Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriad. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd ar gyfer Eitem 12 am ei fod yn Gadeirydd Partneriaeth Ogwen, un o’r partneriaethau sy’n rhan o’r cais. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1
Caniatawyd neilltuo £3,000,000 o gyfanswm o £18m
o gyllideb Gwedd 2 Bangor, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn
buddsoddi yn Ysgol Hirael. Byddai’r gyllideb yn ddarostyngedig i gyflwyno achos
fusnes lwyddiannus i Lywodraeth Cymru. 1.2
Cytunwyd i’r Cabinet ragdybio adolygiad y Cynllun Asedau drwy gadarnhau
cyfraniad o £1,050,000 o’r Cynllun Asedau ar gyfer 35% o arian cyfatebol i
wireddu prosiect Ysgol Hirael. 1.3
Yn ddarostyngedig i benderfyniad y Cabinet yn 1.1 uchod, ac yn dilyn
hynny, gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r gyllideb ar gyfer Ysgol
Hirael, caniatawyd llunio a chyflwyno achos fusnes i Lywodraeth Cymru er mwyn
rhyddhau’r arian. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD 1.
Caniatawyd neilltuo £3,000,000 o gyfanswm
o £18m o gyllideb Gwedd 2 Bangor, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B)
er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael. Byddai’r gyllideb yn ddarostyngedig i
gyflwyno achos fusnes lwyddiannus i Lywodraeth Cymru. 2.
Cytunwyd i’r Cabinet ragdybio adolygiad
y Cynllun Asedau drwy gadarnhau cyfraniad o £1,050,000 o’r Cynllun Asedau ar
gyfer 35% o arian cyfatebol i wireddu prosiect Ysgol Hirael. 3.
Yn ddarostyngedig i benderfyniad y
Cabinet yn 1.1 uchod, ac yn dilyn hynny, gefnogaeth Llywodraeth Cymru i
drosglwyddo’r gyllideb ar gyfer Ysgol Hirael, caniatawyd llunio a chyflwyno
achos fusnes i Lywodraeth Cymru er mwyn rhyddhau’r arian. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai Ysgol Hirael yw’r
unig
ysgol gynradd yn nalgylch Bangor sydd heb dderbyn unrhyw fuddsoddiad fel rhan o
gyllideb Band A na Band B. Ychwanegwyd bod cyflwr ac addasrwydd yr ysgol angen
sylw, gydag elfennau hygyrchedd angen sylw penodol yn Hirael gan ei bod ar hyn
o bryd yn disgyn i gategori C. Nodwyd bod
Ysgol Hirael yn adnodd Addysg bwysig a’i bod yn hanfodol dod a’r ysgol i’r un
safon a gweddill ysgolion eraill yr ardal. Mynegwyd pwysigrwydd i blant Hirael
dderbyn eu haddysg mewn ysgol sydd â’r adnoddau addas a byddai’r buddsoddiad
hwn yn caniatáu gwella amgylchedd ddysgu’r ysgol. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Mynegodd y Prif Weithredwr
bod sylwadau a chefnogaeth gref gan yr Aelod Lleol sydd i’w gweld yn rhan 6.3
o’r adroddiad. Ychwanegwyd bod yr Aelod Lleol wedi bod yn ymgyrchu’n
galed
ar gyfer y buddsoddiad hwn i’r ysgol. ·
Mynegwyd pob lwc a dymunwyd yn dda i’r
Adran wrth gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru. Awdur: Garem Jackson, Pennaeth Addysg a Debbie A. Jones, Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Addysg |
|
CYNLLUN ARBEDION 2023/24 - 2024/25 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Cymeradwywyd yr arbedion effeithlonrwydd a restrir yn Atodiad A (£6.4M)
fel gwedd gyntaf o arbedion y gallwn eu defnyddio fel cyfraniad tuag at ein
bwlch cyllidol yn 2023/24 – 2024/25. ·
Cytunwyd i gomisiynu gwaith pellach i sefydlu’r wedd nesaf o arbedion a
thoriadau (oddeutu £1.6M - £2.2M) cyn gosod cyllideb 2024/25. ·
Cytunwyd i wneud darpariaeth o £1.6M i gyfarch y lefel risg sydd yn
ynghlwm a gwireddu y cynllun arbedion effeithlonrwydd. ·
