Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd ac Owain Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: a)
Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 4.1 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei
fod yn aelod
o Fwrdd Adra Y Cynghorydd Simon Glyn yn eitem 4.3 ar
y rhaglen (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT) Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. b)
Y Cyfreithiwr Rhun ap Gareth, yn eitem 4.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei rieni yng
nghyfraith yn byw gerllaw'r safle. Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. c)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Gareth A Roberts ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 4.1 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.2 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0070/39/DT) Y Cynghorydd Gareth T Jones ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 4.3 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT) Amlygodd
yr Aelodau eu bod wedi derbyn e-bost
gan wrthwynebydd yn eu hannog
i wrthod cais C19/1072/11/LL - datblygiad preswyl o 30 uned ar dir
gerllaw Pen Y Ffridd, Pen Y
Ffridd Road, Penrhosgarnedd,
Bangor |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Datblygiad
preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd,
llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gareth A Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais Rhesymau: 1.
Effaith
negyddol ar yr iaith Gymraeg 2.
Lon Pen y
Ffridd yn anaddas ar gyfer mynediad i ddatblygiad o’r maint yma COFNODION: Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned
fforddiadwy) ynghyd ac isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd bod atodiad 1 (adroddiad Pwyllgor 20/10/20) o’r adroddiad cnoi cil wedi ei
gynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a chyflwyniad
ysgrifenedig o sylwadau’r ymgeisydd a'r gwrthwynebydd
a sylwadau’r Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd. Rhoddwyd
cyflwyniad o’r cynlluniau oedd yn destun y cais ac amlygwyd cynllun diwygiedig
i gynnwys offer chwarae ar gyfer plant ar y llecyn agored. a)
Eglurodd
y Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y cais a drafodwyd ym mhwyllgor Hydref
20fed 2020 wedi cael ei wrthod, yn
groes i argymhelliad
y swyddogion. Gwrthodwyd y cais am 6 rheswm
ac o ganlyniad, cyfeiriwyd
y cais i gyfnod cnoi cil. Ail
gyflwynwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor oedd
yn amlygu’r polisïau, y risgiau ar opsiynau iddynt.
Cyfeiriwyd at ddatganiad ieithyddol diwygiedig oedd yn cydymffurfio
gyda gofynion PS1 a Chanllaw Cynllunio Atodol perthnasol ynghyd a chynllun yn dangos ardal
ac offer chwarae i blant o fewn safle’r
cais. Yn ogystal, ail ymgynghorwyd
gyda’r holl ymgynghorai perthnasol iddynt gael cyfle
i gadarnhau eu barn a’u sylwadau
ar y cais ar gyfer 30 o dai
(yn dai par 2 neu 3 llofft), gyda 12 o’r tai yn 100% fforddiadwy a 18 o’r tai yn dai
marchnad agored gyda 5 fyddai’n cael eu cynnig
drwy rent canolradd neu gynllun ‘rhent
i brynu. Byddai hyn yn
galluogi teuluoedd cymwys i rentu
gydag opsiwn i brynu’r tŷ
yn y dyfodol ac o fewn ffin datblygu
Bangor. Cyfeiriwyd at Rhan
3 o’r adroddiad oedd yn cadarnhau’r
polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion
i’r 6 rheswm gwrthod. Ategwyd bod yr adroddiad yn
cynnwys tystiolaeth fanwl am yr angen
am dai gyda’r
Gwasanaeth Tai a’r Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd yn cadarnhau'r angen am dai fforddiadwy
yn yr ardal
ynghyd a’r angen cyffredinol am dai 2 neu 3 llofft.
Y cais felly yn cydymffurfio gyda pholisïau TAI 1, 8 a 15. Yng nghyd-destun
materion llifogydd, ail ymgynghorwyd gyda CNC, Uned Dwr y Cyngor a Dŵr Cymru a derbyniwyd cadarnhad nad oeddynt
yn gwrthwynebu’r cais. Ail ymgynghorwyd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â halogiad tir ac adroddwyd nad oeddynt
yn gwrthwynebu’r cais a’u bod yn
fodlon i’r strategaeth adfer gael ei weithredu
drwy ddefnydd amod cynllunio safonol. Ategwyd nad oedd gan
yr Uned Trafnidiaeth
wrthwynebiad o ran diogelwch
y ffyrdd, llif traffig a chapasiti ac addasrwydd Ffordd Pen Y Ffridd a chylchfan Ysbyty Gwynedd. Ystyriwyd bod cynnwys yr adroddiad yn ymateb ac yn goresgyn y 6 rheswm gwrthod. Nid oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorai statudol na’r ymgynghorai eraill perthnasol ac felly ym marn y Pennaeth Cynorthwyol, nid oedd tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r 6 rheswm gwrthod. O ganlyniad, cyfeiriwyd at y risgiau posib i’r Cyngor yn sgil ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
Estyniad yn cynnwys codi uchder y to AELOD LLEOL: Cynghorydd John B Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais
Rheswm: Ystyriwyd y cais
yn or ddatblygiad o’r safle COFNODION: Estyniad yn cynnwys
codi uchder y to Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. Cyflwynwyd dwy fideo fer yn amlinellu amrywiaeth yn lefelau’r tir
ynghyd a maint y tai a dyluniad y stad. a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
ail gyflwyniad o gais ydoedd yn dilyn
penderfyniad Pwyllgor 16 Tachwedd 2020 i ohirio er mwyn
paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r
safle. Ategwyd bod y cais yn un i wneud addasiadau i’r tŷ presennol
trwy godi uchder y to er mwyn defnyddio gwagle ar gyfer
ystafelloedd ynghyd ag adeiladu estyniad i’r cefn er
creu balconi llawr cyntaf. Atgoffwyd
yr Aelodau, yn bresennol, bod brig y tŷ yn rhyw 5 medr
gyda’r bwriad arfaethedig yn nodi uchder
o 6.5 medr i’r brig. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ystâd o dai oddi
fewn i’r AHNE ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac
Enlli. Ystyriwyd na
fyddai’r bwriad yn cael effaith
niweidiol andwyol ar yr ardal
na’r AHNE a bod dyluniad, graddfa a maint y bwriad yn dderbyniol
gan fod digon
o dir o amgylch yr eiddo. Ystyriwyd
nad oedd
y bwriad yn orddatblygiad ac nad oedd goblygiadau o ran diogelwch ffyrdd na mwynderau trigolion
cyfagos. Y dyluniad ar y cyfan yn
cadw edrychiad y tŷ ac felly dim yn creu effaith andwyol. b)
Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol: ·
Ei fod
yn gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli
trigolion yr ystâd ·
Bod maint y tŷ yn ddigonol fel
y mae ·
Bod yr estyniad arfaethedig yn sylweddol - o ystyried
maint a ganiateir i dŷ fforddiadwy ·
Byddai byth
yn dŷ i bobl leol ·
Bod peryg gosod cynsail i eraill yn yr ystâd ac felly’r
cysondeb a’r cymeriad gwreiddiol yn cael ei golli b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais c)
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelodau: ·
Bod tai yn cael eu haddasu
fel eu bod tu allan i
gyrraedd pobl leol ·
Y bwriad yn
orddatblygiad ·
Gosod
cynsail beryg fyddai yn newid
cymeriad y safle ·
Tuedd
yw rhoi estyniad
neu uwchraddio pob tŷ ·
Bod yr estyniad
yn troi'r eiddo o fod yn
fyngalo i fod yn dŷ. ·
Cadw
at ystâd o fyngalos a dim cyflwyno tai i’r ystâd ·
Angen
polisi i warchod hyn - natur
stadau tai yw cael estyniadau erbyn hyn ·
Nad
oedd gwrthwynebiadau gan y Cyngor Tref nac yr AHNE ch) Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu Disgynnodd
y cynnig Pleidleisiwyd ar y cynnig
i wrthod ar sail bod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle PENDERFYNWYD:
Gwrthod y cais yn groes i
argymhelliad Rheswm: Ystyriwyd y cais yn or ddatblygiad
o’r safle |
|
Cais Rhif C20/0898/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG PDF 313 KB Estyniadau
a newidiadau i dŷ presennol. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth T Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio
COFNODION: Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol. a) Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu
ar gefndir y cais gan nodi
bod sawl elfen i’r
cais ar gyfer
estyniadau ac addasiadau i dŷ deulawr
presennol ·
Codi
estyniad llawr cyntaf ar flaen yr annedd ·
Newid estyniad llawr
gwaelod ar flaen / ochr yr
eiddo i gael
to gyda “hip” yn hytrach na tho
gyda thalcen ·
Dymchwel y simdde ·
Codi estyniad llawr cyntaf ar gefn
yr eiddo ·
Amnewid dau estyniad
unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - byddai’r estyniad newydd yn ymestyn
1.2m ymhellach i’r cefn na’r estyniad
presennol ·
Creu balconi ar
ben yr estyniad to fflat gyda wal
wydr o’i amgylch a sgrin 1.8m o uchder Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ
ar wahân mewn ardal anheddol
o fewn ffin datblygu Morfa Nefyn, yn cefnu
ar gaeau glas cefn gwlad
agored gyda chefnau'r tai i’w gweld o’r brif
lôn rhwng Morfa Nefyn ac Edern. Trafodwyd yr addasiadau bwriadedig
drwy gyfeirio at y cynlluniau a oedd
yn cymharu’r agweddau presennol gyda’r dymunol. Eglurwyd bod y cynlluniau yn manylu ar
y cymariaethau gan fod yr asiant
yn ceisio ymateb
i sylwadau a dderbyniwyd gan y Cyngor Tref a sylwadau o’r ymgynghoriad
cyhoeddus bod y datblygiad yn or ddatblygiad o’r safle. Amlygwyd
nad oedd
maint y bwriad yn cynyddu’r safle
yn sylweddol. Tynnwyd sylw at fwynderau cyffredinol a phreswyl gan nodi bod argymhelliad
i osod amod
i sicrhau sgrin i atal
gwelededd o’r balconi. Adroddwyd bod cymysgedd tai a dyluniadau yn yr ardal
anheddol a chyfeiriwyd at bolisïau PCYFF3 sydd yn asesu
materion dylunio, deunyddiau ac effaith gweledol unrhyw ddatblygiad a PCYFF2 sydd yn asesu effaith
andwyol sylweddol iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr
eiddo lleol. Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda
gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol. b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd y wybodaeth gefndirol a’r cyfiawnhad
dros y dyluniad. ·
Yn
gais am; 1. Adfywio a chreu cartref parhaol yn unol â ‘safonau
cartref oes’ 2. gwelliannau thermol
a thrwsio problemau gollwng dŵr, 3. Uchafu goleuni naturiol 4. Ail-siapio'r ffasâd plaen a digymeriad a chynnig wyneb o ansawdd uchel fyddai’n adlewyrchu nodweddion lleol. ·
Cyflwyno
cyfuniad gwell o ddeunyddiau yn hytrach na’r gorffeniad
presennol ·
Cynhaliwyd
dadansoddiad llawn er mwyn sefydlu’r
nodweddion sydd yn cynnig cyfraniad
positif i hunaniaeth y pentref ac yn ogystal i
gymeriad brodorol yr ardal. Defnyddiwyd
y wybodaeth i ffurfio’r cynigion dan sylw. ·
Er
bod yr eiddo i'w weld yn glir
o Lôn Las, ni ystyriwyd fod y cynigion yn cyfrannu
at effaith negyddol, ond i'r gwrthwyneb
byddai’r dyluniad yn cynnig gwelliant
sylweddol ·
Byddai’r
newid mwyaf nodedig ar yr
edrychiad cefn sef to fflat a balconi gyda gorchudd
gwair sedwm ynghyd a chynnydd mewn arwynebedd gwydr - yn cynnwys
wyneb tebyg i’r hyn sydd
wedi ei ganiatáu
gerllaw. · Bod y bwriad yn gofyn am ganiatâd i ... view the full COFNODION text for item 7. |