Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 16 Mai 2024 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: |
|
I graffu
diweddariadau o fewn y Gwasanaeth Parcio. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Dylid ystyried cynyddu ffioedd parcio yn flynyddol neu bob
dwy flynedd gan roi ystyriaeth i sefyllfa chwyddiant; · Ni ddylid addasu’r trefniadau gorfodaeth yn y meysydd parcio
arhosiad byr oherwydd yr effaith ar yr economi leol. · Dylid ystyried cynyddu ffioedd ymhellach ym meysydd parcio
mewn ardaloedd twristiaeth penodol megis Pen y Gwryd. · Dylid ystyried cynyddu ffioedd safleoedd Arosfan yn
flynyddol. |
|
DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS PDF 270 KB I dderbyn
diweddariad ar ddatblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i)
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. (ii)
Argymell i’r
Adran Amgylchedd: ·
y dylid cynnwys yr
Aelodau Lleol mor fuan â phosib wrth ystyried newidiadau i wasanaethau bws; ·
bod angen
cryfhau’r trefniadau ymgynghori gyda chymunedau. |
|
GWASANAETHAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU PDF 335 KB I dderbyn diweddariad ar y rhaglen waith a’r
materion sydd angen sylw ym
meysydd gwastraff ac ailgylchu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. |
|
GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS (RHEOLI CŴN) PDF 147 KB I dderbyn diweddariad ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
(Rheoli Cŵn). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. ·
Argymell bod yr
Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC yn cysylltu gyda Chynghorwyr i gynnig
cyflenwad o’r pecynnau bagiau baw cŵn i’w defnyddio yn eu cymunedau. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU PDF 213 KB Mabwysiadu
rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar gyfer 2024/25. |