Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorwyr Stephen Churchman a Louise Hughes, |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Gareth Thomas (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 a 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0244/08/LL) Y Cynghorydd Annwen Daniels (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2, 5.3 a 5.4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C20/0066/03/AC, C20/0067/03/AC a C20/0079/03/AC |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Orffennaf 2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadarnhawyd bod y cofnod yn gofnod
priodol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr
2il o Orffennaf 2020. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor 3) Compownd selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys ceblau trydan a chael gwared ar 10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd Mae'r cais yn croesi'r ffin rhwng Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ac felly efallai y byddwch yn derbyn ymgynghoriad gan y ddau awdurdod mewn perthynas â'r datblygiad sydd wedi'i leoli o fewn ei ffiniau. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol â’r cynlluniau a’r asesiadau a gyflwynwyd fel rhan
o’r cais 3. Lliw ffens 3. Priffyrdd 4. Cefnffyrdd 5. Amodau CNC 6. Dŵr Cymru 7. Oriau gwaith – ac amodau eraill Gwarchod y Cyhoedd 8. Bioamrywiaeth 9. Archeolegol 10. CEMP 11. Cynllun rheoli tirweddu a monitro Nodiadau Priffyrdd Dŵr Cymru Dylai'r holl weithrediadau sy'n cynnwys gwaredu, trin neu adfer deilliannau twnnel gael eu cyflawni yn unol â hierarchaeth gwastraff ac amcanion y cynllun rheoli gwastraff amlinellol. Cysylltwch â Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu statws cynllunio unrhyw gyfleuster rheoli gwastraff neu safle arall a nodwyd ar gyfer derbyn, trin neu waredu unrhyw ddeilliant gwastraff. Cofnod: Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod
Cynllunio Lleol Cyngor
Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel
y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol. Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod
Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd
adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor: 3) Compownd
selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol
Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben. Nid oes angen
caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer
y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi
adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys
ceblau trydan a chael gwared ar
10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
yn ymwneud a phrosiect sydd, ers rhai blynyddoedd
bellach, wedi cynnwys mewnbwn sylweddol gan swyddogion
y Cyngor a rhanddeiliaid i’r prosiect a gyfeiriwyd ato fel Prosiect Darpariaeth
Effaith Weledol (VIP). Adroddwyd bod y cynllun yn cael ei
arwain gan y Grid Cenedlaethol sydd wedi ymgynghori’n helaeth gyda’r gymuned leol. Pwrpas y cynllun yw lliniaru’r effaith
weledol mae seilwaith trydan presennol yn ei
gael mewn tirwedd warchodedig o gwmpas y Ddwyryd drwy dynnu peilonau
trydan i lawr rhwng Minffordd
a Chilfor a thanddaearu’r gwifrau trydan am bellter o 3.5 km. Ategwyd bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno
i Awdurdod Cynllunio Cyngor Gwynedd ac i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn
galluogi i’r ddau awdurdod wneud
penderfyniadau ar y cais sydd yn
berthnasol i’w hardaloedd. Tynnwyd sylw at
baragraffau 1.17 - 1.23 yn yr adroddiad sydd yn rhoi disgrifiad bras o’r
datblygiadau sydd yn destun cais o fewn y ddau Awdurdod ac at baragraffau 1.24
i 1.30 sydd, oherwydd natur eang a chymhleth y cynllun yn cyfeirio'r gofynion
hynny sydd tu allan i faes cynllunio. Nodwyd bod Pwyllgor Cynllunio Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi caniatáu Eglurwyd
bod y bwriad yn golygu codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) ynghyd a thrac mynediad
parhaol. Er bod yr adeilad yn eithaf sylweddol, mae’n cymharu gydag adeilad
amaethyddol o ran maint, uchder a dyluniad. Ategwyd bod Asesiad Gweledol a
Thirwedd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn cynnwys manylion tirwedd ac
effaith weledol gan gynnwys montage ffotograffig Ar sail y wybodaeth a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, ystyriwyd bod effeithiau hir dymor y bwriad yn dderbyniol o ran dyluniad, graddfa, deunyddiau, tirweddu ac effaith ar y dirwedd ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4, AMG 2 a 3 o’r CDLl a NCT 12: Dylunio. Derbyniwyd y byddai’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn achosi anhwylustod, sŵn, dirgryniad, llwch a thraffig yn ystod y gwaith dros dro o dwnelu ac adeiladu’r adeilad pen twnnel. Byddai’r elfennau hyn, sydd ddim yn faterion cynllunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif: C20/0066/03/AC Chwarel yr Oakley, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. PDF 412 KB Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i
gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd
cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol i
storio deunyddiau crai: • Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod
cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl
adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle
wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill
2020. • Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r
caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r sied storio gael
amodau sy'n ategol i brif ddefnydd y safle fel gwaith mwynau sy'n prosesu
gwastraff llechi i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog a phowdrau. Byddai hyn yn sicrhau bod y safle yn parhau
i weithredu yn unol â'r allbwn diwygiedig o ddosbarthu dim mwy na 9 llwyth ar
unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) a dim mwy na 2 lwyth ar
unrhyw ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl y Banc neu Wyliau Cyhoeddus. • Er budd cysondeb a'r gallu i orfodi,
dylai'r gyfres ganlynol o reoliadau rheoleiddio a osodwyd ar y caniatâd
perthynol (C03M/0010/03/MW), sy'n ymwneud â sŵn ac ansawdd aer hefyd gael
eu dyblygu; • Monitro
sŵn yn flynyddol (oni bai y cytunwyd fel arall yn ysgrifenedig) • Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db • Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y nos i 40db • Ni fydd unrhyw loriau yn cael eu
hanfon o'r safle ac ni fydd unrhyw ddeunyddiau crai yn dod i'r safle y tu allan
i 07.00 awr a 22.00 awr. • Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor
statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad
penderfyniad. • Nodyn i'r ymgeisydd i annog
gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella
delwedd ddwyieithog y cwmni. Cofnod: Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio
amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir
y cais gan nodi ei fod
yn un o 3 cais cynllunio i newid
amodau ar ganiatâd cynllunio a gweithrediad
sydd eisoes yn bodoli ar
safle Chwarel yr Oakley er mwyn
ymestyn oes y gwaith mwynau i
sicrhau bod gweithrediad y felin yn parhau.
Nodwyd mai cais ydoedd i
geisio amrywio amod 1 ar
ganiatâd cynllunio a roddwyd yn 2001, i barhau i
ddefnyddio’r ardal storio ategol, sied a llawr caled
am 20 mlynedd ychwanegol. Amlygwyd bod yr holl bolisïau
perthnasol wedi eu hystyried ac nad oedd
unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn.
Nodwyd bod y felin wedi gweithredu heb achosi niwsans
gormodol o dan delerau’r amodau presennol am nifer o flynyddoedd a bod materion sŵn a llwch
wedi hen sefydlu. Er hynny, nodwyd
bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi datgan
yr angen i ddiweddaru’r amodau sŵn a llwch ar
y safle. Adroddwyd bod Cynllun Adfer wedi
ei gynnwys gyda’r cais ac yn cydymffurfio gyda Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn a Pholisi MWYN 9. Mae'r
cynllun adfer yn cynnwys creu
tirffurf fydd yn ail-greu ac efelychu nodweddion naturiol y ddaear a nodweddion draenio. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:- • Ei bod yn gefnogol i’r cynllun • Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag
llygredd c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu
y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: • Caniatáu y cais yn hwb
i’r economi leol • Croesawu bod y bwriad yn sicrhau
gwaith am 20 mlynedd
bellach • Awgrym i gynnwys amod
i warchod Afon Bowydd rhag
llygredd d)
Mewn
ymateb i’r awgrym i gynnwys
amod i warchod
Afon Bowydd rhag llygredd / dwr budr mynegodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai Cyfoeth
Naturiol Cymru sydd â thrwydded orchwyl dros y gwaith a bod modd adolygu’r amodau / diweddaru’r gweithdrefnau ar sut i
ddelio gyda gwaddod. PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig
i'r newid isod i Amod
1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol
i storio deunyddiau crai: • Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod
cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd
holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu
symud a bydd y safle wedyn yn
cael ei adfer
yn unol â'r
cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill 2020. • Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C20/0067/03/AC Chwarel yr Oakley, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. PDF 494 KB Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i
gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd
cynllunio C03M/0010/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi. • Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod
cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl
adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle
wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - Mawrth
2020. • Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig
i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C03M/0010/03/MW i
reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau
gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, adolygu gweithrediadau
ac adfer ond yn benodol; • Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db • Cyfyngu
lefel sŵn yn ystod y nos i 40db • Cau gwaith
y malwr sylfaenol i lawr dros nos • Holl
ddrysau/caeadau i gael eu cadw wedi eu cau dros nos • Ni cheir ailgychwyn y gwaith ar ôl
22.00 awr (pe byddai'r gwaith yn torri i lawr dros nos ni fydd yn ail ddechrau
tan y diwrnod canlynol) • Ni
weithredir y malwr allanol rhwng 07.00 awr a 22.00 awr. • Ni fydd
unrhyw loriau yn cael eu llwytho y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr. • Bydd y cynnyrch gaiff ei orffen dros
nos yn cael ei storio yn y prif adeilad tan y diwrnod canlynol • Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor
statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad
penderfyniad. • Nodyn i'r ymgeisydd i annog
gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella
delwedd ddwyieithog y cwmni. Cofnod: Cais o dan Adran 73 o'r
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod
1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a) Ymhelaethodd
yr Uwch
Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais
gan egluro bod y cais yn un ar
gyfer amrywio amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol
a gymeradwywyd yn 1990 i ddatblygu tir
heb gydymffurfio gydag amodau i
ganiatáu parhau i weithredu safle'r
gwaith o 07.00 awr i 19.00 o ddydd Llun i ddydd
Gwener (h.y. gweithredu am 24 awr) ynghyd â chynnydd mewn allbwn o 6 i 9 llwyth o ddeunydd
fesul diwrnod gwaith. Roedd
y caniatâd hefyd yn caniatáu newid
i'r cyfyngiadau ar allyriadau sŵn
yn ddarostyngedig i amodau sydd
yn gofyn bod y gweithredwr yn gweithredu cynllun monitro sŵn. Nodwyd na dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau i’r cais arwahan
i un llythyr oedd yn nodi
pryder bod allyriadau o’r gwaith yn
cynnwys nwyon sydd yn effeithio
ar iechyd a llesiant trigolion cyfagos. O ganlyniad, amlygwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn mynnu bod yr
amodau i reoli sŵn, llwch ac ati yn
parhau ar y safle. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans
gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau’r amodau
sŵn ac ansawdd aer perthnasol. Mae'n annhebygol y bydd unrhyw newid amlwg
yn amodau gweithio'r safle na newid
i effaith weledol y gwaith ac ni fydd y datblygiad
yn tynnu oddi wrth nodweddion
cadarnhaol y dirwedd na'r elfennau hynny
sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw'r dirwedd hanesyddol na'r cais Safle
Treftadaeth y Byd. Bydd gwastraff llechi yn cael
ei brosesu a’i drin
i gynhyrchu ffelt to ac nid yw cyflenwi deunydd
i'r gwaith prosesu yn holl
ddibynnol ar y mwynau wrth gefn
sydd yn y domen lechi. Mae'r
cynllun adfer yn cynnwys trin
y ddaear agored wedi i'r gweithrediadau
ddod i ben. O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau, bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol
ac o ran angen leol, mae'r datblygiad yn cydymffurfio â’r holl bolisiau
perthnasol. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:- • Ei bod yn gefnogol
i’r cynllun • Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag
llygredd c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: • Byddai caniatáu y cais yn hwb i’r
economi leol • Croesawu bod y bwriad yn sicrhau gwaith
am 20 mlynedd pellach ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl
i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C03M/0010/03/MW, i ganiatáu
parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi. · Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C20/0079/03/AC Chwarel Oakley Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. PDF 482 KB Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn
ardal y cais: • Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r
gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr
holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o
ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad
hwnnw. Bydd gwaith adfer y safle wedi ei
gwblhau erbyn 31/12/2027. • Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig
i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C10M/0103/03/MW i
reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau
gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, tirffurf arfaethedig,
mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a gwaith adfer dilyniadol. • Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor
statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad
penderfyniad. • Nodyn i'r ymgeisydd i annog
gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella
delwedd ddwyieithog y cwmni. Cofnod: Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio
amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir
y cais gan nodi mai cais
ydoedd i barhau i echdynnu
mwynau o’r tomenni llechi am 20 mlynedd ychwanegol. Adroddwyd nad yw cyflenwi
deunydd i'r gwaith prosesu yn holl ddibynnol
ar y mwynau wrth gefn sydd
yn y domen lechi, ac fe ragwelir
y bydd yn parhau am tua 5 mlynedd arall. Er mwyn peidio ag
oedi gyda gweithredu cynllun adfer i arwynebau'r
tomenni sydd wedi eu tarfu,
ystyriwyd cymeradwyo caniatâd am 5 mlynedd arall. Bydd unrhyw newid i Amod
1 o ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW yn adlewyrchu'r
tunelli o fwynau wrth gefn sydd
ar gael yn
ardal y cais. Yn dilyn trafodaethau
gyda’r ymgeisydd, cytunwyd y byddai caniatâd 5 mlynedd yn rhoi amser
digonol i symud gweddill y domen lechi. Byddai'r gwaith
o dynnu'r tomenni yn amodol i
gynllun graddol o echdynnu gyda'r posibilrwydd o welliant mwy cadarnhaol yn yr hirdymor
unwaith fo'r ardaloedd adfer wedi ymdoddi i'r
bryniau cyfagos a'r llystyfiant naturiol. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans
gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau'r amodau
cyfredol i dynnu a phrosesu llechi. Cefnogwyd yr
elfen o ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu / hailddefnyddio i roi llai
o bwysau ar adnoddau sylfaenol. O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau,
bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol
ac o ran angen leol, roedd y datblygiad yn cydymffurfio a’r polisïau perthnasol. Mewn ymateb
i gwestiwn a fydd y tipiau yn
diflannu, nodwyd bydd y tipiau yn
cael eu graddio
gyda’r deunydd yn cael ei
ddefnyddio ar gyfer y cynllun adfer. b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:- • Ei bod yn gefnogol i’r
cynllun • Bod angen gwarchod Afon Bowydd
rhag llygredd c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r
cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i
Amod 1 ar ganiatâd cynllunio
C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r
tunelli o fwynau wrth gefn sydd
ar gael
yn ardal y cais: ·
Daw'r gwaith o
echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y
dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i,
neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu
erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd gwaith adfer
y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2027. ·
Bydd y
datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio
blaenorol C10M/0103/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr
amgylchedd dŵr, oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r
cais, tirffurf arfaethedig, mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a
gwaith adfer dilyniadol. · Nodyn i'r ymgeisydd gyda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |