Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorydd Gareth A Roberts a’r Cynghorydd Cai Larsen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr Aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin Walker Jones (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C24/0916/11/DT ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 C20/1093/24/LL ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r
Cadeirydd a’r Dirprwy Swyddog Monitro yn ymuno yn rhithiol, mai’r Pennaeth
Cynorthwyol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. . |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13 Ionawr 2025 fel rhai cywir yn
ddarostyngedig i nodi bod y
Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn
bresennol. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac
agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0916/11/DT 14 Rhodfa Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HT Estyniad deulawr yng
nghefn yr eiddo AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elin Walker Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau 3. Deunyddiau i weddu 4. Gwelliannau Bioamrywiaeth 5. Sicrhau nad oes dwr wyneb yn rhedeg
i’r briffordd. Nodyn : Dŵr Cymru Cofnod: Estyniad deulawr yng nghefn yr eiddo Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr Roedd rhai o’r Aelodau
wedi ymweld â’r safle 30-01-25 a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais
yn un ar gyfer dymchwel ystafell amlbwrpas bresennol yng nghefn yr eiddo a
chodi estyniad deulawr to fflat. Gohiriwyd y cais ym mhwyllgor mis Ionawr 2025
er mwyn cynnal ymweliad safle. Eglurwyd bod yr eiddo yn eiddo par mewn ardal anheddol o fewn dinas Bangor gyda’r cais
wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod lleol. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O safbwynt dyluniad ac
edrychiad, ystyriwyd nad oedd y math yma o estyniad yn annisgwyl mewn llefydd
anheddol ac felly ni fyddai’n cael effaith weledol annerbyniol. Mewn ymateb i
sylwadau oedd yn codi pryder am golli golau, nodwyd bod asesiad manwl o’r
effeithiau wedi dod i gasgliad na fydd effaith yr estyniad yn niweidiol ar sail
colli golau nac effaith gormesol (er yn estyniad deulawr dim ond 0.5m yn hirach
na’r estyniad cefn presennol ydoedd). Amlygwyd bod yr Aelodau yn ystod yr ymweliad safle wedi
awgrymu rendr golau ar waliau’r estyniad a bod yr
awgrym yma yn dderbyniol. Nodwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi datgan fod bwriad
i symud y sied gardd bresennol i gongl uchaf yr ardd ar y chwith fydd o
ganlyniad yn caniatáu mwy o olau yng nghefn rhif 16. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghylch problemau gorlif
dŵr ehangach ar y stryd yn gyffredinol, ynghyd ag effaith y datblygiad ar
ddraeniau'r ardal. Nodwyd bod y sylwadau a dderbyniwyd gan Dŵr Cymru yn
gofyn am amod i atal llif ychwanegol o ddŵr wyneb i’r system
garthffosiaeth. Nid oedd gan Uned Draenio’r Cyngor wrthwynebiad i’r bwriad. Er
yn cydnabod y pryder, nid oedd unrhyw dystiolaeth gadarn yn amlygu y
byddai’r estyniad yn cael effaith ar y
sefyllfa bresennol nac yn ei waethygu. Yn ddibynnol ar natur y draeniau,
preifat neu yn rhan o’r sustem draenio gyhoeddus, ategwyd y bydd gwarchodaeth
unai drwy’r drefn rheolaeth adeiladau neu reolau Dŵr Cymru ac felly ni
ystyriwyd bod rheswm cynllunio i wrthwynebu’r
bwriad ar sail materion draenio. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, y polisïau a’r
canllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol. Roedd y
Swyddogion yn argymell caniatáu y cais gydag amodau. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol y sylwadau canlynol: ·
Ei bod yn gwrthwynebu’r cais ·
Bod Hafod Planning ar ran deilydd
rhif 16 wedi amlygu dadleuon dros wrthwynebu’r cais ·
Bod tri mater dadleuol dros wrthod - draenio,
mwynderau ac effaith ar gymeriad ·
Cymeriad – byddai’r tŷ yn ymddangos yn wahanol
iawn i bob tŷ arall ac yn creu effaith weledol sylweddol i edrychiad
tŷ pâr. Yr estyniad, ar raddfa anferth ·
Mwynderau
- rhif 16 yn colli golau a’r estyniad yn creu goredrych
sylweddol annioddefol; o ystyried natur topograffi'r ardal bydd y datblygiad yn
gwaethygu’r sefyllfa ·
Bod
patio rhif 16 yn colli golau oherwydd gosodiad sied rhif 14 · Draenio - rhaid ystyried ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C24/0900/39/LL Fferm Fronhyfryd, Bwlchtocyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7EU Cais llawn i gynnal gwelliannau i'r safle i
gynnwys man ddiwygiadau i leoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau a ganiatawyd
yn flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd presennol a gwelliannau amgylcheddol Aelod Lleol: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: CANIATAU gydag
amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio
gyda cynlluniau 3. Cynnal
y datblygiad yn unol ac adroddiad ecolegol 4. Cynnal y datblygiad yn unol a Chynllun Rheolaeth Adeiladu
Amgylcheddol 5. Cynnal
y datblygiad yn unol a chynllun goleuo 6. Cyfyngu
niferoedd carafanau 7. Cyfyngu
cyfnod defnydd y safle 8. Tynnu pob
carafán o’r safle y tu allan i gyfnod defnydd y safle 9. Cyfyngu
storio carafán/cwch/cerbyd tu allan i’r lleiniau ffurfiol 10. Cyfyngu
defnydd y carafanau i ddefnydd gwyliau yn unig 11. Arwyddion
dwyieithog 12. Enw
Cymraeg 13. Deunyddiau. 14. Cynllun
tirlunio 15. Materion
draenio Cofnod: Fferm Fronhyfryd, Bwlchtocyn,
Pwllheli, Gwynedd, LL53 7EU Cais llawn i gynnal gwelliannau i'r safle i gynnwys
man ddiwygiadau i leoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau a ganiatawyd yn
flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd presennol a gwelliannau amgylcheddol Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
yn ymwneud â gwelliannau i safle carafanau teithiol a gwersylla
presennol gan gynnwys diwygio lleoliad a dyluniad adeilad gwasanaethau o'r hyn
a ganiatawyd yn flaenorol ynghyd ac ymestyn lonydd mynediad o fewn y safle a
chynnal gwelliannau amgylcheddol. Ni fydd cynnydd yn niferoedd o garafanau
teithiol ar y safle o'r 24 a ganiatawyd yn flaenorol. Byddai’r carafanau yn
parhau i gael eu lleoli o amgylch ffin y safle gerllaw gwrychoedd presennol
sydd yn amgylchynu'r safle. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
nodwyd bod bwriad cynnal tirlunio ychwanegol drwy blannu coed a gwrychoedd
newydd ar y tir. Adroddwyd na fyddair
bwriad yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y dirwedd sydd o fewn
dynodiad yr AHNE. Yn yr un modd, nodwyd bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli ac o ran lleoliad a maint ni fyddai’n cael
effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol ac felly yn cydymffurfio gyda Polisi
AT1 Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, ystyriwyd
bod dyluniad yr adeilad gwasanaethau yn dderbyniol ac yn gweddu i’r ardal a bod
cynigion gwella bioamrywiaeth yn dderbyniol ac yn unol â pholisïau perthnasol. Cyfeiriwyd at lythyr o wrthwynebiad a
dderbyniwyd yn nodi cynnydd yn y nifer o garafanau tymhorol yn yr ardal leol.
Nodwyd y byddai’r nifer carafanau yn cael ei reoli trwy amodau a phwysleisiwyd
mai cais am welliannau yn unig oedd yma a bod hawl defnydd eisoes yn bodoli. O ystyried y
polisïau a’r canllawiau lleol a chenedlaethol roedd y Swyddogion yn argymell
caniatáu y cais b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Prif
bwrpas y bwriad oedd symud adeilad gwasanaethau i ffwrdd o’r garthffos
gyhoeddus ·
Bod
yr ymgeisydd eisiau gwella’r safle ·
Bod
enw Cymraeg i’r safle a gwybodaeth ddwyieithog ar eu gwefan ynghyd ag arwyddion
dwyieithog o gwmpas y safle ·
Os
caniatáu, gobeithir cyflawni'r gwaith cyn dechrau tymor Haf 2025 c)
Yn
manteisio ar yr hawl i gyflwyno sylwadau, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Nad
oedd ganddo farn bersonol ar y mater ·
Problemau
posib yw bod y ffordd yn gul (traffig), sŵn, a’r hen dip sbwriel. Mewn ymateb i sylw gan yr Uned Trwyddedu bod
angen sicrhau 3m rhwng y carafanau a’r gwrych ac os gellid amodi hyn, nodwyd
nad oedd angen amod, ond bod rhaid i’r ymgeisydd sicrhau cydymffurfiaeth wrth
geisio trwydded. Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD CANIATÁU
gydag amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio
gyda chynlluniau 3. Cynnal
y datblygiad yn unol ag adroddiad ecolegol 4. Cynnal
y datblygiad yn unol â Chynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol 5. Cynnal
y datblygiad yn unol â chynllun goleuo 6. Cyfyngu
niferoedd carafanau 7. Cyfyngu
cyfnod defnydd y safle |
|
Cais Rhif C24/0684/38/LL Glan Y Gors, Llanbedrog, Gwynedd, LL53 7UB Cais ôl weithredol i ail adeiladu
bwthyn gyda estyniadau deulawr ochr ac estyniad unllawr cefn Aelod Lleol: Cynghorydd Angela
Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD yn groes i’r argymhelliad Rhesymau: ·
Gor ddatblygiad ·
Effaith niweidiol
ar y tirwedd / AHNE yn groes i polisi TAI 13. Cofnod: Cais ôl weithredol i ail
adeiladu bwthyn gyda estyniadau deulawr ochr ac estyniad unllawr
cefn a)
Amlygodd Arweinydd
Tîm Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un
ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le. Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Llanbedrog a thu allan i unrhyw
ffin ddatblygu ac wedi ei amgylchu gan goedlan sefydledig eang gyda’r tir yn
codi mewn uchder i gefn ag ochr yr eiddo. Ategwyd bod y safle a’r ardal
ehangach oddi mewn dynodiadau AHNE ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol. Nodwyd nad oedd y bwriad yn golygu
cynnydd yn y nifer o ystafelloedd gwely a bod gwybodaeth a gyflwynwyd gyda’r
cais yn cadarnhau mai bwthyn gwyliau yw defnydd presennol a bwriedig
yr eiddo. O ganlyniad, nid oedd unrhyw newid yn y defnydd. Mynegwyd bod
caniatâd cynllunio wedi ei roi yn 2021 ar gyfer ymestyn yr eiddo gwreiddiol,
ond y cais presennol yn ganlyniad o’r bwriad hynny yn dilyn darganfod nad oedd
y bwthyn gwreiddiol yn addas ar gyfer ei ymestyn. Tynnwyd
sylw at Polisi TAI 13 sy’n ymwneud yn benodol ag ail-adeiladu tai, a’r meini
prawf perthnasol. Nodwyd fod Adroddiad Strwythurol o’r bwthyn gwreiddiol wedi
ei gyflwyno gan beiriannydd cymwysedig yn cyfiawnhau’r gwaith dymchwel oedd ei
angen oherwydd diffygion sylweddol. Yn ogystal, ystyriwyd bod graddfa’r bwriad
yn debyg i’r hyn oedd wedi ei ganiatáu yn flaenorol fel estyniadau i’r bwthyn
gwreiddiol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nid
yw’r safle yn gwbl weladwy o fannau cyhoeddus ac ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o ran ei ddyluniad a gorffeniad. Ni ystyriwyd y byddai yn cael
effaith andwyol ar y tirlun ehangach gan gynnwys yr AHNE na’r Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol chwaith. Saif ymhell o unrhyw eiddo arall ac
ni fyddai’n cael effaith andwyol ar unrhyw drigolion cyfagos. Ni ystyriwyd y
byddai’n cael unrhyw effaith ar ddiogelwch ffyrdd, gan fod lle digonol i droi a
pharcio ar y safle. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth,
nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwelliannau derbyniol fydd yn cael eu sicrhau
drwy amod cynllunio. Yng nghyd-destun materion ieithyddol,
nid yw’r bwriad yn golygu unrhyw newid defnydd ac nid oes cynnydd yn y nifer
ystafelloedd gwely. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n cael unrhyw effaith ar
yr Iaith Gymraeg. Wedi
ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ni ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol ac roedd y swyddogion yn argymell caniatáu’r cais gydag amodau b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr
ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod caniatâd
cynllunio wedi ei ganiatáu yn 2021 gyda gwaith adeiladu wedi dechrau'r Haf
canlynol ·
Yn dilyn glaw
trwm, sylweddolwyd bod y sylfeini yn ddiffygiol ac ansefydlog oedd wedi arwain
at waith ychwanegol ·
Addaswyd y
cynlluniau fel bod modd gwella mynediad a symud lleoliad y gegin i geisio mwy o
olau ·
Bod rhan
ganolig wreiddiol tŷ wedi ei gadw
a’r gwaith carreg wreiddiol wedi ei ddadorchuddio ·
Bod y system
draenio wedi ei adnewyddu – system wedi ei moderneiddio ·
Bod y drws
ffrynt wedi ei adfer · Bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C20/1093/24/LL Tir ger Talardd, Dinas, Caernarfon, LL54 7YN Cais ar gyfer codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu
Aelod Lleol: Cynghorydd Huw Rowlands Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: CANIATÁU
yn ddarostyngedig i’r amodau isod:- 1. 5
mlynedd. 2. Yn unol
â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3. Llechi
naturiol. 4. Samplau o’r
deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL. 5. Amodau
Priffyrdd. 6. Tirlunio
meddal a chaled. 7. Amodau Bioamrywiaeth a Choed gan gynnwys gwelliannau
bioamrywiaeth a chynllun rheoli cynefin 8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00
- 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc. 9. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi
allan y safle. 10. Sicrhau
cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy. 11. Tynnu
hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy. 12. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio
cerbydau’r adeiladwyr. 13. Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn
iddynt gael eu gosod. 14. Amod
mesurau lliniaru archeolegol. 15. Darparu a
diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol 16. Amod
Dŵr Cymru 17. Amodau
Gwarchod y Cyhoedd (Sŵn, Llwch, Niwsans) 18. Cynllun
rheoli Amgylcheddol Adeiladu 19. Manylion paneli PV solar ar doeau’r tai ynghyd a phympiau gwres
ffynhonnell aer 20. Arwyddion
Cymraeg Nodiadau: Dŵr Cymru, Priffyrdd, SUDS Cofnod: Tir Ger Talardd, Dinas,
Caernarfon, LL54 7YN Cais ar gyfer codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn
ydoedd ar gyfer darparu 16 o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o dai, byngalos a
fflatiau fydd hefyd yn darparu mynedfa i gerddwyr i’r briffordd A487, mynedfa
gerbydol o’r safle a llecyn chwarae ffurfiol gyda chyfarpar yng nghanol y
safle. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol o fewn ffin ddatblygu
pentref Dinas, gyferbyn a modurdy a siop cyfarpar gweithgareddau awyr agored,
gyda thai preswyl wedi eu lleoli gyferbyn
ac wrth ei ochr. Ategwyd bod y safle wedi ei ddefnyddio fel compownd
ar gyfer datblygiad tai union drws nesaf, a chyn hynny fel maes parcio
anffurfiol wedi dymchwel bwyty oedd wedi ei leoli yno. Gyda mwyafrif o’r safle wedi ei leoli o fewn
ffin datblygu Dinas ystyriwyd Polisi TAI 4, ond hefyd gyda rhan bychan o’r
safle wedi ei leoli y tu allan i’r ffin ddatblygu ac felly yn destun polisi TAI
16 fel safle eithrio. Nodwyd bod lefel cyflenwad dangosol o dai i Dinas, ynghyd
a’r nifer o unedau sydd wedi eu cwblhau, a’r banc tir yn golygu y byddai’r
pentref yn mynd y tu hwnt i’w lefel twf dangosol, ac felly’n ofynnol cael
cyfiawnhad ar gyfer y bwriad ynghyd a datganiad iaith. Mynegwyd y byddai’r tai yn cael eu rheoli gan
Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Adra sydd yn darparu tai cymunedol i’r
ardal. Nodwyd bod Datganiad Tai Fforddiadwy a Datganiad Cymysgedd Tai wedi eu
cyflwyno gyda’r cais yn nodi fod angen wedi ei brofi ar gyfer tai llai er mwyn
diwallu angen teuluoedd llai. Ystyriwyd, o ran polisi cynllunio, bod y bwriad
yn darparu nifer priodol o dai fforddiadwy a bod cymysgedd briodol o dai wedi
eu cynnig yn unol â’r angen sydd wedi ei adnabod ac wedi ei gadarnhau gan yr Uned
Strategol Tai. Yn ychwanegol, cyfeiriwyd at ffigyrau’r Uned oedd yn cadarnhau
fod diffyg 255 o unedau yn yr haen Pentrefi a Chlystyrau, ac felly o ganlyniad
i hyn, ac i’r angen sydd wedi ei brofi, ystyriwyd fod cyfiawnhad ar gyfer yr
unedau. Adroddwyd
bod yr holl unedau yn cael eu cynnig fel rhai fforddiadwy ac er mwyn rheoli’r
ddarpariaeth fforddiadwy o safbwynt polisi cynllunio, mae bwriad gosod amod
safonol fydd yn gofyn cytuno â’r cynllun darparu’r tai fforddiadwy. Nodwyd bod
Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cadarnhau bod angen unedau
fforddiadwy o fewn Pentrefi i ddarparu ar gyfer yr angen lleol, sef pobl sydd
angen tŷ fforddiadwy ac sydd wedi byw yn y Pentref neu’r ardal wledig
gyfagos am gyfnod di-dor o bum mlynedd neu fwy; y Canllaw hefyd yn cadarnhau
fod ardal wledig gyfagos yn cael ei ddiffinio fel unrhyw Gyngor Cymuned sydd yn
cael ei rhannu gan y pellter o 6km o’r safle datblygiad gan eithrio eiddo o
fewn ffin datblygu unrhyw anheddiad, oni bai am yr anheddiad hwnnw lle mae’r
cais wedi ei leoli. Cyflwynwyd Datganiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |