Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Menna Trenholme a Dilwyn Morgan. 

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys. 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.  

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 fel rhai cywir.  

6.

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS (GDMC) CAERNARFON, PWLLHELI A CRICIETH pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth a Phwllheli, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn Atodiad 1.

b)    Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol 

 

PENDERFYNIAD 

 

a.            Cymeradwywyd ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardaloedd penodol yng Nghaernarfon, Criccieth a Phwllheli, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn Atodiad 1. 

b.            Awdurdodwyd Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC yng Nghaernarfon, Pwllheli a Criccieth. 

 

TRAFODAETH 

 

Eglurwyd bod Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn rhoi’r grym i Awdurdodau Lleol gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) i ymdrin â niwsans neu broblemau penodol mewn mannau penodol. Cadarnhawyd bod yr heddlu wedi bod mewn cyswllt gyda’r Cyngor er mwyn ceisio cyflwyno GDMC mewn ardaloedd yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chriccieth. Bwriedir i’r gorchmynion ymdrin â phroblemau penodol mewn ardaloedd penodol sy’n niweidiol i ansawdd bywyd. Esboniwyd bod ardaloedd arfaethedig GDMC wedi’u nodi oherwydd effaith yr ymddygiad ar y gymuned, busnesau ac ymwelwyr. 

 

Manylwyd bod rhaid i’r Awdurdodau Lleol fod yn fodlon bod sail rhesymol dros gredu fod y gweithgareddau hyn mewn man cyhoeddus wedi cael, neu yn debygol o gael effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn y cyffiniau. Eglurwyd hefyd fod y gweithgareddau angen bod yn barhaus eu natur ac yn afresymol. Esboniwyd bod yr heddlu wedi darparu datganiadau effaith gan swyddogion a busnesau yn yr ardaloedd yma gan nodi tystiolaeth bod ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion ifanc ac oedolion ac yn cynnwys camweddau sylweddau, ymddygiad bygythiol a thrais. Manylwyd bod hyn yn gwneud i rai unigolion y gymuned osgoi mynd i fewn i fusnesau, ac eu bod yn osgoi defnyddio llochesi bysiau ac ati. 

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymgynghori gydag Aelodau Lleol a’r cynghorau tref perthnasol. Sicrhawyd bod cefnogaeth lwyr i’r gorchmynion ynghyd â chefnogaeth gan Aelodau Seneddol Arfon a Dwyfor Meirionnydd. Esboniwyd bydd y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o’r GDMC os byddent yn cael eu cymeradwyo, cyn cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet pan yn amserol. Cydnabuwyd bod angen ystyried opsiynau eraill cyn cyflwyno GDMC ac mae’r Cyngor wedi derbyn gwybodaeth gynhwysfawr gan yr heddlu o’u hymrwymiadau amrywiol ac mae’r Cyngor yn fodlon eu bod eisoes wedi defnyddio pob dull i fynd i’r afael ag atal yr ymddygiadau hyn. 

 

Adroddwyd bod y cyfyngiadau dan ystyriaeth GDMC wedi eu datblygu’n benodol i ymdrin â’r mathau o ymddygiad sy’n achosi’r problemau mwyaf, ac ystyriwyd y cyfyngiadau canlynol yn addas: 

·         Ni chaiff person ddilyn cwrs o ymddygiad sydd yn achosi, neu sydd yn rhesymol canfod ei fod yn achosi aflonyddwch, braw, niwsans neu drallod. 

·         Ni chaiff person yfed alcohol, nac unrhyw beth y mae Person Awdurdodedig yn rhesymol gredu i fod yn alcohol neu gynhwysydd i ddal alcohol, os yw Person Awdurdodedig yn gofyn i’r person stopio ag yfed neu ildio’r alcohol neu gynhwysydd. 

·         Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau. Os yw Person Awdurdodedig yn gofyn i’r person ymadael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Daron Marged Owens: Uwch Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

7.

CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 154 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.     

 

PENDERFYNIAD 

 

Ystyriwyd a chymeradwywyd Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2022/23 Cyngor Gwynedd. 

 

TRAFODAETH 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi cael ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 8 Mawrth 2023 yn dilyn cyfarfod o’r Cabinet.  

 

Tynnwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd. 

 

Pwysleisiwyd bod y Cyngor wedi bod yn gweithio ar fesurau i leihau allyriadau carbon ers dros 10 mlynedd a wedi llwyddo i leihau cyfanswm allyriadau carbon 43%. Manylwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wneud hyn drwy weithredu ym mhob maes gan gynnwys newidiadau i oleuadau stryd sydd wedi lleihau 76% o’r allyriadau carbon cysylltiedig, a newidiadau i’r fflyd gan leihau allyriadau carbon cysylltiedig 23%. 

 

Esboniwyd bod y newidiadau mae’r Cyngor yn ei wneud yn weithredol tuag at adfer yr argyfwng newid hinsawdd ac yn cyfrannu at nod y Cyngor o fod yn garbon sero net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Nodwyd hefyd bod y newidiadau hyn yn arwain at arbedion ariannol i’r Cyngor. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn gweld buddion ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed oddeutu £15miliwn ers 2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni, gan y buasai yna £4.3miliwn o gostau ychwanegol i’w cyfarch. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor yn gweithio o adref. 

 

Cyfeiriwyd at amryw o brosiectau o fewn saith prif ffrwd gwaith y cynllun sef: Adeiladau ac ynni, symud a thrafnidiaeth, gwastraff, llywodraethu, caffael, defnydd tir ac ecoleg. Tynnwyd sylw at brosiect paneli solar sydd eisoes ar y gweill gydag £2.8miliwn wedi ei fuddsoddi mewn paneli solar i’w rhoi ar adeiladau’r Cyngor er mwyn arbed arian yn y dyfodol. Esboniwyd hefyd bod fflyd y Cyngor yn cael ei uwchraddio yn y dyfodol i fod yn gerbydau trydan er mwyn lleihau’r allyriadau carbon mae’r cerbydau presennol yn ei ryddhau. 

 

Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o ledled y wlad, oherwydd bod y system yn ffocysu ar wariant, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio. Cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei wneud yn genedlaethol er mwyn cywiro’r gwall hwn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr Adran yn arwain ar bump o brosiectau Cynllun y Cyngor sef ‘Rheolaeth ail gartrefu a llety gwyliau tymor byr’, ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’, ‘Teithiau Llesol’ a ‘Trafnidiaeth Gyhoeddus’. Tynnwyd sylw bod dau o’r prosiectau hyn yn ymwneud â’r maes trafnidiaeth a bydd Pennaeth Cynorthwyol newydd yn cychwyn gyda’r Adran ym mis Ionawr a fydd yn allweddol i gynorthwyo gyda’r gwaith i symud y blaenoriaethau hyn yn eu blaenau. 

 

Eglurwyd bod yr adran yn arwain ar y gwaith o baratoi cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, mewn ymdrech i gael gwell rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Nodwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i fynnu bod perchnogion eiddo yn yr Ardal Cynllunio yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr. Cadarnhawyd bod cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos a bod ymateb sylweddol i'r ymgynghoriad wedi dod i law. Nodwyd bod swyddogion yn parhau i ddadansoddi’r holl sylwadau a rhoi ystyriaeth deilwng i’r ymatebion a dderbyniwyd. Sicrhawyd bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet am benderfyniad yn ystod misoedd cynnar 2024, yn dilyn y broses o ddadansoddi sylwadau. 

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd er mwyn cyfarch anghenion tai cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion y sir dros yr 15 mlynedd nesaf. Pwysleisiwyd bod Gweithgor Polisi Cynllunio wedi ei sefydlu er mwyn cefnogi’r broses o greu a chynnal y Cynllun hwn a'u bod hefyd wedi ystyried Cytundeb Cyflawni drafft y Cynllun. Cadarnhawyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos ar y Cytundeb Cyflawni ac mae swyddogion yn ystyried yr ymatebion ar hyn o bryd. Rhagwelwyd bydd adroddiad ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn fuan cyn mynd i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2024. 

 

Adroddwyd bod gwaith trawsnewid sylweddol yn parhau i ddigwydd ym maes gwastraff ac ailgylchu. Cadarnhawyd bod yr adran yn gweithio i anelu at darged Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl wastraff erbyn 2025. Eglurwyd bod y Cyngor yn derbyn incwm am ddeunydd ailgylchu ond cadarnhawyd bod y ffigyrau hyn wedi lleihau. Adroddwyd bod y Cyngor wedi bod yn derbyn £400 y tunnell yn y gorffennol ond roedd y ffigyrau hyn wedi lleihau i £200 y tunnell erbyn mis Mai eleni. Nodwyd bod y ffigyrau diweddaraf yn nodi bydd y Cyngor yn derbyn £20 y tunnell am nwyddau ailgylchu a gesglir. Cydnabuwyd bod yr Adran wedi derbyn nifer fawr o gwynion o fewn y maes gwastraff yn ddiweddar wrth iddo symud o dan reolaeth yr Adran hon. Pwysleisiwyd bod nifer o’r heriau wedi eu datrys erbyn hyn ac bod niferoedd y cwynion wedi gostwng. 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor wedi sicrhau £1.2miliwn o gyllid Teithiau Llesol gan Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Wyn Williams: Pennaeth Adran Amgylchedd

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones. 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran yn arwain ar dri phrosiect sy’n rhan o Gynllun y Cyngor sef ‘Cymunedau Glân a Thaclus’, ‘Gweithredu ar Risgiau Llifogydd’ ac ‘ Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’. 

 

Manylwyd bod yr adran wedi uno tri gwasanaeth o dan un rheolwr ymysg y maes cymunedau glan a thaclus er mwyn creu gwasanaeth newydd o dan yr enw ‘Edrychiad Stryd’. Cadarnhawyd bod strategaeth ddrafft wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn ddiweddar a bydd y strategaeth yn mynd allan am ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn, yn dilyn eu sylwadau. 

 

Cydnabuwyd bod llithriad wedi bod wrth ymgeisio i gwblhau gwaith o fewn y maes ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y sir ond gobeithir bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn llawn yn y dyfodol. Pwysleisiwyd bod diweddariad  manwl ar brosiectau Cynllun y Cyngor o fewn Atodiad 1. 

 

Eglurwyd bod Llawlyfr Cynnal Priffyrdd wedi cael ei fabwysiadu yn ddiweddar ac mae’r Adran yn rhoi blaenoriaeth i greu rhaglen 3 blynedd o waith ail wynebu ffyrdd drwy’r sir ar sail cyflwr. Cadarnhawyd bydd y rhaglen hon yn cael ei rannu gydag Aelodau er mwyn iddynt fod yn ymwybodol pryd fydd gwaith yn cymryd lle o fewn eu wardiau. 

 

Nodwyd bod yr adran wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda’r Adran Amgylchedd ar brosiect ymylon ffordd. Esboniwyd bod y prosiect yn helpu ein byd natur, yn enwedig peillwyr, gan gynyddu bioamrywiaeth. 

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi archebu 43 o gerbydau trydan er mwyn symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwydd ffosil, ac i gyd-fynd â Chynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur y Cyngor. Nodwyd y disgwylir i’r cerbydau hyn gyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a gobeithir bydd 16 pwynt gwefru ar gael i fflyd y Cyngor ar draws y Sir. Esboniwyd bod yr Adran wedi profi heriau wrth gysylltu pwyntiau gwefru i’r grid cenedlaethol ond mae’r Adran yn gweithio gyda darparwyr i sicrhau na fydd hyn yn broblem yn y dyfodol. 

 

Esboniwyd bod yr Adran wedi bod yn llwyddiannus mewn cais ariannol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) er mwyn ymestyn y ddarpariaeth bresennol o systemau teledu cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus ym Mangor, Caernarfon a Phwllheli. Manylwyd bydd dogfennau tendro yn cael eu darparu yn y dyfodol agos. 

 

Adroddwyd ar fwriad yr adran i dreialu drysau talu gyda thechnoleg di-gyffwrdd i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 05 Hydref 2023. Manylwyd bod bid ariannol i gyflwyno drysau mewn 5 safle i’r perwyl hyn wedi ei gyflwyno. Yn yr un maes, cadarnhawyd bod yr Adran yn rheoli Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus sy’n caniatáu i aelodau’r cyhoedd ddefnyddio toiledau mewn amryw o sefydliadau lleol. Nodwyd bod modd defnyddio’r toiledau am ddim ac nid oes angen prynu dim yn y lleoliad. Eglurwyd bod y lleoliadau yn gallu derbyn grant o hyd at £500 i fod yn rhan o’r cynllun a bod rhaid iddynt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Steffan Jones: Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC