Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn Edwards, Elin Hywel a Delyth Lloyd Griffiths.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024, fel rhai cywir.

 

5.

FFIOEDD PARCIO pdf eicon PDF 270 KB

I graffu diweddariadau o fewn y Gwasanaeth Parcio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Argymell i’r Cabinet:

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd parcio yn flynyddol neu bob dwy flynedd gan roi ystyriaeth i sefyllfa chwyddiant;

·       Ni ddylid addasu’r trefniadau gorfodaeth yn y meysydd parcio arhosiad byr oherwydd yr effaith ar yr economi leol.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd ymhellach ym meysydd parcio mewn ardaloedd twristiaeth penodol megis Pen y Gwryd.

·       Dylid ystyried cynyddu ffioedd safleoedd Arosfan yn flynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) a’r Rheolwr Parcio a Gwaith Stryd.

 

Eglurwyd bod yr Adroddiad yn cynnwys addasiadau i drefniadau ffioedd parcio er mwyn cydymffurfio â chynlluniau arbedion y Cyngor a mynd i’r afael â gorwariant o fewn y gwasanaethau parcio Atgoffwyd bod dau o’r prosiectau a welwyd yn yr adroddiad (Cynyddu ffioedd parcio Pen y Gwryd a Chynyddu pris Tocyn Parcio Blynyddol a Thocynnau Parcio Lleol meysydd parcio £5 y flwyddyn) eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

Tynnwyd sylw at gynllun i Ymestyn Oriau Gorfodaeth Parcio ym Meysydd Parcio Arhosiad Byr y Cyngor gan dynnu sylw mai’r oriau gorfodaeth presennol yw rhwng 10:00yb ac 4:30yh. Eglurwyd y bwriedir ymestyn yr oriau gorfodaeth i 09:00yb i 05:00yh. Atgoffwyd mai dyma oedd argymhelliad gwreiddiol y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn 2021.

 

Nodwyd mai’r pedwerydd cynllun sydd ynghlwm a’r adroddiad yw Addasiad i Strwythur Ffioedd Arhosiad Hir Band 2. Eglurwyd bod y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno er mwyn cyfarch cynnydd mewn chwyddiant. Tynnwyd sylw at her wrth gyfarch cynnydd chwyddiant er mwyn sicrhau bod ffioedd addas yn cael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw un sydd yn dymuno talu ag arian parod, heb orfod canfod llawer o arian mân. Cadarnhawyd mai’r trefniant arferol yw aros ychydig o flynyddoedd cyn addasu ffioedd parcio yn unol â chwyddiant er mwyn sicrhau bod ffioedd parcio yn ymarferol i ddefnyddwyr. Cydnabuwyd bod hyn yn arwain at cryn dipyn o gynnydd ond bod yr addasiadau i brisiau yn cael eu gwneud yn llai aml. Cadarnhawyd bod yr addasiadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn gynnydd o oddeutu 30%-40% gan sicrhau na fydd angen eu haddasu ymhellach hyd at y flwyddyn 2028/29.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Cytunwyd gyda’r cynlluniau i gynyddu ffioedd parcio ym Mhen y Gwryd ac anogwyd yr adran i fuddsoddi mewn lleoliadau cyffelyb gan ei bod yn cael defnydd cyson. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am Ffioedd Parcio Band 1-3 ar gyfer arosiadau hir.

 

Anghytunwyd gyda chynlluniau i addasu oriau gorfodaeth meysydd parcio. Ystyriwyd byddai hyn yn cael gormod o effaith negyddol ar drigolion a busnesau lleol gan arwain at ddirwyon. Nodwyd ei fod yn debygol y byddai cynyddu cost tocyn parcio blynyddol i £145 yn golygu na fyddai unigolion yn ei brynu.

 

Tynnwyd sylw bod cyfnodau amser mewn ffioedd parcio yn addasu mewn rhai achosion. Trafodwyd enghraifft bod £2 am gael parcio am 1 awr yn addasu i fod yn £2.50 am gyfnod o 4 awr. Ystyriwyd os bydd hyn yn atal pobl rhag talu i barcio oherwydd nad oeddent yn defnyddio’r maes parcio am gyfran helaeth o’r cyfnod hwnnw. Er hyn, cytunodd Pennaeth yr Adran bod y cynnydd hwn mewn amser ar gyfer mannau parcio arhosiad hir yn un o awgrymiadau grŵp tasg a gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn 2019. Eglurwyd bod y grŵp yn teimlo byddai hyn yn cefnogi busnesau lleol oherwydd byddai gan bobl amser, ac yn gwario arian mewn busnesau lleol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS pdf eicon PDF 270 KB

I dderbyn diweddariad ar ddatblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(i)             Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)            Argymell i’r Adran Amgylchedd:

·       y dylid cynnwys yr Aelodau Lleol mor fuan â phosib wrth ystyried newidiadau i wasanaethau bws;

·       bod angen cryfhau’r trefniadau ymgynghori gyda chymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd (Trafnidiaeth) a’r Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd.

 

Eglurwyd bod newid cyson wedi bod ym maes cludiant cyhoeddus ers nifer o flynyddoedd yn sgil addasiadau deddfwriaethol ac esblygiad blaenoriaethau’r Cyngor, Trafnidiaeth i Gymru ac Llywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi derbyn canmoliaeth gan y Llywodraeth am y gwaith a gyflawnwyd yn y maes. Ymfalchïwyd bod gwaith o safon uchel wedi cael ei gyflawni ac bod trigolion yn gweld buddion o ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

 

Tynnwyd sylw at natur gymhleth tirwedd y Sir, gan egluro bod 7 gwahanol fath o wasanaethau cludiant cyhoeddus ar gael gyda gwahanol brosesau ariannu. Manylwyd bod rheolaeth y Cyngor dros y prosiectau hyn yn amrywio yn unol â chontractau gyda phartneriaid. Cydnabuwyd bod dibyniaeth ar arian y tu hwnt i reolaeth y Cyngor yn risg i’r gwasanaeth.

 

Pwysleisiwyd bod ‘Rhwydwaith cludiant cyhoeddus sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau Gwynedd’ wedi cael ei nodi fel blaenoriaeth ‘Gwynedd Werdd’ fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd bod yr Adran yn gweithio i addasu gweithdrefnau presennol yn barhaus er mwyn cyflawni’r flaenoriaeth hon. Diweddarwyd bod cytundebau gwasanaethau cludiant cyhoeddus wedi cael eu diweddaru ym mhob ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwasanaethau newydd mewn lle. Manylwyd bod gwasanaethau Caernarfon a Dyffryn Nantlle wedi eu diweddaru ym mis Gorffennaf 2023, Meirionnydd wedi ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2024 a gwasanaethau Bangor a Dyffryn Ogwen wedi eu diweddaru ym mis Mehefin 2024.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

Croesawyd y cyfle i ymgysylltu gyda’r Adran wrth iddynt ystyried rhwydwaith a threfniadau yn Nwyfor i’r dyfodol. Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae’r Adran yn monitro defnydd wrth ystyried newid gwasanaethau, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod peiriant ar pob bws yn monitro faint o bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaethau penodol ac i ble maent yn teithio. Ymhelaethwyd bod Swyddogion yn gallu defnyddio’r wybodaeth hyn wrth ystyried unrhyw addasiad i gylchdeithiau’r gwasanaeth.

 

Diolchwyd i’r adran am wasanaeth cyfleus a dibynadwy yn ardal Dyffryn Nantlle. Mewn ymateb i ymholiad am dalu gyda cherdyn drwy ddefnyddio technoleg ‘Tapio ‘Mlaen/Tapio Ffwrdd’, cadarnhaodd y Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod modd gwneud hyn. Ymhelaethwyd bod cost isafswm y defnydd o’r technoleg hwn yn £2.20 hyd at uchafswm o £6.50 y diwrnod, os oes defnydd o’r gwasanaeth wedi ei wneud.

 

Mewn ymateb i enghraifft o sefyllfa ble mae amserlen y gwasanaeth yn anghyfleus i rai defnyddwyr, cydnabodd yr Aelod Cabinet Amgylchedd bod yr heriau hyn yn codi mewn rhai amgylchiadau ond bod y gwasanaeth yn gweithio ar gyfer canran uchel o ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad i ymholiad am ystyriaeth o ddefnydd myfyrwyr o’r gwasanaethau cludiant cyhoeddus pwysleisiwyd bod y rhwydwaith yn un cymhleth iawn. Diolchodd y Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i Drafnidiaeth i Gymru am eu cydweithrediad er mwyn sicrhau rhwydwaith defnyddiol i ardaloedd gwledig y Sir. Ymhelaethwyd bod nifer o bartneriaethau a rhwydweithiau yn rhan o’r gwasanaeth cludiant cyhoeddus a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

GWASANAETHAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU pdf eicon PDF 335 KB

I dderbyn diweddariad ar y rhaglen waith a’r materion sydd angen sylw ym meysydd gwastraff ac ailgylchu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth yr Adran Amgylched a’r Pennaeth Cynorthwyol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y gwasanaeth hwn wedi cael ei drosglwyddo o’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC yn ôl yn Hydref 2022 a bod newidiadau mawr wedi cael eu gweithredu i wella gweithrediad y gwasanaeth o fewn yr Adran Amgylchedd. Cydnabuwyd bod nifer o heriau wedi codi yn y cyfnod trosglwyddo, gan arwain at drafferthion casglu a chylchdeithiau, ond credir bod y gwasanaeth yn sefydlog erbyn hyn.

 

Cyfeiriwyd at dargedau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod 70% o holl wastraff Awdurdodau Lleol yn cael ei ailgylchu erbyn Mawrth 2025. Pwysleisiwyd bod hyn yn darged heriol iawn ac bod gwaith yn mynd rhagddo i geisio ei gyrraedd. Eglurwyd bod y Cyngor yn cyrraedd targedau cyfredol y Llywodraeth o ailgylchu 64% o wastraff ac yn hyderus bydd fframweithiau’r Adran yn arwain at gynnydd yn y canran hwn. Tynnwyd sylw bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn awgrymu gall Awdurdodau Lleol cael eu cosbi’n ariannol os na bydd y targed o 70% yn cael ei gyrraedd.

 

Eglurwyd bod dwy ffactor wedi arwain at gorwariant o fewn y gwasanaeth yn ddiweddar. Manylwyd bod rhain yn cynnwys lefelau salwch y gweithlu yn ogystal â goramser. Nodwyd bod cymysgedd o salwch byr dymor ac hir dymor wedi arwain at hyn, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn cydweithio gyda cwmni Byw’n Iach er lles y gweithwyr. Diolchwyd i’r gweithlu am eu ymateb cadarnhaol i’r galw am newid yn y ffordd o weithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cyflawni o fewn y gyllideb. Diolchwyd hefyd i holl staff y gwasanaeth am eu hagwedd gadarnhaol  a’u parodrwydd i gyflawni’r gwaith o safon uchel er budd holl drigolion y Sir.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i bryderon am ddirwyon gan Lywodraeth Cymru os na fydd 70% o wastraff yn cael ei ailgylchu, sicrhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oes unrhyw Awdurdod Lleol wedi derbyn dirwy hyd yma, er bod rhai wedi methu cyrraedd targedu. Pwysleisiwyd nad oes cadarnhad pendant o’r ddirwy hwn wedi cael ei gyhoeddi a chredir bydd y Llywodraeth yn edrych ar dargedau Awdurdodau Lleol dros y blynyddoedd er mwyn gweld os oes ymdrech wedi ei wneud er mwyn cyrraedd y lefelau a ofynnir. Manylwyd bod Gwynedd wedi bod yn cyrraedd targedau’r Llywodraeth yn gyson dros y blynyddoedd ac yn cydweithio’n agos gyda swyddogion felly ni ragwelir bydd Gwynedd yn derbyn dirwy os na fydd y lefel ailgylchu o 70% yn cael ei gyfarch.

 

Ymholiad ar gynlluniau’r Adran i godi ffioedd ar gwaredu rhai eitemau o wastraff megis teiars, rwbel ac asbestos ac ystyriwyd os byddai hyn yn debygol o arwain at fwy o achosion tipio slei bach. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Adran Cynorthwyol bod oddeutu 80 tunnell o deiars yn cyrraedd y canolfannau ailgylchu yn flynyddol ac mae’n costio tua £20,000 er mwyn eu prosesu. Pwysleisiwyd bod gweithdrefnau mewn lle o fewn yr Adran Priffyrdd, Bwrdeistrefol ac YGC i ddelio gyda achosion tipio slei bach,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS (RHEOLI CŴN) pdf eicon PDF 147 KB

I dderbyn diweddariad ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

·       Argymell bod yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cysylltu gyda Chynghorwyr i gynnig cyflenwad o’r pecynnau bagiau baw cŵn i’w defnyddio yn eu cymunedau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a'r Rheolwr Gwasanaethau Stryd.

 

Eglurwyd bod gorchymyn rheoli cŵn wedi bodoli ers 2013 a'i fod erbyn hyn wedi ei ymestyn hyd at Awst 2027. Ymhelaethwyd bod  gorchymyn yn ymwneud â pheidio â chlirio neu godi baw ci, gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi ei gwahardd a pheidio rheoli a chadw ci ar dennyn pan ofynnir i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn ymwybodol bod y materion hyn yn bwysig i drigolion Gwynedd gan nodi bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi cael ei gynnal yn ddiweddar, yn unol a’r gofyniad statudol i adnewyddu’r gorchymyn pob 3 mlynedd. Pwysleisiwyd bod 1100 o ymatebion wedi eu derbyn o’r ymgynghoriad hwn, o’i gymharu â 75 ymatebiad i ymgynghoriad yr Adran ar strategaeth llifogydd yn ddiweddar.

 

Eglurwyd bod gorfodaeth o fewn y gwasanaeth hon wedi bod yn heriol yn y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn marwolaeth sydyn aelod allweddol o staff. Cydymdeimlwyd gyda’r gweithwyr am eu colled. Pwysleisiwyd bod materion staffio wedi gwella erbyn hyn ac mae niferoedd cosbau ar gynnydd a phresenoldeb y tîm yn fwy amlwg wrth iddynt ymdrin â nifer o agweddau gorfodaeth megis graffiti a baw cŵn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Adran wedi cyfuno tri gwasanaeth er mwyn sefydlu Gwasanaeth Edrychiad Stryd. Mae’r rhain yn cynnwys y timoedd gorfodaeth, glanhau strydoedd a thacluso Ardal Ni. Nodwyd bod y timau yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol er mwyn addysgu trigolion, gosod biniau baw cŵn, arwyddion a thacluso’r strydoedd. Ymhelaethwyd bod addysgu a chynnal ymgyrchoedd yn agwedd cyson o waith rheolaeth cŵn a chyfeiriwyd at nifer o brosiectau megis yr arwyddion coch a welir mewn cymunedau dros y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd bod ffocws y gwasanaethau yn addasu yn dymhorol gan nodi eu bod wedi bod yn cydweithio gyda’r gwasanaethau morwrol dros yr haf er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn ymwybodol o’r rheoliadau cŵn gan baratoi i addasu’r pwyslais ar strydoedd a pharciau dros y gaeaf.

 

Adroddwyd bydd yr Adran yn edrych ar y sefyllfa rheolaeth cŵn yn ehangach i’r dyfodol er mwyn gweld sut mae cydweithio yn draws adrannol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn mynd i’r afael a’r mater. Cyfeiriwyd at gynlluniau newydd sydd yn cael eu datblygu gan Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd a fyddai’n darparu arweiniad i’r Awdurdodau Lleol yn fuan.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd bod y gwasanaeth yn cydweithio gyda milfeddygon. Nodwyd bod y gwasanaeth yn darparu pecynnau gwybodaeth a phosteri ar eu cyfer a’i fod yn elfen bwysig o rannu gwybodaeth gyda perchnogion cŵn am y rheoliadau sydd mewn grym. Diolchwyd i’r milfeddygon am eu parodrwydd i gydweithio.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd bod pecynnau bychan o fagiau baw ci ar gael i Aelodau Etholedig ac anogwyd iddynt ddod i gyswllt gyda’r gwasanaeth os ydynt yn dymuno eu derbyn er mwyn eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 213 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Cafwyd diweddariad ar y materion i’w craffu. Nodwyd yn dilyn derbyn cais i’r Pwyllgor flaengraffu yr eitem ‘Ffioedd Parcio’ yn y cyfarfod yma, cysylltwyd gyda’r adrannau perthnasol er mwyn adnabod eitem i’w ail-raglennu. Eglurwyd yr ymgynghorwyd â’r Cadeirydd yn dilyn derbyn ymatebion gan yr adrannau.

 

Awgrymwyd y dylid ail-raglennu’r eitem ‘Cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan’ i gyfarfod 20 Mawrth 2025. . Nodwyd byddai ail-raglennu’r eitem i gyfarfod mis Mawrth yn rhoi cyfle i’r ffrwd gwaith yma ddatblygu ymhellach gan roi mwy o gyfle i graffu ychwanegu gwerth.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2024/25.