Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw G. Wyn Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Stephen Churchman (sydd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif
C18/1183/08/LL ) oherwydd bod ei ferch yn gweithio ym Mhortmeirion Y Cynghorydd Gruffydd Williams (sydd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif
C18/1183/08/LL) oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: · Y Cynghorydd John
Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.1 ar y
rhaglen (cais cynllunio C19/0027/39/LL) · Y Cynghorydd
Gareth Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.3 ar y
rhaglen (cais cynllunio C19/0988/42/LL) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd Rhagfyr 9fed 2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09
Rhagfyr 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0027/39/LL Tir ger Drws y Llan, Llanengan, Pwllheli, LL53 7LH PDF 140 KB Adeiladu 2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig) AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adeiladu
2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig) Roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle 09-12-19 a)
Ymhelaethodd y Pennaeth
Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais gan
nodi bod y cais wedi ei drafod yn wreiddiol ym Mhwyllgor Cynllunio 01-07-20 lle
argymhellwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhellion y swyddogion, ar sail y
byddai’n diwallu’r angen lleol am dai. Yn dilyn y penderfyniad, nododd y Pennaeth Cynorthwyol ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y
pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach
gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais. Cyflwynwyd
adroddiad pellach ym Mhwyllgor 09-12-19, ond nodwyd ar y ffurflen sylwadau hwyr
bod cais wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ohirio trafod y cais fel bod
cyfle iddynt drafod yr opsiynau a gyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Yn dilyn y
gohiriad, adroddwyd nad oedd sylwadau pellach wedi eu derbyn gan yr ymgeisydd. Tynnwyd sylw at y trafodaethau oedd wedi eu cynnal
rhwng yr ymgeisydd a’r Awdurdod Cynllunio ers Pwyllgor mis Gorffennaf 2019
ynghyd a chadarnhad bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno eglurder ar faterion yn
ymwneud a thystysgrif perchnogaeth,
adroddiad ecolegol / ymlusgiaid a diweddariad o asesiad Tai Teg. Atgoffwyd yr aelodau bod pum rheswm wedi ei nodi dros
wrthod y cais (diffyg angen, lleoliad, maint, gwerth y tai a diffyg arolwg
ymlusgiaid) a chyfeiriwyd at y wybodaeth oedd yn ymateb i’r materion hynny yn
yr adroddiad. Cyfeiriwyd at faen prawf Polisi Tai 6 lle gofynnir am dystiolaeth
bod angen tŷ fforddiadwy ar gyfer yr angen yn lleol. Adroddwyd bod yr ymgeiswyr wedi cael eu hail
hasesu gan Tai Teg i ddarganfod os oeddynt yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Yn
yr achos yma adroddwyd fod 2 gwpl wedi eu hasesu gan Tai Teg (yn unol a’r drefn
arferol) er mwyn asesu os oeddynt yn gymwys am dy fforddiadwy. Yn dilyn yr asesiad gan Tai Teg cadarnhawyd
fod un cwpl yn gymwys am dy fforddiadwy ond nad oedd y cwpl arall yn gymwys am
dy fforddiadwy. Amlygwyd bod prisiad ar gyfer y tai fel rhan o’r cais wedi ei dderbyn gan Beresford Adams yn nodi pris o £325,000 ar y farchnad agored. Ystyriwyd hyn yn isel ac felly ymgynghorwyd gyda’r Prisiwr Dosbarth am ail farn ddiduedd yn unol â gofynion y CCA Tai Fforddiadwy. Roedd y Prisiwr Dosbarth o’r farn bod y tai yn werth £370,000 yr un ar y farchnad agored. Er mwyn sicrhau fod pris y tai yn fforddiadwy (£146,851 - dadansoddiad Uned Strategol Tai) byddai gofyn rhoddi disgownt sylweddol o 60% er cael pris cymharol i’r pris fforddiadwy. Ategwyd bod rhoi disgownt mor uchel yn creu problemau gan nad yw benthycwyr yn fodlon rhoi benthyciad ar y sail yma. Nodwyd hefyd fod yr angen am ddisgownt o 60% oedd yn fwy na’r pris fforddiadwy yn amlygu’r ffaith nad oedd y tai yn fforddiadwy yn lle cyntaf. Cadarnhawyd felly nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol yn polisi TAI 6 o safbwynt angen, lleoliad, maint ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C18/1183/08/LL Maes Parcio, Portmeirion, Penrhyndeudraeth, LL48 6ER PDF 164 KB Cais ar gyfer creu maes gwersylla i leoli hyd at 23 o gerbydau gwersylla yn ogystal â gwneud newidiadau i adeilad gwasanaethu a ganiatawyd o dan C17/0116/08/LL ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer creu
maes gwersylla i leoli hyd at 23 o gerbydau gwersylla yn ogystal â gwneud newidiadau
i adeilad gwasanaethu a ganiatawyd o dan C17/0116/08/LL ynghyd â gwaith
tirlunio cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi bod safle’r
cais wedi ei leoli ar gyrion pentref trawiadol Portmeirion ble mae maes parcio
sefydledig wedi ei leoli. Amlygwyd bod
caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer codi adeilad gwasanaethau cynnal
gerllaw ac roedd y cais gerbron yn golygu gwneud newidiadau i’r datblygiad yma
a’i ymgorffori fel rhan o ddatblygiad y maes gwersylla. Nodwyd bod y safle yn
eang ac yn cynnwys nifer o fathau gwahanol o ddatblygiadau presennol sydd yn
cynnwys adeiladau a llefydd agored, coedwigoedd a strwythurau dyluniadol.
Ategwyd y byddai’n anorfod fod datblygu rhannau o’r safle yn debygol o gael
effaith ar rannau eraill o’r safle gyda’r potensial o gael effaith ar werth y
safle yn ei gyfanrwydd. Mae’r safle o fewn ffin Ardal Gadwraeth ac o fewn ardal
sydd wedi ei ddynodi fel Ardal Tirwedd Arbennig ac Ardal o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Aberglaslyn. Tra bod cefnogaeth glir ar gyfer cynlluniau cyffredinol ar
gyfer gwella, ehangu a chryfhau’r busnes
mae’n hanfodol y byddai unrhyw gynlluniau yn cydymffurfio gyda pholisïau
datblygu lleol a chenedlaethol perthnasol. Tynnwyd
sylw at sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cyfeirio’n benodol tuag at effaith
sŵn ac effaith weledol ychwanegol a fyddai’n deillio o’r datblygiad o
ganlyniad i ddefnydd dwysach o’r safle
o’i gymharu â’i ddefnydd presennol fel maes parcio ar gymydog i’r safle. Nodwyd bod y cymydog wedi awgrymu dulliau o
liniaru’r effeithiau yma drwy dirlunio sylweddol ac addas rhwng ei eiddo a
safle’r cais. Yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd a chytundeb
ynglŷn â’r tirlunio ychwanegol, cadarnhaodd y gwrthwynebydd ei fod yntynnu
ei wrthwynebiad yn ôl. Gan nad oedd yr Awdurdod Cynllunio yn rhan o’r
trafodaethau hyn ac nad oedd yn wybyddus beth oedd y drafodaeth, nid oedd modd
amodi y fath amgylchiadau ac felly eu cydnabod yn unig a wnaed. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant
ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y bwriad yn ddatblygiad fyddai’n hybu twristiaeth ·
Mynedfa troed newydd yn cael ei lunio ·
Wedi cydweithio’n agos gyda’r Awdurdod Cynllunio i
gwrdd â’r angen ·
Bod y safle yn ychwanegu gwerth drwy gynnig ystod eang
o lety ·
Bod Portmeirion yn atyniad ac yn gyflogwr lleol, da c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad dd)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: · Bod yr Aelod
Lleol yn gefnogol i’r cais · Bod
Portmeirion yn creu swyddi da i bobl leol PENDERFYNWYD
caniatáu y cais 1.
5 mlynedd 2.
Unol â’r
cynlluniau, adroddiad coed ac adroddiad ystlumod 3.
Amod Unedau
Gwyliau teithiol 4.
Amod tymhorol
Mawrth-Hydref 5.
Cynllun tirlunio 6.
Cynllunio goleuo 7.
Defnydd yr adeilad
yn unol â’r cynllun llawr 8. Oriau adeiladu 8-6 llun i gwener a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C19/0988/42/LL Bwthyn Bridyn, Lon Bridin, Morfa Nefyn, Pwllheli, LL53 6BY PDF 92 KB Creu balconi a drws mynediad o'r tŷ ynghyd â gosod dau bwmp gwresogi AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu balconi a drws mynediad o'r tŷ
ynghyd â gosod dau bwmp gwresogi Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y bwriad yn ymwneud a
gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ uwchben rhannau to gwastad
presennol a gosod dau bwmp gwresogi i wasanaethu’r eiddo. Eglurwyd bod yr eiddo
yn sefyll cyfochrog a mynediad i draeth Morfa Nefyn ond ar lefel ychydig uwch
na’r traeth, gyda wal derfyn uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. Mae’r safle
tu allan i ddynodiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (ond o
fewn 240m) ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a
phreswyl amlygwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys sgrin soled 1.8m o
uchder fyddai’n lleihau’r potensial o or-edrych drwy ffenestri’r cymydog.
Aseswyd y cais yn erbyn gofynion Polisi PCYFF2 ac nid oedd y swyddogion yn
credu y byddai’r datblygiad yn cael effaith ymwthiol ac andwyol ar fwynderau’r
cymydog ac felly ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn ystyried yr addasiadau fel rhai
sylweddol ·
Bod y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol yn
pryderu am newid i edrychiad a gwedd yr ardal ·
Dim gwrthwynebiad i osod dau bwmp gwresogi cyn
belled eu bod tu mewn i’r safle ·
Ei fod yn gwrthwynebu’r balconi ar sail
gorddatblygiad o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriedig (AHNE), tiroedd o
ddiddordeb ac ardal sensitif ·
Nododd y byddai’r balconi yn hollol amlwg ac
i’w weld o dri cyfeiriad ·
Byddai’r balconi yn amharu ar fwyniant
defnyddwyr y traeth ·
Yr adeilad yn rhan o olygfa eiconig - yn cael ei
gynnwys ar gardiau sydd yn hyrwyddo’r ardal - angen cadw'r olygfa fel y mae ·
Bod oddeutu 25 o fythynnod cyfochrog / agos heb
falconi. Angen cadw at hyn a pheidio anharddu’r olygfa drawiadol. ·
Ei fod yn annog y Pwyllgor i wrthod gosod
balconi c) Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais i osod balconi ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod y balconi wedi ei wrthod mewn cais cynllunio
blaenorol ·
Buasai gosod balconi yn amharu ar heddwch y
traeth a mwynderau gweledol ·
Buasai’r balconi yn amharu ar y golygfeydd i mewn ac allan o’r
Ardal O Harddwch Naturiol Eithriadol ·
Y safle yn eiconig ·
Yr adeiladau yn rhai hanesyddol ·
Cymeradwyo’r cais i osod dau bwmp gwresogi i
wasanaethu’r eiddo d) Mewn
ymateb i sylw bod y Pwyllgor wedi gwrthod y balconi mewn cais cynllunio a
drafodwyd yn flaenorol (02-09-19) atgoffwyd yr Aelodau, yn dilyn trafodaethau
gyda’r asiant cyn y Pwyllgor hwnnw, bod yr elfen balconi ar flaen yr eiddo wedi
ei ddiddymu o’r cais. PENDERFYNWYD gwrthod y cais i osod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ gan y byddai yn creu newidiadau annerbyniol eu hymddangosiad gan gael effaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C19/0443/11/CR 196-200, Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NU PDF 87 KB Addasiadau mewnol ac allanol i drosi rhan cefn o'r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasiadau mewnol ac allanol i drosi rhan
cefn o'r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais gan nodi bod y cais hwn a Chais Rhif C19/0444/1/LL (5.5) yn gysylltiedig.
Eglurwyd mai cais am ganiatâd adeilad rhestredig oedd yn delio gyda’r materion
rhestredig yn unig oedd y cais dan sylw a bod Cais Rhif C19/0444/1/LL yn gais
llawn oedd yn delio gydag egwyddor y datblygiad. Esboniwyd bod
yr adeilad yn un eithaf modern heb unrhyw nodweddion cadwraethol o werth yn ei
hun ond ei fod wedi ei restru yn adeilad rhestredig oherwydd ei gysylltiad i
ran flaen yr adeilad sydd ar y stryd fawr. Nodwyd nad oedd unrhyw
wrthwynebiadau i’r cais ar sail yr ystyriaethau perthnasol. Pwysleisiwyd mai’r
argymhelliad oedd caniatáu’r cais yn dilyn ymateb ffafriol gan Cadw. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig
i dderbyn sylwadau ffafriol gan CADW ac
i amodau perthnasol yn ymwneud gyda: 1. 5 mlynedd 2. Yn unol â’r
cynlluniau/deunyddiau allanol i’w cytuno 3. Ffenestri
pren newydd o wneuthuriad pren wedi eu paentio |
|
Cais Rhif C19/0444/11/LL 196-200, Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NU PDF 127 KB Trosi a newid defnydd rhan cefn o'r cyn siop Debehams yn 6 uned byw (5 x 1 ystafell wely ac 1 x 2 ystafell wely) AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi a newid
defnydd rhan cefn o'r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw (5 x 1 ystafell wely ac
1 x 2 ystafell wely) a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais gan nodi mai cais llawn ydoedd yn
gysylltiedig â’r cais rhestredig blaenorol (5.4), ar gyfer newid defnydd
rhan cefn o’r adeilad a arferai fod yn safle Debenhams yn 6 uned byw
hunangynhaliol ynghyd a man addasiadau i’r adeilad. Nodwyd bod bwriad y cais yn
dderbyniol mewn egwyddor ar sail y mwynderau a’r polisïau perthnasol i gyd. Nodwyd fel rhan
o’r cais, ac yn unol â Pholisi TAI 15, cyflwynwyd adroddiad prisiad marchnad
agored ar gyfer yr unedau yn seiliedig ar ofynion y Llyfr Coch 2017. Mae’r
adroddiad prisiad marchnad agored yn datgan bod pris marchnad agored yr holl
unedau yn is na lefel fforddiadwy’r ardal ac felly mae’r unedau i gyd yn disgyn
o dan ddiffiniad fforddiadwy. Mae’r prisiad yma yn
seiliedig ar leoliad, maint a math yr unedau a fwriedir eu darparu sydd yn
cydymffurfio a’r polisïau perthnasol. b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ohirio’r penderfyniad am y rhesymau canlynol: · Ystyried amod
fel bod rhaid i un o’r fflatiau fod ar gael ar lefel rhent fforddiadwy os ydynt
yn cael eu gosod yn y dyfodol. · Bod
angen derbyn asesiad rhent cyn gwneud penderfyniad c) Mewn
ymateb i’r cynnig, eglurodd y swyddogion nad oedd yr adroddiad presennol yn
cynnwys asesiad rhent fyddai’n esbonio beth yw pris rhent fforddiadwy a phris
rhent y farchnad. Awgrymwyd mai anodd fyddai cyfiawnhau gosod yr amod cyn cael
y wybodaeth yma. ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau: · Derbyn bod pris
y fflatiau yn fforddiadwy, ond angen sicrhau bod rhaid i un o’r fflatiau fod ar
gael ar lefel rhent fforddiadwy os ydynt yn cael eu gosod yn y dyfodol. d) Mewn
ymateb i’r sylw, eglurodd y Cyfreithiwr gan nad oedd asesiad rhent fforddiadwy
wedi ei gynnwys yn yr adroddiad presennol byddai’n awgrymu gohirio’r
penderfyniad er mwyn derbyn yr asesiad gan y Gwasanaeth Tai PENDERFYNWYD
gohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol am bris rhent yr
unedau ac asesiad diwygiedig i gyfarch hyn. |
|
Cais Rhif C19/0995/11/LL 233-235, Stryd Fawr, Bangor, LL57 1PA PDF 108 KB Diddynu amod rhif 3 o ganiatad cynllinio C19/0323/11LL sy'n cyfynu 2 uned allan o'r 8 i fod yn unedau fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diddymu amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio
C19/0323/11LL sy'n cyfyngu 2 uned allan o'r 8 i fod yn unedau fforddiadwy Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i
ddiddymu amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio C19/0323/11/LL sy'n cyfyngu 2 uned
allan o'r 8 uned a ganiatawyd i fod yn unedau fforddiadwy. Roedd yr amod yn
datgan:- ‘Ni fydd y
datblygiad yn dechrau hyd nes y bydd cynllun ar gyfer darparu'r 2 uned
fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad wedi’i gyflwyno i, a’i gymeradwyo’n
ysgrifenedig gan, yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd yr unedau fforddiadwy yn
cael eu darparu yn unol â’r cynllun a gymeradwyir a bydd yn bodloni’r diffiniad
ar gyfer tai fforddiadwy yn Atodiad B Nodyn Cyngor Technegol 2 Polisi Cynllunio
Cymru: Cynllunio a Thai Fforddiadwy, neu unrhyw ganllawiau yn y dyfodol sy’n
cymryd lle hynny. Bydd y cynllun yn cynnwys: i)
amseriad
cwblhau'r 2 uned fforddiadwy; ii)
y trefniadau ar
gyfer rheoli’r unedau fforddiadwy; iii)
y trefniadau ar
gyfer sicrhau bod y ddarpariaeth yn fforddiadwy ar gyfer meddianwyr cyntaf a
dilynol yr unedau fforddiadwy; ac iv)
y meini prawf
meddiannaeth i’w defnyddio ar gyfer pennu meddianwyr yr unedau fforddiadwy a’r
dulliau ar gyfer gorfodi meini prawf meddiannaeth o’r fath.’ Rhoddwyd yr amod
gan nad oedd gwybodaeth glir a phendant wedi ei gyflwyno (yn benodol prisiad
marchnad agored) fel rhan o’r cais blaenorol am y ddarpariaeth fforddiadwy. Er hynny,
ystyriwyd bod digon o wybodaeth i sicrhau bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn
gallu asesu'r cais o safbwynt sicrhau darpariaeth/nifer briodol o dai
fforddiadwy fel rhan o’r cais ac er mwyn cyfarch yr angen. Eglurwyd bod y
safle wedi ei leoli ar Stryd Fawr Bangor a’r caniatâd cynllunio cysylltiedig
oedd cais rhif C19/0323/11/LL. Y bwriad yw addasu'r llawr cyntaf a'r ail lawr
o'r adeilad i unedau preswyl. Caniataodd y Pwyllgor y cais hwn yng Ngorffennaf,
2019 Adroddwyd bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth oedd yn cynnwys profforma asesiad hyfywdra,
Adroddiad Prisiad Eiddo gan gwmni Syrfewyr Siartredig cymwysedig ynghyd ac
amcan brisiau ymgymryd â'r gwaith addasu. Dadleuir am hyfywedd y bwriad ac yn
allweddol mae gwybodaeth am y pris marchnad agored ar gyfer yr unedau wedi ei gyflwyno. Nodwyd mai’r drefn arferol fyddai cyflwyno'r
math yma o wybodaeth gyda’r cais am y trosiad neu’r adeiladu ac mae hyn yn
derbyn ystyriaeth yn fuan yn y broses.
Er hynny, ni fu i’r ymgeisydd ar y cais cyntaf weithredu yn y ffordd yma
ond yn hytrach datgan eu bod yn derbyn amod er mwyn ystyried hyn wedi i’r
caniatâd cynllunio gael ei roi. Cyflwynwyd hefyd asesiad o werth yr unedau gan gwmni Syrfewyr Siartredig sydd wedi ei selio ar ofynion y Llyfr Coch (2017). Adroddwyd y byddai gwerth marchnad agored yr unedau yn amrywio o £45,000 i £60,000 – y pris wedi ei gyfyngu'n naturiol oherwydd natur a graddfa'r safle a maint yr unedau eu hunain. Ategwyd bod Uned Strategol Tai y Cyngor hefyd wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |