Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Rhys Tudur, Colette Owen
(Yr Eglwys Gatholig), Gwilym Jones (NASUWT), Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Dirprwy
Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi) a’r Cynghorydd
Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. |
|
PROSIECT DATBLYGU ECONOMI GWYNEDD PDF 320 KB Aelod
Cabinet – Y Cynghorwyr Nia Jeffreys a Dyfrig Siencyn Cyflwyno
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd yr Arweinydd a swyddogion yr Adran Economi a
Chymuned i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Faterion Gweithredol
Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu:- ·
Cynnwys y prosiect o dan y maes blaenoriaeth ‘Gwynedd
Llewyrchus’ yng Nghynllun y Cyngor sy’n anelu i greu’r amgylchiadau gorau
bosib’ i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl Gwynedd mewn i
waith; a ·
Cynnydd yr Adran Economi a Chymuned yn gweithredu’r
prosiect er mwyn sbarduno twf yn economi Gwynedd. Gosododd yr
Arweinydd y cyd-destun, amlinellodd y Pennaeth Economi a Chymuned gynnwys yr
adroddiad ac ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu Economaidd / Rheolwr Cronfa
Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru ar y camau penodol o ran cymorth i fusnes. Nodwyd, ers
paratoi’r adroddiad:- ·
Bod y broses o ddewis prosiectau fydd yn derbyn arian
o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi dod i ben, ac y byddai dros £3m wedi’i
ddosbarthu i 57 o fusnesau. ·
Bod hyn ymhell islaw’r 185 o geisiadau gwerth £10m a
ddaeth i law, a phetai gan y Cyngor fwy o amser a mwy o adnodd, diau y gellid
bod wedi helpu llawer mwy. ·
Bod y £1m oedd ar gael drwy’r rhaglen Arfor wedi’i
ddosbarthu i 20 o fusnesau, ac unwaith eto, roedd y galw yn llawer uwch na’r
adnodd oedd ar gael. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd bod dull Llywodraeth y DU o
ddosbarthu arian o’r Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn
ddiffygiol iawn. Cyfeiriwyd yn benodol
at y diffyg prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, y diffyg strategaeth ar
lefel uwch na’r sirol, y brys mawr i wario arian sylweddol mewn cyfnod byr o
amser sy’n golygu blaenoriaethu prosiectau sy’n gallu cael eu gwireddu’n sydyn
a’r ansicrwydd mawr ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl Ebrill 2025. Mewn ymateb, nodwyd bod rhai pethau sy’n well
ar gyfer eu darparu ar lefel genedlaethol, rhai ar lefel rhanbarthol, rhai ar
lefel sirol a rhai ar lefel fwy lleol byth, ond nid oedd yr un model yn
ddelfrydol. Roedd angen cynllunio ar ba
lefel mae dyrannu a gwneud penderfyniadau, ond ni fu cyfle i wneud hynny yn yr
achos hwn oherwydd yr amserlen. Holwyd a oedd rhai cynigion yn cael eu
harianu yn eu cyfanrwydd a’r gweddill yn cael eu gwrthod, neu a oedd yna elfen
o rannol ariannu rhai cynlluniau. Mewn
ymateb, nodwyd y penderfynwyd peidio ariannu rhai cynigion yn eu cyfanrwydd er
mwyn gallu cefnogi mwy o fusnesau, a bod pob un o’r busnesau a ariannwyd yn
rhannol wedi cadarnhau bod modd iddynt gyflawni eu prosiect o fewn yr amserlen
gyda llai o arian. Holwyd a oedd y gost i’r gronfa o gyflogi’r
swyddogion ychwanegol i weinyddu’r cynllun yn cynnwys costau diswyddo? Gofynnwyd hefyd am wybodaeth ynglŷn â
chefndir y swyddogion hynny a beth fydden nhw’n debygol o wneud ar ôl i’r
cynllun ddod i ben gan y byddai’n fuddiol cadw’r arbenigedd o fewn y Cyngor neu
o fewn y rhanbarth. Mewn ymateb, nodwyd:- · Bod cost y staff ychwanegol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DOGFEN YMGYNGHORI AMCANION CYDRADDOLDEB 2024-28 PDF 59 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme Cyflwyno adroddiad ar yr uchod. Bwriedir cael toriad i ginio am 12.00yp – 1.00yp Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod. Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn egluro bod dyletswydd benodol ar y Cyngor, fel rhan
o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i adolygu ei Amcanion Cydraddoldeb erbyn diwedd
Mawrth 2024, ac yn gwahodd mewnbwn y craffwyr i’r amcanion drafft. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r swyddogion am eu holl waith yn y maes hwn. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd mai’r peth pwysig i’w gofio o ran
cydraddoldeb yw nad yw’r pwynt dechrau'r un fath i bawb a bod angen symud y
pwynt dechrau weithiau fel bod pobl sydd â rhwystrau sy’n eu hatal rhag bod yn
gydradd mewn cymdeithas yn gallu symud yn eu blaenau. Gan hynny, holwyd pa gamau roedd y Cyngor yn
eu cymryd i, er enghraifft, roi swyddi i bobl sydd â’r anghydraddoldebau hyn a
rhoi cyfle iddynt gamu ymlaen. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Mai
bwriad yr amcanion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yw ceisio symud pethau
ymlaen i’r bobl hynny sy’n profi anghydraddoldeb a bod 4 amcan yn gweithio tuag
at bwyntiau gweithredu ar hynny. ·
Bod
yr amcan cyntaf ynglŷn â chyflogaeth, a bod hynny’n unol â’r canllawiau. ·
Y
rhoddwyd ystyriaeth hefyd i beth arall sydd angen ei wneud. Gofynnid i’r staff lenwi holiadur yn nodi
beth yw eu nodweddion, ond nid oedd llawer yn gwneud hynny am amryw o resymau,
ond heb y wybodaeth honno, nid oedd modd gwybod beth yw’r sefyllfa o fewn y
Cyngor a phwy sydd angen yr anogaeth fwyaf.
Gan hynny, penderfynwyd bod angen pwyntiau gweithredu sy’n mynd i symud
hynny ymlaen. ·
Bod
dyletswydd cyfreithiol ar y Cyngor i fod yn gyflogwr sy’n groesawgar i bawb, ac
roedd angen bod â’r agweddau iawn o fewn y gyfundrefn gan weithredu mewn ffordd
sy’n groesawgar i bawb ac yn annog pawb i ddod i weithio atom, e.e. roedd modd
gwneud addasiadau rhesymol i’r gweithle ar gyfer pobl sy’n teimlo eu bod angen
cefnogaeth i ddod i weithio i’r Cyngor. ·
Bod
lle i wella llawer ar hynny eto ac roedd y rhan o’r Cynllun ar gyflogaeth yn
gosod uchelgais i gymryd camau penodol tuag at sicrhau bod Gwynedd yn gyflogwr
o ddewis ar gyfer pawb. Holwyd sut y gellid denu mwy o ferched i
swyddi uwch reolwyr. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Bod
y maes Merched Mewn Arweinyddiaeth yn faes blaenoriaeth o fewn y Cyngor a bod
prosiect sy’n gweithio ar newid y diwylliant wedi bod yn ei le ers sawl
blwyddyn ac yn gwneud cynnydd mawr. ·
Bod
cynllun peilot ar droed sy’n edrych ar sut mae ffurflenni cais am swyddi yn
cael eu sgrinio er mwyn sicrhau nad oes yna unrhyw fath o duedd di-angen. ·
O
ran nodweddion eraill, bod grŵp craidd cydraddoldeb yn cyfarfod yn
chwarterol ac yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau sy’n cynrychioli pobl sydd â
nodweddion gwahanol er mwyn cael barn arbenigol ganddynt ar wahanol faterion. · Fel rhan o’r ymgysylltu, bod y swyddogion wedi ymweld â nifer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL ADDYSG Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd
swyddogion yr Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2022-23 PDF 118 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Beca Brown Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Addysg 2022-23. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
Adroddiad Blynyddol Addysg 2022-23. Gosododd y Pennaeth Addysg y cyd-destun gan
nodi ei ddymuniad i hwyluso’r gwaith craffu drwy symud tuag at gynhyrchu
adroddiadau fydd yn rhoi mwy i’r craffwyr o ran yr hyn sydd o’n blaenau, ond
llai o ran sylwedd yr adroddiadau, ac a fydd hefyd yn rhoi mwy o amlygrwydd i’r
her sy’n wynebu’r ysgolion, y staff a’r gwasanaethau sy’n cefnogi. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Mynegwyd siomedigaeth nad oedd cyfeiriad at
ysgolion arbennig yn yr adroddiad.
Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at broblemau recriwtio cymorthyddion
dosbarth yn y prif lif, ond nad oedd sôn am yr ysgolion arbennig lle mae’r
broblem yn llawer gwaeth. Nodwyd hefyd,
er bod gwaith y cymorthyddion yn yr ysgolion arbennig yn hynod ddwys, eu bod yn
derbyn yr un cyflog â chymorthyddion prif lif.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Nad
oedd rhan benodol o’r adroddiad yn ymdrin ag ysgolion arbennig, ond bod y
gwasanaethau y cyfeirir atynt yn cwmpasu’r sectorau cynradd, uwchradd, gydol
oes ac arbennig. O bosib’ y gellid
ail-edrych ar hynny ac egluro sefyllfa’r sector arbennig yn yr adroddiad
blynyddol nesaf. ·
Nad
oedd y broblem recriwtio cymorthyddion yn unigryw i Wynedd. Petai’r unigolion yn gweithio oriau llawn
amser drwy gydol y flwyddyn, gellid dadlau eu bod ar gyflog teg, ond gan eu bod
yn gweithio llai nag wythnos waith arferol, a hynny yn ystod tymor ysgol yn
unig, roedd yn anodd denu pobl i’r rôl. ·
Bod
gwaith i hyrwyddo’r swyddi a’r proffesiwn yn cynnwys ymgyrch ar y gwefannau
cymdeithasol a thrafodaethau gyda Choleg Meirion-Dwyfor gyda’r nod o gynnal
digwyddiad hefo’r ysgolion. ·
O
ran yr ysgolion arbennig, bod darn o waith i’w wneud o ran arfarnu swyddi o
fewn yr ysgolion hynny a strwythurau o fewn yr ysgol a fyddai, o bosib’, yn
adlewyrchu dwysedd y gwaith a wynebir o gymharu â’r prif lif. ·
Bod
lle hefyd i edrych ar y dyletswyddau a gyflawnir gan gymorthyddion ar lefelau
1-4 yn yr ysgolion er mwyn gweld oes yna rolau uwch, ond islaw athro, y
gallai’r unigolion hynny ymgymryd â hwy, megis cymryd gwersi a chyflawni gwaith
llanw yn ôl yr angen. Holwyd a oedd pob ysgol wedi cael gwybod am
ei chategori ieithyddol erbyn hyn a beth yn union y bwriedid ei wneud er mwyn
sicrhau fod y drefn gategoreiddio newydd yn datblygu ac yn gwreiddio er mwyn
cyflawni uchelgais Gwynedd yn y maes hwn.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
gwaith eisoes wedi digwydd yn y cefndir o ran comisiynu ymgynghorydd allanol i
weithio gyda’r Adran o ran y Polisi Iaith, a bod amserlen mewn lle er mwyn cael
popeth yn barod erbyn diwedd y flwyddyn addysgol bresennol. ·
Y
byddai cyfle i’r aelodau fod yn rhan o’r broses o ddod â’r Polisi Iaith ynghyd,
a bwriedid adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn ym mis Mawrth ar y cynnydd yn erbyn
argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd. · Y deellid yr hyn sy’n cael ei ddweud o ran y pwysau o ran yr iaith, y categoreiddio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWE 2022-23 PDF 615 KB Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
Adroddiad Blynyddol GwE 2022-23. Rhoddodd yr Uwch
Arweinydd Rhanbarthol – Ysgolion Cynradd ac Arbennig drosolwg o gynnwys yr
adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Nodwyd y dymunid cydnabod a diolch i’r
cymorthyddion dosbarth am roi eu hamser i fynd ar hyfforddiant ac am ymgymryd
â’r rôl o ddifri’ yn eu gwaith bob dydd.
Mewn ymateb, nodwyd y cytunid â’r sylw a bod cymorthyddion effeithiol yn
ychwanegu gwerth sylweddol i ysgol. Nodwyd ei bod yn dorcalonnus bod
cymorthyddion profiadol gyda blynyddoedd lawer o brofiad a gwybodaeth yn y maes
yn gadael i fynd i swyddi eraill sy’n talu gwell cyflog. Nodwyd bod yr adroddiad yn llawn iaith
ansoddeiriol canmoliaethus a bod paragraff cyntaf y Crynodeb Gweithredol ar
dudalen gyntaf yr adroddiad yn cael ei ail adrodd air am air dan y pennawd
Rhagarweiniad a Chyd-destun. Mewn
ymateb, nodwyd bod y paragraff cychwynnol sy’n ymddangos yn y Crynodeb
Gweithredol ac yn yr adroddiad ei hun yn ddyfyniad o ganfyddiadau Estyn ar y
gwasanaeth, nid yn unig yn lleol yng Ngwynedd, ond yn gyson ar draws 6 awdurdod
y Gogledd. Nodwyd na anghytunid â’r prif flaenoriaethau
gwella, ond gofynnwyd am sicrwydd y bydd yr un rhestr o flaenoriaethau yn
ymddangos yn yr adroddiad blynyddol nesaf, gydag unrhyw gynnydd yn erbyn y
materion hynny wedi’i adnabod. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
O
ran y drefn adrodd, bod yr elfennau sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd angen
eu datblygu yn mynd i mewn i’r cynlluniau busnes. ·
Bod
y blaenoriaethau gwella hyn yn gynwysedig yn y cynlluniau busnes sy’n
weithredol ar y funud, a phan fyddai cyfle i adrodd eto ymhen blwyddyn,
byddai’r rhain yn sail i ddangos cynnydd yn erbyn y materion sydd wedi’u
hadnabod. Nodwyd nad oedd yna unrhyw gyfeiriad yn yr
adroddiad at brofion PISA a holwyd sut y bwriadai GwE ymateb i ganlyniadau’r profion. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Oherwydd
natur a chefndir Cymru, ei bod yn ymddangos bod Cymru wedi’i heffeithio’n waeth
yn dod allan o’r cyfnod Cofid na nifer o wledydd tebyg i ni. ·
Bod
profion PISA yn un o ddangosyddion cenedlaethol y Llywodraeth fel rhywbeth sy’n
dangos pa mor effeithiol ydi’r gyfundrefn addysg, ond bod perygl mewn gwneud
gosodiadau ar brofion rhyngwladol. ·
Os
yw profion PISA yn mynd i fod yn ddangosydd cenedlaethol sy’n cael ei gyfri’
a’i fesur yn ei erbyn, bod rhaid cael strategaeth genedlaethol glir mewn lle
sy’n cael ei chefnogi o lefel llywodraeth i wasanaethau fel GwE, ac hefyd i
lefel ysgol er mwyn gwneud yn siŵr bod ein disgyblion mwyaf abl yn cael y
cyfleoedd i arddangos eu gallu. Holwyd pa mor bwysig yw llywodraethwyr da i
ysgol symud yn ei blaen a beth yw disgwyliadau GwE o lywodraethwyr. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Mai
rôl llywodraethwr yw bod yn gyfaill beirniadol sy’n gweithio mewn partneriaeth
ag ysgolion. · Bod yna wahoddiad bob amser i lywodraethwyr ymuno ym mheth o’r gwaith mae GwE yn ei wneud yn yr ysgolion, gyda cydweithrediad y pennaeth, e.e sut rydym yn dod i farn ar wahanol bethau, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
PROSIECT ADDYSG OL-16 YN ARFON PDF 202 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Beca Brown Cyflwyno
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar daith y
Prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon dros y 5 mlynedd ddiwethaf ac yn gwahodd
sylwadau’r craffwyr. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Mynegwyd siomedigaeth â’r adroddiad ar y
sail:- ·
Nad
oedd sôn yma am gysoni addysg ôl-16 ar draws Gwynedd. ·
Er
bod yr adroddiad yn cyfeirio at yr ochr academaidd, ni cheid unrhyw gyfeiriad
at yr ochr galwedigaethol a chredid bod gwahanu’r ddwy garfan o blant yn 16 oed
yn gamgymeriad anferth. ·
Mai
mantais coleg trydyddol yw ei fod yn cadw’r dysgwyr i gyd hefo’i gilydd hyd 18
oed ac roedd yn drist nad oedd plant Arfon yn cael yr un cyfle â phlant Dwyfor
a Meirionnydd. Mewn ymateb, nodwyd bod modd i’r disgyblion
yn Arfon astudio pynciau academaidd a phynciau galwedigaethol drwy’r chweched
dosbarth yn yr ysgolion ar hyn o bryd. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglŷn â
Chwmni Iaith Cyf a gomisiynwyd i gyflawni gwaith ymchwil yn y maes ar ran yr
Adran Addysg. Mewn ymateb, nodwyd bod
Cwmni Iaith Cyf yn gwmni allanol gyda phrofiad dros nifer o ddegawdau o
gynllunio ieithyddol, a phrofiad hefyd yn y maes addysg a hyfforddiant. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. |