Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Gareth A. Roberts fuddiant personol, yn eitem 6.6
ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0224/11/LL), oherwydd mai ei fam oedd yr
ymgeisydd. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant
personol, yn eitem 6.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0014/19/LL),
oherwydd bod perthynas agos iddo yn byw gyferbyn â’r safle. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Peter
Garlick, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 6.1, 6.3 a
6.5 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C16/1412/19/LL, C19/0014/19/LL a
C19/0169/19/AM); ·
Y Cynghorydd Edgar Wyn
Owen, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0993/26/LL); ·
Y Cynghorydd Elin Walker
Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.6 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C19/0224/11/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019, fel rhai cywir yn
ddarostyngedig i ychwanegu pwynt bwled o dan rhan (c) ‘Cais Rhif C18/1198/45/AM
– Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli’ ar dudalen 8 y rhaglen yn nodi: ·
Bod damwain wedi bod ar y lôn. Mewn ymateb i sylw gan aelod bod aelod lleol
‘Cais Rhif C18/1198/45/AM – Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli’ wedi tynnu ei sylw
bod llawer o drigolion wedi datgan nad oeddent wedi eu hysbysu parthed y cais,
nododd yr Uwch Gyfreithiwr nad oedd yn berthnasol i’r cofnodion ond ei fod yn
fater y gallai’r Gwasanaeth Cynllunio edrych i mewn iddo. |
|
I gyflwyno
adroddiad y Pennaeth Adran Amgylchedd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Louise Hughes Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Pennaeth Adran yr Amgylchedd yn deillio o gais i gofrestru llwybr
cyhoeddus yng Nghymuned Arthog ar Fap Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Ymhelaethwyd ar
gefndir y cais, nodwyd bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018, wedi
penderfynu: “Caniatáu’r cais i ychwanegu llwybr cyhoeddus i Fap
a Datganiad Swyddogol y Cyngor fel y dengys gan A-B ar y cynllun a ddarperir yn
Atodiad 1 i’r adroddiad yn seiliedig ar y rhesymau canlynol: ·
Bod defnydd ar droed wedi digwydd dros gyfnod o ugain mlynedd
rhwng 1942 hyd 1962;ac ·
Nad oedd yr arwyddion am y cyfnod hynny, o’r tystiolaeth a gyflwynwyd,
yn ddigon (gyfreithiol) effeithiol i atal y rhagdybiaeth godi bod y briffordd
wedi cael ei neilltuo dan adran 31(1) Deddf Priffyrdd 1980, ac ·
Yn benodol bod yr arwydd “Private Road” a welir yn y lluniau yn yr
adroddiad wedi ei gyfeirio at gerbydau yn unig, ac nid oedd yna fwriad i atal
cerddwyr rhag defnyddio’r llain.” Eglurwyd bod y
llwybr yn ei gyfanrwydd wedi ei ddangos ar y cynllun yn Atodiad 1 i’r adroddiad
fel A-B-C, roedd penderfyniad y Pwyllgor ar 25 Mehefin 2018 yn awdurdodi
defnyddio gorchymyn i gofrestru rhan A-B. Gofynnwyd i’r Pwyllgor benderfynu pe
dylid cofrestru’r llwybr a ddengys rhwng B a C ar y cynllun neu beidio. Nodwyd
pe byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais i gofrestru rhan B-C, yna yn unol â
phenderfyniad blaenorol y Pwyllgor, byddai gorchymyn yn cael ei lunio i
gofrestru'r llwybr a ddengys fel A-B-C ar gynllun Atodiad 1. Nodwyd bod
tystiolaeth o ddefnydd o’r llwybr rhwng B a C wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a
atgoffwyd yr aelodau bod angen tystiolaeth o ddefnydd dros gyfnod o ugain
mlynedd. Tynnwyd sylw bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin 2018 wedi
penderfynu mai’r cyfnod a oedd yn berthnasol o ran rhan A-B oedd rhwng 1942 a
1962. Ymhelaethwyd bod
y rhan rhwng B a C yn dilyn llwybr yr hen dramffordd o Abermaw i Mawddach
Crescent a’i fod yn werth nodi bod cryn newid yng nghyflwr y rhan yma a’i fod
yn ddibynnol ar y llanw pe gellir cerdded ar ran ohono. Ychwanegwyd bod
tystiolaeth a sail gref bod pobl wedi defnyddio’r llwybr ar ran B i C dros
gyfnod o amser. Rhoddwyd
arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr, nododd bod y Pwyllgor wedi caniatáu’r cais i
gofrestru’r llwybr rhwng A a B fel llwybr cyhoeddus yn seiliedig ar y
dystiolaeth o ddefnydd. Atgoffodd yr aelodau yn wahanol i’r llwybr rhwng A a B
nid oedd unrhyw arwyddion ar y llwybr rhwng B a C. Nododd bod yr un math o
dystiolaeth o ddefnydd ar y llwybr rhwng B a C a’r llwybr rhwng A a B. Nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi bod yn broses hir, cyflwynwyd y cais i gofrestru’r llwybr yn Awst 2014. Ymhelaethodd bod defnydd hanesyddol o’r llwybr ers cyn bodolaeth Mawddach Crescent. Eglurodd ei bod yn adnabod Mrs Roberts, cyn perchennog Fegla Bach, ac mai’r unig wrthwynebiad oedd ganddi oedd i bobl gerdded ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/1412/19/LL - Tŷ Glan Menai, Ffordd Yr Aber, Caernarfon PDF 185 KB Dymchwel tŷ presennol ac
adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a
newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy
presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter
Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft
(3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa
bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd
atodol i'r gwesty arfaethedig. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd
y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 er mwyn
derbyn mwy o wybodaeth am bryderon llifogydd a hygyrchedd i’r safle yn ogystal
â materion yn ymwneud â: ·
Cynllun Rheoli Arfordir. ·
Perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r
ffordd sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber). ·
Ymateb y Gwasanaeth Tan
i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed perygl o lifogydd ar hyd y ffordd
sy’n gwasanaethu’r safle. ·
Tebygolrwydd rhwng y cais yma a chais ar gyfer
codi tai newydd yn y Felinheli. ·
Goblygiadau ôl-troed
carbon y datblygiad. Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd
bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol a oedd
yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng
nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen a safle a oedd
yn hygyrch i fathau gwahanol o gymudo. Cyfeiriwyd at bryderon yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol o
ran materion llifogydd, cadarnhawyd nad oedd y safle o fewn unrhyw barth
llifogydd a bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer defnydd fel gwesty yn
dderbyniol. O safbwynt materion mynediad, nodwyd bod safle’r cais a’r ffordd o
flaen y safle yn hollol glir o unrhyw bryderon llifogydd C2. Cadarnhawyd yn
unol â’r gofyn fe ymgynghorwyd â’r gwasanaethau brys ac mewn ymateb i bryderon
y Pwyllgor, anfonwyd e-bost manwl i’r gwasanaethau brys (yn lle ymgynghoriad
safonol) i esbonio’r sefyllfa ac i fynegi pryderon y Pwyllgor. Adroddwyd y
derbyniwyd ymateb gan y Gwasanaeth Tân yn nodi eu bod yn fodlon gyda’r
sefyllfa. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Llifogi pan fo
rhannau o’r ffordd a oedd yn gwasanaethu safle’r cais yn destun llifogydd
llanwol, bod y dŵr yn dueddol o fod yn fas iawn a bod y ffordd yn hygyrch
ar droed ac mewn car gyda gofal. Eglurwyd bod y lôn yn cael ei chau ar rai
adegau i sicrhau diogelwch a hefyd i glirio gwymon, cerrig man ayyb oddi ar y
lôn, ac am gyfnod byr byddai’r ffordd yn cael ei chau os yn angenrheidiol.
Nodwyd pe byddai digwyddiad eithriadol a’r lon yn llifogi byddai’r gwesty a’r
bobl sydd yno yn ddiogel o fewn y safle ac ni fyddai unrhyw risg i’r safle na’r
adeilad ac mai’r unig beth a allai gael ei atal oedd mynediad i’r safle ar hyd
y ffordd. Ymhelaethwyd bod llifogydd o’r math yma yn eithaf hawdd i’w rhagweld
a’u hamseru ac oherwydd hyn bod modd rhybuddio staff a gwesteion ymlaen llaw.
Ystyriwyd y gellir rheoli’r sefyllfa mewn modd derbyniol heb achosi baich
ychwanegol ar y gwasanaethau brys. Nodwyd yng nghyd-destun cynnwys Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd ac ymateb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.1 |
|
Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon PDF 131 KB Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Edgar Wyn Owen Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio
C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5
mlynedd ychwanegol. (a) Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn
gan yr Uned Iaith, gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais i gyfarfod 20 Mai 2019
er mwyn rhoi cyfle i’r swyddogion cynllunio rhoi ystyriaeth i’r sylwadau ac
ymdrin â hwy. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C19/0014/19/LL - Tir ger Lôn Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd â thirlunio, parcio, creu
mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Bontnewydd ac
wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld
â’r safle cyn y cyfarfod er mwyn gweld y safle a’i gyffiniau. Eglurwyd bod caniatâd ‘byw’ ar gyfer 26 o dai ar y safle yn
bodoli. Tynnwyd sylw y paratowyd yr adroddiad cyn mabwysiadu’r Canllaw
Cynllunio Atodol yn ymwneud â Thai Fforddiadwy ar 15 Ebrill 2019. Nodwyd bod y
datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd bod y safle wedi ei ddynodi yn
y Cynllun Datblygu Lleol yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl. Amlygwyd mai’r
newid amlycaf o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol, oedd bod y fynedfa wedi ei
ail-leoli o’r lôn fach gul a oedd yn mynd fyny ochr y safle i flaen y safle ac
o ganlyniad roedd newid yng ngosodiad y tai o fewn y safle, er hynny, roedd
tebygrwydd yn parhau rhwng y ddau gynllun. Cydnabuwyd bod newid o’r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ond
mai’r hyn oedd angen ei ystyried oedd faint o gynnydd niweidiol fyddai, os o
gwbl, ar drigolion lleol a chyfochrog. Cyfeiriwyd at blotiau 14 i 17 a oedd
wedi eu lleoli ar ran uchaf y safle. Nodwyd bod asesiad llawn o blotiau 15 i 17
yn dod i’r casgliad eu bod yn gallu bod yn dderbyniol ar sail ardrawiad ar
eiddo cyfagos a hynny yn benodol o ran lleoliad a phellter oddi wrth y ffin
gyda’r tŷ presennol cyfagos. Nodwyd yr aseswyd yn benodol os oedd gor-edrych annerbyniol yn debygol o ddeillio o leoli’r 4
tŷ ar y rhan yma o’r safle. Eglurwyd y canolbwyntiwyd ar blot 14 oherwydd
y pryder o edrych i mewn i ran breifat o ardd y tŷ cyfochrog. Nodwyd bod y
datblygwr wedi newid lleoliad gwreiddiol y tŷ dan sylw a’i symud ymlaen
fel ei fod 12.5 medr i ffwrdd o’r ffin ynghyd a rhoi ffenestr o siâp eithaf
anghyffredin er mwyn osgoi gor-edrych yn ogystal â
symud ffenestri eraill. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys ymateb perchennog yr eiddo cyfochrog (Tywyn) i’r diwygiadau. Nodwyd bod y swyddogion o’r farn bod y diwygiadau yn gwneud
y sefyllfa yn dderbyniol ac na fyddai yna unrhyw or-edrych annerbyniol, byddai
unrhyw or-edrych ar draws rhan gwaelod yr ardd ac felly dim dros unrhyw ran
breifat. Amlygwyd bod perchennog yr eiddo cyfagos yn mynegi pryder o
ran y ddau dŷ canol a ffenestri llawr cyntaf y tai a’r effaith ar hyd ochr
ei dŷ lle’r oedd ffenestr stydi a ffenestr ochr ystafell fyw, ni ystyriwyd
eu bod yn brif ystafelloedd ac mai’r ardd gefn oedd y man mwyaf preifat o’r eiddo
cyfochrog ac na fyddai unrhyw or-edrych yn annerbyniol, er hynny rhaid nodi bod
pryderon y cymydog yn parhau. Cyfeiriwyd at y pryder mawr yn lleol am effaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.3 |
|
Cais Rhif C19/0009/11/LL - 358-360, Stryd Fawr, Bangor PDF 123 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd
yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned
manwerthu ynghyd â 8 fflat hunan cynhaliol
a gosod agoriadau newydd (cais diwygiedig
i'r hyn a ganiatawyd o dan rhif C18/0116/11/LL). (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais
ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned manwerthu ar y
llawr daear ynghyd â 3 uned breswyl hunangynhaliol y tu cefn iddynt, 4 uned
hunangynhaliol ar y llawr cyntaf gydag un uned hunangynhaliol ar yr ail lawr.
Byddai’r bwriad yn golygu darparu 5 uned un ystafell wely ynghyd â 3 uned 2
ystafell wely. Nodwyd
bod y safle o fewn ffin datblygu canolfan isranbarthol Bangor. Eglurwyd bod
Polisi TAI9 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu isrannu eiddo presennol i
fflatiau hunangynhaliol cyn belled ei fod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf
perthnasol, cadarnhawyd bod y cais yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. Tynnwyd
sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan gwrthodir cynigion
os ydynt yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau
meddianwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall oherwydd mwy o
weithgareddau, aflonyddwch, sŵn ac yn y blaen. O ran aflonyddwch sŵn,
credir byddai defnydd preswyl a masnachol (siopau) yn cael llai o effaith ar
fwynderau preswyl a chyffredinol preswylwyr cyfagos na’r defnydd cyfreithiol yr
eiddo fel clwb nos. Nodwyd
bod Polisi TAI15 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio sicrhau darpariaeth
briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun a’r trothwy ar gyfer tai
fforddiadwy ym Mangor oedd 20%. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi ymateb
i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd parthed prisiad rhentu a
phrisiau gwerthu'r fflatiau arfaethedig, a oedd yn datgan er bod lefelau rhentu
ar gyfer y fflatiau rhywfaint yn uwch na’r raddfa isaf nid oedd hyn yn creu
unrhyw bryder gan fyddai’r fflatiau yn parhau i fod o fewn cyrraedd nifer
helaeth o’r boblogaeth leol. Parthed
gwerthu’r unedau, a chymharu prisiau fflatiau cyffelyb ym Mangor a werthwyd yn
ddiweddar, roedd y prisiau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn llawer is a thybir
bod y prisiau isel hyn yn debygol o adlewyrchu maint, lleoliad, safon a
nodweddion perchnogaeth y fflatiau eu hunain. Nodwyd, o ganlyniad nid oedd
cyfiawnhad cyfyngu 2 o’r fflatiau i fod yn fforddiadwy trwy gytundeb 106 na
gofyn am gyfraniad ariannol fel rhan o’r cais. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Ei fod yn ymddangos bod
ymgeiswyr yn datgan y byddai unedau yn fforddiadwy beth bynnag er mwyn osgoi
cyflenwi unedau fforddiadwy. Roedd angen cau’r bwlch yn y polisi cenedlaethol; · Yn croesawu’r datblygiad ar safle a oedd yn wag ers blynyddoedd. Pryder y byddai’r fflat llawr gwaelod yn dywyll oherwydd nad oedd ffenestri ar flaen yr adeilad. Unedau i’w gweld yn cael eu gwasgu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.4 |
|
Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd, Caernarfon PDF 102 KB Cais amlinellol
ar gyfer codi annedd menter
wledig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle Gypsy Wood yn gweithredu fel atyniad parc teuluol. Eglurwyd
bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref
Bontnewydd, roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored yn nhermau’r Cynllun
Datblygu Lleol. Yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen
cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod
Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan mai dim ond datblygiadau tai a
oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT)
6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu
yng nghefn gwlad agored. Tynnwyd
sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle
gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad
agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu
man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen hanfodol am lety yn
dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac
amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ychwanegwyd y dylid asesu ceisiadau am
ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau mentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau
y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad
newydd yng nghefn gwlad agored. Eglurwyd,
o’r wybodaeth a gyflwynwyd datgenir fod yr ymgeisydd wedi ymgymryd mewn
partneriaeth 50% gyda Mr a Mrs Evans, perchnogion y tir. Nodwyd oherwydd bod Mr
a Mrs Evans yn parhau gyda 50% o’r busnes; yn berchen ar y tir ble leolir y
busnes ac yn byw ar y safle; ystyriwyd fod unrhyw angen swyddogaethol, sef yr
angen i weithiwr llawn amser fodoli ar y safle drwy’r adeg i ddelio gyda
sefyllfaoedd annisgwyl neu unrhyw argyfwng, wedi ei ddiwallu gan yr eiddo
presennol. Tynnwyd sylw nad oedd yr NCT yn caniatáu ail-dŷ ar safle menter
gwledig ac felly ystyriwyd fod gofynion swyddogaethol y fenter wledig wedi ei
ddiwallu yn gyfan gwbl gyda’r ddarpariaeth bresennol. Argymhellwyd
i’r Pwyllgor wrthod y cais oherwydd bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn
gwlad agored o safbwynt polisi cynllunio a bod unrhyw angen swyddogaethol a
oedd yn bodoli gyda’r busnes ar y safle wedi ei ddiwallu’n barod a byddai codi
annedd ychwanegol ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS 17 o’r
Cynllun Datblygu Lleol. Adroddwyd
y derbyniwyd llythyr hwyr gan gyfreithiwr perchennog y tir a oedd yn nodi bod
perchnogion y tir am gytuno les gyda’r ymgeisydd am y safle yn ei gyfanrwydd.
Nodwyd na welwyd diben mewn gohirio’r cais oherwydd gallai trefniant o’r fath
gymryd amser i ddod yn weithredol a byddai angen ail-asesu’r cais yng
nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol 6. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:- · Bod yr ymgeisydd wedi datblygu’r safle yn sylweddol yn y 2 flynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.5 |
|
Cais Rhif C19/0224/11/LL - 23, Ffordd Belmont, Bangor PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol am gael dymchwel cegin ac ystafell wydr is-safonol y
tu ôl i'r eiddo, ac adeiladu estyniad un llawr ar gefn yr adeilad. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi y cyflwynwyd y cais yn dilyn camau gweithredu gan yr Uned
Gorfodaeth o ganlyniad i dderbyn cwyn ynghylch y datblygiad. Eglurwyd y
cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i
Aelod Lleol. Nodwyd yr ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad yn
dderbyniol mewn egwyddor. Adroddwyd bod preswylwyr Rhif 25 wedi gwrthwynebu'r
cais oherwydd pryderon yn ymwneud â cholli goleuni a gor-edrych
ar eu heiddo o ganlyniad i ffenestr ochr yr estyniad. Eglurwyd bod y pryderon ynglŷn â'r ffenestr ochr wedi
ei drafod â'r ymgeisydd cyn ac ers cyflwyno'r cais. Nodwyd er bod yr ymgeisydd
wedi cynnig datrysiad, sef gosod gwydr cymylog a bleind parhaol, roedd y
swyddogion o'r farn na fyddai’n ddatrysiad boddhaol gan y byddai canfyddiad o
or-edrych yr un fath. Ni ystyriwyd y byddai'n briodol gosod amod cynllunio er
mwyn mynnu bod y ffenestr yn cael ei chuddio â gwydr cymylog a bleind gan nad
oedd yn debygol o fod yn bosib gorfodi'r amod. Adroddwyd y gofynnwyd i’r ymgeisydd ar sawl achlysur i
flocio’r ffenestr yn barhaol ond bod yr ymgeisydd yn amharod i wneud hyn ac
felly byddai’n amhriodol i osod amod i’r perwyl hyn, argymhellwyd mai’r unig
ffordd i gael datrysiad i’r sefyllfa byddai i wrthod y cais oherwydd effaith
andwyol y ffenestr ar breifatrwydd y tŷ cyfochrog. (b) Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y gwrthwynebydd ddim
wedi byw yn yr eiddo ac yn rhentu ei dŷ allan; ·
Bod yr estyniad yn
galluogi ei fam a oedd yn anabl i fyw gartref; ·
Bod ei fam wedi derbyn
cyngor gan adeiladwr nad oedd angen am ganiatâd cynllunio a bod y ffenestr ar
ochr yr estyniad yn dderbyniol; ·
Bod ei fam wedi derbyn
llythyr gan yr Uned Gorfodaeth yn nodi bod angen tynnu’r ffenestr a’r angen i
dderbyn caniatâd cynllunio. Bod ei fam yn poeni am y sefyllfa a'i fod yn cael
effaith ar ei hiechyd; ·
Yn fodlon gosod gwydr
cymylog a bleind parhaol ar y ffenestr yn ogystal ag adfer y ffens wreiddiol; ·
Gobeithio y gellir dod
â’r mater i ben mor gynted â phosibl. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Fe fyddai’n drueni
gwrthod y cais oherwydd sefyllfa’r ymgeisydd; ·
Deall pryder y
swyddogion a ni fyddai’n bosib i’r eiddo cyfagos godi estyniad oherwydd
lleoliad y ffenestr; ·
Dylid gofyn i’r
ymgeisydd flocio’r ffenestr ochr felly ni fyddai’r estyniad yn amharu ar
breifatrwydd cymdogion. (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod yr ymgeisydd wedi
gwrthod blocio’r ffenestr ar sawl achlysur; ·
Dylid ystyried gofyn i’r
ymgeisydd flocio’r ffenestr unwaith yn rhagor cyn gwrthod y cais; · Byddai gwrthod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.6 |