Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL Y
CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN GADEIRYDD AR GYFER 2026 - 2027 Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ethol y Cynghorydd Huw Rowlands yn Gadeirydd ar gyfer
2026/27 PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Huw
Rowlands yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR WYN OWEN YN
IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026-27 Cofnod: Cynigiwyd
ac eiliwyd ethol y Cynghorydd Edgar Owen yn Is-gadeirydd ar gyfer
2026/27 PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Edgar
Wyn Owen yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026-27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dafydd Meurig, Cynghorydd Cai Larsen a’r Cynghorydd Louise Hughes |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd y Cynghorydd Huw
Rowlands fuddiant yn eitem 7.3 (C24/1050/19/LL) oherwydd
ei fod yn
ymwneud â’r mater yn lleol. Roedd
yr Aelod o’r farn ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
ac felly gadawodd y Siambr yn
ystod y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr Aelod canlynol ei bod yn Aelod Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Menna
Trenholme (nad oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 C24/1050/19/LL ar y rhaglen |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 27 o Ebrill 2026
fel rhai cywir yn ddarostyngedig
i gywiro rheswm gwrthod cais rhif C25/0710/41/LL - Tir Cyfochrog â Brynhyfryd / Cae Capel, Chwilog; dileu’r frawddeg, Cynigwyd ac eiliwyd gwrthod y cais ar sail diffyg angen am y tai fforddiadwy sydd wedi eu
lleoli ar y rhan o’r safle
sy’n ffurfio safle eithrio a nodi Cynigwyd
ac eiliwyd gwrthod y cais ar sail ei fod yn groes i Polisi T16 - Tir Eithrio,
oherwydd nid oes posib dangos angen am y tir eithrio, tan mae'r tir dynodedig
T64 wedi cael ei ddatblygu. Cadarnhaodd y Pennaeth
Cynorthwyol bod addasiad i’r rheswm gwrthod yn dderbyniol |
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
|
Cais Rhif C25/0949/36/EIA Tir i'r De o'r A487, Glan Dwyfach, Garndolbenmaen, LL51 9PQ Cais ar gyfer darparu is-orsaf newydd ynghyd a
seilwaith a gwaith cysylltiol i gynnwys ffordd mynediad newydd o'r A487 ac
uwchraddio ffordd mynediad amaethyddol a gosod ceblau tanddaearol 132 kV newydd
er mwyn cysylltu gyda'r llinnell Rhwydwaith Trydan presennol uwchben. AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman a’r Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i ganiatáu gyda amodau yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau cadarnhaol gan yr
Uned Cefnffyrdd, yn unol a’r argymhelliad 1. 5 mlynedd 2. Yn unol â
chynlluniau cymeradwy 3. Amodau
llwybr troed 4. Amodau
Gwarchod y Cyhoedd 5. Amodau
bioamrywiaeth 6. Amodau
Cefnffyrdd 7. Amodau
Heneb 8. Amodau
iaith Cofnod: Cais ar gyfer darparu is-orsaf newydd ynghyd
a seilwaith a gwaith cysylltiol i gynnwys ffordd mynediad newydd o'r A487 ac
uwchraddio ffordd mynediad amaethyddol a gosod ceblau tanddaearol 132 kV newydd er mwyn cysylltu gyda'r llinell Rhwydwaith Trydan
presennol uwchben; y bwriad hefyd yn cynnwys dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus
Dolbenmaen Rhif 18 yn barhaol ac adeiladu trac mynediad tirfeddiannwr newydd,
ynghyd a compownd adeiladu dros dro. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr – yr
ymgeisydd i baratoi gwybodaeth bellach sydd i gynnwys gwybodaeth traffig a
mesurau lliniaru a)
Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio, bod y bwriad yn rhan o brosiect ehangach
sy'n cwmpasu atgyfnerthu llinellau a cheblau uwchben ar y cylchedau presennol
rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd yng
ngogledd-orllewin Cymru. Eglurwyd bod y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau
trawsyrru rhwydwaith ehangach sydd eu hangen i hwyluso’r gwaith o gysylltu 50 Gigawat o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030 – cynyddu capasiti ar y llinell drawsyrru bresennol rhwng
is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd wedi cael ei nodi
fel cam y mae angen ei gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti
trawsyrru. Ategwyd bod hyn wedi cael ei gydnabod gan Ofgem,
oedd wedi nodi bod y gwaith angenrheidiol yn Fuddsoddiad Trawsyrru Strategol
Cyflym (ASTI). Adroddwyd bod y safle wedi'i leoli ar dir
cymharol wastad sydd yn cynnwys caeau pori yn bennaf, gydag ardal o laswelltir
corsiog. Amlygwyd bod cynnig tebyg wedi'i gymeradwyo o'r blaen o dan gyfeirnod
C17/0772/36/LL (a chaniatâd dilynol i ymestyn y cyfnod amser ar gyfer dechrau
gwaith o dan C22/1102/36/AC), yn parhau i fod yn ‘fyw’, ond nad oedd y
caniatâd bellach yn diwallu anghenion y
prosiect. Nodwyd, gan fod y gwaith arfaethedig yn rhan
o'r Prosiect ehangach, a rhan ohono yn cynnwys
ailosod ceblau trydan foltedd uchel o dan Glaslyn (sy’n destun cais ar
wahân), wedi'i gadarnhau, bod Datganiad Amgylcheddol (ES) wedi'i baratoi ar
gyfer y prosiect cyfan. Oherwydd maint y safle, diffiniwyd y cais fel
datblygiad mawr a derbyniwyd adroddiad ymgynghori cyn gwneud cais fel rhan o'r
cais. Byddai’r gwaith arfaethedig yn elfen hanfodol
o brosiect Atgyfnerthu Pentir i Drawsfynydd; y capasiti ychwanegol yn cefnogi trosglwyddiad effeithiol o
ynni adnewyddadwy ar draws y rhanbarth, gan gyfrannu at leihau carbon a
thargedau Sero Net. Heb yr is-orsaf newydd a'r seilwaith 132 kV cysylltiedig, byddai'r rhan yma o'r cynllun yn cyfyngu'r
rhwydwaith ac yn atal amcanion y prosiect rhag cael eu cyflawni; y datblygiad
arfaethedig yn dderbyniol mewn egwyddor ar yn cael ei gefnogi gan Bolisi
Cynllunio Cenedlaethol a Lleol. Gyda’r bwriad yn un sylweddol, cydnabuwyd y gall unrhyw seilwaith newydd o fewn lleoliad gwledig arwain at newid gweledol, fodd bynnag, yn yr achos yma ystyriwyd bod yr Asesiad Effaith ar y Dirwedd a’r Effaith Weledol wedi amlygu na fyddai newid o'r fath o faint digonol i achosi niwed sylweddol i gymeriad neu ymddangosiad y dirwedd amgylchynol. Rhoddwyd pwyslais sylweddol hefyd ar angen clir y datblygiad fyddai’n rhan o seilwaith ynni o bwys cenedlaethol ac yn cael ei gefnogi gan amcanion polisi cynllunio cenedlaethol a lleol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cais Rhif C22/0977/36/AC Llecheiddior Uchaf, Bryncir, Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9EZ Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 2, 5 a 37
o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a
gweithio deunydd hyd at 31/12/2030 ac adfer y safle erbyn 31/12/2031, cynyddu allbwn blynyddol o ddeunydd o'r safle
i 100,000 tunnell ar gyfradd gyfartalog o 14 llwyth y diwrnod a defnyddio
deunydd sydd heb ddeillio o'r gweithgareddau sydd wedi eu caniatáu o fewn
cynllun adfer AELOD
LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Dirprwyo pwerau i Bennaeth yr Adran Amgylchedd i gymeradwyo'r cais, gydag
amodau. Noder nad yw Amod 1 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW, sy'n gofyn i'r
datblygiad gychwyn ymhen pum mlynedd, yn berthnasol mwyach gan fod y datblygiad
wedi cychwyn eisoes.
Cofnod: Cais o dan Adran 73 i amrywio amodau 2, 5 a
37 o ganiatâd cynllunio C12/0495/36/MW er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer
cloddio a gweithio deunydd hyd at 31/12/2030 ac adfer y safle erbyn
31/12/2031, cynyddu allbwn blynyddol o
ddeunydd o'r safle i 100,000 tunnell ar gyfradd gyfartalog o 14 llwyth y diwrnod
a defnyddio deunydd sydd heb ddeillio o'r gweithgareddau sydd wedi eu caniatáu
o fewn cynllun adfer Tynnwyd sylw at y Ffurflen Sylwadau Hwyr a)
Amlygodd
y Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai
cais ydoedd i amrywio amodau
ar ganiatâd presennol ar gyfer
chwarel dywod a graean ger Bryncir sydd wëid ei
leoli ar dir amaethyddol blaenorol ac yn parhau i gael
ei adfer i ddefnydd amaeth.
Adroddwyd nad oedd y mwyn yn
cael ei brosesu
ar y safle ei hun ond
yn Chwarel Bryncir gerllaw. Er bod y datblygiad yn dod o fewn
categorïau Atodlen 2 o’r Rheoliadau Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA), daethpwyd i’r casgliad nad
oedd yr effeithiau posibl yn ddigon
sylweddol i ofyn am EIA. O
ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y cais yn cynnwys ymestyn
oes y chwarel, cynyddu’r allbwn blynyddol, mwy o symudiadau traffig, a chaniatáu defnyddio deunyddiau allanol ar gyfer adfer.
Byddai ymestyn y cyfnod gweithredu hyd at 2030 yn
unol â pholisïau’r CDLl ar y Cyd a Pholisi PS 22, sy’n mynnu cynnal banc tir digonol o dywod
a graean. Nodwyd bod Polisi
Cynllunio Cymru (PCC) hefyd yn
pwysleisio’r angen i sicrhau cyflenwad
cynaliadwy o fwynau wrth ddiogelu’r amgylchedd a llesiant pobl, a sicrhau safon uchel o adfer
safleoedd. Ategwyd bod y
Datganiad Technegol Rhanbarthol
(RTS) yn nodi diffyg yn y cyflenwad tywod a graean yng Ngwynedd (6.7 mlynedd o fanc tir yn
lle’r gofyn o 7 mlynedd), gan bwysleisio’r
angen i gynnal
a chynyddu’r cyflenwad. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol gan
y bydd yn helpu i gynnal
cyflenwad hanfodol o dywod a graean i’r economi adeiladu
leol ac yn cyfrannu at ofynion rhanbarthol fyddai fel arall yn
cael ei golli. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol a thirwedd adroddwyd bod y polisïau perthnasol yn gofyn am asesu effaith ar y dirwedd a gwelededd. Er bydd ymestyn oes y chwarel yn ymestyn yr effeithiau hyn dros gyfnod hirach, ni ystyriwyd y bydd yn creu effeithiau ychwanegol arwyddocaol gan fod y safle eisoes yn weithredol. Ategwyd bod adfer y safle wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, gyda’r tir yn cael ei ddychwelyd yn bennaf i ddefnydd amaethyddol ac yn integreiddio’n dda â’r dirwedd. Byddai diwygiadau i amod 37 yn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth adfer drwy ganiatáu mewnforio deunyddiau addas, ond o dan reolaeth lem a chymeradwyaeth ymlaen llaw. Bydd hyn yn sicrhau nad yw gwastraff anaddas yn cael ei ddyddodi ac nad yw’r datblygiad yn newid ei natur. Yn ychwanegol, bydd gofyn cadw cofnodion o symudiadau deunyddiau yn sicrhau tryloywder a monitro effeithiol. Ystyriwyd na fydd y newidiadau’n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Dymchwel adeiladau presennol yr ysgol ac adeiladu ysgol a chanolfan gymunedol newydd ynghyd â'r holl dirlunio allanol, ffordd fynediad a maes parcio. Gosod strwythurau ategol gan gynnwys canopïau sy'n sefyll yn rhydd, llochesi beicio, ardal ysbwriel a thanciau chwistrellu a'r holl offer chwarae allanol yn ôl yr angen i gefnogi adeilad newydd yr ysgol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Trenholme Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1. Amser (5 mlynedd) 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol 4. Amodau trafnidiaeth 5. Amodau archeolegol. 6. Amod tirlunio a choed. 7. Amod bioamrywiaeth 8. Amodau cytuno golau allanol o flaen llaw 9. Amodau Gwarchod y Cyhoedd 10. Amodau Dŵr Cymru 11. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru 12. Cyfyngiadau oriau gwaith yn ystod y cyfnod adeiladu 13. Enw Cymraeg i’r ysgol. 14. Arwyddion Cymraeg Nodiadau 1. Dŵr Cymru 2. Cyfoeth Naturiol Cymru 3. Priffyrdd 4. SUDS 5. Nodyn Cais Mawr Cofnod: Dymchwel adeiladau presennol yr ysgol ac adeiladu ysgol a chanolfan
gymunedol newydd ynghyd â'r holl dirlunio allanol, ffordd fynediad a maes
parcio. Gosod strwythurau ategol gan gynnwys canopïau sy'n sefyll yn rhydd,
llochesi beicio, ardal ysbwriel a thanciau chwistrellu a'r holl offer chwarae
allanol yn ôl yr angen i gefnogi adeilad newydd yr ysgol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y byddai’r datblygiad yn cynnwys
ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer 210 o ddysgwyr a chanolfan gymunedol,
darpariaethau ar gyfer Cylch Meithrin, dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
ynghyd â neuadd gymunedol a mannau newid llawn. Bydd yr adeilad yn ddau lawr ac
wedi’i ddylunio gydag egwyddorion cynaliadwy i leihau’r galw am ynni. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal yn bennaf anheddol o fewn
ffin datblygu Pentref Gwasanaeth Bontnewydd fel y dangosir ym Mapiau Mewnosod y
CDLl. Mae rhan
ddwyreiniol y safle oddi fewn i ardal Cadwraeth Bontnewydd gyda nifer o
adeiladau rhestredig i’r dwyrain gyferbyn.
Mae'r safle wedi ei leoli ar gyrion Ardal Cadwraeth Arbennig Ffosfforws
(ACA) (SAC) Afon Gwyrfai; o fewn Parth B Mapiau Cyngor Datblygu, fel y
cyfeiriwyd yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN 15): Datblygiad a Risg Llifogydd
(2004); ac yn rhannol o fewn parthau llifogydd 2 a 3 (Afonydd ac Mor, a
Dŵr wyneb a chyrsiau dwr) a Pharth amddiffynnol (Afonydd) yn ôl Map
Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor gan ei fod yn adeilad yn mesur dros 1000
medr sgwâr. Nodwyd bod Polisi ISA 2 Cyfleusterau Cymunedol y CDLl
yn gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd. Ystyriwyd bod y cynnig yn
cyfarch pum maen prawf y polisi gan fod y safle wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu Bontnewydd ar safle hygyrch yr Ysgol bresennol, a’i fod yn rhesymol
ceisio codi adeilad newydd wedi ei ddylunio’n bwrpasol ar gyfer gofynion
addysgol ac amgylcheddol cyfoes o ystyried cyflwr yr adeilad presennol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y datblygiad yn cynyddu
arwynebedd llawr yr adeilad ysgol o tua traean, ond bydd defnydd mwy effeithlon
o ofod drwy ddisodli dau adeilad unllawr ag un
adeilad deulawr. Cydnabuwyd y bydd rhywfaint o effaith weledol, ond ystyriwyd y
bydd y datblygiad yn parchu cyd-destun ei safle yn unol â gofynion Polisi PCYFF
3, ac ni fyddai’n effeithio’n andwyol ar yr ardal gadwraeth ac felly’n
cydymffurfio a gofynion perthnasol polisi AT 1. Yng nghyd-destun mwynderau Cyffredinol a Phreswyl adroddwyd nad oedd y datblygiad yn newid defnydd y safle na nifer y dysgwyr, ac er bod yr adeilad yn fwy, bydd pellteroedd rhwng yr ysgol a thai cyfagos yn parhau’n rhesymol; nid oedd disgwyl felly gweld cynnydd arwyddocaol mewn gor-edrych nac effaith dominyddu. Ategwyd y bydd mesurau lliniaru sŵn a goleuo’n cael eu cynnwys yn y dyluniad i leihau effeithiau ar drigolion lleol ynghyd ac amodau ar gyfer cytuno unrhyw olau ychwanegol. Bydd defnydd cymunedol o gyfleusterau allanol megis y cwrt Ardal Gemau Aml Ddefnydd yn gyfyngedig i oriau golau dydd oherwydd nid oes goleuadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |