Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Angela Russell a Meryl Roberts |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Penderfyniad: Pryder nad oes capasiti digonol gan yr Uned Archwilio Mewnol i gwrdd â
disgwyliadau’r Cyngor PENDERFYNIAD: · Derbyn adroddiad gan y
Pennaeth Cyllid yn amlygu’r sefyllfa a’r risgiau posib · Angen sicrwydd bod y gwaith
sydd angen ei gyflawni gan Archwilio Mewnol
yn parhau i fod o safon uchel Cofnod: Pryder nad oes capasiti digonol gan yr Uned Archwilio Mewnol i gwrdd â
disgwyliadau’r Cyngor PENDERFYNIAD: ·
Derbyn adroddiad gan y
Pennaeth Cyllid yn amlygu’r sefyllfa a’r risgiau posib ·
Angen sicrwydd bod y
gwaith sydd angen ei gyflawni gan Archwilio Mewnol yn parhau i fod o safon uchel |
|
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn cynnwys yr
adroddiad |
|
|
I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2026/27 i’r Cyngor Llawn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn: -
Rhestr bidiau cyfalaf - cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol
y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am fanylion pellach ynglŷn â rhesymau
dros lithrad amser (dyddiad gwreiddiol 2021) a’r costau ynghlwm â’r llithriad -
Awgrym i gyflwyno gwybodaeth am
dreth y Cyngor mewn gwerth ariannol (£)
yn hytrach na chanran (%) yn unig -
Datganiad y Swyddog Cyllid - ‘anochel bod y gyllideb yn
cynnwys elfen o risg o ragdybiaethau’ ... a oes cynlluniau mewn lle petai
ostyngiad yng nghasgliadau premiwm tai, ond cynnydd yn y galw am adeiladu tai? Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi
derbyn cynnydd grant Llywodraeth o 4.1% ar gyfer 2026/27, sy’n cyfateb i
gynnydd gwerth £10.4m mewn ariannu allanol. Adroddwyd y byddai nifer o
ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2026/27
gyda’r angen i gynyddu gwariant o £23.3m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r
gwasanaethau. Gyda phwysau mewn galw ar
wasanaethau yn ogystal â chwyddiant uchel, nodwyd y bydd argymhelliad i gynnyddu Treth Cyngor o 5.32% i gyflawni’r amcan eleni gyda
rhagolygon yn awgrymu bydd pwysau pellach wrth anelu i osod cyllideb gytbwys ar
gyfer 2027/28. Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn
glir o’r ffeithiau oedd wedi eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad fydd yn
cael ei gymryd ganddynt yn seiliedig ar wybodaeth gadarn. Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i
gyflwyno’r wybodaeth, i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon
oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru. Amlygodd y bydd y Cabinet (cyfarfod 10/02/26) yn argymell i’r Cyngor
Llawn (05/03/26) i sefydlu cyllideb o £379,866,050 ar gyfer 2026/27 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £264,009,390 a £115,856,660 o incwm o’r Dreth Cyngor
(sydd yn gynnydd o 5.32%) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £40,179,430 yn 2026/27. Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb
ac amlygwyd y meysydd hynny; ·
Chwyddiant Cyflogau o
£8.3m - amcan gynnydd cytundeb tâl 2026/27 4% ar gyfer athrawon a 3.4% ar gyfer
gweddill y gweithlu ·
Chwyddiant cyflenwyr
£6,075,390 ·
Cynnydd mewn Ardollau i
gyrff perthnasol - £528,810 ·
Pwysau ar Wasanaethau -
argymell cymeradwyo bidiau gwerth £9,910,580 am adnoddau refeniw parhaol
ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu
gwasanaethau, a bidiau cyfalaf gwerth £840,010 ·
Gwrthdroi Grant
Yswiriant Gwladol Cyflogwr 2025/26 - £3,632,950 Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, cyfeiriwyd at gynlluniau
arbedion gwerth £320,500 oedd yn deillio o raglenni arbedion blaenorol ac
eisoes wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor i leihau’r bwlch ariannol. Adroddwyd y byddai angen cyfarch gweddill y bwlch drwy’r Dreth Cyngor ac
o ganlyniad bydd y Cabinet yn argymell i’r Cyngor Llawn i godi’r dreth 5.32% er
mwyn diwallu’r pwysau ar wasanaethau wrth osod cyllideb gytbwys. Cyfeiriwyd at y gwaith gofynnol a wnaed i adrodd ar gadernid yr
amcangyfrifon sydd yn sail i’r gyllideb, ac wedi ystyried yr holl risgiau a'r
camau lliniaru roedd y Pennaeth Cyllid
o’r farn fod Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27 yn gadarn, yn ddigonol a
chyraeddadwy. Diolchwyd am y cyflwyniad ac i’r staff am eu gwaith. Calongol
oedd gweld bod y sefyllfa yn well na’r hyn oedd wedi ei amcangyfrif o ganlyniad
i gynnydd grant Llywodraeth Cymru. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod gorwariant adrannau
yn parhau yn bryder ·
Bod angen cefnogi
darpariaeth gofal y Sir - bod defnyddio darpariaeth allanol yn gostus. Angen
i’r Cyngor roi cynlluniau darpariaeth fewnol mewn lle fyddai yn arwain at
arbediad yn y dyfodol · Rhestr bidiau cyfalaf - ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
STRATEGAETH GYFALAF 2026/27 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) I ystyried unrhyw risgiau sy’n codi o’r strategaeth cyn i’w chyflwyno i’r Cyngor llawn i’w derbyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd y Strategaeth gan y Rheolwr Buddsoddi. Nodwyd bod y
Strategaeth yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a Rheolaeth Trysorlys y
Cyngor am y flwyddyn 2026/27, gan ategu bod yr Aelodau wedi cael gwahoddiad i
gyflwyniad diweddar gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose
yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr. Cyfeiriwyd at drosolwg o’r gweithgareddau cyfalaf a tynnwyd sylw bod y
Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £40.2miliwn yn 26/27 gyda'r prif
gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu.
Nodwyd mai’r ffynonellau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau
Cyngor Gwynedd yw’r cronfeydd gyda gweddill o’r arian yn dod trwy fenthyciad
fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw
neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd
blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn
£189.8 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 26/27, sef y lefel y dylai benthyg
tymor hir y Cyngor aros odditano. Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes
gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd
y flwyddyn ariannol; bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei
ragweld ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o
dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf. Cyfeiriwyd at y Meincnod Ymrwymiadau sydd bellach yn cael eu hadrodd yn
chwarterol i’r Pwyllgor. Bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau fod yn uwch
na’i feincnod ymrwymiad hyd ar 2026 oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau. Yng nghyd-destun Strategaeth Buddsoddi, nodwyd mai polisi'r Cyngor yw
blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i
dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod symiau yn cael eu cadw drwy’r adeg i
sicrhau hylifedd parhaus. Cyfeiriwyd at rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder
ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith
o’r costau ariannu i’r llif arian lle gwelir bod y ganran yn isel ac yn eithaf
cyson gyda blynyddoedd blaenorol. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau
perthnasol gan y swyddogion a chadarnhad mai Arlingclose
sydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor. Gofynnwyd i’r Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi’r wybodaeth a’r
risgiau a chefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i'r
Cyngor llawn am gymeradwyaeth ar y 5ed o Fawrth 2026 Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r
Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y 5ed o Fawrth 2026 ·
Bod cyflwyniad calonogol gan
Arlingclose, Ymgynghorwr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor (30-01-2026) wedi bod yn
fuddiol iawn, ac wedi rhoi hyder a sicrwydd i’r Aelodau bod y Cyngor ar y
trywydd cywir |
|
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL I dderbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 29 Medi 2025 hyd 25 Ionawr 2026, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, adroddiad gan Reolwr Archwilio Mewnol yn diweddaru’r Pwyllgor ar
waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 29 Medi 2025 hyd 25 Ionawr 2026. Amlygwyd
bod 21 o Adroddiadau am Archwiliadau Cynllun Gweithredu 2025/26 wedi eu cwblhau
gyda dau gynllun yn dangos lefel sicrwydd uchel, naw ohonynt yn dangos lefel
sicrwydd digonol a deg yn dangos lefel sicrwydd cyfyngedig. Ategwyd bod 15
cynllun ar y gweill ar Ionawr 25ain 2026. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Yn derbyn bod diffyg
adnoddau yn cael effaith ar wasanaethau, ond yn gyffredinol bod nifer o’r
diffygion, yn enwedig ym maes Gofal Anableddau Dysgu a Chartrefi Preswyl a
Dydd, yn gamgymeriadau mewn cyflawni prosesau yn gywir. ·
Pwy sydd yn gyfrifol am
yr atebolrwydd? Pwy yw’r person cyfrifol? ·
Yn teimlo
rhwystredigaeth nad oes gwelliant amlwg mewn rheoli a chynnal cartrefi gofal –
disgwyliadau ddim yn cael eu cyfarch ·
Yn derbyn yr
argymhellion, er angen sicrwydd bod sylwadau Archwilio Mewnol yn cael eu
hystyried. Y sefyllfa angen sylw pellach. ·
Archwiliad Coed yn
Syrthio; coed risg uchel – oes angen nodi ‘amodi cyfyngiadau adnoddau’ fel
rheswm dros beidio ymateb? Dylai diogelwch y cyhoedd fod yn flaenoriaeth lle
bynnag mae’r risg ·
Bod angen parhau i gadw
llygad ar y cynlluniau Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd Rheolwr Archwilio Mewnol
mai gwaith Archwilio Mewnol yw amlygu’r risgiau a thystiolaethu bod
trefniadau mewn lle, ac mai perchnogaeth yr Adrannau yw’r camau gweithredu. Ym
maes Gofal, nodwyd bod y pwysau cynyddol yn cael eu cydnabod (diffyg adnoddau,
cyflogau, gwariant taliadau i asiantaethau), a bod cwestiynau yn cael eu gofyn
ynglŷn â be all ei wneud i liniaru'r risgiau hyn. Ategodd byddai galw
Gweithgor Gwella Rheolaethol yn gyfle da i drafod y sefyllfa mewn manylder a chael
gwell dealltwriaeth. Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod rhai o’r agweddau
yn cael eu gweithredu a bod canfyddiadau arolwg diweddar i ddarpariaeth gofal
preswyl Tan y Marian gan Arolygaeth Gofal Cymru (05-09-26) wedi bod yn dda
iawn, ac nad oedd argymhelliad wedi ei gynnwys yn yr arolwg hwnnw. Er hynny,
derbyniwyd bod Archwilio Mewnol yn edrych ar bethau gwahanol (elfennau
gweinyddol) a bod angen sicrywdd bod darlun llawn o’r
sefyllfa yn cael ei adlewyrchu. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a defnydd staff asiantaeth, nodwyd bod staff asiantaeth yn
cael eu defnyddio, ac er bod ymgais yn cael ei wneud i osgoi defnyddio staff
asiantaeth oherwydd y gost uchel, bod y Cyngor yn cael ei roi mewn sefyllfa o
orfod gwneud ar adegau. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r
gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol ·
O ganlyniad i ddiffyg gwelliant yn
y maes gofal preswyl mewn trefniadau addas ar gyfer rheoli'r cartrefi yn
briodol a diffyg cydymffurfiaeth gyda phrosesau rheolaethol, y Pwyllgor angen
sicrwydd bod sylwadau Archwilio Mewnol yn cael eu hystyried. Y sefyllfa angen
sylw pellach. |
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2025/26 I nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad o gynnydd yn
erbyn cynllun archwilio 2025/26, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa
gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2025/26 Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r
amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 54%, allan o’r 50 archwiliad unigol yng nghynllun
diwygiedig 2025/26, bod 27 wedi
ei ryddhau yn derfynol/cwblhau
neu wedi cau. Yn unol
ag arfer gorau a Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang, nodwyd bod y Cynllun yn destun
adolygiad parhaus i sicrhau ei
fod yn parhau’n
gyfredol ac yn adlewyrchu newidiadau yn y busnes. I’r
perwyl hyn, mae’n ofynnol bod y Cynllun Archwilio yn hyblyg, yn
cael ei adolygu
a’i ddiweddaru’n barhaus, ac y bydd cynnal archwiliadau yn ddibynnol ar
asesiad amserol o risgiau / blaenoriaethau ac unrhyw ddatblygiadau neu risgiau newydd a ddaw i’r amlwg. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn
a nodi cynnwys yr adroddiad |
|
|
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter
Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei
weithrediadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS) rhaid llunio
Siarter Archwilio Mewnol gyda chynnwys y Siarter yn cyfarch Nodyn Gweithredu
Llywodraeth Leol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol
yn Llywodraeth Leol y DU (y Cod) a ddarparwyd gan CIPFA i gefnogi awdurdodau i
sefydlu eu trefniadau archwilio mewnol a darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth
ar gyfer archwilio mewnol. Eglurwyd bod y Cod yn nodi mai prif weithredwr / rheolwr archwilio
mewnol sydd â chyfrifoldeb dros baratoi siarter sy'n cydymffurfio â GIAS yn
sector cyhoeddus y DU ac y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cael ei fodloni ei fod yn cwmpasu trefniadau
llywodraethu ar gyfer archwilio mewnol. Ategwyd bod rhaid i’r Siarter gynnwys
elfennau sy’n sicrhau swyddogaeth wedi ei diffinio’n glir ac effeithiol - mandad
sy'n nodi'n glir bwrpas a chenhadaeth y swyddogaeth archwilio mewnol; bod diffiniadau
o'r termau 'bwrdd' ac 'uwch reolwyr', at ddibenion y swyddogaeth archwilio
mewnol a bod y term Sefyllfa Sefydliadol yn diffinio sefyllfa archwilio
mewnol o fewn y sefydliad, gan sicrhau bod ganddo awdurdod ac annibyniaeth
ddigonol sy'n cynnwys mynediad anghyfyngedig i’r uwch reolwyr a’r bwrdd. Yn ychwanegol i’r
hyfforddiant a dderbyniodd aelodau’r Pwyllgor (28-01-26) oedd yn rhoi
ddiweddariad am eu cyfrifoldebau fel aelod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
yn sgil cyflwyno Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang a’r Nodyn Cymhwyso a ddaeth
i rym yn y sector gyhoeddus ar 1 Ebrill, 2025, fe’u htgoffwyd bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn nodi cyfrifoldeb
i fodloni bod y siarter yn cwmpasu trefniadau llywodraethu ar gyfer archwilio
mewnol. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Mandad a'r Siarter
Archwilio Mewnol, i'w gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei
weithrediadau. |
|
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2026/27 I dderbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio
Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a
chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd, yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang (GIAS),
Strategaeth Archwilio Mewnol sydd yn fodd o sicrhau bod prif weithredwr
archwilio mewnol yn datblygu a gweithredu’r strategaeth ar gyfer swyddogaethau
archwilio mewnol sy’n cefnogi amcanion strategol a llwyddiant y sefydliad.
Eglurwyd bod y Strategaeth Archwilio Mewnol wedi'i datblygu i alinio'r
blaenoriaethau, yr amcanion a'r risgiau strategol allweddol sy'n wynebu'r
Cyngor i gyd-fynd â gwaith y swyddogaeth archwilio fewnol dros y tair blynedd
nesaf. Ystyriwyd y byddai hyn yn darparu cyfeiriad strategol i'r swyddogaeth
archwilio fewnol ac yn cefnogi'r Cyngor yn ei ymagwedd at gyflawni ei amcanion
allweddol ac yn dyrannu adnoddau archwilio mewnol yn briodol. Ynghyd â’r Strategaeth, ac eto yn unol â gofynion Safonau Archwilio
Mewnol Byd-eang (GIAS), cyflwynwyd Cynllun Archwilio Mewnol sydd eto yn fodd o
sicrhau bod prif weithredwr archwilio yn creu cynllun archwilio mewnol sy’n
cefnogi cyflawni amcanion y sefydliad. Eglurwyd bod y Cynllun yn seiliedig ar
asesiad o strategaethau, amcanion a chofrestr risg corfforaethol y Cyngor ac y
bydd angen cynhyrchu adroddiad blynyddol, gan gynnwys y casgliad blynyddol ar
lywodraethu, rheoli risg a rheolaethau, a pherfformiad archwilio mewnol yn
erbyn ei amcanion. (Y Cod) Nodwyd, er mwyn i
archwilio mewnol barhau i fod yn berthnasol, rhaid addasu i ddisgwyliadau gan
sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd ag amcanion y Cyngor. Ategwyd bod y
Strategaeth Archwilio Mewnol yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau cydbwysedd
rhwng cost a gwerth, gan wneud cyfraniadau ystyrlon at lywodraethu cyffredinol,
rheoli risg, a rheolaethau mewnol y Cyngor. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn a chymeradwyo cynnwys y Strategaeth Archwilio
Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2026/2027, i'w cymeradwyo, a
chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau. |
|
|
ADRODDIAD AROLYGAETHAU ESTYN A AROLYGAETH GOFAL CYMRU I ystyried
a derbyn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn: Ymchwiliad Craffu Trefniadau Diogelu Mewn
Ysgolion – angen diweddariad Cofnod: Yn dilyn cais gan y Cyngor i Estyn ac
Arolygaeth Gofal Cymru gynnal arolwg ar y cyd i werthuso datblygiadau yn
nhrefniadau diogelu Awdurdod Lleol Gwynedd, cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad
yn amlygu canfyddiadau’r arolwg hwnnw. Eglurwyd, ers arestio cyn bennaeth Ysgol
Friars, Neil Foden, yn 2023
ac yn ddiweddarach ei ganfod yn euog o droseddau rhyw yn Mai 2024, cyhoeddwyd
adroddiad ‘Cyfiawnder Trwy ein Dewrder’ mewn ymateb i gyfleoedd a gollwyd i
bryderon yn ymwneud â Foden a’i ryngweithio â
phlant. Comisiynwyd yr adroddiad gan
Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ac adolygwyd ymarfer plant a phrosesau
diogelu y Cyngor. Cynhaliwyd arolwg arolygiaethau Estyn ac
Arolygaeth Gofal Cymru yn Nhachwedd 2025 ac yn dilyn
yr arolygiad, cyflwynwyd argymhellion i’r Cyngor. Nodwyd bod rhai o’r
argymhellion eisoes yn cael sylw drwy’r cynllun ymateb i Adroddiad Cyfiawnder
Trwy ein Dewrder (a gyflwynwyd i’r Pwyllgor 15-01-26), a bod dau oedd heb eu
cynnwys yn y cynllun yn cael eu hymgorffori ac yn derbyn ystyriaeth pellach.
Ystyriwyd bod cael un cynllun gweithredu yn benderfyniad ymarferol. Tynnwyd
sylw at un argymhelliad (4d) oedd yn ymwneud a threfniadau comisiynu a monitro
cytundebau gwasanaeth oedd yn ymddangos yn eithriad, yn elfen strategol ac yn
sefyll ar wahân, ond bod ymateb yn cael ei baratoi i’r argymhelliad hwnnw. Diolchwyd am yr
adroddiad Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol: ·
Er derbyn bod polisïau
yn cael eu hadolygu / cael eu creu o’r newydd, bod prosesau yn cael eu tynhau,
a gwybodaeth yn cael ei rannu yn well, bod y rhain wedi mewn lle beth bynnag ac
a’i felly mai diffyg dealltwriaeth, dilyniant, methiannau staff ac atebolrwydd
a arweiniodd at y methiannau? Angen rhoi sylw i hyn. ·
Ymchwiliad craffu ‘Trefniadau Diogelu Mewn Ysgolion’ – pam nad
yw canfyddiadau’r ymchwiliad ar gael? Angen diweddariad ·
Bod angen cynnal
hyfforddiant i roi hyder i unigolion godi llais Yng nghyd-destun
gosod amserlen ar gyfer y gwaith, nodwyd pan fydd mesurau wedi eu diwallu neu
wedi cyrraedd lefel o safon, yna'r gobaith yw erbyn Ebrill 2026 dylai nifer fod
wedi eu cau i lawr. Er hynny, gyda rhai materion yn rhai diwylliannol a bod ee,
creu polisïau newydd yn cymryd amser, yna anodd fyddai gosod amserlen gyda dyddiadau pendant. Wrth holi am gryfhau hyfforddiant diogelu i holl staff a Llywodraethwyr
gan sicrhau ei fod yn addas i bwrpas, nodwyd nad oedd yr hyfforddiant presennol
yn ddigon arbenigol ac felly mewn ymateb comisiynwyd gwaith i sicrhau bod
hyfforddiant diogelu ar draws gwasanaethau yn cael ei ddiweddaru a’i gwblhau
gan staff. Adroddwyd bod 77% o’r gweithlu bellach wedi cwblhau’r hyfforddiant
sydd yn gynnydd sylweddol ar y perfformiad blaenorol. Rhestrwyd y modiwlau mandadol sydd i’w
cwblhau gan y gweithlu ac ategwyd bod modiwlau hyfforddiant perthnasol a
gyfeiriwyd atynt gan y Bwrdd Diogelu ar gyfer cofnodi sgyrsiau wedi cael eu
mabwysiadu ynghyd a sesiynau rhannu gwybodaeth am Fodel Finkelhor. Yng nghyd-destun hyfforddiant i Lywodraethwyr ac os oedd hyfforddiant i’w grymuso gan sicrhau cymhwyster neu sgiliau priodol i’r swydd, nodwyd bod hyn yn cael ei ystyried, a cytunwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
|
TREFNIADAU AR GYFER COMISIYNU GWASANAETHAU - CYNGOR GWYNEDD I adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol, rheoli perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor I sicrhau bod
trefniadau ar waith i fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn unrhyw argymhellion
a geir ynddynt. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn
ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion o fewn yr adroddiad A1.
Sefydlu trefniadau comisiynu cyson A2.
Ymgorffori trefniadau ar draws y Cyngor Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Caffael yn
amlygu canlyniadau Archwilio Cymru i
archwiliad cenedlaethol i geisio darganfod, wrth gomisiynu gwasanaethau
os yw Cyngor Gwynedd, yn sefydlu trefniadau priodol i sicrahu
gwerth am arian o ran y modd y mae’n defnyddio ei adnoddau. Adroddwyd bod yr
archwiliad wedi ei gynnal yng Ngynwydd rhwng Rhagfyr
2024 a Chwefror 2025 ac ymhob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Yn dilyn yr
archwiliad, cyflwynwyd dau argymhelliad i’r Cyngor a tynnwyd sylw at ffurflen
ymateb y sefydliad i’r camau gweithredu perthnasol ynghyd ag amserlen a swyddog
cyfrifol i gwblhau’r gwaith. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sefyllfa
Gwynedd, a’i bod ychydig yn wahanol i Gynghorau eraill oherwydd yr angen i
sicrhau gwasanaeth Cymraeg a pha ystyriaeth sydd yn cael ei roi i ddylanwadu ar
hyn, o ystyried efallai bod llai o ddarparwyr ar gael, nodwyd bod y
Gymraeg wedi cael ei adnabod fel un o
flaenoriaethau caffael y gwasanaeth, ond bod yr adroddiad yma yn ystyried
trefniadau comisiynu'r Cyngor cyn mynd allan i dendr. PENDERFYNWYD Derbyn ymateb sefydliadol y Cyngor
i’r argymhellion o fewn yr adroddiad A1. Sefydlu trefniadau comisiynu
cyson A2. Ymgorffori trefniadau ar draws
y Cyngor |
|
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU - Llety dros dro, argyfwng hirdymor? Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru • Llety dros dro, argyfwng hirdymor? Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
-
A1 Gwerth am arian -
A2 Cynllunio ar gyfer Atal -
A3 Gweithio mewn
Partneriaeth
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn amlygu canlyniadau
Archwilio Cymru i archwiliad
cenedlaethol i geisio adnabod cyfleoedd i wella gwerth am arian a dulliau
Cynghorau o ymateb i’r galw am lety dros dro. Adroddwyd bod yr archwiliad wedi
ei gynnal yng Ngwynedd rhwng Medi 2024 ac Ebrill 2025 gyda dogfennau allweddol
gan fod un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi eu hadolygu. Yn dilyn yr
archwiliad, cyflwynwyd tri argymhelliad i’r Cyngor a tynnwyd sylw at ffurflen
ymateb y sefydliad i’r camau gweithredu perthnasol ynghyd ag amserlen a swyddog
cyfrifol i gwblhau’r gwaith. Diolchwyd am yr adroddiad oedd yn ymateb i sefyllfa heriol iawn ar draws
y wlad. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol ·
Bod angen diffiniad clir
o’r gair ‘digartref’ a beth yw’r maen prawf ·
Croesawu bod Gwynedd yn
ceisio prynu a sicrhau gofod eu hunain i sicrhau lleoliadau addas a cheisio osgoi dibyniaeth
ar safleoedd anaddas ·
Bod angen sicrhau
cyfathrebu clir gyda’r cyhoedd - cynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyflwyno
cynlluniau gyda gwahoddiad i’r Aelod Lleol ·
Bod angen annog proses
haws i’r drefn cynllunio i allu defnyddio siopau gwag ar gyfer creu darpariaeth ·
Yn croesawu'r gwaith da
mae GISDA yn ei wneud ym Mhwllheli a Caernarfon ·
Yn croesawu’r
ddarpariaeth sydd yn cael ei brawf fesur ar gyfer y dyfodol – hyn yn hanfodol i
gynlluniau dros dro ·
Bod cadw pobl mewn gwely
a brecwast yn gostus iawn i’r Cyngor ac felly angen gwell ffordd o ymateb i’r
sefyllfa ·
Bod angen torri'r stigma Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â cheisio defnyddio tai gwag y Sir ar
gyfer y digartref, nodwyd bod elfennau cyfreithiol ynglŷn â pherchnogaeth
eiddo, ond bod gwaith yn mynd yn ei flaen i geisio sefydlu peilot fyddai’n dod
a pum tŷ i berchnogaeth y Cyngor drwy osod gorchymyn codi tal ar y
perchennog (charging order)
fel y cam olaf yn dilyn rhybuddion o gamau gorfodaeth. Ategwyd bod y Cyngor
wedi ymgysylltu gyda chwmni arbenigol i gael cymorth ar y broses ac os bydd y
peilot yn llwyddiannus, bydd y Cyngor yn edrych i ryddhau pum eiddo gwag arall
i ddefnydd. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â defnydd polisi ar gyfer
y broses, nodwyd bod Polisi Adennill wedi ei fabwysiadau yn Nhachwedd
2024 oedd hefyd yn amlygu camau yn y broses. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r drefn o leoli pobl ddigartref ac
ystyriaeth ar sut mae pobl yn cael eu lleoli, nodwyd er nad oes modd rhannu
gwybodaeth bersonol am y digartref, bod ystyriaeth ofalus yn cael ei wneud i
sicrhau bod y lleoliad yn un addas. Ategwyd y byddai’r gwasanaeth yn cydweithio
yn agos gydag asiantaethau, ac yn ystyried y gymuned, cyn gwneud penderfyniad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn Adroddiad Cenedlaethol
Archwilio Cymru ·
Derbyn
ymateb sefydliadol y Cyngor i’r argymhellion; -
A1
Gwerth am arian -
A2
Cynllunio ar gyfer Atal -
A3
Gweithio mewn Partneriaeth ·
Croesawu'r gwaith da sydd yn cael
ei wneud gan yr Uned Digartrefedd · Cais am adroddiad yn rhoi diweddariad ar y gwaith peilot sydd yn cael ei wneud gan y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR I ystyried y flaen raglen Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: |