Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN GADEIRYDD AR GYFER 2026 - 2027

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR WYN OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026-27

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.1

Cais Rhif C25/0949/36/EIA Tir i'r De o'r A487, Glan Dwyfach, Garndolbenmaen, LL51 9PQ pdf eicon PDF 358 KB

Cais ar gyfer darparu is-orsaf newydd ynghyd a seilwaith a gwaith cysylltiol i gynnwys ffordd mynediad newydd o'r A487 ac uwchraddio ffordd mynediad amaethyddol a gosod ceblau tanddaearol 132 kV newydd er mwyn cysylltu gyda'r llinnell Rhwydwaith Trydan presennol uwchben.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman a’r Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i ganiatáu gyda amodau yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan yr Uned Cefnffyrdd, yn unol a’r argymhelliad

 

1.         5 mlynedd

2.         Yn unol â chynlluniau cymeradwy

3.         Amodau llwybr troed

4.         Amodau Gwarchod y Cyhoedd

5.         Amodau bioamrywiaeth

6.         Amodau Cefnffyrdd

7.         Amodau Heneb

8.         Amodau iaith

 

7.2

Cais Rhif C22/0977/36/AC Llecheiddior Uchaf, Bryncir, Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9EZ pdf eicon PDF 308 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 2, 5 a 37 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 31/12/2030 ac adfer y safle erbyn 31/12/2031,  cynyddu allbwn blynyddol o ddeunydd o'r safle i 100,000 tunnell ar gyfradd gyfartalog o 14 llwyth y diwrnod a defnyddio deunydd sydd heb ddeillio o'r gweithgareddau sydd wedi eu caniatáu o fewn cynllun adfer

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Amgylchedd i gymeradwyo'r cais, gydag amodau. Noder nad yw Amod 1 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW, sy'n gofyn i'r datblygiad gychwyn ymhen pum mlynedd, yn berthnasol mwyach gan fod y datblygiad wedi cychwyn eisoes.

 

  1. Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn  31/12/2030. Adfer y safle erbyn 31/12/2031
  2. Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.
  3. Cynnal a chadw’r ffordd fynediad.
  4. Dim mwy na 100,000 tunnell o ddeunydd y flwyddyn yn cael ei waredu o'r safle ar gyfradd gyfartalog o ddim mwy na 14 llwyth y dydd.
  5. Plannu llwyni a choed cyn echdynnu yng Ngham 4.
  6. Cynnal a chadw’r llwyni a'r coed a blannwyd (amod 5).
  7. Rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw; cychwyn datblygiad, baeau pasio, gwaith draenio, strip pridd, gwaredu'r gorlwythiad, echdynnu mwynau, adfer.
  8. Yn unol â'r manylion a'r cynlluniau cymeradwy.
  9. Marcio ffin yr ardal echdynnu.
  10. Adfer ac ôl-ofal yn unol â'r manylion cymeradwy.
  11. Cyfyngiad ar Rannau 19 a 21 y GPDO.
  12. Oriau Gwaith.
  13. Adolygiad ffurfiol blynyddol o weithrediadau.
  14. Cyfyngiadau Sŵn.
  15. Hysbysiad am waith dros dro a allai fod yn uwch na'r cyfyngiadau sŵn.
  16. Monitro sŵn blynyddol.
  17. Gosod larymau bagio sŵn gwyn ar offer symudol a cherbydau.
  18. Yr holl gerbydau, offer a pheiriannau i'w gweithredu yn unol â manylebau'r gweithgynhyrchwr, ac wedi'u ffitio â sgriniau lleihau sŵn priodol, ‘caseworks’, ‘silences’, ac ati.
  19. Rhoi dŵr ar yr ardaloedd lle mae cerbydau'n gyrru drostynt, neu drin yr ardaloedd i atal llwch rhag dianc.
  20. System ddraenio dŵr yn unol â'r cynlluniau cymeradwy.
  21. System ddraenio i gasglu a gwaredu'r holl ddŵr sy'n mynd i mewn i'r safle neu sy'n codi ynddo.
  22. Olew, tanwydd, iraid, paent, sylweddau neu unrhyw gemegolion eraill ar y safle i'w storio mewn ardal wedi'i bwndio'n addas er mwyn atal halogiad.
  23. Arfarniad Effaith Hydrolegol i'w gyflwyno os bydd dŵr daear yn codi.
  24. Cynnal arolwg o'r Rhywogaethau Ymledol a'u trin.
  25. Gwaith yng Nghamau 3 a 4 i'w gynnal yn unol â'r Fanyleb Archeolegol.
  26. Mynediad yn cael ei roi i archeolegwyr i gynnal gwaith lliniaru a chofnodi archeolegol ac adroddiad ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio.
  27. Ni fydd unrhyw offer neu gerbydau yn croesi unrhyw ardal o dir heb ei stripio ac eithrio lle mae traffig o'r fath yn hanfodol neu lle nad oes modd ei osgoi er mwyn ymgymryd â'r gweithrediadau a ganiateir.
  28. Bydd yr holl uwchbridd ac isbridd y deuir ar ei draws yn cael ei gadw yn unol â'r cynigion datblygu sy'n cael eu disgrifio yn y manylion cymeradwy.
  29. Bydd yr holl lystyfiant, uwchbridd ac isbridd sy'n cael ei stripio o bob cam gwaith ac ardaloedd wedi'u heffeithio gan waith echdynnu, ardaloedd storio, gwaith adeiladu, lleiniau caled ac adeiladwaith arall yn cynnwys ffyrdd mynediad a llwybrau cludo cerbydau dros dro, yn cael eu storio yn yr ardaloedd sy'n cael eu clustnodi ar gyfer y diben hwnnw, fydd wedi'u cytuno yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau.
  30. Bydd yr holl uwchbridd ac isbridd sydd wedi'i stripio a'i storio yn unol â'r amod  ...  view the full Penderfyniad text for item 7.2

7.3

Cais Rhif C24/1050/19/LL Cyngor Gwynedd, Ysgol Gynradd Bontnewydd, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2UF pdf eicon PDF 298 KB

Dymchwel adeiladau presennol yr ysgol ac adeiladu ysgol a chanolfan gymunedol newydd ynghyd â'r holl dirlunio allanol, ffordd fynediad a maes parcio. Gosod strwythurau ategol gan gynnwys canopïau sy'n sefyll yn rhydd, llochesi beicio, ardal ysbwriel a thanciau chwistrellu a'r holl offer chwarae allanol yn ôl yr angen i gefnogi adeilad newydd yr ysgol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1. Amser (5 mlynedd)

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol

4. Amodau trafnidiaeth

5. Amodau archeolegol.

6. Amod tirlunio a choed.

7. Amod bioamrywiaeth

8. Amodau cytuno golau allanol o flaen llaw

9. Amodau Gwarchod y Cyhoedd

10. Amodau Dŵr Cymru

11. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru

12. Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu

13. Enw Cymraeg i’r ysgol.

14. Arwyddion Cymraeg

 

Nodiadau

1. Dŵr Cymru

2. Cyfoeth Naturiol Cymru

3. Priffyrdd

4. SUDS

5. Nodyn Cais Mawr