Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes Cydymdeimlodd
y Cadeirydd ar ran y pwyllgor gyda theulu'r diweddar Gynghorydd Eirwyn Williams
a fu farw yn ddiweddar. Roedd yn aelod ffyddlon o’r pwyllgor am nifer o
flynyddoedd ac wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr i drigolion Cricieth fel
Cynghorydd Sir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelodau canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Gruffydd
Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL) ar y rhaglen oherwydd bod ei fab
yn berchen cae gerllaw safle’r cais Y Cynghorydd Elwyn
Jones (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL)
ar y rhaglen oherwydd ei fod yn gyflogedig gan Cyngor Cymuned Pentir Roedd yr Aelodau o’r
farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Angela Russell (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0426/38/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0426/38/LL) ar y rhaglen c)
Amlygwyd bod yr Aelodau wedi derbyn
e-bost yn rhannu manylion ar gais cynllunio
C22/0426/38/LL Pentref Pwylaidd
Penrhos, Lôn Llanbedrog, Pwllheli LL53 7HN. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il Hydref 2023 fel rhai cywir.
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU PDF 437 KB Cais
llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r
fynedfa bresennol, ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio er mwyn
cynnal ymweliad safle Cofnod: Cais
llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r
fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio. Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol oedd yn amlygu a) gwybodaeth gan yr Uned
Strategol Tai ynglŷn â’r angen am dai fforddiadwy yn Tregarth, a b) bod
sylwadau anghywir yr Uned Bioamrywiaeth wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd
eu sylwadau cywir yn nodi : ·
Bod mesurau osgoi rhesymol ar gyfer ymlusgiaid yn cael
eu cynnwys fel amod cynllunio. ·
Na ddylid clirio unrhyw goeden, llwyn na llystyfiant
yn ystod tymor nythu adar. ·
Bydd angen sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd
i godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu
ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir
ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa
presennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu
datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso
codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn
dai fforddiadwy canolraddol. Bydd y tai i gyd yn
ddeulawr gyda thoeau brig, 8.6m o uchder, ac wedi’u gorffen mewn cymysgedd o
ddeunyddiau gan gynnwys: ·
Toeau
llechi naturiol gyda ffasgia a bondo uPVC cyfansawdd, a chrib mewn concrid coch neu deils clai ·
Waliau
- brics mewn gwahanol arlliwiau a gweadau gyda nodweddion addurnol a’r rhannau
sy'n weddill i gael rendrad garw wedi ei beintio ·
Nwyddau
dŵr glaw: System ddur wedi'i gorchuddio â phowdr ·
Ffenestri
a drysau: Systemau ffenestri cyfansawdd uPVC, drysau
ffrynt gwyn a llwyd. Saif y safle ar safle tir
llwyd o fewn ffin ddatblygu Pentref
Lleol Tregarth fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw
ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a Thirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth clustogi dau
Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417, Rheilffordd
Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. O ran egwyddor y
datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi
TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun
trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod
tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd
gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig
yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y
datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Cyfeiriwyd at faen prawf (3) polisi PCYFF 2 sydd yn datgan y dylid gwneud y defnydd gorau o dir gan gynnwys sicrhau dwysedd o leiaf 30 uned byw i’r hectar o ran datblygiad preswyl. Nodwyd, ar sail 30 uned i’r hectar buasai safle o’r maint ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/1185/25/LL Tir gyferbyn Ty Mel, Bangor, LL57 4UG PDF 434 KB Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig Dolen i'r dogfennau
cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENFERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac
amodau’n ymwneud a’r canlynol : 1. Dechrau
o fewn 5 mlynedd 2. Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3. Defnyddio llechi
to Cymreig 4. Amod er sicrhau gwelededd
derbyniol 5. Tynnu’r Hawliau
Datblygu a Ganiateir er sicrhau fforddiadwyedd 6. Amod Dŵr
Cymru 7. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol
Rhagarweiniol 8. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl
Llifogydd Nodyn – Dŵr Cymru System
Draenio Gynaliadwy Sylwadau’r Uned
Trafnidiaeth Cofnod: Codi 2 dŷ fforddiadwy,
mynedfa newydd, parcio, tirlunio a
gwaith cysylltiedig. a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd i godi dau dŷ fforddiadwy canolradd ger pentref Caerhun i’r
de-ddwyrain o Fangor. Bydd y ddau dŷ unllawr yn
darparu dwy lofft, cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi a chyntedd ynghyd a
mannau parcio ar gyfer dau gerbyd. Bydd un fynedfa oddi ar y ffordd sirol
dosbarth III gyfagos yn gwasanaethu’r ddau dŷ. Nid oes dynodiadau statudol amgylcheddol na threftadaeth i’r
llecyn tir hwn sy’n cael ei ddefnyddio’n bresennol ar gyfer tir pori. Fodd
bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi fod yr ardal eang o amgylch safle’r
cais yn destun llifogydd arwyneb tir. Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei
leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu diffiniedig a gynhwysir o fewn y CDLl. Nodai Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu') y tu allan
i ffiniau datblygu’, bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â
pholisïau penodol y Cynllun neu bolisïau cynllunio cenedlaethol, neu fod y
cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Lleolir y bwriad
yn union gerllaw clwstwr Caerhun fel y'i diffinnir yn yr CDLl
a thrwy hyn, mae Polisïau TAI 6: Tai mewn clystyrau; TAI 15: Tai Fforddiadwy
ynghyd a'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Tai Fforddiadwy, yn berthnasol.
Nodi’r Polisi TAI 6 y dylai cynigion am dai newydd mewn lleoliadau o'r fath
gydymffurfio a saith maen prawf. Eglurwyd bod Datganiad Cynllunio wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi bod galw uchel am dai dwy lofft yn ardal Caerhun / Glasinfryn (ffigyrau’r
Asesiad Farchnad Tai Lleol, Tai Teg ac
Uned Strategol Tai yn cefnogi’r datganiad yma). Ategwyd bod y cynllun yn addas
ac yn cwrdd â’r angen cydnabyddedig. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd na fydda’r tai newydd
yn ymddangos yn estron yn y man hwn er gwaethaf eu lleoliad ar dir amaethyddol
agored oherwydd bydd eu lleoliad yn union gerllaw tai preswyl eraill. Ni
fyddant felly yn cael effaith andwyol sylweddol ar ansawdd tirwedd gyffredinol
yr ardal. Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y gall coed
presennol amharu ar y gwelededd o’r fynedfa. O ganlyniad, gofynnwyd am amod i
sicrhau na chaniateir i unrhyw wal, gwrych neu ffens derfyn y briffordd fod yn
uwch nag 1 metr uwchlaw lefel lôn cerbyd y ffordd sirol gyfagos o naill ben
ffin y safle a'r briffordd i'r llall, a rhaid clirio unrhyw lystyfiant er mwyn
cynnal y gwelededd. O osod amod o’r fath
ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 parthed
safonau parcio a diogelwch ffyrdd. Yng nghyd-destun materion llifogydd, nodwyd bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA) diwygiedig a dderbyniwyd yn disgrifio bod y perygl llifogydd i'r safle datblygu wedi cael ei reoli trwy gael gwared ar strwythur rheoli o fewn y wal derfyn i'r gorllewin o'r datblygiad. O ganlyniad, amlygwyd bod Uned Draenio Tir y Cyngor yn cytuno bod perygl llifogydd i safle’r datblygiad arfaethedig wedi’i leihau’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais
llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety
ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy,
adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned preswyl (100%
tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad fewnol gyda
gwaith cysylltiol a thirlunio. AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Angela Russell a’r Cynghorydd Anwen Davies Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a cytundeb 106 ar gyfer
cyfraniad addysgol 1. 5
mlynedd 2. Unol
â’r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais 3. Llechi
ar y to/cytuno gorffeniad to a paneli pv 4. Cytuno
gorffeniad allanol 5. Cytuno
manylion 6. Cytuno
materion tai fforddiadwy 7. Amod
dymchwel a datblygu cam wrth gam 8. Amodau
Llygredd Tir 9. Cyflwyno manylion cynllun
naill ai i warchod y cyflwr strwythurol neu ddargyfeirio'r prif gyflenwad
dŵr sy'n croesi'r safle. 10. Cyflwyno
cynllun delio gyda dŵr budr 11. Cynllun
rheoli llwch, sŵn a dirgryniad o ganlyniad i’r gwaith dymchwel 12. Oriau gwaith 08:00-18:00
Llun i Gwener 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc. 13. Cyflyno
a chytuno cynllun rheoli ecolegol, cynefin a glaswelltir/dol blodau 14. Rhaid
i arbenigwr coed fod yn bresennol ar y safle drwy gydol y gwaith. 15. Ni chaniateir unrhyw waith
a fyddai’n amharu ar nythod adar yn ystod y cyfnod nythu rhwng 1af Fawrth a 31
Awst oni bai y cytunir fel arall o flaen llaw. 16. Amodau
archeolegol 17. Tynnu
hawliau dirprwyedig a ganiateir 18. Tirweddu 19. Hysbysebion
Cymraeg Cofnod: Cais
llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety
ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy,
adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned breswyl (100%
tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad mewnol gyda
gwaith cysylltiol a thirlunio. Roedd
rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle 5ed o Fedi 2023 a) Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu bod safle'r cais
llawn, unigryw yma yn cynnwys Pentref Pwylaidd Penrhos sydd wedi ei leoli rhwng
tref Pwllheli a Llanbedrog gyda mynediad i'r safle ar hyd trac preifat
uniongyrchol o'r A499. Mae’r safle wedi ei leoli yn gyfan gwbl yng nghefn gwlad
agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu. Byddai’r gwaith dymchwel yn digwydd mewn
3 rhan gyda’r cam cyntaf yn golygu
dymchwel yr adeiladau sydd wedi eu
lleoli ar y dde wrth fynediad
y safle. Byddai’r Eglwys, ffreutur ac ystafell fwyta ynghyd a’r ardd
goffa, rhandiroedd a’r orsaf bws
yn parhau. Mae bwriad gwneud newidiadau
i’r ffordd stad fewnol gan
gynnwys darparu rhai rhannau newydd. Bydd
yr adeiladau newydd hefyd yn cael
eu hadeiladu mewn 3 cam, gyda’r cam cyntaf yn sicrhau
llety ar gyfer y preswylwyr presennol; codi 44 uned yn y cam cyntaf
sy’n cynnwys 12 byngalo, 2 dŷ a 30 o fflatiau; codi 49 uned yng ngham
2 ac 14 yng ngham 3. Mae’r holl unedau
yn cael eu
cynnig fel unedau fforddiadwy ar ffurf cartrefi
gydol oes. Yng
nghyd-destun y cyn-gartref Gofal, adroddwyd bod y cartref gofal wedi
gweithredu fel elfen bwysig o’r
safle a bod y sylwadau a dderbyniwyd yn amlygu bod y gymuned wedi siomi pan gaewyd y cartref yn fuan wedi
i’r safle drosglwyddo i feddiannaeth
yr ymgeisydd. Ategwyd bod ymrwymiad i drosglwyddo
ardal benodol o’r safle i
Cyngor Gwynedd gyda chytundeb
drafft wedi ei chytuno rhwng
Clwyd Alun a’r Cyngor gyda bwriad i’w harwyddo’n
fuan. Nodwyd bod Cabinet
Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wneud cais
am £14.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu codi a datblygu cartref gofal newydd ar
y safle. I’r perwyl hyn, oherwydd
goblygiadau hyfywedd ar gyfer parhau
a gwella’r cartref presennol ac yn seiliedig ar ymrwymiad
yr ymgeisydd i drosglwyddo tir i ddigolledu cyfleusterau
presennol ac ymrwymiad gan y Cyngor i ddarparu cartref gofal a nyrsio ynghyd a darpariaeth gofal a chymunedol, ystyriwyd
fod y bwriad yn cyd-fynd gydag
amcanion polisi ISA 2 o ran
gwarchod cyfleusterau cymunedol. O ran camau 2 a 3, bydd bwriad i’r ddarpariaeth sicrhau adnoddau staffio ac y bydd rhai tai yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl sydd yn gweithio ar y safle neu o fewn y sector iechyd a gofal lleol ehangach. Pan fo anghenion unigolion yn newid, gall y rheiny ag anghenion gofal uchel/cymhleth gael yr opsiwn o symud i'r cartref gofal a nyrsio ar y safle. Bydd y cartref gofal a nyrsio hefyd yn darparu anghenion gofal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |