Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. Mynegwyd tristwch a chydymdeimlad i ddioddefwyr erchylltra’r gwrthdaro yn
Israel a Gaza. Nodwyd cefnogaeth y Cabinet i gynnig
grŵp Plaid Cymru’r Senedd i gondemnio’r trais hwn gan ei fod yn arwain at
farwolaethau’r diniwed, yn ogystal â chais y Cenhedloedd Unedig i gael oediad
i’r gwrthdaro er mwyn darparu cymorth dyngarol i bobl Israel a Palesteina.
Gobeithiwyd am ddatrysiad hirdymor i’r gwrthdaro. Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion
i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y
Cynghorydd Menna Trenholme ar gyfer Eitem 6, gan ei
bod yn lywodraethwr yn Ysgol Bontnewydd. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant
sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y
Cynghorydd Huw Rowlands ar gyfer Eitem 6, gan ei fod yn lywodraethwr yn Ysgol Felinwnda. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 HYDREF 2023 PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 10 Hydref fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a. Cymeradwywyd yn derfynol y cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a
threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol
Felinwnda ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion
presennol i drosglwyddo i ysgol amgen cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol
Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1 Ionawr 2024. b. Cymeradwywyd trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n
cynnig cludiant am ddim i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda, i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am
weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant
Cyngor Gwynedd. c. Caniatawyd cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn
gwasanaethu fel ysgol dalgylch i blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD a.
Cymeradwywyd yn derfynol y
cynnig o dan Adran 43 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013,
a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Felinwnda
ar 31 Rhagfyr 2023, a’r disgyblion presennol i drosglwyddo i ysgol amgen
cyfagos, sef Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, yn unol â dewis rhieni, o 1
Ionawr 2024. b.
Cymeradwywyd trefniadau
cludiant ar gyfer y cyfnod trosiannol yn unig, fyddai’n cynnig cludiant am ddim
i’r dysgwyr rheini sydd wedi cofrestru yn Ysgol Felinwnda
ar hyn o bryd, ac yn byw yn nalgylch Ysgol Felinwnda,
i Ysgol Bontnewydd neu Ysgol Llandwrog, am weddill cyfnod y dysgwr yn un o’r
ysgolion rheini, yn unol â pholisi cludiant Cyngor Gwynedd. c.
Caniatawyd cynnal
ymgynghoriad ar ddyfodol dalgylch presennol Ysgol Felinwnda
er mwyn cytuno pa ysgol, neu ysgolion, fydd yn gwasanaethu fel ysgol dalgylch i
blant dalgylch presennol ysgol Felinwnda i’r dyfodol. TRAFODAETH Atgoffwyd yr aelodau
mai Ysgol Felinwnda yw’r ysgol leiaf o fewn y sir yn
dilyn CYBLD (Cyfrifiad Ysgolion Blynyddoedd ar Lefel Disgyblion) Ionawr 2023,
gydag 8 disgybl yn unig yn mynychu’r ysgol. Manylwyd bod eitem wedi cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 er mwyn derbyn caniatâd i gyhoeddi
rhybudd statudol o’r bwriad i gynnal ymgynghoriad i gau’r ysgol. Adroddwyd bod cyfnod
gwrthwynebu wedi cael ei gynnal rhwng 5 Medi a 4 Hydref ac bod 4 gwrthwynebiad
i gau’r ysgol wedi dod i law. Sicrhawyd bod y gwrthwynebiadau hyn wedi cael
ystyriaeth. Nodwyd bod
ymgynghoriadau wedi cael eu cymryd gyda disgyblion a staff yr ysgol. Crynhowyd
mai rhai o’u hystyriaethau oedd eu bod yn tristau, ofn colli ffrindiau, gofidio
am ddyfodol yr adeilad a pheri am y cymorth bydd ar gael iddynt mewn ysgolion
newydd. Er hyn, nodwyd hefyd ei bod yn falch o’r profiadau roedd yr ysgol wedi
eu darparu iddynt a bod ymdeimlad o deulu clos o fewn yr ysgol a bod y
disgyblion yn edrych ymlaen at greu ffrindiau newydd. Rhoddwyd ystyriaeth
i’r effaith gymunedol o gau’r ysgol. Manylwyd nad ystyrir effaith negyddol ar y
gymuned os byddai’r ysgol yn cau oherwydd nad oes defnydd cymunedol i’r adeilad
tu hwnt i’r defnydd addysgol. Eglurwyd mai dyma’r sefyllfa oherwydd bod y
neuadd gymunedol wedi ei leoli drws nesaf i’r ysgol ac yn cael ei defnyddio’n
rheolaidd. Cydnabuwyd bod y cylch meithrin lleol yn defnyddio’r ganolfan
gymunedol hon ac mae posibilrwydd bydd cau’r ysgol yn effeithio’r cylch. Er
hyn, adroddwyd bod ffigyrau’r plant sy’n mynd i’r cylch yn iach iawn ac nid yw
hynny’n dilyn ymlaen i’r ysgol felly ystyrir na fyddai gormod o effaith ar y cylch
meithrin. Esboniwyd bod
ystyriaeth benodol wedi cael ei roi ar y ganolfan gymunedol gan sicrhau bod
Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn cydweithio gyda’r ganolfan i’r dyfodol yn
ogystal â gwasanaethau Uned Blynyddoedd Cynnar y Cyngor yn rhoi cefnogaeth i’r
cylch meithrin. Cyfeiriwyd at y posibilrwydd bod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi lleihau yn sgil adeiladu ffordd osgoi newydd yn yr ardal yn ddiweddar. Er hyn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart: Pennaeth Cynorthwyol Addysg |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - ASESIAD PERFFORMIAD PANEL PDF 204 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd ar amserlen ar gyfer cynnal Asesiad
Perfformiad Panel yn ystod tymor yr Hydref 2024 gan gomisiynu Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi y gwaith. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD Cytunwyd ar amserlen ar gyfer cynnal Asesiad
Perfformiad Panel yn ystod tymor yr Hydref 2024 gan gomisiynu Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi y gwaith. TRAFODAETH Nodwyd bod yr eitem hon wedi cael ei gyflwyno
i’r Cabinet yn flaenorol cyn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ym mis Medi
2023. Adroddwyd bod Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod cyfrifoldeb ar Gynghorau i gynnal Asesiad
Perfformiad Panel unwaith o fewn y cylch etholiadol. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor Llawn wedi
cytuno i newid y cyfansoddiad ym mis Medi 2023 er mwyn caniatáu i’r Cabinet
benderfynu pwy ddylai cynnal a chydlynu’r asesiad panel yn ogystal ag amseriad
yr asesiad. Manylwyd bod rhaid dilyn tair dyletswydd statudol wrth gynnal
asesiad panel, gan gynnwys: ·
Paratoi (Pennu’r cwmpas,
cylch gorchwyl ac aelodaeth) ·
Asesu (cynnal yr asesiad a
chyflwyno canfyddiadau) ·
Cam dilynol (llunio’r
adroddiad terfynol ac ymateb y Cyngor) Eglurwyd byddai’r asesiad yn edrych ar y graddau
mae’r Cyngor yn gweithredu ei swyddogaethau’n effeithiol, defnyddio adnoddau yn
ddarbodus ac sicrhau bod trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith. Argymhellwyd i’r asesiad hwn gael ei gynnal ym
mis Hydref 2024 oherwydd byddai hynny tua hanner ffordd drwy’r cylch etholiadol
presennol. Eglurwyd bod modd comisiynu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi’r Cyngor drwy sefydlu panel addas a’u
hwyluso drwy gydol y broses. Awdur: Dewi Jones: Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor |
|
CYNLLUN DIGIDOL CYNGOR GWYNEDD, 2023-28 PDF 148 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Digidol
newydd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2023-28. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Cynllun Digidol
newydd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2023-28. TRAFODAETH Eglurwyd bod cyfnod y Strategaeth Ddigidol
blaenorol wedi dod i ben yn 2018 ac felly nid oes gan y Cyngor gynllun digidol
ar hyn o bryd. Er hyn, atgoffwyd bod y Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth
Ddigidol Ysgolion Gwynedd yn y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd bod nifer fawr o brosiectau wedi cael
eu cynnwys o fewn y Cynllun Digidol a gyflwynir i’r Cabinet ac bod rhain yn
brosiectau sy’n cymryd lle yn draws-adrannol er mwyn sicrhau adnodd safonol i
bawb. Esboniwyd bod Bwrdd Trawsnewid Digidol wedi cael
ei ffurfio i gadw trosolwg ar gynnydd y rhaglen waith. Nodwyd mai Cadeirydd y
Bwrdd yw’r Cyfarwyddwr Corfforaethol. Ymhelaethwyd bod 4 is grŵp wedi cael
ei sefydlu gydag arweiniad gwahanol adrannau, gan gynnwys: ·
Is-grŵp Gwydnwch – a arweinir
gan Gwyn Jones, Rheolwr Systemau Isadeiledd ·
Is-grŵp Cyswllt Cwsmer
- a arweinir gan Steffan Jones, Pennaeth
Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC ·
Is-grŵp Gwybodaeth a
Data – a arweinir gan Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ·
Is-grŵp Gweinyddiaeth
a Systemau Busnes – a arweinir gan Huw Ynyr, Pennaeth Cynorthwyol Technoleg
Gwybodaeth a Chyllid Sicrhawyd bod y blaenoriaethau a gyflwynir o
fewn y cynllun yn cyd-fynd gyda’r hyn a gyflwynir o fewn Cynllun y Cyngor.
Adroddwyd bod ystyriaethau cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a Hinsawdd wedi cael
ei ystyried wrth lunio’r Cynllun. Atgoffwyd bod yr eitem hon wedi cael ei gyflwyno
ger bron Aelodau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac mae eu sylwadau wedi cael
ystyriaeth cyn cyflwyno’r Cynllun i’r Cabinet. Cadarnhawyd bod cyfanswm o 29 o brosiectau wedi
cael eu cynnwys o fewn y cynllun a bod y rhain yn disgyn i mewn i’r pum maes
blaenoriaeth fel trafodwyd isod: 1. Cyswllt Cwsmer – soniwyd y cynlluniwyd i ddatblygu dulliau
cyfathrebu yn sylweddol drwy ddatblygu’r wefan a systemau ffôn yn ogystal â
gwneud defnydd o apiau megis Whatsapp
a Messenger. Nodwyd yr angen i ddatblygu a hyrwyddo apGwynedd
a’r ciosg fideo yn Siop Gwynedd ar y cyd gyda sicrhau cysondeb wrth dalu drwy
beiriant am wasanaethau. 2. Gwybodaeth a Data - eglurwyd bod nifer o
adrannau a systemau gwahanol yn cadw data. Manylwyd bod nifer o’r systemau hyn
yn cadw’r un math o wybodaeth. Nodwyd bod hyn yn gyfle i sicrhau nad ydi data
yn wallus a'i fod yn cael ei storio mewn un lle, er mwyn sicrhau cywirdeb. 3. Gweinyddiaeth a Systemau Busnes - manylwyd mai nod
y maes blaenoriaeth hwn yw sicrhau bod gwasanaethau mewnol y Cyngor yn
gweithredu yn effeithlon, gwella cynhwysiad digidol (drwy leihau’r defnydd o
bapur) ac ymchwilio i sut ellir cyflwyno deallusrwydd artiffisial i’r Cyngor yn
ofalus a llwyddiannus. 4. Gweithlu - bwriedir cyflwyno cyfrif digidol i bob aelod o’r staff. Nodwyd bod hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r staff dderbyn mynediad i nifer o bethau gan gynnwys hyfforddiant a slipiau cyflog. Eglurwyd mai tua thraean o holl weithlu’r Cyngor sy’n meddu a chyfrif digidol eu hunain ar hyn o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Huw Ynyr: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid a Techoleg Gwybodaeth |
|
CAFFAEL GWERTH CYMDEITHASOL PDF 261 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd a chefnogwyd y
cynnig i ychwanegu at ein Polisi Caffael Cynaliadwy a chynnwys y mesurau gwerth
cymdeithasol fel rhan o’n trefniadau asesu contractau. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd a chefnogwyd y cynnig
i ychwanegu at ein Polisi Caffael Cynaliadwy a chynnwys y mesurau gwerth
cymdeithasol fel rhan o’n trefniadau asesu contractau. TRAFODAETH Eglurwyd bod angen addasu Polisi Caffael y
Cyngor yn dilyn ychwanegiad i feini prawf arferol sy’n asesu cytundebau ar sail
pris ac ansawdd sy’n sicrhau ystyriaethau mesurau gwerth cymdeithasol. Adroddwyd bod asesu mesurau gwerth cymdeithasol wedi cael ei dreialu
drwy gynnal cynlluniau peilot ar draws sawl maes o fewn y Cyngor. Sicrhawyd bod
hyn wedi caniatáu gwell dealltwriaeth o’r drefn newydd a sicrhawyd bod y drefn
arfaethedig yn cefnogi’r nod o brynu’n lleol drwy: · Cynnig ffordd
dryloyw a meintiol i asesu gwerth cymdeithasol fel sail gwobrwyo cytundebau. · Dewis o gyfres o
fesurau cymdeithasol lleol fesul cytundeb. · Adrodd yn erbyn y
cynnydd o wireddu cynigion gwerth cymdeithasol. Nodwyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu
arweiniad na phenderfyniad cenedlaethol ar y defnydd o’r fethodoleg hyn, a bod
hyn wedi cael ei nodi fel risg o fewn yr adroddiad. Manylwyd bod Comisiynydd
Cenedlaethau’r Fory a’r Llywodraeth yn dymuno i Gynghorau Lleol gyfarch
amcanion Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol drwy’r fethodoleg hon ond
nodwyd nad oes cyfarwyddyd neu awgrymiadau o arferion da wedi cael eu
harddangos ar hyn o bryd. Mynegwyd rhwystredigaeth i’r rhwystr hyn gan fod
diffyg arweiniad yn arwain at anghysondeb rhwng Awdurdodau Lleol. Er hyn,
ystyriwyd bod y diffyg arweiniad hwn yn gyfle i’r Cyngor siapio’r rheolaethau
yn y dull orau posibl i Wynedd. Cadarnhawyd mai camau nesaf y broses bydd i ddiwygio’r Polisi Caffael
Cynaliadwy gan gyflwyno Polisi Caffael newydd. Cydnabuwyd bod posibilrwydd bydd
angen ei ddiwygio pan ddaw goblygiadau gweithredu Deddf Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn glir. Esboniwyd bod y newid hwn yn gam pwysig a
sylweddol er mwyn cadw’r budd yn lleol a bod ychwanegu ystyriaethau gwerth
cymdeithasol yn sicrhau penderfyniadau gorau i gymunedau Gwynedd drwy’r broses
caffael. Awdur: Arwel Evans, Rheolwr Caffael |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 744 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol. 2. Cydnabuwyd bod y
sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion
hanesyddol gwerth £2,056,430 gan eu dileu o’r gyllideb. 3. Defnyddio’r
ddarpariaeth arbedion o £1,956,430 i ariannu dileu cynlluniau arbedion, ynghyd
â defnyddio £100,000 o bremiwm treth Cyngor ar gyfer y cynllun arbedion yn
ymwneud â’r maes Digartrefedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Atgoffwyd
roedd angen gweithredu gwerth £7.6miliwn o arbedion yn ystod 2023/24 er mwyn
cau’r bwlch ariannol eleni. Manylwyd bod hyn yn gyfuniad o oddeutu miliwn a
oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion o £1.1miliwn ar gyfer ysgolion,
£3miliwn ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4miliwn drwy adolygu polisi ad-dalu
dyled cyfalaf Cyngor. Cydnabuwyd
bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd. Nodwyd bod hyn i weld
amlycaf o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes Gwastraff.
Adroddwyd bod adolygiadau o holl gynlluniau hanesyddol wedi cael ei gynnal ym
mis Gorffennaf 2023, gan lunio rhaglen i ddileu gwerth £2miliwn o gynlluniau oedd
â risgiau sylweddol i gyflawni oherwydd eu bod bellach yn anghyraeddadwy.
Manylwyd bod y rhain yn cynnwys: ·
£1.5miliwn yn yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant ·
£335k yn yr Adran Amgylchedd ·
£133k yn yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC ·
£100k yn y maes tai. Adroddwyd
bod 98% o holl gynlluniau arbedion hanesyddol rhwng y blynyddoedd ariannol
2015/16 hyd at 2023/24 wedi cael eu gwireddu a bod hyn gyfwerth â £33.7miliwn. Cyfeiriwyd
at y cynlluniau arbedion newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn
ariannol gyfredol. Cadarnhawyd bod 81% o’r arbedion hynny eisoes wedi eu
gwireddu a bod 6% pellach ar drac i’w cyflawni’n amserol. Cydnabuwyd bod
ychydig o oediad i wireddu gwerth £700k o’r cynlluniau arbedion ond ni ragwelir
problem i’w gwireddu. Manylwyd bod £539k o’r ffigwr hwn yn cynnwys arbedion gan
ysgolion a nodwyd bod yr arbediad hwn yn llithro gan fod ysgolion yn gweithio
ar flwyddyn academaidd ac felly bydd yr arbedion yn cael eu gwireddu yn y
flwyddyn ariannol nesaf. Trafodwyd
gwerth y cynlluniau arbedion sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2024/25.
