Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 216 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13 o Dachwedd 2025 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 221 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

  • Derbyn diweddariad ar eitemau 5/9/24 (cynnal sesiwn gwybodaeth ar y maes digartrefedd) a 10/10/24 (diweddariad ar argymhellion Archwiliad Gofal Brys: Llif Allan o’r Ysbyty) erbyn y cyfarfod nesaf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Derbyn diweddariad ar eitemau 5/9/24 (cynnal sesiwn gwybodaeth ar y maes digartrefedd) a 10/10/24 (diweddariad ar argymhellion Archwiliad Gofal Brys: Llif Allan o’r Ysbyty) erbyn y cyfarfod nesaf

 

 

6.

CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER pdf eicon PDF 239 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn manylder y Cynllun Ymateb
  • Yn diolch i’r Swyddogion am eu gwaith ac yn croesawu bod y Cynllun Ymateb yn cael ei drafod mewn sawl fforwm
  • Bod angen crynodeb / blaen dudalen syml a phendant o’r prif bwyntiau gweithredu
  • Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y camau sydd wedi eu gweithredu neu sydd yn cael eu hystyried fel ymateb addas a phriodol â’r sefyllfa
  • Cais gan y Pwyllgor i Estyn gydnabod gwendidau eu hadroddiad ar drefniadau diogelwch y Cyngor, Mehefin 2023
  • Bod Trefniadau Canu’r Gloch a Threfniadau Diogelu angen bod ymysg y gorau;

-   croesawu adolygiadau i’r polisïau hyn

-   angen diweddariad ar y gwaith, yr amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu

                                          

Nodyn:

Cais i adolygu paragraff olaf 2.5 o’r Cynllun Ymateb: ‘Ymchwiliad i Ddigwyddiadau 2019 sydd wedi bod yn destun sylw gan y wasg’ – angen mwy o gyd-destun am yr ymchwiliad annibynnol a gwblhawyd a beth oedd y penderfyniad dros beidio rhannu’r adroddiad / casgliadau.

Cais i osod cyd-destun i ganmoliaeth Estyn i drefniadau diogelu'r Cyngor (Mehefin 2023). Y geiriad fel y mae yn amhriodol o ystyried y methiannau a ddaethpwyd i’r amlwg yn ddiweddarach.

 

Cofnod:

Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Nia Jeffreys am y gwahoddiad i gyflwyno cynllun ymateb y Cyngor i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Fel Arweinydd, ymddiheurodd yn ddiffuant i’r dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio gan droseddau erchyll cyn Bennaeth Ysgol Friars. Ni chafodd lleisiau’r plant eu clywed a nododd yn glir bod eu profiadau a’u lleisiau yn bwysig iddi. Ategodd mai geiriau gwag fyddai ymddiheuro heb weithrediad, a’r deyrnged fwyaf gellid ei roi i ddewrder y dioddefwyr yw sicrhad ac addewid o newid;  nod y cynllun yw sicrhau na fydd methiannau o’r fath yn digwydd eto yng Ngwynedd a bod yr heriau sydd yn wynebu’r Cyngor i newid trefniadau a diwylliant yn hanfodol i fater mor ddifrifol. Nodwyd y byddai’n gwerthfawrogi sylwadau’r pwyllgor yng nghyd-destun monitro a rheoli risg y cynllun; bod tryloywder yn angenrheidiol ac yn adfer hyder ymysg y cyhoedd.

 

Eglurwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw, gyhoeddus ac y bydd cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb yn adrodd ar y cynnydd fydd yn digwydd.

 

Diolchodd am barodrwydd y Pwyllgor i drafod pwnc mor anodd, ond y byddai eu cyfraniad yn arwain at wella trefniadau diogelu'r Cyngor er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Mynegodd bod diogelu a gwarchod plant rhag niwed yn gyfrifoldeb ar bawb. Diolchodd am y cydweithio arbennig sydd wedi digwydd hyd yma gyda Sally Holland (Cadeirydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb), pawb sy’n ymwneud â’r Cynllun, gyda gwaith gwych gan sawl  Adran o’r Cyngor yn rhan o’r ymateb. Er na all un Gwasanaeth, un Adran, un grŵp gwleidyddol neu unigolyn gyflawni hyn ei hun, pwysleisiodd yr angen i gydweithio ar draws Pwyllgorau, ar draws Adrannau ac ar draws gwahaniaethau gwleidyddol, fel y gellid gwneud cynnydd gwirioneddol ac amserol mewn maes hanfodol. O ganlyniad, bydd y broses o graffu nid yn unig yn dal y Cyngor i gyfrif, ond yn cyfrannu at lunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl ifanc y Sir.

 

Awgrymodd ddychwelyd i adrodd ar gynnydd y Cynllun ymhen 6 mis i flwyddyn, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno hynny.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, fanylion ac ymarferoldeb y Cynllun Ymateb. Amlygodd bod y Cynllun Ymateb gwreiddiol wedi ei fabwysiadu gan y Cabinet (Ionawr 2025) a’i fod, fel unrhyw ddogfen fyw, wedi esblygu ers hynny. Ers cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder (Tachwedd 2025) diwygiwyd y Cynllun i fynd i’r afael â’r themâu a’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. Bydd sylwadau / ystyriaethau, gan ymgynghorai eraill, gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hwn, Pwyllgor Arbennig Craffu Addysg ac Economi, Pwyllgor Arbennig Craffu Gofal a chyfarfod Cyngor Arbennig,  yn cael eu cynnwys yn  y Cynllun Ymateb terfynol fydd i’w  gyflwyno i'r Cabinet yn ffurfiol Mawrth 2026.

 

Wrth fynd i’r afael a blaenoriaethau’r cynllun, amlygwyd mewn sefyllfaoedd lle rhaid aros i eraill weithredu bod trefniadau interim mewn lle. Adroddwyd bod saith prif thema o fewn y Cynllun Ymateb sydd yn cyd-fynd gyda’r themâu’r adroddiad a bod swyddog penodol yn arwain ar bob thema.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYLLIDEB REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 pdf eicon PDF 185 KB

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2025 o’r Gyllideb Refeniw
  • Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.  Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet Ionawr 20fed 2026.

 

Yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu gorwariant o £6.5 miliwn gan adrannau’r Cyngor, oedd yn gynnydd bychan o ragolygon Awst gyda 76% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Eglurwyd, yn dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd blaenorol, bod gorwariant sylweddol hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a bwrdeistrefol, ond tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod hynny yn lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.3 miliwn.

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

·        Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagolygon diweddaraf  yn awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg cyllidebol o £3miliwm erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion a thoriadau,  heb eu cyflawni hyd yma.

 

Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal cartref hefyd yn parhau.

 

·       Adran Plant a Theuluoedd - yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.8 miliwn, gyda meysydd megis lleoliadau all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth Derwen a Hafan y Sêr yn wynebu pwysau.

 

·        Byw’n Iach – dros y blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r rhagolygon o’r swm gofynnol erbyn diwedd y flwyddyn wedi cynyddu i £295k.

 

·        Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £492k, gydag arbedion nad ydynt yn cael eu gwireddu yn cyfrannu at y sefyllfa. Gwelwyd lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn cael effaith negyddol ar incwm  gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, amlygwyd bod cyfuniad o ffactorau, oedd yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

 

·        Adran Amgylchedd – bod diffyg cyllidebol o £685k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £617k o’r gorwariant. 

 

·        Tai ac Eiddo – tuedd o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda rhagolygon gwariant o £6.6 miliwn yn y maes eleni, o gymharu â £6 miliwn y llynedd. Y sefyllfa ariannol yn cynnwys cyllideb ychwanegol o £3m sydd wedi ei ddyrannu o bremiwm treth cyngor a chyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN GYFALAF 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 pdf eicon PDF 186 KB

I nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu penderfyniadau i’r Cabinet, a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r Cabinet eu hystyried

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Tachwedd 2025) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 20 Ionawr 2025.

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £152 miliwn am y 3 blynedd 2025/26 - 2027/28 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd  oddeutu £0.8 miliwn ers sefyllfa’r adolygiad diwethaf.

 

Ategwyd,

·        Bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £93.7 miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £48.2 miliwn (51%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·        Bod £6 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28.

·        Bod y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £4.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £3.2 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £2.8 miliwn Cynlluniau Adnewyddu Cerbydau, £1.5 miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a £1.5 miliwn Cynlluniau Gwastraff ac Ailgylchu

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr  adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys, £1miliwn – Grant  gan  Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) y Deyrnas Unedig tuag at gynlluniau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) am ddeunydd pecynnu; £0.6 miliwn – Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) gan Lywodraeth Cymru; £0.3 miliwn – Grant o Gronfa Y Pethau Pwysig gan Lywodraeth Cymru tuag at y cynllun Mwyniant Ein Arfordir a £0.3 miliwn – Grant gan Cyngor Chwaraeon tuag at gaeau synthetig.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor gan amlygu, yn unol â’r Côd Darbodus gan CIPFA, bod rhaid adrodd ar y wybodaeth - ategwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio yn llawn gyda pholisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynlluniau perthnasol sydd yn achosi’r prif newidiadau i’r ffynonellau ariannu, yn benodol ‘Ail broffilio'r elfen Prynu i Osod o'r Strategaeth Tai i gyfnod tu hwnt i'r Rhaglen Gyfalaf tair blynedd hwn i gyfnod o amgylchiadau economaidd mwy ffafriol  (Adran Tai ac Eiddo)’, a beth oedd cyd-destun ‘amgylchiadau economaidd mwy ffafriol’, nodwyd bod cynnydd mewn costau adnoddau adeiladu a graddau llog wedi golygu na ellid ariannu’r cynllun penodol yma, ond bod modd ail ymweld â’r sefyllfa os bydd gostyngiad mewn costau a llog i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw bod ffigyrau 27/27 a 27/28 yn sylweddol is na ffigyrau 25/26, cadarnhawyd bod hyn oherwydd nad oedd cynlluniau newydd wedi dod ymlaen hyd yma.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cymdeithas Peldroed Cymru wedi buddsoddi mewn Clybiau Peldroed yn y Sir (e.e,Talysarn, Porthmadog a Thywyn) ac oes oedd yr arian yn rhan o Grant Chwaraeon Cymru neu grant ar wahân, nodwyd bod yr holl grantiau a dderbyniwyd ar wahân wedi eu cynnwys, ond os oedd yr arian yn fuddsoddiad diweddar, yna bydd yn cael ei adrodd / gynnwys yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a chytuno ar yr argymhellion i’r Cabinet eu hystyried (20-01-26)

 

 

9.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 183 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Nodyn /Awgrym

Cynnig cefnogaeth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ac ystyried gwybodaeth i’r Cabinet ei dderbyn (20-01-26) a sylwebu fel bo angen.

 

Yn adroddiad Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor Llawn ar 6 Mawrth 2025, adroddwyd bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu proffilio ar gyfer cyllideb 2025/26 sydd yn gyfuniad o werth £100k wedi eu cymeradwyo o’r newydd yn 2025 a £3.4 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol. Atgoffwyd yr Aelodau, fel sydd wedi ei adrodd yn gyson yn y Pwyllgor, bod trafferthion gwireddu arbedion mewn rhai meysydd.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

 

·        Nodwyd bod 98% o’r arbedion hanesyddol wedi eu gwireddu sef £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu. Wrth fanylu ar y cynlluniau sydd yn parhau heb eu gwireddu (gwerth £590 o filoedd), bod y mwyafrif ohonynt yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

·        O’r cynlluniau arbedion newydd gwerth £15.6 miliwn, adroddwyd bod 81% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu a 3% pellach ar drac i gyflawni’n amserol; bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Yn dilyn cyhoeddiad yn Rhagfyr 2025 bod llawr o 4.1% ar gyfer setliad ariannol i Lywodraeth Leol, fyddai’n golygu nad oedd brys i’r Cyngor weithredu arbedion ar gyfer 2026/27, byddai angen parhau i adnabod arbedion ar gyfer blynyddoedd dilynol sy’n debygol o fod yn heriol.

 

Wrth grynhoi'r darlun, adroddwyd bod £47 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu sydd yn 93% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelwyd y bydd 1% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond y byddai oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill.

 

Diolchwyd am yr adroddiad trylwyr

 

Derbyniwyd bod 98% o gynlluniau arbedion hanesyddol 2015/16 - 2025/26 (yn mynd yn ôl dros 10 mlynedd) wedi eu gwireddu, ond dim ond 81% o gynlluniau arbedion newydd 2023/24 i 2025/26 sydd wedi ei gwireddu gyda 23 o gynlluniau wedi llithro neu gyda risg i gyflawni’r arbediad. Er hynny, awgrymwyd i’r Gwasanaethau Canolog ystyried gynnig cymorth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu.

 

Bod risgiau i’r cyhoedd ac i’r Cyngor drwy geisio arbedion sydd ddim ar gael, yn enwedig os yw’r galw am wasanaethau yn cynyddu. Awgrymwyd bod asesiad risg trylwyr o’r peryglon o doriadau yn cael ei gynnal ar bob cynllun. Mewn ymateb, mynegodd Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa o ganfod toriadau yn mynd yn anoddach a’r effeithiau i wasanaethau trigolion y Sir yn fwy amlwg. Ategodd y Pennaeth Cyllid mai anodd yw darganfod arbedion ac felly bod trefniadau amgen mewn lle. Wrth i’r Adran Cyllid adolygu a thrafod cynlluniau gydag Adrannau a dod i gasgliad nad yw’r cynllun gwreiddiol yn hyfyw, bydd rhaid ystyried cynllun amgen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, a yw’r sefyllfa yn cael effaith ar wasanaethau statudol ac o ganlyniad yn agosáu at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

POLISI LLEIHAU TRETH CYNGOR O DAN ADRAN 13A(1)(C) O DDEDDF CYLLID LLYWODRAETH LEOL 1992 pdf eicon PDF 103 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cynnwys y Polisi, ystyried penderfyniad y Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
  • Croesawu penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo’r Polisi
  • Croesawu bod y Polisi o dan adolygiad parhaus a bod modd i’w addasu wrth i

unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu newid mewn amgylchiadau gael eu cyflwyno.

 

Nodyn / Awgrym

Ail eirio paragraff 3.3 atodiad 2 – Asesiad Effaith Cydraddoldeb i atgyfnerthu’r datganiad

Ychwanegu twristiaeth gynaliadwy fel maes blaenoriaeth i baragraff 4.5, Adroddiad Cabinet

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor yn dilyn trafodaeth a gafwyd ym mhwyllgor 13 Tachwedd 2025 ar Gyfraddau Casglu Treth Cyngor. Amlygodd y Pennaeth Cyllid bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Polisi (11.11.25) ac yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor, daeth yn weithredol ar 26.11.25. Datganwyd bod Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn ychwanegol i’r Cyngor leihau swm y dreth Cyngor sy’n ddaliadwy ar gyfer unigolion neu ddosbarthiadau o drethdalwyr.

 

Amlygwyd bod y Cyngor yn defnyddio Adran 13A o Ddeddf 1992 fel modd o gyflwyno eithriadau lleol, dewisol mewn achosion cyfyng iawn a cyn cymeradwyo’r polisi, y Cabinet yn unig oedd â’r hawl i wneud y penderfyniadau hyn. Yn dilyn newidiadau mewn Deddfwriaeth a chyflwyno premiwm bu i’r sefyllfa amlygu’r angen am bolisi fyddai’n rhoi hawl i swyddogion ymdrin â cheisiadau am ostyngiadau (sefyllfaoedd eithriadol), heb fynd drwy’r Cabinet. Yn ychwanegol lluniwyd canllawiau gweithredu, ac yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet, bod panel yn cael ei sefydlu i ystyried y ceisiadau fel modd o gael cysondeb mewn penderfyniadau. Byddai’r panel yn cynnwys Aelod Cabinet Cyllid, Pennaeth Cyllid (neu Bennaeth Cynorthwyol), a Rheolwr Trethi gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddog Monitro yn cael gwahoddiad i arsylwi a chynghori. Ategwyd bod pump cyfarfod wedi eu trefnu ar gyfer 2026 gyda’r hyblygrwydd i gyfarfod yn amlach os bydd angen. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y polisi, a all arwain at addasu rhai o’r eithriadau statudol. Nodwyd y bydd y Polisi yn cael ei gadw o dan adolygiad parhaus, a’i addasu wrth i unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu ddiweddariadau i'r polisi gael eu cyflwyno.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod y polisi yn gam bras i’r cyfeiriad cywir

·        Bod parodrwydd i addasu’r polisi yn ddibynnol ar amgylchiadau i’w groesawu

·        Yng nghyd-destun asesiad effaith, bod angen ystyried yr effaith ar yr iaith a theuluoedd Cymreig sydd yn neud bywoliaeth o dwristiaeth - rhaid amlygu twristiaeth gynaliadwy fel blaenoriaeth

·        Yn derbyn y bydd adolygiadau parhaus i’r polisi a bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y Premiwm Treth Cyngor yn ddiweddar

·        Yn derbyn bod y polisi newydd wedi ei ddatblygu gyda mewnbwn yr Uned Trethi

 

Mewn ymateb i sylw y byddai risg cyfreithiol o gael premiwm heb bolisi, nododd y Pennaeth Cyllid bod risg cyfreithiol boed polisi neu beidio. Ategodd bod pob polisi yn gytbwys ar sail tegwch a diogelu risg. Petai eithriadau yn codi, neu fod angen edrych ar garfanu penodol, megis llety hunan ddarparu yn methu cyrraedd trothwy 182 diwrnod (o dan y rheolau presennol, rhaid i lety gwyliau gael ei osod am 182 diwrnod bob blwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes. Petai’r annedd yn methu’r targed, bydd yr eiddo yn cael ei ailddosbarthu fel ail gartref a threth cyngor yn cael ei godi arno),  a heb amod cynllunio yna, bydd posib i’r panel ystyried yr anghymesur - o geisio dangos gwahaniaeth nad yw'n deg, yn rhesymol, nac yn ddisgwyliedig. Bydd rhaid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 100 KB

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru

 

·        Llety dros dro, argyfwng hirdymor? 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio tan gyfarfod 03/02/2026

 

Cofnod:

Amlygodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor nad oedd fersiwn Gymraeg o ymateb y Cyngor i’r archwiliad wedi ei gynnwys ar y rhaglen ac felly yn awgrymu gohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf fel bod gan yr Aelodau wybodaeth gyflawn i'w drafod / ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio tan gyfarfod 03/02/2026

 

 

12.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 118 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn y rhaglen waith hyd Chwefror 2027

 

Cofnod:

Amlygodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor nad oedd fersiwn Gymraeg o ymateb y Cyngor i’r archwiliad wedi ei gynnwys ar y rhaglen ac felly yn awgrymu gohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf fel bod gan yr Aelodau wybodaeth gyflawn i'w drafod / ystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio tan gyfarfod 03/02/2026