Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·           Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.1 (C21/1220/42/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.2 (C22/1169/15/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Gareth Morris Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4 (C23/0201/08/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 291 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Gorffennaf 2023 yn ddarostyngedig i sicrhau bod pwynt bwled 2 yn eitem 5.3ch  (cais rhif C22/1169/15/LL Llyfrgell Llanberis, Ffordd Capel Coch, Llanberis) yn y fersiwn Saesneg yn cyfateb i’r Gymraeg:

 

          Awgrym i ystyried codi dau dŷ yn hytrach na thri, fyddai’n rhyddhau lle parcio

It was suggested that two three dwellings be erected instead of three two, which would release parking spaces

 

5.

CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 pdf eicon PDF 1 MB

Cymuned: Llanberis a Nant Peris

 

Ward:  Llanberis

 

Bwriad: Gorchymyn Cyngor Gwynedd (amryw ffyrdd Sirol, Ardal Arfon) (Cyfyngiad cyflymder 30 M.Y.A.) 2023

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cymeradwyo cadw cyfyngiad cyflymder yn 30mya ar ddarn o’r ger Pendre Castell ar y A4086 a chadw cyfyngiadau cyflymder yn 30mya ar y A4086 rhwng maes parcio a theithio Nant Peris a Pont Gwastadnant

 

Cofnod:

Cymuned: Llanberis a Nant Peris         Ward:  Llanberis

 

Bwriad: Gorchymyn Cyngor Gwynedd (amryw ffyrdd Sirol, Ardal Arfon) (Cyfyngiad    cyflymder 30 M.Y.A.) 2023

 

a)    Adroddwyd bod Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru ar 13 Gorffennaf 2022 yn dilyn penderfyniad Senedd Cymru. Cyn 17 Medi 2023, dylai awdurdodau lleol ystyried pa ffyrdd cyfyngedig a ddylai aros yn 30mya. I’r perwyl hynny, roedd y Cyngor wedi cyflwyno gorchymyn 30mya ar gyfer ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd gyda gorchymyn ardal Arfon yn cynnwys bwriad i gadw’r cyfyngiad cyflymder yn 30mya ar 37 rhan o ffyrdd yr ardal.

 

Ymgynghorwyd ar y Cynllun 20mya arfaethedig gyda rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr 2022 fel rhan o’r broses cyn ymgynghori lle derbyniwyd sylwadau a chyflwynwyd newidiadau i’r cynlluniau. Ymgynghorwyd ymhellach gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd gyda’r cynlluniau diwygiedig yn Ebrill 2023. Yn mis Gorffennaf 2023, fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, derbyniwyd e-bost yn nodi gwrthwynebiad i’r gorchymyn i ddwy ran o Ffordd Dosbarth 1 A4086 gan Cyngor Cymuned Llanberis (er nad oedd rhesymau dros y gwrthwynebiadau wedi eu cyflwyno).

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau, nodwyd bod y Swyddogion o’r farn y dylai rhannau hyn o’r ffordd aros yn 30mya oherwydd bod y ffordd yn ffordd Dosbarth cyntaf, bod y nifer o dai ar ymyl y ffordd yn llai na 20 adeilad/km a bod tai sydd heb ffordd mynediad preifat o’r ffordd fawr ar un ochr i’r ffordd yn unig ac effaith ar wasanaethau brys. Ategwyd bod y ffyrdd dan sylw yn 30mya ar hyn o bryd ac felly nid yw'r gorchymyn yn cynnig unrhyw newid i'r sefyllfa bresennol ar y ffordd. Er bod swyddogion yn llwyr ddeall dymuniadau Cyngor Cymuned Llanberis, nid yw’r dymuniadau hynny’n cyd-fynd â chanllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod. Er hynny, bydd yr Uned Draffig yn parhau i fonitro traffig ar y rhannau yma o’r ffordd gyda’r bwriad o adolygu’r penderfyniad ymhen 6 mis.

 

Ategwyd bod gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi eu hystyried wrth asesu’r bwriad.

 

a)   Cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r eithriadau

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod:

·         Byr iawn yw rhannau yma o’r ffyrdd felly cadw i 20mya er diogelwch

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gosod darn byr o 30mya ar Ffordd Pentre’ Castell cyn gostwng ymhellach i 20mya, nodwyd bod yr Uned Draffig wedi ystyried bod mynd i lawr o 60mya i 20mya yn ormod o gam ac felly bod ‘byffer’ byr o 30mya wedi ei osod er mwyn gostwng cyflymdra yn raddol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cadw cyfyngiad cyflymder yn 30mya ar ddarn o’r ger Pendre Castell ar y A4086 a chadw cyfyngiadau cyflymder yn 30mya ar y A4086 rhwng maes parcio a theithio Nant Peris a Pont Gwastadnant

 

 

 

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

7.

Cais Rhif C21/1220/42/LL Morlais Lôn Penrallt, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6EP pdf eicon PDF 478 KB

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu – amodau

1. Amser

2. Yn unol â chynlluniau

3. Deunyddiau

4. Cynllun Rheoli Adeiladu

5. Materion Bioamrywiaeth

6. Materion yn ymwneud a’r clogwyn

7. Gwarchod y llwybr cyhoeddus

8. Tynnu hawliau PD

8. Withdrawal of PD rights

 

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni

            Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad.

 

Nodwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le ynghyd a gwaith i sefydlogi clogwyni arfordirol. Yn allanol, byddai’r tŷ newydd yn cynnwys to crib o orffeniad zinc tywyll a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o fyrddau coed ar y llawr uchaf a charreg naturiol ar y lloriau is. Nodwyd bod y safle a’r adeilad presennol wedi ei leoli wrth droed clogwyn Traeth Nefyn a'r clogwyni wedi eu dynodi fel Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA) Clogwyni Pen Llŷn a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDDGA) Porthdinllaen i Borth Pistyll. Ategwyd bod y safle y tu allan i ffin ddatblygu gyfredol Nefyn gyda mynediad at y safle ar hyd y traeth yn ogystal â llwybr cyhoeddus sydd yn arwain i lawr o ben y clogwyn heibio’r safle ac ymlaen at y traeth islaw.

 

Eglurwyd bod y safle presennol yn cynnwys tŷ sydd yn dyddio’n ôl i ddiwedd yr 1960’au/dechrau’r 1970’au ac o ffurf sydd yn cynnwys toeau gwastad ac yn cyfleu edrychiadau o’r cyfnod. Mae’r safle a’r ardal ehangach oddi mewn dynodiad Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli a  thu allan i barth llifogydd cyfagos sydd yn berthnasol i’r traeth yn unig. Nodwyd bod elfennau o’r cynnig wedi ei diwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol o ganlyniad i sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cynnwys  gorffeniadau allanol yr adeilad yn dilyn sylw gan yr Uned AHNE (er nad yw’r safle o fewn yr AHNE, ystyriwyd y rhain fel sylwadau cyffredinol).

 

Ategwyd, yn wreiddiol, bod rhan o’r cynnig yn golygu gwyro’r llwybr cyhoeddus presennol sydd yn rhedeg heibio’r safle a’i ail leoli i fod ymhellach o’r adeilad. Yn dilyn trafodaethau ynghyd a derbyn sylwadau ar y cynnig gan Uned Hawliau Tramwy’r Cyngor, Cyngor Tref Nefyn ac aelodau’r cyhoedd, penderfynwyd bod y cynnig yn rhy ddadleuol ac felly'r llwybr yn aros fel y mae. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan yr Aelod Lleol am y rhesymau ei fod yn orddatblygiad o’r safle, y byddai’n creu ansefydlogrwydd i’r clogwyni ac effaith andwyol ar yr ardal.

Yng nghyd-destun polisïau perthnasol, cyfeiriwyd at ofynion polisi PS 5 sy’n nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir ac isadeiledd yn effeithiol, gan flaenoriaethu ailddefnyddio tir ac adeiladau a ddefnyddiwyd o’r blaen, lle bynnag bo hynny’n bosib. Yn yr achos yma, mae tŷ presennol yn bodoli a’r safle eisoes wedi ei ddatblygu ac felly mae’r bwriad yn bodloni gofynion cyffredinol polisi PS 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Ategwyd bod Polisi TAI 13 y CDLI  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0432/11/LL Helipad, Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2PW pdf eicon PDF 433 KB

Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dau lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau  glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud â'r materion canlynol:

  1. Amser (5 mlynedd)
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad a Datganiad Dull Coedyddiaeth a’r Gwerthusiad Ecolegol
  4. Amod Dŵr Cymru er amddiffyn y system garthffosiaeth

 

Nodiadau

1.    Dŵr Cymru

2.    Cyfoeth Naturiol Cymru

3.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol ac adeiladu dwy lanfa newydd i gefnogi'r yr Ysbyty presennol. Bydd y gwaith yn cynnwys ailraddio'r dirwedd feddal i gynnwys ffordd fynediad newydd, padiau glanio yn cynnwys yr holl ddraenio dŵr wyneb, marciau a rhwystrau  glanio wedi'u goleuo, ffensys diogel newydd a llociau i gynnal yr hofrenyddion.

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu cyfleuster glanio newydd ar gyfer hofrenyddion ger Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Byddai’r  gwaith yn cynnwys;

·         cael gwared ar y pad glanio hofrennydd presennol

·         creu dwy lanfa newydd trwy:

o   ailraddio'r dirwedd gan greu dau arglawdd gyda llain wastad siâp cylch y tu cefn iddynt

o   gosod lleiniau caled ar gyfer padiau glanio

o   gwaith draenio dŵr wyneb

o   gosod rhwystrau glanio newydd wedi’u goleuo

o   codi ffensys diogelwch

o   creu llociau i gynnal yr hofrenyddion

o   gwaith peirianyddol cysylltiedig.

 

Eglurwyd bod y llain glanio wedi ei leoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r ysbyty, ar lain o dir llethrog mewn safle dyrchafedig uwchben y ddinas, sydd, yn ôl yr Awdurdod Hedfan Sifil, yn cynnig llwybrau hedfan da i mewn ac allan o dir yr ysbyty. Saif yr ysbyty ar gyrion deheuol Canolfan Isranbarthol Bangor ym maes dref Penrhosgarnedd. Mae’r safle hefyd yn rhannol o fewn parth clustogi Heneb Gofrestredig Crug Goetre Uchaf.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, ystyriwyd fod y cynllun ar gyfer gwella gwasanaeth hanfodol a gynigir ar gyfer cymunedau Gwynedd yn cwrdd gyda meini prawf  maen Prawf 1 Polisi ISA 2 y CDLl ac felly bod egwyddor y cais yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol, nodwyd y byddai’r datblygiad hwn mewn lleoliad cuddiedig o’r rhan fwyaf o welfannau cyfagos. Mae llwybr cyhoeddus Rhif 39 Cymuned Bangor yn rhedeg heibio ffin ogleddol y safle ond mae gwrych aeddfed rhwng y llwybr hwn a’r safle. Mae'r rhan fwyaf o'r golygfeydd o’r safle o bell ac yng nghyd-destun y safle datblygedig presennol a’r ysbyty gerllaw. Wrth ystyried y tirlun lleol a’r coed a gwrychoedd presennol sy’n amgylchynu’r safle, ni fydd newid arwyddocaol i olwg y safle fel y’i gwelir o’r tu allan.

 

Nodwyd bod potensial y bydd sŵn ac ymyrraeth ddeillio o gyfleuster o’r math yma ond nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol waeth na’r hyn sydd eisoes yn digwydd. Ni fydd cynnydd arwyddocaol yn nefnydd y safle, ond yn hytrach defnydd mwy effeithlon gyda’r drafnidiaeth sydd angen defnyddio’r lleiniau glanio, yn enwedig mewn achos argyfwng pan fydd mwy nag un hofrennydd angen glanio mewn cyfnod byr o amser.

 

Amlygwyd bod y safle oddeutu 200m o’r tai preswyl agosaf ac ni ystyriwyd y bydd niwed ychwanegol arwyddocaol i fwynderau preswylwyr lleol yn deillio o'r datblygiad ac felly'r cynnig yn dderbyniol dan ofynion polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, nodwyd bod asesiad ecolegol o’r safle wedi ei gyflwyno oedd yn dod i’r casgliad nad oes diddordeb bioamrywiaeth arbennig i’r safle ei hun er bod y ffiniau o arwyddocâd ar gyfer bywyd gwyllt yn bwysig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C22/1169/15/LL Llyfrgell Llanberis, Ffordd Capel Coch, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4SH pdf eicon PDF 351 KB

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu – amodau :

  1. Rhaid dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd
  2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
  3. Amod er sicrhau bod y tai yn aros yn fforddiadwy yn barhaol
  4. Llechi to
  5. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  6. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd
  7. Amod Dŵr Cymru
  8. Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r datblygiad

 

Nodyn:  Dŵr Cymru

             Draeniad cynaliadwy

 

Cofnod:

Dymchwel yr hen lyfrgell ac adeiladu tri thŷ fforddiadwy canolradd newydd.

            Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 05-09-23

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r pwyllgor cynllunio a gynhaliwyd  Gorffennaf 17eg 2023. Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad ar y pryd er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad.

 

Adroddwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel cyn llyfrgell Llanberis a chodi tri annedd fforddiadwy “canolradd” ( dau dŷ pâr gyda dwy lofft ac un cartref ar wahân gyda thair llofft) yn ei le. Caewyd y llyfrgell yn 2017 ac mae'r safle, sydd o fewn ardal breswyl Canolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir yn y CDLl wedi bod yn segur ers hynny. Gwasanaethir y safle gan Ffordd Capel Coch, sydd hefyd yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Dolbadarn. Cyfeiriwyd at y bont droed dros Afon Coch sydd tua chefn y safle sy’n cysylltu gyda Stad Glanrafon - dros y blynyddoedd diwethaf cwblhawyd gwaith lliniaru yn erbyn llifogydd i lannau’r afon yn sgil llifogydd sylweddol yn 2012.

 

Cyflwynwyd y datblygiad gan Cyngor Gwynedd fel rhan o gynllun “Tŷ Gwynedd”.  Byddai’r tai yn cael eu cynnig i’w prynu neu rentu am bris sy’n fforddiadwy i bobl leol.

 

Tynnwyd sylw at y nifer o wrthwynebiadau i’r cynllun oherwydd bod problemau parcio eisoes yn bodoli ar Ffordd Capel Coch sy’n achosi drwg deimlad ymysg trigolion gyda phryder y byddai creu tri thŷ yn y lleoliad yn gwaethygu’r sefyllfa. Yn ogystal mae pryderon ynghylch y perygl i ddefnyddwyr y stryd, gan gynnwys plant sy’n mynychu’r ysgol gyfagos, o’r cynnydd mewn trafnidiaeth.

 

Er gwaetha’r pryderon, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad mewn egwyddor er iddynt nodi na fyddent yn gefnogol o greu mannau parcio ar y stryd. Amlygwyd bod gofod parcio preifat ar gyfer pob eiddo newydd yn y cynlluniau ac y byddai lle ar gyfer tri char barcio ar y ffordd o flaen y datblygiad yn parhau i fod mewn lle. Ategwyd  bod y safle, tan yn ddiweddar, wedi bod yn llyfrgell gyhoeddus yn denu trafnidiaeth ynddo’i hun. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad  ynddo’i hun yn gwaethygu’r sefyllfa barcio ar y stryd o’i gymharu â’r hyn a fyddai’n gallu digwydd dan ddefnydd cyfreithlon presennol y safle. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai’r drafnidiaeth a achosir gan dri thŷ yn achosi perygl uwch i ddefnyddwyr y stryd na’r hyn a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y llyfrgell.

 

Yng nghyd-destun pryderon llifogydd cyflwynwyd Asesiad Canlyniad Llifogydd (ACLl) gyda’r cais mewn ymateb i sylwadau cychwynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nodwyd bod canfyddiadau’r Asesiad Canlyniad Llifogydd a’r broses modelu a ddilynwyd yn cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio gyda gofynion y NCT 15 cyfredol, yn benodol y meini prawf a osodir gan Atodiad 1 y NCT. Yn ogystal roedd yr  ACLl yn cynnig cyfres o fesurau lliniaru er gwella gwytnwch y datblygiad rhag llifogydd.

O ganlyniad,  ystyriwyd  fod y bwriad yn dderbyniol ar sail  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU pdf eicon PDF 432 KB

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)            Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar wahân gyda gwaith cysylltiol. Bydd balconi allanol i’w gynnwys ar ran o lawr cyntaf edrychiad de ddwyrain y tŷ sef yr edrychiad fyddai’n edrych i ffwrdd o unrhyw eiddo cyfagos. Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion.

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.

Eglurwyd bod y safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Mae’r bwriad felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI).

 

Mae gofynion polisi TAI 15 yn nodi fod rhaid sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Yn ddibynnol ar raddfa datblygiadau, disgwylir cyfraniad tuag at ddarpariaeth tai fforddiadwy yn unol â throthwy a adnabyddir ar gyfer aneddleoedd y Sir. Yn achos pentref Edern, sydd wedi ei adnabod fel pentref gwledig/arfordirol/lleol, y trothwy yw 2 neu fwy o unedau.  Gan fod y bwriad hwn yn cynnig darparu 1 tŷ o’r newydd yn unig nid yw’n cwrdd â’r trothwy yma ar gyfer ystyried darpariaeth fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd, yn bresennol bod y safle yn cynnwys siediau diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o fewn y llain. Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd, bod yr adeilad wedi ei ddiwygio o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Mae’r tŷ newydd wedi ei leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu, ac er bod hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyrir fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Mae uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle wedi ei amgylchynu, i gyfeiriad y de-orllewin, gogledd a'r gogledd-orllewin gan dai annedd gyda thiroedd agored yn ymestyn heibio ffin deheuol/de-ddwyreiniol y safle. Mae elfennau o or-edrych eisoes yn bodoli oherwydd lleoliad yr adeiladau presennol. Mae tyfiant o goed/perthi o fewn yr ardd a gerddi cyfagos sydd yn lleihau rhywfaint ar yr effaith. Credir fod ymgais gwirioneddol wedi ei wneud i leihau’r effaith o’r hyn a gyflwynwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.