Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad / Hybrid Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Menna Trenholme a’r Cyng. Llio Elenid Owen.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant personol gan y Cyng. June Jones mewn perthynas ag Eitem 6 gan ei bod yn Lywodraethwr yn yr Ysgol. Bu i’r Cyng. June Jones eistedd fel Aelod Lleol ar gyfer Eitem 6, ac o ganlyniad nid oedd ganddi bleidlais ar y mater.

 

Datganwyd buddiant personol gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag Eitem 6, a bu iddo adael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 IONAWR pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Ionawr fel rhai cywir. 

6.

PAPUR CYNNIG - YSGOL Y GARREG pdf eicon PDF 517 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cyhoeddi rhybudd statudol, yn caniatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac arweiniad Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 011/2018: ar y cynnig a ganlyn –

 

“Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”

 

Bydd dalgylch Ysgol Cefn Coch yn cael ei ymestyn i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Y Garreg.

Cofnod:

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones

 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd cyhoeddi rhybudd statudol, yn caniatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac arweiniad Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 011/2018: ar y cynnig a ganlyn –

 

“Cau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”

 

Bydd dalgylch Ysgol Cefn Coch yn cael ei ymestyn i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Y Garreg.

 

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd tristwch wrth gyflwyno’r eitem hon ac amlygwyd bod Ysgol y Garreg wedi gwasanaethu pentref Llanfrothen a’r gymuned ehangach dros gyfnod hir.

 

Datganwyd bod gorfod cau ysgolion yn deillio o’r newidiadau yn nemograffeg y Sir. Wrth gyfeirio at effaith y newidiadau hyn, datgelwyd bod ychydig dros 1,500 yn llai o blant 0-15 oed yn y Sir yn 2021 o’i gymharu â 2011. Pwysleisiwyd pwysigrwydd trafod sefyllfa Ysgol y Garreg mewn cyd-destun ehangach, gan nad yw sefyllfa’r Ysgol hon yn unigryw i Wynedd nac i Gymru – cyfeiriwyd at y nifer llai o blant sy’n byw yn ein cymunedau. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith mai 2 ddisgybl sy’n mynychu Ysgol Y Garreg, a’r disgyblion hynny ym mlwyddyn 6. Ychwanegwyd nad oes unrhyw ddisgybl wedi cofrestru ar gyfer cychwyn yn yr Ysgol ym mis Medi chwaith, felly ni fydd disgyblion yn yr Ysgol. Nodwyd nad yw dyfodol Ysgol y Garreg yn gynaliadwy o ganlyniad.

 

Diolchwyd i holl staff a llywodraethwyr yr Ysgol am eu gwasanaeth dros y blynyddoedd. 

 

Ategwyd tristwch y sefyllfa gan Aelod Lleol Ward Glaslyn, a soniwyd bod yr Ysgol wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers oddeutu 143 o flynyddoedd. Pwysleisiwyd y newid hwn mewn demograffeg a’r lleihad yn nifer o blant yn ein cymdeithas, a chyfeiriwyd at allu rhieni i ddewis i ba ysgol i anfon eu plant. Anogwyd y Cyngor gan yr Aelod Lleol i ystyried ailstrwythuro adeilad yr Ysgol fel canolfan arbenigol ar gyfer disgyblion sy’n cael trafferth setlo mewn ysgolion prif lif, ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer Ysgol Anghenion Dysgu Arbennig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Holwyd am farn y gymuned leol am y sefyllfa bresennol a’r dyfodol pe bai’r dewis i gau’r Ysgol. Mewn ymateb, nodwyd bod y weithdrefn i gau Ysgol sydd â llai na 10 disgybl yn wahanol i’r hyn a fyddai’n ofynnol gydag ysgol fwy. Cadarnhawyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Ysgol a’r llywodraethwyr. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 92% o blant y dalgylch eisoes yn cael eu haddysgu mewn dalgylchoedd eraill, a ddengys bod nifer o rieni wedi gwneud y penderfyniad i anfon eu plant i ysgol arall yn barod.

·       Ehangwyd ar y gwahaniaeth yn y weithdrefn o gau ysgol sydd â llai na 10 o blant -  nodwyd nad oes ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o drefn cau ysgol sydd â llai na 10 disgybl ond bod sesiynau ymgysylltu dal yn cael eu cynnal, ac yn dilyn hynny mae’r drefn yn symud yn syth i gyflwyno’r rhybudd statudol i gau’r ysgol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

7.

STRATEGAETH YSGOLION 2026 - 2036 pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Strategaeth Ysgolion 2026 - 2036 (Atodiad 1), a dirprwywyd awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i wneud newidiadau an-arwyddocaol a golygyddol i’r Strategaeth cyn ei chyhoeddiad ffurfiol, ar yr amod nad yw’r newidiadau hynny’n effeithio’n sylweddol ar gynnwys, cyfeiriad strategol, blaenoriaethau na goblygiadau ariannol y Strategaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Strategaeth Ysgolion 2026 - 2036 (Atodiad 1), a dirprwywyd awdurdod i’r Aelod Cabinet dros Addysg, mewn ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Addysg, i wneud newidiadau an-arwyddocaol a golygyddol i’r Strategaeth cyn ei chyhoeddiad ffurfiol, ar yr amod nad yw’r newidiadau hynny’n effeithio’n sylweddol ar gynnwys, cyfeiriad strategol, blaenoriaethau na goblygiadau ariannol y Strategaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod y Strategaeth flaenorol wedi dod i ben a’i fod yn allweddol i strategaeth arall gael ei rhoi mewn lle ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

 

Amlygwyd bod trafodaethau eang wedi eu cynnal mewn perthynas â’r Strategaeth, a bod mewnbwn y sector, y gweithlu addysg a’r Fforwm Sirol Plant a Phobl Ifanc wedi ei dderbyn yn ogystal. 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd y Strategaeth hon i amlygu gweledigaeth ac uchelgais y Cyngor am y 10 mlynedd nesaf. Amlinellir gan y ddogfen yr heriau sy’n wynebu’r Sir, a nodwyd pwysigrwydd bod yr awdurdod a’r cyhoedd yn ymwybodol ac yn effro i’r heriau hynny.

 

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y Pwyllgor. Adnabuwyd y Strategaeth fel dogfen allweddol i lywio cyfeiriad addysg y Sir ac esboniwyd y credir gan y Pwyllgor fod angen cryfhau rhai elfennau o’r Strategaeth cyn symud ymlaen. Adroddwyd bod angen ymgorffori lles a diogelu plant a phobl ifanc yn fwy pendant i mewn i’r ddogfen, a bod galw i sicrhau fod llais y plentyn yn rhan ganolog o’r cynllunio. Ymfalchïwyd bod newidiadau wedi eu gwneud i’r ddogfen yn sgil yr argymhellion hyn. Wrth gyfeirio at anghyfartaledd, nodwyd bod diffyg mesurau clir i asesu effaith penderfyniadau strategol ar y dysgwyr fwyaf bregus. Yn ogystal, eglurwyd i’r Pwyllgor drafod yr heriau parhaus wrth recriwtio a chadw’r gweithlu, gan ychwanegu fod angen mwy o bwyslais ar gynllunio’r gweithlu i sicrhau cynaladwyedd hirdymor.

Aethpwyd ymlaen i egluro argymhellion pellach y Pwyllgor Craffu, a gaiff eu nodi yn yr adroddiad.

Cadarnhawyd bod ystyriaeth wedi’i roi i’r holl argymhellion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu yn yr adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Wrth gyfeirio at y newid yn nemograffeg yr ardal, cwestiynwyd a oes ateb i’r her o recriwtio a chynllunio’r gweithlu yn y Strategaeth hon. Mewn ymateb, datganwyd nad yw pob agwedd o’r maes yn cael ei gyfarch drwy’r Strategaeth hon a bod amryw o strategaethau a gweithdrefnau eraill i gyfarch yr agweddau hynny. Cyfeiriwyd at heriau eraill megis cyfrwng iaith, yr angen i athrawon ddysgu amryw o bynciau, a’r ffaith fod nifer o bobl ifanc y Sir yn symud i ffwrdd. Cydnabuwyd nad yw’r heriau hyn yn unigryw i Wynedd, a bod y Strategaeth yn rhoi sylw parhaus i’r heriau hyn.

·       Mynegwyd syndod a siom bod yr holiadur electronig ond wedi derbyn 19 ymateb, er ei fod yn agored am 8 wythnos. Ategwyd y siom hwn gan y swyddogion, ond nodwyd efallai fod hyn yn adlewyrchiad o’r ffaith iddo gael ei drafod cryn dipyn gydag ysgolion yn barod. Datgelwyd bod nifer wedi cychwyn yr holiadur ond nid ei gyflwyno.

·       Ymfalchïwyd bod yr Adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

8.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 741 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2025) y dylid:

 

1.  Sefydlu cyllideb o £379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,691,720 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd â 0.42% pellach i gyfarch y lefi gan yr Awdurdod Tan, ac felly’n rhoi cyfanswm o 5.17%).

 

2.  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2025) y dylid:

 

1.  Sefydlu cyllideb o £379,701,110 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,691,720 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.75% sylfaenol ynghyd â 0.42% pellach i gyfarch y lefi gan yr Awdurdod Tan, ac felly’n rhoi cyfanswm o 5.17%).

 

2.  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r rhagolygon ariannol o’r flwyddyn ariannol bresennol. Datganwyd bod oddeutu £5.3 miliwn o orwariant ar draws y Cyngor, a hynny lle nad oedd cyllidebau’r adrannau yn diwallu’r galw am wasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd yn y setliad a dderbyniai’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru i 4.1%. Nodwyd fod hyn dal ymysg yr isaf yng Nghymru, ond yn gynnydd gwell na’r disgwyl.

Fel rhan o’r broses gosod cyllideb, rhagdybiwyd bod codiad cyflog posib o 4% i athrawon, a 3.4% i weddill gweithlu’r Cyngor.

 

Rhoddwyd trosolwg o’r bidiau refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf, a’r traws doriad fesul adran.   

 

Adnabuwyd bod cynnydd arferol mewn ardollau, sy’n cynnwys £458,000

i'r Awdurdod Tân, ac yna symiau llai i Gyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Eryri a Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd.

Amcangyfrifwyd y bydd angen gwario oddeutu £23.3 miliwn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn cynnal gwasanaethau’r Cyngor. Amlygwyd y daw’r pwysau mwyaf o chwyddiant cyflogau, chwyddiant cyffredinol a’r cynnydd mewn galw am wasanaethau.

 

Cadarnhawyd bod gofynion gwario’r flwyddyn ariannol 2026/27, yn oddeutu £380miliwn. Amlygwyd bod y setliad gan Lywodraeth Cymru yn oddeutu £264miliwn, sy’n gadael bwlch o dros £116miliwn i’w lenwi gan Dreth Cyngor ac arbedion.

 

Nodwyd bod gwerth £644 o filoedd o arbedion eisoes wedi eu cymeradwyo i
Gyllideb 2026/27 - gydag oddeutu chwarter miliwn o bunnoedd o’r arbedion hyn ar gael i gyfrifo'r bwlch ariannu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ers cyhoeddi’r adroddiad, tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor wedi cael cadarnhad y bydd yn derbyn cymhorthdal tuag at ei gyfraniad at gostau’r Awdurdod Tân, sydd yn oddeutu £50,000 ychwanegol. Datgelwyd bod y Cyngor hefyd wedi manteisio ar y cyfle i ad-dalu benthyciad cyfalaf yn ddiweddar iawn, sy’n gostwng y swm blynyddol sydd angen ei glustnodi ar gyfer talu’r benthyciadau hyn.

Nodwyd bod hyn yn galluogi lleihau’r cynnydd mewn treth Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf o 4.9%, sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad, i 4.75%. Ychwanegwyd y bydd yr elfen tân yn ychwanegol i hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Gwnaed sylwad o’r rhwystrau y mae cyllideb fesul blwyddyn yn ei greu ar gyfer cynghorau, a gofynnwyd unwaith eto am gyllideb aml-flwyddyn gan y Llywodraeth fel bod modd cynllunio o flaen llaw. 

·       Mynegwyd balchder bod arian ychwanegol wedi’i gyllidebu i gefnogi Ysgolion Arbennig a gwasanaethau anghenion dysgu ychwanegol o fewn ysgolion prif lif. Amlygwyd mai cyffwrdd yr ochrau yn unig y mae hyn, a bod angen buddsoddiad cenedlaethol yn y maes hwn.

·       Holwyd am fanylion ychwanegol am yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid

9.

CYNLLUNIAU A FFIOEDD PARCIO pdf eicon PDF 244 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ‘mlaen i wireddu dau gynllun arbedion

sydd angen ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad terfynol, sef:

 

1.1.1 Ymestyn oriau gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00 hyd at 16:30 i 

9:00 hyd at 17:00. 

 

1.1.2  Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2.

 

Cymeradwywyd gorchymyn parcio newydd sydd yn cysoni trefniadau cyfredol a chynnwys y newidiadau uchod.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a galluogwyd y Gwasanaeth Parcio i fwrw ‘mlaen i wireddu dau gynllun arbedion sydd angen ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad terfynol, sef:

 

Ymestyn oriau gorfodaeth meysydd parcio arhosiad byr o 10:00 hyd at 16:30 i  9:00 hyd at 17:00. 

 

Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2.

 

Cymeradwywyd gorchymyn parcio newydd sydd yn cysoni trefniadau cyfredol a chynnwys y newidiadau uchod.

 

 

TRAFODAETH

 

Rhoddwyd cefndir i’r eitem, gan nodi fod y cynllun hwn yn rhan o’r cynlluniau i gyfarch y diffyg rhwng y targed incwm parcio a’r hyn oedd yn cael ei gyflawni. Nodwyd y bu’r eitem gerbron y Cabinet yn 2024, a chadarnhawyd bod yr hyn a gymeradwywyd bellach yn weithredol ac yn perfformio fel y rhagolygwyd.

 

Datganwyd bod y targed incwm wedi cynyddu ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno yn 2024/25, felly bod angen cymryd camau pellach i’w gyrraedd.

 

Datgelwyd bod y newidiadau a’u cyflwynwyd yn 2025 wedi eu derbyn yn weddol, ac mai ond ychydig o adwaith a ddeilliodd o hynny. Tynnwyd sylw at y tocynnau tymor sy’n cynnig gwerth am arian da o’i gymharu â thalu gyda phob ymweliad.

Eglurwyd bod yr Adran wedi adolygu’r gorchymyn parcio, a daethpwyd i’r casgliad bod angen cyflwyno gorchymyn newydd sy’n dod a mwy o gysondeb thaclusrwydd o ran mapiau o’r meysydd parcio er enghraifft.

Amlygwyd bod y gwasanaeth yn y broses o gyflwyno 32 peiriant talu ac arddangos newydd, gyda’r bwriad o ddarparu gwasanaeth o well safon i’r cwsmer yn ogystal â sicrhau bod yr incwm yn cael ei ddenu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Adnabuwyd ei bod yn hynod anodd i gymharu sefyllfa strwythur parcio Gwynedd â siroedd eraill, oherwydd bod y strwythurau yn amrywio o sir i sir. Er hyn, nodwyd bod modd cymharu rhai agweddau megis prisiau tocynnau tymor blynyddol - ychwanegwyd bod y tocynnau hyn yn rhesymol iawn yng Ngwynedd. Adroddwyd bod adborth gan ymwelwyr hefyd yn cefnogi’r ffaith fod parcio yng Ngwynedd yn rhesymol o’i gymharu â’u hardaloedd lleol hwy. Eglurwyd y credir bod cydbwysedd wedi’i gyrraedd yma o ran darparu ar gyfer anghenion lleol ar y cyd â chynhyrchu incwm ble mae modd.

·       Cyfeiriwyd at brisiau tocynnau parcio lleol a’r tocynnau parcio tymhorol, ac esboniwyd yr hyn a gynigir i drigolion. Datgelwyd bod yr holl wybodaeth ynghylch y ddarpariaeth hon ar wefan y Cyngor.

·       Holwyd a oes ystyriaethau wedi’u gwneud i effaith yr oriau gorfodaeth estynedig ar fusnesau lleol. Sicrhawyd bod strategaeth parcio ar y stryd, sy’n galluogi i bobl barcio ar y stryd am gyfnodau o 30munud i awr er mwyn galw’n sydyn i mewn i siopau.

·       Cwestiynwyd sut y caiff y newid hwn ei gyfathrebu â’r cyhoedd, fel nad yw pobl yn cael eu dal allan. Mewn ymateb, cynigwyd bod cyfle i fynd ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol yn statudol wrth rybuddio am y newid hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol trigolion.

·       Cynigiwyd y dylid cynnig cyfnod gras am gyfnod cychwynnol y cyfnod gorfodaeth estynedig, ond sicrhawyd bod digon o amser rhwng  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd

10.

CRONFA EFFAITH BALCHDER BRO pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i gyfeirio’r £1.5 miliwn sydd yn dod i Wynedd o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Economi a’r Pennaeth Cyllid, i gadarnhau manylion y pecyn arfaethedig o gynlluniau i’w cefnogi, gan sicrhau trefniadau gweithredol yn unol â thelerau ac amodau’r Gronfa.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i gyfeirio’r £1.5 miliwn sydd yn dod i Wynedd o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DG i’r Cynlluniau a restrir yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet Economi a’r Pennaeth Cyllid, i gadarnhau manylion y pecyn arfaethedig o gynlluniau i’w cefnogi, gan sicrhau trefniadau gweithredol yn unol â thelerau ac amodau’r Gronfa.

 

 

TRAFODAETH

 

Derbyniwyd cadarnhad ym mis Medi llynedd fod £1.5 miliwn wedi ei glustnodi i Wynedd o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth DG. Esboniwyd mai cronfa gyfalaf yw hon sydd wedi ei rhaglennu ar gyfer cyfnod 2025/26 i 2026/27.

 

Ymhelaethwyd ar 3 prif amcan y Gronfa, sef adnewyddu mannau cymunedol, gwella mannau cyhoeddus, ac adfywio’r stryd fawr a chanol y dref.

 

Datganwyd bod amcanion y Gronfa yn cyd-fynd â’r Cynllun Adfywio Cymunedau a Chanol Trefi, sydd o fewn Cynllun y Cyngor 2023-28. Cyfeiriwyd at y fframwaith adfywio sydd o fewn y cynllun, a’r cynlluniau adfywio lleol sydd wedi eu datblygu ar gyfer 13 dalgylch ar draws y Sir.

 

Nodwyd bod Atodiad 1 yn cynnwys crynodeb o brosiectau adfywio sydd wedi sicrhau grantiau drwy’r Gwasanaeth Rhaglenni Adfywio neu Wasanaeth Cefnogi Cymunedau yn ystod y cyfnod 2022/3 - 2025/6. Amlygwyd bod cyfanswm y grantiau sydd wedi eu gweinyddu yn £32m, gan gefnogi prosiectau gwerth £53m ar draws y Sir. Ychwanegwyd bod pecyn cynigion ar gyfer y Gronfa wedi ei gynnwys fel Atodiad 2.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

  • Cadarnhawyd bod tegwch ar draws y Sir yn flaenoriaeth, ac mai arian i Wynedd yw hwn.
  • Holwyd pam fod rhai siroedd yn derbyn cyfanswm mwy o arian nac eraill. Mewn ymateb, amlygwyd nad proses ymgeisio oedd wrth wraidd hyn ac mai penderfyniad y Llywodraeth oedd pa siroedd oedd yn derbyn y gyfran uwch o arian. Cynigwyd y gall yr Arweinydd ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn holi am eglurhad am y dyraniad hwn.
  • Gofynnwyd am esiamplau o le y bydd yr arian hwn yn cael ei wario. Nodwyd y caiff hyn ei adlewyrchu yn yr adroddiad a bod amryw o ffactorau yn cael eu hystyried wrth ddod i benderfyniad. Cyfeiriwyd at y prosiectau sydd wedi eu rhestru yn Atodiad 2, gan nodi bod ymgais i ledaenu’r buddsoddiad ar draws y Sir. Cydnabuwyd nad yw’n swm sylweddol iawn, felly mae’n rhaid bod yn ofalus wrth ei wario.

 

Awdur: Llyr B Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ac amcan brisiau caffael ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoedddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a ’r  Cyngor   ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cyngor  i rannu gwybodaeth   sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r buddcyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau .

Cyflwynwyd gan: .

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol.

 

12.

CANOLFAN GWYDDONIAETH TRAWSFYNYDD

Cyflwynwyd gan: Cyng R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd y bwriad fod Cyngor Gwynedd yn:

 

• Arwain ar gais am nawdd Cytundeb Twf Gogledd Cymru i sefydlu Parc Gwyddoniaeth Trawsfynydd a datblygu Canolfan Arloesedd Sgiliau a Busnes ar safle.

 

• Cymryd perchnogaeth dros yr adeilad newydd pan fydd wedi ei gwblhau ac yn cytuno les gyda thrydydd parti i redeg y ganolfan, pan yn briodol

 

• Ymrwymo £1m o arian cyfalaf Cyngor Gwynedd yn y cynllun ac ymrwymo i dargedu £1m o arian ychwanegol i'r ardal fel cyfraniad.

 

• Defnyddio hyd at £545,000 o arian NDA, Llywodraeth Cymru ac arian sydd wedi’i ymrwymo gan yr Adran eisoes i gyflawni’r camau nesaf hyd at ddylunio ac adeiladu.

 

• Negodi defnydd y tir sydd ei angen ar Safle Trawsfynydd gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (perchnogion y Safle)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. R Medwyn Hughes.

 

PENDERFYNIAD

 

 

Cefnogwyd y bwriad fod Cyngor Gwynedd yn:

 

• Arwain ar gais am nawdd Cytundeb Twf Gogledd Cymru i sefydlu Parc Gwyddoniaeth Trawsfynydd a datblygu Canolfan Arloesedd Sgiliau a Busnes ar safle.

 

• Cymryd perchnogaeth dros yr adeilad newydd pan fydd wedi ei gwblhau ac yn cytuno les gyda thrydydd parti i redeg y ganolfan, pan yn briodol

 

• Ymrwymo £1m o arian cyfalaf Cyngor Gwynedd yn y cynllun ac ymrwymo i dargedu £1m o arian ychwanegol i'r ardal fel cyfraniad.

 

• Defnyddio hyd at £545,000 o arian NDA, Llywodraeth Cymru ac arian sydd wedi’i ymrwymo gan yr Adran eisoes i gyflawni’r camau nesaf hyd at ddylunio ac adeiladu.

 

• Negodi defnydd y tir sydd ei angen ar Safle Trawsfynydd gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (perchnogion y Safle)

 

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

Awdur: Sioned Williams, Pennaeth Adran Economi a Chymuned Nia Bowden, Rheolwr Cefnogi Busnes