Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn faterion brys ym marn y Cadeirydd er mwyn eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2022 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5 Gorffennaf, 2022 fel rhai cywir. |
|
PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD PDF 235 KB I bennodi un o
swyddogion i swydd statudol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Penderfyniad: Penodi Ian Jones, Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol i swydd statudol Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd. Cofnod: PENDERFYNIAD Penodi Ian Jones,
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i swydd statudol Pennaeth Gwasanaethau
Democrataidd. Mynegodd Cadeirydd y Pwyllgor ei ddiolch i’r Cyn-bennaeth Gwasanaethau
Democrataidd am ei waith dros y 7 mlynedd ddiwethaf gan ddymuno pob llwyddiant
iddo yn ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Corfforaethol. Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am y
geiriau caredig a chyfleu ei werthfawrogiad i aelodau presennol yn ogystal â
chyn aelodau’r Pwyllgor hwn am y cydweithio dros y blynyddoedd. Nododd ei
ddiolchiadau i’r Cadeiryddion dros y blynyddoedd ac i Reolwr y Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith â’r tîm am y gefnogaeth. Eglurwyd bod angen penodi Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd newydd gan ei bod yn rôl statudol. Adroddwyd bod Ian Jones bellach wedi cael ei
benodi fel Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a chynhigiwyd derbyn yr
argymhelliad i benodi Ian Jones yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Mynegwyd
hyder y byddai’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yn rhoi’r ddyledus barch i’r
swyddogaeth hon. Yn dilyn pleidlais unfrydol croesawyd y
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i’r rôl. Mynegodd ei ddiolchiadau am y
gefnogaeth ar ei benodiad fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gan adrodd ei
fod yn anrhydedd ymgymryd â’r rôl. Adroddodd ei fod yn edrych ymlaen at
gydweithio a chefnogi’r Aelodau yn eu gwaith dros y blynyddoedd nesaf. Nid oedd unrhyw sylwadau pellach. |
|
CEFNOGAETH I GYNGHORWYR PDF 513 KB Penderfyniad: Nodi’r sylwadau a
derbyn y wybodaeth. Cofnod: PENDERFYNWYD: Nodi’r sylwadau a derbyn y wybodaeth. Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar
ganlyniadau’r holiadur a anfonwyd i’r holl Aelodau ym mis Hydref 2022. Nodwyd mai rhan gyntaf yr holiadur oedd holi Aelodau am amseriad
cyfarfodydd y Cyngor. Adroddwyd ar y canlyniadau gan nodi bod 42 aelod wedi
ateb yr holiadur yn llawn. Nodwyd bod y canlyniadau yn dangos parodrwydd i
addasu rhywfaint ar rai o gyfarfodydd y Cyngor megis symud amser cychwyn y
Cyngor Llawn o 1:00yp i 1:30yp. Dangosa’r canlyniadau bod awydd i barhau efo
amseru cyfredol y Pwyllgorau Craffu ond bod rhai wedi mynegi awydd i newid
amser y Pwyllgor Cynllunio i gychwyn am 10:00yb. Ychwanegwyd y gall newid o’r
fath greu anawsterau ynghylch cynnal ymweliadau safle. Adroddwyd y bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio fel sail i’r calendr
cyfarfodydd 2023/24. Cadarnhawyd bod trafodaethau a gwaith pellach i’w wneud
wrth ystyried amser cychwyn y Pwyllgor Cynllunio cyn dod i gasgliad. Adroddwyd
bod yr holiadur wedi amlygu’r angen am doriad amserol mewn Pwyllgorau; nodwyd y
bydd hyn yn derbyn sylw ac yn cael ei drafod gyda Cadeiryddion gwahanol
Bwyllgorau. Nodwyd bod ail ran yr adroddiad yn cyfeirio
at fodlonrwydd yr Aelodau efo’r tîm Gwasanaethau Democratiaeth a chyfeiriwyd at
y sylwadau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Adroddwyd bod trydedd rhan yr
adroddiad yn ymdrin â materion cyfathrebu a nod yr uned o gyfleu negeseuon yn
amserol a hwylus i Aelodau. Nodwyd bod y canlyniadau yn foddhaol ar y cyfan. I gloi nodwyd bod sylwadau wedi eu cyflwyno
megis brolio’r sesiynau anffurfiol Merched sy’n Gynghorwyr gan nodi bod y rhain
yn hybu cydweithio ymhlith Cynghorwyr benywaidd ac yn codi hyder y Cynghorwyr
hyn. Derbyniwyd sylwadau positif ar y rhaglen hyfforddi yn ogystal â sylwadau
ar ddiogelwch Cynghorwyr. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Mynegwyd awydd i barhau efo amser
cyfredol y Pwyllgor Cynllunio. Credwyd bod cynnal y Pwyllgorau yn y prynhawn yn
gweithio’n dda ac yn galluogi cynnal ymweliadau safle yn rhwydd ar fore’r
Pwyllgor. Nodwyd y byddai’n fwy costus i’r Cyngor pe bai angen cynnal yr
ymweliadau safle ar ddiwrnod arall. -
Gwnaethpwyd sylw ar ddiogelwch
Cynghorwyr yn dilyn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Awst a thybiwyd
os oedd angen ail ystyried trefniadau diogelwch y Cyngor. Adroddwyd bod dau
Gynghorydd wedi derbyn bygythiadau difrifol o ganlyniad i’r cyfarfod dan sylw a
cwestiynwyd a ddylai’r Heddlu fod yn bresennol pan fydd eitemau dadleuol yn
cael eu trafod. -
Credwyd bod y dirwedd wleidyddol
wedi newid a phryderwyd gweld rhagor o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Nodwyd
hefyd bod cyfrifoldeb ar Gynghorwyr i gymryd sylw o’r hyn maent yn ei gyfleu
a’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio. -
Mynegwyd gwerthfawrogiad bod asesiadau risg bellach yn
cael eu cynnal. -
Nodwyd ei bod yn rhan o rôl
Cynghorydd i herio er enghraifft aelodau’r Pwyllgorau Craffu a bod cyfrifoldeb
i siarad ar ran eu cynrychiolwyr. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig cymryd
ystyriaeth o’r cod ymddygiad wrth herio. - Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu cymorth. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 PDF 238 KB I dderbyn y
diweddariad o’r camau gweithredu yn unol â gofynion y Ddeddf ac i argymell y
Cynllun Deisebau i’r Cabinet. Hefyd i adnabod 2 neu 3 aelod i gynorthwyo gyda’r
gwaith o ddatblygu protocol ‘Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau ar y Cynllun Deisebau
fydd yn cael ei argymell i’r Cabinet. b)
Adnabod y Cynghorwyr Dewi Owen, Beca Roberts a Stephen
Churchman fel aelodau i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu protocol ‘Cymorth
a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’. Cofnod: PENDERFYNWYD: a)
Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau
ar y Cynllun Deisebau fydd yn cael ei argymell i’r Cabinet. b)
Adnabod y Cynghorwyr Dewi Owen, Beca
Roberts a Stephen Churchman fel aelodau i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu
protocol ‘Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’. Cyflwynwyd yr eitem gan
osod cyd-destun y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd
bod yr adroddiad yn cyfeirio at dair elfen o’r Ddeddf ac yn rhoi diweddariad
i’r Pwyllgor ar y camau gweithredu perthnasol a’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd
yma yn unol â gofynion y Ddeddf. Nodwyd bod tîm gweithredol o’r Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith a’r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi ei sefydlu er mwyn
ymgymryd â’r gwaith. Adroddwyd bod gofyniad yn y
Ddeddf i Awdurdodau Lleol gyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad er mwyn nodi’r
ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhrosesau’r Cyngor o wneud
penderfyniadau. Nodwyd bod y tîm gweithredol wedi bod yn datblygu strategaeth
ddrafft a bydd y strategaeth honno yn cael ei datblygu dros amser wrth i
arferion da ddod i’r amlwg. Ychwanegwyd ei bod yn ofynnol cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Strategaeth a bwriedir cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad yn y
fersiwn derfynol o’r strategaeth i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth. Nodwyd mai gofyniad arall
yn ôl y Ddeddf yw creu a chyhoeddi Cynllun Deisebau. Eglurwyd nad yw hyn yn
rhywbeth newydd i’r Cyngor ond nad oes unrhyw ganllawiau penodol mewn lle ar
hyn o bryd yn amlygu’r camau. Ategwyd bod y Cynllun wedi ei gynnwys yn yr
adroddiad fel atodiad ac yn dilyn derbyn sylwadau’r Pwyllgor heddiw bydd y
Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddiwedd Tachwedd i’w argymell i’w
fabwysiadu gan y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Ychwanegwyd y byddai’r Swyddogion
yn ddiolchgar o dderbyn unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor. Y gofyniad olaf yw rhoi
sylw i ganllawiau Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorau. Adroddwyd bod y
ddogfen yn nodi y dylai pob Aelod allu cael gafael ar amrywiaeth o wybodaeth a
chyngor; mae’r protocol hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Nodwyd bod
angen adnabod tri Aelod i gynorthwyo gyda’r gwaith yma er mwyn sicrhau mewnbwn
Aelodau. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Gofynnwyd am eglurder ynglŷn
â’r posibilrwydd o gyflwyno deiseb bapur yn hytrach na drwy e-bost ac am y
nifer o lofnodwyr ar ddeiseb. Mynegwyd pryder bod deisebau efo llai na 100 o
enwau am gael eu gwrthod a chredwyd y byddai hyn yn cael effaith ar faterion
mewn pentrefi bach. Gofynnwyd i’r geiriad gael ei ail ystyried. -
Holiwyd am eglurder ynglŷn
â’r pwynt am aelodau o’r cyhoedd yn gallu gofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn a
gofynnwyd os yw hyn yn golygu newid i’r Cyfansoddiad. -
Cyfeiriwyd at ddau achos ble roedd Aelod wedi holi dau
Bennaeth Adran am wybodaeth; cafwyd ymateb boddhaol gan un Pennaeth ond credwyd
bod yr ymateb yn siomedig gan y Pennaeth arall.
- Cwestiynwyd pa mor ddefnyddiol ydi deisebau gan nodi y gall casglu dros 100 o lofnodion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU PDF 794 KB I roi diweddariad o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a
datblygiadau. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd. Cofnod: PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd. Cyflwynwyd trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a
Datblygu i Aelodau gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau.
Adroddwyd bod dewis o hyfforddiant rhithiol ac wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig
er mwyn darparu amrywiaeth i’r Aelodau ond hefyd annog llai o deithio. Mynegwyd y byddai’r uned Dysgu a Datblygu yn ddiolchgar o dderbyn
sylwadau am y ddarpariaeth er mwyn gallu addasu a gwella i geisio ymateb i
ofynion Aelodau. Nodwyd bod y Rhaglen Datblygu Aelodau Etholedig yn esblygu ac
yn gyfuniad o geisiadau gan Swyddogion y Cyngor ac Aelodau. Anogwyd yr Aelodau
i roi eu barn ar beth y dymunant ei weld ar y Rhaglen. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Mynegwyd bod y cyfnod Cofid wedi newid bywydau a bod y
cynnig o hyfforddiant rhithiol o fantais i lawer am ei fod yn arbed amser
teithio Cynghorwyr ac yn arbed arian i’r Cyngor. -
Credwyd bod safon yr hyfforddiant yn dda iawn. -
Mynegwyd safbwynt bod y cyrsiau
neu’r hyfforddiant rhithiol yn anoddach i’w deall a’u cofio o gymharu â’r rhai
sy’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ble gall Aelodau gyd-drafod a sgwrsio,
credwyd bod y rhain yn fwy effeithiol. -
Ategwyd y farn uchod gan nodi bod hyfforddiant wyneb yn
wyneb yn fwy diddorol. -
Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol
gweld rhestr o ba hyfforddiant mae Aelodau wedi eu mynychu ac angen eu mynychu,
yn enwedig efo’r hyfforddiant hanfodol. -
Adroddwyd bod y Cyngor yn arfer
cynnig hyfforddiant ar sut i ddelio efo’r wasg e.e. cyfweliadau teledu neu
radio, a broliwyd yr hyfforddiant hwn. Gofynnwyd a fydd rhywbeth tebyg yn cael
ei gynnig yn y misoedd nesaf. -
Ategwyd y sylw uchod efo budd derbyn hyfforddiant ar sut
i ddeilio efo’r wasg yn ogystal ag elfen o hyfforddiant ar siarad yn
gyhoeddus. -
Holiwyd am y drefn o ddarparu adborth ar ôl mynychu
hyfforddiant. -
Mynegwyd sylw y byddai mwy o hyfforddiant yn ymwneud a
Deddfau a’r ochr gyfreithiol o fudd er mwyn cael gwell eglurder am y materion
hyn. -
Diolchwyd i’r uned Dysgu a Datblygu am eu gwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau: -
Mynegwyd ei bod yn bwysig cynnig
amrywiaeth o hyfforddiant rhithiol ac wyneb yn wyneb a bod yr uned yn ceisio
taro’r balans cywir. -
Nodwyd bod modd gweld rhestr o ba
hyfforddiant mae Aelodau unigol wedi eu mynychu ar y Modiwl Datblygu Staff o
dan Fy Nghofnod Hyfforddi. Gall y Swyddog Datblygu Aelodau anfon e-bost at yr
Aelodau yn esbonio ble i ddod o hyd i’r cofnod hwn. - Adroddwyd y gall sesiwn hyfforddi ar ddelio efo’r wasg gael ei drefnu pe bai’r Aelodau yn dymuno. Ychwanegwyd yn hanesyddol fod yr hyfforddiant hwn yn cael ei gynnig i Aelodau Cabinet neu Gadeiryddion ond cytunwyd y dylai gael ei gynnig yn ehangach. Nodwyd bod y sesiynau ar gyfer Aelodau Cabinet wedi cael eu trefnu at ddechrau 2023; bydd yr uned yn trafod pryd sy’n amserol i gynnig yr hyfforddiant i weddill yr Aelodau. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD DRAFFT PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 262 KB I ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am: ·
sylwadau ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad
drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. ·
sylwadau ar y trefniadau i adolygu uwch gyflogau. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi
sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft
Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac ar y trefniadau i adolygu uwch
gyflogau. Cofnod: PENDERFYNWYD: Derbyn yr
adroddiad gan nodi sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad
adroddiad drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac ar y trefniadau
i adolygu uwch gyflogau. Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn argymell i
gynyddu cyflog sylfaenol Cynghorwyr i £17,600, sef cynnydd o 4.76%. Gofynnwyd
am sylwadau ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel
Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol sydd yn amlinellu’r newidiadau a fwriedir
ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24. Eglurwyd mai cyfrifoldeb y Panel yw gosod
lefelau cyflogau Cynghorwyr Cymru a bod eu rôl yn hollol annibynnol. Ychwanegwyd nad oes rhaid i Aelodau dderbyn y
cyflog, mae’r hawl ganddynt i wrthod y cyflog ond rhaid gwneud hynny yn
ysgrifenedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Adroddwyd mai 18 yw’r uchafswm o uwch gyflogau
y gellir eu talu ac mae’r adroddiad yn manylu ar argymhellion a safbwynt y
Panel. Cadarnhawyd mai 17 allan o’r 18 uwch gyflog sydd wedi eu neilltuo ar
gyfer 2022/23 yn sgil y newidiadau o benodi Aelod Lleyg yn Gadeirydd y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r sefyllfa ar gyfer
2023/24. Nodwyd bod y rhestr o’r uwch gyflogau i’w weld ym mharagraff 17 o’r
adroddiad. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at
adolygu cyfrifoldebau Cadeiryddion Pwyllgorau felly bydd y tîm Democratiaeth yn
ceisio asesu'r pwysau gwaith a’r cyfrifoldebau ar y Cadeiryddion dros y misoedd
nesaf. Bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth ym mis Mawrth 2023 er mwyn llunio argymhelliad i
gyfarfod blynyddol y Cyngor llawn ym mis Mai. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Mynegwyd sylw bod yr Aelodau wedi derbyn beirniadaeth yn
barod am dderbyn rhagor o gyflog. -
Gwnaethpwyd sylw bod Aelodau yn
gallu hawlio ad-daliadau costau gofal i’w cynorthwyo efo gofal plant a bod
ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth a chwestiynwyd os oedd yr holl Aelodau yn
ymwybodol o hyn. -
Ategwyd bod
hyn hefyd yn wir i ofalwyr sydd â dibynyddion a’i bod yn bwysig hyrwyddo’r
cymorth sydd ar gael. -
Mynegwyd siomedigaeth nad oedd
gwahaniaeth yng nghyflogau Cynghorwyr Tref a Chynghorwyr ardaloedd gwledig.
Ychwanegwyd nad oedd angen i Gynghorwyr ardaloedd trefnol ddefnyddio eu ceir na
thalu am logi ystafelloedd ar gyfer cynnal cymorthfeydd felly yn arbed llawer o
arian o gymharu â Chynghorydd ward gwledig. Credwyd bod y diffyg ystyriaeth i’r
costau ychwanegol i Gynghorwyr gwledig yn annheg. -
Ategwyd mai’r ffordd fwyaf teg o benderfynu pa
Gadeiryddion Pwyllgorau sy’n derbyn yr uwch gyflog fydd drwy edrych ar eu rôl
yn unigol a’u llwyth gwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau: -
Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth
o’r hyn sydd ar gael i Aelodau o ran ad-daliadau costau gofal. Cyfeiriwyd at y
Llawlyfr Aelodau sy’n cyfeirio at yr hyn sydd ar gael. -
Nodwyd bod gwybodaeth yn yr adroddiad llawn gan Banel
Annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol a gall y Rheolwr Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith anfon copi o’r adroddiad llawn i Aelodau pe baent yn
dymuno. - Ychwanegwyd y gall y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |