Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 177 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS I GRAFFU GAN AELOD O'R CYHOEDD - MATERION ARIANNU'R CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 83 KB

I ystyried:

 

·       Cais gan aelod o’r cyhoedd

·       Ymateb swyddogion i’r pwyntiau a godwyd yn y cais i graffu

·       Os oes angen gwneud argymhelliad(ion) penodol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  • Nodi ymateb y swyddogion, cydnabod bod trefniadau llywodraethu mewn lle a pharhau i graffu’r Cynllun yn flynyddol.
  • Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd y dylid ystyried dulliau i gynyddu ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus a chael mewnbwn y cyhoedd ac eraill.
  • Gofyn bod gwybodaeth am wariant yn cael ei amlygu a’i fanylu yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur er sicrhau tryloywder.

 

6.

ADOLYGIAD O'R CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 163 KB

To review the Climate and Emergency Plan as part of the Cyngor Gwynedd Plan 2023-28, A Green Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  • Bod y Pwyllgor yn croesawu’r bwriad i ail-edrych ar y targed i’r Cyngor fod yn Garbon Sero Net erbyn 2030.
  • Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:

Ø  y dylid cyfathrebu llwyddiannau a’r gwaith a gyflawnwyd i wireddu’r Cynllun gyda’r cyhoedd.

Ø  bod angen cynyddu’r defnydd o gwestiynau agored mewn ymgynghoriadau  cyhoeddus er mwyn derbyn ymatebion a fyddai’n cyfoethogi’r wybodaeth ar gael i lywio cyfeiriad i’r dyfodol.

Ø  y dylid ystyried addasu’r geiriad canlynol: “...byddwn yn parhau i leihau ein allyriadau dros y degawdau nesaf hyd nes ein bod yn cyrraedd y targed o sero net’ (Tudalen 6, Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur, Fersiwn 2), er mwyn bod yn fwy uchelgeisiol o ran cyrraedd y targed.

 

7.

TEITHIAU LLESOL pdf eicon PDF 1 MB

I graffu cynlluniau Teithiau Llesol fel rhan o Gynllun y Cyngor 2023/28 – Gwynedd Werdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  • Bod y Pwyllgor yn croesawu’r gwaith o geisio cyfarch costau cynnal a chadw llwybrau teithio llesol.
  • Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:

Ø  bod angen edrych ar wariant ar gyfer cynnal a chadw llwybrau teithiol llesol a chostau torri gwair a thyfiant ar eu hymylon er mwyn ystyried a oes unrhyw arbedion posib.

Ø  y dylid cynnwys cwestiynau ynghylch cynnal a chadw llwybrau teithiau llesol a chwestiwn am faterion lleol yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Ø  y dylid edrych ar drefniadau asesiadau risg.

 

8.

ADRODDIAD CYNNYDD BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 546 KB

I graffu gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  • Bod y Pwyllgor yn croesawu gwaith y Bwrdd yng nghyswllt tlodi, hawliau plant a bod yn drawma wybodus.

 

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 214 KB

Mabwysiadu rhaglen waith dirprwyedig ar gyfer 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2025/26.