Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Iwan Huws a Llio Elenid Owen, a hefyd Colette Owen
(Yr Eglwys Gatholig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2023 fel rhai
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN DIGIDOL - 2023-28 PDF 103 KB Aelod
Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas Cyflwyno
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
yn cyflwyno’r Cynllun Digidol yn ei ffurf drafft i bwrpas blaen-graffu, ac i
dderbyn sylwadau ac adborth ar gynnwys arfaethedig y rhaglen waith. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun,
esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Trawsnewid
Digidol a manylodd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth ymhellach ar
gynnwys y cynllun. Yna rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.
Nodwyd mai un o argymhellion adroddiad a
gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan yn ddiweddar, yn sgil edrych ar y sefyllfa dlodi
yn ardal Arfon yn benodol, oedd y dylai Cyngor Gwynedd sicrhau bod yr holl
ffurflenni cais am grantiau a lwfansau y mae ganddo bwerau gweinyddol drostynt
fod ar gael yn ddigidol. Nodwyd ei bod
yn amlwg o’r gwaith ymchwil hwn, a hefyd o siarad â phobl sy’n wynebu tlodi a’r
gwahanol gyrff sy’n eu cefnogi, bod hyn yn broblem, a holwyd a oedd yna
gynlluniau i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mewn ymateb, cadarnhawyd bod cynnig mwy o ddarpariaeth ddigidol yn rhan
o’r Cynllun, ond nad oedd bwriad i wneud i ffwrdd â’r opsiwn o ddefnyddio
ffurflenni papur chwaith. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhawyd
y byddai’r ffurflenni yn rhai digidol ar-lein, yn hytrach nag yn ddogfennau i’w
llawrlwytho. Gan dderbyn y byddai costau cychwynnol
sefydlu’r trefniadau newydd yn uchel, holwyd a oedd yr Adran yn ffyddiog y
byddai’r systemau newydd yn arbed arian dros amser. Holwyd hefyd a oedd yr Adran yn fodlon bod
pob agwedd o’r digideiddio yn hanfodol, ac nad oedd yna elfennau wedi’u cynnwys
am resymau cosmetig. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Na
chynhwyswyd unrhyw beth cosmetig ac y canolbwyntiwyd ar y pethau sy’n hanfodol
ac a fydd yn gwella’r Cyngor wedi iddynt gael eu gwreiddio. ·
Y
byddai yna waith sylweddol yn digwydd dros y 6 wythnos nesaf i adnabod, nid yn
unig y costau, ond y cyfleoedd i wneud arbedion hefyd. Cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd allan gan y
Cyngor yn ddiweddar oedd yn cynnig i bobl ymateb drwy fynd ar y wefan, ffonio
neu decstio, a mynegwyd pryder bod yr ychydig bobl
hynny sydd heb gyfrifiadur na ffôn yn cael eu gadael ar ôl. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
y swyddogion angen gwybod am yr enghreifftiau hynny, ond nad oedd y dechnoleg
ddigidol yn cael ei chyflwyno ar draul y sianelau eraill, a’r bwriad oedd
peidio gadael neb ar ôl. ·
Ei bod
yn bwysig cydnabod bod yna bobl sydd angen y sgwrs wyneb yn wyneb o hyd, ac er
bod y Cyngor yn dymuno i gymaint â phosib’ o bobl ddefnyddio’r dulliau digidol,
nid oedd wedi cau’r elfen bapur, na’r elfen wyneb yn wyneb, i ffwrdd yn llwyr. Awgrymwyd bod technoleg ddigidol yn cynyddu’r pellter rhwng y ddau berson sy’n cyfathrebu â’i gilydd. Roedd peryg’ o golli golwg ar bethau cig a gwaed wrth i’r datblygiadau yma fynd rhagddynt, ac roedd modd i ddiffyg cydymdeimlad a diffyg dealltwriaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD YMCHWILIAD CRAFFU YSGOLION UWCHRADD CATEGORI 3 GWYNEDD PDF 250 KB Cyflwyno
adroddiad yr Ymchwiliad Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (i) Cymeradwyo adroddiad Ymchwiliad
Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd. (ii) Derbyn diweddariad gan yr Aelod
Cabinet ar weithrediad fesul argymhelliad yng nghyfarfod 21 Mawrth, 2024. (iii) Derbyn bod yr hyn a gyflawnwyd gan
yr ymchwiliad yn ateb y gofyn o ran y rhybudd o gynnig a gyflwynwyd gan y
Cynghorydd Rhys Tudur i’r Cyngor llawn ar 4 Mai, 2023. Cofnod: Croesawyd yr
Aelod Cabinet Addysg, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau
Corfforaethol, y Pennaeth Cynorthwyol: Uwchradd a’r Pennaeth Cyfundrefn Addysg
Drochi Gwynedd i’r cyfarfod. Cyflwynodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y
Cynghorydd Paul Rowlinson, adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion
Uwchradd Categori 3 Gwynedd a gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor craffu ystyried y
cynnwys, gwneud sylwadau a gofyn unrhyw gwestiynau perthnasol, gan gynnig unrhyw
welliannau a chymeradwyo’r adroddiad. Awgrymodd Cadeirydd yr Ymchwiliad na ddylid
trafod yr adran ar GwE mewn manylder, gan y deellid bod GwE
yn anghytuno gyda rhai o’r materion a nodwyd, ond pwysleisiwyd bod Argymhelliad
17 yn gofyn am drafodaeth bellach yn unig rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE. Diolchodd Cadeirydd yr Ymchwiliad i’r Tîm
Ymchwilio, ac yn enwedig y Swyddog Arweiniol, am eu gwaith, ac i staff,
disgyblion a llywodraethwyr y 3 ysgol am roi o’u hamser i gyflwyno’r
dystiolaeth. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Ymchwiliad
am eu gwaith. Yna gwahoddwyd yr aelodau
i ofyn cwestiynau, cynnig sylwadau, neu gynnig gwelliannau i’r adroddiad. Diolchwyd yn arbennig i ddisgyblion yr
ysgolion am eu parodrwydd i siarad yn hynod agored gydag aelodau’r
Ymchwiliad. Pwysleisiwyd bod angen rhoi mwy o gefnogaeth
i sefydliadau sy’n helpu plant a phobl ifanc i siarad Cymraeg yn gymdeithasol,
megis Ffermwyr Ifanc a’r Urdd, a’u cyflwyno mewn modd positif yn yr
ysgolion. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
colli ei glybiau ieuenctid a bod angen gweld pa gyfleoedd cymdeithasol sydd ar
gael i annog y defnydd o’r Gymraeg. Awgrymwyd bod y ffigurau yn Atodiad 5 yn
ymddangos yn anhygoel o dda, a holwyd o ble y cafwyd y data. Mewn ymateb, eglurwyd bod y data yn cael ei
gyflwyno i’r Awdurdod gan yr ysgolion.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach ar yr un mater, cadarnhawyd nad oedd
aelodau’r Ymchwiliad wedi herio’r ffigurau mewn unrhyw fanylder, a’u bod wedi
derbyn y data a gyflwynwyd gan yr ysgolion. Mynegwyd pryder nad oedd y 3 ysgol a
ddewiswyd yn rhoi darlun o’r sefyllfa yn holl ysgolion Gwynedd, gan fod y 3
ohonynt mewn cymunedau cynhennid Gymreig ar y cyfan, ac awgrymwyd bod yna
ysgolion eraill yng Ngwynedd fyddai wedi adlewyrchu sefyllfa wahanol iawn. Mynegwyd pryder ynglŷn â gallu rhieni i wrthod addysg Gymraeg i’w plant, a thrwy hynny amddifadu eu plant o’r cyfle i gael gyrfa dda a byw yn yr ardal yn y dyfodol. Nodwyd hefyd y daeth yn amlwg yn ystod yr Ymchwiliad bod yr ysgolion dan bwysau mawr i gynnig darpariaeth Saesneg, gan fod rhieni yn bygwth symud eu plant i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn (sy’n ysgolion categori 3T) fel arall. Credid bod angen edrych yn fanylach ar y dylanwad yma ac effaith yr opsiwn o fynd i Ysgol Friars neu Ysgol Tywyn ar ysgolion eraill Gwynedd. Mynegwyd tristwch nad oedd gan rai rhieni a disgyblion hyder yn ein hiaith, ac awgrymwyd ei bod yn hen bryd i’r Awdurdod Addysg, yr ysgolion a’r penaethiaid wneud safiad cryf iawn a gwrthod i rieni symud eu plant i’r ysgolion categori 3T, a mynnu bod y Gymraeg yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
STRATEGAETH ADDYSG GWYNEDD TUAG AT 2032 PDF 440 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Cyflwyno adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd
y Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd yn ychwanegol i’r cyfarfod ar gyfer yr eitem
hon. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg, ar gais aelodau’r pwyllgor, a gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno sylwadau
ar y weledigaeth ac amcanion yr Adran Addysg a nodir yn y Strategaeth Addysg
ddrafft tuag at 2023 a thu hwnt, gan hefyd gyflwyno sylwadau ar yr Asesiadau
Effaith Cydraddoldeb a Llesiant. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac
yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. O ran y sylw yn yr adroddiad bod y ddogfen
yn un fyw y byddai modd ymweld â hi yn gyson dros gyfnod y Strategaeth, holwyd
pa mor hwylus, a beth fyddai’r amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw newidiadau,
oherwydd petai’n fater o flynyddoedd, neu’n fater o fisoedd hyd yn oed, ni
ellid ei galw’n ddogfen fyw mewn gwirionedd.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Y
byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu yn fewnol yn rheolaidd. ·
Gan
fod addysg yn faes lle mae polisïau’n gallu newid yn eithaf cyflym mewn
gwahanol feysydd, byddai’r Adran yn ymateb yn gadarnhaol i unrhyw newid drwy
fod y ddogfen yn esblygu a newid yn ôl yr angen. Nodwyd nad oedd llawer o sôn am anghenion
dysgu ychwanegol yn yr adroddiad, ac eithrio cyfeiriad at y Ddeddf Anghenion
Dysgu Ychwanegol, a mynegwyd pryder ynglŷn â 3 mater penodol, sef:- ·
Strategaeth
addysg Gwynedd ar ADY yn y prif lif am y 10 mlynedd nesaf. ·
Gorlenwi
yn y ddwy ysgol ADY yng Ngwynedd. ·
Y
nifer o blant yn y prif lif sy’n methu ymdopi â system addysg prif lif. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
y Strategaeth Addysg yn strategaeth addysg lefel uchel ar gyfer holl blant y
sir a bod y sylw ynglŷn â phlant addysg arbennig sydd ag anghenion
ychwanegol a chynhwysiad ymhlyg yn Amcan 3 – iechyd a lles dysgwyr, sy’n
cyfeirio at yr holl ddysgwyr. ·
Bod
y Strategaeth hefyd yn cyfeirio at y ddyletswydd sydd gan yr Awdurdod i
adolygu’r stoc ysgolion yng nghyd-destun ysgolion arbennig, petai angen gwneud
hynny. ·
O
dan y strategaeth lefel uchel, bod gan yr Awdurdod Strategaeth Moderneiddio
Ysgolion ar gyfer Band C fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru maes o
law. ·
Bod
yna nifer o bolisïau a strategaethau yn yr haenau o dan y strategaeth lefel
uchel, ac yno y byddai’r manylder. Mynegwyd y farn nad oedd y Strategaeth, o
bosib’, yn ystyried gwaith yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Categori 3 Gwynedd
(eitem 6 uchod), gan y bu i aelodau’r Ymchwiliad bwysleisio’r trafferthion sy’n
codi yn sgil y pwyslais ar ddwyieithrwydd.
Nodwyd mai ail amcan y Strategaeth oedd ‘Ehangu a chryfhau ein
darpariaeth Gymraeg a dwyieithog’, ond na allai ‘dwyieithog’ olygu
unrhyw beth heblaw darpariaeth Saesneg yn y cyd-destun hwn, gan fod y Gymraeg
eisoes wedi’i chyfarch o fewn yr amcan.
Gan hynny, argymhellwyd y dylid ail-edrych ar y Strategaeth Addysg yng
ngoleuni adroddiad yr Ymchwiliad craffu, ac yn benodol o ran sut yr ymdrinnir â
dwyieithrwydd. Mewn ymateb, nodwyd:- · Bod hyn yn enghraifft wych o sut mae’r Strategaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
PRESENOLDEB AC YMDDYGIAD DISGYBLION YSGOLION GWYNEDD PDF 404 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Cyflwyno adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd y
Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad a’r Rheolwr
Cynhwysiad Adran Addysg i’r cyfarfod yn ychwanegol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn darparu gwybodaeth am lefelau presenoldeb a gwaharddiadau ar draws ysgolion
Gwynedd, gan gynnwys amlinelliad o’r prif resymau dros absenoldebau a
gwaharddiadau. Gofynnwyd i aelodau’r
pwyllgor ystyried os oes angen craffu unrhyw agwedd arall o bresenoldeb a
gwaharddiadau, ynghyd ag effaith y ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig i annog
gwelliant mewn presenoldeb ac ymddygiad disgyblion Gwynedd. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun,
manylodd y Rheolwr Cynhwysiad ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd beth oedd yn esbonio’r ffaith bod y
problemau ymddygiad a phresenoldeb yn dilyn y pandemig Covid-19 yn parhau, gan
y byddai rhywun wedi disgwyl i’r plant ail-ymgyfarwyddo â mynd i’r ysgol wrth i
amser fynd yn ei flaen, ac i’r ffigurau ostwng.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
nifer o’r gwaharddiadau yn ymwneud â thrais yn erbyn cyfoedion ac aelodau o
staff yr ysgol. ·
Bod
cynnydd sylweddol hefyd mewn defnydd cyffuriau, gyda nifer o blant bellach yn
cario cyffuriau i mewn i’r ysgol i’w gwerthu, neu ar gyfer eu defnydd eu
hunain. Nodwyd bod achos ar y funud ble
mae gan y Gwasanaeth bryder mawr am un disgybl ym Mlwyddyn 6. ·
Bod
pawb wedi disgwyl i’r flwyddyn gyntaf yn dilyn y pandemig fod yn heriol, ond yn
anffodus, roedd pethau wedi gwaethygu ers hynny. Holwyd a oedd plant anghenion dysgu
ychwanegol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan hyn, ac os felly, i ba
raddau. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
y data yn cael ei gasglu’n fisol, gyda swyddog yn cofnodi pob gwaharddiad gan
nodi ydyn nhw’n blant ag anghenion ychwanegol, oes ganddyn nhw gynllun datblygu
unigol ac ydyn nhw’n blant sy’n cael cinio ysgol am ddim. ·
Nad
oedd yna batrwm pendant bod plant yn y categorïau yma, ac roedd rhai o’r plant
hefyd yn dod o gefndiroedd na fyddem wedi disgwyl iddynt amlygu’n broblemus o
fewn yr ysgolion. Holwyd a oedd yna dystiolaeth bod ymdrechion
i wella presenoldeb, drwy lythyru rhieni a gwneud bygythiadau, ac ati, yn
arwain at ddisgyblion yn tynnu allan o’r system yn gyfan gwbl. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
nifer y plant sy’n cael eu dadgofrestru wedi cynyddu, a bod hynny, ynddo’i hun, yn bryder i’r Gwasanaeth. ·
Bod
gan y Gwasanaeth swyddogion lles sy’n cefnogi teuluoedd. ·
Bod
yr Awdurdod yn dirwyo neu’n erlyn rhieni fel y cam olaf yn unig gan na ddymunid
arwain at fwy o gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref. ·
Bod
gan y Gwasanaeth dîm penodol o fewn yr Adran sy’n edrych ar addysgu o’r cartref
ac yn gwirio lleoliadau a chynnydd a safon yr addysg mae’r plant yn derbyn. Nodwyd bod ffigwr gwaharddiadau parhaol Gwynedd yn 2022/23, sef 48, yn frawychus a holwyd beth yn union y bwriadai’r Awdurdod ei wneud yn wahanol i’r gorffennol, ynghyd â beth y bwriedid ei roi mewn lle o’r newydd i sicrhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BLAEN-RAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2023/24 PDF 488 KB Mabwysiadu rhaglen
waith ddiwygiedig ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i) Derbyn cais yr Adran Addysg i
raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu rhai eitemau sydd i’w craffu yn
ystod 2023/24. (ii) Craffu’r eitem Anghenion Dysgu
Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig yng nghyfarfod Mawrth 2024. (iii) Mabwysiadu rhaglen waith
ddiwygiedig ar gyfer 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd - blaen raglen y
pwyllgor ar gyfer 2023/24. Gofynnwyd i’r pwyllgor
ystyried cais gan yr Adran Addysg i raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu
rhai eitemau sydd i’w craffu yn 2023/24, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Nodwyd bod Anghenion Dysgu
Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig wedi’i nodi fel eitem bosib’ i’w
rhaglennu yn ystod y flwyddyn, a galwyd am graffu’r eitem yng nghyfarfod Mawrth
2024 yn wyneb rhai o’r sylwadau oedd wedi codi yn ystod y drafodaeth ar y
Strategaeth Addysg (eitem 7 uchod). Mewn
ymateb, nodwyd y byddai’n amserol i graffu’r eitem ym mis Mawrth fel bod modd
bwydo sylwadau’r craffwyr i mewn i unrhyw raglen fuddsoddi cyfalaf yn y maes yn
y dyfodol. PENDERFYNWYD (i)
Derbyn cais yr Adran Addysg
i raglennu eitem ychwanegol ac ail amserlennu rhai eitemau sydd i’w craffu yn
ystod 2023/24. (ii) Craffu’r eitem Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac
ysgolion arbennig yng nghyfarfod Mawrth 2024. (iii) Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig ar gyfer 2023/24. |