Pwysleisiwyd bod cynlluniau pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 dan
ystyriaeth y Cyngor a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn fuan. Adroddwyd
y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12 Hydref a
darparwyd crynodeb o sylwadau’r Pwyllgor, gan gynnwys: ·
Nodwyd llwyddiant o wireddu 96% o’r arbedion.
Cydnabuwyd bod ffocws yn cael ei roi ar gynlluniau sydd heb eu gwireddu. ·
Pryderwyd am batrwm hanesyddol cyson o
orwario o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Manylwyd bod methiant i
wireddu arbedion mewn 10 cynllun o fewn yr Adran ac nid oes rhesymau wedi cael
ei gyflwyno i egluro’r gorwariant hwn. Awgrymwyd penodi Rheolwr Prosiect ar
gyfer rhai o’r cynlluniau arbedion a sicrhau tynhau trefniadau ar gyfer y
dyfodol. ·
Awgrymwyd y dylid ystyried rhoi sylw allanol
i’r cynlluniau arbedion, gan adnabod arbenigwr i edrych yn fanylach ar
sefyllfa’r Cyngor. · Teimlwyd nad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid |
|
CYLLIDEB REFENIW 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 621 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyriwyd y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 2. Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant, Adran Addysg, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd
eleni, ac yn wyneb y rhagolygon gorwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant, cefnogwyd penderfyniad y Prif Weithredwr sydd eisoes wedi
comisiynu gwaith i egluro manylder cymhleth yn y darlun yng ngofal Oedolion, er
mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y
gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. 3. Cymeradwywyd
trosglwyddiad o £3,275k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa
Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD 1.
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 2.
Nodwyd bod rhagolygon
gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg,
Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd eleni, ac yn wyneb y
rhagolygon gorwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant,
cefnogwyd penderfyniad y Prif Weithredwr sydd eisoes wedi comisiynu gwaith i
egluro manylder cymhleth yn y darlun yng ngofal Oedolion, er mwyn cael gwell
dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y gwaith yn cael ei
arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.
Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3,275k o
danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y
Cyngor. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o
gyllideb refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn
ariannol. Adroddwyd bod rhagolygon yr adolygiad yn awgrymu
y bydd naw o’r deg Adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, gyda
gorwariant sylweddol gan adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Addysg,
Amgylchedd a Phriffyrdd, Peirianneg ac YGC. Cadarnhawyd bod y prif faterion a meysydd i’w
gweld o fewn Atodiad 2, a bod gwahaniaethau sylweddol. Manylwyd bod y prif
faterion ar gyfer 2023/24 yn cynnwys: · Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - Nodwyd bod
rhagolygon diweddaraf yn awgrymu bydd £6.6miliwn o orwariant o fewn yr Adran. Manylwyd
bod hyn yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys pwysau ar lety cefnogol
anabledd dysgu. Ymhelaethwyd bod costau staffio uwch a chyfraddau oriau
digyswllt uchel o fewn y maes gofal cymdeithasol, sy’n cael; effaith negyddol
ar yr incwm a adenillir. Eglurwyd bod ffioedd uwch gan ddarparwyr preifat yn
ogystal â lleihad mewn cyfraniadau preswylwyr yn ffactor o fewn gwasanaethau
pobl hŷn. · Adran Addysg - Amlygwyd bod pwysau cynyddol ar y gyllideb
tacsis a bysiau ysgolion eleni yn arwain at orwariant rhagweladwy o £1.5m.
Awgrymir fod angen gwaith ar y maes cludiant er mwyn ceisio lleihau’r
gorwariant hwn a manteisio ar gyfleoedd effeithlonrwydd. · Byw’n Iach – Cadarnhawyd bod
cefnogaeth ariannol i Gwmni Byw’n Iach wedi lleihau i £375k eleni. Eglurwyd bod
hyn o’i gymharu gyda £550k a ddarparwyd i’r cwmni gan y Cyngor yn ystod
blwyddyn ariannol 2022/23 oherwydd diffyg incwm i’r cwmni yn ystod pandemig
Covid-19. · Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - Adroddwyd bod
lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol yn
arwain at orwariant o tua £1m o fewn y gwasanaethau priffyrdd. Nodwyd bod
cyfuniad o heriau yn effeithio ar agweddau bwrdeistrefol yr adran gan gynnwys
pwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a thoiledau cyhoeddus yn ogystal
â cholledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus. · Adran Amgylchedd - Nodwyd bod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau. Eglurwyd bod cylchdeithiau ychwanegol yn arwain at orwariant ar gostau cyflogaeth a chostau’r fflyd. Ymhelaethwyd bod hefyd costau ychwanegol wrth hurio cerbydau. Cydnabuwyd bod lefelau salwch ac oriau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid |
|
RHAGLEN GYFALAF 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST (SEFYLLFA 31 AWST 2023) PDF 983 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyniwyg yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst (sefyllfa
31 Awst 2023) o’r rhaglen gyfalaf. 2. Cymeradwywyd
ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: -
Defnydd o amryw ffynonellau
i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £17,421,000 o 2022/23 -
Lleilad o £1,836,000
mewn defnydd o fenthyca -
Cynnydd o £61,991,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
Lleihad o £9,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
Cynnydd o £991,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
Cynnydd o £194,000 mewn
defnydd gronfeydd adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD 1.
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
(sefyllfa 31 Awst 2023) o’r rhaglen gyfalaf. 2.
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: -
Defnydd o amryw ffynonellau
i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £17,421,000 o 2022/23 -
Lleihad o £1,836,000 mewn defnydd o fenthyca -
Cynnydd o £61,991,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
Lleihad o £9,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
Cynnydd o £991,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
Cynnydd o £194,000 mewn
defnydd gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Eglurwyd mai prif amcan yr adroddiad yw
cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa 31 Awst 2023) a nodwyd bod
dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf sydd yn £178.6miliwn am y 3
blwyddyn ariannol rhwng 2023/24 - 2025/26 o fewn yr adroddiad. Casglwyd bod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua
£107.3m yn 2023/24 ar gynlluniau cyfalaf (gydag £42.8m ohono (40%) wedi’i
ariannu drwy grantiau penodol). Adroddwyd bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen
gyfalaf, gyda 311.5m (11%) o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst
eleni. Cymharwyd hyn gyda 11% o’r gyllideb wedi ei wario o fewn yr un cyfnod y
llynedd ac 16% ddwy flynedd yn ôl. Cadarnhawyd bod 312.5m pellach o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio o 2023/24 i 2024/25 a 2025/26. Manylwyd bod y prif gynlluniau’n
cynnwys: · £5.7m - Cynlluniau
Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill) · £2.8m – Cynlluniau
Rheoli Carbon a Phaneli Solar · £1.5m – Cynllun
Hwb Iechyd a Gofal Penygroes · £1.4m - Cynlluniau
Sefydliadau Preswyl, gofal Dydd ac eraill yn y maes Oedolion · £0.9m – Cynlluniau
Atal Llifogydd. Nodwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu nifer o grantiau ers y gyllideb
wreiddiol, gan gynnwys: · £36.9m - Grant Cronfa Ffyniant Gyffredin gan Lywodraeth Prydain, i’w
ddyrannu ar draws siroedd Gogledd Cymru. · £16.7m - Grant Cronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth Prydain. · £3.0m – Grantiau
o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol (LFT) a’r Gronfa Teithio Llesol (ATF) gan
Llywodraeth Cymru. · £1.3m – Grant
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Defnydd Cymunedol Ysgolion 2023-2025. Esboniwyd y cyflwynwyd yr adroddiad hwn i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ddiweddar ble nododd yr aelodau bod
costau adeiladu wedi cynyddu yn sylweddol yn ddiweddar ac felly mae
posibilrwydd bod y prosiectau hynny yn fwy costus erbyn hyn. Adroddwyd gan y
swyddogion i’r Pwyllgor y bu oedi bwriadol i brosiectau tra bod prisiau a
chwyddiant yn uchel a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y llithriadau. Mynegwyd balchder yng ngallu’r Cyngor i ddenu grantiau i wellau adnoddau
a gwasanaethau tra’n buddsoddi i’r dyfodol. Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cynorthwyol Cyllid |
|
ADRODDIAD HERIO PERFFORMIAD AELODAU CABINET ECONOMI A CHYMUNED PDF 277 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Adroddwyd bod yr adran wedi dyraniad o £4.8m o Gronfa Ffyniant SPF yn
ddiweddar. Ymhelaethwyd bod y broses ceisiadau wedi agor ac bod nifer o
busnesau ac ymgyrchoedd wedi elwa o’r gronfa hyd yma. Ychwanegwyd y gobeithir
rhyddhau mwy o arian i gefnogi mwy o brosiectau yn y dyfodol. Diolchwyd i
swyddogion yr adran am eu gwaith gyda’r gronfa hon yn enwedig yn sgil heriau ac
oediadau gan Llywodraeth Prydain. Nodwyd bod Cynllun Twristiaeth wedi cael ei
lansio ym mis Medi. Eglurwyd bod hwn wedi bod yn ben llanw 6 mlynedd o waith ac
mae’r adran bellach yn canolbwyntio ar gynllun gweithredu. Cadarnhawyd bod pabell Cyngor Gwynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan wedi bod yn llwyddiannus iawn a diolchwyd i’r
Pennaeth Adran am ei gwaith wrth gydlynu digwyddiadau’r wythnos. Ystyriwyd bod
modd gweld gwaddol yr Eisteddfod yn cael effaith ar gymunedau’r sir erbyn hyn
ac adroddwyd esiampl o hyn wrth gysidro rhestr aros am wersi Cymraeg yn ardal
Botwnnog. Esboniwyd bod gwaith ymgysylltu gyda busnesau’r sir yn parhau i gymryd
lle, gydag ymweliadau diweddar i Hufenfa De Arfon, CK Tools,
Gwesty Penmaen Uchaf a Chwmni bwyd Oren. Eglurwyd bod cynnydd yn nefnyddwyr llyfrgelloedd
y sir a bod pobl yn sylweddoli bod nifer o ddigwyddiadau yn cymryd lle ynddynt,
a'i fod yn le saff a chynnes i fynd os oes unrhyw un yn profi trafferthion i
wresogi tai. Nodwyd bod doc harbwr Pwllheli yn llawn ar hyn o
bryd ond mae perchnogion wedi bod mewn cyswllt i gadarnhau eu bod yn diddymu eu
cytundeb ar gyfer y flwyddyn nesaf oherwydd argyfwng costau byw. Cyfeiriwyd
hefyd at Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli sydd wedi ailagor
yn ddiweddar, gan nodi bod cyfradd bodlonrwydd rhwng 78-88% ymysg ymwelwyr. Awdur: Sioned Williams: Pennaeth Adran Economi a Chymuned |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET CEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL PDF 435 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: The information in the report
was accepted and noted. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Atgoffwyd yr aelodau bod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o berfformiad yr
Adran yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol gan roi pwyslais penodol ar y 6
prosiect Cynllun y Cyngor sydd o dan ofal yr adran, gan gynnwys: · Cadw’r Budd yn
Lleol · Merched Mewn
Arweinyddiaeth · Sicrhau Tegwch i
Bawb · Cynllunio’r
Gweithlu · Hybu Defnydd o’r
Gymraeg gan Drigolion Gwynedd · Adolygiad
Strategol ar Reolaeth Iechyd a Diogelwch Sicrhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i adnabod bylchau ym maes
Cynllunio’r Gweithlu a nodwyd bod gweithredu’n rhagweithiol yn flaenoriaeth.
Manylwyd bod Cynllun Gweithlu drafft wedi cael ei lunio gyda’r nod o osod
cyfeiriad strategol i’r prosiect. Nodwyd bod gwefan gyrfaoedd newydd y Cyngor wedi mynd yn fyw ers dechrau
mis Awst, ac bod 14 prentis newydd wedi eu penodi yn ddiweddar, yn ogystal â 6
hyfforddai newydd ar Gynllun Yfory. Eglurwyd bydd prosiectau penodol yn cael eu
cynnal er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r
Gymraeg yn y gymuned. Atgoffwyd bod Strategaeth Iaith ddrafft 2023-2028 wedi
cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar a gobeithir y byddai’n cael ei
gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Adroddwyd bod cyfraddau salwch y Cyngor yn uwch
na’r dymunir ac felly mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn monitro’r sefyllfa.
Ymhelaethwyd bod Grŵp Absenoldebau Salwch hefyd wedi cael ei ffurfio i
ganolbwyntiau ar yr her hon. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Cyswllt Cwsmer wedi bod yn dygymod yn
arbennig o dan amgylchiadau anodd. Manylwyd bod y data diweddaraf yn awgrymu
bod mwy o alwadau yn cael eu hateb y tro cyntaf i’r cwsmer gysylltu â’r Cyngor. Esboniwyd bod gwasanaeth Dysgu a Datblygu’r Sefydliad yn casglu adborth
yn gyson ac mae canlyniadau’r gwaith hynny’n gyson uchel. Awdur: Ian Jones: Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET TAI AC EIDDO PDF 605 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Adroddwyd bod podiau
arloesol i’r digartref yng Nghaernarfon (Caertref)
wedi eu cyflawni yn ddiweddar ac mae 4 unigolyn yn byw ynddynt ar hyn o bryd.
Eglurwyd bod hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai sy’n anelu i godi o leiaf 38
o unedau llety a chefnogaeth ar draws y sir. Ymfalchïwyd bod y datblygiad hwn
wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr ‘Best Supported Housing Development - Rural / Suburban’ yng Ngwobrau Inside Housing yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod 3843 o gyfleoedd i bobl dderbyn
cymorth i fyw mewn tŷ yn lleol drwy nifer o gynlluniau megis Prynu i Osod,
Prynu Cartref, codi Tai Cymdeithasol trwy raglen Datblygu Tai Cymdeithasol
Gwynedd, rhoi eithriadau Treth Cyngor ychwanegol i unigolion sy’n berchen ac yn
adnewyddu tai gweigion, bencythiadau di-log i wella
cyflwr tai a grantiau i wneud tai yn gartrefi addas i unigolion ag anableddau. Ymhelaethwyd bod cynyddu’r cyfleoedd sydd gan bobl leol i fyw yn lleol
yn un o flaenoriaethau’r Adran. Eglurwyd bod yr adran yn cydweithio gyda
Cymdeithasau tai o fewn Rhaglen Datblygu Tai Cymdeithasol ar draws y sir yn
unol ag anghenion lleol. Cadarnhawyd bod 179 o dai fforddiadwy wedi’u codi yng
Ngwynedd, gyda 150 arall ar y gweill. Eglurwyd bod yr adran yn cynnig taleb ynni i helpu pobl sydd mewn tlodi
tanwydd, ac yn y misoedd diwethaf 2603 o’r rhain allan. Manylwyd bod gyfwerth â
£100,000. Mynegwyd tristwch bod yr angen am dalebau tanwydd yn bodoli o fewn y
sir ond mae’n enghraifft dda o sut mae’r Cyngor yn gweithio ar ei orau er mwyn
ymgeisio i ddatrys problemau cenedlaethol. Cadarnhawyd bod Gwynedd wedi darparu
mwy o dalebau ynni nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Cadarnhawyd bod yr Adran yn ymwybodol o broblem
mae unigolion ôl-ofal yn ei brofi wrth geisio canfod llety. Sicrhawyd bod yr
Adran yn cydweithio gyda chymdeithasau megis GISDA ac Adran Blant a Theuluoedd
y Cyngor er mwyn llenwi’r bwlch hwn. Rhannwyd gwahoddiad i’r Aelodau ymweld â
‘Lle Da’ yng Nghaernarfon, sef prosiect ble mae fflatiau wedi cael eu datblygu
i ymdrin â’r broblem hon. Cydnabuwyd bod yr Adran wedi profi heriau gyda
phrosiect prynu i osod oherwydd bod angen sicrhau gwerth am arian wrth brynu’r
tai ac ystyried gofynion ychwanegol safonau’r adeilad. Nodwyd bod y cyfryngau wedi adrodd yn ddiweddar bod mwy o dai gwag yng
Ngwynedd nag unrhyw sir arall yn Nghymru. Sicrhawyd nad yw hyn yn wir ac bod yr
ymchwil wedi ei selio ar gyfradd o adeiladau gwag a niferoedd y boblogaeth.
Ystyrir bod hyn yn ddull gamarweiniol o’i amcangyfrif. Awdur: Carys Fôn Williams: Pennaeth Adran Tai ac Eiddo |