Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Gareth Tudor
Jones a Gareth Jones (Pennaeth
Cynllunio ac Amgylchedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin Hywel (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 – cais rhif C24/0346/45/LL ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 – cais rhif C24/0385/18/AC ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 – cais rhif C22/0637/32/LL ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol,
mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y
ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y
pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Hydref 2024 fel rhai cywir yn ddarostyngedig
i’r addasiadau / ychwanegiadau canlynol: 5.1 Cais Rhif C24/0205/32/LL Tŷ Ger Cae Capel, Botwnnog, Pwllheli, LL53
8RE a)
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys crynodeb o sylwadau a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned Botwnnog;
bod tystiolaeth newydd y Prosiect Perthyn wedi ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd i’r
holl aelodau yn ogystal â chrynodeb gan y swyddogion ohono. b)
Pwynt
bwled 9 o sylwadau’r Aelod Lleol i ddarllen fel a ganlyn; ‘Bod y Comisiynydd
Iaith wedi cadarnhau fod Cyngor Gwynedd wedi methu cydymffurfio a safonau’r
Gymraeg wrth gynnal asesiad o effeithiau'r Polisi Gosod Tai Cyffredin Gwynedd
yn 2019. O dan adran 4 Mesur y Gymraeg 2011 mae Comisiynydd y Gymraeg wedi
argymell i’r Cyngor gynnal asesiad effaith cynhwysfawr wrth adolygu a diwygio’r
polisi hwn.’ c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd gwrthod y cais. Rheswm: Ei fod yn groes i bolisi PS1 – niwed
arwyddocaol i’r Iaith Gymraeg. Nododd y cynigydd, ar sail tystiolaeth newydd a
dderbyniwyd, bod argymhelliad y swyddogion yn groes i PS1. Ategodd bod eu penderfyniad yn cael ei
wneud ar sail yr effaith mae’r Polisi Gosod Tai Cyffredin yn ei gael ar y
Gymraeg - nid yw hwn yn gofyn nac yn ystyried pa iaith mae’r tenantiaid yn ei
siarad. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau fod Cyngor Gwynedd wedi methu
cydymffurfio a safonau’r Gymraeg wrth asesu effaith hyn ar y Gymraeg.’ |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0640/42/LL Glascoed Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YT PDF 202 KB Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd . AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda cynlluniau 3. Deunyddiau/gorffeniadau allanol 4. Angen sicrhau fod sgrin o wydr afloyw
1.8 medr o uchel yn cael ei osod ar ochr de orllewin y balconi ar bob adeg. 5. Wal derfyn ger y fynedfa dim uwch na 1 medr. 6. Llefydd parcio a throi i fod yn
weithredol yn unol gyda’r cynllun cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro
cyntaf. 7. Dim clirio gwrychoedd a
thyfiant rhwng 1 Mawrth a 31 Awst. 8. Codi’r clawdd pridd cyn i’r eiddo gael ei feddiannu am y tro
cyntaf. 9. Cytuno cynllun tirlunio. 10. Gweithredu’r cynllun tirlunio. 11. Cyfyngu meddiannaeth yr eiddo i dŷ preswyl parhaol 12. Tynnu hawliau PD 13. Datganiad Seilwaith Gwyrdd 14. Cytuno ar gynllun rheoli adeiladu 15. Enw Cymraeg 16. Gwarchod a chadw’r gwrych ar y ffin Cofnod: Cais llawn i godi
eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa
gerbydol newydd Gohiriwyd
penderfyniad ar y cais yng nghyfarfod pwyllgor mis Hydref fel bod modd cynnal
ymweliad safle. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 8fed Tachwedd 2024 a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
codi eiddo preswyl deulawr o fewn rhan o ardd tŷ presennol ym mhentref
Edern; y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Edern a’r pentref wedi
ei adnabod fel Pentref Gwledig yn y CDLl. Polisi TAI 4 oedd felly’n berthnasol.
Adroddwyd mai'r lefel cyflenwad dangosol o dai i Edern oedd 12 uned gyda
chyfanswm o 3 uned wedi eu cwblhau a 4 uned yn y banc tir ar hap. Ar sail y
wybodaeth yma, byddai caniatáu datblygiad ar y raddfa yma yn gwbl dderbyniol ar
sail lefel twf dangosol i’r Pentref a gan mai 1 tŷ a fwriedir, nid yw’n
cyrraedd y trothwy o fod angen cyfraniad tŷ fforddiadwy. Eglurwyd
bod caniatâd cynllunio yn bodoli am yr un datblygiad ar y safle hyd ddiwedd
Ionawr 2024 a bod y caniatâd hwnnw wedi ei benderfynu o dan y CDLl presennol ac
felly’r un ystyriaethau polisi yn parhau. Gan nad oedd newid yn nhermau polisi,
nac yn ddaearol wrth ymweld â’r safle, nodwyd y byddai gwrthod y cais yn gwbl afresymol ac yn debygol o fod yn
destun costau apêl petai’r cais yn cael ei wrthod. Tynnwyd sylw at hanes
cynllunio hynach yng nghyd-destun y safle ble gwrthodwyd ceisiadau yn y
gorffennol a hynny oherwydd bod y polisïau yn wahanol ac ar y sail y byddai’r
bwriad yn ychwanegu at y nifer o ail gartrefi. Yn y penderfyniadau hynny roedd
pryder am faint y safle a’r gallu i ddarparu mynediad a pharcio, ac nad oedd
gwybodaeth i’r Cyngor i’r gwrthwyneb (yn y gorffennol byddai ceisiadau
cynllunio amlinellol yn gorfod amlinellu’r safle mewn coch yn unig ac nid oedd
unrhyw angen i ddangos gosodiad dangosol). Yn y cais dan sylw, amlygwyd y
byddai modd darparu mynedfa i safon gyda digon o le troi a pharcio o fewn y
cwrtil. Nid oedd gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth. Nodwyd
bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau fod y bwriad ar gyfer tŷ parhaol dosbarth
C3. Byddai hyn yn golygu bod modd rheoli defnydd y safle drwy amod – hyn yn
sicrhau mai defnydd preswyl parhaol a wneir o’r eiddo ac nid defnydd gwyliau na
defnydd fel ail gartref. Yng
nghyd-destun effaith gweledol, eglurwyd bod amrywiaeth i faint a dyluniad tai
cyfagos ac er bod peth pryder wedi ei fynegi am effaith y tŷ ar gymdogion, ystyriwyd bod yr annedd wedi cael ei ddylunio’n ofalus er mwyn gwarchod mwynderau. Adroddwyd nad oedd bwriad gosod ffenestr llawr cyntaf ar ochr dde orllewinol o’r eiddo fyddai’n wynebu’r gerddi gerllaw ond bod bwriad gosod balconi gyda sgrin wydr afloyw ar uchder o 1.8 medr ar ochr de gorllewinol y balconi. Ni ystyriwyd bod unrhyw sail i wrthod y cais ar sail effaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C24/0362/38/AC Woodcroft, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA PDF 169 KB Cais i
ddiwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at
gynlluniau diwygiedig fel rhan o'r cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a
gyflwynwyd ar 14/12/21 fel y cyfeiriwyd atynt yn amod 2 AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Gwrthod y cais Rhesymau: ·
Yn or-ddatblygiad. Pryder bod uchder a maint y
bwriad yn creu elfen ormesol dros eiddo cyfagos ac yn aflonyddu ac effeithio
mwynderau cymdogion yn groes i Polisi PCYFF 2 Cofnod: Cais i ddiwygio
amod 2 o ganiatâd cynllunio C21/1210/38/LL er mwyn cyfeirio at gynlluniau
diwygiedig fel rhan o'r cais s73 yma yn hytrach na'r cynlluniau a gyflwynwyd ar
14/12/21 fel y cyfeiriwyd atynt yn amod 2 Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
Nodwyd bod Cyngor Cymuned wedi cyflwyno sylwadau a bu i’r Rheolwr
Cynllunio eu darllen allan yn llawn. Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle
Tachwedd 8fed 2024 a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio mai cais ôl-weithredol ydoedd i ddiwygio amod ar ganiatâd cynllunio a
roddwyd yn flaenorol er mwyn cadw’r datblygiad fel y’i hadeiladwyd. Yn dilyn ymchwiliad i honiadau nad oedd y
datblygiad wedi cael ei adeiladau yn unol â’r hyn a ganiatawyd, daeth i’r amlwg
bod anghysondebau ar gynlluniau cynharach a ganiatawyd yn nhermau uchder y tŷ
gwreiddiol â’r eiddo bwriadol er bod gweddill y cynlluniau o safbwynt dyluniad
yn gywir. O ganlyniad, ac i reoleiddio’r sefyllfa, cyflwynwyd cais pellach er
mwyn diwygio’r amod oedd yn ymwneud a chynnal y datblygiad yn unol â
chynlluniau a ganiatawyd. Adroddwyd bod y cais wedi
ei gyflwyno i bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol mewn ymateb i bryderon lleol. Gohiriwyd trafodaeth ar y
cais mewn pwyllgor blaenorol er mwyn cywiro’r cynlluniau o safbwynt ffurf a
threfniant mynediad a man parcio i flaen y safle ac i adlewyrchu beth sydd i’w
weld ar y safle. Eglurwyd bod y llwybr troed wedi ei newid i ramp mynediad
troellog yn hytrach na rhes o risiau syth fel a ddangoswyd yn wreiddiol ar y
cynlluniau a ganiatawyd. Yn sgil hyn, cynhaliwyd ail ymgynghoriad gyda’r Cyngor
Cymuned, yr Aelod Lleol, cymdogion, gwrthwynebwyr a’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd
gyda chaniatâd Cadeirydd y Pwyllgor , cynhaliwyd ymweliad safle i roi cyfle i
aelodau’r Pwyllgor weld yr eiddo a’r ardal o’i gwmpas. Tynnwyd sylw at hanes
cynllunio maith i’r safle gan fanylu bod gwrthodiad i gais i ddymchwel byngalo
a chodi annedd o’r newydd. Amlygwyd bod y cais wedi ei wrthod oherwydd
edrychiad a dyluniad, polisi tai marchnad leol a’r effaith ar fwynderau
cymdogion. Yn dilyn hyn, caniatawyd cais i godi tŷ unllawr ar y safle. Amlygwyd bod honiadau fod
y perchennog wedi adeiladu’r tŷ a gafodd ei wrthod, ond nodwyd nad oedd
hyn yn gywir a chyfeiriwyd at y cynlluniau a’r lluniau a gyflwynwyd fel rhan
o’r adroddiad pwyllgor oedd yn dangos bod y datblygiad sydd i weld ar y safle
yn hollol wahanol i’r cynllun a wrthodwyd. Ategwyd bod y cynllun hwnnw yn
cynnwys tri llawr i’r eiddo (modurdy ar y llawr gwaelod, gofod byw ar y llawr
cyntaf a lle byw o fewn gofod y to
ynghyd a balconi). Nodwyd bod y datblygiad sydd bellach i’w weld ar y safle yn
annedd unllawr - nid yw’n cynnwys balconi a gofod byw, gofod to na modurdy o
dan yr eiddo. Fel nodyn ategol, nodwyd hefyd y caniatawyd man addasiadau i’r
caniatâd gwreiddiol. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y cais eisoes wedi ei dderbyn drwy ganiatâd blaenorol ac nad oedd newid wedi bod o safbwynt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C24/0346/45/LL Tir ger Allt Fawr, Lon Nant-stigallt, Pwllheli, LL53 5YY PDF 355 KB Newid defnydd tir a datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a)
2 pod glampio parhaol a parcio cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer
carafanau teithiol a parcio cysylltiedig; c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc
toiledau, bloc cawod a storfa; a d) trefniadau mynediad cysylltiedig,
cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch, draenio a tirlunio. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1.
Amser 2.
Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 3.
Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 33 carafán a 2 pod yn
unig. 4.
Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr. 5.
Tymor gwyliau'r unedau teithiol - 1af Mawrth i 31
Hydref 6.
Dim storio carafanau teithiol ar y safle. 7.
Cwblhau’r cynllun tirweddu yn y tymor plannu cyntaf yn
dilyn derbyn caniatâd. 8.
Rhaid cadw coed a gwrychoedd ar hyd terfynau’r safle. 9.
