Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts, Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid) a Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Carys Edwards, yn eitem 7 ar y rhaglen (Cynnyrch Archwilio Mewnol - Cartref Plas Pengwaith)  gan fod ei mhâm yn un o drigolion Plas Pengwaith. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu gan fod y pwnc yn rhan o adroddiad ehangach. Nid oedd rhaid iddi adael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cais i’r Cadeirydd drafod y pryderon gyda’r Pennaeth Cyllid fel bod modd i Aelodau’r Pwyllgor gael dealltwriaeth well o drefniadau’r Cyngor

 

 

 

Cofnod:

a)    Pryder am y risgiau uchel sydd ynghlwm a heriau cyfreithiol yn erbyn y Cyngor.

·       Angen sicrwydd bod systemau cadarn mewn lle i reoli sefyllfaoedd o risg uchel

·       Angen diweddariad ar drefniadau yswiriant y Cyngor ac unrhyw risg sydd yn berthnasol i’r trefniant hwnnw

·       Angen sicrhau, yn dilyn derbyn argymhellion yr Arolygiad Allanol i drefniadau diogelu'r Cyngor, bod cynllun gweithredu manwl yn cael ei fabwysiadau fel modd o osgoi unrhyw risgiau a chostau i’r dyfodol.

 

b)    Tynnu sylw bod dwy sedd wag yn parhau ar y Pwyllgor

 

PENDERFYNWYD:

 

Cais i’r Cadeirydd drafod y pryderon gyda’r Pennaeth Cyllid fel bod modd i Aelodau’r Pwyllgor gael dealltwriaeth well o drefniadau’r Cyngor

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 178 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5ed o Fedi 2024 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 151 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

6.

ARCHWILIO CYMRU: 'GOFAL BRYS AC ARGYFWNG: LLIF ALLAN O'R YSBYTY - RHANBARTH GOGLEDD CYMRU' pdf eicon PDF 102 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn cynnwys yr adroddiad

·       Cyflwyno diweddariad ar yr argymhellion ymhen 12 mis

Cofnod:

Croesawyd Alan Hughes, Fflur Jones, Yvonne Thomas  (Archwilio Cymru), Aled Davies a Dewi Wyn Jones i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru yn cyfeirio at archwiliad a gyhoeddwyd Chwefror 2024, i ganfod os oedd gan gyrff y GIG ac Awdurdodau Lleol drefniadau priodol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol, effeithlon a darbodus wrth reoli llif cleifion allan o’r ysbyty yn Rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Adroddwyd bod rhyddhau cleifion o ysbytai yn broblem ar hyd y wlad a hynny yn bennaf oherwydd bod y galw yn yr angen wedi cynyddu. O ganlyniad, roedd hyn yn creu problemau megis gostyngiad yn y nifer gwelyau sydd ar gael, gan roi straen ar y gwasanaeth. Ategwyd bod prinder gweithlu, diffygion yn y prosesau rhyddhau a rhannu gwybodaeth yn ychwanegu at yr heriau. Nodwyd bod ymrwymiad cryf gan y Partneriaethau i geisio gwella’r sefyllfa a bod ymateb y rhanbarth i’r argymhellion wedi bod yn gadarnhaol.

 

Cyflwynwyd ymateb y sefydliad i’r argymhellion ac i’r Pwyllgor eu hystyried, gan Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant). Nodwyd bod gwaith a chanfyddiadau Archwilio Cymru wedi eu croesawu a bod yr ymateb yn un ar y cyd gan sefydliadau ar draws y rhanbarth, gyda Chyngor Gwynedd yn chwarae rhan allweddol yn y broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty. Ategodd bod y rhanbarth yn cydnabod ac yn adnabod y gwelliannau sydd angen eu gweithredu i sicrhau cefnogaeth i gleifion ar ôl dod adref ac y byddai Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i gydweithio gyda’r holl bartneriaethau i ymateb i’r heriau hyn. Nododd hefyd bod nifer o’r materion yn cyd-fynd â Blaenoriaethau Cyngor Gwynedd.

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·       Er y cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), nid yw’r sefyllfa yn gwella; yn sefyllfa argyfyngus. Angen gweld esiamplau o gydweithio da

·       Bod ardal BIPBC yn rhy fawr – nid yw’r prosesau yn addas i bwrpas pob ardal o fewn y rhanbarth

·       Bod angen cynnal mwy o drafodaethau rhwng BIPBC, yr Awdurdodau Lleol  a Phartneriaethau

·       Bod gan y Blaid Lafur gynlluniau uchelgeisiol i atgyweirio’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) –  sgôp yma i ymgysylltu gyda Llywodraeth Ganolog Llundain?

·       Bod rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn hen broblem – angen canolbwyntio ar be gall Gwynedd ei wneud i wella’r sefyllfa

·       Byddai patrwm poblogaeth wedi bod yn ddefnyddiol fel rhan o’r adroddiad - yn gosod cyd-destun yr ardaloedd o fewn y rhanbarth

·       BIPBC mewn mesurau arbennig yn aml - y broblem ddim i’w datrys yn hawdd

·       Bod canran ‘aros i becyn gofal cartref newydd ddechrau’ yn uchel - gobeithio bod y Gwasanaeth yn edrych ar hyn

·       Prinder gwelyau a staff yn yr ysbytai.

 

Mewn ymateb i gwestiwn;

 

-        Ynglŷn â pha mor hyderus oedd y sefydliadau, wedi i’r argymhellion gael eu cyflawni, y bydd y sefyllfa wedi gwella ac os oedd adnoddau digonol i gynnal y gwaith, nodwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ymateb i’r materion a godwyd ac y bydd rhaid gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd ar gael yn barod. Awgrymwyd y gall addasiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 360 KB

I dderbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2024 hyd 30 Medi 2024, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad

·       Darganfyddiadau Archwiliadau Gwasanaethau Cartrefi Preswyl (Plas Pengwaith, Llys Cadfan a Plas Hafan) i’w cyfeirio i’r Grŵp Gwella Rheolaethol.

 

Enwebwyd Carys Edwards, Rhys Parry, Cyng Angela Russell, Cyng Meryl Roberts a’r Cyng Ioan Thomas fel Aelodau i’r Grŵp Gwella Rheolaethol gyda gwahoddiad i‘r Cyng Beth Lawton (Cadeirydd Pwyllgor Craffu) a’r Cyng Dewi Jones (Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal) i arsylwi. Petai materion yn codi o’r Grŵp Gwella Rheolaethol fydd angen sylw pellach, byddant yn cael eu cyfeirio i’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

Nodyn:

Archwiliad Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth – cais i ystyried bod gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael sylw’r Pwyllgor – y Pwyllgor i dderbyn adroddiad blynyddol yn nodi Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â materion Rhyddid Gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2024 hyd 30 Medi 2024. Amlygwyd bod 11 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau  ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro. Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

·       Meysydd Parcio (Amgylchedd)

-        Defnydd peiriannau talu – a oes opsiwn ‘smart phone’

-        Peiriannau ffôn yn unig yn creu rhwystr i bobl hŷn

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod y Gwasanaeth yn gorfod ystyried y risgiau sydd i ddefnyddio peiriannau arian parod yn unig a hefyd yn derbyn y rhwystrau sydd i bobl hŷn - yn anodd cael y balans yn gywir. Ategodd mai cyfuniad o ffyrdd i dalu sydd mewn defnydd ar hyn o bryd.

 

·       Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

-        Pryder bod yr archwiliad yn cyrraedd lefel sicrwydd cyfyngedig

-        Angen sicrwydd nad oes diffyg cael at y wybodaeth; angen bod yn dryloyw

-        A oedd canlyniad y sampl yn amlygu diffyg yn y wybodaeth a gyflwynwyd ynteu fod rheswm cyfreithiol dros beidio darparu yn ‘gywir’?

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio bod yr atebion a wrthodwyd yn sampl yr archwiliad wedi eu gwrthod am resymau cyfreithiol ac felly’r Cyngor wedi cydymffurfio yn llawn gyda gofynion y Ddeddf. Ategwyd bod y lefel sicrwydd yn ffinio rhwng ‘digonol’ a ‘chyfyngedig’, ac yn dilyn trafodaeth gyda’r tîm, cytunwyd ar lefel sicrwydd cyfyngedig oherwydd bod ystadegau perfformiad cyfradd prydlondeb Gwynedd yn 77%, sydd ychydig yn is nag ystadegau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Mewn ymateb i’r diffyg cyrraedd targed ac i gwestiwn ategol os dylai’r mater gael ei gyfeirio at y Grŵp Llywodraethu, nododd y Rheolwr Archwilio bod y mater yn cael ei fonitro gan Grŵp Herio Perfformiad Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, er bod y staff yn ddibynnol ar gyfraniad holl adrannau’r Cyngor i ddarparu’r wybodaeth.

 

Gyda’r mater yn ymdrin â sefyllfa ar draws y Cyngor, ystyriwyd os dylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad blynyddol yn nodi trefniadau’r Cyngor i ymdrin â materion Rhyddid Gwybodaeth yn yr un modd ag y mae Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â materion Cwynion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor.

 

·       Cartrefi Gofal Preswyl Plas Pengwaith, Llys Cadfan a Plas Hafan

-        Nad oedd yr adroddiad yn adlewyrchu lefelau sicrwydd da yn y Cartrefi Gofal Preswyl - patrwm i’w weld yma

-        Awgrym i gyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal i edrych yn fanylach ar y materion ac ystyried datrysiad i’r materion diffyg rheolaeth

-        Awgrym pellach i gyfeirio’r mater i’r Grŵp Gwella Rheolaethau gan fod rhai materion elfennol yma - patrwm sydd yn bodoli ers blynyddoedd bellach

-        Angen ystyried a oes trefniadau digonol / cefnogaeth ddigonol ar gyfer y Rheolwyr

 

Gwahoddwyd y Cyng. Beth Lawton (Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal) i gynnig sylwadau a diolchodd am y cyfle i drafod y mater. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amserlen ar gyfer ymateb i argymhellion yr archwiliad, nododd y Rheolwr Archwilio y byddai’r Uned  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2024/25 pdf eicon PDF 202 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2024/25, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2024/25. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd â’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd, hyd at 27 Medi 2024, bod 11 allan o’r 45 archwiliad unigol sydd yn y cynllun wedi eu rhyddhau yn derfynol neu wedi cau, sydd yn cynrychioli 24% o’r cynllun.

 

Cyfeiriwyd at addasiadau a wnaed i’r Cynllun a hynny oherwydd, gwyliau, salwch, hyfforddiant, rheolaeth a chyfarfodydd, gan ategu bod archwiliadau pellach wedi eu hychwanegu felly’n anorfod gwneud rhai newidiadau i’r Cynllun.

 

Nodwyd, yn unol ag arfer gorau a Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus, bod Cynllun Archwilio Mewnol yn destun adolygiad parhaus i sicrhau ei fod yn parhau’n gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y busnes gan osod blaenoriaethau’r cynllun ar sail risg neu gais gan Bennaeth Adran.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

9.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 180 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen..

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Nodyn:

Llunio tabl i’r dyfodol sydd yn gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet (15-10-2024) a sylwebu fel bo angen. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu’r sefyllfa hyd ddiwedd Awst 2024.

 

Amlygwyd, er mwyn cau'r bwlch ariannol eleni, rhaid oedd gweithredu gwerth £5.6 miliwn o arbedion yn ystod 2024/25; cyfuniad o £3.6 miliwn oedd wedi eu cymeradwyo yn Chwefror 2023 ac arbedion newydd a gymeradwywyd yn Chwefror 2024 gwerth £2 filiwn.

 

Adroddwyd, dros y blynyddoedd diwethaf, ac fel sydd wedi ei adrodd i’r Pwyllgor yn gyson, gwelwyd trafferthion gwireddu arbedion mewn meysydd yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Maes Gwastraff, ac felly, bu i werth £2 filiwn o gynlluniau oedd â risgiau sylweddol i'w cyflawni, gael eu dileu yn ystod 2023/24.

 

Tynnwyd sylw at yr arbedion newydd ynghyd a’r arbedion oedd wedi eu cymeradwyo cyn hynny, megis cynlluniau arbedion hanesyddol am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2024/25.  Amlygwyd bod 98%, sef dros £33.7 miliwn o’r £34.3 miliwn o arbedion, bellach wedi eu gwireddu.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion newydd  gwerth £12 miliwn, adroddwyd bod 65% o’r arbedion eisoes wedi eu gwireddu gyda 8 miliwn pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Er hynny, nodwyd bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd, megis yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Cyfeiriwyd at werth yr arbedion hynny sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2025/26 ymlaen ac fe nodwyd bod cynlluniau arbedion a thoriadau pellach ar gyfer 2025/26 eisoes dan ystyriaeth y Cyngor Gwynedd - bydd  y rhain yn destun adroddiad pellach.

 

Wrth grynhoi’r darlun, adroddwyd bod £41.7 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu (90% o’r £46.6 miliwn gofynnol dros y cyfnod) ac fe ragwelir y bydd 2% pellach yn cael ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol (er bydd oediad a rhai risgiau i gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill).

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

            Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·       Bod risg o beidio cyflawni’r arbedion ynghyd a risg o gyflawni

·       Bod yr adroddiad yn amlygu sefyllfa dda dros y 10 mlynedd ddiwethaf, ond bod angen canolbwyntio bellach ar y blynyddoedd mwyaf diweddar sydd wrth gwrs yn amlygu darlun o ddiffyg gwireddu arbedion oherwydd bod y sefyllfa yn mynd yn anoddach - awgrym i lunio tabl yn gwahaniaethu rhwng yr hanesyddol a’r cyfredol

·       A yw’r adrannau yn hyderus y gallent gyflawni arbedion 2024/25?

·       Pryder bod rhai arbedion yn llithro yn flynyddol

·       Bod angen edrych ar ddiwylliant a threfniadau gwasanaethau - ystyried ffyrdd gwahanol o gyllidebu yn hytrach na ‘naddu’ neu ddefnyddio arian sydd wedi'i gasglu at ddiben arall.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Aelod Cabinet bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau’r effaith andwyol ar drigolion Gwynedd. Ategodd bod y risg o fethu cyflawni yn cael ei ystyried ac yn sicr yn amlwg mewn rhai sefyllfaoedd.  O ran hyder adrannau i gyflawni arbedion 2024/25 nododd bod y sicrwydd yn amrywio o gynllun i gynllun a chyfeiriodd at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 182 KB

I nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu penderfyniadau i’r Cabinet, a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Awst 2024) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 15 Hydref 2024.

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £169.8 miliwn am y 3 blynedd 2024/25 - 2026/27 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd  £51.6miliwn ers y gyllideb wreiddiol, gyda £33miliwn ohono yn deillio o ail broffilio ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.

Ategwyd,

·       Bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £117 miliwn yn 2024/25 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £48.8miliwn (42%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·       Bod £17.2 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27.

·       bod y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £4.1 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaladwy ac Eraill), £3.1 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £2.7 miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol, £2.5 miliwn Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar, £1.2 miliwn Cynllun Hwb Iechyd a Gofal Penygroes a £1.1 miliwn Cynlluniau Sefydliadau Preswyl.

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr  adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys, Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Defnydd Cymunedol Ysgolion, Grantiau o'r Gronfa Trafnidiaeth Lleol (LTF) a'r Gronfa Teithio Llesol (ATF) gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer o wahanol gynlluniau, Grant Cronfa Tai Gofal ar gyfer cartrefi i blant gan Lywodraeth Cymru a  Grant Cynnal a Chadw Ysgolion 2024/25.

 

Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor gan amlygu, yn unol â’r Côd Darbodus gan CIPFA, bod rhaid adrodd ar y wybodaeth - ategwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio yn llawn gyda pholisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd o £370,000 mewn defnydd o fenthyca a pha mor hyderus oedd y penderfyniad i gefnogi hyn, nododd yr Aelod Cabinet bod y benthyciad yn un ar gyfer adnewyddu fflyd cerbydau’r Adran Amgylchedd fel modd o gyflawni dyletswyddau sero net ( o ddefnyddio cerbydau trydan ac nid disel). Er yn swm sylweddol, roedd y benthyciad yn dderbyniol.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhaid ail-broffilio rhaglen gwariant mewn ymateb i golled grant Llywodraeth Cymru, cyfeiriwyd at y rhesymeg a’r cyfiawnhad dros yr argymhellion gan nodi eto,

·       bod £17.2m ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ailbroffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27, ond ni achoswyd unrhyw golled ariannu i’r Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

11.

CYLLIDEB REFENIW 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 181 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·       Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet:

·        Trosglwyddo £1,868k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor

 

 

Nodyn:

Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant eithriadol gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb



Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 15 Hydref 2024.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·       Nad oedd y darlun yn unigryw i Wynedd

·       Er bod cronfeydd wrth gefn Gwynedd yn hanesyddol yn gryf, maent yn gwagio yn sydyn

·       Tangyllido sydd yma ac nid diffyg rheolaeth gyllidol

·       Bod pob ymgais yn cael ei wneud i leihau’r effaith ar drigolion Gwynedd

 

Ategodd mai adrodd ar y sefyllfa oedd y Swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn gyfrifol am eu cyllidebau.

 

Cyfeiriwyd ar dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan adrodd, yn dilyn adolygiad diwedd Awst mae’r rhagolygon yn awgrymu y bydd gorwariant o £7.6 miliwn ac y bydd chwech o’r adrannau yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Rhagwelwyd gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

 

 Y prif faterion:

-        Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - derbyniodd yr Adran ddyraniad cyllideb ychwanegol barhaol o dros £3.2 miliwn eleni i gwrdd â phwysau mewn gwahanol feysydd; mae’r rhagolygon diweddaraf yn awgrymu bydd £2.7 miliwn o orwariant erbyn diwedd y flwyddyn (i’w gymharu â £3.9 miliwn yn 2023/24). Y gorwariant yn ganlyniad o gyfuniad o nifer o ffactorau sy’n cynnwys cynnydd yn y pwysau ar y ddarpariaeth gofal cartref, Y prif faterion eraill yn cynnwys taliadau uniongyrchol sydd yn gorwario £1.3 miliwn yn y gwasanaeth pobl hŷn, a llety cefnogol yn y gwasanaeth anabledd dysgu. Gwaith wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr y llynedd  i edrych ar sefyllfa ariannol yr adran

-        Adran Plant a Theuluoedd - sefyllfa ariannol yr adran wedi gwaethygu’n sylweddol ers sefyllfa 2023/24 pryd adroddwyd ar orwariant o £2.6 miliwn; bellach wedi cynyddu i £3.2 miliwn; yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol. Gwelwyd cynnydd yng nghymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb eu cofrestru. O ganlyniad i'r gorwariant eithriadol gan yr Adran Plant a Theuluoedd, mae'r Prif Weithredwr wedi comisiynu gwaith i egluro manylder y darlun yng ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb. Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol.

-        Adran Addysg - Yn dilyn gorwariant o £1.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24 ar gludiant ysgolion, bu i'r maes dderbyn dyraniad cyllideb ychwanegol eleni o £896k ar sail barhaol ac £896k pellach am flwyddyn yn unig, i gyfarch y pwysau ar y maes bysus a thacsis ysgolion yn dilyn ail-dendro cytundebau, ac felly adroddir ar sefyllfa ariannol gytbwys.

-        Byw’n Iach –dros y blynyddoedd diwethaf, gan fod lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach wedi cael ei amharu, mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan y Cyngor uwchlaw'r taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Mae'r gefnogaeth ariannol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

DIWEDDARIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS pdf eicon PDF 158 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2023/24 hyd 30 Mehefin 2024, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2024/25 a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth 2024. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol gydag adolygiad o’r flwyddyn ariannol llawn hefyd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor gyda’r arian wedi cael ei gadw’n ddiogel a’r cyfraddau llog wedi bod yn uchel ac wedi cynhyrchu incwm llog sylweddol.

 

Ar 30 Mehefin 2024, roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa Bensiwn.  Nodwyd nad oedd unrhyw symud sylweddol wedi bod yn lefel y benthyciadau yn y 3 mis diwethaf; y Cyngor yn parhau gyda’r strategaeth o ddefnyddio adnoddau mewnol cyn benthyca’n allanol. Ategwyd bod y Cyngor yn buddsoddi mewn banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi ei  wneud gan y Cyngor ers nifer o flynyddoedd bellach. Adroddwyd bod y gyfradd banc sylfaenol wedi bod yn 5.25% yn y cyfnod mae’r dychweliadau wedi bod yn uchel.

 

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Rheolaeth Trysorlys y Cyngor sydd yn newyddion da ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr arian. Tynnwyd sylw at y Meincnod Ymrwymiadau (liability benchmark) gan nodi ei fod yn arf pwysig i ystyried os yw’r  Cyngor yn debygol o fod yn fenthyciwr hirdymor neu'n fuddsoddwr hirdymor yn y dyfodol, ac felly yn siapio ffocws strategol a miniogi penderfyniadau. Amlygwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fod uwchlaw ei feincnod hyd at 2025 a hynny oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn, a’r llif arian hyd yma wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr arian.

 

Wrth edrych i’r dyfodol, nodwyd nad oedd angen benthyca yn y tymor hir yn seiliedig ar y rhagamcanion cyfredol, ond efallai bydd angen ystyried hyn yn y tymor byr, yn y dyfodol agos.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

13.

CYD BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD - SEFYDLU IS BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 123 KB

Bod y Pwyllgor yn enwebu un cynghorydd i wasanaethu ar Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforaethol y Gogledd a un Cynghorydd i weithredu fel dirprwy ar gyfer yr aelod hwnnw.

 

Bod y Pwyllgor yn penderfynu a yw'n dymuno enwebu Aelod Lleyg i Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforaethol y Gogledd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

      Enwebu’r Cynghorydd Ioan Thomas i wasanaethu ar Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

      Enwebu’r Cynghorydd Richard Glyn i weithredu fel dirprwy i wasanaethu ar Is-Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

 

      Enwebu Carys Edwards (Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Gwynedd) i’w hystyried i wasanaethu ar Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Rheolwr Democratiaeth ac Iaith yn nodi, yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’) bod angen i Cydbwyllgor Corfforaethol y Gogledd 2021 greu Pwyllgor Llywodraethu Archwilio ei hun. Eglurwyd bod Cydbwyllgor Corfforaethol y Gogledd bellach wedi penderfynu creu Is-bwyllgor Llywodraethu gyda’r aelodaeth i gynnwys chwe Cynghorydd (un o bob un o'r Cynghorau Cyfansoddol) a thri aelod lleyg.

 

Ategwyd mai dymuniad yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd penodi aelodau o Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio presennol y Cynghorau Cyfansoddol ac i bob un o’r Cynghorau Cyfansoddol enwebu Cynghorydd o’i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei hun fel ei brif enwebai ynghyd ag ail Gynghorydd i weithredu fel dirprwy (i sicrhau cworwm pan nad yw’r prif enwebai ar gael). Roedd gofyn i’r Cynghorau Cyfansoddol hynny os ydynt yn dymuno, hefyd enwebu aelod lleyg i’w hystyried i wasanaethu ar  Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Corfforedig y Gogledd.

 

PENDERFYNIAD

 

·       Enwebu’r Cynghorydd Ioan Thomas i wasanaethu ar Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

·       Enwebu’r Cynghorydd Richard Glyn i weithredu fel dirprwy i wasanaethu ar Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

·       Enwebu Carys Edwards (Cadeirydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Gwynedd) i’w hystyried i wasanaethu ar Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd

 

14.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried y flaen raglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Tachwedd 2024 - Hydref 2025

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Hydref 2025.

 

PENDERFYNIAD:                                                                      

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Tachwedd 2024 - Hydref 2025