Dirprwywyd yr hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn
wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y
cyfansymiau cyllidol a nodir isod. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD ·
Cymeradwywyd yr arbedion effeithlonrwydd
a restrir yn Atodiad A (£6.4M) fel gwedd gyntaf o arbedion y gallwn eu
defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2023/24 – 2024/25. ·
Cytunwyd i gomisiynu gwaith pellach i
sefydlu’r wedd nesaf o arbedion a thoriadau (oddeutu £1.6M - £2.2M) cyn gosod
cyllideb 2024/25. ·
Cytunwyd i wneud darpariaeth o £1.6M i
gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm a gwireddu'r cynllun arbedion
effeithlonrwydd. ·
Dirprwywyd yr hawl i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud
addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir
yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol a nodir isod. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ddiolch i’r Prif Weithredwr a’r
swyddogion
Cyllid am eu gwaith
yn crynhoi’r holl arbedion a dderbyniwyd gan yr Adrannau. Nodwyd bod adroddiad
wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos diwethaf a
derbyniwyd sylwadau’r Pwyllgor. Ychwanegwyd
bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cytuno â’r swm
o 20%
i gael ei glustnodi ar gyfer risg. Nodwyd bod un
sylw wedi cael ei fynegi am yr asesiad cydraddoldeb gafodd ei gynnal. Roedd
y sylw yma yn cwestiynu
os oedd yr effaith ddaearyddol ar wahanol
ardaloedd wedi cael ei ystyried; roedd y sylw hwn wedi cael ei nodi a bydd yn
derbyn ystyriaeth. Nodwyd bod y
broses wedi cael ei dilyn yn broffesiynol a bod pob Adran wedi cyfrannu sydd
wedi arwain at broses gadarn a chynlluniau am y ddwy flynedd nesaf. Tywysodd y
Prif Weithredwyr y Cabinet drwy brif faterion yr adroddiad gan fanylu ar y
bwlch ariannol o £12 miliwn. Eglurwyd bod cynllun dwy flynedd wedi cael ei roi
at ei gilydd er mwyn cau’r bwlch ariannol; heddiw cynllun
gwedd un
sy’n cael ei gyflwyno sy’n cynnwys gwerth £6.4 miliwn o arbedion. Pwysleisiwyd
mai nid toriadau yw’r rhain. Cydnabuwyd y
bydd yr arbedion yn creu pwysau ar Wasanaethau a bydd angen ystyried ffyrdd
wahanol o weithio. Ategwyd bod llawer o ymdrech wedi ei roi gan yr Adrannau ac
y bydd ail wedd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn hwyrach yn y flwyddyn. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am yr
adroddiad a credwyd bod y broses wedi bod yn un
drylwyr. ·
Mynegwyd
balchder am allu gwneud gymaint o arbedion heb gael effaith sylweddol ar
wasanaethau. ·
Er hyn, cydnabuwyd y bydd rywfaint o
effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau ond bod y rhestr arbedion yn cynnwys
llawer o gyllidebau nad oes eu hangen bellach a
bod amryw
o’r rhesymau am hyn o ganlyniad i effeithiau cofid. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2
Mawrth 2023) y dylid: 1.
Sefydlu cyllideb
o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar
dreth anheddau unigol). 2.
Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Argymhellwyd
i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid: 1.
Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer
2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm
o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol). 2.
Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn
2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad a nodwyd y penderfyniad a geisir.
Nodwyd nad yw’r argymhelliad i godi treth cyngor mewn cyfnod o gostau byw
cynyddol yn argymhelliad hawdd i’w wneud wrth ystyried yr effaith ar drigolion
Gwynedd. Cyfeiriwyd ar yr heriau ariannol sydd yn wynebu Awdurdodau Lleol ar
draws Gymru yn enwedig wrth ystyried y lefelau chwyddiant diweddar sydd yn
bresennol dros 10%. Mynegwyd bod
Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnydd grant o 7% ar gyfer 2023/24 sy’n welliant
sylweddol ar y setliad dangosol ac yn cyfateb i gynnydd gwerth £14.6 miliwn
mewn ariannu allanol. Er hyn pwysleisiwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd
â chwyddiant a’r pwysau ychwanegol ar wasanaethau. Cyfeiriwyd at
y ddarpariaeth am chwyddiant cyflogau sy’n £14.2 miliwn. Eglurwyd bod
chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2023/24 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch
2022/23 gan bod y cytundeb terfynol yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllidebu
amdano, yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol ar gyfer 2023/24. Soniwyd
hefyd bod darpariaeth ar gyfer chwyddiant arall o £11.1 miliwn sy’n cynnwys
£3.3 miliwn o chwyddiant ar brisiau trydan a £3 miliwn yn y maes gofal. Argymhellwyd i
gymeradwyo bidiau gwerth £2.75 miliwn am adnoddau
parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan Adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod
ar wasanaethau. Credwyd bod y bidiau yma yn angenrheidiol ac yn ychwanegol i’r
£3 miliwn o ychwanegiad i gyllideb Digartrefedd sy’n cael ei ariannu o’r
Premiwm Treth Cyngor. Eglurwyd bod
yr holl fidiau a gyflwynwyd wedi cael eu herio yn drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth
yn ogystal â’u hystyried yn y Seminar Cyllideb efo’r holl aelodau a gynhaliwyd
ar 26 Ionawr 2023. I grynhoi,
nodwyd bod anghenion
gwario’r Cyngor (cyn tynnu arbedion) ar gyfer 2023/24 yn £323.1
miliwn fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3 o’r adroddiad.
Nodwyd
yn rhan 2 fod y grant oddi wrth Lywodraeth Cymru am fod yn
£227.8
miliwn.
Golyga hyn bod bwlch gweddilliol o £95.2 miliwn angen ei lenwi. Argymhellir
cyfarch y bwlch drwy gynyddu’r Dreth Cyngor yn ogystal â defnyddio’r arbedion;
byddai defnyddio’r arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 a’r
rhai newydd yn creu cyfanswm o £5.2 miliwn fyddai’n cael ei ddefnyddio i
leihau’r bwlch ariannol. Byddai cynyddu’r Dreth Cyngor o 4.95% yn cynhyrchu
ychydig dros £90 miliwn o incwm, byddai hyn yn ddigonol i lenwi’r bwlch
ariannol. Tynnwyd sylw at Atodiad 4 sydd yn adlewyrchu’r gofynion cyfalaf, ynghyd â’r ariannu, er mwyn sefydlu rhaglen gyfan gwerth £67 miliwn yn 2023/24. Nodwyd y bydd y Pennaeth Cyllid yn nodi’r sylwadau gafodd eu derbyn gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-28 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (y Cynllun) i’w
gyflwyno i’r Cyngor ar y 2il o Fawrth 2023. Cymeradwywyd y gwelliant a gynigiwyd i ychwanegu’r frawddeg ganlynol i Faes Blaenoriaeth 5 yn y Cynllun: “Sicrhau mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o safon” er mwyn adlewyrchu gweledigaeth y Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 2il o
Fawrth 2023. Cymeradwywyd y
gwelliant a gynigiwyd
i ychwanegu’r frawddeg ganlynol i Faes Blaenoriaeth 5 yn y Cynllun: “Sicrhau
mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o
safon” er mwyn
adlewyrchu gweledigaeth y Cabinet. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a’r ymatebion a dderbyniwyd.
Soniwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i baratoi Cynllun am y tymor
presennol a bod gwaith wedi ei gynnal ers yr Haf ar y blaenoriaethau. Nodwyd
bod ymgynghoriad wedi digwydd efo’r Aelodau yn ystod yr Hydref a cynhaliwyd
ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y Cynllun yn dilyn hynny. Mynegwyd
bod 643 o ymatebion wedi eu derbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r
adborth yn bositif iawn ar y cyfan gydag ambell i awgrym. Gellir gweld crynodeb
o’r atebion yn atodiad 5 o’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y prosiectau yn y maes
gofal sydd wedi eu hail becynnu fel 3 prosiect newydd sef Cefnogaeth Ataliol yn
lleol, Byw yn annibynnol a Gofal arbenigol o ansawdd. Ategwyd
bod y ffurf yn haws i’w ddarllen eleni ac yn fwy cryno, gobeithiwyd y bydd hyn
yn annog mwy i ddarllen y Cynllun. Mynegwyd ei fod yn ddogfen bwysig sydd yn
dangos uchelgais a dyhead y Cyngor ar gyfer pobl Gwynedd dros y blynyddoedd
nesaf a gellir mesur perfformiad y Cyngor yn erbyn ei
allu
i gyflawni’r materion sydd yn y cynllun. Mynegodd
y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y byddai yn gwerthfawrogi unrhyw
argymhellion neu sylwadau gan y Cabinet. Ychwanegwyd y bydd y Cynllun yn cael
ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar yr 2il o Fawrth. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Anogwyd unrhyw un sy’n gwrando i
ddarllen y Cynllun. ·
Ategwyd y sylw bod
y Cynllun yn haws i’w ddarllen a credwyd ei fod yn Gynllun arloesol ac
uchelgeisiol. ·
Credwyd bod rhywbeth ar goll o ran
gweledigaeth y Cabinet am bwysigrwydd amser hamdden a bod yn
actif yn ogystal â phwysigrwydd diwylliant a’r celfyddydau a’r gwahaniaeth
positif sy’n cael ei wneud gan y gweithgareddau hyn i lesiant trigolion.
Cynigiwyd yn ffurfiol i ychwanegu brawddeg i Faes Blaenoriaeth 5 yn nodi “Sicrhau
mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o
safon” er mwyn
adlewyrchu’r weledigaeth hon. ·
Mynegwyd cefnogaeth i’r
gwelliant
a
credwyd ei fod yn ychwanegiad gwerthfawr. Credwyd ei bod yn
hawdd anghofio pa mor bwysig yw’r maes celfyddydol a’r pleser sydd i’w gael o
weld a gwrando ar waith celfyddydau. Cynigiwyd a
derbyniwyd ei gynnwys fel
gwelliant i’r Penderfyniad. ·
Cymerwyd y cyfle i fynegi cydymdeimlad y
Cabinet at y Prif Weinidog Mark Drakeford
ar ei golled diweddar. Danfonwyd ddymuniadau gorau at y Prif
Weinidog. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a Dewi W. Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes |
|
STRATEGAETH CYFRANOGIAD - DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymhellwyd y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft i gyfarfod y
Cyngor llawn ar 02/03/2023 er mwyn ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Jones PENDERFYNIAD Argymhellwyd y
Strategaeth Cyfranogiad ddrafft i gyfarfod y Cyngor llawn ar 02/03/2023 er mwyn
ei fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod
dyletswydd ar y Cyngor i fod yn annog cyfranogiad gan y cyhoedd wrth iddo wneud
penderfyniadau. Nodwyd bod hyn yn ofyn dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd ymhellach i’r gofyn hwn, mae gofyn hefyd i
greu a chyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad; pwrpas y Strategaeth fydd nodi’r
ffordd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhrosesau’r Cyngor o wneud
penderfyniadau. Mynegwyd bod
gofynion penodol ynghylch yr hyn sy’n rhaid ei gynnwys yn y Strategaeth, gellir
gweld y rhain dan yr ail baragraff yn rhif 4 o’r adroddiad. Nodwyd er
mwyn ateb gofynion y ddeddf, crëwyd Strategaeth
Cyfranogiad cyntaf Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod
ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal yn ystod mis Ionawr ar
gynnwys y Strategaeth ddrafft, a oedd yn rhoi’r
cyfle
i’r cyhoedd leisio eu barn ar y
cynnwys. Cafwyd 89 o
ymatebion i’r ymgynghoriad. Ategwyd bod
ymatebion ar y cyfan yn gadarnhaol. Derbyniwyd
rhai sylwadau
ac awgrymiadau; nodwyd bod yr adroddiad
yn esbonio sut mae’r Strategaeth ddrafft wedi cael
ei haddasu yn dilyn derbyn sylwadau
perthnasol o’r ymgynghoriad. Gofynnwyd a
yw’r Cabinet yn credu bod ymateb digonol wedi bod i’r sylwadau sydd wedi codi
o’r ymgynghoriad cyhoeddus ac os yw’r Cabinet yn fodlon gyda cynnwys y
Strategaeth ddrafft. Nodwyd y bydd y strategaeth yn datblygu dros y blynyddoedd
i ddod ond bod man cychwyn cadarn yma Nodwyd y bydd
y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft yn cael ei hargymell i gyfarfod y Cyngor
Llawn ar yr 2il o Fawrth ar gyfer cael ei mabwysiadu. Ychwanegwyd y bydd y dyluniad
terfynol yn barod erbyn cyflwyno’r
Strategaeth i’r Cyngor llawn. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd pwysigrwydd cynnwys trigolion
Gwynedd ym mhrosesau Democrataidd y Cyngor gan nodi nad yw hyn wastad yn hawdd
ond bod y Strategaeth yma yn gam ymlaen i geisio gwella hyn. ·
Credwyd bod angen amlygu gwaith y Cyngor
i drigolion y Sir. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ac Iwan Evans, Swyddog Monitro |
|
CYNLLUN ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD AC ERYRI Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri 2035 fel Cynllun
Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal. ·
Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth Gwynedd ac
Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd eu hangen
er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun Gweithredu
Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol. ·
Cytunwyd i ychwanegu bod angen dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn
ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD ·
Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd
ac Eryri 2035 fel Cynllun Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal. ·
Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth
Gwynedd ac Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd
eu hangen er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun
Gweithredu Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol. ·
Cytunwyd i ychwanegu bod angen
dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i
gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod y gwaith wedi cychwyn ers cyn y cyfnod Cofid a bod
trafodaethau efo partneriaid wedi bod yn digwydd yn gyson ers hynny. Mynegwyd
gwerthfawrogiad am y cydweithio agos sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Cyngor a
Pharc Cenedlaethol Eryri a bod yr un weledigaeth ac egwyddorion sylfaenol yn
cael eu rhannu. Credwyd bod yr adroddiad yn gam pwysig i geisio llywio'r
diwydiant ymwelwyr i fod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy atebol i’r
cymunedau. Darparwyd
cefndir yr adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned
a nododd bod y cynllun yn ei le â’r
weledigaeth ar gyfer y dyfodol wedi ei gosod a’r prif amcanion ar gyfer y
dyfodol wedi eu hadnabod. Nodwyd bod y newid arwyddocaol i’w
weld yn y gwaith hwn drwy roi’r gymuned yn ganolog fydd yn sicrhau budd i
Wynedd o ganlyniad i’r datblygiadau yn y maes hwn i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at
egwyddorion Economi Ymweld Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri a’r amcanion sydd
wedi eu cynnwys yn rhan 3 o’r adroddiad. Bydd angen sicrhau y bydd cynllun
gweithredu clir yn ei le er mwyn gwireddu’r weledigaeth. Cynhigir strwythur
newydd ar gyfer gweithredu sy’n cynnwys Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy
Gwynedd ac Eryri, Bwrdd Llywio Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri yn
ogystal â Grŵp Gweithredol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwyned ac Eryri. Ceir
manylion ar y trefniadau gweithredu yn rhan 4 o’r adroddiad. Rhedwyd drwy’r
camau nesaf a’r amserlen ar gyfer eu cwblhau. Cydnabuwyd y pwysigrwydd o
gydweithio ar draws sectorau er mwyn cyflawni’r weledigaeth. Nodwyd bod ymgynghoriadau
wedi eu cynnal ond bod mwy i’w gwneud a’i bod yn gychwyn cyfnod newydd o
weithredu’r Cynllun a chydweithio efo’r sector Economi Ymweld. Ychwanegodd y
Swyddog Parc Cenedlaethol Eryri ei bod yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi
mabwysiadu’r Cynllun Strategol hwn wythnos diwethaf ac yn falch iawn o’r trefniadau
a’r cydweithio. Diolchwyd i Swyddogion y Cyngor am eu gwaith. Derbyniwyd
sylwadau o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan y Dirprwy Arweinydd ble
roedd trafodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau adeiladol er enghraifft ehangu
aelodaeth y bartneriaeth i gynnwys y gwasanaethau brys, yr undebau amaeth a
chynrychiolwyr eraill o ran tirfeddianwyr. Nodwyd y bydd y Cyrff hyn yn cael eu
gwahodd i ymuno â’r bartneriaeth maes o law. Eglurwyd bod trafodaeth wedi bod ar effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg a’r Heddlu, sylwadau ynglŷn â pharcio a rhai cwestiynau i’r Parc; bydd y Swyddog Parc Cenedlaethol yn ymateb yn uniongyrchol i’r Pwyllgor Craffu am faterion Parc Cenedlaethol Eryri. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol - Diwylliant |
|
CRONFA FFYNIANT BRO - CYNLLUN LLEWYRCH O'R LLECHI Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth
Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn
y Dyffrynnoedd Llechi. ·
Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth
Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno ar y trefniadau cytundebol a gweithredu
a’r pecyn ariannol cyflawn gyda partneriaid. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD ·
Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian
Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r
Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn y Dyffrynnoedd Llechi. ·
Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a
Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno
ar y trefniadau cytundebol a gweithredu a’r pecyn ariannol cyflawn gyda
phartneriaid. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod tri
cais gan yr Adran Economi a Chymuned ac Adran Amgylchedd wedi eu cyflwyno i
Gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth Prydain. Ni fu cais Bywiogi Bangor na chais
Coridor Gwyrdd Ardudwy yn llwyddiannus, ond bu cais Llewyrch o’r Llechi yn
llwyddiannus. Eglurwyd bod cadarnhad o fuddsoddiad o £18.8 miliwn wedi ei
dderbyn, bydd angen gwario’r arian hwn cyn diwedd Mawrth 2025. Nodwyd bod y
Cynllun Llewyrch o’r Llechi yn becyn gwerth o gwmpas £27 miliwn o gynlluniau ar
draws dyffrynnoedd llechi Gwynedd sy’n ymateb i’r thema ‘buddsoddi mewn
diwylliant’. Adroddwyd bod y Cynllun yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn
cyfrannu tuag at adfywio'r cymunedau yma. Nodwyd bod manylion ar beth mae’r
pecyn yn ei gynnwys wedi ei nodi yn rhan 2.2 o’r adroddiad. Ychwanegodd y
Pennaeth Economi a Chymuned bod trafodaethau wedi digwydd efo’r cymunedau a bod
rhaid canolbwyntio ar y prosiectau fwyaf aeddfed er mwyn gallu cwblhau’r gwaith
o fewn yr amserlen. Ategwyd bod hyn yn ffactor wrth adnabod prosiectau. Nodwyd
bod angen comisiynu gwaith dehongli fel rhan o’r Cynllun. Mynegwyd bod y
pecyn hwn yn cyfrannu at y weledigaeth ehangach sydd wedi ei nodi yn rhan 2.3
o’r adroddiad sef i ‘Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr
ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a
dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.’ Credwyd
bod y Cynllun yn uchelgeisiol iawn ac yn raglen tymor hir a'r gobaith yw y bydd
yn arwain at gyfleoedd pellach yn y cymunedau hyn. I gloi nodwyd
mai Cyngor Gwynedd fydd yn arwain ar y cais ond bydd gweithio mewn partneriaeth
efo’r tair ardal sy’n rhan o’r cais yn hanfodol er mwyn gwireddu'r gwahanol
brosiectau. Nodwyd y bydd angen cytuno ar gytundeb cyfreithiol rhwng Cyngor
Gwynedd a’r partneriaid yn y gymuned er mwyn gwireddu’r prosiectau a chyflawni.
Ychwanegwyd bod gwaith wedi cychwyn o ran trafodaethau efo’r Pennaeth Cyllid a’r
Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol,
felly gobeithir gallu symud ymlaen a
chadarnhau’r trefniadau efo’r partneriaid. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Croesawyd y buddsoddiad a’r cyfleoedd
fydd yn deillio o’r Cynllun. ·
Holiwyd am y ffynonellau cydariannu sydd
wedi eu nodi yn yr adroddiad ar dudalennau 264 a 265 a’u bod yn cael eu nodi
fel ‘posib’. Gofynnwyd pa mor sicr yw’r Adran Economi a Chymuned
bod y symiau a nodwyd yn mynd i’n cyrraedd. · Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ei bod yn sicr o hyn gan fod cyfarfodydd cychwynnol wedi eu cynnal er enghraifft efo Amgueddfa Cymru a’u bod yn rhan o gynlluniau ehangach ganddynt. Ychwanegwyd bod risg isel i’r cynlluniau beidio mynd yn eu blaenau, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Arweinydd oedd yn cyfeirio at y materion rhanbarthol sydd wedi
eu cynnwys yn yr adroddiad. Soniwyd am Gynllun Twf Gogledd Cymru gan nodi bod
prosiectau wedi dod i ben am amryw o resymau sydd wedi gadael swm o £30 miliwn
yn weddill. Adroddwyd bod ceisiadau am brosiectau wedi cael eu gwahodd am y swm
yma. Nodwyd y bydd y prosiectau am gyfnod o 15 mlynedd ac yn cael eu hariannu
gan y ddwy Lywodraeth. Ychwanegwyd
bod costau prosiectau wedi cynyddu sydd wedi cael effaith ar brosiectau eraill
yn ogystal â rhoi pwysau ar adnoddau staffio. Nodwyd mai hyn yw un o’r prif
risgiau sydd wedi ei adnabod a bod gwaith yn parhau wrth ymateb i’r risgiau. Cyfeiriwyd at
berfformiad gwasanaethau’r Adran gan y Dirprwy Arweinydd oedd yn cynnwys Byw’n
Iach a lefel defnyddwyr y Canolfannau sydd yn parhau i fod yn is na’r cyfnod
cyn cofid. Soniwyd am faterion penodol oedd wedi cael effaith ar y ffigyrau
megis cau pwll nofio Arfon am 3 mis ar gyfer adnewyddu a chyfyngu oriau agor
pwll nofio Bangor oherwydd diffyg staff. Adroddwyd bod trafodaethau cyson rhwng
Cwmni Byw’n Iach a’r Cyngor er mwyn goresgyn rhai o’r rhwystrau hyn sy’n
effeithio ar incwm y cwmni. Adroddwyd bod
y nifer sy’n ymgysylltu gyda’r Amgueddfeydd a’r Oriel wedi gostwng dros y
cyfnod diwethaf yn sgil y ffaith bod arddangosfa
Storiel
ac Amgueddfa Lloyd George wedi gorfod cau yn ddirybudd yn dilyn damweiniau yn
yr adeiladau a gwaith atgyweirio sydd angen eu cwblhau cyn gallu ail agor.
Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Cydlynydd Amgueddfa a Gwirfoddoli am ei gwaith
yn ystod yr achosion hyn. I gloi tynnwyd
sylw ar y gwaith cefnogi cymunedau gan nodi bod 121 o grwpiau a mentrau wedi eu
cefnogi rhwng Hydref a Rhagfyr 2022 gan nodi bod y rhain yn brosiectau llawr
gwlad sy’n agos i galonnau trigolion Gwynedd, mynegwyd balchder am hyn. Ychwanegodd y
Pennaeth Economi a Chymuned bod yr Adran heb gael llawer o gyfle i wneud
cynnydd ar y prosiectau sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor oherwydd yr
angen i gyfeirio staff o fod yn gweithio ar brosiectau strategol i fod yn helpu
efo’r cynlluniau rhanbarthol mae’r Cyngor yn eu harwain. I gloi soniwyd
am y gronfa ffyniant gyffredinol gan nodi mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
ceisiadau am brosiectau yw 24 Chwefror. Nodwyd bod swydd wedi cael ei hysbysebu
i reoli’r gronfa yng Ngwynedd ond ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am yr adroddiad. ·
Mynegwyd pryder am y sefyllfa o swyddi
gweigion a’r trafferth i’w llenwi yn gyffredinol ar draws y Cyngor. Credwyd bod
lle i geisio denu ymgeiswyr gan hyrwyddo bod swyddi gwag a chyfleoedd ar gael
yn y Cyngor. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bodlonrwydd bod y prosiectau sy’n cael eu harwain gan yr
Adran ynghyd a’r perfformiad dydd i ddydd yn cael eu cynnal o fewn y gyllideb.
Mynegwyd gwerthfawrogiad i holl swyddogion yr Adran gan
gydnabod
y cyfraniad allweddol sy’n cael ei wneud gan y staff i gefnogi gwaith y Cyngor. Tynnwyd sylw
at y prosiect Merched mewn Arweinyddiaeth sydd wedi derbyn adborth arbennig o
dda yn ogystal â’r Gynhadledd Llesiant Meddylion llwyddiannus gafodd ei gynnal
yn ddiweddar. Cyfeiriwyd at y gwelliannau yn y gwasanaeth Cyswllt Cwsmer ble
gwelwyd gostyngiad yn yr amser o ymateb i alwadau yn ogystal â’r canran o
alwadau a gollwyd. Soniwyd am yr
heriau staffio a recriwtio yn y gwasanaeth Cyfreithiol a’r camau sy’n
cael eu cymryd i gyfarch y risgiau yma. Cyfeiriwyd hefyd at berfformiad a’r
cynnydd yng ngwaith y gwasanaeth Etholiadau a’r
gwasanaeth Crwner. Ategwyd
gwerthfawrogiad i staff yr Adran am eu cydweithrediad a’u gwaith gan y Pennaeth
Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol. Nododd bod gwaith da iawn yn cael
ei wneud mewn cyfnod heriol a bod cynnydd da yn cael ei
wneud ar brosiectau. Ni dderbyniwyd
unrhyw sylwadau pellach. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gyfeirio at y niferoedd sy’n
ddigartref yn y Sir a’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cyflwyno yn ddigartref o
ganlyniad i dderbyn ‘rhybudd adran 21’ gan landlordiaid (rhybudd y bydd eu
tenantiaeth yn dod i ben). Nodwyd yn ystod y flwyddyn 2022 rhoddwyd 169 rhybudd
ac roedd 78% o’r rhesymau a roddwyd gan landlordiaid dros gyflwyno’r rhybudd
oherwydd eu bod yn gwerthu’r eiddo. Soniwyd am yr hyn mae’r Adran yn ceisio ei
wneud i geisio cynnig datrysiad i’r sefyllfa er
enghraifft cynnig pecynnau cefnogaeth i landlordiaid preifat. Cyfeiriwyd at
y cynlluniau prynu Tai a phrynu Tir gan nodi bod 8 tŷ wedi ei brynu gyda 5
arall naill ai yn agos i gwblhau neu â chytundeb i brynu yn nwylo’r
cyfreithwyr. Soniwyd hefyd am y Cynllun Cymorth Prynu Gwynedd gan nodi bod
gwerth £13 miliwn o fenthyciadau ecwiti ar gael er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl
brynu cartref oddi ar y farchnad agored yn eu cymuned leol. Adroddwyd ar y
gwasanaeth Ynni newydd sydd wedi cael ei sefydlu gan nodi bod dros 570 o bobl
wedi derbyn cymorth hyd yma gyda’u biliau ynni trwy dderbyn talebau ynni.
Mynegwyd bod hyn yn lwyddiant ond bod y broblem wreiddiol yn cael ei greu gan y
Llywodraeth gyda’r Cyngor yn ceisio ei ddatrys. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau’r
Siop un Stop gan nodi bod staff eisoes wedi eu penodi a bod yr Adran ar hyn o
bryd y chwilio am enw newydd i’r ‘Siop un Stop’. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Tynnwyd sylw at y nifer o dai
cymdeithasol sydd wedi eu datblygu er mwyn ceisio cyrraedd yr uchelgais o 500
erbyn 2026 gan nodi bod 160 wedi eu datblygu hyd yn hyn. Gofynnwyd pa mor hawdd
fydd cyrraedd yr uchelgais. ·
Mewn ymateb nodwyd bod y targed ddim yn
hawdd ond bod arian wedi ei ymrwymo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a
bydd yr Adran yn edrych ar yr anghenion ar draws y Sir. Nodwyd bod cynllun mewn
lle dros y dair mlynedd nesaf. ·
Canmolwyd y Cynllun Cymorth Prynu gan
nodi mai’r brif her oedd darganfod am fodolaeth y Cynllun yn y lle cyntaf. Mewn
ymateb nodwyd bod fideo wedi ei greu a bod yr Adran wedi ymweld â chynghorau
cymuned Dwyfor. Ategwyd y byddai’r Adran yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau
pellach o ran ymgysylltu. ·
Cwestiynwyd os yw’r ffigwr o brynu 8 o
dai yn isel a gofynnwyd os gall y
Cyngor wneud unrhyw beth i helpu neu i gyflymu’r broses. · Mewn ymateb nodwyd ei bod yn anodd iawn dod o hyd i dai addas gan na all yr Adran gystadlu yn erbyn pobl leol sydd eisiau prynu, heriau staff a’r angen i wneud y gorau o’r arian sydd yn bodoli. Ychwanegwyd bod llawer o rwystrau o ran safonau tai a gofynion megis gofynion tân a maint ystafelloedd oedd yn golygu bod llawer yn anaddas. Nodwyd bod yr Adran wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15. Awdur: Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo |