Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elwyn Jones, y Cynghorydd Dawne Lynne Jones a
Gwilym Jones (NASUWT). Diolchwyd i’r Cynghorydd Iwan Huws am ei waith ar y pwyllgor. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd Sharon Roberts fuddiant personol ar gyfer eitem 5, 7 a 8. Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2025 fel rhai cywir. |
|
|
STRATEGAETH ECONOMI GWYNEDD I graffu ar y strategaeth ddrafft ar gyfer datblygu economi Gwynedd rhwng 2025 a 2035. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yr adroddiad, gan nodi
bod yr adroddiad wedi’i lunio yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda nifer o
fusnesau a sefydliadau. Nodwyd bod y sefyllfa economaidd bresennol yn un heriol
gyda busnesau’n parhau i wynebu sawl newid a her, gan gynnwys cynnydd mewn
costau, cyflymder y trawsnewid digidol a’r angen i ddatblygu sgiliau priodol yn
gynaliadwy ar draws y sir. Nodwyd bod datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru
yn cyfeirio at bosibilrwydd o £550 miliwn o gyllid i hybu’r economi yng
Nghymru, ond nad oedd eglurder hyd yma ynghylch i ble y byddai’r arian hwnnw’n
cael ei neilltuo. Nodwyd bod y sefyllfa’n aneglur, gan bwysleisio bod lefel y
cyllid a dderbyniwyd wedi gostwng yn sylweddol. Ymhelaethwyd y derbyniwyd
oddeutu £20 miliwn ddwy flynedd yn ôl gyda £8.5 miliwn wedi ei dderbyn eleni,
ac y gallai’r ffigwr hwn leihau ymhellach y flwyddyn nesaf. Pwysleisiwyd, yn sgil hynny, bod angen strategaeth
glir i amlinellu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen. Nodwyd, yn dilyn derbyn
mewnbwn gan Aelodau’r Pwyllgor ym mis Chwefror ar y blaenoriaethau ar gyfer
cynyddu ffyniant trigolion a chymunedau Gwynedd yn y dyfodol, fod drafft
cychwynnol o’r strategaeth hirdymor yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor er mwyn i
Aelodau gynnig mewnbwn ac adborth cyn i’r ddogfen gael ei chadarnhau. Pwysleisiwyd bod y strategaeth hirdymor dan sylw yn
gosod y cyfeiriad cyffredinol, gyda chynllun gweithredu’n eistedd oddi tano i
amlinellu’r prosiectau fydd yn cyfrannu at wireddu’r strategaeth, ac y byddai’r
cynllun hwnnw’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol. Nodwyd nad strategaeth y Cyngor
yn unig oedd hon, ond strategaeth ar gyfer y sir gyfan, gyda’r bwriad o barhau
i weithio’n agos gyda phartneriaid i gwblhau’r ddogfen derfynol. Eglurwyd y bwriad o sefydlu Fforwm Economi Gwynedd
i gydlynu’r gwaith gyda phartneriaid o bob sector ac i adeiladu ar y profiadau
cadarnhaol o weithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nodwyd mai’r camau nesaf
fyddai derbyn mewnbwn ychwanegol, sefydlu Fforwm Economi Gwynedd, cadarnhau
cynnwys y strategaeth, a chyflwyno’r ddogfen derfynol i’r Cabinet ac yna i’r
Cyngor Llawn. Diolchwyd i’r Pwyllgor am eu 17 sylw yng nghyfarfod
13 Chwefror 2025, a nodwyd bod y rhain wedi cael eu hystyried wrth lunio’r
strategaeth. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Nodwyd ei bod yn bleser gweld y gwaith yn dod i ffrwyth, a holwyd am
ragor o wybodaeth am Fforwm Economi Gwynedd, yn benodol ohono ran yr aelodaeth
a pha mor aml y byddai’n cyfarfod. Mewn ymateb, nodwyd mai’r bwriad yw cynnwys
cynrychiolwyr o’r prif sectorau sy’n bwysig i Wynedd, megis amaethyddiaeth,
twristiaeth, addysg, prifysgolion a cholegau, ynghyd â pherchnogion busnesau
lleol, entrepreneuriaid ac arbenigwyr yn y maes economaidd. Pwysleisiwyd bod
cynrychiolaeth y sector preifat yn elfen hanfodol o’r Fforwm er mwyn sicrhau
cyngor ac arbenigedd ymarferol. Cwestiynwyd ynghylch cyfeiriadau at ardaloedd difreintiedig Gwynedd yn y strategaeth, gan nodi nad oedd cyfeiriad penodol at feithrin twf economaidd mewn ardaloedd megis Meirionnydd a Dwyfor. Pwysleisiwyd bod angen mwy o bwyslais ar yr ardaloedd hyn o fewn y strategaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn bwynt teg ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI I graffu ar y cynllun gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion a ddeilliodd o’r gwerthusiad a’r adolygiad gan Estyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
· lobïo
Llywodraeth Cymru ymhellach am adnoddau ariannol ychwanegol. · roi
ystyriaeth bellach i’r opsiwn o ddychwelyd at bum diwrnod a/neu ystyried hyd y
cyfnod yn y canolfannau iaith, gan roi ystyriaeth i les y disgyblion. · ymgynghori
ymhellach â rhanddeiliaid a sicrhau hyblygrwydd o ran y ddarpariaeth wrth symud
ymlaen.
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Addysg. Nodwyd bod y Gyfundrefn Addysg Drochi wedi bod yn destun trafodaeth ar
sawl achlysur blaenorol gan y Pwyllgor, a bod croeso i’r diddordeb parhaus yn y
maes gan ei fod yn un hollbwysig i’r sir. Pwysleisiwyd bod gan Wynedd gyfle
unigryw fel sir i sicrhau bod plant sy’n cyrraedd yn hwyr i’r ardal yn cael y
cyfle i ddatblygu sgil hanfodol, sef yr iaith Gymraeg. Nodwyd bod yr iaith
Gymraeg yn bwysig i bawb yng Ngwynedd ac yn agor drysau o ran cyfleoedd cyflogaeth
a diwylliant. Pwysleisiwyd bod hyn yn hanfodol, mewn sir lle mae’r mwyafrif yn
siarad Cymraeg, bod pob plentyn yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd ar
gael iddynt. Nodwyd y cyhoeddwyd dau adroddiad ers i’r maes gael ei drafod diwethaf,
sef adroddiad gan Brifysgol Bangor ac adroddiad gan Estyn. Pwysleisiwyd nad
oedd y system drochi flaenorol wedi cael ei harolygu gan Estyn, ond erbyn hyn
bod y system wedi’i chofrestru fel endid addysgol ac felly’n derbyn arolygiad
Estyn llawn fel yr ysgolion. Nodwyd bod yr adroddiad gan Estyn yn gadarnhaol
iawn, gan gydnabod bod gan Wynedd system drochi arloesol. Mynegwyd gwerthfawrogiad i staff yr adran am eu
gwaith caled, ac yn arbennig i Rhys Meredydd Glyn, cyn-Bennaeth y Gyfundrefn
Addysg Drochi. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Cwestiynwyd pa mor fanwl oedd arolygiad Estyn o’r
Canolfannau Trochi. Nodwyd bod adroddiad Prifysgol Bangor yn gwrth-ddweud
adroddiad Estyn ac wedi gwneud argymhellion penodol, megis ailystyried y model
pedwar diwrnod presennol a dychwelyd at fodel pum diwrnod, gan nodi bod y model
pedwar diwrnod yn cynnwys diffygion megis y cyswllt ar y pumed diwrnod rhwng y
ganolfan drochi a’r athrawon yn yr ysgolion. Cwestiynwyd a fyddai’r Adran yn
barod i ystyried argymhellion Prifysgol Bangor. Mewn ymateb, nodwyd bod arolwg Estyn wedi cynnwys
gwaith maes helaeth o gymharu ag arolwg Prifysgol Bangor, gyda thri arolygydd
dros dri diwrnod ym mhob un o’r chwe chanolfan drochi ac mewn ysgolion, gan
gynnwys cyfweliadau gyda disgyblion a staff. Nodwyd bod adroddiad Prifysgol
Bangor wedi defnyddio meini prawf gwahanol i Estyn, gan gynnwys dulliau a
arferir eu defnyddio wrth asesu trochi oedolion. Pwysleisiwyd bod y sylwadau yn y ddau adroddiad yn ddilys ac y
derbyniwyd yr argymhellion gan y ddau sefydliad. Ymhelaethwyd bod gwaith eisoes
ar y gweill i ymateb i nifer o’r argymhellion, gyda staff y canolfannau bellach
yn dechrau gweithio ochr yn ochr â disgyblion yn y dosbarth, yn hytrach na’u
tynnu allan o’r dosbarth fel dan yr hen drefn. Nodwyd ymhellach bod adnoddau
ychwanegol yn cael eu cynnig er mwyn ymateb i’r argymhellion, a bod safle wê yn
cael ei ddatblygu i roi ciplun o’r hyn sy’n cael ei gyflawni o fewn y
canolfannau trochi. Nodwyd bod yr argymhellion ynglŷn â nifer y dyddiau yn y canolfannau trochi wedi’u pwyso a’u mesur yn llawn gan yr Adran, gyda thabl i’w weld yn yr adroddiad yn cymharu manteision ac anfanteision y pedwar model sydd ar gael. Ystyriwyd bob model yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
STRATEGAETH CAFFAEL I roi cyfle i’r
Pwyllgor Craffu ystyried cynnwys y Strategaeth Gaffael a darparu sylwadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfreithiol a’r Gymraeg. Eglurwyd bod deddfwriaeth
newydd ym maes caffael wedi dod i rym ym mis Chwefror eleni. Nodwyd bod yr
adroddiad yn amlinellu ymateb y Cyngor i’r Ddeddf, ynghyd â’r strategaeth ei
hun a chanlyniadau defnyddio’r fethodoleg gwerth cymdeithasol wrth werthuso
contractau. Pwysleisiwyd bod caffael yn y sector cyhoeddus yn
ddarostyngedig i fframwaith cyfreithiol er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg ac
agored, gwerth am arian, ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau cenedlaethol a
rhyngwladol. Nodwyd bod y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
2023 yn debygol o ddod i rym y flwyddyn nesaf, a bod gwaith paratoi ar y gweill
i ymateb i’r newidiadau hyn. Eglurwyd bod y Cyngor yn gwario tua £200 miliwn y
flwyddyn ar gaffael, ac felly bod angen sicrhau’r gwerth gorau o ran pris,
ansawdd a buddion cymdeithasol, gan gynnwys cyfraniad at ddatgarboneiddio.
Nodwyd bod y strategaeth yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn
ac yn cynnwys saith maes blaenoriaeth: buddion lleol, carbon sero, gwerth am
arian, gwerth cymdeithasol, technoleg, trefniadau llywodraethu a’r Gymraeg. Atgoffwyd bod y fethodoleg werthuso gwerth
cymdeithasol yn adlewyrchu saith nod y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
a’r Gymraeg, ac y bydd y Cyngor yn peilota system newydd i sicrhau canlyniadau
cadarnhaol i Wynedd, megis creu cyfleoedd cyflogaeth i drigolion lleol,
gwariant yn y gadwyn gyflenwi leol, a chyfraniadau ariannol i elusennau a
chlybiau cymunedol. Nodwyd bod cwmnïau eisoes wedi cynnig buddion cymdeithasol
o dros £4 miliwn ers cyflwyno’r dull newydd. Eglurwyd bod y camau nesaf wedi’u hamlinellu yn yr
adroddiad, gyda’r bwriad o gyflwyno’r strategaeth i’r Cabinet ym mis Tachwedd.
Pwysleisiwyd bod y Cyngor yn arloesi yn y maes gwerth cymdeithasol ac y bydd y
strategaeth hon yn sail i’r gwaith caffael dros y blynyddoedd nesaf. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Cwestiynwyd ynghylch y prif heriau sy’n wynebu’r
Cyngor wrth weithredu’r Strategaeth, yn enwedig o ran cyrraedd y targed sero
net a chadw’r buddion yn lleol. Mewn ymateb, nodwyd bod heriau ar draws sawl
sector, gan gynnwys yr amgylchedd, iaith Gymraeg a’r elfennau cymdeithasol, a
bod y newid yn y ddeddfwriaeth a’r angen i ddeall y trefniadau newydd yn peri’r
prif heriau ar hyn o bryd. Cwestiynwyd ynghylch y gost ychwanegol o weithredu polisïau
datgarboneiddio, megis prynu cerbydau trydan yn lle cerbydau disel, a pha
effaith ariannol oedd hyn yn ei gael ar y Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd mai’r
brif her oedd cyfrifo’r effaith amgylcheddol wrth gymharu hen gontract gydag un
newydd, a bod y gwaith hwnnw’n parhau ar lefel genedlaethol. Nodwyd nad oes
dull soffistigedig ar hyn o bryd i fesur carbon yn fanwl, ond bod y gobaith yn
parhau y byddai’r defnydd o ynni’n lleihau dros amser ac y byddai hynny’n
arwain at ostyngiad yn y costau. Cytunwyd i wneud gwaith ymchwil pellach i
ddadansoddi’r gost ariannol ychwanegol o weithredu’r targed sero net. Mynegwyd barn gan aelod bod costau diffyg datgarboneiddio yn y dyfodol yn debygol o fod yn uwch na’r gost o gyrraedd y nod sero ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET GWASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL A’R GYMRAEG I adrodd i’r Pwyllgor
Craffu ar berfformiad yr Adran Gorfforaethol,
yr Adran Gyfreithiol a’r
Adran Iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. 2.
Croesawu’r camau a gymerwyd i fynd i’r afael â straen, hybu rôl merched
mewn arweinyddiaeth, a sicrhau bod llais i’r gweithwyr o fewn trefniadau iechyd
a diogelwch yn y Fforymau Adrannol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfreithiol a’r Gymraeg, gan
egluro bod yr adroddiad yn cyfeirio at y cynnydd a wnaed yn erbyn addewidion
Cynllun y Cyngor a mesurau perfformiad yr adran. Nodwyd bod perfformiad wedi ei
drafod mewn cyfarfod herio perfformiad ym mis Medi. Atgoffwyd bod yr adran yn arwain ar chwe phrosiect o fewn meysydd
blaenoriaeth amrywiol: cadw’r budd yn lleol, hybu defnydd y Gymraeg,
cynllunio’r gweithlu, sicrhau tegwch i bawb, merched mewn arweinyddiaeth ac
adolygiad strategol o reolaeth iechyd a diogelwch. Tynnwyd sylw at yr adolygiad
strategol o reolaeth iechyd a diogelwch, gan nodi bod llithriad wedi bod mewn
dwy garreg filltir o fewn y prosiect. Y cyntaf oedd cyflwyno system technoleg
gwybodaeth newydd ar gyfer iechyd a diogelwch ar draws y Cyngor, a’r ail oedd
datblygu cynllun archwiliadau pum mlynedd. Pwysleisiwyd bod y gwaith yn symud
ymlaen ac y disgwylir cyflawni’r gwaith yn llawn. Yn nhermau perfformiad dydd i ddydd, nodwyd bod y sefyllfa’n gadarnhaol
ar y cyfan, ond bod nifer o faterion angen sylw pellach. Cyfeiriwyd at
asesiadau iaith a gwblhawyd gan staff, lle mae’r ganran wedi bod yn uchel ond
heb gyrraedd y targed llawn eto, gydag wyth aelod staff newydd heb gwblhau’r
asesiad. Yn yr un modd, nodwyd bod 14 cais DBS yn aros i’w prosesu yn Lerpwl, a
44 arall yn disgwyl gweithrediad gan staff neu reolwyr, gyda’r ffigyrau’n newid
yn ddyddiol wrth i staff newydd gyrraedd eu cyfnod adnewyddu. Eglurwyd bod y
Grŵp Gweithredol Diogelu’n trafod perfformiad DBS bob chwarter, gydag
is-grŵp yn craffu ar y data. Nodwyd bod 52 cyfeiriad
at Iechyd Galwedigaethol wedi’u gwneud ym mis Awst, gyda 48 aelod staff wedi
mynychu apwyntiadau. O’r rheini, roedd 40 yn absennol o’r gwaith, ond yn sgil
camau megis dychwelyd graddol neu addasiadau rhesymol, nodwyd bod 19 o unigolion
bellach wedi dychwelyd i’r gwaith. Yn nhermau ceisiadau
diogelu data, derbyniwyd 18 cais yn ystod y chwarter gyda 13 ohonynt wedi’u
hateb o fewn yr amserlen. Nodwyd bod cymhlethdod nifer o’r ceisiadau, yn
enwedig yn y maes plant, wedi dylanwadu ar y perfformiad, ac y bydd angen
adolygu’r adnoddau i ymdopi os bydd y niferoedd a’r cymhlethdod yn cynyddu. Nodwyd bod cyfartaledd
diwrnodau salwch fesul pen ar draws holl wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys
ysgolion, yn sefyll ar 4.43 diwrnod, o’i gymharu â 4.23 y llynedd. Eglurwyd bod
dadansoddiad manwl ar gyfer 2024-25 wedi’i gyflwyno i’r Tîm Rheoli Corfforaethol
a’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol, gyda chamau gweithredu i’w cymryd o hynny.
Nodwyd bod yr amser cyfartalog i gwblhau arfarniadau ar swyddi wedi gostwng o
49.04 diwrnod ar gyfartaledd i 35.09 diwrnod erbyn diwedd Awst. Pwysleisiwyd
bod y perfformiad hwn yn adlewyrchu gwaith y tîm, ond ei fod hefyd yn dibynnu
ar nifer y ceisiadau sy’n dod i law a blaenoriaethau eraill o fewn yr adran. Diolchwyd i holl
swyddogion yr adran am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus i waith y Cyngor. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Cwestiynwyd ynghylch y diffyg cyfeiriad yn yr adroddiad at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2025/26 I gyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer
2025/26 er ei mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD 1. Mabwysiadu’r rhaglen
waith ar gyfer 2025/26. 2. Ystyried blaenoriaethu craffu gweithrediad y Siarter Iaith pan yn amserol. Cofnod: Nodwyd y rhoddwyd cyfle i holl aelodau’r
Cyngor, aelodau cyfetholedig, Aelodau Cabinet, Penaethiaid Adran a’r cyhoedd i
awgrymu eitemau posib i’w craffu yn ystod 2025/26.Yng nghyfarfod anffurfiol y
Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2025, ystyriwyd yr eitemau posib i’w craffu yn ystod
2025/26. Eglurwyd y darparwyd gwybodaeth am yr eitemau posib ymlaen llaw i
aelodau’r pwyllgor. Gwnaed ymgais i
flaenoriaethu uchafswm o dair eitem fesul cyfarfod er mwyn sicrhau bod sylw
teilwng yn cael ei roi i faterion a bod craffu yn gallu ychwanegu gwerth.
Nodwyd ni lwyddwyd i wneud hyn eleni gyda phedair eitem wedi ei raglennu ar
gyfer bob cyfarfod. Nodwyd bod yr aelodau o’r farn bod yr eitemau a
flaenoriaethwyd angen eu craffu yn ystod y flwyddyn. Tanlinellwyd y disgwyliad
i bob aelod sicrhau eu presenoldeb ar gyfer sesiwn y bore a’r prynhawn. Nodwyd yr
adnabuwyd ‘Presenoldeb ac ymddygiad disgyblion yn ysgolion Gwynedd’ a
‘Gwasanaeth Gwella Ysgolion’ fel eitemau i’w rhaglennu yn 2026/27. Nodwyd bod gwaith yr Ymchwiliad Craffu Trefniadau
Diogelu mewn Ysgolion yn parhau. Eglurwyd bwriadwyd cyflwyno adroddiad drafft
terfynol yr ymchwiliad i gyfarfod y Pwyllgor ar 11 Rhagfyr 2025. Nodwyd er mwyn sicrhau bod llais disgyblion
yn cael sylw haeddiannol fel rhan o’r ymchwiliad fel y pwysleisiwyd gan
aelodau’r ymchwiliad ynghyd â’r Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i Droseddu, ei fod
yn anorfod bydd yr amserlen o gyflwyno adroddiad terfynol drafft i’r Pwyllgor
yn gorfod llithro. Eglurwyd o ganlyniad cysylltwyd gyda’r adrannau perthnasol o
ran y posibilrwydd o ail-raglennu eitem o gyfarfod mis Chwefror i gyfarfod mis
Rhagfyr. Derbyniwyd cadarnhad gan yr Adran Addysg bod modd symud yr eitem
‘Strategaeth Addysg’ i gyfarfod 11 Rhagfyr
2025. Atgoffwyd yr aelodau bod gweithrediad y Siarter Iaith yn fater a godwyd
yn ystod y drafodaeth o dan yr eitem ‘Cyfundrefn Addysg Drochi’ fel maes posib
i’w graffu. PENDERFYNWYD 1. Mabwysiadu’r rhaglen
waith ar gyfer 2025/26. 2. Ystyried blaenoriaethu
craffu gweithrediad y Siarter Iaith pan yn amserol. |