Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dafydd Owen Davies. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 06 Tachwedd 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06
Tachwedd 2025, fel rhai cywir. |
|
|
CAIS I GRAFFU GAN AELOD O'R CYHOEDD - MATERION ARIANNU'R CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR I ystyried: · Cais gan aelod o’r cyhoedd · Ymateb swyddogion i’r pwyntiau a godwyd
yn y cais i graffu · Os oes angen gwneud
argymhelliad(ion) penodol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cadarnhawyd nad oedd modd i’r
aelod o’r cyhoedd fod yn bresennol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Yn ei
absenoldeb, darllenodd yr Ymgynghorydd Craffu ddatganiad ysgrifenedig a
ddarparwyd ganddo, a oedd yn ymhelaethu ar ei gais drwy nodi’r pwyntiau canlynol: ·
Dylai’r arian sydd yn cael ei wario fel rhan o
Gynllun Ymateb Argyfwng Hinsawdd a Natur gyfarch gofyniad budd cyhoeddus Deddf
Elusennau 2011, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail
tystiolaeth, yn dryloyw a bod modd eu craffu’n effeithiol. ·
Ei fod yn anoddach i dystiolaethu sut mae
prosiectau yn cael eu blaenoriaethu ac os ydynt yn cyfarch y gofyniad budd
cyhoeddus, os oes unrhyw brosiectau eraill wedi eu hystyried a pha dystiolaeth
a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad os nad oes ymgynghoriadau cyhoeddus a
goruchwyliaeth y Cabinet yn rhan o lywodraethiant y
Cynllun. ·
Pwysigrwydd trefniadau llywodraethu da. ·
Dylid sicrhau bod cynlluniau arbrofol yn addas ar
gyfer y dyfodol. Os yw’r Cyngor yn cynnal cynllun peilot cerbydau fflyd trydan,
ni fyddai canlyniadau’r peilot yn adlewyrchu gwir gost y fflyd drydan i’r
dyfodol. ·
Dylai prosiectau’r Cynllun nodi budd cyhoeddus dros
amser i’r dyfodol. Gall budd cyhoeddus o unrhyw brosiect leihau os yw costau yn
parhau i gynyddu. Rhaid i’r Cyngor ddangos y rhoddir ystyriaeth i hyn. ·
Bod hawliau dirprwyedig yn cynyddu'r risg o
dybiaethau heb eu profi. Pryder y gall prosiectau gael eu cymeradwyo ar sail
gwybodaeth sydd wedi dyddio neu ar sail optimistaidd heb gael ei graffu. Mewn
ymateb i’r cais i graffu ac i’r datganiad ysgrifenedig a oedd yn ymhelaethu ar
gais yr unigolyn, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan swyddogion:- Croesawyd
y cais hwn i graffu’r materion gan aelod o’r cyhoedd, gan ymfalchïo bod y
cyhoedd yn ymddiddori yng ngwaith y Cynllun. Sicrhawyd
bod llywodraethiant y Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur yn
cael ei ystyried yn gyson, gan rhoi ystyriaeth fanwl i’w weithrediadau a
phenderfyniadau cyllidol, gan nodi bod ymateb ysgrifenedig wedi cael ei
gyflwyno i’r cais i graffu yn rhan o ddogfennaeth y cyfarfod. Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad yw Deddf Elusennau 2011 yn berthnasol i
weithrediad y Bwrdd na’r Cyngor yn gyffredinol, gan egluro mai Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a gweithdrefnau democrataidd yw’r
ystyriaethau perthnasol ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mewn
ymateb i’r cais i graffu ac i’r datganiad ysgrifenedig yn ymhelaethu ar y cais,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:- Diolchwyd
i’r unigolyn am gyflwyno’r cais hwn i graffu, gan ymfalchïo bod y cyhoedd yn
cymryd diddordeb yn y maes. Anghytunwyd gyda’r cysyniad nad
oedd materion y Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur yn cael ei graffu gan fod y
pwyllgor hwn yn ei graffu’n rheolaidd. Ychwanegwyd bod aelod o’r cabinet yn
bresennol ar gyfer y broses craffu hynny a bod sylwadau’r pwyllgor hwn yn cael
effaith gadarnhaol ar y Bwrdd. Cadarnhawyd bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn gyson ar faterion argyfwng hinsawdd a natur er mwyn sicrhau bod pobl Gwynedd yn cael cyfle i leisio barn wrth lunio prosiectau’r Bwrdd. Fodd bynnag, ystyriwyd bod lle i wella er mwyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
ADOLYGIAD O'R CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR To review
the Climate and Emergency Plan as part of the Cyngor Gwynedd Plan 2023-28, A
Green Gwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd:
Ø
y dylid cyfathrebu llwyddiannau a’r gwaith a
gyflawnwyd i wireddu’r Cynllun gyda’r cyhoedd. Ø
bod angen cynyddu’r defnydd o gwestiynau agored
mewn ymgynghoriadau cyhoeddus er mwyn
derbyn ymatebion a fyddai’n cyfoethogi’r wybodaeth ar gael i lywio cyfeiriad
i’r dyfodol. Ø
y dylid ystyried addasu’r geiriad canlynol:
“...byddwn yn parhau i leihau ein allyriadau dros y degawdau nesaf hyd nes ein
bod yn cyrraedd y targed o sero net’ (Tudalen 6, Cynllun Argyfwng Hinsawdd a
Natur, Fersiwn 2), er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol o ran cyrraedd y targed. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cyfarwyddwr
Corfforaethol a’r Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd. Tynnwyd sylw at y prif
bwyntiau canlynol: Cadarnhawyd bod y cynllun diwygiedig wedi cael ei ddatblygu yn dilyn
adborth o ymgynghoriad cyhoeddus a gyflawnwyd yn ystod misoedd yr haf 2025.
Tynnwyd sylw bod newidiadau i brosiectau’r cynllun gan nodi hefyd bod nifer
uwch o brosiectau. Atgoffwyd bod y cynllun gwreiddiol yn manylu ar brosiectau mewnol i’r
Cyngor yn unig, gan gadarnhau bod hyn bellach wedi ei newid i gynnwys
prosiectau allanol hefyd. Ymhelaethwyd bod gwaith pellach wedi cael ei gyflawni
ar y prosiectau gwreiddiol er mwyn
sicrhau gwerth cyhoeddus ac i sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn
sicrhau bod pob cymuned yn ymuno gyda’r Cyngor er mwyn cynorthwyo i atal yr
argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod hyn yn arwain at effaith ar
adnoddau gan adrodd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ceisio amcangyfrifo
costau rhai prosiectau. Pwysleisiwyd bod nifer o ffactorau wrth ddelio gyda’r argyfwng hinsawdd a
natur y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan bwysleisio bod popeth yn cael ei wneud
er mwyn ymdrechu i fynd i’r afael a’r argyfwng tra mae llywodraethau eraill yn
fwy ymrwymol i’r achos. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd
y sylwadau a ganlyn:- Manylwyd ar ganrannau rhai o gwestiynau
penodol yr ymgynghoriad cyhoeddus gan ystyried byddai’n ddefnyddiol i gynnwys
rhai cwestiynau agored. Teimlwyd byddai cynnwys cwestiynau o’r fath yn arwain
at awgrymiadau a fyddai’n gwella gwasanaethau i’r dyfodol ac yn ddull o dderbyn
syniadau newydd i’w datblygu yn y maes. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd y byddai
cynnwys cwestiynau o’r math yma yn cael ei ystyried yn y dyfodol. Derbyniwyd rhai sylwadau o bryder nad oedd y
Bwrdd yn ymateb yn ddigon effeithiol gan nad oedd yn derbyn gwybodaeth wyddonol
arbenigol. Ymhelaethwyd mai swyddogion profiadol y Cyngor sydd yn rhan o’r
Bwrdd yn ogystal ag Aelodau Etholedig gan amlygu’r angen am arbenigwyr penodol
o fewn meysydd gwyddoniaeth. Yn yr un modd, pryderwyd bod rhai o brosiectau’r
cynllun yn arwain at gostau cynyddol gan awgrymu y gall cyfran o’r arian hwn
gael ei ddefnyddio i ymateb i heriau presennol
sydd yn effeithio pobl Gwynedd yn hytrach nac ymdrechu i ddatrys
problemau a all godi yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at dudalen 6 o’r Cynllun a oedd yn
nodi : “...byddwn yn parhau i leihau ein allyriadau dros y degawdau nesaf hyd
nes ein bod yn cyrraedd y targed o sero net’, gan ystyried os yw lleihau
allyriadau dros ddegawdau nesaf yn darged anghyrraeddadwy. Trafodwyd yr angen i
addasu’r geiriad hwn er mwyn cynnwys targed realistig ac uchelgeisiol i’r
dyfodol. Mewn ymateb, cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol gyda’r sylwadau hyn
gan bwysleisio ei fod yn allweddol i osod targedau realistig gan nad yw’n
debygol bydd modd cyfarch y nôd. Tynnwyd sylw bod Adran 10 o’r Cynllun yn nodi bod cyfraddau allyriadau carbon yn y maes gwastraff yn sero erbyn hyn. Gofynnwyd o ystyried bod allyriadau carbon yn deillio o losgi gwastraff gweddilliol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
I graffu cynlluniau Teithiau Llesol fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023/28 –
Gwynedd Werdd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd:
Ø
bod angen edrych ar wariant ar gyfer cynnal a
chadw llwybrau teithiol llesol a chostau torri gwair a thyfiant ar eu hymylon
er mwyn ystyried a oes unrhyw arbedion posib. Ø
y dylid cynnwys cwestiynau ynghylch cynnal a
chadw llwybrau teithiau llesol a chwestiwn am faterion lleol yn yr ymgynghoriad
cyhoeddus. Ø
y dylid edrych ar drefniadau asesiadau risg. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, Trafnidiaeth a Rheolwr
Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol. Atgoffwyd bod ystod eang o gynlluniau ar waith ar draws y Sir, mewn
ardaloedd gwledig a threfol. Rhannwyd enghreifftiau o brosiectau cyffelyb sydd
ar waith gan bartneriaid y Cyngor er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r rhwydwaith
teithio llesol. Eglurwyd bod prosiectau yn cael eu blaenoriaethu drwy weithredu dwy
ffrwd grant sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd bod un
yn ymwneud yn benodol â teithio llesol a llwybrau diogel o fewn cymunedau ac ar
gyfer ysgolion. Manylwyd yr angen i asesu gwahanol prosiectau er mwyn sicrhau
eu bod yn cyfarch meini prawf y grantiau hynny er mwyn cael eu cymeradwyo.
Diweddarwyd bod cynlluniau teithio llesol hefyd yn derbyn ystyriaeth bellach o
dan y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Adroddwyd bod datblygiadau teithio llesol yn cael eu diweddaru’n
rheolaidd gyda gwahanol brosiectau ar wahanol lefelau o aeddfedrwydd. Nodwyd
bod hyn yn caniatáu i lwybrau newydd gael eu datblygu yn rheolaidd i gyfarch
anghenion cymunedau. Tynnwyd sylw bod yr Adran yn awyddus i gynyddu cyfleoedd grantiau sydd
ar gael yn y maes hwn i’r dyfodol. Ymhelaethwyd ar yr her barhaus o gynnal a
chadw’r llwybrau hyn gan atgoffa bod arian cyfalaf yn cael ei ddarparu i osod y
seilwaith ond nad oes arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i’r Cyngor i’w
cynnal a’u cadw. Cydnabuwyd bod nifer o’r llwybrau hyn yn cael eu datblygu ar
ymylon priffyrdd ond pwysleisiwyd nad yw’r rhaglen waith ar gyfer cynnal a
chadw priffyrdd yn cyfarch anghenion defnyddwyr y llwybrau teithio llesol er
mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu hysgubo yn ddigonol a sicrhau bod tyfiant yn
cael ei reoli. Nodwyd y gobeithir byddai llwyddo i ariannu rhaglen cynnal a
chadw effeithiol yn cyflawni nod y prosiect megis lleihau tagfeydd traffig ac i
sicrhau nad oes problemau parcio mewn ardaloedd trefol. Nodwyd bod yr adran
wedi cyflwyno Bid Un Tro am arian i geisio cyfarch y galw am y gwaith hwn
eleni. Pwysleisiwyd bod swyddogion hefyd yn datblygu pecyn i gefnogi ac arfogi
ysgolion i hyrwyddo defnydd o’r llwybrau hyn i’r dyfodol. Mynegwyd balchder bod yr Adran yn cydweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn datblygu llwybrau a fyddai o gymorth i
bartneriaid y Cyngor. Rhannwyd enghraifft penodol o lwybr teithio llesol yn
ardal Penrhosgarnedd, Bangor, ble gobeithir bydd defnydd o’r llwybrau hynny yn
lleihau baich traffig a pharcio ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn Ysbyty Gwynedd a’r
ardal ehangach. Atgoffwyd bod mapiau o lwybrau llesol ar gael sydd yn manylu ar
eu lleoliadau ar draws Gwynedd ac yn genedlaethol. Pwysleisiwyd nad oes asesiad risg mewn lle ar gyfer sefyllfa ble nad oes arian yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith cynnal a chadw’r llwybrau. Tynnwyd sylw penodol am ddifrod i lwybr Lôn Eifion yn 2025 yn dilyn storm, gan nodi bod rhan o’r llwybr bellach ar gau. Amcangyfrifwyd bydd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADRODDIAD CYNNYDD BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN I graffu
gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw’n fras at y prif
bwyntiau canlynol: Cyflwynwyd crynodeb o waith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys
Môn (y Bwrdd) i weithredu Cynllun Llesiant 2023-2028. Adroddwyd bod y Bwrdd yn ei drydedd flwyddyn o’i gynllun pum mlynedd,
gan gadarnhau y gellir tystiolaethu cynnydd cadarnhaol i’w amcanion.
Ymhelaethwyd bod y mwyafrif o amcanion wedi cael eu cwblhau neu’n datblygu yn
unol â’u hamserlen. Mynegwyd balchder bod y Bwrdd wedi llwyddo i gydweithio
gyda’i bartneriaid ar lefel gweithredol a strategol ac yn rhannu adnoddau ac
arfer dda yn gyson gyda’i gilydd. Ymfalchïwyd bod y Bwrdd wedi llwyddo i wella’r bartneriaeth a
chydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol,
Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant sydd bellach wedi arwain at waith
arloesol ar draws sawl maes blaenoriaeth. Cadarnhawyd bod Is-grŵp Iaith y Bwrdd wedi cwblhau prosiect
‘Ymarferion Recriwtio Da’ yn ogystal â phrosiect ‘Chwalu Mythau am Weithio yn
Gymraeg’. Pwysleisiwyd bod y gwaith hwn yn amlygu bod blaenoriaethu’r iaith
Gymraeg yn egwyddor sydd yn cael ei ymgorffori’n drawsbynciol ym mhob elfen o
waith y Bwrdd. Mynegwyd balchder bod y Bwrdd yn parhau i fod yn arloesol drwy fod y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf i gyd-arwyddo Siarter Teithio Llesol.
Nodwyd bod hyn yn amcan o fewn eu blaenoriaeth hinsawdd gan gadarnhau bod
chwech o aelodau’r bwrdd bellach wedi ymrwymo iddo’n
ffurfiol gan ymhelaethu bod pedwar partner arall yn y broses o wneud hynny. Pwysleisiwyd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r Bwrdd i fod
yn wybodus am drawma. Eglurwyd bod sesiynau arbenigol wedi cael eu cynnal ar
gyfer holl Aelodau’r Bwrdd gyda gwaith dilynol er mwyn asesu dealltwriaeth a'u
harferion cyfredol. Cadarnhawyd bod bwriad i ehangu’r hyfforddiant hwn ar draws
Gogledd Cymru. Cyfeiriwyd at rai o ddatblygiadau pellach y Bwrdd megis cydweithio gyda
Thîm Pwysau Iach Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu adnoddau sydd yn helpu
sefydliadau adolygu eu polisïau mewnol ar gyfer dull system gyfan. Yn debyg,
ymfalchïwyd bod safle gwe ranbarthol (agenda.cymru)
wedi ei sefydlu er mwyn rhannu adnoddau ac arferion da gyda Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Diolchwyd i’r Pwyllgor Craffu hwn am eu sylwadau ac argymhellion i
herio’r Bwrdd yn adeiladol er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn cyflawni
canlyniadau ystyrlon i drigolion. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:- Diolchwyd i’r Bwrdd am eu gwaith i fod yn Wybodus o Drawma yn ogystal â gwaith sydd yn cael ei wneud i gynorthwyo unrhyw un sydd yn byw mewn tlodi. Croesawyd gwaith y Bwrdd i adnabod o ble mae trawma a thlodi yn deillio a gweithio ar ffyrdd i gyfarch hynny’n effeithiol. Cyflwynwyd ystadegau ar dlodi ymysg plant gan egluro yr amcangyfrifwyd bod 4.5miliwn o blant yn byw mewn tlodi yn y Deyrnas Unedig (31% o boblogaeth plant). Pwysleisiwyd mai 23.6% yw’r ffigwr ar gyfer plant sydd yn byw mewn tlodi yng Ngwynedd. Cadarnhawyd bod hynny’n gyfwerth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU Mabwysiadu
rhaglen waith dirprwyedig ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu. Atgoffwyd bod blaenraglen ddiwygiedig wedi ei
fabwysiadu ar gyfer 2025/26 gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 06 Tachwedd
2025. Nodwyd bod eitem ‘gweithrediad Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi ei raglennu ar
gyfer y cyfarfod hwn (22 Ionawr 2026). Adroddwyd bod dyfarniad yr Uchel Lys ar
27 Tachwedd 2025 wedi diddymu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ac fe wrthodwyd cais llafar
y Cyngor am ganiatâd i apelio’r penderfyniad hwn. Ymhelaethwyd bod cais
ysgrifenedig i apelio’r penderfyniad wedi cael ei gyflwyno gan egluro bydd
gwrandawiad yn y Llys Apêl os yw’r cais yn cael ei dderbyn. Eglurwyd oherwydd y
sefyllfa gyfreithiol hon, nid yw’n briodol i’r Pwyllgor hwn graffu’r mater ar
hyn o bryd ac argymhellwyd nodi’r mater fel eitem i’w graffu pan fydd yn
amserol. Ymhellach, adroddwyd bod eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd –
Dewisiadau Strategol, Gweledigaeth ag Amcanion’ wedi ei raglennu ar gyfer y
cyfarfod hwn (22 Ionawr 2026). Eglurwyd bod yr Adran Amgylchedd wedi cyflwyno
cais i’r eitem hon lithro i’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27 gan bod amodau y
tu hwnt i reolaeth yr adran wedi codi a olygir bod rhaglen waith y Cynllun wedi
llithro. Cadarnhawyd mai un o’r ffactorau hyn oedd disgwyl am ddata cyfredol
megis rhagamcanion twf aelwydydd gan Lywodraeth Cymru. Adroddwyd o ganlyniad, bod eitem ‘Adroddiad Cynnydd Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei ail-raglennu i’r cyfarfod yma o gyfarfod 19 Mawrth 2026. Gofynnwyd i’r aelodau gymeradwyo rhaglen waith ddiwygiedig fel y’i
cyflwynwyd yn yr adroddiad. Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd yr Ymgynghorydd Craffu byddai’r sefyllfa o ran
Erthygl 4 yn cael ei fonitro a byddai Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor yn
trafod yr amserlen yn eu cyfarfod cyswllt gyda’r Aelod Cabinet Amgylchedd a
Phennaeth Adran Amgylchedd. PENDERFYNWYD Mabwysiadwyd rhaglen waith
diwygiedig ar gyfer 2025/26. |