Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan: ·
Rhys Llewelyn (Cyfeillion Llŷn) gyda
Seimon Jones yn dirprwyo. ·
Robert Parkinson (Ymddiriedolaeth
Genedlaethol) yn dilyn ailstrwythuro, gyda Guto Roberts yn aelod newydd, ac yn
bresennol ar gyfer yr awr gyntaf o’r cyfarfod. ·
Dewi Evans (Cyngor Cymuned Aberdaron) ·
Y Cynghorydd John Brynmor Hughes ·
Sianelen
Pleming (Cyngor Cymuned Pistyll) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS I ystyried
unrhyw eitem sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 02 Gorffennaf 2025, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 02 Gorffennaf, 2025, fel rhai cywir. |
|
|
DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN I rannu
diweddariad am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn ac Warden Cefn Gwlad – AHNE Llŷn, gan
dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod yr
holl brosiectau a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn cael eu hariannu drwy geisiadau
at gynllun grant ‘Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy’ Llywodraeth Cymru
sydd ar gael ar gyfer Tirweddau Dynodedig Cymru - Parciau Cenedlaethol ac
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru
wedi gosod themâu ar gyfer y grant ar gyfer 2025-27 sef ‘Hyrwyddo bioamrywiaeth
ac adfer natur’, ‘Hwyluso datgarboneiddio’ a ‘Gwelliannau cyffredinol yn
ymwneud hefo mynediad, isadeiledd a phwysau yn sgil ymwelwyr’. Tywyswyd yr
Aelodau drwy’r prosiectau llwyddiannus a gyflwynwyd gan AHNE Llŷn yn ystod
y flwyddyn ariannol gyfredol, gan gadarnhau bydd gwybodaeth bellach ar gael i’r
cyhoedd drwy newyddlen Llygad Llŷn. Plannu Coed
Cynhenid Adroddwyd bod
plannu coed cynhenid megis coed derw, draenen ddu, draenen wen, celyn, cyll,
bedw arian a rhywogaethau eraill, yn cynnig buddion sylweddol i’r amgylchedd
megis creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, amsugno carbon o’r amgylchedd,
puro a rheoli dŵr a darparu adnodd cynaliadwy i’r dyfodol. Cydnabuwyd bod
yr Uned AHNE Llŷn wedi wynebu her wrth ganfod lleoliadau addas i blannu’r
coed hyn, gan nad oedd digon o dir addas ar gael ym meddiant y Cyngor i wneud
hynny’n briodol. Ymhelaethwyd bod Swyddogion wedi cydweithio gyda’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn derbyn caniatâd i blannu coed yn Tŷ’n
Parc, ger Plas yn Rhiw. Diolchwyd hefyd i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru am
gynorthwyo’r prosiect gan obeithio bydd modd parhau gyda’r cynllun yn y
flwyddyn nesaf ar diroedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Cadarnhawyd bod
y gwaith wedi cael ei gyflawni eleni ym Mhlas yn Rhiw a Thŷ’n
Parc (y Rhiw) yn ogystal ag ardaloedd ger y fynwent a’r ardd gymunedol yn
Nefyn, gan ddiolch i bawb sydd wedi ymgymryd â’r gwaith. Rhywogaethau
Ymledol Estron Eglurwyd bod y
prosiect hwn yn ddilyniant i waith ymchwil a wnaed ar y rhywogaethau ymledol
estron sydd yn niweidiol i fywyd gwyllt cynhenid AHNE Llŷn, gan ymgeisio
i’w gwaredu gan eu bod yn fygythiad mewn mannau. Pwysleisiwyd bod y prosiect
hwn yn un heriol gan fod y rhywogaethau ymledol estron i’w gweld mewn sawl
ardal ar hyd yr AHNE. Tynnwyd sylw
penodol at waith a wnaed i waredu jac y neidiwr (himalayam
balsam) mewn ardaloedd ym Mhistyll a Penllech gan ddiolch i Gyfoeth Naturiol
Cymru ar eu cydweithrediad. Fodd bynnag, nodwyd bod y rhywogaeth hwn wedi cael
ei ganfod mewn ardaloedd eraill megis yn Nefyn, gan bwysleisio ei fod allan o
reolaeth yn yr ardal honno, gan egluro bydd cyllideb i waredu’r rhywogaeth yn
cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd ble mae hyder y byddai’n cael ei waredu, yn
hytrach nag ymgeisio i’w waredu mewn ardaloedd ble mae’r sefyllfa allan o
reolaeth. Yn debyg, cadarnhawyd bod gwaith wedi cael ie wneud i waredu canglwm siamaneaidd (japanese knotweed), gan dynnu sylw penodol at y gwaith a wnaed yn ardal Trefor. Eglurwyd y credir ei fod yn llai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
I rannu gwybodaeth a diweddaru aelodau ar gynnydd prosiect Tirlun Byw. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn. Tynnwyd sylw’n fras at y
prif fanylion canlynol: Eglurwyd bod
Tirlun Byw yn brosiect sydd yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol
Cymru a Cyngor Gwynedd am gyfnod o dair blynedd hyd at 2027. Ymhelaethwyd mai
nod y prosiect yw i hyrwyddo natur byw tirlun yr AHNE gan gynnal gweithgareddau
i bobl sydd yma yn gweithio, byw neu’n ymweld. Nodwyd bod y prosiect yn ymateb
i nifer o amcanion megis Cynllun Rheoli’r AHNE, amcanion Cyfoeth Naturiol Cymru
a Llesiant Llywodraeth Cymru yn ogystal â meysydd blaenoriaeth Cynllun Cyngor
Gwynedd 2023-28. Cyflwynwyd data
am y gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd â
niferoedd yr unigolion sydd wedi eu mynychu. Ymhellach cyflwynwyd lluniau o’r
digwyddiadau hynny er mwyn cael blas o’r hyn sydd wedi cymryd lle. Darparwyd
copïau o gerddi sydd wedi cael eu cyfansoddi gan ysgolion lleol yn dilyn
prosiect a wnaed gyda chymorth Meirion Macintyre Huws er mwyn hyrwyddo’r awyr
dywyll a’i bwysigrwydd o fewn yr AHNE. Cadarnhawyd bod y prosiect hwnnw wedi
derbyn adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion. Manteisiwyd ar y
cyfle i amlygu rhai digwyddiadau sydd ar y gweill megis sesiwn wybodaeth
rhywogaethau ymledol ar 30 Ebrill yn ogystal a sesiwn wybodaeth ar gynnal
teithiau tywys yn llwyddiannus ar 14 Mai. Cadarnhawyd bod
cynlluniau ar waith i baratoi rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn 2026/27 gan
groesawu cynigion am ddigwyddiadau a fyddai’n fuddiol i’w cynnal yn ystod y
cyfnod hwnnw. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn: Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn y gobeithir bydd y
cerddi a gyfansoddwyd gan ddisgyblion ysgol fel rhan o’r prosiect, yn cael eu
cyhoeddi mewn rhifyn o bapur bro Llanw Llŷn. Fodd bynnag, cadarnhawyd nad
oes modd eu cyhoeddi yng nghylchlythyr Llygad Llŷn oherwydd byddai angen
eu cyfieithu gan fod y newyddlen honno yn cael ei gyhoeddi yn ddwyieithog. Er
hyn, gobeithiwyd bydd cyfle yn y dyfodol ar gyfer cyhoeddi’r cerddi hyn
ymhellach. Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd Swyddog
Gweithgareddau AHNE Llŷn bod modd i aelodau’r Cyd-bwyllgor hwn dderbyn
gwahoddiad i’r gweithgareddau hyn drwy gais cyfarfod i’w calendr yn hytrach na
neges dros e-bost, os ydynt yn dymuno hynny, gan ofyn i unrhyw aelod i gysylltu
gyda’r Swyddog Gweithgareddau. Mewn ymateb i
ymholiad, pwysleisiodd Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn bod pob ymdrech yn
cael ei wneud er mwyn sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn
ddwyieithog. Er hyn, cydnabuwyd bod un digwyddiad wedi ei gynnal ble nad oedd y
gyflwynwraig yn medru’r Gymraeg ac nid oedd amser digonol wedi bod er mwyn
cyfieithu ei chyflwyniad ac felly y bu i’r digwyddiad gael ei gynnal yn
Saesneg. Amlygwyd y byddai sesiwn gwybodaeth ar enwau coed, blodau ac adar yn y Gymraeg yn fuddiol fel rhan o’r rhaglen waith, ac os nad yw’n bosib, bod tudalen yn cael ei greu ar y wefan yn cynnwys yr holl wybodaeth fel nad yw’r enwau hynny yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY I
ddiweddaru Aelodau am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn y flwyddyn
ariannol bresennol (2025-26), rhannu gwybodaeth ar newidiadau i lywodraethiant
y Gronfa yn sgil diwygio’r ddogfen Fframwaith a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru,
ac i ddewis aelodau newydd ar gyfer Panel y Gronfa. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn. Tynnwyd sylw at y prif faterion canlynol: Eglurwyd bod yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth am sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar
gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, 2025-26. Cadarnhawyd bod cyfanswm o
£95,000 yn y Gronfa ar ddechrau’r blwyddyn ariannol gan nodi bod cyfran helaeth
o’r arian wedi cael ei ddyrannu i brosiectau lleol yn yr ardal, sef: · 1st Mate Amgueddfa
Forwrol Llŷn (£4,506) · Bws Fflecsi
Llŷn (£25,000) · Llwybrau aml ddefnydd Nefyn (£11,450) · Pŵer solar Enlli (£9,572) · Cae Chwarae Llanbedrog (£22,145) · Clwb rhwyfo Porthdinllaen
(£750) · Dadgarboneiddio neuadd Rhiw (£2,250) · Menter Rabar
(£4,995.37) · Gardd Antur Aelhaearn
(£1,000) · Gwefan Tafarn y Fic,
Llithfaen (£2,439) Adroddwyd bod y
cyfanswm a ddyrannwyd i’r prosiectau hyn yn £84,107.37. Atgoffwyd bod hawl gan
yr Uned AHNE i hawlio grant o £9,500 ar gyfer gweinyddu’r gronfa. Cadarnhawyd
mai gwir gyfanswm o’r arian sydd wedi cael ei ddyrannu o’r gronfa yw
£93,607.37, os yw pob prosiect yn hawlio’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol. Mynegwyd
balchder bod £95,000 wedi cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i’r Gronfa ar
gyfer y flwyddyn ariannol 2026-27 gan gadarnhau’r angen i gynnal cyfarfod yn
fuan er mwyn ystyried ceisiadau newydd sydd wedi dod i law. Tynnwyd sylw bod
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Dogfen Fframwaith diwygiedig sydd yn cynnwys
nifer o newidiadau arwyddocaol i lywodraethiant y
gronfa, megis: · Mae’n ofynnol i 60% o gyllideb y Gronfa gael
ei glustnodi ar gyfer prosiectau sydd yn mynd i’r afael neu ymateb i argyfwng
natur a hinsawdd a cholledion bioamrywiaeth. · Rhoddir pwyslais ar gyd-weithio gyda
thirweddau eraill, y sector wirfoddol a chymunedau ynghyd â phartneriaeth
eraill. · Mae angen cynnwys gwybodaeth am y Gronfa ar
wefan a ddiweddarwyd yn gyson gyda mynediad clir i ymgeisio a wybodaeth
bellach. Cadarnhawyd bod AHNE Llŷn yn gweithredu hyn eisoes. · Newidiadau i Aelodaeth - eglurwyd rhaid cael
rhwng 3 a 5 aelod ar Banel y Gronfa, gyda gofyniad i bob Aelod wasanaethu am o
leiaf dwy flynedd ac uchafswm o 4 mlynedd yn olynol. Nodwyd yr angen i
adolygu’r aelodaeth bob 2 flynedd. Tynnwyd sylw ei fod yn ofynnol i bob aelod
fynychu unrhyw hyfforddiant a drefnir gan Lywodraeth Cymru er mwyn bod yn
ymwybodol o’i flaenoriaethau. · Cadarnhawyd bod y Panel yn atebol i’w
benderfyniadau ac yn gallu darparu cyfiawnhad am eu penderfyniadau. Nodwyd bydd
penderfyniadau yn cael eu hysbysebu ar y wefan. Cadarnhawyd bod
y newidiadau hyn yn weithredol o flwyddyn ariannol 2026-27 ymlaen gan nodi’r
angen i addasu aelodaeth y Panel ar fyrder. Atgoffwyd yr Aelodau o aelodaeth y
Panel gan egluro bod modd i’r Cynghorwyr Angela Russell a John Brynmor Hughes
barhau fel aelodau am y tro gan nad ydynt wedi gwasanaethu am bedair blynedd.
Fodd bynnag, eglurwyd nad oes modd i’r Cynghorwyr Gruffydd Williams, a Gareth
Williams, Morgan Jones Parry, Sian Parri na Noel Davey fod yn aelodau mwyach
oherwydd eu bod wedi gwasanaethu am 4 mlynedd yn olynol neu fwy. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn: Trafodwyd aelodaeth y Panel gan gadarnhau’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADRODDIAD CYFLWR YR AHNE I rannu gwybodaeth am Adroddiad o Gyflwr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn. Nodwyd mai
bwriad yr adroddiad yw derbyn darlun llawn a chlir o gyflwr yr ardal gan
gynnwys y tirlun, byd natur, pobol, gwaith, amgylchedd hanesyddol, iaith a’r
diwylliant. Adroddwyd bod yr adroddiad yn sail ar gyfer y broses o adolygu’r
Cynllun Rheoli newydd yr AHNE, gan fod y cynllun presennol wedi dyddio cryn
dipyn. Atgoffwyd bod yr
adroddiad cyntaf ar gyflwr yr AHNE wedi cael ei ddatblygu yn 2014, gydag
adolygiad ohono wedi ei wneud yn 2021. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor wedi cyflwyno
nifer o sylwadau ar yr adroddiad hwnnw a phenderfynu diweddaru’r ddogfen er
mwyn derbyn gwybodaeth gyfredol. Cadarnhawyd bod cwmni Craggatack
o ardal Cumbria wedi cael eu penodi i gynnal y gwaith
o ddatblygu adroddiad o’r newydd, yn dilyn proses tendro. Eglurwyd bod yr
Adroddiad Cyflwr yr AHNE a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn yn seiliedig ar
wybodaeth a gasglwyd yn 2025, gydag ystod eang o wybodaeth yn derbyn sylw gan
gynnwys: lleoliad, llygredd, ynni adnewyddol, llifogydd, treftadaeth naturiol a
diwylliannol, dynodiadau cynefinol, yr iaith a diwylliant yn ogystal â pobl a
materion iechyd. Tynnwyd sylw y
gobeithir parhau i ddatblygu Cynllun Rheoli
yr AHNE yn dilyn derbyn gwybodaeth o’r Adroddiad Cyflwr. Eglurwyd bydd
angen ystyried y broses o gyflawni'r gwaith hwnnw drwy gomisiynu unigolion ac
ymgynghorwyr, yn ddibynnol ar dderbyn sicrwydd o gyllidebau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn: Mynegwyd pryder
am yr angen i warchod tai a bythynnod traddodiadol o fewn yr AHNE, gan gynnig
bod y Cyd-bwyllgor yn ysgrifennu at Bwyllgor Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd i
amlygu’r angen i gyflwyno polisïau llymach er mwyn eu gwarchod fel nad oes modd
i berchnogion newydd eu dymchwel yn ddi-sail. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cadarnhaodd Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio bod y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn
cynnal cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus ar ddrafft o’r Polisi Cynllunio ar hyn o
bryd ac yn annog aelodau’r Cyd-bwyllgor i gyflwyno eu sylwadau drwy’r cyfrwng
hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn ystyriaeth briodol, a’u cynnwys o fewn y
polisi arfaethedig. Ystyriwyd bod
rhannau o’r adroddiad yn gynhwysfawr iawn, megis data ar geisiadau cynllunio a
gwybodaeth am Yr Awyr Dywyll. Fodd bynnag, ystyriwyd bod lle i wella wrth
ymdrin ag effaith economaidd meysydd carafanio a gwersylla, egni adnewyddadwy,
ysgolion, iaith a diwylliant ac ail-gartrefi. Teimlwyd nad yw’r meysydd yma wedi
derbyn ystyriaeth deg o fewn yr adroddiad. Ystyriwyd os oedd yr holl wybodaeth
angenrheidiol ar gyfer datblygu’r adroddiad ar gael i’r cwmni. Mynegwyd pryder bod gwybodaeth anghyflawn wedi cael ei gynnwys gan y cwmni ar gyfer llunio adroddiad, gan dynnu sylw penodol at ran o’r adroddiad a oedd yn cadarnhau mai dim ond 8 o safleoedd carafanau ac 1 maes gwersylla oedd yng Ngwynedd yn 2025. Yn debyg, ystyrir bod y wybodaeth a gyflwynwyd am niferoedd a meintiau aneddiadau hefyd yn ddiffygiol. Cyfeiriwyd at drydedd ran o’r adroddiad sydd yn nodi nad oes digon o wybodaeth ar gael i fanylu ar niferoedd o dai haf sydd yn ardal Botwnnog ac Aberdaron. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |