Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2023 /24 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I
AIL ETHOL SHARON WARNES YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2023 /24 COFNODION: PENDERFYNWYD ail ethol Sharon
Warnes yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023
/24 |
|
ETHOL DIRPRWY GADEIRYDD Penderfyniad: PENDERFYNIAD: I AIL-ETHOL EIFION JONES YN DDIRPRWY GADEIRYDD Y PWYLLGOR
HWN AR GYFER 2023/24 COFNODION: PENDERFYNWYD ail
ethol H Eifion Jones yn is ddirprwy'r Pwyllgor hwn ar gyfer 2023 / 24 |
|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Angela Russell Croesawyd Carys
Edwards (Aelod Lleyg) i’w chyfarfod cyntaf. Cydymdeimlwyd a Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol – Cyfrifeg a Phensiynau) oedd wedi colli ei
thad yn ddiweddar. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Carys Edwards – Aelod Lleyg Eitem 11: Atodiad 12 - Manddaliadau
oherwydd ei bod yn denant mewn un o fanddaliadau’r
Cyngor. Roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly gadawodd y cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar y pwnc. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 26 Ionawr 2023 a 9fed o Chwefror 2023 fel rhai cywir |
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR I ystyried
cynnwys yr adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod
yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU Rhoi diweddariad
i’r
pwyllgor
ar raglen
waith
Chwarter
4 Archwilio
Cymru
ynghyd
a Chrynodeb
Archwilio
Blynyddol
2022 a Chynllun
Archwilio
Amlinellol
2023 sydd
wedi
eu cyhoeddi
yn
ddiweddar. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: COFNODION: Croesawyd
Alan Hughes ac YvonneThomas (Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno’r
adroddiadau canlynol Rhaglen
Waith Chwarter 4 Archwilio Cymru Cyflwynwyd
diweddariad ar raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru hyd ddiwedd Mawrth 2023. Amlygwyd bod
adroddiad drafft yn crynhoi’r gwaith archwilio a gwblhawyd ers y Crynodeb
Archwilio Blynyddol wedi ei gyhoeddi
Mawrth 2023. Cadarnhawyd bod Datganiad o Gyfrifon 2021 -22 y Cyngor
wedi derbyn barn ddiamod ar 31ain Ionawr 2023 Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur ac er
llithriad yn nhrosiant staff bod y gwaith yn parhau er bod yr amserlen hefyd
wedi llithro rhywfaint. Crynodeb
Archwilio Blynyddol 2022 Cyflwynwyd adroddiad oedd yn crynhoi archwiliad ar
gyfer Cyngor Gwynedd oedd yn amlygu gwaith a gwblhawyd ers Crynodeb Archwilio a
gafodd ei gyhoeddi Ionawr 2022. Nodwyd bod yr archwiliad yn rhan o
ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Amlygwyd bod y gwaith a gyflawnwyd yn cwmpasu
dyletswyddau megis gwelliant parhau, archwilio cyfrifon, sicrhau gwerth am
arian ac asesu i ba raddau mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio a’r dyletswydd
datblygu gynaliadwy. Cyfeiriwyd at rai prosiectau penodol a adolygwyd. Yng
nghyd-destun adolygiad o Reoli Perfformiad daethpwyd i’r casgliad bod gan y
Cyngor fframwaith rheoli perfformiad sydd yn datblygu’n dda er bod gweithredu
amrywiol ar y broses ar hyn o bryd yn anodd
llywio’r broses adrodd. Diolchwyd am yr adroddiad clir ac hunanesboniadwy. Cynllun
Archwilio Amlinellol 2023 Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru yn nodi’r
gwaith maent yn bwriadu ei wneud yn ystod 2023 fel modd o gyflawni eu
cyfrifoldebau statudol fel archwilydd allanol y Cyngor ac yn unol â’u rôl o dan
Còd Ymarfer Archwilio. Nodwyd bod y cynllun yn cynnwys llinell amser archwilio
gan dynnu sylw y byddai Cynllun Archwilio Manwl 2023 yn cael ei gwblhau erbyn
Medi 2023 – o ganlynaid i gyflwyniad o addasiadau i drefniadau gofynion
Archwilwyr sydd yn cynnwys gwaith pellach mewn asesu risg cyn cyflwyno
datganiadau. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai gofynion newydd yr
Archwilwyr yn rhoi mwy o bwysau ar staff y Cyngor, nodwyd mai adnoddau
Archwilio Cymru fydd yn cael eu defnyddio i adnabod risgiau a chynllunio ac
felly bydd gofyn efallai am yr angen am gydweithio pellach. Ategwyd bydd y gwaith o adnabod risgiau yn
cymryd blaenoriaeth. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiadau |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 I ddiweddaru y Pwyllgor ar y cynnydd yn y rhaglen waith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: COFNODION: Cyflwynwyd diweddariad gan Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol (Swyddog Monitro) ar raglen waith gweithredu Deddf Llywodraeth Leol
Etholiad (Cymru) 2021. Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o gamau gweithredu yn
deillio o ddarpariaethau’r Ddeddf a ddaeth i rym yn 2022 yn dilyn Cydsyniad
Brenhinol. Nodwyd bod y Ddeddf wedi ei gosod o fewn Cofrestr Risg Corfforaethol
y Cyngor gyda’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cadw trosolwg a sicrwydd ar
y gweithredu sydd ei angen i weithredu’r darpariaethau. Amlygwyd bod prif elfennau’r Ddeddf wedi eu
mabwysiadu a bellach yn weithredol ynghyd a’r Strategaeth Cyfranogiad a’r
Cynllun Deisebau wedi eu mabwysiadu ac yn cael eu gosod ar wefan y Cyngor. Ategwyd
bod y gwaith ar baratoi Canllawiau i'r Cyfansoddiad drafft yn cael eu cwblhau
ac y bydd angen cynnal proses ymgynghorol cyn y gellid cyhoeddi fersiwn derfynol. Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Ddeddf yn darparu dewis
trefn bleidleisio ‘pleidlais sengl drosglwyddadwy’ (Single
Transferable Vote -
STV) ar gyfer etholiadau Prif Gynghorau
ac fe ddarparwyd papur briffio ar gyfer Arweinyddion Grwpiau ar y mater
yma. Nodwyd bod bwriad cynnal gweithdy
i’r holl aelodau ym Mehefin 2023 i drafod y nifer materion sydd yn datblygu ar
draws maes etholiadau a phleidleisio, fydd yn cynnwys yr elfen yma. Yn dilyn
hyn, bydd angen adrodd ar drefn pleidleisio i'r Cyngor Llawn yn ystod yr Hydref
er gwyntyllu'r dewisiadau a cheisio arweiniad ar ddymuniad i gychwyn proses ystyried
mabwysiadau trefn amgen. Elfen olaf y gwaith fydd cwblhau gwaith diweddaru
ac addasu'r Cyfansoddiad (er bod
diweddariadau angenrheidiol eisoes wedi eu mabwysiadau a’u cyhoeddi).
Eglurwyd bod materion technegol angen eu cwblhau (megis materion o gwmpas y Cyd
Bwyllgor Corfforaethol) a chyfle hefyd i adolygu a diweddaru cynnwys y
Cyfansoddiad yn gyffredinol. Y bwriad yw cwblhau'r gwaith yn derfynol erbyn yr
Hydref gydag adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor am arweiniad ar
elfennau penodol. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag apwyntio
‘panel’ (o drigolion a budd-ddeiliaid) ar gyfer cynnal asesiad perfformiad y
Cyngor fydd yn cyfarfod unwaith bob tymor i adolygu gwaith y Cyngor, nodwyd bod
y ddarpariaeth mewn grym. Ategwyd mai’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio sydd
a’r rôl ganolog i dderbyn adroddiadau ar berfformiad, ac y bydd disgwyl i’r
adborth o’r panel gael ei fwydo i mewn i gyfundrefn perfformiad y Cyngor fel
bod modd i'r Pwyllgor ei ystyried cyn cyflwyno i’r Cabinet. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â pharatoi
canllawiau i’r Cyfansoddiad ac os mai ‘dogfen i egluro dogfen’ fydd hyn, nododd
y Swyddog Monitro bod y Cyfansoddiad yn ddogfen weithredol o tua 300 tudalen ac
y byddai’r ddogfen yn grynodeb fyddai’n cynnwys prif agweddau’r
Cyfansoddiad wedi ei hysgrifennu mewn
dull llai technegol, yn egluro trefniadau’r Cyngor ynghyd ag elfennau llywodraethiant a gweithredol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag annog cyfranogiad ac i ba raddau bydd hyn yn rhedeg yn gyfochrog a threfniadau Democratiaeth, nododd y Swyddog Monitro mai amcan Llywodraeth Cymru oedd creu cyswllt perthnasedd llywodraeth leol gyda’r gymuned - bod y rhai hynny sydd gydag elfen o ddiddordeb yn ... view the full COFNODION text for item 9. |
|
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL I ystyried
a chymeradwyo’r Siarter Penderfyniad: COFNODION: Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y
Sector Gyhoeddus 2013 (diwygiedig 2017)
rhaid llunio Siarter Archwilio Mewnol gyda chynnwys y Siarter yn cyfarch Nodyn
Gweithredu Llywodraeth Leol (2019) a gyhoeddwyd gan CIPFA. Cyflwynwyd Siarter Archwilio Mewnol Gwynedd
gan y Rheolwr Archwilio gan nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yw cymeradwyo’r
siarter yn flynyddol. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw ynglŷn â threfniadau ar
gyfer osgoi buddiannau gwrthdaro a / neu gwblhau gwaith
ar wahân i waith sicrwydd, nododd y Rheolwr Archwilio, os, er enghraifft
byddai’r Uned Archwilio yn rhoi mewnbwn i sefydlu system newydd, anodd fyddai
archwilio’r maes os eisoes wedi bod yn rhan o’r broses sefydlu. Bydd yr Uned
felly yn ceisio sicrhau, os oes archwilydd wedi bod yn rhan o’r gwaith
ymgynghorol, bod archwilydd arall yn gwneud y gwaith archwilio er mwyn osgoi
gwrthdaro. Awgrymwyd, i’r dyfodol, cynnwys yr eglurhad yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad a chymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL I ystyried a derbyn yr adroddiad hwn
ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 25 Ionawr 2023 hyd 31 Mawrth 2023,
sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau
cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
-
Cynllunio – Trefniadau
Cyfathrebu -
Mesurau Diogleu Amddiffyn
Rhyddid -
Manddaliadau Nodyn: Atodiad 10 Trefniadau Recriwtio a Dargadw Staff. Camau
gweithredu. Pwynt bwled 3 ‘Symud y system ffurflenni gadael i system
Hunanwasaneth y Cyngor ond parhau i flaenoriaethu cyfweliadau wyneb yn wyneb
fel modd o ganfod rhesymau unigolion dros adael eu swyddi’ COFNODION: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn
diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 25 Ionawr 2023 hyd
31 Mawrth 2023. Amlygwyd bod 12 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu
cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel
sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig. Cyfeiriwyd at bob
archwiliad yn ei dro. Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol · Cynllunio – Trefniadau Cyfathrebu – Cyfyngedig -
Bod perfformiad y gwasanaeth
yn annigonol wrth ymateb i geisiadau cynllunio -
Nad yw gorfodaeth cynllunio yn
digwydd -
Yng nghyd-destun
penderfyniadau cynllunio wedi eu gwneud o fewn 8 wythnos, er bod 70% o’r
ceisiadau a wiriwyd wedi derbyn penderfyniad o fewn yr 8 wythnos, bod angen mwy
o wybodaeth a manylder am y 30% arall -
Bod yr adroddiad yn siomedig,
ond nid yn syndod. Er bod yr adroddiad
yn nodi problemau cyfnod covid a phroblemau recriwtio, pa mor ffyddiog yw’r
Uned Archwilio y gall y Gwasanaeth Cynllunio weithredu yn effeithiol? -
Awgrym bod trefniadau
gorfodaeth yn cael ei ystyried fel maes i’w archwilio Mewn
ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Archwilio mai’r Rheolwr Cynllunio oedd
wedi cynnig y camau gweithredu ac felly
bod pryderon megis adnoddau staffio wedi eu hystyried wrth drafod yr adroddiad
drafft a’r cynllun gweithredu gyda’r archwilwyr. · Trefniadau Clefyd Coed Ynn -
Y dylai risgiau i bobl a
cherbydau uchafu risgiau i fioamrywiaeth yng nghyd-destun clefyd yr Onnen · Trefniadau Recriwtio a dargadw Staff -
Yn croesawu bod yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bwriadu sefydlu cyfweliadau gadael a bod hyn i’w
wneud drwy’r system hunanwasanaeth. Hyn yn gyfle da i ddeall a gwella amodau
gwaith, yn rhan o ymarfer da ac yn gyfle i unigolion fynegi barn heb
oblygiadau. -
Argymell bod yr archwilwyr yn
dychwelyd at y Gwasanaeth i awgrymu cynnal cyfweliadau personol -
Er yn derbyn nad yw cynnal
cyfweliadau personol bob amser yn bosib a bod hunanwasanaeth yn cynnig
amgylchiadau gwell, awgrym rhoi dewis i’r unigolyn. -
Mai proses fiwrocrataidd sydd
yma o hwyluso proses - dim gorfodaeth i gwblhau cyfweliad ar system -
gwirfoddol yn unig. Fel cyflogwr mawr, dylai’r Cyngor wneud defnydd o gynnal
cyfweliadau personol fyddai yn darganfod problemau a ffyrdd o’u datrys. Mewn
ymateb, cynigodd y Rheolwr Archwilio wneud darn o waith ychwanegol ar
‘gyfweliadau gadael’ ac adrodd nôl i’r Pwyllgor. Ategodd bod yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol yn ceisio gwell trefniadau gyda chyfweliadau gadael –
angen ystyried cyfweliadau personol fel cyfle da i dderbyn adborth,
derbyn cyfarpar a ‘chwblhau’r’ gyflogaeth · Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid -
Pryder diffyg staff a defnydd
staff asiantaethau all arwain at gosb ariannol -
Bod disgwyl i swyddogion BIA
gynnal asesiadau yn eu ‘hamser eu hunain’ yn annerbyniol Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio mai’r dymuniad yw i staff BIA neilltuo amser
i gwblhau’r gwaith DoLS gan ddefnyddio’r elfen goramser - nid oes disgwyliad
iddynt ei wneud am ddim · Manddaliadau -
Bod yr adroddiad yn siomedig
ac nad oedd y sefyllfa wedi gwella o gwbl dros y 5 mlynedd diwethaf - Nad oedd yn cael ei ... view the full COFNODION text for item 11. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2022/2023 I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
-
Aelodaeth i gynnwys Sharon
Warnes (Cadeirydd), Eifon Jones (Is gadeirydd). Rhys Parry, Meryl Roberts a
Carys Edwards yn gwirfoddoli eu hunain COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio Mewnol ar amgylchedd rheolaethol gyffredinol o fewn yr
Awdurdod yn ystod 2022/23 gan ddarparu cyfryw farn archwilio mewnol blynyddol
i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod yn llwyr ac y mwyaf y gall
gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi cyngor rhesymol nad oes
gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol. Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn
ystod 2022/2023, ystyriwyd bod
fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol
2020/2021 yn gweithredu ar lefel sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a
rheolaeth fewnol. Roedd 41 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun
archwilio addasedig terfynol 2022/2023. Cafodd 40 o aseiniadau eu cwblhau erbyn
31 Mawrth 2023, sy’n cynrychioli 97.56% o’r cynllun. O’r adroddiadau perthnasol
o gynllun archwilio 2022/2023 a dderbyniodd lefel sicrwydd, derbyniodd 77.14%%
ohonynt lefel sicrwydd “Digonol” neu “Uchel. Ers 1 Ebrill 2021, roedd 7 aelod llawn amser i’r
Tîm Archwilio Mewnol ac un Uwch Archwiliwr Dros Dro. Nodwyd bod arian wedi ei neilltuo
i ariannu’r adnodd ychwanegol i’r Gwasanaeth weithredu archwiliadau pan fydd
cyfyngiadau’r argyfwng yn llacio, fel yr adroddwyd gan y Pennaeth Cyllid i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 11/02/2021. Yng nghyd-destun Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a
Gwelliant, nodwyd bod cyrff y sector gyhoeddus yn adolygu eu gweithdrefnau
archwilio yn erbyn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus (PSIAS) o leiaf
unwaith bob pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r hunanasesiad yn erbyn y safonau a’r
Nodyn diwygiedig i Lywodraeth Leol (2019) yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu yn ystod 2023/2024. Diolchwyd am yr adroddiad. Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Croesawu adroddiad manwl ·
Llongyfarch yr Uned ar gwblhau
97.5% o’r archwiliadau - hyn yn gynnydd sylweddol o 2021/22 ·
Angen gwell cydweithio a
chefnogaeth adrannau i gynyddu cyfran gweithrediadau cytunedig - angen ail
sefydlu’r Gweithgor Gwella Rheolaethol ·
Os nad oes ymateb i’r
gweithrediadau cytunedig yna cais am adroddiad pellach i'r Pwyllgor wneud
penderfyniad o alw gwasanaeth i mewn i drafod - pwysig bod y pwyllgor yn
cefnogi hyn ·
Awgrym bod yr adroddiad diffyg
ymateb i’r gweithrediadau yn cael ei gyfeirio at yr Aelod Cabinet - cyfle i
drafod yng nghyfarfodydd chwarterol herio perfformiad ·
Grym gan y Pwyllgor i herio
perfformiad - byddai ail sefydlu gweithgor yn fuddiol iawn i symud pethau
ymlaen ·
Bod angen codi ymwybyddiaeth
Penaethiaid Adrannau i waith Archwilio Mewnol Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r nifer
archwilwyr sydd yn gweithio ar bob archwiliad, nodwyd bod un archwilydd yn
gweithio ar archwiliad ac yn atebol i arweinydd fydd yn adolygu’r drefn ac yn
monitro ansawdd yr archwiliad. Eithriad
fyddai cael mwy nag un yn gweithio ar archwiliad. Ategwyd bod y tîm yn
cydweithio yn dda iawn. Diolchwyd i Bleddyn Rhys ac Eva Chan am gamu fyny yn
ystod absenoldeb salwch Luned. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y
flwyddyn ariannol 2022/23 ·
Ail sefydlu
Gweithgor Gwella Rheolaethau. - Aelodaeth i gynnwys Sharon Warnes ... view the full COFNODION text for item 12. |
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2023/2024 I ystyried cynnwys y
Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol 2023/2024, ei
gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol i gyflawni ei rôl. Penderfyniad: COFNODION: Cyflwynwyd, yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol
y Sector Gyhoeddus, gynllun yn seiliedig ar risg i bennu blaenoriaethau’r
gweithgarwch Archwilio Mewnol sydd yn gyson ag amcanion y Cyngor. Eglurwyd bod
y cynllun gyda hyblygrwydd i sicrhau rhydd sylw i unrhyw faterion a ddaw i’r
amlwg, bydd unrhyw addasiadau /
newidiadau i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor. Cyfeiriwyd at ddefnydd methodoleg
AGILE sydd yn darparu modd hyblyg a dynamig i Gynllun Archwilio Mewnol o ganlyniad
i fonitro risg yn barhaus. Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Archwilio Mewnol a’r
Cynllun Archwilio Blynyddol |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2022/23 – ALLDRO REFENIW I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt
cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: • Nodi’r risgiau perthnasol • Cefnogi argymhelliad i’r Cabinet (13
Mehefin 2023) gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen; i gymeradwyo’r holl
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol COFNODION: Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid byddai’r adroddiad
yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet 13 Mehefin 2023 a bod angen i’r Pwyllgor graffu
a chynnig sylwadau ar y sefyllfa cyn hynny. Gosodwyd cyd-destun yr adroddiad gan y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau. Nodwyd bod yr adroddiad yn
manylu ar wariant y Cyngor yn 2022/23, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant
yr adrannau unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at grynodeb o sefyllfa
derfynol yr holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol ynghyd a’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.
Amlygwyd, ·
Ar ddiwedd y flwyddyn ceir
gorwariant o fewn saith adran, a hynny o ganlyniad i nifer o ffactorau megis
methiant i wireddu arbedion, chwyddiant cyflogau uwchlaw’r
gyllideb a phrisiau ynni cynyddol. Cyfeiriwyd at y pum adran sydd a'r
gorwariant amlycaf -
Adran Oedolion Iechyd a
Llesiant: Gorwariant o £3.9 miliwn, gyda £921 mil yn sgil thrafferthion
gwireddu arbedion. Gwelwyd defnydd
cynyddol o staff asiantaeth mewn gwahanol feysydd, pwysau ar lety cefnogol a
phecynnau taliadau uniongyrchol yn faterion yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn ac
yn Anabledd Dysgu a oedd hefyd yn cyfrannu tuag at y gorwariant. -
Adran Addysg: Gorwariant o
£1.2 miliwn. Effaith cost ychwanegol chwyddiant cymorthyddion
a staff gweinyddol o £690 mil ac effaith prisiau trydan uwch o £614 mil. Gydag
ysgolion wedi elwa o bron i £1 miliwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, defnyddir balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol o £1.304
miliwn. -
Adran Economi / Byw’n Iach. Yn
2021/22 derbyniodd Byw’n Iach werth £1.4 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
Nid oedd y cymorth ar gael yn 2022/23, ond sgil effaith ariannol Covid yn parhau ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm.
Y Cyngor felly wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd ar gyfer cefnogaeth ariannol i’r
cwmni hyd at ddiwedd 2022/23. -
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol; Gorwariant o £2.5 miliwn gyda’r maes casglu gwastraff ac
ailgylchu yn parhau i orwario. Cyfeiriwyd at wariant un-tro a phwysau cynyddol
ar gyllideb Priffyrdd erbyn diwedd y flwyddyn ynghyd a thrafferthion gwireddu
arbedion gwerth £608 mil, gyda £335 mil ohono yn y maes gwastraff. -
Adran Tai ac Eiddo: Effaith
Deddf Ddigartrefedd wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol ac er bod yr Adran
wedi derbyn £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil Covid,
mae wedi parhau i orwario o £2.5m. Disgwyli’r
i’r gorwariant yma gael ei ariannu o Gronfa Premiwm Treth y Cyngor. ·
Bod nifer o resymau tanwariant
un-tro ar nifer o benawdau Corfforaethol ·
Bod cynnydd mewn cyfraddau llog
wedi arwain at £1.3 miliwn ychwanegol, a bu llai o aelwydydd yn hawlio
gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. ·
Bod rhagdybiaethau darbodus
wrth osod cyllideb 2022/23 a newid deddfwriaethol trethiant hefyd wedi cyfrannu
at gynnyrch treth ychwanegol wrth i dai drosglwyddo yn ôl o drethi annomestig i
dreth cyngor. · Bod balansau’r ysgolion wedi lleihau £4.8m, sef o £16.7m yn 2021/22 i £11.9m yn 2022/23. Dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn ... view the full COFNODION text for item 14. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022-23 – ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2023) I dderbyn y wybodaeth, ac ystyried y risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Nodi’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi argymhelliad i’r
Cabinet (13 Mehefin 2023) gymeradwyo’r gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen
gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23 ac i gymeradwyo’r
ariannu addasedig COFNODION: Amlygodd Cyfrifydd Grŵp - Cyfalaf a Rheolaeth mai prif ddiben yr
adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol (sefyllfa 31 Mawrth 2023), a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu
perthnasol. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £142.2
miliwn am y 3 blynedd 2022/23 - 2024/25 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i
ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £1.6miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Prif gasgliadau’r adolygiad oedd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario
£37.1m yn 2022/23 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £17.1m (46%) ohono wedi’i ariannu
trwy grantiau penodol. Eglurwyd bod effaith heriau Ariannol diweddar ar y rhaglen
gyfalaf yn amlwg ac yn ychwanegol i’r
£40.8 miliwn a adroddwyd arno yn adolygiadau blaenorol 2022/23 roedd £17.4
miliwn pellach o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24,
gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys, ·
£11.8 miliwn Cynlluniau
Strategaeth Tai a Digartrefedd ·
£9.3 miliwn Cynlluniau
Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill) ·
£5.3 miliwn Adnewyddu Cerbydau ·
£5.2 miliwn Cynlluniau
Grantiau ac Eraill Tai ·
£3.5 miliwn Cynllun Hwb Iechyd
a Gofal Penygroes Yn ogystal, llwyddodd y Cyngor i ddenu grantiau
ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, oedd yn cynnwys y grantiau canlynol: ·
£2.2 miliwn - Grant Cynnal a
Chadw Ysgolion 22/23. ·
£0.3 miliwn – Grantiau gan
Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol tuag at gynllun amddiffyn yr
arfordir ym Mhorthdinllaen. ·
£0.2 miliwn - Grantiau Dechrau’n Deg a Gofal Plant gan Lywodraeth
Cymru. ·
£0.2 miliwn – Grant Cronfa Integreiddio
Rhanbarthol – addasiadau sefydliadau a hwyluso gweithio ar y cyd ag
asiantaethau eraill. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried a chraffu’r
wybodaeth cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet ei gymeradwyo 13 Mehefin 2023. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad ·
Nodi’r
risgiau perthnasol ·
Cefnogi
argymhelliad i’r Cabinet (13 Mehefin 2023) gymeradwyo’r gwariant o £37,131,000
ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23 ac i gymeradwyo’r
ariannu addasedig |
|
Cyflwyno – · Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2022/23, a · Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad I dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad Cymeradwyo:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau). Eglurwyd, gan fod y trefniant ar y cyd rhwng
Gwynedd a Môn wedi dod i ben ar 31 Mawrth, a’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y
Cyd (oedd a’r hawl i gymeradwyo’r cyfrifon terfynol) heb gyfarfod wedi’r
dyddiad yma, cyflwynwyd y cyfrifon terfynol i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Gyda throsiant y cydbwyllgor yn is na £2.5m, fe’i
hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly mae cwblhau ffurflen
datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion
statudol. Cyfeiriwyd at yr adroddiad alldro oedd yn egluro
sefyllfa derfynol incwm a gwariant y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar
gyfer 2022/23. Nodwyd bod tanwariant ar
nifer o’r penawdau, gan gynnwys £26 mil o danwariant “Gweithwyr”, £10 mil o
danwariant “Cludiant”, £31 mil o
danwariant “Costau Datblygu’r Cynllun”,
ond roedd £10 mil o “Arbedion i’w darganfod”.
Cafodd £22 mil o’r tanwariant ei drosglwyddo i’r Balansau
oedd yn rhoi balans o £201 mil ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr
allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, sydd yn sicrhau system
rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun
archwiliad Mewnol a hefyd yn destun archwiliad allanol gan Archwilio Cymru.
Ategwyd mai dim ond os bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad y
bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr. Diolchwyd am yr adroddiad. Nododd cyn Aelod o’r
Pwyllgor Polisi ar y Cyd, ac Aelod o’r Pwyllgor hwn bod y balans terfynol wedi
ei rannu yn gyfartal rhwng Gwynedd a Môn PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad ·
Cymeradwyo: -
Cyfrif
Incwm a Gwariant Refeniw 2022 / 23 -
Ffurflen
Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, yn amodol ar
archwiliad gan Archwilio Cymru -
Cadeirydd i
arwyddo’r ffurflen yn electroneg |
|
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 Cyflwyno: ·
Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw
2022/23, a ·
Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon,
wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad I dderbyn a chymeradwyo’r
cyfrifon Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad Cymeradwyo:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol - Cynaliadwyedd a Datblygiadau). Eglurwyd, yn unol â’r gofynion statudol o dan
Ddeddf Harbyrau 1964 mae’n rhaid i Wynedd, fel
awdurdod harbyrau, ddarparu datganiad cyfrifon
blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau
Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr harbyrau
yn is na £2.5m, fe’i hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly
mae cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru yn
cwrdd â’r gofynion statudol. Cyfeiriwyd at y cyfrif incwm a gwawriant, ac
amlygwyd bod £53,346 o danwariant ar ddiwedd y flwyddyn. O’r swm yma, adroddwyd
bod tanwariant ar staffio ac ar adeiladau (oherwydd llai o wariant ar gynnal a
chadw a chynnal tiroedd), ond gwelwyd gorwariant ar arwyddion, rhybuddion a chynnal cychod yn bennaf. O ran
yr incwm adroddwyd bod diffyg incwm o £3mil ar lefelau ffioedd a rhenti. Tynnwyd sylw at ffurflen safonol yr archwilwyr
allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, sydd yn sicrhau system
rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y cyfrifon eisoes wedi bod yn destun
archwiliad Mewnol a hefyd yn destun archwiliad allanol gan Archwilio Cymru.
Ategwyd mai dim ond os bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad y
bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr. Diolchwyd
am yr adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad ·
Cymeradwyo: -
Cyfrif
Incwm a Gwariant Refeniw 2022 / 23 -
Ffurflen
Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, yn amodol ar
archwiliad gan Archwilio Cymru -
Cadeirydd i
arwyddo’r ffurflen yn electroneg |