Lleoliad: Cyfarfod Hybrid / Hybrid Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: |
|
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 9 MEHEFIN Dogfennau ychwanegol: |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHAGLEN CEFNOGI POBL 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gerbron sy’n adrodd ar waith y Rhaglen
Cefnogi Pobl ar gyfer y flwyddyn 2025/26. |
|
|
DIWEDDARU CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2022/23 - 2029/30 CYNGOR GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cabinet yn cymeradwyo yr addasiadau i’r Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur ac yn mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
2022/23 – 2029/30 Cyngor Gwynedd (F.2). |
|
|
STRATEGAETH GWASTRAFF AC AILGYLCHU A DEFNYDD O ARIAN EPR Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd: Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd
2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a
blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd
nesaf. Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb
Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a
galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i
gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi
mewn isadeiledd y dyfodol. Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid
EPR i: ·
reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol
“rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes
dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau
ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS). ·
darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y
Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r
buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio. ·
sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol
yng Nghaernarfon a Harlech. Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai
elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR , ond
bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r
fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith. Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell
ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd
dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r
penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer
gallu gosod cyllideb hafal. |
|
|
ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB (GORFFENNAF 2026) Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gerbron sef y pedwerydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen
Cynllun Ymateb. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2025/26 Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn Adroddiad Blynyddol y Panel Strategol Diogelu ar
gyfer y flwyddyn 2025/26. |
|
|
ADOLYGIAD POLISI DIOGELU (2026) Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Fod y Cabinet yn mabwysiadu Polisi Diogelu Diwygiedig 2026
ac yn cymeradwyo y camau ymwybyddiaeth a nodir yn yr adroddiad. |
|
|
DYRANNU GWARGED INCWM O'R PREMIWM AIL GARTREFI A THAI GWAG AR GYFER 2025-26 Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac
ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod. |
|
|
CRONFA TWF LLEOL: CYNLLUNIAU 2026/27 GWYNEDD Mae Atodiad 2 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae’r atodiad i’r
adroddiad sydd dan sylw yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif
am nifer o prosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o sefydliadau. Cyflwynwyd gan: Cyng Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytuno i ymrwymo’r £6,317,640 o’r arian ddarparwyd i Gyngor
Gwynedd ei ddyrannu i brosiectau yn 2026/27, i’r 10 cynllun a restrir yn yr
adroddiad. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn
ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, Pennaeth Cyllid a’r Prif
Weithredwr, i gadarnhau manylion y cynlluniau a’r cyfraniad ariannol,
penderfynu ar ddarparu llythyr cynnig ac unrhyw ddogfennaeth arall ar gyfer
cytuno ariannu’r prosiectau. |
|
|
Cyflwynwyd gan: Cyng Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytuno i leihau cworwm cyfarfodydd Cydbwyllgor Cenedlaethol
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru o 60% i 40%, ar yr amod
bod o leiaf dri rhanbarth yn cael eu cynrychioli. |