Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i’r cyfarfod gan yr Arweinydd. Tynnwyd
sylw at ddiwrnod rhyngwladol y merched dros y penwythnos gan gydnabod
pwysigrwydd y diwrnod. Nodwyd bod y Cyngor yn annog datblygiad merched ar ffurf
rhaglenni pwysig megis y Rhaglen Merched Mewn Arweinyddiaeth. Mynegwyd balchder
yn y merched mewn gwleidyddiaeth gan dynnu sylw at yr Aelodau Cabinet sy’n
ferched, Cadeirydd y Cyngor Beca Roberts ac Arweinydd yr wrthblaid Angela
Russell. Cymerwyd y cyfle i nodi bod meddyliau pawb efo Arweinydd yr wrthblaid.
Cydnabuwyd gwaith pob merch sy’n arwain mewn amryw o wahanol feysydd. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 9: Derbyniwyd arweiniad gan y Swyddog Monitro bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn gorff cyhoeddus felly gofynnir i’r sawl sy’n aelodau o’r Cyd-bwyllgor i ddatgan hynny ond nad oes rhwystr iddynt gymryd rhan yn y drafodaeth. Datganodd y Cynghorwyr Nia Jeffreys a Craig ab Iago eu bod yn aelodau o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 CHWEFROR Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2025 fel rhai cywir. Diolchwyd am y cofnodion ag am waith y tîm Democratiaeth sy’n cofnodi gan gydnabod cywirdeb y cofnodion. |
|
BIDIAU UN-TRO 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn
dilyn sefydlu’r Gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, 2025,
cytunwyd i’r Cabinet gymeradwyo'r bidiau un tro o £2,057,260 ar gyfer 2025/26
sydd i’w cyllido o’r: ·
£1,557,260 o gyllid ychwanegol yn y setliad terfynol a gyhoeddwyd gan
Lywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2025. ·
£500,000 o Bremiwm Treth Cyngor at ddibenion llety dros dro i’r
Digartref. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd arian ychwanegol i'r maes gofal, yn ddarostyngedig ar fanylion ac amodau'r grant hwn, cytunwyd defnyddio’r ffynhonnell i ariannu'r bidiau yn y maes gofal. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Yn
dilyn sefydlu’r Gyllideb yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth, 2025,
cytunwyd i’r Cabinet gymeradwyo'r bidiau un tro o £2,057,260 ar gyfer 2025/26
sydd i’w cyllido o’r: • £1,557,260 o gyllid ychwanegol yn y
setliad terfynol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Chwefror 2025. • £500,000 o Bremiwm Treth Cyngor at
ddibenion llety dros dro i’r Digartref. Yn
dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd arian ychwanegol i'r maes
gofal, yn ddarostyngedig ar fanylion ac amodau'r grant hwn, cytunwyd
defnyddio’r ffynhonnell i ariannu'r bidiau yn y maes gofal. TRAFODAETH Nodwyd
bod y bidiau yn anorfod ond yn anffodus nid yw’r Cyngor ar hyn o bryd yn gallu
cefnogi bidiau datblygol na trawsffurfiol. Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai
cronfa trawsffurfio’r Cyngor sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer i gyllido’r
bidiau un tro ond nad oes unrhyw arian ar ôl yn y gronfa hon i gyllido unrhyw
fidiau eleni. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol yn
ddiweddar sydd ar gael i gyfrannu tuag at gostau’r bidiau un tro. Cydnabuwyd y
bydd yr arian yma yn ddefnyddiol ond mynegwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi
ariannu Cyngor Gwynedd yn ddigonol yn y lle cyntaf. Nodwyd
bod y bidiau yn geisiadau am arian refeniw ond arian refeniw dros dro a’r
gobaith yw dros y flwyddyn y bydd y gofyn dros dro yn un ai diflannu neu
leihau. Cyfeiriwyd
at y tabl yn rhan 4.2 o’r adroddiad oedd yn rhestru’r bidiau, oedd yn gyfanswm
o ychydig dros £2 filiwn. Tynnwyd sylw at y bidiau mwyaf costus sef Cludiant
Addysg, gan egluro bod hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd yng nghostau tanwydd a
cynnal a chadw cerbydau a’r cynnydd yn y niferoedd sydd angen cludiant i’r
ysgolion. Gobeithir y bydd y gost yn llai flwyddyn nesaf yn dilyn adolygiad yn
y maes. Esboniwyd
bod y bid am gostau llety argyfwng digartref yn swm o hanner miliwn a bod hefyd
bid am £115,000 ar gyfer gweithwyr ychwanegol yn sgil derbyn Ceiswyr Lloches
heb rieni fel rhan o’r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol, sy’n achos trist ond
teilwng iawn. Adroddwyd
bod opsiynau i ariannu’r bidiau wedi eu hystyried ond nad oedd digon o arian
refeniw a bod cronfeydd corfforaethol wrth gefn y Cyngor wedi lleihau yn
sylweddol a bod angen ceisio eu gwarchod.
Nodwyd er i gronfa Adrannol fod yn briodol ar gyfer bid yr Adran Tai ac
Eiddo, nid oedd cronfeydd Adrannol priodol yn bodoli ar gyfer y bidiau eraill.
Yn sgil hyn awgrymwyd i ¾ y bidiau gael eu hariannu drwy’r cyllid ychwanegol
gan y Llywodraeth a’r ¼ arall i gael eu hariannu o’r unig gronfa Adrannol
briodol sydd ar ôl sef cronfa'r Premiwm Treth Cyngor. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: • Ynglŷn â’r bid Cludiant Addysg, gwnaethpwyd sylw os nad yw’r Cyngor yn fodlon talu a chefnogi’r bid yna fod hyn yn golygu fod plant ddim yn cael mynediad i addysg. Cydnabuwyd bod gôr-wario yma ond o bosib ei bod yn fater o dan-gyllido’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - ASESIAD PERFFORMIAD PANEL Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar amserlen ar gyfer cynnal Asesiad
Perfformiad Panel yn ystod wythnos 9fed o Fawrth, 2026. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dewi Jones PENDERFYNIAD Cytunwyd ar amserlen ar gyfer
cynnal Asesiad Perfformiad Panel yn ystod wythnos 9fed o Fawrth, 2026. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
egluro bod yr asesiad perfformiad panel oedd wedi ei gynllunio ar gyfer
Tachwedd 2024 wedi cael ei ohirio ac o ganlyniad bod angen i’r Cabinet gytuno
ar amserlen newydd ar gyfer cynnal yr asesiad. Eglurwyd bod yr adroddiad yn mynd
ymlaen i drafod cwmpas yr asesiad ac aelodaeth y Panel. Ychwanegodd Rheolwr Cefnogi
Busnes y Cyngor bod hwn yn ofyn statudol dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd y bydd yr asesiad gan banel yn edrych ar y
graddau y mae’r Cyngor yn gweithredu ei swyddogaethau’n effeithiol ac yn defnyddio
ei adnoddau yn ddarbodus ac effeithlon. Eglurwyd bod y ddogfen gwmpasu
wedi ei chreu yn ystod Haf 2024 ond y bydd y ddogfen bellach wedi dyddio am fod
yr asesiad wedi ei ohirio. Awgrymwyd ail ymweld â’r ddogfen gwmpasu ar ddiwedd
blwyddyn galendr 2025. Tynnwyd sylw at dudalen 22 o’r adroddiad sy’n amlygu’r
meysydd awgrymwyd i’r panel ganolbwyntio arnynt yn flaenorol. Yn ychwanegol
atgoffwyd y Cabinet bod aelodaeth y panel wedi ei gytuno nôl ym mis Medi 2024 a
credwyd y byddai’n ddoeth aros tan ddiwedd y flwyddyn galendr i gadarnhau’r
aelodaeth er mwyn sicrhau addasrwydd aelodau’r panel. Eglurwyd y bydd y panel yn
ymweld am gyfnod o wythnos ac yn cynnal gweithdai a chyfweliadau; nodwyd y bydd
gofyn i’r Aelodau Cabinet fod yn rhan o’r trafodaethau. Cadarnhawyd y bydd
cyflwyniad ar ddiwedd yr wythnos i’r Aelodau Cabinet ar brif ganfyddiadau’r
arolwg cyn adrodd y canfyddiadau i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn
cyflwyno i’r Cyngor Llawn. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: • Cwestiynwyd os oes gwerth i’r asesiad hwn a’i fod yn
ymddangos fel haen ychwanegol o oruchwyliaeth. Holwyd i ble mae’r argymhellion
yn cael eu cyflwyno. - Mewn ymateb nodwyd nad oes llawer o ddewis i wrthod yr asesiad gan obeithio y bydd gwerth iddo. Awgrymwyd efallai y bydd cyfle yn y dyfodol i Wynedd fynd i edrych ar Gynghorau eraill a chyfle i ddysgu. Awdur: Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor |
|
PRYDLESU CYN SAFLE YSGOL ABERSOCH I MENTER RABAR Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i ddefnyddio pwerau
Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu safle Ysgol Abersoch yn
uniongyrchol i Fenter Rabar am lai na rhent y farchnad, er mwyn gwireddu
buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson PENDERFYNIAD Cytunwyd i
ddefnyddio pwerau Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu safle
Ysgol Abersoch yn uniongyrchol i Fenter Rabar am lai na rhent y farchnad, er
mwyn gwireddu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn deillio o sefyllfa drist o orfod cau Ysgol
Abersoch nol yn 2021. Eglurwyd pan fod ysgol yn cau bod gan y Cyngor bolisi o
gynnig y safle i’r gymuned leol am bris gostyngol. Nodwyd bod cymuned Abersoch
wedi sefydlu Menter Rabar, hwb amlbwrpas fyddai’n cynnwys caffi cymunedol,
arddangosfa dreftadaeth, unedau busnes i’w gosod, gardd gymunedol ac ystafell
aml-ddefnydd ei mwyn cynnal gweithgareddau a chyrsiau. Eglurwyd
bod y Fenter eisoes wedi sicrhau caniatâd cynllunio ac wedi derbyn arian grant
a sicrhau arian ychwanegol drwy ffynonellau amrywiol. Adroddwyd bod yr Aelod
Lleol yn gefnogol iawn o’r Fenter, fel sydd wedi ei nodi yn sylwadau’r Aelod ar
dudalen 46 o’r Rhaglen. Esboniwyd
pam bod angen cynnig prydles am gyfnod o 99 mlynedd, gan egluro bod amodau
Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen i Fenter Rabar dderbyn prydles hirdymor gan
y Cyngor cyn rhyddhau’r arian grant. Amlygwyd y penderfyniad i beidio rhoi’r
eiddo ar y farchnad agored a hepgor oddeutu £150,000; credwyd y byddai’r Fenter
yn dod a buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i gymuned
Abersoch. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: • Mynegwyd cefnogaeth i Fenter Rabar
gan nodi fod prosiectau fel hyn yn dda i Wynedd. Credwyd bod Gwynedd yn arwain
y ffordd yn y sector gymunedol a bod potensial i ddenu ymwelwyr ac incwm yma yn
ogystal â chodi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a threftadaeth yr ardal. • Datganwyd cefnogaeth i’r cynnig gan
gredu y bydd buddion amlwg i’r ardal a’r gymuned o ganlyniad i’r fenter hon a
credwyd ei bod yn wych fod Abersoch yn cael y cyfle yma. • Credwyd bod mentrau o’r fath yn
gweithio’n dda ac yn tynnu cymunedau at eu gilydd ac yn rhoi cyfleon
cymdeithasol i drigolion yr ardal. • Ategwyd y sylwadau uchod gan fynegi llongyfarchiadau a diolch i Fenter Rabar am eu gwaith. Awdur: Carys Fon Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL: DIWEDDARIAD Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd gydnabyddiaeth o ddatblygiad y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) drafft a’r prosesau cysylltiedig â hyn. Cymeradwywyd yr ymateb (Atodiad
5) i’r ymgynghoriad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Derbyniwyd cydnabyddiaeth o
ddatblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) drafft a’r prosesau
cysylltiedig â hyn. Cymeradwywyd yr ymateb
(Atodiad 5) i’r ymgynghoriad. TRAFODAETH Mynegwyd barn wleidyddol bod
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn creu haen arall o fiwrocratiaeth a
phryderwyd na fydd llawer o Gymraeg yn cael siarad yn Is-bwyllgorau
Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cwestiynwyd os yw’r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cynnig unrhyw beth newydd. Ychwanegodd Pennaeth
Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd mai’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hon fydd
cynnyrch cyntaf Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Esboniwyd bod tebygolrwydd
y bydd y 4 Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig
yng Nghymru yn debyg iawn am eu bod angen cyrraedd yr un math o griteria gan y
Llywodraeth. Tynnwyd sylw at atodiad 1 sy’n
rhestru Cynlluniau Gwynedd gan nodi fod gan Wynedd 64 o gynlluniau yn y Cynllun
Cyflawni ac esboniwyd bod y cynlluniau wedi eu blaenoriaethu fel rhai uwch,
canolig neu is. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: • Holwyd os oes unrhyw beth all yr Aelodau Cabinet ei wneud
i gynorthwyo’r broses ymgysylltu ac amlygu ei bwysigrwydd. - Cadarnhawyd bod yr ymgynghoriad ar agor tan 14 Ebrill ond
ei fod yn ymgynghoriad technegol a manwl iawn ac yn cynnwys llawer o wybodaeth
strategol. Adroddwyd bod datganiad i’r wasg eisoes wedi ei gyhoeddi ac anogwyd
trigolion Gwynedd i gymryd y cyfle i roi eu barn. Ychwanegwyd y bydd
ymgynghoriadau pellach a mwy penodol i ddilyn. • Gwnaethpwyd sylwadau am y rhwystredigaeth efo trafnidiaeth
gyhoeddus yr ardal yn enwedig ardaloedd gwledig y Sir. Nodwyd nad oes digon o
fysiau yn rhedeg a’u bod yn gallu bod yn ddrud i’w defnyddio. Amlygwyd bod
rhaid derbyn arian gan y Llywodraeth i gyd fynd a’r cynlluniau er mwyn eu
cyllido a’u gwireddu. • Cwestiynwyd os yw’r Cynllun hwn yn debyg o godi gobeithion
trigolion a holwyd faint o’r cynlluniau sy’n debygol o gael eu gwireddu o fewn
y Sir. - Esboniwyd nad oes modd gwybod ar hyn o bryd faint o'r
cynlluniau sy’n debygol o gael eu gwireddu. Pwysleisiwyd os nad yw’r cynlluniau
wedi eu nodi yn y Cynllun hwn nad oes gobaith o dderbyn arian i’w gwireddu.
Ategwyd ei bod yn bositif fod y cynlluniau wedi eu cynnwys yn y Cynllun hwn a
bydd rhaid i’r Cyngor geisio gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd posib. - Nodwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a
Thrafnidiaeth Cymru efo perthynas iach ac yn cyd-weithio’n dda. • Diolchwyd i swyddogion yr Adran am eu gwaith. Awdur: Gerwyn Jones, Pennaeth Adran Cynorthwyol Adran Amgylchedd |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi bod agwedd a pherfformiad yr Adran yn galonogol. Tynnwyd
sylw at bump o flaenoriaethau’r Adran yng Nghynllun y Cyngor gan nodi bod yr
Adran yn arwain drwy Brydain ar rai o’r blaenoriaethau er enghraifft y gwaith
efo rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Tynnwyd
sylw at y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu gan nodi bod niferoedd yr
ymholiadau sy’n ymwneud â methu casgliadau gwastraff wedi lleihau dros y
flwyddyn gyfredol fel sydd i’w weld yn Ffigwr 1 yn yr adroddiad. Amlygwyd bod
targed ailgylchu’r Llywodraeth wedi cynyddu i 70% a’i bod yn annhebygol y bydd
yr Adran yn cwrdd â’r targed eleni. Serch hyn nodwyd bod y Strategaeth Wastraff
newydd ar gyfer 2025-2023 ar ffurf drafft ar hyn o bryd a bydd gweithredu’r
Strategaeth hon yn golygu cyrraedd y targed. Ategwyd y bydd y Strategaeth
Wastraff yn dod ger bron y Cabinet ym mis Mai neu Fehefin. Cyfeiriwyd
at yr heriau yn y gwasanaeth Bwyd a Diogelwch fel sydd wedi ei nodi yn yr
adroddiad gan amlygu bod dros 2,000 o fusnesau bwyd yn y Sir. Nodwyd bod llawer
o staff cymwys a profiadol wedi gadael neu ymddeol yn ddiweddar sydd wedi
gadael bwlch yn y gwasanaeth. O ganlyniad i’r heriau o ran staffio a
phwysigrwydd buddsoddi yn hyfforddiant swyddogion a chysgodi staff profiadol,
mynegwyd bod yr Adran yn ceisio am hyfforddai proffesiynol Iechyd Amgylchedd
eleni. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: • Mynegwyd bod y problemau recriwtio yn
themâu cyson a phwysleisiwyd pwysigrwydd cynlluniau fel y Cynllun Hyfforddeion. • Gofynnwyd beth yw canlyniad methu
cyrraedd y targed ailgylchu. - Mewn ymateb nodwyd y byddai methu
cyrraedd y targed yn golygu risg o ddirywion i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru. • Credwyd bod angen buddsoddi mewn
hyfforddi ac addysgu trigolion y Sir ar bwysigrwydd ailgylchu. - Cytunwyd bod hyn yn allweddol ac
eisoes wedi ei adnabod fel maes sydd angen sylw. • Holwyd beth yw’r camau nesaf o ran y
Strategaeth Wastraff. - Eglurwyd y bydd y Strategaeth yn cael
ei chyflwyno i’r Cabinet ar gyfer caniatâd i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus cyn
adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r ymgynghoriad a gofyn i fabwysiadu’r Strategaeth.
Yn dilyn derbyn caniatâd bydd y Strategaeth yn cael ei gweithredu. • Tynnwyd sylw at yr ymarferion
‘pryniant prawf’ sydd wedi ei nodi yn rhan 5.2.5 o’r adroddiad gan nodi ei fod
yn galonogol bod y tîm yn ceisio sicrhau nad yw siopau yn gwerthu tân gwyllt i
blant dan oed. Holwyd os oes rheoliadau tebyg yn ymwneud a gwerthiant ‘vapes’. - No diwyd bod ymdrin â risgiau sy’n deillio o werthiant ‘vapes’ yn rhan o brosiect sydd yn un o flaenoriaethau’r gwasanaeth ac ar draws Gymru yn ogystal â gwerthiant tybaco anghyfreithlon. Ategwyd bod y tîm yn ceisio atal gwerthiant y deunyddiau i bobl dan oed yn ogystal â cheisio atal deunydd anghyfreithlon gael eu gwerthu. Nodwyd bod hyn yn golygu llawer o waith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC Cyflwynwyd gan: Cyng. June Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn
yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. June Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y bydd yn amlinellu’r hyn sydd wedi ei gyflawni o fewn yr
Adran fel rhan o flaenoriaethau Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 ac yn rhoi
diweddariad ar y sefyllfa ariannol a’r cynlluniau arbedion. Adroddwyd bod
cynnydd sylweddol wedi ei wneud gyda phrosiectau Cynllun y Cyngor ac er bod yr
Adran yn parhau i wynebu heriau mynegwyd hyder fod gan yr Adran gynlluniau
addas i gyfarch y sefyllfa hyd eithaf ei gallu. Rhedwyd drwy’r
tabl yn Atodiad 1 sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd tri phrosiect blaenoriaeth
yr Adran yng Nghynllun y Cyngor sef Cymunedau Glas a Thaclus, Gweithredu ar
Risgiau Llifogydd ac Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a
phobl ifanc y Sir. Darparwyd trosolwg o’r prosiectau gan nodi beth sydd ar y
gweill a’r diweddariad hyd at fis Mawrth 2025. Tywyswyd Aelodau’r
Cabinet trwy weddill yr adroddiad oedd yn manylu ar berfformiad gwasanaethau’r
Adran. I gloi tynnwyd sylw at sefyllfa ariannol yr Adran gan nodi y rhagwelir
gorwariant o tua £700,000 eleni sy’n gyfuniad o ffactorau megis lleihad mewn incwm
a phwysau ychwanegol ar gyllidebau glanhau strydoedd a glanhau toiledau
cyhoeddus. Ychwanegwyd bod
teimlad gwych o fewn yr Adran ble mae’r staff yn frwdfrydig ac yn cymryd gwir
ddiddordeb yn eu gwaith. Diolchwyd i staff yr Adran am eu hymroddiad. Mynegodd y
Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC ei ddiolch i’r Aelod Cabinet am
fynd o amgylch holl wasanaethau’r Adran er mwyn cyflwyno ei hun a dysgu am
waith yr Adran. Ychwanegwyd bod yr Adran yn wynebu heriau ariannol sylweddol
ond yn gwneud eu gorau i leihau’r gorwariant ac efo cynlluniau arbedion ac yn
hyderus y bydd gwerth £278,500 o arbedion yn cael eu cyflawni flwyddyn yma. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth: • Cydnabuwyd gwaith da’r Adran a
diolchwyd am hynny. • Ynglŷn â gorfodaeth stryd a’r
graff yn yr adroddiad, gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn cymharu â Chynghorau
eraill a gofynnwyd pam bod gwahaniaeth sylweddol yn ffigurau’r Haf o gymharu â
ffigyrau’r Gaeaf. - Mewn ymateb esboniwyd bod y tîm dan
bwysau o ran lefelau staff. Esboniwyd bod y graff ar dudalen 102 yn benodol ar
faw cŵn a dim ysbwriel. Ymhelaethwyd ei bod yn anodd cosbi am droseddau
baw cŵn am ei bod yn anodd dal y person ar y pryd. Tynnwyd sylw at y
gwelliant sylweddol sydd wedi bod hyd yma eleni. - Nodwyd nad yw’r wybodaeth ar gael ar
hyn o bryd er mwyn gwneud cymhariaeth efo awdurdodau eraill ond gall y Pennaeth
Adran ddarganfod y wybodaeth yno. • Tynnwyd sylw at y diffyg buddsoddiad
mewn caeau chwarae dros y blynyddoedd. Dymunwyd codi ymwybyddiaeth bod grwpiau
cymunedol yn gallu ymgeisio am grantiau i wella caeau chwarae. - Atgoffwyd bod 131 o gaea chwarae ar draws y Sir a cydnabuwyd bod angen gwella cyfleusterau ar gyfer defnydd cadair olwyn yn y caeau chwarae. Nodwyd bod y gwasanaeth yn ail edrych ar y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Steffan Jones, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Menna Trenholme PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi bod yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd yn gyfrifol am ddau brosiect o
fewn Cynllun y Cyngor. Darparwyd diweddariad ar y prosiectau hyn sef y Cynllun
Awtistiaeth a’r Cynllun Cartrefi Grŵp Bychan. Manylwyd ar y cynnydd sydd
wedi ei wneud a nodi’r gwaith sydd ar y gweill. Manylwyd ar heriau sy’n cael
effaith ar berfformiad y gwasanaethau megis capasiti’r gweithlu. Cyfeiriwyd at
yr ymdrechion sy’n cael ei gwneud i wella’r sefyllfa gan nodi bod prosiect
Cynllunio’r Gweithlu a Gofalwn Cymru yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio. Nodwyd
hefyd bod cynnydd yn y galw a bod natur achosion yn dangos fod anghenion plant
a theuluoedd yn cymhlethu ac yn dwysau. Pryderwyd bod llwyth gwaith staff yr
Adran yn uchel ac ddim yn gynaliadwy nac yn iach yn y tymor hir. I gloi crynhowyd sefyllfa
ariannol yr Adran sydd bellach yn £3.7 miliwn o orwariant o ganlyniad i gynnydd
yng nghostau lleoliadau all-sirol a chyfeiriwyd at gynlluniau arbedion yr
Adran. Diolchwyd i holl staff yr Adran am eu gwaith gan nodi bod y gwaith yn
heriol ac yn eang. Ychwanegodd y Pennaeth Plant a
Chefnogi Teuluoedd bod sefyllfa’r gweithlu wedi gwella rhywfaint dros y
blynyddoedd ond yn bryder parhaus. Nodwyd nad oes unrhyw swyddi parhaol gwag ar
hyn o bryd dim ond swyddi dros dro o ganlyniad i gyfnodau mamolaeth. Ychwanegwyd
bod yr Adran yn hybu datblygiad staff ac yn gefnogol i roi cyfleoedd a
phrofiadau i staff o fewn gwasanaethau’r Adran. Nodwyd ei bod yn anodd denu
Gweithwyr Cymdeithasol cymwysedig a bod y niferoedd ar y cyrsiau wedi gostwng.
Credwyd y byddai’r gwaith Academi Gofal yn gwneud gwahaniaeth i broblemau
staffio rhai o’r gwasanaethau. Cydnabuwyd buddion y
cynlluniau Cartrefi Gofal Bychain gan nodi y byddant yn bositif i’r gyllideb
wrth ddiwallu anghenion yn lleol ac edrychwyd ymlaen i’r plant ddychwelyd yn ôl
i’w cynefin. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i gymuned Morfa Bychain am y croeso ac
am y cydweithio arbennig efo Ysgol Eifionydd. Gobeithiwyd ail adrodd yr esiampl
yma efo’r tai eraill. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth: • Llongyfarchwyd yr Adran am y gwaith ar y Cartrefi Gofal
Bychain gan nodi ei fod yn newyddion gwych. Nodwyd bod y gwaith yn cael effaith
bositif ar blant ac ymfalchïwyd bod rhai eisoes wedi dychwelyd yn ôl i’w
cynefin a mynegwyd balchder bod cynlluniau eraill ar y gweill. • Cydnabuwyd gwaith gwych yr Academi Gofal a’r ymdrech
recriwtio a diolchwyd i Gwenno Williams, Swyddog Marchnata a Datblygu Gyrfaoedd
Gofal am ei gwaith a mynegwyd llongyfarchiadau iddi am dderbyn anrhydedd mewn
gwobr gan Gyrfa Cymru. • Pryderwyd am y lleihad yn y niferoedd sy’n cwblhau cyrsiau
Gwaith Cymdeithasol ym Mangor a cwestiynwyd os oes risg i’r cwrs gael ei
ddiddymu os oes llawer o lefydd gwag arno. - Mewn ymateb nodwyd nad oes trafodaethau i ddod a’r cwrs i ben ym Mangor ond yn hytrach trafodaethau ar sut i ddenu mwy i fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Marian Parry Hughes, Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd |