Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Beth Lawton, Beca Brown, Olaf Cai Larsen, Gwynfor Owen ac Elfed Wyn ap Elwyn.

 

Croesawyd y Cynghorwyr Rob Triggs a Gwilym Jones i’w cyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor hwn.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 150 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2025 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2025 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR ADRAN TAI AC EIDDO AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023 - 2033 pdf eicon PDF 238 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Tai ac Eiddo. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod nifer o brosiectau a chynlluniau’r Adran yn cyfrannu at amcanion strategaeth iaith y Cyngor, megis y Cynllun Gweithredu Tai. Eglurwyd bod y cynllun hwn yn cynnwys dros 30 o brosiectau sy’n anelu i fynd i’r afal â’r argyfwng tai yng Ngwynedd gan ymdrechu i sicrhau bod pobl Gwynedd yn cael mynediad at dai addas, safonol a fforddiadwy er mwyn gwella ansawdd eu bywyd. Mynegwyd balchder bod dros 8,000 o unigolion lleol wedi derbyn cefnogaeth drwy’r cynllun hwn hyd yma.

 

Eglurwyd bod Cynllun Cartrefi Gwag yr Adran yn mynd i’r afael â’r diffyg tai ar gyfer pobl leol. Nodwyd bod 101 o grantiau wedi cael eu dosbarthu i brynwyr tai gwag sydd â chysylltiad lleol er mwyn eu cynorthwyo i’w hadnewyddu i safon byw dderbyniol. Diweddarwyd bod y cynllun hwn wedi cael ei ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys tai gwag a arferai fod yn ail gartrefi. Esboniwyd mai dim ond ar gyfer prynwyr tro cyntaf oedd y cynllun hwn yn berthnasol yn flaenorol ond er mwyn ymateb i alw mawr am gymorth y cynllun hwn gan y cyhoedd, fe’i hehangwyd ar gyfer pob math o brynwr a’u cynorthwyo i gyfarch cynnydd mewn costau deunyddiau ac adeiladu.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn rhoi ystyriaeth drylwyr i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ogystal ag effeithiau cydraddoldeb, ieithyddol a dyletswyddau Economaidd-Gymdeithasol o fewn y cynlluniau. Ymfalchïwyd bod yr Adran yn cael effaith bositif ar nodweddion cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg drwy gynyddu’r ystod o dai sydd ar gael o fewn y Sir er mwyn ceisio cyrraedd anghenion cymunedau. Ymhelaethwyd bod 63% o drigolion Gwynedd, sydd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, wedi derbyn cymorth i gael mynediad at gartrefi fforddiadwy, benthyciadau, grantiau neu ryddhad trethi. Nodwyd bod Cymdeithas Tai Adra wedi rhannu data gyda’r Adran yn ddiweddar, gan gadarnhau bod 94% o breswylwyr newydd staff yn Ninas, Llanwnda yn gallu’r Gymraeg, ac yn yr un modd, bod gan 96% o breswylwyr stad newydd yn Nhregarth sgiliau’r Gymraeg. Mynegwyd bwriad i gyflwyno adroddiad i’r Cabinet er mwyn amlygu effaith y cynllun hwn, gan ymdrechu i’w ymestyn hyd at 2028/29.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar brosiect Gwynedd Glyd, sy’n rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd. Adroddwyd bod yr Adran yn cyflawni hyn drwy gynyddu cyflenwad o dai i bobl leol. Sicrhawyd bod hyn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan drigolion Gwynedd gartrefi addas, fforddiadwy a safonol drwy denantiaeth, cymorth i brynu tŷ neu adnewyddu tai gwag. Ymfalchïwyd bod 97% o osodiadau drwy’r gofrestr tai yn mynd i rywun â chysylltiad i Wynedd, gydag oddeutu 60% yn mynd i unigolion â chysylltiad gyda’r gymuned y maent yn dymuno byw ynddi. Eglurwyd bod Polisi Gosod Tai Cyffredin yn weithredol er mwyn sicrhau bod pobl leol yn cael blaenoriaeth resymol wrth osod tai. Tynnwyd sylw bod yr Adran yn derbyn nifer o geisiadau gan grwpiau cymunedol a rhai Cynghorau Cymuned i ychwanegu amod ieithyddol fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD YR ADRAN ECONOMI A CHYMUNED AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023 - 2033 pdf eicon PDF 335 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned, Rheolwr Rhanbarth y Rhaglen ARFOR ac Arweinydd Tîm Datblygu Busnesau Gwynedd. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Manylwyd ar raglen ARFOR a ariennir gan Lywodraeth Cymru ers 2019 er mwyn datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymrraeg, ar draws gorllewin Cymru yng  Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr. Eglurwyd mai nod y prosiect yw cynnal a chreu gwaith sydd yn galluogi pobl ifanc i ddychwelyd ac aros yn y rhanbarth i weithio tra hefyd yn hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg. Cadarnhawyd mai Gwasanaeth Datblygu’r Economi Cyngor Gwynedd sydd yn arwain ar y gwaith ar ran y 4 sir gan gadarnhau bod buddsoddiad o £11miliwn wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros y 2 flynedd ddiwethaf.

 

Eglurwyd bod Cytundeb Egwyddorion wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o’r broses o ymgeisio am arian drwy raglen ARFOR. Manylwyd y golyga hyn y disgwylir i fusnesau ymgymryd ag asesiad iaith gan Gomisiynydd y Gymraeg a’u bod yn gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg. Cadarnhawyd bod hyn wedi bod yn llwyddiannus ar draws y rhanbarth a bod perthynas gref wedi ei ddatblygu gyda’r Comisiynydd. Ychwanegwyd bod Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal nifer o sesiynau codi ymwybyddiaeth o gynyddu gwelededd y Gymraeg a mynegwyd balchder bod nifer o gwmnïau wedi cymryd rhan yn y sesiynau hyn.

 

Tynnwyd sylw bod sesiynau ‘Hac Iaith’ wedi cael eu cynnal ym mhob sir sydd yn disgyn o fewn rhanbarth gorllewin Cymru rhaglen ARFOR. Nodwyd bod y sesiynau hyn yn amlygu sut gall busnesau di-gymraeg ddefnyddio’r iaith o fewn ei weithrediad a’r buddion ynghlwm o wneud hynny. Yn yr un modd, adroddwyd y cynhaliwyd gwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd ble roedd trigolion yn enwebu a gwobrwyo busnesau yr oeddent yn ystyried i fod yn Gymreig, er mwyn marchnata’r busnesau hynny sydd yn gweithredu yn Gymraeg a dwyieithog o fewn y rhanbarth.

 

Diweddarwyd y gobeithir cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn datblygu Addewid Busnes yr iaith Gymraeg. Eglurwyd nad oes gan y Comisiynydd y capasiti i gynnig y Cynnig Cymraeg i fusnesau bychain, gan eu bod yn ceisio dylanwadu ar fusnesau mwy. Atgoffwyd yr aelodau bod y Cynnig Cymraeg yn achrediad a ddarperir gan y Comisiynydd ar gyfer busnesau sy’n ymgeisio amdano drwy lunio polisi iaith ac yn gweithredu rhannau o’u busnes yn Gymraeg.

 

Ymfalchïwyd bod rhaglen ARFOR wedi llwyddo i gynnal cyfarfod rhwng swyddogion Polisi Iaith pob sir o fewn y rhanbarth,er mwyn rhannu arferion da a chynnal trafodaethau parhaus am rôl y polisïau iaith wrth gysidro’r economi a’r iaith Gymraeg.

 

Manylwyd ar y cynnydd a welir o’r defnydd o Gymraeg o fewn busnesau yng Ngwynedd yn sgil rhaglen ARFOR, megis Llwyddo’n Lleol a Ffrwd Mentro. Ymhelaethwyd ar gynllun grant Cymunedau Mentrus. Nodwyd bod 21 o fusnesau wedi derbyn arian o’r cynllun hwn, ac yn cwblhau’r achrediad Cynnig Cymraeg sydd yn amodol i dderbyn yr arian hwnnw. Diweddarwyd bod 11 o’r cwmnïau hynny eisoes wedi derbyn yr achrediad, gyda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD CAU'R PROSIECT DYNODIADAU IAITH pdf eicon PDF 259 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau y bu i’r prosiect Dynodiadau Iaith gael ei chomisiynu gan y Pwyllgor hwn yn 2015 ac yr oedd yn weithredol hyd at 2023. Eglurwyd mai diben y prosiect oedd sicrhau cysondeb a phriodoldeb gofynion ieithyddol swyddi’r Cyngor, tra bod y Cyngor yn paratoi at ofyniad statudol y Safonau Iaith a gyflwynwyd yn 2016, i gadw cofnod o lefelau iaith ei staff. Ychwanegwyd mai diben arall y prosiect oedd sicrhau bod cefnogaeth ar gael i aelodau staff er mwyn defnyddio’r iaith Gymraeg a pharhau i’w dysgu, gan leihau’r risg na fyddai staff y Cyngor yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog i bobl Gwynedd.

 

Nodwyd bod pob swydd a hysbysebir cyn i’r prosiect hwn fod yn weithredol yn nodi gofynion iaith ‘rhugl’ ac nid oedd cofnod manwl a pharhaus o allu ieithyddol staff y Cyngor yn cael ei gadw’n swyddogol. Ychwanegwyd bod geiriad y lefelau sgiliau iaith yn wahanol i’r hyn oedd yn cael eu defnyddio’n genedlaethol a oedd yn achosi heriau wrth ymchwilio am hyfforddiant addas ar gyfer lefelau iaith gyffelyb.

 

Eglurwyd bod rhan gyntaf y prosiect wedi cael ei gwblhau gan y gwasanaeth Adnoddau Dynol yn 2016, ble addaswyd lefelau sgiliau Cymraeg fel eu bod y geiriad a ddefnyddir yn genedlaethol (Mynediad, Canolradd, Sylfaenol ac Uwch). Ychwanegwyd bod y gwasanaeth hefyd wedi addasu pob swydd o fewn y Cyngor er mwyn addasu’r gofyniad iaith ar eu cyfer yn unol â gofynion y swydd.

 

Adroddwyd bod ail ran y prosiect wedi cymryd lle yn 2017 ble roedd ymchwil wedi cael ei wneud ar sut i gasglu asesiadau iaith manwl a chywir ar gyfer staff, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer cynnal lefelau sgiliau iaith neu hyfforddiant er mwyn galluogi unrhyw aelod o staff i gyrraedd y lefelau iaith briodol ar gyfer eu swyddi. Nodwyd bod y rhan hwn o’r prosiect wedi cael ei beilota gydag adran Ymgynghoriaeth Gwynedd y Cyngor cyn ei ymestyn allan i holl adrannau eraill. Mynegwyd balchder bod hyn wedi arwain at yr Hunanasesiad Ieithyddol y gall aelodau staff ei ganfod ar yr Hunanwasanaeth mewnol, sydd yn eu hysbysu o’u lefel sgiliau iaith yn dilyn ei gwblhau ac yn rhoi cyfle i aelodau staff nodi os ydynt angen unrhyw gymorth neu datblygu hyder i ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Tynnwyd sylw bod system dechnolegol bellach wedi cael ei ddatblygu er mwyn storio’r holl ymatebion i’r hunanasesiad iaith gan ddarparu data allweddol i swyddogion.

 

Cadarnhawyd bod y data hwn a oedd yn cynnwys lefelau iaith staff a niferoedd unigolion a oedd yn mynychu hyfforddiant iaith yn cael ei rannu gyda phenaethiaid yn chwarterol, ac yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd wrth i’r adrannau baratoi at gyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor hwn. Ymhelaethwyd bod aelod o staff o brif adrannau’r Cyngor a Byw’n Iach yn eistedd ar Fforwm Dynodiadau Iaith sydd yn cyfarfod yn chwarterol er mwyn rhannu arfer dda a thrafod unrhyw heriau sydd yn codi.

 

Tynnwyd sylw at gynllun Cyfeillion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD Y TIM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITIHOL AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023 - 2033 pdf eicon PDF 344 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd bod y Tim Arweinyddiaeth a’r Gwasanaethau Corfforaethol yn cydweithio gyda holl adrannau’r Cyngor a phartneriaid er mwyn cyfrannu at bolisïau, cynlluniau, prosiectau a ffrydiau gwaith sydd yn gwireddu amcanion y strategaeth iaith. Rhannwyd enghraifft o hyn wrth fanylu ar brosiect ‘Mwy Na Geiriau’ gan gadarnhau bod y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o fwrdd y prosiect ac wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y bwrdd ar gyfer rhanbarth y gogledd yn ddiweddar.

 

Adroddwyd bod y Prif Weithredwr yn cynrychioli Cyngor Gwynedd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn gyda chymorth y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Adroddwyd y gwelir newid amlwg mewn nifer o gyfarfodydd y Bwrdd sydd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda’r mwyafrif helaeth o gyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg gyda gwasanaeth cyfieithu ar gael. Cadarnhawyd mai dyma’r unig Fwrdd o’i fath yng Nghymru sydd yn cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg a dwyieithog.

 

Tynnwyd sylw bod Cyngor Gwynedd yn awdurdod lletya ar nifer o bartneriaethau rhanbarthol megis Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mynegwyd balchder bod y Cyngor yn llwyddo i gynnal pob agwedd o’r cyfrifoldeb hwn yn ddwyieithog gyda phwyslais yn cael ei roi ar yr iaith Gymraeg. Ymhelaethodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol bod gwaith wedi mynd rhagddo i symud staff o Gynllun Twf Gogledd Cymru i’r gorfforaeth newydd ym mis Ebrill eleni. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol yn cydweithio gyda Cyd-bwyllgor Corfforedig er mwyn datblygu ystod o gytundebau lefel gwasanaeth hir dymor. Pwysleisiwyd bydd hyn yn golygu bydd y Gwasanaeth Cyfreithiol yn symud i ffwrdd o drefniant presennol o benodi cyfreithwyr locwm, sydd ddim yn meddu a sgiliau’r Gymraeg ond yn cael eu penodi yn sgil eu harbenigedd penodol, er mwyn datblygu timau yng Ngwynedd a all gefnogi’r Cyd-bwyllgor Corfforedig tra hefyd yn ymrwymo i ofynion Polisi Iaith y Cyngor.

 

Esboniwyd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn Gadeirydd y Bwrdd Trawsnewid Digidol sydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i unrhyw ddatblygiadau systemau digidol yn y dyfodol, fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd. Ymhelaethwyd bod Asesiad Addasrwydd Digidol yn gorfod cael ei gwblhau cyn ymgymryd â systemau digidol newydd, gan gadarnhau bod ystyriaeth i’r iaith yn rhan o’r asesiad hwn.

 

Mynegwyd balchder bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi bod yn cydweithio gyda CISCO / Webex ar gyfer datblygu system ffôn newydd i staff y Cyngor. Eglurwyd bod y system hon yn gyrru galwadau ymlaen i aelodau eraill o staff os bydd y derbynnydd mewn galwad neu gyfarfod rhithiol. Tynnwyd sylw bod y cwmni rhyngwladol hwn wedi cydweithio gyda’r Cyngor er mwyn datblygu darpariaeth Gymraeg o’r newydd ar gyfer defnydd staff y Cyngor. Pwysleisiwyd bydd y ddarpariaeth Gymraeg yma ar gael i sefydliadau a chwmnïau eraill sydd yn dymuno ymgymryd â’r system oherwydd cydweithrediad y cwmni gyda’r Cyngor.

 

Cadarnhawyd bod y Tîm Arweinyddiaeth yn cymryd rhan yng nghyfarfodydd Fforwm Iaith a ddatblygwyd gan Uned Iaith y Cyngor yn ogystal â’r Grŵp Llywio a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.