Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13 o
Dachwedd 2025 fel rhai cywir. |
|
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad
o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu
penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau
ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan
fydd y weithred wedi cwblhau. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn cynnwys yr
adroddiad Nodyn: Derbyn diweddariad ar eitemau 5/9/24 (cynnal
sesiwn gwybodaeth ar y maes digartrefedd) a 10/10/24 (diweddariad ar
argymhellion Archwiliad Gofal Brys: Llif Allan o’r Ysbyty) erbyn y cyfarfod
nesaf |
|
|
CYNLLUN YMATEB I'R ADRODDIAD CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER I ystyried
yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
- croesawu
adolygiadau i’r polisïau hyn -
angen diweddariad ar y gwaith, yr
amserlen a’r modd maent yn cael eu mabwysiadu Nodyn: Cais i adolygu paragraff
olaf 2.5 o’r Cynllun Ymateb: ‘Ymchwiliad i Ddigwyddiadau 2019 sydd wedi bod yn
destun sylw gan y wasg’ – angen mwy o gyd-destun am yr ymchwiliad annibynnol a
gwblhawyd a beth oedd y penderfyniad dros beidio rhannu’r adroddiad / casgliadau. Cais i osod cyd-destun i ganmoliaeth Estyn i
drefniadau diogelu'r Cyngor (Mehefin 2023). Y geiriad fel y mae yn amhriodol o
ystyried y methiannau a ddaethpwyd i’r amlwg yn ddiweddarach. Cofnod: Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Nia Jeffreys am y gwahoddiad i
gyflwyno cynllun ymateb y Cyngor i’r Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Fel Arweinydd, ymddiheurodd yn ddiffuant i’r dioddefwyr a phawb sydd
wedi eu heffeithio gan droseddau erchyll cyn Bennaeth Ysgol Friars.
Ni chafodd lleisiau’r plant eu clywed a nododd yn glir bod eu profiadau a’u
lleisiau yn bwysig iddi. Ategodd mai geiriau gwag fyddai ymddiheuro heb
weithrediad, a’r deyrnged fwyaf gellid ei
roi i ddewrder y dioddefwyr yw sicrhad ac addewid o newid; nod y cynllun yw sicrhau na fydd methiannau
o’r fath yn digwydd eto yng Ngwynedd a bod yr heriau sydd yn wynebu’r Cyngor i
newid trefniadau a diwylliant yn hanfodol i fater mor ddifrifol. Nodwyd y
byddai’n gwerthfawrogi sylwadau’r pwyllgor yng nghyd-destun monitro a rheoli
risg y cynllun; bod tryloywder yn angenrheidiol ac yn adfer hyder ymysg y
cyhoedd. Eglurwyd bod y Cynllun Ymateb yn ddogfen fyw, gyhoeddus ac y bydd
cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb yn adrodd ar y cynnydd
fydd yn digwydd. Diolchodd am barodrwydd y Pwyllgor i drafod pwnc mor anodd, ond y byddai
eu cyfraniad yn arwain at wella trefniadau diogelu'r Cyngor er mwyn sicrhau na
fydd hyn yn digwydd eto. Mynegodd bod diogelu a gwarchod plant rhag niwed yn
gyfrifoldeb ar bawb. Diolchodd am y cydweithio arbennig sydd wedi digwydd hyd
yma gyda Sally Holland (Cadeirydd Bwrdd Rhaglen y Cynllun Ymateb), pawb sy’n
ymwneud â’r Cynllun, gyda gwaith gwych gan sawl
Adran o’r Cyngor yn rhan o’r ymateb. Er na all un Gwasanaeth, un Adran,
un grŵp gwleidyddol neu unigolyn gyflawni hyn ei hun, pwysleisiodd yr
angen i gydweithio ar draws Pwyllgorau, ar draws Adrannau ac ar draws
gwahaniaethau gwleidyddol, fel y gellid gwneud cynnydd gwirioneddol ac amserol
mewn maes hanfodol. O ganlyniad, bydd y broses o graffu nid yn unig yn dal y
Cyngor i gyfrif, ond yn cyfrannu at lunio dyfodol mwy diogel i blant a phobl
ifanc y Sir. Awgrymodd ddychwelyd i adrodd ar gynnydd y Cynllun ymhen 6 mis i
flwyddyn, pe bai’r Pwyllgor yn dymuno hynny. Cyflwynodd y Prif Weithredwr, fanylion ac ymarferoldeb y Cynllun Ymateb.
Amlygodd bod y Cynllun Ymateb gwreiddiol wedi ei fabwysiadu gan y Cabinet
(Ionawr 2025) a’i fod, fel unrhyw ddogfen fyw, wedi esblygu ers hynny. Ers
cyhoeddi Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder (Tachwedd 2025) diwygiwyd y
Cynllun i fynd i’r afael â’r themâu a’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.
Bydd sylwadau / ystyriaethau, gan ymgynghorai eraill, gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio hwn, Pwyllgor Arbennig Craffu Addysg ac Economi,
Pwyllgor Arbennig Craffu Gofal a chyfarfod Cyngor Arbennig, yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Ymateb terfynol fydd i’w gyflwyno i'r Cabinet yn ffurfiol Mawrth 2026. Wrth fynd i’r afael a blaenoriaethau’r cynllun, amlygwyd mewn
sefyllfaoedd lle rhaid aros i eraill weithredu bod trefniadau interim mewn lle.
Adroddwyd bod saith prif thema o fewn y Cynllun Ymateb sydd yn cyd-fynd gyda’r
themâu’r adroddiad a bod swyddog penodol yn arwain ar bob thema. Diolchwyd am yr adroddiad. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CYLLIDEB REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan
Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau
perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr
adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r rhagolygon
tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Gofynnwyd
i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am
gymeradwyaeth y Cabinet Ionawr 20fed 2026. Yn dilyn adolygiad diwedd Tachwedd nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu
gorwariant o £6.5 miliwn gan adrannau’r Cyngor, oedd yn gynnydd bychan o
ragolygon Awst gyda 76% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Eglurwyd, yn
dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd blaenorol, bod gorwariant sylweddol
hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a bwrdeistrefol, ond tanwariant ar
gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod hynny yn lleihau’r rhagolygon
gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.3 miliwn. Tynnwyd sylw at y prif faterion: ·
Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant – rhagolygon diweddaraf yn
awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg
cyllidebol o £3miliwm erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian
parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion
a thoriadau, heb eu cyflawni hyd yma. Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw
am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal
preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal
cartref hefyd yn parhau. ·
Adran Plant a Theuluoedd
- yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.8 miliwn, gyda meysydd megis lleoliadau
all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth Derwen a
Hafan y Sêr yn wynebu pwysau. ·
Byw’n Iach – dros y
blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan
y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu
gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r rhagolygon
o’r swm gofynnol erbyn diwedd y flwyddyn wedi cynyddu i £295k. ·
Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £492k, gydag arbedion nad
ydynt yn cael eu gwireddu yn cyfrannu at y sefyllfa. Gwelwyd lleihad yn y
gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn
cael effaith negyddol ar incwm
gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, amlygwyd bod cyfuniad
o ffactorau, oedd yn cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau
strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal
tiroedd a thoiledau cyhoeddus. ·
Adran Amgylchedd – bod
diffyg cyllidebol o £685k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o
orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am
£617k o’r gorwariant. · Tai ac Eiddo – tuedd o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda rhagolygon gwariant o £6.6 miliwn yn y maes eleni, o gymharu â £6 miliwn y llynedd. Y sefyllfa ariannol yn cynnwys cyllideb ychwanegol o £3m sydd wedi ei ddyrannu o bremiwm treth cyngor a chyllideb un-tro ychwanegol a ddyrannwyd fel rhan o'r drefn bidiau i gynorthwyo gyda'r pwysau ychwanegol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
RHAGLEN GYFALAF 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2025 I nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu penderfyniadau i’r Cabinet, a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn amlygu rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd
Tachwedd 2025) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Gofynnwyd
i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am
gymeradwyaeth y Cabinet 20 Ionawr 2025. Cyfeiriwyd
at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £152 miliwn am y 3 blynedd
2025/26 - 2027/28 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net
sydd oddeutu £0.8 miliwn ers sefyllfa’r
adolygiad diwethaf. Ategwyd, ·
Bod cynlluniau pendant mewn lle
i fuddsoddi £93.7 miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £48.2 miliwn
(51%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. ·
Bod £6 miliwn ychwanegol o
wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. ·
Bod y prif
gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £4.5 miliwn
Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £3.2 miliwn
Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £2.8 miliwn Cynlluniau Adnewyddu Cerbydau, £1.5
miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a £1.5 miliwn
Cynlluniau Gwastraff ac Ailgylchu Tynnwyd sylw at restr grantiau
ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr adolygiad
diwethaf a oedd yn cynnwys, £1miliwn – Grant gan Adran Amgylchedd, Bwyd
a Materion Gwledig (DEFRA)
y Deyrnas Unedig tuag at gynlluniau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) am ddeunydd pecynnu; £0.6 miliwn – Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) gan Lywodraeth Cymru; £0.3 miliwn – Grant o Gronfa Y Pethau Pwysig gan
Lywodraeth Cymru tuag at y cynllun Mwyniant Ein Arfordir a £0.3 miliwn – Grant gan Cyngor Chwaraeon tuag at gaeau synthetig. Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion
Darbodus Cyfalaf y Cyngor gan amlygu, yn unol â’r Côd
Darbodus gan CIPFA, bod rhaid adrodd ar y wybodaeth - ategwyd bod y Cyngor wedi
cydymffurfio yn llawn gyda pholisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â chynlluniau perthnasol sydd yn achosi’r prif
newidiadau i’r ffynonellau ariannu, yn benodol ‘Ail broffilio'r elfen Prynu
i Osod o'r Strategaeth Tai i gyfnod tu hwnt i'r Rhaglen Gyfalaf tair blynedd
hwn i gyfnod o amgylchiadau economaidd mwy ffafriol (Adran Tai ac Eiddo)’, a beth oedd
cyd-destun ‘amgylchiadau economaidd mwy ffafriol’, nodwyd bod cynnydd mewn
costau adnoddau adeiladu a graddau llog wedi golygu na ellid ariannu’r cynllun
penodol yma, ond bod modd ail ymweld â’r sefyllfa os bydd gostyngiad mewn
costau a llog i’r dyfodol. Mewn
ymateb i sylw bod ffigyrau 27/27 a 27/28 yn sylweddol is na ffigyrau 25/26,
cadarnhawyd bod hyn oherwydd nad oedd cynlluniau newydd wedi dod ymlaen hyd
yma. Mewn
ymateb i sylw bod Cymdeithas Peldroed Cymru wedi
buddsoddi mewn Clybiau Peldroed yn y Sir (e.e,Talysarn, Porthmadog a Thywyn) ac oes oedd yr arian yn
rhan o Grant Chwaraeon Cymru neu grant ar wahân, nodwyd bod yr holl grantiau a
dderbyniwyd ar wahân wedi eu cynnwys, ond os oedd yr arian yn fuddsoddiad
diweddar, yna bydd yn cael ei adrodd / gynnwys yn nes ymlaen yn y flwyddyn. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chytuno ar
yr argymhellion i’r Cabinet eu hystyried (20-01-26) |
|
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION I nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried
penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn /Awgrym Cynnig cefnogaeth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad yw’r
Adrannau yn gallu eu gwireddu Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn
i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ac ystyried gwybodaeth i’r Cabinet ei dderbyn (20-01-26) a sylwebu fel bo
angen. Yn adroddiad
Cyllideb 2025/26 i’r Cyngor
Llawn ar 6 Mawrth 2025, adroddwyd
bod arbedion gwerth £3.5 miliwn wedi eu
proffilio ar gyfer cyllideb 2025/26 sydd yn gyfuniad
o werth £100k wedi eu cymeradwyo o’r
newydd yn 2025 a £3.4 miliwn oedd wedi
eu cymeradwyo mewn blynyddoedd blaenorol. Atgoffwyd yr Aelodau, fel sydd wedi
ei adrodd yn gyson yn
y Pwyllgor, bod trafferthion
gwireddu arbedion mewn rhai meysydd. Ategodd y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, ·
Nodwyd bod 98% o’r
arbedion hanesyddol wedi eu gwireddu sef £33.8 miliwn o’r £34.3 miliwn o
arbedion, bellach wedi eu gwireddu. Wrth fanylu ar y cynlluniau sydd yn parhau
heb eu gwireddu (gwerth £590 o filoedd), bod y mwyafrif ohonynt yn yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant. ·
O’r cynlluniau arbedion
newydd gwerth £15.6 miliwn, adroddwyd bod 81% o’r arbedion eisoes wedi eu
gwireddu a 3% pellach ar drac i gyflawni’n amserol; bod risgiau i wireddu’r
arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd. Yn dilyn cyhoeddiad yn Rhagfyr
2025 bod llawr o 4.1% ar gyfer setliad ariannol
i Lywodraeth Leol, fyddai’n golygu nad oedd brys
i’r Cyngor weithredu arbedion ar gyfer
2026/27, byddai angen parhau i adnabod
arbedion ar gyfer blynyddoedd dilynol sy’n debygol
o fod yn heriol. Wrth grynhoi'r
darlun, adroddwyd bod £47 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu
sydd yn 93% o’r £50 miliwn gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelwyd y bydd 1% pellach yn cael ei
wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, ond y byddai oediad a rhai risgiau i
gyflawni'r cynlluniau sydd yn weddill. Diolchwyd am yr adroddiad trylwyr Derbyniwyd bod 98% o gynlluniau arbedion hanesyddol 2015/16 - 2025/26
(yn mynd yn ôl dros 10 mlynedd) wedi eu gwireddu, ond dim ond 81% o gynlluniau
arbedion newydd 2023/24 i 2025/26 sydd wedi ei gwireddu gyda 23 o gynlluniau
wedi llithro neu gyda risg i gyflawni’r arbediad. Er hynny, awgrymwyd i’r
Gwasanaethau Canolog ystyried gynnig cymorth wedi ei dargedu ar gynlluniau nad
yw’r Adrannau yn gallu eu gwireddu. Bod risgiau i’r cyhoedd ac i’r Cyngor drwy geisio arbedion sydd ddim ar
gael, yn enwedig os yw’r galw am wasanaethau yn cynyddu. Awgrymwyd bod asesiad
risg trylwyr o’r peryglon o doriadau yn cael ei gynnal ar bob cynllun. Mewn ymateb, mynegodd Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa o ganfod
toriadau yn mynd yn anoddach a’r effeithiau i wasanaethau trigolion y Sir yn
fwy amlwg. Ategodd y Pennaeth Cyllid mai anodd yw
darganfod arbedion ac felly bod trefniadau amgen mewn lle. Wrth i’r Adran
Cyllid adolygu a thrafod cynlluniau gydag Adrannau a dod i gasgliad nad yw’r
cynllun gwreiddiol yn hyfyw, bydd rhaid ystyried cynllun amgen. Mewn ymateb i gwestiwn, a yw’r sefyllfa yn cael effaith ar wasanaethau statudol ac o ganlyniad yn agosáu at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
POLISI LLEIHAU TRETH CYNGOR O DAN ADRAN 13A(1)(C) O DDEDDF CYLLID LLYWODRAETH LEOL 1992 I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cynnwys y Polisi, ystyried penderfyniad y Cabinet a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
unrhyw
newidiadau deddfwriaethol neu newid mewn amgylchiadau gael eu cyflwyno. Nodyn / Awgrym Ail eirio paragraff 3.3 atodiad
2 – Asesiad Effaith Cydraddoldeb i atgyfnerthu’r datganiad Ychwanegu twristiaeth
gynaliadwy fel maes blaenoriaeth i baragraff 4.5, Adroddiad Cabinet Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i gais gan y
Pwyllgor yn dilyn trafodaeth a gafwyd ym mhwyllgor 13 Tachwedd 2025 ar
Gyfraddau Casglu Treth Cyngor. Amlygodd y Pennaeth
Cyllid bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r Polisi (11.11.25) ac yn unol â
gweithdrefnau’r Cyngor, daeth yn weithredol ar 26.11.25. Datganwyd bod Adran
13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn rhoi pwerau disgresiwn
ychwanegol i’r Cyngor leihau swm y dreth Cyngor sy’n ddaliadwy ar gyfer
unigolion neu ddosbarthiadau o drethdalwyr. Amlygwyd bod y Cyngor yn defnyddio Adran 13A o Ddeddf 1992 fel modd o
gyflwyno eithriadau lleol, dewisol mewn achosion cyfyng iawn a cyn cymeradwyo’r
polisi, y Cabinet yn unig oedd â’r hawl i wneud y penderfyniadau hyn. Yn dilyn
newidiadau mewn Deddfwriaeth a chyflwyno premiwm bu i’r sefyllfa amlygu’r angen
am bolisi fyddai’n rhoi hawl i swyddogion ymdrin â cheisiadau am ostyngiadau
(sefyllfaoedd eithriadol), heb fynd drwy’r Cabinet. Yn ychwanegol lluniwyd
canllawiau gweithredu, ac yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet, bod panel yn cael
ei sefydlu i ystyried y ceisiadau fel modd o gael cysondeb mewn penderfyniadau.
Byddai’r panel yn cynnwys Aelod Cabinet Cyllid, Pennaeth Cyllid (neu Bennaeth
Cynorthwyol), a Rheolwr Trethi gyda Chyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddog
Monitro yn cael gwahoddiad i arsylwi a chynghori. Ategwyd bod pump cyfarfod
wedi eu trefnu ar gyfer 2026 gyda’r hyblygrwydd i gyfarfod yn amlach os bydd
angen. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar y polisi, a all arwain
at addasu rhai o’r eithriadau statudol. Nodwyd y bydd y Polisi yn cael ei gadw
o dan adolygiad parhaus, a’i addasu wrth i unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu
ddiweddariadau i'r polisi gael eu cyflwyno. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod y polisi yn gam bras
i’r cyfeiriad cywir ·
Bod parodrwydd i
addasu’r polisi yn ddibynnol ar amgylchiadau i’w groesawu ·
Yng nghyd-destun asesiad
effaith, bod angen ystyried yr effaith ar yr iaith a theuluoedd Cymreig sydd yn
neud bywoliaeth o dwristiaeth - rhaid amlygu twristiaeth gynaliadwy fel
blaenoriaeth ·
Yn derbyn y bydd
adolygiadau parhaus i’r polisi a bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y
Premiwm Treth Cyngor yn ddiweddar ·
Yn derbyn bod y polisi
newydd wedi ei ddatblygu gyda mewnbwn yr Uned Trethi Mewn ymateb i sylw y byddai risg cyfreithiol o gael premiwm heb bolisi, nododd y Pennaeth Cyllid bod risg cyfreithiol boed polisi neu beidio. Ategodd bod pob polisi yn gytbwys ar sail tegwch a diogelu risg. Petai eithriadau yn codi, neu fod angen edrych ar garfanu penodol, megis llety hunan ddarparu yn methu cyrraedd trothwy 182 diwrnod (o dan y rheolau presennol, rhaid i lety gwyliau gael ei osod am 182 diwrnod bob blwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes. Petai’r annedd yn methu’r targed, bydd yr eiddo yn cael ei ailddosbarthu fel ail gartref a threth cyngor yn cael ei godi arno), a heb amod cynllunio yna, bydd posib i’r panel ystyried yr anghymesur - o geisio dangos gwahaniaeth nad yw'n deg, yn rhesymol, nac yn ddisgwyliedig. Bydd rhaid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru ·
Llety dros dro, argyfwng hirdymor? Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio tan gyfarfod
03/02/2026 Cofnod: Amlygodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y
Cyngor nad oedd fersiwn Gymraeg o ymateb y Cyngor i’r archwiliad wedi ei
gynnwys ar y rhaglen ac felly yn awgrymu gohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod
nesaf fel bod gan yr Aelodau wybodaeth gyflawn i'w drafod / ystyried. PENDERFYNWYD: Gohirio tan gyfarfod
03/02/2026 |
|
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR I ystyried y flaen raglen Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Amlygodd Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor nad oedd fersiwn
Gymraeg o ymateb y Cyngor i’r archwiliad wedi ei gynnwys ar y rhaglen ac felly
yn awgrymu gohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf fel bod gan yr Aelodau
wybodaeth gyflawn i'w drafod / ystyried. PENDERFYNWYD: Gohirio tan gyfarfod 03/02/2026 |