Cyfyngir unrhyw loriau caled i leiniau carafanau yn
unig. 10. Cytuno
llwybr gwasanaethau trydan a dŵr 11. Cyflwyno
Cynllun Rheoli Eurinllyn Collddail 12. Cwblhau
gwelliannau Bioamrywiaeth yn unol â’r wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno 13. Amodau
Priffyrdd 14. Oriau
gwaith adeiladu 15. Enw
Cymraeg 16. Hysbysiadau
dwyieithog 17. Gwybodaeth
hysbysu prif fynediad safle oddi ar y A499 18. Gosod
ffens o amgylch y safle Nodiadau: Nodyn Gwarchod y Cyhoedd Nodiadau Priffyrdd Nodyn llythyr CNC Nodyn llythyr Dwr Cymru Nodyn SUDS Nodyn Trwyddedu Cofnod: Newid defnydd tir a
datblygu llety gwyliau newydd ar ffurf a) 2 pod glampio parhaol a pharcio
cysylltiedig; b) 33 llain ar gyfer carafanau teithiol a pharcio cysylltiedig;
c) cyfleusterau lles yn cynnwys bloc toiledau, bloc cawod a storfa; a d)
trefniadau mynediad cysylltiedig, cysylltiad llwybr cerdded i Ffordd Abererch,
draenio a thirlunio a) Amlygodd yr Arweinydd
Tim Rheolaeth Datblygol bod y safle
wedi ei leoli ar fryncyn yng nghefn gwlad agored ar gyrion Tref Pwllheli gyda
thai preswyl wedi eu lleoli ar waelod y bryncyn; y safle wedi ei leoli o fewn Ardal o
Ddiddordeb Hanesyddol, ac ar gyrion Safle Bywyd Gwyllt a gwaelod y bryncyn wedi
ei ddynodi yn ardal llifogydd C2/ Parth 2 a 3. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, a’r
bwriad yn cynnwys unedau teithiol a pharhaol, eglurwyd mai polisïau perthnasol
oedd TWR 3 a TWR 5 a’u meini prawf yn canolbwyntio ar effaith weledol a
mynediad derbyniol i’r safle. Adroddwyd bod Arfarniad Tirwedd a Gweledol wedi
ei gyflwyno fel rhan o’r cais oedd yn cynnwys safbwyntiau o’r safle o’r ardal
gyfagos ac o bellter. Ategwyd bod yr Arfarniad yn un o safon ac yn cadarnhau na
fyddai’r datblygiad yn weladwy o’r rhan fwyaf o’r safbwyntiau, a thra byddai’r
datblygiad yn weladwy o rai safbwyntiau uchel neu o bellter, dim ond rhan o’r
safle a fyddai’n weladwy neu byddai yn weladwy mewn cyd-destun golygfa ehangach
o Bwllheli hefyd. Nodwyd bod bwriad tirweddu’r safle ymhellach ac felly
ystyriwyd na fydd y bwriad yn cael effaith weledol annerbyniol. Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad,
adroddwyd bod bwriad gwella mynediad presennol i mewn i’r safle a’i ddefnyddio
fel prif fynediad ar gyfer y datblygiad. Ategwyd bod Datganiad Trafnidiaeth
wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac er y cydnabuwyd bod Lôn Nant Stigallt yn
gyffredinol yn gul gyda rhai darnau serth, bod mynedfa'r safle ger y gyffordd
gyda'r A499. Disgrifiwyd lled y lôn yn y fan yma yn fwy na'r cyfartaledd ar
gyfer y ffordd, a’r Datganiad yn cadarnhau bod modd cyflawni traffig dwy ffordd
ar gyfer y rhan yma. O ganlyniad, gyda’r bwriad i un ai darparu mannau pasio,
neu gyflawni system unffordd ar hyd gweddill y ffordd roedd yr Uned
Drafnidiaeth yn ystyried fod y defnydd o’r ffordd yn dderbyniol. Yng nghyd-destun gosodiadau'r ddau pod parhaol
sy’n cael ei gynnig, nodwyd nad oedd y safle wedi ei leoli o fewn yr AHNE nac
Ardal Tirwedd Arbennig, ac yn unol â’r
Astudiaeth Sensitifrwydd a Chapasiti y Dirwedd roedd y nifer unedau a gynigiwyd yn cael ei ddiffinio fel
datblygiad bach iawn ac felly ni ellid ei ystyried fel gormodedd. Yng
nghyd-destun yr unedau teithiol, eglurwyd bod posib sicrhau lleiniau caled,
defnydd unedau teithiol yn unig a defnydd gwyliau drwy osod amodau cynllunio.
Ystyriwyd bod yr adeilad cyfleusterau yn addas ac yn briodol ac yn parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd. Tynnwyd sylw at bryderon a gyflwynwyd ar yr effaith ar fwynderau trigolion cyfagos, ond ystyriwyd, ar sail y pellter a natur guddiedig y safle, ni fyddai’r bwriad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C24/0385/18/AC Rhes Fictoria Stryd Fawr, Deiniolen, Gwynedd, LL55 3LT PDF 218 KB Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl. AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:
Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol :- 1. Cyfnod dechrau’r gwaith. 2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl. 3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r
toeau). 4. Mynediad a pharcio. 5. Tirweddu a thirlunio. 6. Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy. 7. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd. 8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr
wyneb. 9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad
ecolegol. 10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y
datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad 11. Cyfyngu’r defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3 Nodiadau: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy
i’w gytuno gyda’r Cyngor. Cofnod: Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio
C20/0485/18/AC (diwygiad i ganiatâd
cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl) er caniatáu
tair blynedd arall ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl. a) Amlygodd yr Arweinydd
Tim Rheolaeth Datblygol mai cais llawn ydoedd ar gyfer diwygio amod 2 o ganiatâd
cynllunio blaenorol er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno cais materion
a gadwyd yn ôl ar y caniatâd amlinellol gwreiddiol yn 2009. Eglurwyd nad oedd y
cais yn ymdrin gyda’r materion a gadwyd yn ôl. Adroddwyd bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o
dai sy’n cynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol (cymysg
o dai cymdeithasol a chanolradd), creu mynedfa newydd ynghyd a darparu llecyn
amwynder. Ategwyd bod y cais gwreiddiol yn destun cytundeb cyfreithiol 106 er
mwyn darparu’r elfen o dai fforddiadwy ac na fydd angen diweddaru’r agwedd yma
gan fod ei gynnwys yn parhau i fod yn ddilys. Ategwyd bod egwyddor o
ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn o dan y
cais amlinellol gwreiddiol yn 2009 ynghyd a cheisiadau dilynol a ganiatawyd i
ymestyn eu cyfnod o 3 mlynedd pob tro ac mae’r caniatâd diweddaraf yn parhau ar
y safle ac yn sefydlu egwyddor y cais diweddaraf hwn. Amlinellwyd bwysigrwydd
ystyried, os oedd yr amgylchiadau neu’r
sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol. Yng nghyd-destun
safle’r cais, eglurwyd bod y cae yn gae amaethyddol 0.8 hectar sy’n cael ei
wasanaethu gan fynedfa amaethyddol oddi ar ffordd sirol dosbarth 3, ac ers y
caniatâd cynllunio diwethaf, y cais wedi ei gynnwys yn ffurfiol o fewn Safle
Treftadaeth y Byd. Nodwyd bod y safle yn parhau i fod o fewn ffin datblygu
Deiniolen ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai; yn cyfrannu tuag at lefel cyflenwad
dangosol ar gyfer y pentref a’r wybodaeth wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais.
Cyflwynwyd Datganiad Cymysgedd Tai yn cadarnhau bod y cymysgedd o dai a
gynhigir yn cyfarch yr angen a adnabyddir o fewn Asesiad Angen Tai Gwynedd
ynghyd ag asesiad ar gyfer pentref Deiniolen. Eglurwyd y bydd rhan orllewinol y
safle wedi ei glustnodi ar gyfer llecyn gwella bioamrywiaeth ac er mwyn lleihau
rhediad dŵr wyneb er mwyn cyfiawnhau dwysedd is na’r arferol ar gyfer y
safle yma. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr ymgeisydd wedi nodi nad oedd yn bosib
datblygu’r safle o fewn cyfnod y caniatâd presennol a hynny o ganlyniad i Covid a’r hinsawdd economaidd. Amlygwyd nad
oedd rhwystr hirdymor fyddai’n atal y datblygiad rhag mynd yn ei flaen, ac
felly byddai derbyn y cais yn ymestyn y caniatâd cynllunio llai na blwyddyn
heibio dyddiad terfynol y CDLl ac felly bod ymestyn y cyfnod yn rhesymol. Atgoffwyd yr Aelodau
mai bras gynllun o’r safle bwriedig oedd wedi ei gynnwys gyda’r cais ac y bydd
dyluniad a gosodiad y tai yn derbyn sylw manwl yn ystod cais ar gyfer materion
a gadwyd yn ôl. Adroddwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dwr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C22/0637/32/LL Tir ger Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RA PDF 270 KB Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8
tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1
o 2) AELOD
LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Gohirio fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i
ymateb i’r rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth Cofnod: Cais llawn ar gyfer datblygiad yn cynnwys 8
tŷ fforddiadwy ynghyd a gwaith cysylltiol ar safle eithrio gwledig (cam 1
o 2) a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod gohebiaeth wedi ei dderbyn gan yr asiant yn gofyn i’r
pwyllgor ohirio penderfyniad ar y cais fel bod modd ceisio ymateb i’r rhesymau
gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth b) Cynigwyd ac eiliwyd gohirio’r penderfyniad PENDERFNWYD: Gohirio fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb i’r
rhesymau gwrthod a chyflwyno rhagor o wybodaeth |