth o ran cyrraedd pobl sy’n galw am wasanaeth ac yn galw am asesiad, ond y llwyddir i wneud hynny gyda’ gweithwyr cymdeithasol, gan nad oes gennym ddewis arall.

·           Bod yna bob mathau o bethau eraill yn mynd ymlaen yn y cefndir, megis y sefyllfa o ran hyfforddiant, a faint o fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i hyfforddi i fod yn weithwyr cymdeithasol.

·           Ei bod yn her fawr cael myfyrwyr i fynd i Brifysgol Bangor i ddilyn y cwrs gwaith cymdeithasol, a bod hynny’n wir am y cwrs Therapi Galwedigaethol hefyd.

·           Bod gan y Cyngor 4 hyfforddai therapi galwedigaethol ar hyn o bryd a tua 6 hyfforddai gwaith cymdeithasol hefyd ar unrhyw adeg.  Roedd hynny’n helpu i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2022/23 pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cynghorydd Beth Lawton, adroddiad blynyddol craffu ar gyfer 2022/23.  Diolchodd i’r cadeiryddion ac is-gadeiryddion craffu a’r holl aelodau craffu am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.  Diolchodd hefyd i swyddogion y Gwasanaeth am gefnogi’r aelodau a llunio’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Holwyd a oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at adolygiad Archwilio Cymru o effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd yr adroddiad wedi’i gyhoeddi eto, ac y byddai ar gael yn fuan ym mis Hydref.

 

Nodwyd nad oedd yr Adroddiad Blynyddol yn dangos effeithiolrwydd y craffu, h.y. sut mae sylwadau’r craffwyr ar adroddiadau neu gynlluniau strategol drafft wedi dylanwadu ar yr adroddiadau / cynlluniau strategol terfynol.  Cwestiynwyd beth oedd diben yr Adroddiad Blynyddol oedd gerbron a holwyd pryd fyddai’r aelodau’n derbyn adroddiad sy’n edrych ar wir effeithiolrwydd y craffu.  Mewn ymateb nodwyd:-

 

·         Mai un cynnig i wella sy’n cael ei adnabod yn y fersiwn drafft o adroddiad Archwilio Cymru yw’r union bwynt yma, sef olrhain effaith y craffu sy’n digwydd.

·         Bod bwriad i gynnal adolygiad mewnol o’r trefniadau craffu yn yr hydref.  Byddai drafft o amserlen ar gyfer cynnal yr adolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Craffu cyn diwedd y mis, ac yn sicr, byddai olrhain effaith craffu yn rhan o’r ystyriaeth yn ystod yr adolygiad yna hefyd.

 

Gan fod yr Adroddiad Blynyddol yn rhestru rhai o’r sylwadau a wnaed gan aelodau wrth drafod gwahanol faterion, awgrymwyd y byddai’n synhwyrol defnyddio’r sylwadau hynny fel man cychwyn ar gyfer gwaith y flwyddyn ganlynol, fel bod yr adrannau yn gallu dod yn ôl  ymhen 6 mis neu flwyddyn gyda diweddariadau ar y prif faterion a godwyd gan y craffwyr y flwyddyn cynt.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod sylwadau o’r fath bob amser o gymorth, a phetai gan yr aelodau unrhyw syniadau gwahanol o ran sut i gael mwy o werth o’r adroddiadau, diau y byddai’r swyddogion yn cymryd hynny i ystyriaeth y flwyddyn nesaf.

·         Y cytunid bod lle i wella, a bod angen gwneud gwell defnydd o’r eitem sefydlog ‘Materion yn codi o Drosolwg a Chraffu’ ar raglenni cyfarfodydd y Cabinet, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgorau craffu ar ganlyniad trafodaethau’r Cabinet.

 

Nodwyd y ceid ymdeimlad bod y gyfundrefn graffu bresennol wedi’i chreu er mwyn cadw grym mewn un lle, ac er bod rhyddid i’r craffwyr drafod gwahanol faterion, ni welid y cyswllt rhwng y trafodaethau hynny a newidiadau mewn polisi.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr aelodau newydd ar y Cyngor wedi gallu ychwanegu llawer at y gyfundrefn graffu, ac yn yr hydref, gellid dwyn syniadau a sylwadau’r aelodau, ynghyd â sylwadau Archwilio Cymru at ei gilydd, gan edrych oes yna ffordd o wella’r llinyn aur rhwng y craffu a’r penderfynu. 

 

Nododd cyn-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal ei fod o’r farn bod y Pwyllgor yn gwneud gwahaniaeth, a chyfeiriodd at y gwaith o ran denu staff ac amlygu diffygion yn y Gwasanaeth Ambiwlans a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DIWYGIO CYNLLUN HAWLIAU DIRPRWYEDIG SWYDDOGION pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn manylu ar ddiwygiadau i’r Cynllun Dirprwyo a gymeradwywyd gan y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

11.

ABSENOLDEB AELOD O GYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Eirwyn Williams o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Eirwyn Williams o gyfarfodydd yr awdurdod oherwydd gwaeledd er mwyn ei alluogi i barhau i fod yn aelod yn unol â’i ddymuniad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo absenoldeb y Cynghorydd Eirwyn Williams o gyfarfodydd y Cyngor am gyfnod o 6 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn oherwydd amgylchiadau personol, yn unol ag Adran 85 Deddf Llywodraeth Leol 1972, gan ei alluogi i barhau i fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

12.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r grymoedd dros gyfiawnder (Y Llysoedd, Carchardai, Yr Heddlu, Gwasanaeth Prawf, a grymoedd eraill ynghlwm) a chreu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

 

·         Mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â’r gallu i greu deddfau, ond heb awdurdodaeth gyfreithiol ei hun, a bod y cymhlethdod sy’n codi o’r drefn yma’n golygu bod trafferthion yn codi rhwng y Senedd a San Steffan, gyda’r polisïau’n croesi ar faterion allweddol, a’r Senedd yn defnyddio ei chyllid i dalu am wasanaethau nad oes ganddi rym drostynt, yn ogystal ag achosion llys drudfawr.

·         Bod llawer iawn o newidiadau negyddol wedi bod ynglŷn â’r system gyfreithiol yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf, gyda 23 o lysoedd y goron / ynadon yn cau, sy’n golygu bod mwy o bobl yn gorfod teithio ymhellach am gyfiawnder, yn enwedig pobl sy’n byw mewn cymunedau ac ardaloedd gwledig.  Hefyd, mae torri’r cymorth cyfreithiol i bobl sydd mewn angen yn golygu bod llawer yn dioddef problemau iechyd ac iechyd meddwl o boeni am achosion yn y llys, ac mae hynny, yn ei dro, wedi arwain at fwy o straen ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. 

·         Y byddai datganoli’r grymoedd dros gyfiawnder a chreu cyfundrefn newydd yn golygu y gallai Cymru fynd ar drywydd gwahanol i ddatblygu’r gwasanaeth cyfreithiol i fod yn well i bobl Cymru. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaeth gyfreithiol eu hunain, yn ogystal ag Ynys Manaw, Jersey a Guernsey; mae hyd yn oed ardaloedd yn Lloegr gyda mwy o rym dros elfennau o’r gyfraith na Chymru. Mae’n bryd i’n cenedl gael yr un grym i symud ymlaen er mwyn gwaredu’r sefyllfa gymhleth sy’n bodoli rŵan.

·         Y credid ei bod yn bwysig bod y cynghorwyr yn gwthio’r materion cenedlaethol yma er lles pobl y wlad, ac wrth i ni ddod a’r materion yma gerbron y Cyngor, mae’n cychwyn sgyrsiau allweddol, sy’n symud ein cymunedau ymlaen a chreu systemau sy’n gweithio i ni.

 

Mynegodd nifer o aelodau eraill gefnogaeth i’r cynnig gan nodi:-

 

·         Bod hyn yn wall sylfaenol yn y ffordd mae Cymru’n gweithio a’i bod yn hanfodol bod ein system gyfreithiol yn adlewyrchu ein gwerthoedd a phwy ydym ni fel Cymry.

·         Ein bod angen y grym dros, nid yn unig hyn, ond popeth, a’n bod angen edrych ar ôl ein hunain fel gwlad a chael annibyniaeth i Gymru.

·         Bod cynnig gan Gyngor Gwynedd yn galw am annibyniaeth i wahanol systemau / gweinyddiaethau yn gam sicr ac angenrheidiol ymlaen.

·         Nad oedd yn anarferol, dan y drefn bresennol, i achosion llys gael eu symud ar fyr-rybudd o’r llys yng Nghaernarfon i Gaer.

·         Bod gennym yr isadeiledd, y llysoedd, ac ati, yng Nghymru, ond bod yr hen system sy’n rheoli’r cyfan yn Lloegr.

·         Bod yr ystadegau’n profi nad yw’r system gyfiawnder sy’n cael ei rheoli o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth - Llythyr gan Drafnidiaeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth – Llythyr gan Drafnidiaeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Huw Rowlands i gyfarfod 1 Rhagfyr 2022 o’r Cyngor ynglŷn â gwella gwasanaethau trenau yng Ngwynedd.

 

Nododd y Cadeirydd ei fod yn gwerthfawrogi’r ymateb, ond yn siomedig ei fod wedi cymryd cyhyd.