Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise
Hughes a’r Cynghorwyr Beca Roberts a Rob Triggs (Aelodau Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Elin Hywel (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C22/0969/45/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C22/0523/14/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Hydref 2023 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Hydref 2023 fel rhai cywir.
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C22/0969/45/LL Tir ar Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 5LF PDF 611 KB Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio,
mynedfa, gwasanaethu a tirlunio AELOD LLEOL:
Cynghorydd Elin Hywel Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod: 1. Amserlenni 2. Yn
unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd. 3. Deunyddiau
yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r
Awdurdod Cynllunio Lleol. 4. Amodau
manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai 5. Amser
agor y siop 6. Rheoli
amser o ran danfoniadau. 7. Amodau
priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr
wyneb. 8. Amodau
gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o
offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau 9. Cynllun
Rheoli Adeiladu 10. Cadw
at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer 11. Ymgymryd
gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli
Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd. 12. Mesurau
gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog 13. Unol
gyda cynllun goleuo 14. Unol
gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol. 15. Unol
gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Nodiadau:- 1. Datblygiad
Mawr 2. SUDS 3. Priffyrdd
– hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980 4. Sylwadau
Dŵr Cymru 5. Sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd 6. Sylwadau
CNC Cofnod: Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa, gwasanaethu a tirlunio Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10-11-23 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi gwybodaeth pellach
ynglŷn a chaniatâd System Draenio Cynaliadwy, copi o lythyr gan JLL yn
cynnig sylwadau ar eiriad rhannau o’r adroddiad, ymateb yr Uned Bolisi i’r
llythyr hwnnw, a nodyn eglurdeb o ran mynediad. a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i adeiladu siop fwyd newydd
oddi ar yr A499 Ffordd Caernarfon, sef un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o
Bwllheli. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys ·
Creu
mynedfa newydd i Ffordd Caernarfon ynghyd a 114 o fannau parcio, i gynnwys lle
i'r anabl, rhiant a phlentyn, lle gwefru cerbydau trydan, lle ar gyfer beiciau
modur a lle diogel i feiciau. ·
Darparu llwybr
cerdded/beicio gerllaw Ffordd Caernarfon ynghyd a chroesfan sebra. ·
Darparu lloches bws gyferbyn
ar safle ar Ffordd Caernarfon ·
Cyflwyno cyfyngiad cyflymder
is ar Ffordd Caernarfon o 30 milltir yr awr. ·
Darparu is-orsaf drydan ·
Gwaith tirlunio meddal. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
ddatblygu’r dref – yn ffurfio rhan o safle ehangach sydd wedi ei ddynodi ar
gyfer tai (T28) yn y Cynllun Datblygu lleol (CDLl).
Gorweddai o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys
Enlli a rhan o’r safle yn ffurfio safle bywyd gwyllt ymgeisiol
Penlon Caernarfon. Cyfeiriwyd at yr asesiad a wnaed o’r prif faterion megis effaith y
datblygiad ar y dynodiad tai a’r canol dref o ran manwerthu. Er bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, derbyniwyd Asesiad Hyfywedd oedd yn nodi, ar sail y
farchnad dai presennol, nad oedd datblygu’r safle ar gyfer tai yn hyfyw a bod yr ymgeisydd yn datgan fod y bwriad yn
hanfodol i hwyluso’r ddarpariaeth breswyl ar y safle – ni fyddai’n realistig y byddai unrhyw ddefnydd preswyl yn
digwydd i’r dyfodol onibai am y datblygiad yma. O
ganlyniad, drwy gyflwyno’r defnydd amgen o archfarchnad byddai’r safle’n cael
ei ddatgloi gan alluogi rhywfaint o ddatblygiad preswyl yn hytrach na dim o
gwbl. Yn ogystal, amlygwyd fod y safle wedi cael ei farchnata ar gyfer defnydd
preswyl ers 2020 ac nad oedd unrhyw gynnig wedi ei dderbyn arno. Cytunwyd bod
datblygu rhan o’r safle ar gyfer y defnydd manwerthu arfaethedig yn hwyluso’r
cyfle i weddill y ddynodiad ddod ymlaen ar gyfer defnydd preswyl disgwyliedig
ac a’r sail tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, bod modd mynd yn groes i bolisïau
tai perthnasol y CDLl yn yr achos yma. Yng nghyd-destun effaith y bwriad ar siopau presennol a chanol tref Pwllheli, amlygwyd bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi y gallai'r angen am siop fod yn feintiol neu'n ansoddol, ond dylid rhoi blaenoriaeth i sefydlu angen meintiol cyn ystyried yr angen ansoddol. Wrth gyfiawnhau’r angen ansoddol, eglurwyd y dylid ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol gyda NCT4 yn cyfeirio at ganlyniadau anfwriadol ac effaith andwyol ar ganol trefi. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU PDF 257 KB Cais llawn i godi 7
tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol,
ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch
o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai
fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol : 1.
Dechrau o
fewn 5 mlynedd 2.
Datblygiad yn
cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3.
Defnyddio llechi to
Cymreig neu lechi cyffelyb 4.
Cytuno’r deunyddiau
allanol 5.
Tynnu’r Hawliau Datblygu
a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd 6.
Amod Dŵr Cymru 7.
Amodau Priffyrdd 8.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol 9.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth 10.
Amodau Tirlunio 11.
Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir 12.
Rhaid rhoi enw Cymraeg
i’r stad a’r tai unigol. 13.
Cyfyngu’r defnydd i
ddosbarth defnydd C3 yn unig Nodyn – Dŵr Cymru System
Draenio Gynaliadwy Uned Trafnidiaeth Uned
Goed Cofnod: Cais
llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r
fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio. Roedd rhai o’r
Aelodau wedi ymweld a’r safle 10-11-23 Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau y
gallai fod risg o sŵn ac arogleuon o ganlyniad i agosatrwydd tai i
adeiladau amaethyddol ond nad oedd yr Uned yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau
sy’n nodi pellteroedd rhwng adeiladau o’r fath. Nodwyd hefyd y derbyniwyd
cynllun diwygiedig ar y 27.10.2023 yn dangos storfa biniau ger y fynedfa.
Cadarnhaodd yr Uned Drafnidiaeth a Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu bod y
trefniant yn dderbyniol ar y sail na fydd y Cyngor yn gyfrifol am y storfa -
bod hyn yn cael ei sicrhau drwy osod nodyn ar y cais. a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i
godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu
ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir
ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa
bresennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu
datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso
codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn
dai fforddiadwy canolraddol. Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor 23 Hydref 2023 pryd gwnaed penderfyniad i gynnal ymweliad safle. Saif y safle ar
safle tir llwyd o fewn ffin datblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir
gan y CDLl, ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar
gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a
Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth
clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417,
Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y
Byd UNESCO. O ran egwyddor y
datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi
TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun
trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod
tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd
gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig
yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y
datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Yng nghyd-destun
lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad, adroddwyd bod gosodiad,
dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd
priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio i ansawdd safonol a bod y cynigion
tirweddu’n gweddu naws y pentref. Er yn cydnabod sylwadau a dderbyniwyd, ni
ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd adeiledig y
safle na’r gymdogaeth leol. Yng nghyd-destun y dirwedd hanesyddol, nodwyd bod CADW yn cadarnhau na fyddai niwed arwyddocaol i’r dirwedd hanesyddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel fod 3 o'r
anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3
o'r anheddau i'w defnyddio unai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6 AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er
defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn
annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal
Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn
orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i
Dwristiaid. Yn sgil hyn nid yw’r
Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at
ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Cofnod: Vary condition 5 of planning permission C21/0575/00//LL so that three of
the dwellings must be used for residential use within the C3 use class, and three
of the dwellings to be used either within C3 or C6 use class. Attention was drawn to the late/additional
observations form - a letter dated 16 November 2023 had been sent to the
Members and the Planning Unit responding to the report. Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o'r
anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3
o'r anheddau i'w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol – llythyr dyddiedig 16 Tachwedd
2023 wedi ei anfon at yr Aelodau a'r Uned Cynllunio yn ymateb i’r adroddiad a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio
C21/0575/00/LL fel bod 3 o’r anheddau i’w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o
fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o’r anheddau i’w defnyddio un ai o fewn dosbarth
defnydd C3 neu C6. Caniatawyd cais
C21/0575/00/LL ar 6 Rhagfyr 2022 ar gyfer trosi a newid defnydd un annedd yn 6
fflat 1 ystafell wely. Ymddengys nad
yw’r caniatâd blaenorol wedi ei weithredu eto ac ei fod yn parhau fel un
tŷ). Mae amod 5 o ganiatâd C21/0575/00/LL yn datgan:- “Rhaid
defnyddio’r uned/au byw a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn
Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw
ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.” Gyda’r cais
yn ymwneud â diwygio neu ddiddymu amod, eglurwyd bod rhaid edrych os yw’r amod
yn parhau’n berthnasol dan y canllawiau cenedlaethol ac yn cwrdd â 6 maen prawf
gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli
Datblygu. Yn ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau
o’r newidiadau sydd wedi bod i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref
(Dosbarthiadau Defnydd) llynedd, o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl
gyda defnydd C3 yn parhau ar gyfer unig neu brif breswylfa. Cyflwynwyd dau
ddosbarth defnydd ychwanegol (dosbarth C5 ail gartref a ddefnyddir mewn modd
gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer llety gwyliau tymor
byr). Yn ychwanegol, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Mehefin 2023 yn amlinellu’r
materion a’r cyfiawnhad dros gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn gallu
rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail
gartrefi a llety gwyliau). Yn y
cyd-destun yma, gosodwyd yr amod ar ganiatâd C21/0575/00/LL, yn cyfyngu
meddiannaeth yr unedau i dai preswyl parhaol (C3), a rhoddwyd ystyriaeth i’r
polisïau tai perthnasol ar y pryd. Ystyriwyd Polisi TWR2 ac er bod y bwriad yn cydymffurfio a’r mwyafrif o’r meini prawf, bod y cais yn methu ar faen prawf 5 o Bolisi TWR 2 y CDL sy’n nodi na ddylai’r datblygiad arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal. Er bod Cynllun ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Estyniad
unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a swyddfa. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu 1. 5
mlynedd i ddechrau gwaith. 2. Unol
a chynlluniau. 3. Rhaid cytuno
unrhyw newidiadau neu gwaith uwchraddio i’r system draenio twr aflan cyn defnyddio yr estyniad 4. Gorffeniad
i gydweddu gyda’r adeilad presennol. 5. Gwelliannau
Bioamrywiaeth Nodyn Llythyr Dwr Cymru Cofnod: Estyniad
unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a
swyddfa a) Amlygodd yr Uwch Swyddog
Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar
gyfer adeiladu estyniad unllawr i ochr adeilad
Y Deri, sydd wedi ei leoli tu
allan i ffin
datblygu rhwng Caernarfon a
Bontnewydd, felly’n safle cefn gwlad
er y saif mewn clwstwr bychan o ryw 5 eiddo. Eglurwyd
bod Y Deri yn darparu gwasanaeth gofal cartref ac y byddai’r estyniad yn mesur
10 medr o hyd a 8.8 medr yn ei
fan lletaf. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor
ar gais yr aelod lleol. Ymddengys fod yr adeilad
wedi ei ddefnyddio
fel busnes gofal cartref ers
17 o flynyddoedd ac y byddai’r
estyniad ar gyfer hwyluso eu
gwasanaeth, i’w ddefnyddio ar gyfer
ystafell ddydd i’w cleientiaid ac i ddibenion hyfforddi
staff. Amlygwyd bod y datganiadau
a dderbyniwyd gyda’r cais yn egluro
a chyfiawnhau’r angen am yr
estyniad. Ystyriwyd bod y bwriad yn cefnogi
ffyniant economaidd busnes sy’n bodoli’n
barod ac felly’n cydymffurfio â maen prawf 4 o bolisi PS 13 a pholisi PCYFF 1 a PS 5 o’r CDLl. Yng nghyd-destun mwynderau
gweledol, nodwyd y byddai'r bwriad yn weladwy o’r
llwybr cyhoeddus cyfochrog yn unig
ac wedi ei amgáu gan adeiladau
fel arall; ystyriwyd bod maint, graddfa a dyluniad y bwriad yn dderbyniol
ac yn cydymffurfio gyda polisi PCYFF 3; oherwydd lleoliad yr estyniad ar y safle o’i
gymharu a’r tai cyfagos, a lleoliad y wal derfyn, ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael
unrhyw effaith ar fwynderau’r trigolion cyfagos. Cyfeirwyd at bryderon gan gymdogion oedd
yn nodi fod tanc septic yn cael ei rannu
ar y safle ac nad oedd digon
o gapasiti ar gyfer yr estyniad ychwanegol. Adroddwyd bod y tanc wedi ei
leoli mewn cae cyfochrog ac ni fyddai’r estyniad
yn cael effaith
uniongyrchol arno, ac ni fyddai’r bwriad
ei hun yn
debygol o achosi cynnydd sylweddol yn y defnydd. Ategwyd
mai materion sifil a godwyd gan y cymdogion ac yn faterion a fyddai’n
cael eu rheoli
gan Rheolaeth Adeiladu. Er hynny, tynnwyd sylw at awgrym i gynnwys
amod yn nodi bod rhaid cytuno ar
unrhyw newidiadau neu waith uwchraddio i’r system draenio dwr aflan cyn
defnyddio’r estyniad. Cyfeiriwyd hefyd at bryderon ffyrdd, ar sail cyflwr ac addasrwydd y fynedfa bresennol, cynnydd mewn traffig ynghyd
a chyflymder cerbydau sy’n teithio ar
hyd y trac tua’r safle. Mewn ymateb,
ni ystyriwyd y byddai’r cynnydd mewn traffig yn
sylweddol gan fod y busnes wedi
bod yn cynnal gweithgareddau yn ystod y dydd yn
barod ac y byddai’r staff sy’n cael eu
hyfforddi yn staff presennol gyda’r posibiliad o un staff ychwanegol.
Ategwyd nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cais ac na fyddai’r
estyniad yn cael effaith andwyol
o ran diogelwch ffyrdd. Y bwriad yw ymestyn adeilad busnes presennol sy’n darparu gwasanaeth yn y Gymraeg i’r gymuned leol fel bod unigolion bregus yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |